– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Gyfnod 4 o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol ar bapur y drefn y prynhawn yma.
Bydd gan bron i chwarter yr holl blant a phobl ifanc ryw fath o anghenion dysgu ychwanegol yn ystod eu haddysg. Mae'r system bresennol o gymorth yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl, ac rydym yn gwybod nad yw bellach yn addas at y diben. Ers dros ddegawd, mae adroddiadau ac adolygiadau wedi herio'r Llywodraeth i ddod o hyd i ffordd fwy effeithiol a llai gwrthwynebus i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth iawn ac yn ei gael yn gyflym, er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu potensial llawn. Y Bil hwn yw sylfaen ein rhaglen uchelgeisiol i drawsnewid y system bresennol. Mae wedi bod yn hir iawn yn cyrraedd. Dyna pam y mae heddiw, pen-blwydd ei gyflwyno, mor bwysig; yn bwysig ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ie, ond yn bwysicach fyth, ar gyfer y cannoedd ar filoedd o bobl ifanc a theuluoedd y bydd y system anghenion dysgu ychwanegol newydd o fudd iddyn nhw.
Mae'r Aelodau yn ymwybodol o 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl', ein cynllun ar gyfer darparu system addysg sy'n ffynhonnell o falchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. Mae ein rhaglen drawsnewid ADY yn agwedd allweddol ar hyn ac rwy'n falch ei bod wedi cyrraedd y cyfnod hwn. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fy rhagflaenwyr yn hyn o beth a'r Cynulliad diwethaf am gyflwyno'r darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth. Rwy'n ddiolchgar yn arbennig i gyn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, am arwain y Bil drwy'r cyfnodau craffu. Mae'n fraint gennyf i allu helpu i'w lywio drwy ei gyfnodau terfynol ac i'r llyfrau statud, ac, yn hollbwysig, tuag at ei weithredu.
Dywedodd y Gweinidog ar y pryd ddau beth ar ddechrau'r daith ddeddfwriaethol hon. Dywedodd
'Hoffwn gael Deddf dda, ac nid Bil cyflym' ac nad oedd gan y Llywodraeth fonopoli ar syniadau da. Mae digwyddiadau y llynedd, fel y mae'r Bil hwn wedi symud yn ei flaen, wedi ei brofi'n iawn ynghylch y ddau beth yma. Mae'r Bil yn gynnyrch blynyddoedd o gyd-adeiladu, datblygu ar y cyd, ymgysylltu, profi a dysgu, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud yn ddwfn ac, yn wir, yn aml yn arwain y ffordd trwy gydol y broses. Pan gafodd ei gyflwyno flwyddyn yn ôl, roedd y Bil eisoes wedi'i ystyried a'i gefnogi'n dda, ond nid oes unrhyw amheuaeth ei fod wedi elwa ar y gwaith craffu a wnaed gan y Cynulliad hwn.
Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeiryddion, aelodau a staff y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Cyllid am eu hystyriaeth ddiwyd, sydd wedi cryfhau cydnerthedd y Bil. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i lefarwyr Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru yn arbennig am eu cymorth a'u her. Bu eu cyfraniadau o fudd uniongyrchol i'r Bil mewn meysydd allweddol, gan gynnwys swyddogaeth y gwasanaeth iechyd a safle'r Gymraeg yn y system newydd.
Hoffwn i sôn yn gyflym am ddatblygiad diweddar iawn a fydd yn mynnun mân ddiwygiad i'r Bil pan ddaw'n Ddeddf. Nid oedd penodiadau i'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn rhan o'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn flaenorol, a oedd yn rhyfedd. Gwnaeth gorchymyn a wnaed gan Weinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr, datrys hynny am y tro cyntaf ac mae hynny i'w groesawu. O ganlyniad, rydym yn cynnig diwygio adran 91 o'r Bil drwy orchymyn. Bydd hyn yn dileu swyddogaeth gytuno yr Arglwydd Brif Ustus a'r llywydd. Bydd yn cysoni penodiadau i'r tribiwnlys addysg yn y dyfodol ac yn normaleiddio sefyllfa, fel sydd wedi digwydd i TAAAC. Mae cytundeb â Llywodraeth y DU ar gyfer ymdrin â hyn, sydd mewn gwirionedd yn fater technegol, bach.
