– Senedd Cymru am 3:23 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a galwaf ar Steffan Lewis i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6576 Steffan Lewis
Cefnogwyd gan Adam Price, Dai Lloyd, Leanne Wood, Rhun ap Iorwerth, Siân Gwenllian, Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.
Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil parhad i Gymru yn ffurfiol. Rwyf hefyd am gofnodi, Lywydd, nad cyflwyno na hyd yn oed deddfu Bil parhad i Gymru yw'r opsiwn a ffafrir gan Blaid Cymru, ac ni fu erioed yn opsiwn a ffafrir gennym.
Yn wir, yn sgil y refferendwm Ewropeaidd, rwy'n cofio awgrymu bod pedair Llywodraeth y DU yn dod at ei gilydd, gan ddefnyddio templed ymuno wedi'i wrthdroi efallai fel ffordd o sefydlu sut y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a sut y gallwn ddarparu ar gyfer cymhlethdodau cyfansoddiadol yr undeb hwn. Ni fyddai hynny wedi bod yn hawdd, ni fyddai wedi bod yn broses syml, a byddai wedi cymryd amser. Ond honno fyddai'r broses orau wedi bod, y broses decaf, a byddai wedi golygu bod y DU mewn sefyllfa i sbarduno erthygl 50 gyda'i llygaid yn llydan ar agor. Gallai Senedd y DU, felly, fod wedi ystyried Bil ymadael llawer mwy boddhaol a fyddai, i bob pwrpas, wedi cael ei ysgrifennu a'i gytuno ar yr un pryd gan bob un o Lywodraethau'r DU. Yn hytrach, Lywydd, nid yw Llywodraeth y DU wedi dangos fawr mwy na dirmyg tuag at y gwledydd datganoledig.
Bydd yr Aelodau'n cofio fy mhryderon ynghylch paragraff drwgenwog 4.2 o Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar gyfer yr hyn a elwid ar y pryd yn Fil diddymu mawr, a oedd yn camgyfleu'n fwriadol sut y mae'r DU yn cytuno i fframweithiau cyffredin yr UE sy'n ymwneud â materion datganoledig. Rhagwelodd Plaid Cymru yn gywir ar y pryd fod yr enghraifft hon o gamgyfleu yn ffordd o osod y sylfeini i San Steffan allu cipio grym, a dyma ni bellach gyda'r hyn a elwir yn Fil ymadael â'r UE, sy'n enghraifft amlwg o gipio grym os bu un erioed.
Bydd cymal 11 y Bil yn gosod cyfyngiadau newydd ar allu'r Cynulliad hwn i ddeddfu. Bydd pwerau dros faterion a ddatganolwyd ers tro, fel amaethyddiaeth a diogelu'r amgylchedd, yn cael eu cipio gan Weinidogion yn San Steffan. Bydd penderfyniadau a fydd yn effeithio'n fawr ar fywoliaeth ffermwyr Cymru, er enghraifft, yn cael eu gwneud yn San Steffan gan rai sydd hefyd yn awyddus iawn i daro bargeinion masnach newydd gyda gwledydd fel America, Awstralia a Seland Newydd doed a ddelo.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo y bydd y Cynulliad yn cael ei gryfhau, gan gynnig pwerau newydd sylweddol, er nad ydynt wedi gallu nodi unrhyw un ohonynt hyd yn hyn. Ers i'r larymau ddechrau canu, mae Plaid Cymru wedi galw am weithredu deddfwriaethol unochrog ar ffurf Bil parhad, nid am ein bod wedi dymuno i Gymru fod o dan y bygythiad hwn, ond am fod Cymru o dan y bygythiad hwn.
Lywydd, pan wyf wedi am y Bil parhad yn y gorffennol, mae rhai o'r Aelodau yma wedi cwestiynu fy nghymhellion, ac efallai wedi amau ei fod yn rhan o gynllwyn gan genedlaetholwyr Cymreig sydd o blaid aros yn yr UE i atal Brexit ac i ddymchwel y wladwriaeth Brydeinig rywsut. Wel, rwyf wedi dysgu dros yr ychydig wythnosau diwethaf fod bywyd yn rhy fyr i beidio â dweud yr hyn rydych yn ei gredu a chredu'r hyn rydych yn ei ddweud. Rwy'n genedlaetholwr Cymreig, a byddaf bob amser yn credu mewn dyfodol Ewropeaidd i fy ngwlad, ond pa un a oeddech o blaid gadael neu aros, a pha un a ydych yn unoliaethwr neu'n genedlaetholwr, mae hynny'n amherthnasol i fater y Bil parhad. Mae pa un a ddylech gefnogi Bil parhad ai peidio yn dibynnu ar sut rydych yn ateb un cwestiwn syml: a ydych yn credu bod refferendwm 2016 yn darparu mandad i Lywodraeth y DU gipio pwerau oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol hwn? Mae Plaid Cymru yn dweud nad yw'n darparu mandad o'r fath, yn enwedig pan addawyd y gwrthwyneb yn llwyr i bobl Cymru yn ystod y refferendwm hwnnw.
