Grŵp 2. Rhoi sylw dyledus i gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig (Gwelliannau 26, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2F, 2G, 2, 3A, 3B, 3C, 3D, 3E, 3F, 3, 25)

– Senedd Cymru am 4:46 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:46, 21 Tachwedd 2017

Y grŵp nesaf yw grŵp 2. Mae’r grŵp yma yn ymwneud â gwelliannau sy’n rhoi sylw dyledus i gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig. Gwelliant 26 yw’r prif welliant, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad i’r gwelliant a’r gwelliannau eraill yn y grŵp—Kirsty Williams.

Cynigiwyd gwelliant 26 (Kirsty Williams).

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:46, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Ni fu erioed unrhyw anghydweld ynghylch ein cefnogaeth ar y cyd i egwyddorion y ddau gonfensiwn. Mae'r ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant, pobl ifanc a'r rhai ag anabledd yn flaenoriaeth y gwn ein bod ni gyd yn ei rhannu. Mae'r Bil wedi'i ddrafftio gyda hawliau plant wrth ei wraidd. Mae'r dyletswyddau cyfreithiol mae'n eu cynnwys eisoes yn diogelu a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc anabl, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sylweddol a chynhwysfawr.

Barn y Llywodraeth oedd, ac mae hi'n dal i gredu hyn, fod y Bil yn ymgorffori egwyddorion y confensiynau ac yn darparu fframwaith cyfreithiol newydd sy'n seiliedig ar hawliau yng ngwir ystyr hynny. Yr hyn a fu dan sylw wrth graffu ar y Bil hwn yw pa un a yw dyletswyddau sylw dyledus yn angenrheidiol, yn briodol neu'n ychwanegu gwerth. Rwyf wedi rhoi cryn ystyriaeth i'r mater hwn, fel y gwnaeth y Gweinidog blaenorol, wrth i'r Bil fynd ar ei hynt. Rwyf wedi pendroni'n ddwys ynglŷn â chryfder y teimlad ar bob ochr i'r Siambr, ac rydym ni wedi ymateb i farn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn arbennig.

Yn unol ag ymrwymiad y cyn-Weinidog wrth graffu yn ystod Cyfnod 2, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i ddod â bywyd deddfwriaethol i egwyddorion y confensiynau. Rwy'n credu y bydd y gwelliannau hyn yn caniatáu inni sicrhau gwell cydbwysedd a, gobeithio, osgoi'r canlyniadau anfwriadol yr ydym ni wedi bod yn pryderu yn eu cylch, sef, yn bennaf,  gorlethu athrawon gyda biwrocratiaeth.

Bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 gan Darren Millar, ond ar y sail y caiff gwelliannau'r Llywodraeth i'r gwelliannau hyn hefyd eu derbyn. Rydym ni wedi meddwl yn ofalus am y gwelliannau a gyflwynwyd gan Darren Millar, a chroesawaf y camau y mae'r aelod wedi eu cymryd i geisio datblygu'r gwelliannau ers Cyfnod 2, gyda'r dyletswyddau bellach yn berthnasol i gyrff perthnasol yn hytrach nag ar lefel unigol. Mae hyn yn bwysig, ond nid yw'n mynd yn ddigon pell i liniaru'r perygl o ganlyniadau anfwriadol. Rwyf, felly, wedi cyflwyno gwelliannau i welliannau Darren.

