– Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl ar y ddeiseb amddiffyn cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, David Rowlands, i gynnig y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod wrth fy modd yn agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau? Yn gynharach eleni, cytunodd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Busnes i gyflwyno trothwy newydd ar gyfer deisebau lle byddai unrhyw ddeiseb a gasglodd dros 5,000 o lofnodion yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yma yn y Cyfarfod Llawn. Ar y pryd roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Busnes, a thrwy gyd-ddigwyddiad bach rwyf fi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, bellach yn sefyll yma yn cyflwyno hyn, y ddadl gyntaf ar ddeiseb a gyrhaeddodd y trothwy hwnnw. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau yma heddiw yn cefnogi’r gwelliant arloesol hwn ym mhroses ddeisebau’r Cynulliad, a fydd yn darparu llwybr posibl arall i unrhyw un yng Nghymru ddod â’u syniadau a’u pryderon yn uniongyrchol i’r Siambr. Mae’n enghraifft wych o ddemocratiaeth ar waith. Rydym ni, y Pwyllgor Deisebau, yn gobeithio y byddwn yn derbyn nifer o ddeisebau gyda’r lefel hon o gefnogaeth yn ystod y Cynulliad hwn.
Cafodd y ddeiseb sydd ger ein bron heddiw ei threfnu gan Richard Vaughan ac mae’n ymwneud â’r amddiffyniad a roddir i leoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Roedd y ddeiseb yn agored i’w llofnodi yn ystod mis Ebrill eleni, ac yn yr amser hwnnw, fe’i llofnodwyd gan 5,383 o bobl. Mae’r ddeiseb yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Yn bwysig, mae’n awgrymu dwy ffordd o gyflawni hyn. Yn gyntaf, geilw’r ddeiseb am gyflwyno’r egwyddor cyfrwng newid i gyfraith a chanllawiau cynllunio Cymru. Nod yr egwyddor yw rhoi’r cyfrifoldeb ar ddatblygwyr adeiladau newydd, boed yn rhai preswyl neu fasnachol, i gynllunio mesurau lleihau sŵn digonol os oes busnes sy’n bodoli eisoes megis lleoliad cerddoriaeth gerllaw. Yn ail, geilw’r ddeiseb am roi’r gallu i awdurdodau lleol yng Nghymru gydnabod llefydd fel ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol cerddorol o fewn y fframwaith cynllunio. Byddai hyn wedyn o bosibl yn effeithio ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol yng nghyffiniau ardaloedd o’r fath.
Bydd llawer o’r Aelodau yma yn gyfarwydd â’r cefndir lleol penodol i’r ddeiseb hon, sy’n ymwneud â Stryd Womanby yng nghanol dinas Caerdydd. Cynhaliwyd ymgyrch fywiog yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon mewn ymateb i bryderon lleol ynglŷn â goblygiadau datblygiadau newydd arfaethedig yng nghanol un o ganolfannau diwylliannol ein prifddinas. Mae Stryd Womanby, yng nghanol y ddinas, wedi bod ers amser hir yn un o’i chanolbwyntiau diwylliannol a chreadigol mwyaf blaenllaw—efallai ei bod yn fwyaf enwog am y lleoliad cerddoriaeth fyw a chlwb Cymraeg, Clwb Ifor Bach. Rwy’n siŵr y byddai Aelodau eraill yma yn dymuno rhannu eu profiadau eu hunain o’r stryd, neu rai ohonynt o leiaf, yn eu cyfraniadau hwy i’r ddadl hon.
Yn gynharach eleni, arweiniodd nifer o geisiadau cynllunio yn yr ardal a’r cyffiniau ac ofnau ynghylch yr effaith y gallai’r rhain ei chael ar leoliadau cerddoriaeth fyw yno at ymgyrch ‘Achubwch Stryd Womanby’. Arweiniodd yr ymgyrch, yn ei thro, at y ddeiseb hon. Cafodd y mater sylw o’r blaen yn y Siambr hon gan fy nghyd-Aelod ar y Pwyllgor Deisebau, Neil McEvoy, a llofnodwyd datganiad o farn hefyd gan nifer o’r Aelodau yma.
Cyn i mi agor y cynnig hwn i drafodaeth ehangach, rwyf am amlinellu’n fras yr hyn y clywodd y pwyllgor am yr argymhellion penodol a wnaeth y deisebwyr. Caiff egwyddor cyfrwng newid ei hyrwyddo gan y ddeiseb hon ac mewn mannau eraill fel ffordd o ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth rhag cau. Dadleuir bod cwynion a wneir gan breswylwyr mewn datblygiadau newydd am lefelau sŵn o leoliadau cerddoriaeth sefydledig wedi bod yn ffactor pwysig yn y broses o gau nifer o leoliadau cerddoriaeth ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ddeiseb yn dadlau y byddai mabwysiadu egwyddor cyfrwng newid yn helpu i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw presennol drwy fynnu y byddai unrhyw un sy’n ceisio datblygu neu ailddatblygu eiddo gerllaw yn gyfrifol am liniaru effaith y newid hwnnw. Mae hynny’n golygu, er enghraifft, pe bai tai neu westy’n cael eu hadeiladu gerllaw lleoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr fyddai lliniaru effaith a sŵn posibl o ganolfan gerddoriaeth fyw sy’n bodoli’n barod.
Mae cefnogwyr yr egwyddor cyfrwng newid yn dadlau y byddai’n cynrychioli newid pwysig o bolisïau cynllunio presennol, sy’n datgan bod pwy bynnag y rhoddir gwybod ei fod yn achosi niwsans bob amser yn gyfrifol am y niwsans hwnnw. Delir y safbwynt hwn heb ystyried pa mor hir y mae’r sŵn yr ystyrir ei fod yn niwsans wedi bodoli neu pa un a yw rhywun wedi symud i gyffiniau’r sŵn gan wybod yn iawn amdano. Mae hefyd yn bwysig nodi bod yr egwyddor yn gweithredu i’r ddau gyfeiriad. Felly, lle y ceir cynnig am leoliad cerddoriaeth newydd ger adeilad preswyl sy’n bodoli’n barod, byddai angen i’r cyfrwng newid, y lleoliad cerddoriaeth yn yr achos hwn, sicrhau eu bod yn cynnwys mesurau priodol i leihau sŵn.
Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon gyntaf ar 23 Mai. O ystyried y lefel uchel o gefnogaeth y mae’r ddeiseb wedi’i denu a’i natur amserol, penderfynodd y pwyllgor ofyn am y ddadl ar y cyfle cyntaf. Ceir arwyddion fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’r ymgyrchu cryf ar y mater hefyd. Ychydig cyn i’r pwyllgor ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ei bod yn bwriadu adolygu polisi cynllunio cenedlaethol i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw. Rydym yn deall bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei dymuniad i’r egwyddor cyfrwng newid gael sylw penodol yn yr adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ sy’n digwydd yn ystod yr haf, a hefyd i ddiweddaru polisi cenedlaethol er mwyn caniatáu ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol.
Ar yr olwg gyntaf, mae hyn i’w weld yn fuddugoliaeth i’r deisebwyr ac o bosibl, yn gam ymlaen ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth fyw ar draws y wlad. Edrychaf ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan Aelodau eraill am hyn a sut y mae’r Cynulliad hwn yn teimlo y dylem ddiogelu dyfodol cerddoriaeth fyw yng Nghymru.
O ganlyniad i’r amserlen dan sylw, nid ydym wedi gallu cynnal ymchwiliadau manwl i’r cynigion a chyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, rydym yn cyflwyno’r ddeiseb hon i’r Cynulliad heb wneud argymhellion i unrhyw gyfeiriad. Mae’r pwyllgor yn gobeithio y bydd y cyfraniadau a glywn gan bob Aelod heddiw yn cynorthwyo Ysgrifennydd y Cabinet a’i swyddogion i roi ystyriaeth bellach i deilyngdod y newidiadau a argymhellir gan y deisebwyr.
Hoffwn ddiolch i fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn heddiw. Fel y dywedwyd yn gynharach gan fy olynydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, deilliodd hyn o newid Rheol Sefydlog sy’n caniatáu i unrhyw ddeiseb â mwy na 5,000 o lofnodion gael ei hystyried ar gyfer dadl ar lawr y Siambr. Mae’n enghraifft ragorol o ymwneud uniongyrchol y cyhoedd yng ngwaith y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn. Roeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar adeg ein hargymhelliad i’r Pwyllgor Busnes ynglŷn â’r trothwy o 5,000 llofnod a phan gytunwyd i ofyn am ddadl ar y ddeiseb. A gaf fi ddiolch i’r Pwyllgor Busnes am ganiatáu’r ddadl hon heddiw? Hoffwn ddiolch hefyd i Rhun ap Iorwerth a grŵp Plaid Cymru am dynnu dadl ar y mater hwn yn ôl yn gynharach eleni. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael caniatâd i gynnal dadl ar y ddeiseb pe baem wedi cael dadl Plaid Cymru chwe wythnos yn ôl. Rwy’n credu y byddai pobl wedi dweud, ‘Rydym eisoes wedi’i drafod’. Felly, a gaf fi ddweud yn onest diolch yn fawr iawn i chi am ganiatáu i hyn ddigwydd ac am ganiatáu i’r ddadl ar y ddeiseb gael ei chynnal mewn gwirionedd? Rwyf fi, a gweddill yr Aelodau yma, rwy’n siŵr, yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi gwneud hynny.
Mae’r ddeiseb yn bodloni’r holl feini prawf allweddol: mae ganddi fwy na 5,000 o lofnodion; mae hi o fudd go iawn i’r cyhoedd; ac mae’n broblem sy’n mynd i orfod cael sylw ar ryw adeg. Yn y Pwyllgor Deisebau, buom yn crafu pen dros nifer y llofnodion a’i gwnâi’n angenrheidiol i ofyn am ddadl yn awtomatig. O’i osod yn rhy uchel ni fyddai neb byth yn cyrraedd y trothwy. O’i osod yn rhy isel, byddai’r ceisiadau yn ddigwyddiad rheolaidd ac os caf ddweud, ni fyddai’r Pwyllgor Busnes yn hynod o falch o gael cais bob wythnos. Daeth y nifer o 5,000 o’r 100,000 yn San Steffan, ac rydym oddeutu 5 y cant o’r boblogaeth, ac mae wedi gweithio. Mae’r nifer wedi’i chyrraedd, ond dim ond unwaith, dros fater sydd o ddifrif wedi ennyn sylw’r cyhoedd.
Ar gerddoriaeth fyw ei hun, os edrychaf ar Abertawe a’r lleoliadau cerddoriaeth fyw a fynychwn yn y 1970au hwyr a’r 1980au cynnar, mae Pafiliwn Patti yn fwyty bellach, y Marina Nite Spot, a gâi ei alw’n Dora yn lleol, wedi cau erbyn hyn, mae’r Top Rank wedi cau ac yn cael ei ddymchwel ar hyn o bryd. Agorwyd lleoliadau newydd, ond maent yn tueddu i fod yn llai o faint. Mae nifer o dafarndai a chlybiau’n darparu cerddoriaeth fyw. Yn Nhreforys mae hynny’n cynnwys, neu roedd yn cynnwys tan yn ddiweddar, llefydd fel y Millers Arms, Clwb Rygbi Treforys, clwb criced a phêl-droed Ynystawe a chlwb golff Treforys. Er bod croeso iddynt, lleoliadau bach yw’r rhain. Mae gennym Stadiwm Liberty hefyd, sydd wedi cynnal cyngherddau gan Pink a’r Stereophonics, a nifer o grwpiau mawr eraill. Ond mae gwahaniaeth, onid oes, rhwng 20,000 i 30,000 a 100? A’r bwlch bach hwnnw mewn gwirionedd yw lle rydym ar ein colled ac ar ein colled yn aruthrol.
Nid wyf yn credu y gallwch gael gormod o leoliadau cerddoriaeth. Mae pobl yn hoffi gwrando ar gerddoriaeth fyw. Dylai’r cyfle fod yno. Mae hefyd yn wir nad yw cerddoriaeth fyw hwyr y nos a fflatiau a thai bob amser yn gymdogion da, ac mae meysydd chwaraeon weithiau’n cael anawsterau gyda chymdogion ynglŷn â sŵn a’r bêl yn mynd i mewn i’w gerddi. Ar y ddau beth, mae gennyf yr un ateb: pwy oedd yno yn gyntaf? Os mai’r lleoliad cerddoriaeth neu’r maes chwarae oedd yno yn gyntaf, roedd y datblygwr a’r bobl a symudodd i mewn yn gwybod i ble roeddent yn symud. Roeddent yn gwybod beth oedd yno. Mae’n gwbl annheg i rywun symud i mewn a dechrau cwyno wedyn am rywbeth a oedd yno cyn i’r adeilad gael ei adeiladu, heb sôn am cyn i chi symud i mewn.
