1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Rhagfyr 2017.
1. Pa fesurau sydd ar waith i graffu ar y cynlluniau y mae awdurdodau lleol yn eu cyflwyno o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013? OAQ51489
Mae swyddogion wrthi'n caffael diweddariad o'r canllawiau dylunio teithio llesol ar hyn o bryd, a fydd yn adeiladu ar y tair blynedd gyntaf o ddefnyddio'r canllawiau ac yn cymryd arfer gorau a rheoliadau newydd i ystyriaeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod pob awdurdod lleol ac eithrio un wedi cyflwyno eu mapiau rhwydwaith integredig cyntaf erbyn y dyddiad penodedig ac maen nhw'n cael eu gwerthuso erbyn hyn, ac mae'r awdurdod sydd ar ôl wedi ei gyfarwyddo i gyflwyno ei fap rhwydwaith integredig erbyn diwedd mis Chwefror. Felly, rydym ni wrthi'n ystyried dewisiadau ar gyfer dilysu canlyniadau'r gwerthusiad yn annibynnol, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ac i'r Cynulliad pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud.
Diolch, Prif Weinidog. Nos Wener, cynhaliais y diweddaraf o'm cyfarfodydd cyhoeddus misol, ac ar frig rhestr pryderon pobl yn Nhycroes, yn union fel yr oedd ym Mhontyberem a Llangennech a Chydweli, oedd maint y traffig. Nawr, mae'r dyddiad terfyn wedi mynd heibio'n ddiweddar i gynghorau gyflwyno eu cynlluniau tymor hir ar gyfer rhwydwaith o lwybrau teithio llesol yr hoffent eu creu dros 15 mlynedd, ac, o'u gwneud a'u hariannu'n iawn, mae gan y rhain y potensial o leihau traffig yn ogystal â gwella iechyd a chymdogaethau lleol. Ond yr adborth y mae'r grŵp trawsbleidiol newydd ar deithio llesol wedi ei glywed o bob cwr o Gymru yw nad yw cynghorau yn bod yn ddigon uchelgeisiol. Ni fydd ychydig o lwybrau yma ac acw yn annog pobl i ddod allan o'u ceir. Felly, a wnewch chi longyfarch Cyngor Caerdydd am gydnabod y gallan nhw wella ar eu drafft ac am fod yn fodlon i gyflwyno cynllun mwy uchelgeisiol o fewn blwyddyn, a beth wnewch chi i wneud yn siŵr bod y cynlluniau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn ein rhoi ar lwybr gwahanol?
Wel, yr un peth y gallaf ei ddweud yn eglur iawn yw nad yw hyn yn rhyw fath o ychwanegiad dewisol. Rydym ni'n disgwyl cydymffurfiad â'r Ddeddf, nid yn unig o ran y ddamcaniaeth sy'n sail iddi, ond yn ymarferol hefyd. Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau i gyngor Caerdydd. Gobeithiaf y bydd eraill yn dysgu o'u hesiampl dda, gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rwydwaith priodol ledled Cymru ac nid llwybrau ar wahân yn unig—dyna sy'n digwydd ar hyn o bryd—ond eu cyfuno a gallu dweud yn y dyfodol bod pobl yn gallu cyrraedd y gwaith a'u bod nhw'n gallu beicio at ddibenion hamdden hefyd ar rwydwaith lwybrau beicio y gellir eu cymharu â rhai o'r goreuon yn Ewrop. Mae cryn ffordd i fynd, gan fy mod i wedi gweld yr hyn sydd ar gael, er enghraifft, mewn gwledydd fel Awstria. Ond, gallaf, gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni'n gwbl benderfynol o wneud yn siŵr bod mapiau'r rhwydwaith integredig yn gadarn, yn gydnerth ac y byddant yn hybu teithio iach a theithio llesol yn y dyfodol.
Roedd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ddarn o ddeddfwriaeth a groesawyd yn eang iawn, ac mae'r aelod yn hollol iawn i godi pryderon yn y fan yna am sut y mae'n cael ei roi ar waith yn llawn a'i ddatblygu. Ac rwyf i wedi clywed yn union yr un pryderon hynny bod awdurdodau lleol wedi bod yn eithaf araf i flaenoriaethu hynny, yn amlwg gyda'r pwysau ar y gyllideb a phopeth. Gwn fod yr Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion llywodraeth leol blaenorol wedi dweud yn aml, 'O, mae gan awdurdodau lleol eu hymreolaeth eu hunain.' Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yw hon, a deddfwriaeth Llywodraeth sy'n mynd i wneud bywydau'n well i'n pobl ifanc ac i'n holl bobl ledled Cymru. Felly, sut gallwch chi gynnig rhywfaint o arweinyddiaeth gref iawn, Prif Weinidog, i wneud yn siŵr nad dymuniad yn unig yw'r Ddeddf teithio llesol, ond ei bod yn dod yn ddeddfwriaeth lawn, ac yn gwbl gymwys, a'n bod ni'n cael mwy o bobl yn teithio'n llesol yn feunyddiol o hyn ymlaen?
Wel, dyna'r gyfraith ac mae'n rhaid cydymffurfio â hi, ond, o ran arian, gallaf ddweud bod y gronfa trafnidiaeth leol a'i rhagflaenydd, y grant consortia trafnidiaeth rhanbarthol, wedi bod yn brif ffynhonnell o gyllid ar gyfer llwybrau cerdded a beicio lleol, yn enwedig llwybrau newydd, gan gynnwys y rheini i safleoedd cyflogaeth. Mae'r gyfran sy'n cael ei gwario ar gynlluniau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn dibynnu ar geisiadau, ond wedi dod i gyfanswm o tua £6 miliwn y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan helpu i ddatblygu cynlluniau a phecynnau mwy uchelgeisiol. Mae hynny yn ogystal, wrth gwrs, â'r grant sydd wedi bod ar waith ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r grant diogelwch ar y ffyrdd.
Ond mae'n wir, onid yw e, Brif Weinidog, fod rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ddangos mwy o uchelgais, achos o feddwl am y ffigurau mae e newydd eu dyfynnu, os ydym yn cymharu'r rheini â'r ffigur cyfatebol ar gyfer yr Alban, maen nhw newydd ddyblu'r buddsoddiad y maen nhw'n ei roi i mewn i deithio llesol—hynny yw, cerdded a seiclo—o £40 miliwn—sy'n llawer mwy na ni i ddechrau—lan i £80 miliwn. Dyna Lywodraeth sydd yn rhoi priod le i'r maes yna o bolisi nad ydym ni'n ei wneud ar lefel cenedlaethol ar hyn o bryd.
A oes yna gyfraith yn yr Alban sy'n mynnu y dylai fod rhwydwaith mewn lle er mwyn hybu cerdded a seiclo? Na, o beth rydw i'n deall. Ni, wrth gwrs, yw'r wlad sy'n gwneud hwn. Y cam nesaf yw sicrhau bod y mapiau rhwydwaith integredig—maen nhw wedi, fwy neu lai—wedi cael eu rhoi mewn i ni fel Llywodraeth. Mae'n rhaid i'r rheini, wrth gwrs, gael eu hystyried, ac rydym ni'n moyn sicrhau bod y mapiau hynny yn gadarn fel sylfaen i adeiladu teithio llesol yn y pen draw.