Mae wyth gwelliant sylweddol a saith gwelliant drafftio ychwanegol, sydd yn berthnasol dim ond i'r testun Cymraeg. Yn benodol, mae gwelliannau 2E, 2F, 3D a 3E i gyd yn ymwneud â beth y mae'r dyletswyddau yn ei olygu. Diben gwelliannau 2E a 3D yw ei gwneud yn glir nad yw hi'n ofynnol rhoi ystyriaeth benodol i'r confensiynau bob tro y caiff swyddogaeth ei gweithredu. Felly, ni fyddai'r dyletswyddau yn uniongyrchol berthnasol i benderfyniadau unigol ynghylch dysgwyr unigol, gan leihau'r peryglon biwrocratiaeth yr wyf wedi bod yn pryderu yn eu cylch. Mae gwelliannau 2F a 3E yn galluogi'r cod i wneud darpariaeth ynghylch beth sydd ei angen ar gyrff perthnasol i gyflawni'r dyletswyddau, ac y caiff y dyletswyddau hynny sy'n ymwneud â sylw dyledus, gan gynnwys yr eithriad rhag ystyriaeth benodol, eu dehongli yn unol â'r cod. Y bwriad yw gwneud yn siŵr y bydd y dyletswyddau i ystyried confensiynau yn rhywbeth a fydd wrth wraidd penderfyniadau strategol a wneir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn hytrach na gorchwyl i'w chwblhau bob tro y gwneir penderfyniad gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac athrawon a staff cymorth unigol.

Bydd gwelliant 26 yn caniatáu i'r cod wneud gwahanol ddarpariaethau ar gyfer gwahanol ddibenion. Mae gwelliannau 2G a 3F yn diddymu cyrff llywodraethu ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach oddi ar y rhestr o gyrff y mae hi'n ofynnol iddyn nhw roi sylw dyledus i'r confensiynau. Barn y Llywodraeth yw y dylai'r ddyletswydd ddim ond bod yn berthnasol i'r sefydliadau hynny sydd â swyddogaeth fwy strategol i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddigonol ac fe ddylai hyn ddigwydd ar lefel strategol. Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweithredu ar y raddfa hon ac mae ganddyn nhw'r strwythur ar waith i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn fwy effeithiol, ac mae'r effaith ar staff rheng flaen sy'n cefnogi plant a phobl ifanc o ran cynyddu biwrocratiaeth yn debygol o fod cyn lleied â phosibl.

Yn olaf, mae gwelliant 25 yn diwygio trosolwg y Bil, gan roi sylw amlwg i'r dyletswyddau newydd pwysig i ystyried y confensiynau a gyflwynwyd gan welliannau Darren. Mae'n golygu bod y Bil yn glir ac yn eglur ynglŷn â phwysigrwydd y ddau gonfensiwn yng ngweithrediad y system ADY newydd.

Fel yr wyf i eisoes wedi ei ddweud, mae gwelliannau 2A i 2D a 3A i 3C yn newidiadau i fersiwn Gymraeg gwelliannau Darren. Ar y cyfan, hyderaf y bydd yr Aelodau'n gweld bod gwelliannau 2 a 3 o eiddo Darren, fel y'u diwygiwyd gan y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr awydd amlwg i weld cyfeiriad amlwg a phendant at gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Bil ac y byddant yn cael eu hystyried heb orlethu ymarferwyr rheng flaen, ac rwyf yn annog yr Aelodau yn y Siambr heddiw i gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:51, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n codi i siarad ynglŷn â gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn fy enw i, a'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae gwelliannau 2 a 3 o'm heiddo yn ymateb uniongyrchol i alwadau gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnwys dyletswydd sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau ar wyneb y Bil ac i geisio gweithredu argymhellion 31 a 32 yn adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor.

Roedd yr argymhelliad hwnnw'n glir iawn: roedd yn argymell bod yn rhaid i'r holl gyrff perthnasol sy'n gweithredu swyddogaethau o dan y system anghenion dysgu ychwanegol newydd roi sylw dyledus i'r ddau gonfensiwn hynny a drefnwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Nawr, roedd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol ar adeg ystyried y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn ôl yn 2011, a oedd yn gosod dyletswydd glir ar Weinidogion Cymru, a Gweinidogion Cymru yn unig ar y pryd, i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roedd yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth; mae'n un a gefnogwyd gan bob plaid wleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ond nid oedd y Mesur, na'r egwyddor sylw dyledus a sefydlodd, yn ymestyn i unrhyw gorff arall nac unrhyw unigolion hyd nes y cafodd ei ymestyn gan Ddeddf  Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y treuliodd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, unwaith eto, gryn amser yn ei ystyried. Ac, wrth gwrs, ar y pryd, cafodd y Ddeddf honno ei diwygio i'w gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un, gan gynnwys unigolion ar y rheng flaen, sy'n gweithredu swyddogaethau o dan y Ddeddf honno—o Weinidogion hyd at yr unigolion rheng flaen hynny—i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a llawer o gonfensiynau a datganiadau eraill y Cenhedloedd Unedig hefyd, wrth ymarfer eu gwaith.

Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud na fu unrhyw anghydweld erioed ynghylch gosod yr egwyddorion hyn gan y Cenhedloedd Unedig wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon, ond, wrth gwrs, cafwyd gwrthwynebiad ac anghytundeb sylweddol ar y cychwyn gan ddeiliad blaenorol y portffolio i awgrymiadau bod—

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Roedd yna wrthwynebiad, i awgrymiadau bod—[Torri ar draws.] Os gwnewch chi ganiatáu imi orffen, ac wedyn byddaf yn hapus i dderbyn ymyriad. Roedd gwrthwynebiad sylweddol i symud y gwelliannau hyn ymlaen yn ystod Cyfnod 1. Cynigiwyd y gwelliannau hyn gan y comisiynydd plant ac amryw o randdeiliaid eraill, ac roedd gwrthwynebiad bryd hynny i ganiatáu cyflwyno unrhyw welliannau. Ac fe ddadleuodd y Gweinidog, yn yr un modd ag y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, nad oedd angen ailadrodd y dyletswyddau hyn yn slafaidd ar wyneb y Bil, ac, wrth wneud hynny, y byddai'n creu'r problemau hynny i staff rheng flaen ac yn rhoi sefydliadau mewn perygl o wynebu achosion cyfreithiol. Ond, wrth gwrs, mae'r ofnau hynny yn gwbl ddi-sail. Ni fu unrhyw broblem gyfreithiol o ganlyniad i gynnwys y dyletswyddau i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, er enghraifft — nid oes unrhyw achos cyfreithiol wedi'i ddwyn. Nawr, er nad yw'r gwelliannau hyn yr wyf yn eu cyflwyno heddiw yn cyrraedd nod y darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno, rwyf yn hyderus, os cawn nhw fynd ymlaen, y byddant yn sicrhau y bydd y pwyslais ar hawliau yr ydym ni yn briodol wedi ei mabwysiadu yma yng Nghymru yn cael ei atgyfnerthu, a byddant hefyd yn arwain at newidiadau i arferion ar lawr gwlad. Dyna pam yr wyf i'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei throedigaeth ddiweddar, os mynnwch chi, i'r achos o fod angen gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei diwygio i gynnwys cyfeiriadau at gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Bil.

Wedi dweud hynny, rwy'n bryderus, ac rwy'n bryderus ynghylch dau o welliannau Llywodraeth Cymru yn arbennig. Tra bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n ceisio gwneud mân ddiwygiadau i ddrafftio gwelliannau 2 a 3, mae arnaf ofn bod rhai eraill yn peri gofid. Rwy'n ofni na allaf argymell i'r Cynulliad hwn gefnogi gwelliannau 2G a 3F yn arbennig, oherwydd eu bod yn ceisio dileu'r ddyletswydd i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chyrff llywodraethu sefydliadau addysg roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig—dau gorff sydd â swyddogaethau hynod o bwysig i'w chwarae wrth ddarparu'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd y mae'r Bil hwn yn ceisio ei gweithredu. Rwy'n credu bod dileu dyletswyddau sylw dyledus oddi ar ysgolion a cholegau yn y modd hwn braidd yn rhyfedd.

Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dadlau nad yw ysgolion a cholegau o raddfa na maint digon mawr i sicrhau y gall y sefydliadau hynny fod yn gyfarwydd â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a bod â'r adnoddau i allu sicrhau y byddant yn rhoi sylw dyledus iddyn nhw yn yr un ffordd ag y gallai sefydliadau mwy o faint fel awdurdod addysg lleol neu'r GIG. Ond y gwir amdani yw bod ysgolion eisoes yn gyfarwydd â'r agenda hawliau. Maen nhw eisoes yn gyfrifol am hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau plant, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc yn ein hysgolion ledled y wlad. Ac yn ychwanegol at hynny, mae ein colegau addysg bellach yn sefydliadau mawr iawn, gwerth miliynau o bunnoedd y mae hi eisoes yn ofynnol iddyn nhw gydymffurfio â darnau cymhleth iawn o ddeddfwriaeth ac yna eu gweithredu, ac maen nhw'n gwneud hynny'n llwyddiannus bob dydd. Maen nhw'n fwy nag abl i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig.

Fel y dywedais yn gynharach, mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eisoes yn disgwyl ac yn rhoi gofyniad ar weithwyr cymdeithasol rheng flaen ac unigolion eraill sy'n darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd i roi sylw dyledus i egwyddorion a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, felly pam na ddylem ni ddisgwyl i athrawon ac unrhyw un arall sy'n darparu rhyw fath o swyddogaeth o dan y Ddeddf hon, ac yn enwedig cyrff llywodraethu ysgolion a cholegau addysg bellach wneud hynny hefyd?

Felly, byddaf yn cefnogi'r gwelliannau eraill sydd wedi'u cyflwyno yn y grŵp hwn gan y Gweinidog, gan gynnwys gwelliannau 2D a 3D, sy'n rhoi cyfle i mi fynd ati mewn modd cymesur i roi sylw dyledus i ddibenion y Ddeddf hon. Rwy'n credu eu bod yn synhwyrol, ond mae arnaf ofn na allaf i gefnogi'r gwelliannau eraill sydd wedi'u cyflwyno, gwelliannau 2G a 3F, ac rwy'n annog holl Aelodau'r Cynulliad i'w gwrthod.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:58, 21 Tachwedd 2017

Rydw i'n cefnogi yn ffurfiol nifer o'r gwelliannau yn y grŵp yma. Y mwyaf allweddol o'r rheini, wrth gwrs, fel rŷm ni wedi'i gasglu erbyn hyn, rydw i'n siŵr, yw gwelliannau 2 a 3, sy'n gosod dyletswydd ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant ac ar hawliau pobl ag anableddau. 

Nawr, fel rŷm ni wedi clywed yn barod, rydw i'n gwybod, mae hon yn drafodaeth sydd wedi bod yn un fyw iawn wrth i'r Bil yma deithio drwy'r Cynulliad, ond mae'r pwyllgor wedi bod yn glir yn ein hadroddiad ni ar ddiwedd Cyfnod 1 ar yr angen i sicrhau dyletswydd ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i'r confensiynau yma ar wyneb y Bil. Mae'r comisiynydd plant, wrth gwrs, wedi bod yn daer iawn ei thystiolaeth ac yn gyson ac yn glir ar hynny, ac wrth gwrs mwyafrif y budd-ddeiliaid hefyd sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni yng nghwrs datblygu'r Bil yma. 

Rŷm ni wedi clywed am y cynsail sydd wedi'i osod yng nghyd-destun y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac nid oes dim i amau hynny. Mae'r Llywodraeth yn flaenorol wedi mynegi gofid ynglŷn â'r risg o ymgyfreithiad—litigation—yn erbyn cyrff perthnasol ar sail methiant trefniadol i ddangos sut maen nhw'n rhoi sylw dyledus i'r confensiynau yma. Ond wrth gwrs, fel rŷm ni wedi clywed, nid oes yna ddim heriau tebyg wedi bod yng nghyd-destun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol. Mi ddefnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet y term—neu mi gyfeiriodd hi at y gofid y byddai athrawon yn cael eu 'swamp-io' gan fiwrocratiaeth. Nid ydw i'n meddwl bod pobl wedi cael eu 'swamp-io' gan fiwrocratiaeth yng nghyd-destun y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, felly pam ddylen nhw yn y cyd-destun yma? Fel mae Barnardo's Cymru yn ein hatgoffa ni, ni ddylai'r Llywodraeth jest cael dewis a dethol pa hawliau i'w hamddiffyn a hyrwyddo, a phryd maen nhw'n dewis gwneud hynny. Mae'n rhaid eu cynnwys nhw yn gyson, ac yn gyfartal.