Lywydd, mae amseru hefyd yn bwysig ac ni allaf ddeall pam y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gwthio'r mater hwn hyd at y funud olaf. Ni dderbyniodd Llywodraeth y DU unrhyw un o'r gwelliannau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â'r Bil ymadael; torrodd Llywodraeth y DU ei haddewid ei hun hyd yn oed, i gyflwyno ei gwelliannau ei hun er mwyn gwella'r Bil yn ystod y Cyfnod Adrodd. Beth arall sydd angen iddynt ei wneud i fygwth datganoli yng Nghymru cyn ein bod yn barod i weithredu i amddiffyn ein democratiaeth a enillwyd drwy ymdrech galed?
Lywydd, gallwch fod yn sicr: ar ôl iddynt gael eu dwylo ar amaethyddiaeth Cymru, amgylchedd Cymru, byddant yn rhoi mesurau ar waith a allai fod yn anwrthdroadwy pe baem yn cael y pwerau hynny yn ôl byth. Mae gennym gyfnod byr o amser i weithredu er budd ein dinasyddion a'r hawliau a'r safonau sy'n bwysig iddynt, yn ogystal â'r strwythurau democrataidd y maent wedi eu cymeradwyo mewn dau refferendwm. Gadewch i ni fachu'r cyfle hwn. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol. [Cymeradwyaeth.]
Er nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn tynnu cymwyseddau presennol yn ôl oddi wrth y Cynulliad mewn gwirionedd, nid oes dyddiad terfyn ar gyfer y cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig a grëid gan y model cyfraith yr UE a ddargedwir y byddai'n ei gyflwyno. Yn hytrach, rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu bod yn rhaid i unrhyw fframwaith cyffredin mewn unrhyw faes gael ei gytuno, ac nid ei orfodi gan Llywodraeth y DU, ac yn ychwanegol at hynny, byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn ar y sail ei fod yn nodi cynnig ar gyfer Bil parhad i Gymru yn unig.
Fodd bynnag, rydym yn croesawu datganiad Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yr wythnos diwethaf, yn cadarnhau y bydd gwelliannau i gymal 11 y Bil yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan ychwanegu,
Yn anffodus, ni fu'n bosibl cyflwyno gwelliannau yn ystod y cyfnod adrodd, ond rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wella'r bil.
Cawsom sicrwydd yma fod yr ieithwedd a ddefnyddiwyd gan David Mundell yr wythnos diwethaf yn dal i sefyll.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Fel—. Gwnaf, yn sicr.
Diolch i'r Aelod am ildio. A ydych yn cytuno ei bod yn siomedig eu bod wedi cael gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ers mis Tachwedd, eu bod wedi cael gwelliannau ein pwyllgor ers mis Tachwedd—maent wedi cael hen ddigon o amser i edrych arnynt a chynhyrchu eu gwelliannau eu hunain erbyn y Cyfnod Adrodd, sef ddoe a heddiw?
Rwy'n dod at hynny. Rwy'n rhannu'r siom a fynegwyd gan David Lidington, a byddaf yn dod at hynny.
Fel y dywedodd llefarydd cyfansoddiadol Ceidwadwyr yr Alban y penwythnos diwethaf, mae angen diwygio cymal 11 y Bil er mwyn adfer ysbryd Deddf yr Alban.
Ac yn amlwg, drwy gysylltiad, y ddeddfwriaeth sy'n gymwys yma. Dywedodd:
Ceir egwyddor sylfaenol yn sail i ddatganoli yn yr Alban, ac mae wedi bod yn sail iddo ers ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl, sef bod popeth yn cael ei ddatganoli oni chaiff ei gadw'n ôl yn benodol.
Dywedodd, dyna'r egwyddor y mae angen diwygio cymal 11 i gydymffurfio â hi a dyna yw'n safbwynt ninnau hefyd... Mae'n gymharol hawdd gwneud hynny. Nid oes yn rhaid i hyn fod yn anodd.
A gaf fi ddweud mai dyna yw safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yma hefyd?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Hefyd, fe gefnogom ni'r—.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Yn gryno iawn, yn debyg i ddadl libertaraidd ar wyliadwriaeth gyhoeddus—os nad oes gennych unrhyw beth i'w guddio, nid oes gennych unrhyw beth i'w ofni—onid yw'n wir hefyd, os nad oes unrhyw beth i'w ofni o ran tanseilio uniondeb datganoli o ganlyniad i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud, pam na ddylid cael sicrwydd dwbl a chyflwyno Bil parhad hefyd?
Rwyf wedi dweud ein bod am gefnogi'r cynnig hwn—gobeithiaf y gall hynny roi peth sicrwydd i chi—ond ar y sail a nodwn.