Hoffwn i ganolbwyntio ar y dyfodol nawr wrth inni symud i gyfnod newydd a chyffrous. Mae'r rhaglen drawsnewid yn flaenoriaeth yr ydym ni i gyd yn ei rhannu, mi wn. Ddoe, nodais sut yr ydym yn bwriadu gweithredu'r Bil a'r diwygiadau ehangach. Bydd heriau o'n blaenau, ond rydym mewn sefyllfa dda gyda phartneriaid cyflawni allweddol sy'n ein cefnogi ni i sbarduno'r newid. Bydd yr arweinwyr trawsnewid newydd a fydd yn dechrau eu swyddi yn y flwyddyn newydd yn helpu i gyflymu'r cynnydd hyd at 2020, a thu hwnt.
I gloi, Llywydd, gadewch imi bwysleisio'r cyfle gwirioneddol a dilys sydd gennym ni heddiw. Bydd pasio'r Bil hwn yn gam enfawr tuag at wella cyfleoedd bywyd ein dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai eu bod yn lleiafrif yn ein system addysg, ond mae ganddyn nhw hawl i degwch yn eu haddysg, gan sicrhau dyfodol llwyddiannus ar eu cyfer, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonom ni yn y Siambr hon eisiau ei weld.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad agoriadol heddiw yn y ddadl bwysig hon? Rwy'n rhannu ei huchelgais y dylai fod gennym system anghenion dysgu ychwanegol sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac sy'n ymdrin â rhai o ddiffygion y system anghenion addysgol arbennig presennol, sydd i'w gweld yn amlwg iawn yn llawer o'r gwaith achos a gawn fel Aelodau Cynulliad. Nid oes yn rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod gwelliannau eraill y gellid bod wedi'u gwneud i'r Bil, a dyna pam y cyflwynais i welliannau yng Nghyfnod 3, yn enwedig ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol a'r ffaith nad yw ei system unioni yn cyd-fynd yn llwyr ac yn gynnil â'r system ADY newydd a fydd yn ymddangos o ganlyniad i'r Bil hwn.
Ond wedi dweud hynny, rwy'n credu bod y Bil hwn yn rhywbeth yr ydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno ei ganmol. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n dymuno ei weld yn cael ei weithredu cyn gynted â phosibl er mwyn i ni fod â'r system honno y mae rhai pobl eisoes yn elwa arni oherwydd y cynlluniau treialu a gychwynnwyd gan ddeiliad blaenorol y portffolio. A hoffwn i dalu teyrnged i ddeiliad blaenorol y portffolio am y modd yr ymgysylltodd ef â'r pwyllgor yn ystod Cyfnodau 1 a 2, a hefyd am y modd y gwnaeth yn siŵr bod rhai o'i swyddogion ar gael ar ein cyfer hefyd o bryd i'w gilydd, a'r trafodaethau a gawsant gyda mi a'm swyddfa i helpu i ddatblygu ein syniadau ni hefyd, o ran y modd o fwrw ymlaen â'r Bil.
Roeddwn i'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion a gwelliannau yn ymwneud â sicrhau bod confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn a phersonau anabl yn cael eu hymgorffori ar wyneb y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y system newydd hon yn gweithredu mor fuan â phosibl. Gwnaethoch chi gyfeirio at y broses graffu a sut y mae honno wedi helpu i wella'r Bil hwn. A gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r pryderon a godais yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2 ynghylch pobl ifanc sy'n cael eu rhoi dan gadwad am resymau iechyd meddwl, a gwneud yn siŵr bod gennym y ddarpariaeth ddigonol ar eu cyfer pe bai gan y bobl ifanc hyn anghenion dysgu ychwanegol hefyd? Ac roeddwn i'n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltu a'r sicrwydd yr ydych chi wedi'i roi inni, drwy'r gwelliannau sydd bellach wedi eu gwneud, na fydd eu hanghenion yn cael eu hesgeuluso.