Yr unig gwestiwn i fi fan hyn—cwestiwn ehangach, efallai—yw pam y dylem ni orfod cynnwys y dyletswyddau yma ym mhob un Bil unigol. Fe gyfeiriwyd at sylwadau'r Gweinidog blaenorol a oedd yn dweud pam fod rhaid i ni wneud hyn yn slafaidd bob tro. Mae yna wirionedd yn hynny. Mae'n amlygu diffyg o safbwynt y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Er bod y Mesur hwnnw yn garreg filltir bwysig, wrth gwrs, at weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae'r ddyletswydd i dalu sylw dyledus i'r confensiwn yn cyfeirio'n uniongyrchol at Weinidogion Cymru yn unig.

Mi fyddai'n amserol yn fy marn i—a dweud y gwir, mae'n hen bryd—i ni gael proses graffu ôl-ddeddfwriaethol o'r Mesur hawliau plant a mynd ati wedyn, os oes angen, trwy ddeddfwriaeth i gywiro'r sefyllfa yna, fel nad oes rhaid i ni ailadrodd y math yma o welliannau bob tro mae Bil perthnasol yn cael ei gyflwyno. Dadl ar gyfer rhywbryd arall yw hynny, efallai, ond rwyf yn meddwl ei bod hi'n bwysig bod y pwynt yn cael ei wneud.

Ni fyddaf innau chwaith yn cefnogi gwelliannau 2G a 3F gan y Llywodraeth oherwydd mi fyddai hynny yn eithrio cyrff llywodraethu a sefydliadau addysg bellach rhag rhoi sylw i'r confensiynau, gan danseilio, i bob pwrpas, llawer o fwriad nifer o'r gwelliannau eraill yn y grŵp yma.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 5:01, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Dim ond cyfraniad byr yr wyf i eisiau ei wneud ynglŷn â'r grŵp hwn o welliannau, ond cyn imi wneud hynny fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon ar goedd i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sydd wedi gwneud gwaith hollol wych ar yr hyn sydd wedi bod yn ddarn cymhleth a hir-ddisgwyliedig o ddeddfwriaeth.

Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae gosod y ddyletswydd sylw dyledus i'r CCUHP wedi bod yn fater y mae'r pwyllgor wedi teimlo'n gryf iawn yn ei gylch drwy gydol y broses. I mi, roedd hynny yn ymwneud ag anfon neges glir a diamwys i'r rhai sy'n gweithredu'r ddeddfwriaeth hon fod hawliau plant wrth wraidd y gyfraith newydd.

Wedi dweud hynny, rwy'n falch iawn y bu rhywfaint o newid. Croesawaf y consesiwn a wnaeth eich rhagflaenydd yng Nghyfnod 2 o'r ddeddfwriaeth hon a'r ffaith bod gwelliannau gan y Llywodraeth wedi'u cyflwyno heddiw, y byddaf yn amlwg yn eu cefnogi. Byddai'n well gennyf pe byddai'r diwygiadau wedi bod yn fwy pellgyrhaeddol, rwyf am fod yn gwbl onest ynghylch hynny, ond credaf ein bod ni wedi gwneud cynnydd.

Mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn wedi cael canmoliaeth o bedwar ban byd am eu hagwedd at hawliau plant, ond credaf fod yn rhaid inni fod yn gwbl glir na allwn ni orffwys ar ein rhwyfau ar y mater hwn a bod yn rhaid inni fwrw ymlaen yn barhaus i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu prif ffrydio. Ac fel y dywedodd Darren Millar, mae llawer o waith rhagorol yn cael ei wneud mewn ysgolion a cholegau ar hyn hyd yn oed ar y funud hon.

