2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2017.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Nghwm Cynon yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol? OAQ(5)0715(FM)
Rydym ni’n darparu £500,000 ar gyfer 2017-18 i gyflymu'r broses o gyflwyno rhaglen gwyliau haf Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae Ysgol Gynradd Penywaun yn Aberdâr yn un o'r safleoedd sy'n elwa ar y cyllid.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yn ystod blwyddyn 2015-16, roedd dros 8,300 o blant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu bod mwy nag un o bob 10 o'r holl blant yng Nghymru sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn byw yn fy mwrdeistref sirol i. Mae gwaith ymchwil newydd gan Ymddiriedolaeth Trussell yn awgrymu, ac rwy’n dyfynnu, mae rhieni unigol a'u plant yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio banciau bwyd, sy’n awgrymu, hyd yn oed o'u cymharu â'r boblogaeth incwm isel, bod rhieni unigol a'u plant yn arbennig o agored i fod angen banciau bwyd.
Mae hon yn broblem arbennig mewn teuluoedd mwy ac yn cael ei gwaethygu’n sylweddol yn ystod gwyliau'r ysgol, pan nad oes unrhyw brydau ysgol am ddim ar gael i’r teuluoedd hyn. Rydym ni’n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar gyfer system estynedig o glybiau cinio a hwyl, felly hoffwn i ofyn: sut mae’r paratoadau’n mynd cyn gwyliau’r ysgol, sy’n dechrau ymhen dim ond ychydig wythnosau, a pha werthusiad o’r cynllun ar gyfer mynd i'r afael â phlant llwglyd yn ystod y gwyliau fydd yn cael ei gynnal?
Rydym ni’n gweithio gyda CLlLC er mwyn symud y cynllun yn ei flaen, wrth gwrs, yn ystod y gwyliau'r haf sydd ar ddod. Mae proses werthuso ar waith. Cynhaliwyd gwerthusiad, er enghraifft, o’r cynllun blaenorol—y cynllun arbrofol, yn hytrach—ac fe’i cyhoeddwyd, yn wir, ym mis Chwefror 2017, ac mae'r canfyddiadau a wnaed o ran canlyniadau iechyd, cymdeithasol ac addysg, a'r canfyddiadau a welsom o’r cynllun arbrofol, yn galonogol iawn.
Prif Weinidog, mae hwn yn fater pwysig iawn, ac rwy’n cymeradwyo cyhoeddiad yr Ysgrifennydd dros Addysg, yn gynharach eleni, i dreialu’r clybiau cinio a hwyl hyn ar gyfer ysgolion cynradd yn gyntaf. Ond roeddwn i’n meddwl tybed a yw'n mynd i fod yn gynllun y byddwch chi’n ei ystyried ar gyfer y sector ysgolion uwchradd, oherwydd mae helpu'r rhai sy'n cael cinio ysgol am ddim, o ran maethiad iach, bwyta’n iach, a rhaglen iach o weithgareddau, cyrhaeddiad addysgol—mae’r holl bethau hyn yn bwysig dros ben. Mae gan y grŵp hwnnw rywfaint o’r cyrhaeddiad addysgol gwaethaf o unrhyw rai sy'n mynd i'r ysgol, rhywfaint ohono oherwydd nad yw’r gwyliau ysgol ei hunan yn ffafriol iawn i barhau eu patrwm o ddysgu. Felly, mae hwn yn faes, rwy’n credu, y mae angen ei ystyried yn ofalus.
Wrth gwrs, rydym ni’n—. Mae arian yn cyfyngu’r hyn y gallem ni fod yn dymuno ei wneud, ond, gyda'r rhaglen yn cael ei chyflwyno dros yr haf hwn, wrth gwrs, bydd gwerthusiad ohoni, fel y dywedais, ac mewn blynyddoedd i ddod, wrth gwrs, byddwn yn cadw dan ystyriaeth sut y gallai'r rhaglen gael ei hymestyn, pan ac os bydd y cyllid ar gael.
Prif Weinidog, mae eich plaid wedi bod yn rhedeg Llywodraeth Cymru ers 18 mlynedd, ac eto mae plant yn llwglyd o hyd—mae 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Onid ydych chi’n credu ei bod yn warthus bod yn rhaid i aelod o'ch plaid eich hun sefyll ar ei draed yn y fan yma a gofyn i chi am blant sy’n llwglyd yng nghwm Cynon, pan eich bod chi wedi cael cymaint o amser i wneud rhywbeth ynghylch hynny? Pam ydych chi wedi methu? Pam ydych chi wedi methu?
Beth mae e'n ei wneud, fel dirprwy arweinydd Caerdydd, tybed, o ran bwrw ymlaen â hyn? Dim llawer, rwy’n amau, ond mae bob amser yn awyddus, wrth gwrs, i bwyntio’r bys at bobl eraill. Edrychwch, mae e'n iawn i nodi y ceir plant sy’n llwglyd. Mae llawer o hynny’n ymwneud â’r polisïau presennol o gyni ariannol sy’n cael eu dilyn gan Lywodraeth y DU, y mae gennym ychydig neu ddim dylanwad drostynt, ond gallwn weld bod mwy a mwy o blant sy'n canfod eu hunain mewn teuluoedd nad ydynt yn gallu ymdopi yn ariannol, a dyna pam yr ydym ni’n cyflwyno’r rhaglen hon, fel bod gennym ni, yng Nghymru, raglen sy'n helpu plant ifanc drwy'r haf, ac yn sicrhau y gallant gael bwyd yn eu boliau dros yr haf. Mae hynny, yn fy marn i, yn sosialaeth go iawn—sosialaeth go iawn—a rhywbeth, yn wir, y dylem ni fod yn falch ohono o ran yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yng Nghymru.