2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 19 Medi 2017.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Mae hi bron yn 20 mlynedd i'r diwrnod ers y bleidlais ym 1997 i sefydlu'r sefydliad hwn, ac mae’n rhaid i dymor newydd ddod â phennod newydd yn hanes Cymru. Prif Weinidog, ni wnaf i yn bersonol fyth anghofio’r fuddugoliaeth, pan wnaeth cymaint ohonom ni yn y Siambr hon, a’r tu allan, helpu i sicrhau buddugoliaeth i'n gwlad ar y noson honno. Mae llywodraethu ein hunain yn fuddugoliaeth ynddi'i hun. Nid oes unrhyw wlad arall wedi llywodraethu un arall yn dda.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn wahanol sefydliad i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n cytuno â Ron Davies pan ddywed fod angen i Weinidogion ofyn cwestiynau anodd i’w hunain ynghylch cyflawniad. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ef?
Nac ydw. Cafodd Ron, wrth gwrs, y cyfle i lywio cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol, ond rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, am ei stori anffodus. Rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf. Pan fyddaf yn edrych yn ôl ar sut le oedd Cymru yn y 1990au: gwlad â diffyg hyder, lle’r oedd pobl ifanc eisiau gadael, gwlad nad oedd ganddi broffil cryf dramor—nid oedd hynny'n digwydd. A’r un peth sy'n fy nharo i yw ei bod yn cael ei dderbyn fel normal bryd hynny y dylai diweithdra fod yn sylweddol uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Ystyriwyd bod hynny’n rhywbeth a oedd yn anochel. Nid dyna'r achos mwyach; mae diweithdra naill ai ar gyfartaledd y DU, neu’n is na chyfartaledd y DU. Gallwn barhau, wrth gwrs, ac efallai y byddai hi’n disgwyl i mi wneud hynny, ond rwy’n dewis cymariaethau penodol yn y fan yma â'r 1990au, yn y ffordd y mae Cymru wedi newid er gwell yn yr 20 mlynedd ers y refferendwm.
Wel, mae pobl yn dal i adael, Prif Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn. Ac, y llynedd, dywedasoch fod Llafur hanner ffordd trwy ddegawd o gyflawni. Ond, i lawer o bobl, gweddol yw perfformiad presennol y Llywodraeth ddatganoledig a dweud y lleiaf, ac nid yw pobl wedi gweld ei bod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'w bywydau nac i ansawdd gwasanaethau cyhoeddus. Ac nid fy ngeiriau i yw’r rhain, ond canfyddiadau ymchwil i agweddau at ddatganoli, y byddwch chi wedi eu darllen ddoe. Os ydym ni hanner ffordd trwy ddegawd o gyflawni, pam mae ein canlyniadau iechyd ac addysg yn gyson waeth na’r rhai yn yr Alban? Pam mae ein cyfradd pasio TGAU eleni yn waeth na chymwysterau cyfatebol yr Alban? Pam mae rhestrau aros yn hwy ar gyfartaledd? Ac mae hynny heb hyd yn oed sôn am gymariaethau â Lloegr neu â gwledydd eraill gorllewin Ewrop. Beth yw’r esboniad nad yw eich Llywodraeth yn cyflawni’r canlyniadau y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu?
Wel, yn wahanol iawn i hynny—nid wyf yn credu bod yr Alban y Shangri-La a bortreadir. Bu problemau gwirioneddol yn system addysg yr Alban. Ceir problemau o hyd ynghylch y bwlch cyrhaeddiad, yr ydym ni wedi ei gau ac nad ydyn nhw. Os edrychwn ni ar iechyd, a’n bod yn edrych ar y 1990au, roedd yn normal yn y 1990au, yn nyddiau’r Llywodraeth Dorïaidd, i bobl aros dwy flynedd am lawdriniaeth. Roedd hynny'n normal. Nid yw pobl yn derbyn hynny ddim mwy—dim mwy. Gwyddom fod amseroedd aros wedi gostwng yn sylweddol er gwaethaf y ffaith y bu toriad enfawr i’n cyllideb yn y cyfnod hwnnw. Rydym ni newydd weld y canlyniadau TGAU gorau erioed. Mae gan yr Alban ei system addysg ei hun. Allwch chi ddim cymharu eu system gymwysterau nhw â’n system ni gan ei bod mor wahanol. Rydym ni’n adeiladu ysgolion ledled Cymru gyfan; yn Lloegr, nid oes unrhyw beth yn cael ei adeiladu. Rydym ni’n falch o'r ffaith honno. Os edrychwn ni ar yr economi, 4.3 y cant yw ein cyfradd ddiweithdra. Ni ellid bod wedi breuddwydio am hynny yn y 1990au. Rydym ni’n dal i ddenu buddsoddiad rhagorol i Gymru—y ffigurau buddsoddi uniongyrchol tramor gorau ers 30 mlynedd—ac mae hynny oherwydd bod gennym ni Lywodraeth sy'n gallu mynd allan a gwerthu Cymru. Beth bynnag yw gwleidyddiaeth y Llywodraeth honno, mae'r proffil sydd gan Weinidogion yn llawer iawn mwy na'r hyn a welwyd yn y 1990au, a dyna pam yr ydym ni wedi bod mor llwyddiannus o ran dod â swyddi i Gymru.