Ond gobeithiaf os byddwn ni'n mabwysiadu'r ddeddfwriaeth hon heddiw yn y modd sydd wedi ei awgrymu, y bydd yn gyfle inni wneud gwaith pellach ar hyn yn y pwyllgor a, phan fyddwn ni'n craffu ar y Cod, y gallwn ni edrych eto ar sut y gallwn ni weld y gweithredu hwnnw'n cael ei gyflawni ar lawr gwlad.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:03, 21 Tachwedd 2017

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl—Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. A gaf i sicrhau'r Aelodau fy mod i wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedwyd mewn trafodaethau pwyllgor blaenorol ar y pwnc hwn, ac yn wir ar y sylwadau yma heddiw? Nid oes unrhyw amheuaeth ein bod ni i i gyd yn cytuno bod hawliau plant a phobl anabl, fel y cawn nhw eu nodi yng nghonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, yn sylfaenol bwysig. Fe hoffwn i atgoffa'r Aelodau bod hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys rhai plant a phobl ifanc anabl, eisoes wedi eu hymgorffori i'r dyletswyddau cyfreithiol yn y Bil. Yn wir, byddwn yn dadlau eu bod wrth wraidd y darn hwn o ddeddfwriaeth. Gadewch imi hefyd fod yn gwbl glir: Nid oes neb wedi awgrymu bod unrhyw agwedd ar y Bil hwn yn anghydnaws â'r confensiynau hynny. Os yw gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan y Bil hwn, yna byddant yn cydymffurfio ag egwyddorion a bwriadau'r confensiynau. Nawr, rwy'n sylweddoli bod dymuniad i sicrhau bod yr hawliau a nodir yn y Confensiwn yn cael amlygrwydd penodol, a dyna pam mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno ei gwelliannau heddiw. Mae gwelliant 25 yn arbennig yn cynnwys cyfeiriad uniongyrchol at hyn yn nhrosolwg y ddeddfwriaeth—fel y dywedais i, mae'n rhoi lle blaenllaw iddo ar ddechrau'r ddeddfwriaeth.

