1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 25 Hydref 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae gwahanol elfennau o’r gyllideb ddrafft yn helpu’r grwpiau o bobl fwyaf agored i niwed ym Merthyr Tudful a Rhymni? (OAQ51237)
Diolch i Dawn Bowden am hynny. Wel, Dirprwy Lywydd, mae cadw cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor gwerth £244 miliwn, £1 miliwn ychwanegol i roi hwb i’r gronfa cymorth dewisol ac £20 miliwn ychwanegol ar gyfer atal digartrefedd ymhlith yr elfennau cyllidebol sy’n cynorthwyo’r grwpiau mwyaf agored i niwed ym Merthyr Tudful, Rhymni a thu hwnt.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac rwy’n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn cytuno bod y gefnogaeth a gynigir i bobl sy’n agored i niwed yng nghyllideb ddrafft Cymru yn gwrthgyferbynnu’n llwyr ag anhrefn ffiaidd cynllun credyd cynhwysol y Torïaid. Mae diwygio lles, Ysgrifennydd y Cabinet, yn mynd â biliynau o bunnoedd—ie, biliynau o bunnoedd—oddi ar gymunedau ein Cymoedd, gan gynnwys Merthyr Tudful a Rhymni, ac mae hyn, yn ei dro, yn gwneud bywydau gormod o bobl yn dlotach. Ac rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw gwaith banciau bwyd yn galonogol, fel y’u disgrifir gan Dorïaid blaenllaw, ond yn hytrach eu bod yn feirniadaeth drist o Brydain yr unfed ganrif ar hugain. Felly, er gwaethaf toriadau’r Torïaid i’n cyllideb yng Nghymru, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar ddarparu’r cartrefi cynnes a diogel sydd eu hangen ar ein pobl, y cymorth a’r cyngor ariannol y maent yn eu haeddu, ac yn estyn llaw y gall fod ei hangen ar bob un ohonom mewn cyfnod anodd, fel y gall pobl yng Nghymru wybod, o leiaf, ar ochr pwy rydym yn sefyll?
Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r pwynt a wnaeth Dawn Bowden wrth agor ei chwestiwn atodol. Mynychais gyfarfod yn gynnar heddiw gyda chymdeithasau tai, y trydydd sector, undebau credyd—pob un ohonynt yn mynegi pryderon gwirioneddol ynglŷn â’r effaith y mae’r newidiadau i gredyd cynhwysol eisoes yn ei chael mewn rhannau o Gymru. Mae rhai ohonom yn cofio’r adeg pan oedd gennym yr hyn a elwir yn system nawdd cymdeithasol, a’r hyn sydd gennym bellach yw gwrthwyneb hynny’n llwyr, system sy’n meithrin ansicrwydd ym mywydau’r bobl sydd leiaf abl i ymdopi â’r ansicrwydd hwnnw, a’r canlyniad yw bod costau’n cael eu creu ac yn cael eu dadleoli i rannau eraill o’r system. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi nodi bod y defnydd o fanciau bwyd mewn ardaloedd lle y rhoddwyd credyd cynhwysol ar waith yn llawn wedi cynyddu mwy na dwywaith y gyfradd mewn rhannau eraill o’r DU lle nad yw wedi’i roi ar waith. Ond fe’i gwelwn hefyd drwy’r cynnydd mewn ôl-ddyledion, achosion o droi allan, yr effaith ar wasanaethau iechyd meddwl, ac yn y blaen. Gwn fod Aelodau wedi gofyn i mi yn y gorffennol ynglŷn â’r ffordd y gellir defnyddio cyllidebau Llywodraeth Cymru i warchod gwead cymdeithasol ein cymdeithas ar adeg pan fo cymaint o bwysau arno, a lle y mae angen i unigolion ddibynnu arno gymaint â hynny’n fwy. Ac mae’r pwyntiau a wnaeth Dawn Bowden ynglŷn â’r hyn y ceisiwn ei wneud ym maes tai, o ran cefnogi’r bobl â’r angen mwyaf, yn rhan o’n hymdrechion parhaus i geisio defnyddio’r cyllidebau sydd gennym i warchod y gwead cymdeithasol hwnnw, gan y gwyddom cymaint y mae ei angen yma yng Nghymru.
Diolch, Gweinidog, am ateb cwestiwn Dawn Bowden gyda chymaint o fanylder. Ond credaf fod ochr arall i’r geiniog. Mae pobl sy’n agored i niwed ac ar incwm isel wedi cael ergyd drom gan fethiant y Llywodraeth Lafur i ddefnyddio’r arian sydd ganddi i rewi’r dreth gyngor yng Nghymru, gyda’r canlyniad fod Cyngor ar Bopeth wedi labelu dyled y dreth gyngor fel ‘problem ddyled fwyaf Cymru’. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i gynghorau godi—
A ydym yn dod at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.]—y dreth gyngor—
Cwestiwn, os gwelwch yn dda.
[Yn parhau.]—y dreth gyngor 5 y cant o ganlyniad i gynigion yn y gyllideb ddrafft. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i liniaru problem dyledion y dreth gyngor a achosir gan godiadau cyson uwchben chwyddiant, ac i leddfu’r baich ar aelwydydd o dan bwysau ym Merthyr Tudful ac mewn mannau eraill yng Nghymru?
Dirprwy Lywydd, rwy’n gwrthod yr awgrym sydd wrth wraidd y cwestiwn hwnnw’n llwyr, sef y buasai pobl rywsut yn well eu byd pe baem wedi rhewi’r dreth gyngor yng Nghymru. Heb y gallu i godi’r dreth gyngor, yr hyn a wyddom yw y buasai gallu’r awdurdodau lleol i barhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt wedi ei beryglu hyd yn oed ymhellach. Mae polisi ei blaid o geisio rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr mewn anhrefn llwyr. Ychydig iawn o gynghorau sy’n derbyn y cynnig hwnnw bellach, ac mewn gwirionedd, cododd y dreth gyngor yn Lloegr ar gyfradd uwch nag yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Yr hyn a wnawn, yn wahanol iawn i gynghorau a reolir gan ei blaid, yw parhau i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag effaith y dreth gyngor—roedd y gyllideb a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn gynharach y mis hwn yn cynnwys £344 miliwn i sicrhau nad yw’r unigolion a’r aelwydydd mwyaf agored i niwed yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl yma yng Nghymru. Ar gyfartaledd, mae pobl ar y budd-daliadau hynny yn Lloegr yn talu £181 o dreth gyngor, ac mewn llawer o awdurdodau Torïaidd, maent yn talu dros ddwywaith y swm hwnnw. Mae’r bobl fwyaf agored i niwed yn gorfod dod o hyd i arian bob wythnos o fudd-daliadau sydd wedi’u rhewi i dalu treth nad oes unrhyw un sydd yn yr amgylchiadau hynny yng Nghymru yn ei thalu o gwbl.