Rydych chi'n swnio'n hunanfodlon, Prif Weinidog, ac mae’n ymddangos bod eich atebion yma y prynhawn yma'n awgrymu bod pethau eisoes yn mynd mor dda, bod hyn mor dda ag y gall hi fod. Nid degawd o gyflawni, ond yn hytrach degawd o hunanfodlonrwydd. Rydym ni angen, Prif Weinidog, gwlad lle mae premiwm ar hunanlywodraeth. Mae gwneud ein penderfyniadau ein hunain yn gam cyntaf hanfodol, ac mae Plaid Cymru yn falch fod y wlad hon wedi cymryd y cam hwnnw. Ond y cam nesaf yw gwireddu’r premiwm hwnnw. Dylai bod yn ddinesydd Cymru olygu bod bonws gwasanaeth cyhoeddus: difidend datganoli, wedyn, os mynnwch chi. Felly, rhof un her i chi heddiw, wrth i ni nodi 20 mlynedd ers y bleidlais 'ie' honno: erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn, a fydd y Llywodraeth Lafur wedi cau'r bwlch gyda'r Alban o ran iechyd, addysg a'r economi? Ac os byddwn ni’n dod i ddiwedd y tymor hwn a’i bod yn ymddangos nad oes unrhyw arwydd o gau'r bwlch hwnnw, a wnewch chi dderbyn a chyfaddef wedyn bod angen Llywodraeth newydd ar Gymru?
Wel, nid fi y mae eisiau iddi ei argyhoeddi, ond yr etholwyr, ac nid yw hi wedi eu hargyhoeddi nhw o hynny. Nid oes unrhyw bwynt achwyn i mi am ddiffyg llwyddiant ei phlaid ei hun. Nid wyf i’n derbyn bod bwlch rhyngom ni a'r Alban. Nid wyf i’n derbyn bod bwlch rhyngom ni a'r Alban o ran addysg. Mae cyfradd ddiweithdra'r Alban yn gyson uwch na'n cyfradd ni. Nid fel pe byddai'r Alban, yn economaidd, yn gwneud yn hynod o dda, ac o'n safbwynt ni rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae etholwyr Cymru wedi cydnabod hynny. Maen nhw wedi gweld hynny mewn etholiad ar ôl etholiad, ac ni fydd unrhyw arwydd o hunanfodlonrwydd gennym ni. Gwyddom ei bod yn mynd yn fwy a mwy anodd i argyhoeddi pobl i bleidleisio drosom yr hwyaf yr ydym ni mewn Llywodraeth, a byddwn yn gweithio'n fwy a mwy caled i sicrhau bod pobl yn parhau i roi eu cefnogaeth i ni.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Awst, cyhoeddwyd yr adroddiad am Kris Wade o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Adolygiad bwrdd gwaith oedd hwn o’r bwrdd iechyd hwnnw yn cyflogi Kris Wade, gŵr sy’n bwrw cyfnod o 21 mlynedd yn y carchar ar hyn o bryd am laddiad ag ysgogiad rhywiol y wraig 65 oed, Christine James. Yn ystod y blynyddoedd yn arwain at lofruddiaeth Ms James, roedd Kris Wade yn destun dim llai na thri honiad ar wahân o gam-drin rhywiol ymhlith cleifion agored i niwed. Ar adeg cyhoeddi’r adolygiad bwrdd gwaith, beirniadwyd yr adroddiad gan fy mhlaid i am ei ddiffyg annibyniaeth. Rydym ni o’r farn na all fyth fod yn dderbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio i bryderon difrifol amdano'i hun. Yn dilyn sawl galwad gan fy mhlaid i, a chan y BMA ac eraill yn y Siambr hon yn wir, cyhoeddodd eich Llywodraeth swyddogaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ran adolygu'r adroddiad bwrdd gwaith a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd. Sut ar y ddaear y gall hi fod yn dderbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio i gyhuddiadau mor ddifrifol o’i fethiant ei hun?
