5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhybudd gan Aston Martin ddoe y gallai ei fuddsoddiad yn Sain Tathan fod mewn perygl os na fydd cytundeb ar Brexit? 65
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno ag Aston Martin fod 'dim bargen' yn creu risg i fusnes. Fodd bynnag, nid yw'r cwmni wedi nodi unrhyw risg i'r buddsoddiad yn Sain Tathan, sy'n datblygu'n gyflym.
Mae'r ymateb hwnnw'n galonogol iawn. Ymwelais ag Aston Martin yn Sain Tathan yn ddiweddar i weld y cynnydd a wnaed ar droi'r awyrendy mawr yn safle cynhyrchu model DBX moethus newydd y cwmni gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gan greu 750 o swyddi medrus iawn yn ogystal â gwerth £60 miliwn o gontractau a fydd o fudd i Gymru, ond rwy'n dal i ddweud fy mod yn bryderus y gallai'r buddsoddiad sylweddol hwn fod mewn perygl bellach. A wnewch chi sicrhau bod y dystiolaeth a roddodd Aston Martin i'r pwyllgor dethol yn San Steffan yn cael ei hystyried yn nhrafodaethau Brexit Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU, gan ddangos, fel y dywedodd Aston Martin ddoe, y gallai Brexit 'dim bargen' fod yn lled-drychinebus i weithgynhyrchu ceir yng Nghymru? A allem ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod ag Aston Martin i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ac i gael y sicrwydd hwnnw rydych yn ei roi y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd hyn yn niweidio'u datblygiad yn Sain Tathan?
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu'n gyson ag Aston Martin ynglŷn â'r buddsoddiad hwn a'r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i'r cwmni i sicrhau'r buddsoddiad a'r budd mwyaf ohono, ond yn sicr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi clywed eich sylwadau a bydd yn parhau i gadw hynny mewn cof wrth iddo gyfarfod ag Aston Martin a'u cefnogi.
A gaf fi ddweud, Llywydd, ar sail ehangach, fod yr Aelod dros Fro Morgannwg wedi gweithio'n galed iawn i gefnogi a chynnal y buddsoddiad hwn? Mae hi a minnau'n deall pwysigrwydd y buddsoddiad i ardal fenter Sain Tathan ac rydym yn deall pwysigrwydd cadw mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl, a'r amcan hwnnw sy'n parhau i lywio polisi ac ymagwedd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Brexit. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn codi ein dwylo mewn arswyd ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn methu ymdrin â'r mater pwysig hwn.
Diolch i'r Aelod dros Fro Morgannwg am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Yn amlwg, mae'r sector modurol yn hollbwysig i Gymru, ac mae'r rhybudd llym a gyhoeddwyd gan Aston Martin yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi i Gymru gael llais uniongyrchol yn y trafodaethau ar adael yr UE, ac yn wir, mae'n tanlinellu'r angen i'r wlad hon gael llais a phleidlais ar fargen derfynol Brexit. Wrth gwrs, buasai cael hynny, os nad unrhyw beth arall, yn rhoi trosoledd i ni, yn wleidyddol, er mwyn blaenoriaethu'r sector modurol yn ogystal â diwydiannau eraill.
Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam roedd ei ffrindiau neithiwr ymhell o fod yn sefyll dros Gymru ym mhalas San Steffan, a heb drafferthu i gerdded drwy'r lobïau dros Gymru ar fater pleidlais i roi llais i'r Senedd hon ar fargen derfynol Brexit?
Llywydd, nid wyf yn dymuno treulio amser y Siambr y prynhawn yma yn rhoi darlith i lefarydd Plaid Cymru ar natur gwneud penderfyniadau datganoledig—rwy'n synnu nad yw Plaid Cymru yn deall hynny—fodd bynnag, gadewch i mi ddweud hyn: mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau bod lleisiau Cymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn parhau i ddarparu llais cryf dros Gymru, i sefyll dros fuddiannau Cymru, ac i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall beth yn union yw anghenion Cymru wrth i ni symud drwy'r broses hon. A bydd y Llywodraeth hon bob amser yn parhau i roi anghenion Cymru yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd.
Yn gyntaf oll a gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w gyfrifoldebau newydd a'i longyfarch ar ei ddyrchafiad?
