4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Trafnidiaeth Cymru

– Senedd Cymru am 3:22 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:22, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â Thrafnidiaeth Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am nifer o ddatblygiadau gyda Thrafnidiaeth Cymru. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni perchnogaeth lwyr, dielw i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Fy nyhead i, fodd bynnag, ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yw y dylai ddatblygu a chymryd amrywiaeth lawer ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth, yn debyg o ran ei natur i weithrediadau Transport for London.

Yn draddodiadol, mae gwahanol fathau o drafnidiaeth wedi cael eu hystyried ar wahân, â pholisïau ar wahân, cyllid ar wahân a darparwyr ar wahân. Er bod hyn yn adlewyrchu, o bosibl, sut mae'r diwydiant yn gweithredu, nid yw'n adlewyrchu’r ffordd y mae pobl yn meddwl am eu teithiau. Wrth gynllunio sut i gymudo i'r gwaith neu fynd ar daith hir, mae pobl yn meddwl am gost, cyfleustra a chymhlethdod y daith gyfan o ddrws i ddrws.

I gynnal a gwella gwasanaethau mewn byd sy'n newid, lle mae’r blaenoriaethau’n heriol, mae angen ystyried trefniadau cyflawni arloesol ar gyfer swyddogaethau trafnidiaeth, gan gynnwys rhai a allai gynhyrchu ffrydiau incwm allanol. Mae 'Symud Cymru Ymlaen', 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi bod angen sbarduno newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn deall, y ffordd yr ydym yn cynllunio, a'r ffordd yr ydym yn defnyddio trafnidiaeth ac yn buddsoddi ynddo yma yng Nghymru.

Ynghyd â’r gwell setliad datganoledig a gynigiwyd drwy Ddeddf Cymru 2017, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth a all wella ansawdd y rhwydwaith, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb, a darparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig â llai o allyriadau carbon. Drwy ddefnyddio'r pwerau newydd ar gyfer y rheilffyrdd sydd hefyd yn cael eu datganoli, mae nawr yn haws nag erioed inni sicrhau bod pobl yn ganolog i bolisïau trafnidiaeth yma yng Nghymru, fel y gallwn ddarparu system drafnidiaeth ddiogel, effeithlon, cost-effeithiol a chynaliadwy er budd y wlad gyfan.

Mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymo y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thimau rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau trafnidiaeth ranbarthol newydd, a phartneriaid i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, sy'n cynnwys y rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau. Gan ddilyn model llwyddiannus caffael Maes Awyr Caerdydd, ein nod yw y bydd mwy o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn eiddo i Drafnidiaeth Cymru, neu’n cael ei weithredu ganddynt, yn uniongyrchol.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:25, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Am y tro cyntaf, rydym wedi ymrwymo i raglen pum mlynedd o arian cyfalaf i drafnidiaeth drwy Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw trafnidiaeth a phrosiectau newydd. Bydd hyn yn sicrhau y cyflawnir y prosiectau hyn yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol, a’r prif darged fydd cynyddu effeithlonrwydd 15 y cant i 20 y cant ar draws y portffolio buddsoddi pum mlynedd ar gyfer prosiectau newydd, sy'n golygu y gallwn wneud i’n cyllid gyflawni mwy fyth. Bydd hyn hefyd yn galluogi’r gadwyn gyflenwi adeiladu i fuddsoddi'n hyderus yn y dyfodol o ran cyfalaf a sgiliau. At hynny, lle bynnag y gellir gwneud achos busnes derbyniol, mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyfnerthu’r trefniadau cyflenwi presennol yn uniongyrchol i mewn i Trafnidiaeth Cymru.

O ran gwasanaeth rheilffordd newydd Cymru a'r gororau, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda Llywodraeth y DU ers yr haf diwethaf. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a mi wedi trafod y ffordd ymlaen a dod i gytundeb ar nifer o faterion ac rwy’n falch bod swyddogion yn gwneud cynnydd da. Y prif fater yma oedd goblygiad ariannol cyd-destun datganoli cymhleth ar gyfer y rheilffyrdd. Mae trafodaethau rhwng swyddogion, gan gynnwys o Drysorlys ei Mawrhydi, yn parhau ac mae'r broses o drosglwyddo ased graidd rheilffordd y Cymoedd wedi dechrau.