Mae'n ddarlun cymhleth, ac rwy’n deall y galar y mae'r teulu wedi ei wynebu. Roedd tri chyhuddiad; mae hynny'n gywir. Ni chymerwyd unrhyw gamau gan yr heddlu o ran y cyhuddiadau hynny, ac felly ni chyflwynwyd unrhyw achosion troseddol. Wedi dweud hynny, mae'n hynod bwysig bod ymchwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, nid yn unig i’r gwersi y gellir eu dysgu, ond i’r gwersi y gellir eu dysgu fel y gallwn fod yn sicr fel Llywodraeth bod unrhyw fethiannau a allai fod wedi bodoli yn y system bryd hynny yn cael eu hunioni, ac y gall y teulu gael eu sicrhau wedyn bod y bwrdd iechyd wedi gwneud popeth y gallai fod wedi ei wneud i ymdrin â'r sefyllfa. Ni fyddwn yn gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw tan y byddwn yn cael canfyddiadau adroddiad yr arolygiaeth iechyd, wrth gwrs.
Prif Weinidog, rwy'n deall na ofynnwyd i’r un claf, yr un gweithiwr proffesiynol meddygol na’r un aelod o staff, roi cyfweliad ffurfiol yn ystod yr adolygiad. Mae hynny, does bosib, yn annerbyniol. A allwch chi gadarnhau y bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cymryd tystiolaeth gan glinigwyr, gan gleifion ac, yn anad dim, gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ymchwiliad a ganiataodd i'r trychineb ddatblygu ac a arweiniodd yn y pen draw at y gŵr hwn yn cael ei ddedfrydu i 21 mlynedd yn y carchar?
Mae'n hollbwysig bod yr ymchwiliad yn annibynnol. Nid fy lle i yw dweud wrth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru beth y dylent ac na ddylent ei wneud, ond rwy'n credu ei bod hi’n briodol i mi ddweud y byddwn yn disgwyl iddyn nhw gael cymaint o dystiolaeth mor eang â phosibl er mwyn i’w canfyddiadau terfynol fod mor gadarn â phosibl.
Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud y byddai'n deg i chi neu'ch Llywodraeth, ar ffurf Ysgrifennydd y Cabinet, bennu’r cylch gorchwyl ar gyfer adroddiad, ymchwiliad, beth bynnag yr hoffech chi ei alw, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, oherwydd mae’n amlwg ei fod ef wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Pan wnes i ddarganfod na ofynnwyd i’r un unigolyn meddygol, na ofynnwyd i’r un claf, gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn, mae hynny'n anhygoel, mae'n rhaid i mi ddweud. Ac rwy’n galw arnoch i bennu cylch gorchwyl llym ar gyfer yr ymchwiliad hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel y gall yr adroddiad y maen nhw’n ei gyflwyno i'ch Llywodraeth fwynhau hyder yr Aelodau yma, y cyhoedd ehangach, eu bod yn cael eu diogelu rhag pobl fel Kris Wade yn gweithio yn ein gwasanaeth iechyd. A wnewch chi roi'r ymrwymiad hwnnw bod y cylch gorchwyl yn ddigon cadarn o ymchwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'r ymchwiliad hwn fel y gallwn ni fod yn hyderus bod cleifion ac aelodau'r cyhoedd yn cael eu diogelu rhag sefyllfa lle nad yw pobl fel Kris Wade byth yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru?