Mae’n fwy annheg byth os yw’r drefn drwyddedu yn ystyried hynny. Os symudwch y drws nesaf i leoliad cerddoriaeth, dylech ddisgwyl clywed cerddoriaeth. Rydych yn gwybod beth yw ei drwydded. Os nad ydych yn hoffi cerddoriaeth neu gerddoriaeth hyd at yr amser ar y drwydded, peidiwch â symud yno. Yr hyn na allwn ei gael yw lleoliad cerddoriaeth sy’n cael ei gyfyngu gan bobl sy’n symud i ddatblygiadau newydd ac yn rhoi diwedd ar y gerddoriaeth neu’n sicrhau ei bod yn dod i ben mor gynnar fel na fydd pobl yn mynychu.
I’r gwrthwyneb, ni ddylech allu sefydlu lleoliad cerddoriaeth hwyr y nos yng nghanol stryd breswyl. Mae arnom angen system sy’n deg i bawb. Os yw yno, byddwch yn gwybod beth sydd yno wrth i chi symud. Fe siaradaf amdanaf fy hun: mae garej o flaen fy nhŷ. Pe bai rhywun yn penderfynu adeiladu lleoliad cerddoriaeth yno, fe fyddwn yn anhapus. Ond nid oedd yno pan symudais i mewn ac ni chefais ddewis. Pan fyddwch yn dewis symud drws nesaf i leoliad cerddoriaeth, yna mae’n rhaid i chi dderbyn mai dyna rydych yn symud drws nesaf iddo. Ni allwch ddweud, ‘Rwyf wedi bod yma yn awr ers peth amser. Nid wyf yn ei hoffi.’ Roeddech yn gwybod beth oedd yno wrth i chi symud. Ni ddylai fod unrhyw drwyddedau hwyr y nos ar gyfer unrhyw leoliadau newydd ar strydoedd preswyl, ond os yw’n bodoli, ni ddylid ei gosbi am fod rhywun arall wedi adeiladu tai neu fflatiau yn agos ato. Dyna rwy’n ei alw’n ‘chwarae teg’. Diolch.
Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ddeiseb hon mewn gwirionedd, oherwydd mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith nad yw polisi cynllunio cenedlaethol presennol Cymru yn cael ei ddehongli eisoes mewn ffordd sy’n diogelu lleoliadau sydd eisoes wedi’u clirio gan y drefn gynllunio ac iechyd yr amgylchedd fel rhai nad ydynt yn creu lefelau sŵn uwch na’r hyn sy’n dderbyniol. Dyma fusnesau sydd eu hunain wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu drwyddedau yn y gorffennol, am gryn gost yn aml, ac sydd wedi’u derbyn fel rhai sydd o fewn terfynau’r hyn sy’n dderbyniol yn gymdeithasol pan wnaethant y ceisiadau hynny a phan gawsant eu pasio.
Eisoes, gall awdurdodau lleol ystyried ffynonellau presennol o sŵn wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio dilynol a gallant ystyried na ddylid cyflwyno defnydd newydd mewn ardal heb ystyried natur y defnydd presennol. Felly, rwy’n chwilfrydig ynglŷn â beth sy’n gyrru’r angen am y ddeiseb hon heddiw mewn gwirionedd. Nid bod yn negyddol yw hyn, oherwydd rwy’n credu bod yr hyn y mae’r ddeiseb yn gofyn amdano’n beth da. Felly, a yw’n ymwneud â bod yna angen mor fawr yn sydyn am gartrefi fel bod yn rhaid adeiladu ar bob modfedd sgwâr o dir cyn gynted ag y bo modd, a bod y rheidrwydd cymdeithasol mawr hwnnw’n drech na dyfodol busnesau drygionus sydd ond yno i wneud arian heb ystyried y canlyniadau i’w cymdogion, yn hen neu’n newydd?
Wel, ar yr achlysur hwn, wrth gwrs, mae cyfalafiaeth yn gwisgo’i wyneb hapus, onid yw? Rydym yn sôn am gerddoriaeth fyw, ac mae’n hawdd cyflwyno’r ddadl ddiwylliannol ehangach am le cerddoriaeth fyw yn ein hunaniaeth bersonol a chymunedol, gwerth y gelfyddyd hon fel adloniant, drwy’r dibenion therapiwtig, ei grym cydlynol, ei gallu i drawsnewid unigolyn, ac mae hyd yn oed y manteision i’r economi leol, wrth gwrs, yn codi eu pen yn y ddadl hon.
Mae’r holl ddadleuon hyn yn iawn. Dyma pam y mae lleoliadau mor annwyl i bobl. Gallant fod yn swnllyd, sydd efallai yn cyfyngu ar y math o gymdogion y gallwch eu cael, ond bydd y tir ger y busnesau hyn yn cael ei brisio yn unol â hynny. Ac fel cyn-gyfreithiwr eiddo, ni allaf sefyll yma a dadlau y dylid atal perchnogion tir rhag gwneud elw gweddus o’u buddsoddiad. Ond gallaf ddadlau, os ydynt am wella gwerth y tir hwnnw drwy geisio caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu gwerth uwch, yna hwy a ddylai fuddsoddi yn y mesurau lliniaru sy’n caniatáu i hynny ddigwydd. Felly, yn fyr, pam y dylai busnesau presennol dalu i gymydog newydd wneud mwy o arian?
Mae gennyf ychydig eiriau o rybudd, fodd bynnag. Rwy’n cofio safle tai posibl yng nghanolbarth Cymru, drws nesaf i uned gynhyrchu metel. Roedd perchennog yr uned yn poeni oherwydd, er ei fod wedi cael ei holl drwyddedau perthnasol ar gyfer lefelau sŵn, lleihau aroglau, gwaredu gwastraff ac yn y blaen, roedd yn nerfus y byddai’n rhaid iddo roi camau lliniaru pellach ar waith pe bai tai’n cael eu caniatáu ar y safle drws nesaf, a dyna a ddigwyddodd yn wir. Felly, i fod yn gyson, mae angen i ni feddwl am wneud yr egwyddor cyfrwng newid yn gymwys ar gyfer busnesau o’r fath yn ogystal, does bosibl.