Rydym hefyd wedi cefnogi adroddiad dros dro y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gan gynnwys ei amcan 1, sef cael gwared ar gyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli. Ac er gwaethaf yr holl waith sy'n mynd rhagddo ar y Bil ymadael a'r fframweithiau, nid yw Llywodraeth y DU mewn sefyllfa eto i gyflwyno gwelliannau i gymal 11, deellir bod y dyn newydd yn Swyddfa'r Cabinet, David Lidington, wedi siarad gyda'r Prif Weinidog ar 9 Ionawr ac wedi mynegi siom y diwrnod canlynol nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd eto mewn perthynas â gwelliannau i elfennau datganoli y Bil ymadael. Dywedodd hefyd ei fod wedi ymrwymo i weithio er mwyn dod i gytundeb gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban ac y bydd y gwaith hwn yn dwysáu. Ailadroddwyd yr ymrwymiad hwnnw gan Brif Weinidog y DU hefyd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yn San Steffan. Byddai'n ddefnyddiol felly pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r trafodaethau pellach y mae ef neu'r Prif Weinidog wedi'u cael ynglŷn â'r mater hwn gyda Swyddfa'r Cabinet a Swyddfa Cymru. Diolch.
Yn y tair munud sydd gennyf, codaf i gefnogi'r cynnig hwn. Gwnaf hynny gan fod hwn yn ôl pob tebyg yn gynnig ar y ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysicaf, o bosibl, y gallwn ei chyflwyno yn y Cynulliad hwn. Nid oes gennyf amser i sôn am y manylion, felly rwyf am grynhoi yn gyflym iawn: mae dau fater cyfansoddiadol pwysig ar fin dod gerbron Tŷ'r Arglwyddi. Un yw cynnal confensiwn Sewel, a lle mae Tŷ'r Arglwyddi yn gweithredu i bob pwrpas fel adain gyfansoddiadol y Senedd, na fydd yn deddfu heb gynnig cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad hwn, cynnig y mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, ei bod yn amhosibl inni ei roi o ystyried y Bil. A'r ail yw cefnogaeth y statudau datganoli, a fyddai'n galw am gydsyniad y Siambr hon yn y meysydd y mae'r Senedd eisoes wedi'u datganoli.
Mae'r Bil ar ei ffurf bresennol—gadewch inni fod yn gwbl glir, mae'n Fil parhad ohono'i hun, ond mae'n Fil parhad ar gyfer y wladwriaeth Brydeinig ac yn un sydd hefyd yn ceisio ailganoli'r wladwriaeth Brydeinig. Yn fy marn i, heb unrhyw welliannau clir gan Lywodraeth y DU i dderbyn y statudau datganoli a'r egwyddorion ynghylch datganoli pŵer sy'n sail iddynt, a heb unrhyw warant ynghylch ymreolaeth ariannol i'r Siambr hon—gan fod hynny'n rhan bwysig iawn arall ohono na ddylem ei anghofio, ymreolaeth ariannol cyllideb Cymru, rhywbeth y mae'r Bil ymadael hefyd yn ceisio'i danseilio—golyga hynny fod y sefyllfa'n gwbl annerbyniol. Mae'n drueni fod Llywodraeth y DU, ar bob cam, naill ai wedi methu ymgysylltu neu wedi methu cymryd rhan yn briodol gyda'r Llywodraeth hon yn y broses o ddrafftio setliad cyfansoddiadol priodol o fewn y Bil ymadael.
Nid oes unrhyw resymeg gyfansoddiadol i safbwynt Llywodraeth y DU, gan fod bron bob un o'r pwyllgorau seneddol a phob pwyllgor Cynulliad sydd wedi ystyried y sefyllfa gyfansoddiadol yn cydnabod bod man cychwyn Llywodraeth y DU yn sylfaenol anghywir. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi cael ein gadael, oni bai y ceir newidiadau cyfansoddiadol sylweddol ar y funud olaf gan Lywodraeth y DU, mewn sefyllfa ble rydym yn gofyn 'Beth a wnawn?' Gallwn naill ai aros i weld a yw'r Bil ymadael yn pasio ar ba ffurf bynnag—ac nid yw hynny'n sicr o ddigwydd o bell ffordd beth bynnag—neu gallwn ddweud, ein hunain, 'mae'n bryd i ni ddatgan beth yw sefyllfa gyfansoddiadol gywir y Cynulliad hwn a sicrhau ei bod ar y llyfrau statud', fel na fydd yr Arglwyddi, pan fyddant yn ystyried y mater hwn, ond yn rhoi sylw i fater cydsyniad deddfwriaethol a Sewel a chynnal y confensiynau cyfansoddiadol hynny yn unig, ond eu bod hefyd yn ystyried deddfwriaeth a basiwyd gennym gyda Chydsyniad Brenhinol sy'n nodi beth yw awdurdod a phwerau cyfansoddiadol y Cynulliad hwn. Diolch.
