1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog sefydlu uned i archwilio i sut y gall Cymru wneud defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio? OAQ51639
Wel, mae awtomeiddio, arloesi a digideiddio yn un o gonglfeini'r cynllun gweithredu economaidd, ac rydym ni'n canolbwyntio ein buddsoddiad i gynorthwyo busnesau i baratoi ar gyfer heriau yfory a diogelu ein heconomi a'n gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynllun gweithredu economaidd newydd yn cynnwys, fel un o'r meini prawf ar gyfer cynorthwyo busnesau newydd, addasu i awtomeiddio, ond mae goblygiadau awtomeiddio yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Amcangyfrifir bod tua 700,000 o swyddi mewn perygl, ac maen nhw'n taro ar bob un portffolio. Felly, a wnewch chi ystyried nawr sut y gallwch chi gydgysylltu ymdrechion trwy sefydlu uned i archwilio cyfleoedd fel y gallwn ni gynorthwyo'r bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio gan awtomeiddio ac i archwilio'r cyfleoedd i Gymru hefyd?
Ie, mae'n un anodd onid yw e? A fydd adeg yn dod pan fo awtomeiddio mor gynhwysfawr nad oes digon o bobl ag arian yn eu pocedi i brynu'r hyn y mae'r robotiaid yn ei wneud? Pryd mae'r adeg honno'n dod? Ni wyr neb; nid ydym ni wedi bod yn y sefyllfa o'r blaen. Ond mae'n gofyn cwestiwn pwysig: sut ydym ni'n ceisio ymdopi ac ymdrin â'r newidiadau a fydd yn dod yn y dyfodol a ffynnu yn eu sgil? Wel, rydym ni eisoes yn archwilio effaith technoleg a data ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus—er enghraifft, mae grŵp digidol a data yn cynnig fforwm ar gyfer rhannu arfer gorau yn hynny o beth. Mae'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd ac rydym ni'n ymgysylltu'n rheolaidd â busnesau a rhanddeiliaid i drafod effaith a chyfleoedd posibl technolegau digidol. Os edrychwn ni ar dechnoleg arloesol, wel, wrth gwrs, rydym ni eisoes yn ystyried cyfleoedd deallusrwydd artiffisial: agorodd M7 Managed Services, mewn partneriaeth â IBM, ganolfan cymhwysedd deallusrwydd artiffisial fis Rhagfyr diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r ganolfan rhagoriaeth technoleg symudol a newydd ym Mhrifysgol De Cymru yn gweithio gyda busnesau i weld sut y gall busnesau elwa o heriau'r dyfodol, ymateb i'r heriau hynny, ac, wrth gwrs, parhau i ddarparu swyddi i bobl.
Prif Weinidog, rwy'n credu i Lee Waters wneud pwynt da iawn, ac rwy'n cytuno gyda'r rhan fwyaf o'ch ateb yno. Ddoe, bûm yn uwchgynhadledd twf Hafren yn y Celtic Manor. Ystyriodd yr uwchgynhadledd ffyrdd o ddatblygu economi'r de-ddwyrain, yn enwedig nawr yng ngoleuni'r gostyngiad cyntaf i dollau Pont Hafren, a'r penderfyniad i ddiddymu'r tollau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Prif Weinidog, ceir teimlad aruthrol o optimistiaeth ynghylch rhai o'r newidiadau hyn sydd ar fin digwydd a cheir awydd gwirioneddol hefyd i'w ddefnyddio fel sbardun i ddatblygu economi uwch-dechnoleg yn y de-ddwyrain o'r ffin i Gaerdydd, a, gobeithio, ymhellach. O ran yr uned honno y cyfeiriwyd ati gan Lee Waters, a wnewch chi ystyried lleoli honno yn yr ardal honno o bosibl er mwyn sicrhau, pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd i'r rhwydwaith ffyrdd a newidiadau i bont Hafren, er enghraifft, bod gwir—bod hyn yn cael ei ddefnyddio fel sbardun i wneud yn siŵr bod yr economi yn cael ei datblygu yn y dyfodol mewn ffordd sy'n datblygu'r sector uwch-dechnoleg a'r ardaloedd y cyfeiriodd Lee Waters atynt?
Wel, rydw i eisoes wedi crybwyll dwy enghraifft yn y fan yna o ganolfannau sydd wedi cael eu sefydlu i ymateb i heriau'r dyfodol a'u datrys, ac, wrth gwrs, bydd llawer o hyn yn cael ei lywio gan y sector addysg uwch, felly, bydd llawer o'r canolfannau hyn, yn y dyfodol, yn cael eu rhedeg ganddyn nhw. Ond nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ein bod ni eisiau annog gweithio economaidd trawsffiniol. Mae'n digwydd ym mhobman arall yn y byd, felly pam na fyddai'n digwydd rhwng Cymru a Lloegr? Os bydd hynny'n arwain at ffyniant ar y cyd rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr, yna da iawn. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw nad oes gan dde-orllewin Lloegr gorff y gallwn siarad ag ef yn yr un modd ag y gallwn siarad â'r Alban neu Ogledd Iwerddon. Yn sicr, mae hwnnw'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol.
Ydy, mae'n dda bod y mater hwn yn cael sylw ar lefel lywodraethol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth ddiweddar bod cwmnïau fel Tesco yn colli llawer mwy o arian o ddwyn o siopau ers cyflwyno awtomeiddio ar ffurf peiriannau hunan-sganio. A oes achos nawr i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r cwmnïau hynny i geisio symud oddi wrth awtomeiddio diangen a mynd yn ôl tuag at gyflogi pobl go iawn i wneud swyddi?
Wel, hynny yw—. Mewn gwirionedd, cynyddodd achosion o ddwyn o siopau pan gyflwynwyd hunanwasanaeth i archfarchnadoedd tua 17 mlynedd yn ôl, mae'n debyg. Maen nhw'n ei dderbyn yn rhan o—. Hynny yw, maen nhw'n amlwg yn ceisio dal lladron, ond maen nhw'n ei dderbyn yn rhan o'u modelau busnes. Rwy'n credu y dylai amrywiaeth o ddewisiadau fod ar gael i bobl. I rai pobl, maen nhw eisiau mynd drwy'r lôn dalu yn gorfforol, i eraill, maen nhw eisiau talu'n awtomatig ar y diwedd, i eraill, maen nhw eisiau mynd o gwmpas gyda sganiwr. Mae cael y dewisiadau hynny'n bwysig i bobl, yn enwedig ar adegau prysur pan fo gwasanaethau awtomatig yn cymryd llawer o bwysau oddi ar y gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio pan fyddan nhw'n mynd drwy'r lôn dalu yn gorfforol.