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'gwnaf', wrth gwrs. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr ymchwiliad ei hun (a) yn annibynnol a (b) yn gadarn. Nid wyf yn siŵr a yw'n dweud, yn y gorffennol, na chyfwelwyd digon o bobl, neu a yw hynny'n digwydd nawr, ond pa bynnag ffordd, byddaf yn sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried i sicrhau bod y mater hwnnw'n cael sylw. Ond mae'n amlwg yn bwysig bod y canfyddiadau’n cael eu hystyried yn gadarn ac y gall pawb yn y Siambr hon eu cefnogi.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn nogfen y Llywodraeth, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', mae'n cydnabod, yn yr arolwg agweddau cymdeithasol Prydain yn 2013, bod 86 y cant o boblogaeth y DU eisiau gweld llai o fewnfudo, ac eto polisi'r Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, yn y ddogfen hon, yw gwrthwynebu cyflwyno unrhyw fath o darged ar gyfer lleihau mewnfudo. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad sylweddol i’r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond hyd yn oed ar y lefel mewnfudiad net o 0.25 miliwn y flwyddyn, sydd gennym ni ar hyn o bryd, byddai hynny'n ychwanegu, pe byddai’n parhau, 8 miliwn at ein poblogaeth erbyn 2032, 21 miliwn erbyn 2064, pan fyddai poblogaeth y DU yn 85 miliwn. Yn syml, nid yw hynny'n gynaliadwy. Cyn i'r Prif Weinidog ddweud, wel, mae mewnfudo’n hollbwysig ar gyfer twf economaidd, yn 2014, cynhaliodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol astudiaeth ar effeithiau mewnfudo ar lefelau cyfredol, 0.25 miliwn net y flwyddyn. Mae hynny'n ychwanegu 0.4 y cant at CMC ond hefyd 0.4 y cant at y boblogaeth, fel na fyddai CMC fesul pen yn gwella; does fawr ddim gwahaniaeth. Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru ddeffro i realiti bywyd yn y Brydain fodern?
Dylid teilwra mewnfudo yn ôl anghenion y DU. Targedau—. Mae'n artiffisial. Beth yw pwynt targedau? Gadewch i ni archwilio'r sefyllfa honno. Dywedwch, er enghraifft, ein bod ni’n dymuno recriwtio mwy o feddygon i GIG Cymru ond y dywedwyd wrthym, 'Mae'n ddrwg gennym, rydym ni wedi cyrraedd y cwota ar gyfer eleni'. Nid yw hynny’n gwneud dim synnwyr. Pam ar y ddaear fyddai hynny’n bolisi synhwyrol i unrhyw Lywodraeth ei fabwysiadu? Felly, rydym ni wedi cynnig barn ar fudo. Nid ydym yn gwybod beth yw barn Llywodraeth y DU eto. Dyma ein cynnig ni o ran sut yr ydym ni’n credu y dylai'r system edrych, ond mae'n hollbwysig, wrth gwrs, bod y polisi hwnnw’n cael ei deilwra i'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd ar y DU, nid targed artiffisial.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad dyna'r unig ffordd y gall targedau weithio. Yn arbennig, nid yw'r problemau sydd gennym ni ar gyfer y lefelau mewnfudo yr ydym ni’n eu dioddef ar hyn o bryd ym meysydd gweithwyr proffesiynol, fel meddygon a nyrsys, lle byddant bob amser yn gallu cymhwyso ar gyfer beth bynnag yw anghenion sgiliau'r wlad. Ond ar waelod y raddfa incwm, yn arbennig, i’r rhai â sgiliau isel neu sydd heb sgiliau, mae ffactorau sylweddol iawn ar waith sy'n gwthio’r lefelau incwm y mae pobl yn debygol o’i gael i lawr. O gofio bod Cymru'n economi cyflog isel, a’n bod ni ar waelod y raddfa incwm ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU, oni ddylem ni fod yn fwy pryderus ynghylch lleihau'r mewnlifiad o fewnfudiad pobl heb sgiliau neu â sgiliau isel er mwyn amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yng nghymdeithas Cymru?