Diolch i Steffan Lewis am berl o araith yn agor y ddadl yma, a oedd yn crynhoi'r sefyllfa rydym ni ynddi hi ar hyn o bryd a pha mor hwyr yw e yn y dydd ar gyfer yr egwyddorion hyn.
Rydw i eisiau ffocysu ar yr amgylchedd ac amaeth yn y cyd-destun yma. Mae'n bwysig i gofio bod rhai o'r egwyddorion mwyaf pwysig i ni yn yr amgylchfyd wedi deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae'r egwyddor o fod yn ochelgar—the precautionary principle—wedi deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a hefyd yr egwyddor mai hwn sy'n llygru sy'n talu. Nawr, mae'r ddwy egwyddor yma yn gynsail i'r cyfreithiau rydym ni'n eu pasio yn y lle hwn parthed yr amgylchedd, ac, wrth i ni ymadael yr Undeb Ewropeaidd, rydw i o'r farn bod pobl yng Nghymru am gadw'r egwyddorion hyn, a'r ffordd fwyaf hwylus o sicrhau hynny, wrth gwrs, yw cefnogi Bil parhad.
Y trydydd peth sydd yn deillio o faes yr amgylchfyd yn y cyd-destun yma yw bod gan ddinasyddion Cymru ar hyn o bryd hawl i fynd i Lys Cyfiawnder Ewrop er mwyn cael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol, ac nid oes yna sicrwydd wedi cael ei roi a'i diogelu yn y Bil gadael yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod yna fodd mynd at gyfiawnder amgylcheddol wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydw i'n meddwl bod yr egwyddor yna, hefyd, wedi bod yn hollbwysig. Ond heddiw roeddwn i'n gofyn cwestiwn i'r Gweinidog Hannah Blythyn ynglŷn â'r ffaith bod yna achos llys yn erbyn Llywodraeth Cymru parthed llygredd awyr. Mi ddylem ni fod yn diogelu hawl dinasyddion i herio unrhyw Lywodraeth—y Llywodraeth yn fan hyn, y Llywodraeth yn San Steffan—ar sail eu methiannau nhw yn y maes amgylcheddol. Mae hynny wedi'i sicrhau yn y system bresennol sydd gyda ni, ac mae'n rhaid cael Bil parhad i sicrhau'r mynediad yna yn ogystal.
Yr ail egwyddor yn y maes amaeth yw hyn: os rydym ni'n gweld bod dwylo blewog San Steffan ar ein harian ni, sydd ar hyn o bryd wedi'i diogelu o dan CAP, ac sydd ar hyn o bryd yn ddwywaith yn fwy na fuasem ni'n cael o dan unrhyw drefniant fformiwla Barnett—unwaith mae dwylo blewog San Steffan yn mynd â'r arian yna, bydd llai a llai yn cael ei drosglwyddo fel rhan o'r gyllideb. Mi wnaeth Mick Antoniw gyfeirio at hyn. Nid yw'r system bresennol yn diogelu'r gyllideb ar gyfer y lle hwn, ac, yn benodol, nid yw'n diogelu'r llif arian sydd wedi deillio o ffynhonnell CAP ac sydd wedi bod yn gymaint o gynhaliaeth i nifer fawr o ffermwyr, amaethwyr, a chymunedau cefn gwlad yng Nghymru. Felly, ar sail hynny yn unig, dylem ni ddadlau dros Fil parhad.
Rydw i'n annog y Llywodraeth, fel y gwnes i yr wythnos diwethaf—. Fel y dywedais i, peidiwch â thrysto'r Toris, ac fe ddywedoch chi nad ydych chi'n eu trysto ac yn ymddiried ynddyn nhw. Wel, peidiwch felly â chredu bod Tŷ'r Arglwyddi yn ffordd o ddelifro'r gwelliannau rydym ni eisiau eu gweld. Cyhoeddwch y Bil nawr, ar ffurf drafft, fel ein bod ni'n gallu gweld y ffordd ymlaen yn glir, a chyhoeddwch y Bil ar ffurff drafft er mwyn dwyn perswâd ar y Llywodraeth yn San Steffan.