Ac yn olaf, rwyf i ychydig yn siomedig, yn amlwg, y bu'r cyfeiriad at orchymyn Llywodraeth y DU mor hir yn cael ei nodi, ac ond newydd ei godi ar gam mor hwyr. Rwy'n credu bod hyn yn bwrw amheuaeth, mewn gwirionedd, ar sut y mae adrannau yn y fan yma yn gwirio beth sy'n digwydd yn San Steffan a goblygiadau posibl hynny i ni yn y fan hyn yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn wir sut y mae'n effeithio ar y pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud. Gallaf glywed pobl yn rhygnu yn y Siambr ar y sylwadau hynny, ond rwy'n credu o'n trafodaeth ddydd Gwener, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn sylweddoli bod hwn yn bwynt y mae angen ei wneud, ac yn wir, eich bod yn rhannu rhai o'r pryderon hynny. Rwy'n credu felly ei bod yn bwysig, pan fo pethau yn digwydd yn San Steffan a allai fod â goblygiadau ar gyfer ein deddfwriaeth ni, ein bod yn codi'r rheini cyn gynted â phosibl. Gallwn ni achub yr un hwn—dyna pam yr ydym ni'n cefnogi Cyfnod 4 heddiw, ac rydym ni'n mawr obeithio y bydd y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled Cymru gyfan.
A gaf i ategu'r diolchiadau sydd wedi cael eu talu i bawb sydd wedi chwarae eu rhan, o'r budd-ddeiliaid i gynrychiolwyr y Llywodraeth ac aelodau'r pwyllgor, a swyddogion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd, wrth i'r Bil yma fynd ar ei daith drwy'r Senedd? Nid oes yna amheuaeth fod yna gonsensws wedi bod o'r cychwyn am yr angen i ddiwygio y maes anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi clywed yn barod am y teimlad fod y ddeddfwriaeth bresennol wedi dyddio a'i bod wedi arwain at system orgymhleth a oedd yn creu gormod o wrthdaro ac anghydweld, ac hefyd fod y darlun yn anghyson ar draws Cymru. Mae 'loteri cod post' yn derm sy'n cael ei ddefnyddio mewn sawl cyd-destun, ond mae'n sicr yn wir yn yr achos yma o safbwynt y darlun o ddarpariaeth sydd ar gael ar draws Cymru.
Mi oedd deddfwriaeth newydd, mwy addas ei phwrpas yn rhan o faniffesto Plaid Cymru, wrth gwrs, yn etholiad y Cynulliad. Mi oedd hefyd yn rhan o'r cytundeb rhwng fy mhlaid i a'r Llywodraeth, ac rwy'n falch ein bod ni wedi cyrraedd fan hyn heddiw a'n bod ni mewn sefyllfa i gwblhau'r broses, o safbwynt y Senedd, beth bynnag, a throi y Bil yn Ddeddf. Rwyf hefyd eisiau cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog blaenorol yn sicr wedi gwrando ar y materion a godwyd gan y budd-ddeiliad, gan y pwyllgor, gen i ac eraill, ac wedi ymateb yn bositif ar lawer iawn o'r rheini yn ogystal. Nid yw hynny i ddweud bod y Bil yn union fel y byddwn i yn dymuno iddo fe fod, ond yn sicr mae e yn wahanol a thipyn yn well na'r un a osodwyd ar y cychwyn.
Fe lwyddom ni i gryfhau yn sylweddol, fel rydym wedi clywed, dyletswyddau o safbwynt confensiynau'r cenhedloedd unedig ar hawliau'r plentyn a phobl anabl. Roedd hynny'n argymhelliad cryf gan y pwyllgor ac yn rhywbeth roedd Plaid Cymru yn ei arddel o'r cychwyn. Hefyd, fel rydym wedi clywed, mi fydd awdurdodau lleol, byrddau llywodraethu ysgolion, ac yn y blaen, hefyd angen ystyried anghenion penodol siaradwyr Cymraeg sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n falch hefyd ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau bod darpariaeth cynllunio gweithlu hirdymor yn ei lle yn y Bil er mwyn sicrhau bod yna weithlu digonol ar gael i gwrdd ag anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ym mha bynnag iaith, mewn blynyddoedd i ddod.
Mae cynnwys cyflyrau meddygol yn y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol yn sicr yn ganlyniad cadarnhaol, ac mae templed Cymru gyfan ac amserlenni clir ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu annibynnol, darpariaeth ar gyfer plant cyn oed ysgol a phobl ifanc mewn addysg bellach, a darparu eiriolaeth a chyngor annibynnol i gyd yn elfennau cadarnhaol.
Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn y maes ADY yn fêl i gyd. Roeddem ni'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi rhoi pwerau llawn dros iechyd i'r tribiwnlys addysg, sy'n amlwg yn un maes yr ydym ni'n anghytuno arno. Y bwriad ar gyfer y Bil a'r diwygiadau ehangach oedd creu system symlach, haws ei llywio, sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae cadw dwy system o unioni—un ar gyfer addysg, un ar gyfer iechyd—ar gyfer sector lle ceir gorgyffwrdd rhwng y ddau yn aml, rwy'n credu, yn tanseilio hynny rhywfaint ac rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle a gollwyd, fel y mae peidio â chynnwys dysgu seiliedig ar waith yn narpariaethau'r Bil. Rydym ni'n sôn yn aml am barch cydradd, a dywedir wrthym gan randdeiliaid bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o fynd i addysg alwedigaethol. Rwy'n credu bod hepgor dysgu seiliedig ar waith yn gyfle arall a gollwyd.
Byddwn yn ymgynghori ar y cod anghenion dysgu ychwanegol, wrth gwrs, yn yr hydref, a bydd hynny'n hollbwysig o ran gweithredu'r Bil. Mae llawer o addewidion wedi'u gwneud ynglŷn â chynnwys y cod a gwaith pob un ohonom ni nawr fydd gwneud yn siŵr ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr addewidion hynny. Mae trafnidiaeth, hefyd, yn ffactor pwysig na chafodd le ar wyneb y Bil, ond bydd yn sicr yn rhan allweddol o'r cod. Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi'i drafod yn helaeth yn y Pwyllgor yn rheolaidd ac mae angen rhoi llawer o sylw iddo yn y Cod.
Nawr, nid yw hynt y ddeddfwriaeth wedi bod yn ddi-her, yn amlwg. Ddwywaith y flwyddyn hon bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ail-gyfrifo faint y byddai'r ddeddfwriaeth yn gostio i'w gweithredu, ac arweiniodd hynny at rywfaint o oedi yn y broses, ac, fel yr ydym ni eisoes wedi clywed yn y dyddiau diwethaf, mae materion sy'n ymwneud â phenodiadau Tribiwnlys wedi dod i'r amlwg. Felly, gallaf ond dweud, yn amlwg, y bydd angen dysgu gwersi o'r profiadau hynny. Ond, wrth edrych i'r dyfodol, byddwn i'n dweud ei bod hi'n hanfodol bellach bod digon o adnoddau yn cael eu darparu i dalu'r costau gweithredu a bod y gweithlu yn gwbl barod ar gyfer yr hyn a fydd yn newid sylfaenol, ac mae'n rhaid imi ddweud, ar y cyfan, newid er gwell i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Gyda'ch caniatâd chi, Llywydd, hoffwn wneud un pwynt olaf. Dywedodd un blaid yn y Cynulliad hwn wrthym ni pan ddaethant yma eu bod yn dod yma i chwyldroi pethau. Mae'r blaid honno wedi bod yn anweledig i raddau helaeth dros y 12 mis diwethaf o graffu a diwygio'r ddeddfwriaeth hon. Trwy gydol y cyfnod pwyllgor, ni chafwyd yr un gwelliant. O'r cannoedd o welliannau a gyflwynwyd, ni chafwyd yr un gwelliant gan UKIP. Ar adeg y cyfarfod llawn, dim un gwelliant. Ni ddywedwyd yr un gair o blaid na fel arall ar unrhyw agwedd ar y ddeddfwriaeth hon. Mae hynny'n fy arwain i ddod i'r casgliad naill ai nad oes ganddyn nhw unrhyw farn ar hyn, sy'n anodd ei gredu am blaid sydd fel arfer yn eithaf cryf ei barn ar y rhan fwyaf o faterion, neu nad ydyn nhw wedi cymryd rhan yn y broses hon o gwbl, sy'n gwneud anghymwynas â'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf angen y ddeddfwriaeth hon, mae'n anghymwynas â'ch etholwyr, ac mae'n anghymwynas â'r sefydliad hwn. Mae hyn wedi fy ngwneud i, a llawer o'r rhanddeiliaid sydd wedi codi'r mater hwn gyda mi, i deimlo'n rhwystredig, wedi ein siomi ac yn flin iawn, iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i'r ddadl. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Y cyfan y gallaf i ei ddweud, Llyr, mewn ymateb i'r sylwadau a wnaethoch chi, yw nad yw'r mater yn ymwneud â faint weithiau, mae'n ymwneud ag ansawdd, ac rwyf i'n ddiolchgar iawn i grŵp Plaid Cymru ac i grŵp y Ceidwadwyr am ansawdd eu gwaith ar y ddeddfwriaeth hon wrth iddi fynd yn ei blaen. Rwy'n credu y dylid cydnabod hynny. Fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, rwy'n credu bod hwn yn well darn o ddeddfwriaeth oherwydd y cyfraniadau sydd wedi'u cyflwyno gan y ddwy blaid, a dyna sut y dylai fod.