Mewn perthynas ag Aston Martin, onid hon yw un o'r agweddau mwyaf hurt ar y prosiect ofn? Nid yw'r dystiolaeth a roddwyd ddoe gan Mark Wilson, cyfarwyddwr cyllid Aston Martin, y gallai cynhyrchiant ddod i ben yn Aston Martin pe na bai tystysgrifau cydymffurfio yn cael eu rhoi ar gyfer ceir Ewropeaidd neu geir Prydeinig ar ôl Brexit, yn debygol o gael ei gwireddu. Mae Aston Martin yn allforio 600 o geir y flwyddyn i'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Almaen yn unig yn allforio 820,000 o geir i Brydain bob blwyddyn—dyna 14 y cant o holl gynhyrchiant ceir yr Almaen, traean o'r holl geir a werthir yn y DU, sef €27 biliwn y flwyddyn. Roedd 2.6 miliwn o geir wedi'u cofrestru yn y DU yn 2015—gydag 86 y cant ohonynt wedi'u cynhyrchu y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae'n hurt rhagweld y bydd system y tystysgrifau cydymffurfio yn dod i ben yn llwyr os na cheir unrhyw gytundeb ynghylch trefniadau masnach rhwng Prydain a gweddill Ewrop yn y dyfodol, oherwydd gallai hynny, mewn gwirionedd, fod yn fantais aruthrol i gynhyrchwyr domestig, pe na bai'n bosibl gwerthu unrhyw geir tramor yn y Deyrnas Unedig. Nid yw hon yn senario a ddylai ein rhwystro am un eiliad.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd UKIP Cymru am ei sylwadau caredig. Fodd bynnag, nid wyf am adael i hynny fy rhwystro. [Chwerthin.] Rwy'n siŵr bod rheolwyr Aston Martin yn ddiolchgar i'r Aelod am ei ddarlith ar eu busnes a buddiannau eu busnes. Rwy'n siŵr y byddant yn ddiolchgar iawn iddo am yr amser y mae wedi'i gymryd i wneud hynny, ac rwy'n siŵr y byddant yn rhoi sylw llawn i'r sylwadau y mae wedi'u gwneud y prynhawn yma. Mae'n bosibl fod yr Aelod wedi bod yn treulio gormod o amser yn darllen y negeseuon trydar gan robotiaid Rwsiaidd i sylweddoli beth yn union sy'n digwydd yn yr economi hon a beth yn union sy'n digwydd mewn ymarfer Brexit aflwyddiannus lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn methu cynrychioli a sefyll dros fuddiannau Cymru, pobl y Deyrnas Unedig ac yn methu darparu unrhyw fath o Brexit o gwbl.
Ysgrifennydd y Cabinet, onid y broblem yw'r ffaith nad ymwneud â bygythiad economaidd 'dim bargen' i Gymru yn unig y mae hyn, ond hefyd y bygythiad economaidd yn sgil y math o fargen y gallem ei chael yn y pen draw gyda'r Llywodraeth yn negodi, a bod y cynnig a roddodd y Llywodraeth i Senedd San Steffan yn ddiweddar ynghylch pleidlais seneddol, ar sail 'derbyn neu wrthod', yn weithred hollol ddiystyr, a hefyd yn un sy'n tanseilio democratiaeth seneddol mewn gwirionedd? Onid craidd y broblem yw bod gennym Lywodraeth Geidwadol ddigyfeiriad ac analluog gydag arweinyddiaeth analluog a'n bod yn daer angen etholiad cyffredinol ac i Jeremy Corbyn ddod yn Brif Weinidog nesaf?
Rwy'n cytuno gyda fy ffrind o Bontypridd, ond gadewch i mi ddweud hyn: mae gennym Lywodraeth y DU sy'n rhwym wrth wasg asgell dde, sy'n treulio hanner eu hamser yn osgoi talu treth Brydeinig ac yna'n pregethu wrth Lywodraeth Prydain beth sydd er lles Prydain, ac yn rhwym wrth grwpiau o aelodau meinciau cefn sy'n rhyfela â'i gilydd. Nid ydynt yn gallu ffurfio polisi, nid ydynt yn gallu ffurfio rhaglen, nid ydynt yn gallu sicrhau pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin, nid ydynt yn gallu mynychu pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin hyd yn oed. Llywodraeth sy'n ffoi rhag ei Senedd yw hi, a gorau po gyntaf i bawb ohonom y cawn etholiad cyffredinol a chael Jeremy Corbyn yn arwain Llywodraeth Lafur.