Mae'n amhosibl gwrthwynebu'r cynnig hwn, wrth gwrs, ac eithrio am resymau gwrthnysig, gan mai cynnig 'dalier sylw' yn unig ydyw, ond rwy'n awyddus i ddweud yn glir fy mod i, a fy mhlaid, yn cefnogi'r bwriad sydd wrth wraidd y cynnig hefyd. Nid wyf bob amser wedi arddel y farn honno, oherwydd, yn dilyn yr hyn a ddywedodd Steffan Lewis yn ei araith agoriadol rymus heddiw, roeddwn wedi meddwl yn wreiddiol efallai mai diben hyn, rywsut, oedd gohirio neu rwystro proses Brexit. Bellach, rwyf o'r farn nad dyna yw'r bwriad sy'n sail iddo, ac mae'n drueni fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud proses Brexit yn llai derbyniol i bobl a oedd yn erbyn y penderfyniad a wnaed gan y cyhoedd yn ymgyrch y refferendwm, a hoffwn pe baem wedi gallu osgoi hynny, ond credaf nad yw'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n arddel y farn honno am ddadwneud y broses bellach. Credaf ei bod yn anffodus, felly, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei gwneud hi'n anoddach nag oedd angen iddi fod i basio'r Bil ymadael â'r UE. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hyn i'w ddisgwyl, mewn ffordd, oherwydd, fel y dywedodd Simon Thomas ddoe, mae'n eithaf rhyfeddol fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gydag esgus sy'n amlwg yn un ffug, yn gwrthod cyfarfod â Phwyllgor Cyllid y Cynulliad hwn.
Roedd y setliad datganoli yn un nad oeddwn yn dymuno'i gael yn y lle cyntaf, ac roedd yn refferendwm—dau refferendwm—lle roeddwn ar yr ochr arall i'r rhai a enillodd, ond rwy'n derbyn penderfyniad y Cymry'n ddiamod, ac mewn gwirionedd, mae wedi bod yn bleser mawr bod yma yn helpu i sicrhau bod hynny'n gweithio. Rwyf wedi dod yn llawer mwy brwdfrydig am y peth o ganlyniad hefyd, ac rwy'n gweld manteision datganoli pellach gan fy mod yn credu mai'r Bil ymadael â'r UE yw'r Bil datganoli eithaf, ar un ystyr, ar gyfer adfer grym i'r bobl. Rwy'n credu mewn datganoli trethi, gan fod hynny'n gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy cyfrifol, ac rwy'n credu mewn cystadleuaeth rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig yn nhermau polisi cyhoeddus. Felly, mae cryn fanteision yn hyn, a hoffwn inni weld y broses o ymadael â'r UE yn cael ei derbyn gan gynifer o bobl â phosibl, ac yn wir, yn cael ei chroesawu gyda brwdfrydedd.
Felly, credaf fod polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn gwirionedd, yn mynd yn groes i les gorau'r rhai ohonom sy'n awyddus i weld Brexit yn cael ei gyflawni mor gyflym ac mor gyflawn â phosibl. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a llongyfarch Steffan Lewis am y ffordd y cyflwynodd y ddadl, mewn araith a oedd yn hyfryd o gryno, yn fy marn i, a hefyd yn gyflawn ac yn rymus.
Cyhoeddodd Sefydliad Bevan adroddiad yn 2016, ar ôl refferendwm yr UE, o'r enw 'Wales After Brexit: An Agenda for a Fair, Prosperous and Sustainable Country'. Yn benodol, gwnaeth y neges agoriadol, sy'n berthnasol i'r ddadl heddiw, gryn argraff arnaf:
Ni ŵyr neb beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig—mae'r rhagolygon optimistaidd a phesimistaidd oll yn seiliedig ar ragdybiaethau a allai gael eu gwireddu neu fel arall... Mae'r ffordd y bydd ein harweinwyr yn ymateb yn ystod y cyfnod rhyfeddol hwn yn hollbwysig.
Felly, rwy'n croesawu'r ddadl Aelod ar gynnig deddfwriaethol, a gychwynnwyd gan Steffan Lewis heddiw, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Steffan am ei waith craffu cadarn ac adeiladol yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar bopeth sy'n ymwneud â Brexit. Ar ôl ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar, rwyf wedi elwa ar y sylfaen wybodaeth eang sydd gan Steffan, yn ogystal â'i sylw i fanylion, ynghyd ag arweiniad y Cadeirydd, David Rees, wrth gwrs. Mae Steffan wedi bod yn benderfynol wrth fynd i'r afael â phroblemau ac effaith Brexit ar Gymru, ac mae gennym bob rheswm i barchu a chefnogi ei gynnig heddiw a diolch i Steffan am godi cwestiwn, er enghraifft, ynglŷn â'r Prif Weinidog yn croesawu'r cyhoeddiad o £50 miliwn o gyllid pontio yr wythnos diwethaf. Rwy'n ystyried honno'n enghraifft o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad a deall ei chyfrifoldebau, a ddechreuodd, wrth gwrs, gyda 'Diogelu Dyfodol Cymru', mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, gyda chwe amcan allweddol, sydd wedi sefyll prawf amser ers ei gyhoeddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith pellach ar yr amcanion hyn, yn fwyaf diweddar gyda'r papur, 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru', sy'n darparu ffordd glir ymlaen i Lywodraeth Cymru arfer ei chyfrifoldebau, gyda galwad ar Lywodraeth Cymru i gadw at ei haddewidion yn refferendwm yr UE—rhan o amcanion 'Diogelu Dyfodol Cymru', wrth gwrs—i sicrhau nad yw Cymru yn colli ceiniog wrth inni adael yr UE. Mae'r cynllun yn darparu fframwaith ar gyfer defnyddio cyllid rhanbarthol newydd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Felly, mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn adeiladol ac yn gyfrifol mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ond yn ddiwyro yn ei hymrwymiad i ddiogelu'r setliad datganoli. Nid yw ymateb negyddol Llywodraeth y DU, nid yn unig i welliannau'r pwyllgor ond i welliannau Llywodraethau Cymru a'r Alban i'r Bil ymadael â'r UE—cipio grym, fel y'i disgrifiwyd gan Steffan Lewis—yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn parchu ein setliad cyfansoddiadol neu'r pethau adeiladol a wnaethom fel deddfwrfa, a'r hyn a wnaeth y Llywodraeth.