Nawr, fel y digwyddodd, roedd y cynigion tai wedi lleihau o ran maint ac yn wynebu i ffwrdd o’r ffatri. Ond beth fyddai wedi digwydd pe ba’r datblygwr wedi dweud, ‘Wel, wyddoch chi beth, rwy’n barod i daflu rhywfaint o arian at y mesurau lliniaru fy hun er mwyn cael mwy o dai. Bydd yr elw a wnaf yn mwy na thalu amdanynt ac rwyf eisiau adeiladu mor agos at y ffatri ag y gallaf. Byddaf yn dadlau bod fy rhwymedigaeth yn rhoi hawl gyfatebol i mi—os gallaf liniaru, y rhagdybiaeth fydd fod yn rhaid i’r awdurdod cynllunio ddyfarnu o blaid fy natblygiad.’ Dyna’r ddadl rwy’n ei rhoi yma.
Pa mor hir fydd hi cyn i berchnogion tir ystyried datblygu parseli o dir ar gyfer defnydd preswyl gwerth uwch, gan herio penderfyniadau ynghylch parthau cynlluniau datblygu lleol, a dibynnu ar amod cynllunio i liniaru, er bod eu tir, mewn gwirionedd, ymhell o fod yn ddelfrydol ar gyfer bod yn safle ar gyfer cartref beth bynnag? Rwy’n sôn am fewnlenwi mewn ardaloedd diwydiannol iawn, yn hytrach nag ailddatblygu safleoedd tir llwyd ar raddfa lawn, y credaf ein bod i gyd yn ei gymeradwyo yn ôl pob tebyg.
Yr ail bwynt yw pa mor dda yw’r egwyddor hon o’i chymharu â’r egwyddor hirsefydledig mai’r ‘llygrwr sy’n talu’, ac rwy’n meddwl bod David Rowlands yn sôn am hynny. Mae’n berthnasol i niwsans sŵn lawn cymaint ag unrhyw fath arall o niwsans. Byddai cynnwys yr egwyddor cyfrwng newid mewn cyfraith gynllunio yn cael croeso mawr yn wir, ond rhaid gweithio drwy’r canlyniadau a’r cwestiynau anfwriadol sy’n codi o hynny hefyd yn fy marn i.
Mae’r ddeiseb hefyd yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gydnabod ardaloedd o ‘arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ yn y fframwaith cynllunio. Byddwn yn ei adael ar gydnabod ardaloedd o ‘arwyddocâd diwylliannol’. Pam ddim? Byddai hynny’n cynnwys cerddoriaeth yn hawdd, ond hefyd ardaloedd lle mae crynoadau o artistiaid wedi bod yn gweithio, neu theatrau, neu dirweddau enwog am eu lle mewn ffilmiau neu baentiadau, neu lwybr Dylan Thomas, hyd yn oed, y mae rhai o fy etholwyr yn gobeithio ennyn diddordeb newydd ynddo. Nid wyf yn credu eu bod wedi’u cynnwys yn y Ddeddf amgylchedd hanesyddol, nac o dan statws ardal gadwraeth o bosibl, ac nid wyf yn meddwl y gellid gosod gwaharddiad llwyr ar ddatblygu mewn perthynas â hwy chwaith.
Felly, yn fyr, dyma rwy’n ei ddweud: rwy’n cefnogi rhagdybiaeth sylfaenol yr hyn y mae’r ddeiseb yn gofyn amdano, ond a gaf fi ofyn inni gofio nad dyma fydd yr ateb syml roedd lleoliadau cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby yn chwilio amdano o bosibl? Diolch.
Mae hwn yn ddiwrnod da i ddemocratiaeth yng Nghymru. Ble arall yn y byd y byddai deiseb yn hedfan drwy’r Pwyllgor Deisebau ac yn cyrraedd llawr y ddeddfwrfa o fewn misoedd? Mae pobl sy’n dod at ei gilydd ac yn gweithio gyda’i gilydd yn gallu creu newid. Hoffwn ddiolch i Richard Vaughan am gychwyn y ddeiseb. Ef, wrth gwrs, oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn Grangetown yn etholiadau diweddar y cyngor, ond mae hefyd yn gyfansoddwr ac yn arweinydd, felly mae gwarchod lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn bwysig iawn iddo ef yn bersonol. Mae hefyd yn bwysig iawn i lawer o bobl yn ein gwlad, o gofio bod 5,383 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb o fewn dyddiau—o fewn dyddiau.
Mae’r ddadl hon yn amserol iawn hefyd, gan fod lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru yn wynebu bygythiad o gau. Nid problem yng Nghymru’n unig yw hi chwaith, oherwydd nododd Music UK fod 35 y cant o leoliadau cerddoriaeth fyw yn y DU wedi cau yn ystod y degawd diwethaf, a daw’r bygythiadau yn aml gan ddatblygwyr sy’n adeiladu tai newydd yn ymyl lleoliadau cerddoriaeth fyw presennol. Pan fydd y cwynion anochel ynglŷn â sŵn yn dod gan y trigolion newydd, caiff y lleoliad ei orfodi i gau. Mae gennym Coldplay yn y dref heno ac mae cerddoriaeth yn rhan o DNA diwylliannol Cymru. Dyma yw’r mynegiant mwyaf o ddiwylliant poblogaidd sydd i’w gael. Mae mater Stryd Womanby wedi dod â hyn i sylw’r sefydliad hwn o ddifrif gan mai’r lleoliadau llai ar lawr gwlad sydd angen ein sylw, ac sydd angen cymorth gan y Senedd hon yng Nghymru.
Ni allwn gael digwyddiadau mawr heb y lleoliadau annibynnol lle mae cerddorion yn gwneud enw iddynt eu hunain; mae’n rhaid iddynt ddechrau yn y lleoliadau llai. Mae Stryd Womanby wedi gwneud enw iddi’i hun. Mae’n galon cerddoriaeth fyw yn y ddinas hon, a bydd y rhan fwyaf ohonom wedi treulio amser yno’n gwylio bandiau gwych ac yn gwrando ar fandiau gwych yng Nghlwb Ifor Bach ac yn treulio gormod o amser, efallai, yn blasu’r cwrw crefft yn y tafarndai i lawr y lôn.