Mae Llyr yn hollol gywir: roedd cefnogaeth drawsbleidiol yn etholiadau'r Cynulliad a chydnabyddiaeth nad oedd y sefyllfa bresennol yn ddewis a bod angen newid. Rwy'n gobeithio, wrth inni symud ymlaen â'r broses hon, y byddwn ni'n cyflawni'r newid hwnnw yr oedd ei angen ar gymaint o blant, eu rhieni, eu gofalwyr ac, yn wir, y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r teuluoedd hynny.
Darren, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged hefyd i Angela Burns, a gymerodd ddiddordeb mawr yn y mater hwn yn y Cynulliad blaenorol sydd, oherwydd newidiadau i bortffolios, heb allu bwrw ymlaen â'r darn hwn o deddfwriaeth. Ond rwy'n gwybod ei bod hi'n cadw llygad agos ar yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud yn y pwyllgor a'r hyn yr ydych chi wedi bod yn ei wneud wrth i chi gysgodi'r darn hwn o ddeddfwriaeth ar ei hynt, oherwydd gwn am ei hymrwymiad personol i'r agenda hon.
Mae Darren yn llygad ei le: nid ydym ni'n eistedd yn ôl ac yn aros am gydsyniad Brenhinol; mae newid eisoes yn digwydd mewn ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyllido prosiectau arloesi amlasiantaeth rhanbarthol i ddatblygu a phrofi agweddau ar y dull newydd hwn. Felly, mae newid yn digwydd yn awr.
Llyr, byddwch chi wedi clywed yn y ddadl Cyfnod 3 ymrwymiadau'r Llywodraeth ynghylch y mater o drafnidiaeth a'r mater dysgu seiliedig ar waith. Efallai bod cyfleoedd, fel yr ydym ni wedi dweud o'r blaen, rhwng contractau gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cychwyn ar gyfres ehangach o ddiwygiadau i hyfforddiant ac addysg ôl-orfodol, felly mae yna gyfleoedd i edrych ar y materion hyn.
Mae'n iawn, Llywydd, nad yw deddfwriaeth yn rhwydd weithiau. Wrth gwrs, mae'r hen ddywediad cyfarwydd hwnnw am ddeddfwriaeth a selsig—mewn gwirionedd dydych chi ddim eisiau bod yn rhy gyfarwydd â'r broses o beth sy'n digwydd; yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y prosiect a gewch chi yn y pen draw. A hoffwn i gymeradwyo'r cynnyrch penodol hwn i'r Cynulliad. Rwy'n gobeithio, gyda chefnogaeth Aelodau ar draws y Siambr heddiw, y gallwn ni greu diwrnod hanesyddol arall, y tro hwn ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn, ond gadewch inni beidio â chael ein twyllo: dim ond dechrau'r broses yw'r Bil hwn, oherwydd y cod a'r is-ddeddfwriaeth a newidiadau mewn agwedd ac arferion ar lawr gwlad fydd mewn gwirionedd yn gwneud y gwahaniaeth, ond ni allwn symud ymlaen heb y ddeddfwriaeth hon. Felly, rwy'n ei chymeradwyo i gyd-Aelodau ar draws y Siambr.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, rwy'n gohirio'r pleidleisio ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.