1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan grwpiau agored i niwed yng Nghymru fynediad at raglenni cyflogadwyedd? OAQ51455
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau, yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, ein bod yn cynnig cymorth wedi'i deilwra, a'n bod yn ymwneud llawer â'r cymunedau. Rydym yn rhoi cymorth i aelwydydd di-waith, i aelwydydd heb waith, i bobl sy'n anabl, wedi colli eu swyddi, ac wrth gwrs, i bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Ac rydym yn mentora a chefnogi pobl i sicrhau eu bod yn gallu datblygu rhyw fath o gydnerthedd, ac i sicrhau eu bod yn barod, felly, i gael gwaith.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Ond nododd Mencap Cymru yn ddiweddar fod rhwystrau enfawr yn wynebu pobl ag anawsterau dysgu sy'n awyddus i weithio, yng Nghymru. Maent yn amcangyfrif, o'r 14,000 o bobl ag anableddau dysgu y gŵyr y gwasanaethau cymdeithasol amdanynt, mai 800 ohonynt yn unig sydd mewn gwaith. Golyga hynny lai na 6 y cant, Weinidog, ac yn bendant, nid yw hynny'n dderbyniol. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddarparu rhaglenni cyflogadwyedd i'r gweithlu posibl hwn nad yw'n cael ei ddefnyddio, i raddau helaeth, ac i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o fanteision cyflogi rhywun sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru?
Diolch. Yn sicr. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r agenda hon. Yn y flwyddyn newydd, fe welwch y byddwn yn cyflwyno cynllun gweithredu cyflogadwyedd, a bydd rhan o'r cynllun gweithredu hwnnw yn ymwneud â sicrhau bod pobl—. Mae gennym raglen arbennig, Cymru'n Gweithio, a phan fydd pobl yn dod drwy borth penodol—bydd pawb yn dod drwy borth penodol, gan fod cymaint o wahanol raglenni ar hyn o bryd, mae'n anodd i bobl wybod ble i fynd—byddwn wedyn yn nodi beth yw eu hanghenion ac yn eu cyfeirio i'r mannau cywir. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae cymaint o wahanol grwpiau, rydym yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu symleiddio er mwyn ei gwneud yn haws i bobl anabl gael y mynediad a'r cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae pobl sy'n dioddef o salwch meddwl yn cael trafferth arbennig i ganfod llwybr i waith neu yn ôl i waith ar ôl cyfnod o salwch. Un ffordd o hwyluso mynediad at waith ydy cynnig lleoliad, sy'n golygu nad oes angen mynd drwy'r broses draddodiadol o gyfweliad a'r pryder a'r straen mae hynny'n gallu ei olygu. Pa ymdrechion y mae'r Llywodraeth wedi eu gwneud i annog lleoliadau o'r math yma? A fyddwn ni'n gweld y math yna o beth yn y cynllun gweithredu cyflogaeth yr oeddech chi'n sôn amdano fo, achos mi fyddai hynny yn hwyluso a chefnogi unigolion â phroblemau iechyd meddwl i ailymuno â'r gweithle?
Diolch yn fawr. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar yr agwedd yma o salwch meddwl. Mae yna gymaint o hynny'n digwydd yng Nghymru, ac mae'n bwysig ein bod ni yn sicrhau ein bod ni'n gweithio i'r unigolyn a sicrhau ein bod ni'n newid pethau ar gyfer yr unigolyn. Beth rydym ni'n trio ei wneud yn y cynllun newydd yma yw sicrhau ein bod ni'n gweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, byddwn ni'n gweithio gyda'r adran iechyd, lle yn amlwg mae'n rhaid i ni blethu'r pethau yma at ei gilydd. Mae'r syniad yma o leoliad yn syniad y byddaf i nawr yn ei gymryd mewn i ystyriaeth pan fyddwn ni'n meddwl am y cynllun newydd yma. Felly, rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r pwynt yma. Diolch.
Rhianon Passmore.
Diolch, Lywydd. Nawr, fe ddymunoch chi Nadolig llawen i mi ddoe, a hoffwn ddymuno'n dda i chi ac i'ch teulu heddiw. Nadolig llawen i chi i gyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, wrth annerch Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog newydd y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, nad yw cyflogadwyedd yn ymwneud â swyddi a sgiliau yn unig; mae'n ymwneud â sicrhau bod pob agwedd ar bolisi'r Llywodraeth—addysg, iechyd, tai a chymunedau—yn cydweithio i gynorthwyo pobl i gael swyddi cynaliadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn ffordd gyfannol i sicrhau bod grwpiau agored i niwed yn elwa o fentrau polisi'r Llywodraeth? Weinidog.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon. Yn sicr. Rydym yn ceisio gweithio'n drawsadrannol. O ystyried bod gennym gyllideb o oddeutu £15 biliwn, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o bob ceiniog, ac mae gweithio'n drawsadrannol yn gwneud synnwyr llwyr. Yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud yw cyfarfod yn annibynnol ac yn unigol gyda gwahanol Weinidogion i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar yr agenda hon. Felly, cyfarfûm â fy nghyd-Aelod yma yr wythnos diwethaf i drafod sut y gallwn fod o gymorth, er enghraifft, mewn perthynas â gofal. Ni all llawer o bobl ddychwelyd i'r gwaith gan fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Felly, sut rydym yn plethu'r pethau hyn gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn gysylltiedig ac y gall pobl ddychwelyd i'r gwaith? Nid geiriau'n unig yw'r syniad hwn o waith trawsadrannol; rydym yn mynd i'r afael â'r manylion o ran sut y mae hynny'n digwydd yn ymarferol.