Felly, mae datganiad y Prif Weinidog ddoe, a'ch cynnig chi heddiw, Steffan Lewis, yn darparu mwy na rhybudd i Lywodraeth y DU ynglŷn â'n safbwynt. Hoffwn gloi drwy gyfeirio at un o'r chwe amcan yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n rhoi'r hyn sydd mewn perygl mewn cyd-destun. Ac wrth gwrs, mae Simon Thomas yn cyfeirio at yr amddiffyniadau amgylcheddol. Yn olaf, hoffwn weld gwarantu hawliau'r UE ar gyfer pobl sy'n gweithio, gan gynnwys—i roi un enghraifft—trin gweithwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.
Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi paratoi Bil parhad. Diolch i Steffan Lewis am roi cyfle inni ystyried ei bwysigrwydd heddiw. Mae angen iddo gael ei drafod, mae angen iddo gael ei gefnogi, ac mae gennych fy nghefnogaeth i.
Rwy'n falch o godi i gefnogi cyflwyniad ardderchog fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, ar yr angen—yr angen pendant—am Fil parhad i Gymru. Dyma'r unig ffordd i achub ein sofraniaeth yma yng Nghymru. Gadewch inni fod yn glir: rydym yn sefyll ar groesffordd yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym wedi colli pwerau eisoes gyda Deddf Cymru. Ers y refferendwm diwethaf, pan bleidleisiodd mwyafrif llethol o 64 y cant o bobl Cymru o blaid cynyddu pwerau'r Cynulliad hwn, rydym wedi llwyddo i basio 22 o ddarnau o ddeddfwriaeth ers 2011. Pe bai'r Ddeddf Cymru newydd wedi bod ar waith ers 2011, ni fyddem ond wedi gallu pasio wyth deddfwriaeth o'r fath. Rydym eisoes wedi colli pwerau ac rydym yn wynebu colli mwy, a dyna sy'n rhoi'r pwysau presennol ar amserlen y ddeddfwriaeth bresennol ynghylch isafswm pris alcohol. Rhaid inni gyrraedd diwedd Cyfnod 1 y ddeddfwriaeth honno erbyn diwrnod ffŵl Ebrill; fel arall, mae'n methu.
Yn dilyn Brexit, rydym yn wynebu colli rhagor o bwerau gyda Bil ymadael yr EU—pwerau sydd bob amser wedi bod gennym yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers 1999. Mae pysgodfeydd, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth bob amser wedi dod o Frwsel i Gaerdydd. Yn awr, yn sydyn, mae ailgyfeirio'n mynd i fod—Brwsel i Lundain—heb unrhyw sicrwydd beth sy'n mynd i ddod i Gaerdydd. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Rydym wedi clywed llawer o sôn am barchu canlyniadau refferenda, ac rwy'n eu parchu. Ond gadewch inni barchu canlyniad pob refferendwm. Mae hynny'n cynnwys yr un ym mis Mawrth 2011, pan bleidleisiodd pobl Cymru yn bendant iawn dros gael rhagor o bwerau yn y lle hwn. Yn sicr nid ydynt erioed wedi pleidleisio o blaid colli pwerau, ac yn y refferendwm Brexit diwethaf, nid pleidleisio o blaid colli pwerau o Gymru a wnaethant. Mewn gwirionedd, roedd y rhai ar yr ochr 'gadael' yn siarad yn barhaus ynglŷn â sut y byddai gadael yr UE yn cynyddu'r pwerau a fyddai gennym yng Nghymru. Wel, addewid gwag iawn yw hwnnw yn wyneb realiti Bil ymadael yr EU a Llywodraeth y DU yn gwneud dim ynghylch gwelliannau anrhydeddus y Llywodraeth hon i'r Bil hwnnw.