Mae dau leoliad cerddoriaeth fyw eisoes wedi cau. Mae Dempseys wedi mynd. Mae’r Four Bars Inn, i fyny’r grisiau, wedi mynd. Mae Fuel wedi cael gorchymyn lleihau sŵn, sy’n ddifrifol. Cafodd Floyd’s, a arferai fod rownd y gornel, amser ofnadwy rai blynyddoedd yn ôl gyda lleihau sŵn a dirwyon, ac yn y diwedd, caeodd y busnes yn y lleoliad hwnnw. Mae clwb yno o hyd, ond mae’n rhywbeth gwahanol yn awr—mae’n fusnes gwahanol—ac maent wedi adeiladu fflatiau y drws nesaf i’r clwb presennol, a chwyno wedyn am y sŵn o’r clwb. Mae dau gais cynllunio newydd yn Stryd Womanby sy’n golygu bod dyfodol cerddoriaeth fyw yno dan fygythiad gwirioneddol, felly mae angen i ni weithredu ac mae angen i ni weithredu’n gyflym.
Rwy’n siarad am Gaerdydd oherwydd, yn amlwg, o’r fan honno rwy’n dod, dyna ble rwy’n byw, ond rwy’n gwybod bod hyn yn digwydd ar draws Cymru, ac o’r hyn a glywais, mae’n ymddangos bod gennym gefnogaeth gan bob plaid yma i wneud rhywbeth, ac i amddiffyn cerddoriaeth fyw. Mae’r deisebwyr wedi gofyn am yr egwyddor cyfrwng newid, fel y mae cyd-Aelodau eisoes wedi sôn, er mwyn inni allu diogelu’r lleoliadau hynny. Ac i ddatblygwyr sy’n agor adeiladau newydd, yn adeiladu eiddo newydd, eu cyfrifoldeb hwy fydd gwneud i’r eiddo hwnnw weithio ac nid y busnes sydd yno’n barod.
Mae ‘ardal o arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ hefyd yn bwysig ac mae gwir angen iddo gael ei gydnabod yn y system gynllunio. Rwy’n cefnogi hynny ac mae Plaid Cymru yn cefnogi hynny, ac mae’n ymddangos yn awr fod Llywodraeth Cymru, o’r diwedd, yn cefnogi hynny hefyd, sy’n galonogol iawn. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn fynd ati i newid deddfwriaeth cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiogelu ein lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd—Stryd Womanby—ond ar hyd a lled Cymru hefyd. A phan gaiff y ddeddfwriaeth ei phasio, rwy’n credu y bydd yn ddiwrnod da iawn i ddemocratiaeth yng Nghymru, felly gadewch i ni ei wneud. Diolch yn fawr.
Croesawaf y ddadl hon ac rwy’n croesawu’r drefn newydd o drafod deisebau os ydynt yn mynd uwchlaw nifer penodol, ac rwy’n credu bod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu’n fawr.
Ddoe, euthum gyda fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone ac Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, i ymweld â Stryd Womanby ac i gyfarfod â thri o drefnwyr yr ymgyrch. Mae’r stryd, wrth gwrs, yn etholaeth Jenny, ond roedd nifer o drigolion Gogledd Caerdydd wedi cysylltu â mi yn gynharach yn y flwyddyn, yn bryderus iawn wrth feddwl am gerddoriaeth fyw y stryd yn cael ei fygu gan ddatblygiad gwesty posibl. Ac ar ôl cyfarfod â’r etholwyr hynny a’i drafod gyda Jenny, fe wnaethom ysgrifennu at Lesley Griffiths, i gefnogi’r deisebwyr a gofyn am y newid yn y gyfraith gynllunio—y cyfrwng newid—a dynodi ardaloedd penodol hefyd, ardaloedd diwylliannol, yn y cynllun datblygu lleol. Ac rwy’n falch iawn fod Lesley wedi ymateb mor gadarnhaol, ac rwy’n credu bod yr ymgyrchwyr a gyfarfu â ni ddoe yn falch iawn o’r ymateb cyflym gan Lywodraeth Cymru, gan y dylai’r newid hwn yn y gyfraith gynllunio olygu na all unrhyw breswylwyr newydd symud i ardal sydd eisoes â sîn gerddoriaeth fyw a chwyno am y sŵn i’r graddau bod y lleoliad yn cael ei gau, ac rwy’n credu bod hyn wedi digwydd o’r blaen yng Nghaerdydd, yn enwedig gyda chau The Point ym Mae Caerdydd.
Felly, roedd yn wych cael cyfarfod â’r ymgyrchwyr ddoe, rwy’n teimlo, a chael blas go iawn ar yr angerdd y maent yn ei deimlo tuag at gerddoriaeth fyw ar ddiwrnod pan oedd cerddoriaeth fyw, fel y dywedwyd eisoes, yn tra-arglwyddiaethu go iawn dros y ddinas gan fod Coldplay i fod i chwarae’r cyntaf o’u dau gyngerdd yng Nghaerdydd yn Stadiwm Principality. Mae’r ffaith fod ciwiau 18 milltir ar yr M4 gyda’r holl gefnogwyr yn dod i weld y band hwn yn dangos pa mor bwysig yw cerddoriaeth fyw i economi’r ddinas a’r fasnach dwristiaeth. Rwy’n meddwl mai’r pwynt arall sy’n werth ei nodi yw bod Coldplay wedi chwarae gyntaf yng Nghaerdydd fel band yn dechrau ar eu taith yng Nghlwb Ifor Bach, yn union cyn iddynt ryddhau eu sengl ‘Yellow’ a dod i enwogrwydd go iawn. Rwy’n credu mai dyma roedd yr ymgyrchwyr yn ei ddweud wrthym ddoe—fod angen lleoliad bach ar bob band i ddechrau ar eu taith, a lleoliad bach i chwarae ynddo. Felly, mae lleoliadau fel Clwb Ifor a’r Full Moon a’r Moon Club ar y stryd hon yn lleoliadau bwydo i fandiau ar eu ffordd i fyny ar ysgol y diwydiant cerddorol, oherwydd hebddynt, ni fyddech yn gallu cael talent newydd yn dod i mewn i’r diwydiant na lle i’r bandiau hyn arddangos eu doniau.
Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyflym yma yng Nghymru i newid polisi cynllunio er mwyn diogelu cerddoriaeth fyw yn ein dinasoedd—mewn ardaloedd sy’n rhan o wead diwylliannol a chyfoeth bywyd y ddinas. Rwy’n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cadarnhau—ac rwy’n siŵr y bydd yn dweud rhagor pan fydd yn siarad yn nes ymlaen—y bydd ‘Polisi Cynllunio Cymru’ yn cael ei ddiweddaru er mwyn caniatáu i ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol cerddorol gael eu dynodi mewn cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru, nid yn unig yng Nghaerdydd, ac rwy’n gobeithio y bydd cynnydd yn y trafodaethau unigol a gynhelir â’r awdurdodau lleol unigol. Hoffwn hefyd longyfarch Jenny ar ei hymdrechion hi wrth ymgyrchu dros Stryd Womanby, sydd, fel y dywedais, yn ei hetholaeth.
Hoffwn ddiolch i’r deisebwyr—dros 5,000 ohonynt—gan gynnwys fy etholwr Norma Mackie, a gyflwynodd y ddeiseb ar risiau’r Senedd ddiwedd mis Mai gyda Mr Vaughan. Rwy’n sôn amdani hi am ei bod yn gefnogwr lleol iawn. Mae’n byw un stryd yn unig i ffwrdd o Stryd Womanby ac mae’n angerddol ynglŷn â cherddoriaeth fyw. Mae’n dangos daearyddiaeth Stryd Womanby os mynnwch—y lôn gul iawn, ond adeiladau uchel iawn, sy’n golygu, mewn gwirionedd, y gallwch fyw un stryd i ffwrdd heb gael y gerddoriaeth yn Stryd Womanby yn tarfu arnoch. Felly, mae’n lle hollol ddelfrydol. Datblygiadau swyddfa yw’r preswylwyr eraill yn Stryd Womanby. Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion eu swyddfeydd yno ac yn amlwg, nid yw’r gweithgareddau yn ystod y nos a’r gerddoriaeth yn gwrthdaro mewn unrhyw ffordd â’r modd y caiff yr RNIB a swyddfeydd eraill eu rhedeg yn arferol. Felly, rwy’n credu ei fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer cerddoriaeth fyw, ac mae angen i ni ei gadw felly.
Mae croeso mawr i economi ffyniannus Caerdydd greu mwy o swyddi a buddsoddiad, ond daw risgiau yn ei sgil, ac mae’r risgiau hynny’n cynnwys gorddatblygu a’r potensial i ddinistrio’r rhesymau allweddol pam y mae Caerdydd yn boblogaidd fel cyrchfan i dwristiaid. Yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar ei chyfer—2015—mynychodd 600,000 o bobl ddigwyddiadau cerddorol yng Nghaerdydd. Roedd bron eu hanner yn dwristiaid cerddoriaeth—pobl a oedd hefyd yn cynhyrchu incwm yn ein gwestai a’n bwytai. Cynhyrchwyd cyfanswm o £50 miliwn o’r dwristiaeth gerddorol hon, gan gynnal dros 700 o swyddi amser llawn yn y ddinas. Felly, nid yw’n ansylweddol. Nid ydym am ailadrodd y camgymeriadau sydd wedi digwydd mewn mannau eraill. Cefais fy magu yn Lerpwl, ac mae’n destun cywilydd i ni i gyd fod Cyngor Dinas Lerpwl wedi caniatáu i ddatblygwyr gymryd drosodd a gwastatáu’r Cavern yn 1973, lle y dechreuodd y Beatles, Cilla Black a Gerry and the Pacemakers eu gyrfaoedd. Mae’n rhaid i chi edrych yn ôl a meddwl, ‘Beth oedd yn eu meddyliau?’ Felly, cafodd ei ddisodli gan ganolfan siopa gwbl ddisylw heb unrhyw werth diwylliannol na gweledol. A do, crëwyd replica, gan ddefnyddio rhai o hen frics y Cavern, ond nid yw yr un fath â’r gwreiddiol. Mae’n union fel dweud, ‘Gallwch gael Stryd Womanby ar Stryd Clifton neu rywle arall yng Nghaerdydd’, ac nid wyf yn credu bod hynny’n wir. Rwy’n credu’n gryf mai lonydd cul Stryd Womanby, yng nghanol y ddinas, a diffyg unrhyw breswylwyr yn byw ar y stryd sy’n ei gwneud yn rhan mor boblogaidd a bywiog o economi nos Caerdydd heb aflonyddu ar neb.
Fel y mae Julie ac eraill wedi sôn, dechreuodd Coldplay eu gyrfa yng Nghlwb Ifor Bach, ac mae’r lleoliadau cerddoriaeth fyw bach hyn yn meithrin talent y dyfodol go iawn, ac ni allai pobl fel Coldplay fod wedi dechrau hebddynt o bosibl. Roedd yr orymdaith brotest ar benwythnos olaf mis Ebrill gan sawl mil o bobl yn dangos yn union faint o bobl sy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth fyw a’u ffocws ar ymgyrch Achubwch Stryd Womanby.
