Signal Ffonau Symudol

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd signal ffonau symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51634

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd cynyddol cyfathrebu symudol mewn ardaloedd gwledig. Ac mae ein cynllun gweithredu symudol yn nodi sut yr ydym ni'n bwriadu gweithio gyda'r diwydiant a'r rheoleiddiwr i wella cysylltedd symudol ledled y wlad.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, a gwn fod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth uchel i wella cysylltedd yng nghefn gwlad. Ond rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi bod llawer mwy i'w wneud o hyd. Ceir problem sylweddol o bosib gyda diffyg signal ffôn symudol o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae etholwr wedi ysgrifennu ataf i o Lan-non yng Ngheredigion, sydd â phedwar bws yn unig i Aberaeron ar ddydd Sul, i ddweud ei fod yn aros am y bws 11:27 yn ddiweddar, ac na chyrhaeddodd. Ar y wefan, rydych chi'n cael eich annog, wrth gwrs, i edrych ar y wefan i ganfod newidiadau i amserlenni ac oediadau, ond ni allai wneud hynny, oherwydd—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:34, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gymaint ag y mae gen i ddiddordeb mewn amseroedd bysiau yn Llan-non, mae'r cwestiwn hwn am signal ffôn symudol.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Ydy, cywir. Ond mae pobl â ffonau symudol yn cael eu hannog i edrych ar y wefan i ganfod oediadau i'r gwasanaeth, na ellid ei wneud yn yr achos penodol hwn gan nad oedd unrhyw signal ffôn symudol ar y safle bws lle'r oedd yn aros am y bws.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oes neb yn mynd i esgus bod signal ffôn symudol yn hollol gyffredinol, mewn llawer o rannau o Gymru. Rwy'n byw yng nghanol tref ac ni allaf gael signal ffôn symudol yn fy nhŷ i. Felly, rydym ni'n gwybod bod her i'r diwydiant—nid yw hyn wedi ei ddatganoli wrth gwrs—i wneud yn siŵr ei fod yn ymestyn cwmpas y signal, fel mewn gwledydd eraill erbyn hyn. Beth ydym ni'n ei wneud fel y Llywodraeth? Wel, mae'r cynllun gweithredu symudol wedi hen gychwyn, ac mae cynnydd da yn cael ei wneud. Rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd i ddiffinio cymhwysedd ar gyfer cymorth ardrethi busnes ar gyfer safleoedd mastiau newydd, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penodi Pwynt Arloesi i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgarwch 5G yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau cyllid o gronfa her profion a threialon Llywodraeth y DU.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 1:35, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod adroddiad y Swyddfa Gyfathrebu wedi canfod na all 12 y cant o fas tir Cymru gael unrhyw signal ffôn symudol, ac o gofio, er enghraifft, yn y chwe mis diwethaf, y difrod storm ofnadwy yr ydym ni wedi ei gael a'r sefyllfaoedd brys, roeddwn i'n meddwl tybed a yw eich Llywodraeth wedi siarad â rhai o'r arloeswyr, neu a fyddai'n ystyried siarad â nhw—cwmnïau fel EE—am ddefnyddio technoleg drôn neu'r system helikite, sy'n gweithio oddi ar falŵn heliwm, a fydd yn cynnig signal ffôn symudol dros dro yn ystod cyfnodau brys. Wrth gwrs, nid yn unig y byddai'n helpu i gydgysylltu gwasanaethau brys ond yn gadael i bobl wybod eu bod nhw mewn sefyllfa enbyd neu eu bod nhw angen cymorth.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n sicr yn syniad diddorol. Fe'm hysbysir bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant er mwyn trafod hyn. Mae'n bwysig dros ben, lle mae gennym ni argyfyngau, bod rhwydwaith cyfathrebu digon cadarn ar waith er mwyn ymdrin â'r argyfyngau hynny. Fel rwy'n dweud, cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar i drafod yr union bwynt hwnnw.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Er eich bod chi’n sôn am ba mor bwysig yw argaeledd ffonau symudol, dim ond newydd gyrraedd Pen Llŷn a Mynydd Rhiw y mae 4G, er enghraifft. Mae rhai ardaloedd ar ei hôl hi yn ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Un o’r pethau sy’n cael ei anghofio amdano yn aml iawn yw pa mor bwysig fydd y ffôn symudol ar gyfer awtomeiddio ar ffermydd a robotics. Mae’n dod nawr eich bod chi’n gallu rheoli peirianwaith ar fferm, a phethau megis teilwra a phethau felly, drwy system ffôn a signal ffôn—nid y ffôn symudol ei hunan ond y signal ffôn yna. A ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr, felly, fod hynny ar gael wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd—bod y dechnoleg orau ar gael ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig ar gyfer ein hamaethwyr ni?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:37, 23 Ionawr 2018

Mae’n rhaid i ni sicrhau hynny. Un o’r pethau yr wyf i jyst wedi sylwi, mewn gwledydd eraill—. Er enghraifft, roeddwn i yn Uganda dair blynedd yn ôl, ac roedd y rhwydwaith ffonau symudol yno lawer yn well nag yn y Deyrnas Unedig—llawer yn well. Roeddwn i mewn ardaloedd gwledig iawn a oedd yn anodd eu cyrraedd ar yr hewl, ond pan oeddech chi’n cyrraedd yno, roedd pump bar o 4G. Pam? Wel, wrth gwrs, nid oedd buddsoddiad o gwbl o ran llinellau tir, felly dyna’i gyd sydd gan bobl yw ffonau symudol, a dyna lle mae’r buddsoddiad wedi mynd. Ond, mae’n rhaid inni sicrhau nad yw hynny yn esgus—bod yna rwydwaith o linellau yno’n barod, sydd wedi bod yno ers blynyddoedd mawr—rhag peidio â symud ymlaen gyda rhwydwaith cryfach ar gyfer ffonau symudol. Rŷm ni'n moyn gweld sefyllfa lle mae yna lot mwy o lefydd yng Nghyrmu yn gallu cael signal. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n wir, mewn ardaloedd gwledig, ei bod hi'n anodd, ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol. Er enghraifft, mae pobl yn cwyno wrthyf fi—nid wyf i'n gwybod, nid wyf i'n byw yno—am ardal Pontcanna, er enghraifft. Nid oes signal ffôn o gwbl yng nghanol dinas Caerdydd. Felly, mae lot o waith i’w wneud mewn ardaloedd gwledig a hefyd mewn ardaloedd trefol.