Mae Steffan wedi rhoi arweiniad balch i ni fel plaid, a'r Cynulliad hwn, yn ei holl waith caled a diwyd dros fisoedd lawer ar holl fater cymhleth a blinderus Bil ymadael yr EU. Rwy'n canmol yn fawr iawn ei waith caled, ei ddyfeisgarwch a'i ddeallusrwydd yn craffu ar bob manylyn; mae'n drueni na chaiff ei efelychu yn San Steffan. Cefnogwch y Bil parhad. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Hoffwn ddechrau drwy ddweud yn bersonol, fel y dywedodd Jane Hutt, pa mor braf yw hi i weld Steffan Lewis unwaith eto yn arwain dadl ar Brexit yma yn y Cynulliad. Bydd aelodau'r Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig, sy'n nodi'r safle sydd wedi'i gyrraedd ar hyn o bryd ar y Bil parhad.
Ddoe, amlinellodd y Prif Weinidog ein safbwynt ar Fil parhad. Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn gosod cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, sydd, am y rhesymau sydd newydd eu nodi gan Dai Lloyd, yn gwbl annerbyniol. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gallu argymell cydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE fel y mae ar hyn o bryd. Nid bod hyn yn ymwneud o gwbl, fel y cydnabu Neil Hamilton, â rhwystro Brexit. Byddai'n well gan Lywodraeth Cymru fod Bil ymadael Ewropeaidd Llywodraeth y DU yn llwyddiant. Rydym yn deall y ddadl dros ddarparu eglurder cyfreithiol a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwrthwynebiad yr un fath ag y nododd Steffan Lewis pan ddywedodd nad yr opsiwn a ffafrir, nac a ffafriwyd gan Blaid Cymru erioed oedd gorfod dibynnu ar Fil parhad. Ond heb y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil ymadael sy'n parchu'r setliad datganoli yn llawn, rhaid inni baratoi ein safbwynt.
Dyna pam yr ydym ni, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil ymadael a fyddai wedi sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei barchu'n iawn. Wrth gwrs, rydym yn siomedig iawn, yn gyntaf oll na chafodd y gwelliannau eu derbyn gan Lywodraeth y DU, ac oherwydd bod Llywodraeth y DU ei hun wedi methu cadw'r addewid a wnaeth ar lawr Tŷ'r Cyffredin i gyflwyno gwelliannau yn ystod y Cyfnod Adrodd. Mae angen inni weld cynigion cadarn gan Lywodraeth y DU ar welliannau i'r Bil ymadael sy'n parchu'r setliad datganoli ac a fyddai wedyn yn caniatáu inni argymell cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Cynulliad.
Byddwn yna awr yn mynd â'n brwydr i Dŷ'r Arglwyddi. Rwy'n edrych ymlaen at ddigwyddiad ar y cyd, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gyda'i gilydd, a gynhelir yno cyn bo hir, pan fyddwn yn cyflwyno ein hachos yno dros y gwelliannau y gwelwn eu bod yn angenrheidiol. Ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban ar y cynnwys, yr amseru, y tactegau a ddefnyddiwn i wneud yn siŵr fod ein cyd-ddiddordeb mewn sicrhau bod cyfrifoldebau datganoledig Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu diogelu yn y broses honno. Os nad yw hynny'n digwydd, mae Prif Weinidog Cymru wedi comisiynu'r gwaith angenrheidiol i baratoi Bil parhad a fydd yn darparu eglurder a sicrwydd i ddinasyddion Cymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Rydym wedi bod yn gwneud gwaith ar y Bil parhad. Rydym yn hyderus fod y Bil mewn cyflwr parod ac y gellid ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol pe bai angen. Yn ei ateb ysgrifenedig—
A fyddai unrhyw beth i'w golli, yn ei farn ef, o gyhoeddi'r Bil hwnnw ar ffurf drafft?
Wel, rhan o'r hyn sydd gennyf i'w ddweud wrthych yw mai'r hyn a gollid fyddai'r ymgymeriadau a'r cytundebau a luniwyd rhyngom a Llywodraeth yr Alban i weithio ochr yn ochr â hwy, i weithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r ffordd y byddant hwy'n gweithredu. Fel y maent wedi dweud y byddant yn anfon eu Bil at y Llywydd yn Senedd yr Alban, ddoe rhoddodd y Prif Weinidog ymrwymiad y byddem yn cyflwyno ein Bil parhad i'r Llywydd yma cyn diwedd y mis hwn, oni bai ei bod yn glir y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau boddhaol yn ystod y cyfnodau sy'n weddill o daith y Bil ymadael drwy'r Senedd.
Lywydd, gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood yn y ddadl hon. Credaf y dylai'r rheini ohonom sydd wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau a chyfrifoldebau'r Cynulliad hwn edrych yn garedig ar yr hyn y mae'r Blaid Geidwadol wedi ei ddweud yma y prynhawn yma. Credaf fod Mr Isherwood wedi mynd ymhellach nag y clywais y Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud hyd yn hyn o ran ei gwneud yn glir fod ganddynt hwythau hefyd amheuon gwirioneddol ynghylch cymal 11 a'u bod yn rhannu rhai o'r atebion posibl a gyflwynwyd gan Geidwadwyr yr Alban fel ateb posibl i'r Bil hwnnw. Felly, credaf ei bod yn dda iawn clywed hynny y prynhawn yma.
