2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ffyniant yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0207(EI)
Gwnaf. Yfory, byddwn yn cyhoeddi ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’, gan adeiladu ar waith tasglu’r Cymoedd a gaiff ei gadeirio gan fy nghyd-Aelod Alun Davies. Yn ogystal â hyn, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn sgiliau, mewn seilwaith ac yn yr amgylchedd busnes cywir i gwmnïau allu ffynnu ynddo.
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y cynigion a gyflwynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch dyfodol eu hystâd yng Nghymru yn golygu adleoli tua 200 o staff medrus allan o ganol tref Cwmbrân. Byddai hyn nid yn unig yn cael effaith ddinistriol ar yr economi leol yng Nghwmbrân, ond byddai’n creu anawsterau enfawr i staff â chyfrifoldebau gofalu nad ydynt yn gallu teithio i’r lleoliad arfaethedig, sef ardal Trefforest. Mae’r ffaith fod y lleoliad hwnnw wedi cael ei ddewis yn awgrymu nad oes gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fawr ddim dealltwriaeth o ddaearyddiaeth Cymru. Gwn fod y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, sydd wedi bod o gymorth mawr, wedi cyfarfod â Gweinidog y DU ddydd Iau diwethaf, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi, fel Llywodraeth, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Ond a gaf fi hefyd ofyn i chi roi sicrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu yn bersonol i weithio gyda Julie James i gynrychioli’r staff yr effeithir arnynt gan y cynigion hyn, a fydd yn cael effaith ddinistriol ar un o rannau tlotaf Cymru?
Mae’r Aelod yn llygad ei lle, a hoffwn ailadrodd ein siom fawr na lwyddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau i ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn i’r penderfyniad gael ei wneud, heb i unrhyw atebion eraill gael eu hystyried. A gwn fod y Gweinidog yn awr wedi cyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU, ac rwy’n siŵr y bydd yn darparu diweddariad ysgrifenedig i’r Aelodau yn y dyddiau nesaf ar y trafodaethau a gynhaliwyd a’r gwaith pellach a wneir yn awr. A gallaf sicrhau’r Aelod yn ogystal, os bydd unrhyw weithwyr yn cael eu diswyddo, yna byddwn yn cynnig ReAct fel ffordd o sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i waith heb gyfnod hir o ddiweithdra. Mae’n gwbl hanfodol nad oes unrhyw un yr effeithir arnynt gan hyn, sy’n cael eu gadael heb waith, yn aros yn ddi-waith am gyfnod hir o amser, a byddwn yn helpu ym mhob ffordd bosibl.
Gweinidog, rydych newydd ddweud y bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi yfory. Gwnaeth y Gweinidog, Alun Davies, ddatganiad yr wythnos ddiwethaf. Fe bwysais arno yn ystod ei ddatganiad i geisio egluro beth y bydd y canolfannau yn ei gyflawni’n economaidd. Dywedodd y byddai yna chwech o ganolfannau. Un o’r chwech yw’r parc menter modurol—beth bynnag y mynnwch ei alw—ym Mlaenau Gwent y dyfarnwyd £100 miliwn iddo dros 10 mlynedd. Ni allodd roi unrhyw wybodaeth o gwbl; nid wyf yn siŵr ai’r rheswm am hynny oedd nad oedd yn gwybod beth roeddent yn bwriadu ei wneud, neu a oedd yn bod yn ofalus oherwydd, yn amlwg, roedd cymaint o ffocws ar gysyniad Cylchffordd Cymru sydd yn ei etholaeth, wrth gwrs. Byddwn yn ddiolchgar o’ch safbwynt chi pe gallech fy ngoleuo ynglŷn â sut yn union y bydd y canolfannau hyn yn gweithredu. Ai ardaloedd menter bach yn unig fydd y rhain? A fydd themâu iddynt? Ble fyddant yn ddaearyddol? A pha linellau cyllideb a ddyrennir iddynt? O gofio ein bod yn gwybod bod £100 miliwn wedi’i ddyrannu i’r un ym Mlaenau Gwent, a ydym yn sôn am arian tebyg i’r canolfannau eraill a fydd wedi’u gwasgaru o amgylch gweddill y Cymoedd yn rhan o’r strategaeth?
A gaf fi ddiolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau? Cododd bwyntiau pwysig iawn—yr angen i sicrhau bod canolfannau’n gweithredu mewn ffordd sy’n cynhyrchu twf cynaliadwy. Rwy’n rhagweld y bydd y canolfannau’n datblygu fel cyfleoedd i glystyru a chrynhoi mewn meysydd arbenigol penodol. Er enghraifft felly, mae’n bosibl y bydd yn fodurol yng Nglynebwy. Mewn canolfan arall, gall fod yn seiliedig ar adeiladu tai. Felly, yn fy marn i, mae gan y canolfannau botensial i fod yn glystyrau cyfarwydd o arbenigeddau, unwaith eto, a all alluogi partneriaethau sgiliau ar draws rhanbarth y Cymoedd i ganolbwyntio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg drwy’r ffrwd o fuddiannau sydd gennym eisoes, a bydd y ffrwd o fuddiannau sydd gennym eisoes yn arwain at ddarparu cyllid yn ôl y galw. Felly, bydd unrhyw ofynion cyllido yn dod o fy adran, ac adrannau eraill o bosibl, os yw’n croesi ffiniau pynciau.
O ran y manylion pellach y mae’r Aelod yn gofyn amdanynt, mae hyn yn rhywbeth y bydd Alun Davies yn ei ddatgelu yfory, ond nod y clystyrau, nod y canolfannau, yw sicrhau bod crynodiad o weithgaredd mewn rhai ardaloedd yn seiliedig ar dueddiadau economaidd a gweithgynhyrchu sy’n dod i’r amlwg ac i fanteisio ar thema swyddi gwell yn nes at adref, gan gynnig mynediad at waith i bobl a chyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa mewn meysydd gweithgarwch economaidd lle y gwyddom fod yna ddyfodol cynaliadwy.