Rydym wedi cael y rhefru gwleidyddol gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond gadewch i ni ddychwelyd at realiti—[Torri ar draws.] Gadewch i ni ddychwelyd at realiti. Ac rwy'n ei longyfarch ar ei benodiad i'r Cabinet.
Tua dau fis yn unig yn ôl, cyhoeddodd Aston Martin gytundeb gwerth £500 miliwn ar daith fasnach i Japan. Bydd hynny'n ychwanegu hwb sylweddol i ôl troed y ffatri ym Mro Morgannwg, ac rwy'n edrych i lawr arni bob dydd o ble rydym yn byw ym mhentref Saint Hilari. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwnnw ac rwy'n croesawu pawb sydd wedi cymryd rhan ynddo, yn gweithio o safbwynt Llywodraeth Cymru ac o safbwynt Llywodraeth y DU. Mae'n dangos beth y gellir ei gyflawni pan fo Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet, neu'r Llywodraeth, dylwn ei ddweud, wedi'i wneud o'r cytundeb masnach £500 miliwn a gyhoeddodd Aston Martin ar 31 Awst eleni, pan aethant gyda'r Prif Weinidog i Japan, mewn perthynas â manteision enfawr hynny i'r ôl troed y maent yn ei ddatblygu yn Sain Tathan?
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau caredig. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod yr Aelod dros Fro Morgannwg wedi gweithio'n galed ar hyn, ac mae ei gyfraniad ef i hyn—arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—wedi bod yn llai na dim. Mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid fod y polisïau economaidd y mae wedi'u cefnogi'n gyson—[Torri ar draws.] Mae wedi'u cefnogi'n gyson—. Rwyf am barhau—fi sydd â'r meicroffon, felly, wyddoch chi, rydych yn gwastraffu eich amser.
Profwyd bod y polisïau economaidd y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'u cefnogi'n gyson drwy gydol ei amser yn ei swydd yn y lle hwn yn anghywir. Yr hyn a welsom gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran ei pholisi cyni yw llai o dwf, llai o wariant. Rydym wedi gweld economïau tir mawr Ewrop ac ardal yr ewro yn symud ymlaen, tra bod economi'r Deyrnas Unedig yn sownd yn y lôn araf.
Y realiti yw y bydd y buddsoddiad yn Sain Tathan, buddsoddiad Aston Martin, yn parhau i gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi a sefyll dros fuddiannau Cymru drwy gydol proses Brexit, byddwn yn parhau i roi buddiannau Cymru yn gyntaf a byddwn yn parhau i roi buddiannau economi Cymru yn gyntaf.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Pwynt o drefn yn codi allan o gwestiynau—Adam Price.
Yn gynharach y prynhawn yma, Llywydd, gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i'r Prif Weinidog a oedd yn parhau i lynu wrth yr ateb a roddodd i Darren Millar yn 2014 na fu unrhyw honiadau o fwlio, neu a oedd wedi camarwain y Cynulliad. Nawr, gwrthododd y Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw, felly nid yw'n glir o gwbl bellach a gafodd y Cynulliad ei gamarwain, sy'n fater difrifol iawn yn wir. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Llywydd, i ofyn i'r Prif Weinidog ddychwelyd i'r Siambr y prynhawn yma fel y gall ateb y cwestiwn ynglŷn ag a gafodd y Cynulliad hwn ei gamarwain ar fater difrifol iawn, ac os nad yw'n barod i'w ateb ei hun, a fuasai'n ei gyfeirio at drydydd parti er mwyn i ni gael ymchwiliad annibynnol i'r mater hwn?
Mae'n fwy na thebyg nad yw hwnnw'n bwynt o drefn, ond mae eich sylwadau wedi'u cofnodi. Mae cynnwys ateb y Prif Weinidog—ac mae'n ddrwg gennyf nad yw yma ar gyfer y pwynt o drefn hwn—ond mater i'r Prif Weinidog yw cynnwys ei ateb. Ond o ystyried y prynhawn yma, efallai fod rhai o atebion y gweinidogion wedi bod yn rhy hir y prynhawn yma, ac efallai fod rhai wedi bod yn rhy fyr.