Hoffwn ddweud, fel y dywedodd Mick Antoniw, fod mwy i'r Bil ymadael na chymal 11. Ac er y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig a osodwyd ger ein bron heddiw, a'n bod yn ceisio defnyddio cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn i baratoi Bil parhad fel rhan o'r pwyntiau a wnawn i Lywodraeth y DU, mae'n rhaid inni gael mwy na chymal 11 yn iawn yn y trafodaethau hynny. Bydd angen Bil parhad ar Gymru os nad yw'r negodiadau a'r trafodaethau hynny'n llwyddo, ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gydag eraill i gael Bil ymadael y DU i fan lle mae'n gweithio ar gyfer y Deyrnas Unedig, lle mae'n gweithio ar gyfer Cymru, a lle bydd modd inni gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol y gallem ei argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Galwaf ar Steffan Lewis i ymateb i'r ddadl.
Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac am yr holl sylwadau personol caredig a fynegwyd yn ogystal.
Oherwydd fy mrwdfrydedd yn gynharach, nid wyf yn meddwl bod gennyf amser i fynd drwy bob cyfraniad, ond hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet o ran y cyfraniad gan grŵp y Ceidwadwyr heddiw. Credaf fod hwn yn gyfraniad adeiladol iawn. Yn sicr, credaf ei fod yn anfon neges gryfach o lawer o'r sefydliad hwn pan fo modd i bleidiau o bob ochr ddod ynghyd i ddweud digon yw digon a rhaid cael parch go iawn tuag at y setliad cyfansoddiadol y mae pawb ohonom yn ei werthfawrogi ac yn ei drysori.
Rwyf wedi cael peth amser i mi fy hun yn ddiweddar, Lywydd, a threuliais chwe awr ddoe yn gwylio'r ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar Fil ymadael yr UE. Efallai y byddwch yn synnu fy mod wedi trafferthu dod yma heddiw; roedd yn gyfareddol. [Chwerthin.] Un o'r camsyniadau sy'n cael ei ailadrodd yn aml yw nad yw Llywodraeth y DU yn mynd ag unrhyw bwerau oddi wrthym, ac mai gosod ei hun yn lle'r Undeb Ewropeaidd y mae'n ei wneud mewn perthynas â materion datganoledig, a dim mwy na hynny. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir, oherwydd, fel y mae pethau ar hyn o bryd, y cyfan sy'n newid ar ôl gwahanu yw bod y terfyn Ewropeaidd ar faterion datganoledig yn cael ei godi, ond bod materion datganoledig yn parhau i fod wedi eu datganoli. Mae'r ddeddfwriaeth yn San Steffan yn gweithredu'n groes i hynny ac mae'n gweithredu er mwyn mynd â'r pwerau hynny oddi wrthym, neu o leiaf er mwyn gosod cyfyngiadau arnynt.
Ar y pwynt am gydweithredu â Llywodraeth yr Alban, rwy'n croesawu hynny. Rwy'n meddwl ei bod yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y ddwy Lywodraeth o ran eu gwelliannau. Ond fy nealltwriaeth i yw y gallai Llywodraeth yr Alban, o fewn mater o wythnos neu ddwy, gyflwyno ei Bil parhad i Lywydd Senedd yr Alban. Hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Simon Thomas: nid wyf yn credu y byddai cyhoeddi Bil drafft neu hyd yn oed cyflwyno Bil parhad i Gymru i'n Llywydd bellach yn tanseilio gweithredu ar y cyd yn Nhŷ'r Arglwyddi mewn unrhyw fodd. Yn wir, credaf y byddai'n ei gryfhau, fel y crybwyllodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad.
Oni fyddai'n ofnadwy pe bai'r lle hwn, sydd wedi treulio cymaint o amser yn trafod rhinweddau ac fel arall y Bil parhad, ac sydd hyd yn oed wedi drafftio un ac wedi bod ag un yn barod ers peth amser, yn olaf i gyhoeddi? Ni fyddwn ar yr agenda yn San Steffan, yr Alban fydd arni unwaith eto. Felly, buaswn yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet—. Nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth, ond mae'n ymddangos i mi y gallem gael consensws yn y Siambr ar y mater hwn heddiw, ac os felly, dyna fandad cryf iawn i'r Llywodraeth hon symud yn gyflym. Cyhoeddwch a chyflwynwch y Bil parhad. Rwy'n credu bod gennych gefnogaeth y mwyafrif yn y tŷ hwn. Cyflwyno ef, cyhoeddwch ef, a diogelwch ddatganoli yng Nghymru, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.