Fodd bynnag, rwyf, unwaith eto, yn dweud nad wyf i eisiau gweld athrawon, staff cymorth ac eraill yn gorfod ymdrin â rhagor o fiwrocratiaeth—biwrocratiaeth sydd o bosib yn tynnu eu sylw oddi ar y dasg hollbwysig sydd ganddyn nhw o ddysgu ac addysgu. Mae'n rhaid inni osgoi'r angen i athrawon, ysgolion—[Torri ar draws.] Os gallwch chi fod yn amyneddgar. Mae'n rhaid inni osgoi'r angen i athrawon, ysgolion a chyrff llywodraethu orfod rhoi tystiolaeth eu bod wedi ystyried y confensiynau yn eu rhyngweithio unigol gyda'r holl blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. A Darren, yn gwbl briodol, rydych chi a Llyr, yn fy nwyn i gyfrif yn barhaus ar y mater o lwyth gwaith athrawon a biwrocratiaeth. Rydych chi wastad yn fy herio i yn y Siambr hon, yn gwbl briodol, ynghylch yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud a beth yr wyf innau'n ei wneud i leihau llwyth gwaith athrawon a biwrocratiaeth sy'n tynnu eu sylw oddi ar ddysgu ac addysgu. Ac er fy mod i'n llwyr ddeall bod eich amcanion yn rhai anrhydeddus, rwyf yn wirioneddol bryderus y bydd canlyniadau anfwriadol yr hyn sydd wedi'i gynnig yma heddiw yn golygu y bydd ymarferwyr yn gorfod cofnodi bob dydd mewn rhyw fodd neu'i gilydd, a dangos, petai her gyfreithiol, eu bod nhw wedi ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn. Os byddan nhw'n gwneud hynny'n iawn, bydd hynny'n faich biwrocrataidd. Os na fyddan nhw, rydym ni'n diraddio'r confensiynau i fod yn ymarferiad ticio blychau syml. Mae'n ddrwg gen i, Darren.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:06, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Dim ond eisiau gofyn oeddwn i pam ydych chi'n teimlo—os mai dyna'r ddadl yr ydych chi'n ei chyflwyno— pam ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol y dylai pobl mewn awdurdodau addysg lleol ysgwyddo'r baich hwnnw, fel yr ydych chi'n ei ddisgrifio, ac y dylai pobl yn y GIG ysgwyddo'r baich hwnnw i ddangos eu bod yn cydymffurfio gyda chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig, ond nad ydych chi'n teimlo ei bod hi'n briodol i'r bobl hynny sy'n gweithio ar y rheng flaen yn uniongyrchol gyda'r plant hynny—y bobl sydd eisoes yn dysgu ac yn addysgu'r plant hynny ynglŷn â'u hawliau.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:07, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs eu bod nhw, ac rwy'n deall hynny. Ac os ydyn nhw'n gwneud eu dyletswyddau o dan y telerau hyn, yna bydd yr hawliau hynny fel ail natur iddyn nhw. Rwyf yn barod, wrth wrando ar y pryderon a fynegwyd yn ystod y ddadl ac yn y pwyllgor, i edrych ar y sefydliadau hynny sydd â throsolwg strategol o'r gwasanaethau sy'n cael eu datblygu. Felly, teimlaf ei bod hi yn briodol fod awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd sydd â throsolwg strategol ar gyfer y darpariaethau hyn, ac sydd yn ddigon mawr, yn gallu rhoi sylw dyledus, ac y dylen nhw wneud hynny hefyd.

Oherwydd gadewch i mi ddweud, Darren, er fy mod i yn derbyn y sylw a wnaethoch chi fod rhai ysgolion a rhai sefydliadau AB yn sefydliadau mawr, y pwynt yw nad ydyn nhw i gyd yn sefydliadau mawr. Rydych chi a minnau ar dân dros ysgolion bach a gwledig. Gadewch inni fod yn glir: Mae gan hai o'r ysgolion bach a gwledig hynny ddwy neu dair athrawes. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw eisoes yn pryderu am sut y byddan nhw'n ymdopi â gweithredu'r ddeddfwriaeth hon, a bydd yn rhaid inni roi llawer o gefnogaeth iddyn nhw wrth iddyn nhw wneud hynny. Does arna i ddim eisiau ei gwneud hi'n fwy anodd i'r ysgolion bach a gwledig hynny i oroesi a bod yn rhaid iddyn nhw dynnu eu sylw oddi ar ddysgu ac addysgu. 

Mae'r Bil hwn yn bwriadu lleihau biwrocratiaeth a chreu'r system rwyddach, llai andwyol hon nag sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd eithrio cyrff llywodraethu o'r dyletswyddau sylw dyledus yn symleiddio dull y mae'r Bil hwn yn ceisio ei ategu. Bydd plant yn dal i gael eu trin mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r confensiwn oherwydd mae'r Bil yn ymgorffori egwyddorion y Confensiwn yn ei ddyletswyddau.

Nawr, mae Lynne Neagle yn hollol gywir, Llywydd; Mae mwy o waith eto i'w wneud yn y maes hwn, a byddaf yn gwneud hynny wrth inni weithio ar y Cod, er enghraifft, a thrwy broses y cynllun datblygu unigol. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Swyddfa'r Comisiynydd Plant, yn ogystal ag Aelodau'r gwrthbleidiau a'r pwyllgor, fel y gallwn ni gael hyn yn gywir. Llywydd, gyda hynny, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth ac i wrthwynebu'r rhai a amlinellwyd eisoes. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:09, 21 Tachwedd 2017

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.