Felly, rwy’n meddwl ei bod yn hynod o bwysig inni ddiogelu’r rhan bwysig hon o dreftadaeth gerddorol Caerdydd. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd mewn mannau eraill—er enghraifft, yn y bae, caewyd The Point oherwydd cwynion am sŵn o adeiladau preswyl a ddatblygwyd ymhell ar ôl i The Point gael ei sefydlu, ac felly gallai’r ceisiadau cynllunio diweddar ar gyfer gwesty ac adeiladau yn Stryd Womanby fod wedi dileu’r sîn gerddoriaeth fyw yno hefyd. Felly, rwy’n ddiolchgar iawn am y camau buan gan Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n mynd i’r afael, yn fy marn i, â gofynion y ddeiseb (a), drwy ysgrifennu ym mis Mai at holl awdurdodau lleol Cymru yn tynnu sylw at ei bwriad i gynnwys cyfeiriad penodol at yr egwyddor cyfrwng newid i’r ‘Polisi Cynllunio Cymru’ diwygiedig, gan roi hyder yn syth i gyngor Caerdydd wrthod ceisiadau sy’n gwrthdaro â diwylliant cerddoriaeth Stryd Womanby, gan wybod y byddai bron yn sicr o fod wedi cael ei wrthod pe bai’n mynd i apêl. Mae hyn yn hynod o bwysig i unrhyw awdurdod cynllunio, oherwydd fel arall mae’r costau’n enfawr. A (b), mae hefyd yn galluogi’r cyngor i ddynodi ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol cerddorol yn eu cynlluniau datblygu lleol. Fy nealltwriaeth i yw nad oes angen deddfwriaeth. Ar ganllawiau cynllunio’n unig y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio, ac rwy’n credu y bydd hynny’n ddigon. Mae hefyd yn ein rhoi ar flaen y gad o ran diogelu cerddoriaeth fyw yn y DU, gan fod y Blaid Lafur wedi ymdrechu i gyflwyno cymal newydd yn y Bil Tai a Chynllunio ym mis Rhagfyr 2015, ond roedd yn aflwyddiannus. Felly, nid oedd y diwygiad i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ond yn gofyn i gynghorau ystyried lleihau sŵn, ond nid yw’n gorfodi datblygwyr newydd i dalu am unrhyw gamau lliniaru y gallai fod eu hangen pe bai angen gwesty, er enghraifft, ar Stryd Womanby ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn y gerddoriaeth fyw. Mae hynny’n berffaith bosibl, ond mae’n golygu na fyddwn yn gweld Stryd Womanby yn cael ei goresgyn gan ddatblygwyr sydd eisiau creu awyrgylch hollol wahanol a math cwbl wahanol o weithgaredd. Felly, diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am weithredu yn y fath fodd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nodaf delerau’r ddeiseb ac rwy’n gwrando ar y galwadau a wneir i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw a’r economi nos yn well.
Rwyf wedi dechrau adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn y ffordd orau â bwriadau ein nodau llesiant. Rwyf hefyd wedi datgan fy mwriad i gynnwys cyfeiriad clir a phenodol i’r egwyddor cyfrwng newid.
Dylai’r system gynllunio fod yn alluogwr effeithiol i’r datblygu sydd ei angen arnom i gefnogi amcanion cenedlaethol, lleol, a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gwarchod bywiogrwydd ardaloedd fel Stryd Womanby, yr ymwelais â hi ddoe gyda fy nghyd-Aelodau Jenny Rathbone a Julie Morgan, a lle y cyfarfûm â nifer o’r ymgyrchwyr. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnig profiad diwylliannol i gwsmeriaid ac yn darparu lle i feithrin creadigrwydd yn y sîn gerddoriaeth ar lawr gwlad. Rwy’n cydnabod y gwahanol heriau sy’n wynebu lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae llawer o fusnesau bach yn wynebu’r rhain, a lle y gallwn helpu drwy weithredu cadarnhaol, fe fyddwn yn gwneud hynny.
Rwyf wedi gwrando ar y galwadau penodol i gyflwyno cyfeiriad clir at yr egwyddor cyfrwng newid yn ein polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd y newidiadau rwy’n bwriadu eu gwneud yn arfogi awdurdodau cynllunio lleol yn well ac yn rhoi hyder iddynt gymhwyso’r egwyddor hon wrth ystyried datblygiadau newydd.
Mae polisi presennol yn ‘Polisi Cynllunio Cymru’ hefyd yn nodi dau beth pwysig: ni ddylid cyflwyno defnydd newydd mewn ardal heb ystyried natur y gwahanol fathau o ddefnydd presennol, a gall awdurdodau cynllunio lleol ystyried cydweddoldeb y gwahanol fathau o ddefnydd mewn ardaloedd a rhoi diogelwch priodol lle maent yn ystyried bod angen gwneud hynny fel rhan o’u cynlluniau datblygu lleol.
Wrth gefnogi’r economi nos, mae angen rhoi ystyriaeth arbennig i gydweddoldeb gwahanol fathau o ddefnydd. Mae ceisio cysgu wrth ymdopi â sŵn yn ystod y nos yn broblem go iawn. Fodd bynnag, mae’r economi nos yn bwysig yn economaidd yn ogystal â darparu profiadau diwylliannol ac adloniannol sy’n rhan bwysig o’n ffordd o fyw. Mae angen i ni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng darparu cartrefi, hwyluso profiadau ymwelwyr, diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw, a sicrhau iechyd a lles trigolion lleol.
Bydd y ‘Polisi Cynllunio Cymru’ diwygiedig yn mynd ymhellach ac yn fwy eglur ynglŷn â’r egwyddor cyfrwng newid. Bydd yn cynnig mwy o gymorth i ganiatáu i awdurdodau ddiogelu ardaloedd sy’n cynnig profiad diwylliannol arwyddocaol cerddorol yn fwy trylwyr. Mae angen rhoi cydnabyddiaeth lawn i’r nodweddion gwahanol sy’n rhoi hunaniaeth i leoedd yn rhan o benderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio. Lle mae camau i liniaru sŵn yn cynnig ateb priodol, rhaid eu rhoi ar waith. Mae hyn yn ymwneud ag unioni’r cydbwysedd a sicrhau bod yr holl faterion yn cael ystyriaeth gyfartal.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro ychydig o bwyntiau sy’n sail i’n penderfyniad i ganolbwyntio ar newidiadau i ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Ni fu unrhyw newid deddfwriaethol i ymgorffori’r egwyddor cyfrwng newid yng nghyfraith y DU. Mae’r newidiadau arfaethedig yn Lloegr mewn perthynas â chyfrwng newid yn cynnwys newid eu fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol, sef yr hyn sy’n cyfateb yno i ‘Polisi Cynllunio Cymru’, a’r argymhellion yw peidio â newid y gyfraith.
Mae’n fwy cyfleus ymgorffori cyfrwng newid drwy ddiwygiadau i’r polisi cynllunio yn hytrach na newidiadau i gyfraith cynllunio. Byddai ymgorffori’r egwyddor cyfrwng newid yn y gyfraith yn golygu ei bod bob amser yn dod yn ystyriaeth berthnasol, hyd yn oed pan nad yw’n berthnasol, a byddai angen treulio amser ar ei diystyru. Nid dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o symud ymlaen, gan nad yw’n ymateb cymesur.
Nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau i gyfraith cynllunio er mwyn sicrhau bod yr egwyddor cyfrwng newid yn ffurfio rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Mae canolbwyntio ar newid polisi a chynnwys yr egwyddor hon mewn polisi cenedlaethol yn golygu ei bod yn dod yn ystyriaeth berthnasol ar unwaith i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym mhob achos lle mae’n berthnasol. Mae hwn yn fesur cymesur a chyfleus.