Rwy'n credu bod arweinydd UKIP wedi datgelu’r gwirionedd pan ddywedodd fod mewnfudo yn rhywbeth yr ydym ni’n ei ddioddef. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho bod cyfran dinasyddion yr UE yng Nghymru yn isel dros ben—llawer is na 5 y cant o'r boblogaeth. Mae'n wir bod pobl yn gweithio yng Nghymru; mae hynny'n wir. Ond mae angen iddo siarad â busnesau, a fydd yn dweud wrtho bod angen iddyn nhw allu recriwtio pobl mewn llawer iawn o wahanol swyddi, rhai ohonynt yn fedrus iawn, rhai ohonynt ddim mor fedrus, ond mae angen y bobl hynny. Yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrtho yw y dylem ni ddioddef mewnfudo, fel y byddai’n ei ddweud, ar y lefel sy'n briodol i anghenion ein heconomi. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho: mae'n sôn am economi cyflog isel; mae ef yn rhan o’r broses o leihau cyflogau. A wnaeth ef gefnogi'r isafswm cyflog? Naddo, ni wnaeth ef gefnogi'r isafswm cyflog. Wrth gwrs na wnaeth ef. A yw'n gefnogol o ffyrdd o orfodi'r isafswm cyflog i rwystro unrhyw un sy'n dioddef camfanteisio, ni waeth o ble y maen nhw'n dod? Nac ydy, rwy’n amau a yw hynny’n wir. Ni all, ar y naill law, achwyn am leihau cyflogau pan fo’i hanes ei hun yn dangos ei fod yn erbyn yr isafswm cyflog ac felly'n hapus i weld cyflogau’n cael eu gyrru at i lawr pan yr oedd mewn man arall.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod polisi fy mhlaid i o blaid yr isafswm cyflog. Yn y dyddiau pan oeddwn i'n aelod o'r Blaid Geidwadol, roedd y Blaid Geidwadol yn erbyn cyflwyno isafswm cyflog, ond mae UKIP wedi cefnogi cyflwyno isafswm cyflog erioed, ac, wrth gwrs, ni fu’r un erlyniad yng Nghymru am dorri'r ddeddfwriaeth isafswm cyflog, er ein bod ni’n gwybod bod hyn yn digwydd. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf holl brotestiadau’r Prif Weinidog, yn gwneud dim i wneud i’w pholisi ei hun weithio. Pan ddefnyddiais y gair 'dioddef' o ran polisi mewnfudo, yr hyn yr oeddwn i’n ei olygu oedd bod graddfa a chyflymder y mewnfudo hwn yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau cyhoeddus, ond hefyd ar incwm y rheini sydd ar waelod y raddfa incwm. Ar hyn o bryd, rydym ni mewn cyfnod o dwf economaidd, ond wrth gwrs mae'r problemau wir yn dod yn amlwg pan fydd y cylch economaidd yn gostwng. Ceir cyfoeth o astudiaethau academaidd, y cyfeirir at rai ohonynt yn y ddogfen hon, sy'n dangos—. Fel astudiaeth Banc Lloegr, er enghraifft—dangosodd fod cynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr sy'n gweithio mewn swyddi penodol mewn rhanbarthau penodol yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau. Mae hwn yn fater difrifol mewn economi lle mae enillion cyfartalog yng Nghymru ddim ond 75 y cant o rai'r DU.
Yn gyntaf oll , rwy’n synnu o’i glywed yn dweud na wnaeth sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol ym 1997 ar sail ymrwymiad maniffesto i beidio â gwrthwynebu isafswm cyflog. Rwy’n cofio mai dyna’r achos bryd hynny, sydd wedi ei anghofio'n gyfleus nawr. Yn ail, fel y mae’n gwybod yn iawn—neu mae’n bod yn ddrygionus—nid Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod erlyn pan ddaw i ddeddfwriaeth isafswm cyflog. Nid yw wedi'i datganoli. Mater i Lywodraeth y DU yw targedu adnoddau i’r awdurdod priodol fel y gall yr erlyniadau hynny ddigwydd. Mae'n sôn am dystiolaeth sy'n dangos bod cyflogau'n cael eu gyrru at i lawr. Ble mae'r dystiolaeth honno? Ni welaf unrhyw dystiolaeth bod hynny'n wir. Rwy’n gweld tystiolaeth o gyflogau yn cael eu gyrru at i lawr gan rai cyflogwyr sy'n ddiegwyddor. Rwy'n gweld cyflogau’n cael eu gyrru at i lawr gan bobl sy'n gweithio ar gontractau achlysurol yn y sector preifat. Rwy'n gweld cyflogau yn cael eu gyrru at i lawr gan bolisïau Llywodraeth y DU o gael gwared ar bethau fel credydau treth sy'n helpu'r rheini ar gyflogau isel, wrth gwrs, gan gyflwyno toriadau treth i’r rhai sy’n cael y cyflogau mwyaf. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld cyflogau isel; rwy'n deall hynny. Ond a gaf i awgrymu iddo dargedu ei ynnau at y broblem wirioneddol yn y fan yma, sef y polisi a roddwyd ar waith gan Lywodraeth bresennol y DU?