Yn yr un modd, yr unig reswm dros ofyn i awdurdodau cynllunio lleol gynnwys dynodiadau diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth yn eu cynlluniau datblygu lleol fel mater o gyfraith fyddai er mwyn sicrhau bod yr holl gynlluniau datblygu lleol yn eu cynnwys. Nid oes angen gwneud hyn, gan na fydd materion o’r fath yn berthnasol mewn llawer o leoedd—er enghraifft, mewn trefi llai neu leoliadau gwledig.
Mae ymgorffori hyn drwy bolisi cenedlaethol yn golygu, lle mae’n berthnasol dynodi ardaloedd yn seiliedig ar dystiolaeth, y bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu ei wneud drwy eu cynlluniau datblygu. Mae statws statudol i’r cynllun ei hun a bydd angen gwneud penderfyniadau wedyn yn unol â’r cynllun. Dyma’r dull cymesur sydd ei angen i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Yn Lloegr, cafodd yr hawliau datblygu a ganiateir eu newid fel ei bod yn bosibl newid swyddfeydd, sy’n cael eu defnyddio yn ystod y dydd fel arfer, yn flociau o fflatiau, sy’n sensitif i sŵn gyda’r nos ac yn ystod y nos, heb fod angen caniatâd cynllunio. Yn Lloegr, mae hyn wedi arwain at broblemau sylweddol iawn i leoliadau cerddoriaeth a gweddill yr economi nos ac maent wedi camu’n ôl rywfaint ar y newidiadau hyn mewn ymateb i ymgyrch lwyddiannus gan y Music Venue Trust. Ni wnaed y newidiadau hyn erioed yng Nghymru ac awdurdodau cynllunio lleol sydd â’r gair olaf o hyd ynglŷn ag a ddylai ceisiadau cynllunio o swyddfeydd i fflatiau gael eu cymeradwyo. Yn Lloegr, mae’r polisi hwn hefyd wedi arwain at gartrefi bach iawn yn cael eu creu o ganlyniad i newidiadau i ddatblygiadau a ganiateir, gyda rhai mor fach ag 16 metr sgwâr yn ôl y sôn—yr hyn a elwir yn fflatiau cytiau cŵn, 40 y cant yn llai nag ystafell Travelodge. Nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn am ei weld yng Nghymru.
Yn olaf, mae’r gyfraith ar niwsans statudol, fel y’i diffinnir yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yr un fath yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu lefel sylfaenol o warchodaeth i ddinasyddion rhag sŵn sy’n niweidiol i iechyd neu’n niwsans. Mae’r system gynllunio a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol a chreu cartrefi sy’n ddiogel ac yn iach i bobl fyw ynddynt. Ni allwn wneud yr olaf os ydym yn glastwreiddio cyfraith niwsans.
Felly, nid glastwreiddio hawliau pobl mewn perthynas â niwsans sŵn yw’r ateb, ond mynd i’r afael â’r mater drwy wella polisi cynllunio. Mae cynllunio yn fecanwaith ataliol a gall chwilio am atebion. Rwyf am ei gwneud yn glir mai dyma’r sail i’r newidiadau rydym yn eu cyflwyno. Rwy’n hyderus y bydd y newidiadau y bwriadaf eu gwneud yn taro’r cydbwysedd cywir. Byddant yn rhoi hyder i bawb sy’n rhan o’r broses i ddod o hyd i atebion sydd o fudd i bawb, ac yn cefnogi sîn gerddoriaeth fyw ffyniannus. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio yn dweud wrthynt gymhwyso’r egwyddor cyfrwng newid ar unwaith, a bydd newidiadau pellach yn cael eu cyhoeddi’n rhan o fy adolygiad cyffredinol o ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Diolch.
Galwaf ar David Rowlands i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ac os caf, hoffwn dynnu sylw at rai o’r sylwadau a wnaeth yr Aelodau. Mike Hedges—a gaf fi fod ar ei hôl hi’n adleisio sylwadau Mike Hedges a diolch i’r Pwyllgor Busnes a Phlaid Cymru am ganiatáu i’r ddadl hon ddigwydd? Ac rwy’n cytuno â phob un o’i sylwadau cefnogol. Siaradodd Suzy Davies am werth therapiwtig cerddoriaeth, a gwerth economaidd lleoliadau o’r fath, ac rwy’n cytuno y dylem edrych hefyd ar fusnesau presennol a chanlyniad y sŵn y maent yn ei wneud. Roedd Neil McEvoy yn gywir i dynnu sylw at y modd y mae gweithdrefn unigryw deisebau a’u goblygiadau yn rhywbeth y dylem ni yn y Cynulliad fod yn falch ohono. Ychwanegodd Julie Morgan ei chefnogaeth hefyd, ar ôl cyfarfod â’r deisebwyr—gyda Jenny Rathbone a Lesley Griffiths—a nododd yn gywir hefyd pa mor bwysig yw’r lleoliadau hyn i hybu bandiau lleol. Tynnodd Jenny Rathbone sylw at ba mor lleol y gall sŵn cerddoriaeth fod os yw yn y lle iawn, a pha mor bwysig yw’r lleoliadau hyn a’r gerddoriaeth y maent yn ei chreu i economi Cymru. Nid oes ond angen i mi ddiolch i’r Gweinidog Cabinet am ei derbyniad cyffredinol i egwyddorion cyfryngau newid, a’i gweithredu cyflym wrth ymateb yn gymesur a rhoi cyngor priodol i awdurdodau cynllunio.
I grynhoi, gan nad yw’r pwyllgor yn gwneud argymhellion ar y cam hwn, neu’n ochri i unrhyw gyfeiriad, y prif awgrym yw bod y pwyllgor yn mynd â sylwadau yn ôl ac yn ystyried yr hyn y mae’r Aelodau ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud yn dilyn toriad yr haf. Bydd y pwyllgor hefyd, yn ystod toriad yr haf, yn gofyn am farn y deisebwr dros y cyfnod hwnnw cyn penderfynu ar ffordd o weithredu ar gyfer y dyfodol yn yr hydref. Diolch.
Fel rhywun a dreuliodd nifer o nosweithiau hir iawn yng Nghlwb Ifor Bach, mwynheais y ddadl honno’n fawr. Yn y 1980au a’r 1990au, nid yn awr, rwy’n brysio i ychwanegu.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Dyma ni’n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.