O ganlyniad i’r rhaglen weithgarwch y cytunwyd arni, mae’r broses gaffael ar gyfer y gwasanaeth newydd wedi parhau’n gyflym ac yn unol â'n cynlluniau. Gadawodd Trenau Arriva Cymru y broses gynnig yn ôl ym mis Hydref. Fel y nodwyd ar y pryd, nid yw'n anghyffredin i gynigwyr am brosiectau mawr dynnu’n ôl yn ystod y broses dendro ac roedd Arriva yn glir eu bod wedi tynnu'n ôl am eu rhesymau masnachol eu hunain. Mae’r mater Carillion diweddar wedi cael ei drafod yn y Siambr hon a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 17 Ionawr.

Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn tri chynnig i weithredu a datblygu gwasanaeth rheilffyrdd a metro nesaf Cymru a'r gororau ar 21 Rhagfyr y llynedd. Byddant yn parhau i werthuso’r cynigion hyn dros y misoedd nesaf. Erbyn diwedd mis Mai eleni, bydd ein proses yn dod i ben drwy ddyfarnu'r contract cyntaf ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd sydd wedi’i wneud yma yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn gwerthuso dwys a thrafodaethau ar ôl tendro, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod y contract yn cynnwys y gwasanaeth o safon a’r ymrwymiadau a gynigiwyd yn y tendr terfynol.

Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn barod i gyflawni erbyn y dyddiadau hyn, gan ganiatáu amser priodol i bontio i weithredwr newydd a ffordd newydd o weithredu drwy Trafnidiaeth Cymru ym mis Hydref. Fodd bynnag, mae'n rhaid cofio, nes i’r pwerau gael eu trosglwyddo’n llawn, bydd angen cymeradwyaeth amserol Llywodraeth y DU i ganiatáu inni gyrraedd y cam cynigydd a ffefrir ac i ddyfarnu'r contract.

Bwriad Llywodraeth y DU yw gosod Gorchymyn yn Senedd y DU cyn bo hir i drosglwyddo swyddogaethau rheilffyrdd i Weinidogion Cymru, ac, fel dewis wrth gefn, rydym hefyd wedi cytuno ar ddull gweithredu i roi rhagor o gytundebau cyfrwng cyfreithiol ar waith i'n galluogi i ddyfarnu, rheoli a darparu gwasanaeth rheilffordd nesaf Cymru a'r gororau. Mae'n dal i fod yn hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithio’n gyflym gyda ni i gyflawni’r rhaglen y cytunwyd arni.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn dechrau cyn bo hir ar y broses o benodi partneriaid cyflawni seilwaith a fydd yn gweithio gyda’r gweithredwr a’r partner datblygu i gyflawni mewn meysydd fel gwella gorsafoedd, trydaneiddio a signalau ar gyfer metro de Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Busnes Cymru i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i fentrau bach a chanolig lleol ac i fentrau trydydd sector. Maent eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth â chynulleidfaoedd mawr i ymwneud yn benodol â chaffael partneriaid cyflawn seilwaith, yn fwyaf diweddar yn Wrecsam yn gynharach y mis hwn. Mae hyn yn un enghraifft o sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn dechrau cyfnod newydd o symudiadau fel y gallant fynd ati'n rhagweithiol i reoli'r gwasanaeth rheilffordd newydd a’r gwahanol gynlluniau metro.

Mae James Price wedi cael swydd fel prif swyddog gweithredol; mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad o weithredu a chyflawni ar lefel uwch. Hefyd, yn ddiweddar rydym wedi penodi Martin Dorchester a Nick Gregg yn gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol ar y tîm, fel ymateb i argymhellion a wnaethpwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Martin Dorchester yn swyddog gweithredol profiadol; mae wedi bod yn Brif Weithredwr grŵp ar un o'r cwmnïau logisteg mwyaf yn yr Alban, ac mae Nick Gregg wedi cael ei benodi’n Gadeirydd bwrdd Trafnidiaeth Cymru, am gyfnod cychwynnol o 12 mis. Mae gan Nick y sgiliau sydd eu hangen i fod yn Gadeirydd llwyddiannus iawn, ac mae’n dod â llawer o brofiad busnes i'r bwrdd. Cyn bo hir bydd Trafnidiaeth Cymru yn hysbysebu am ddau gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol arall i ymuno â’r bwrdd, a bydd hyn yn sicrhau amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau.

Rwy’n gwybod bod angen gwneud yn siŵr y gall Trafnidiaeth Cymru gyflawni'n effeithiol dros Gymru gyfan, ac, ar ôl fy nghyhoeddiad y mis diwethaf am y bwriad i sefydlu uned fusnes i Drafnidiaeth Cymru yn y gogledd, bellach, rwyf wedi cyfarwyddo Trafnidiaeth Cymru i ddwyn cynigion gerbron ar gyfer swyddfa yn y gogledd, ac rwy’n disgwyl i hyn gael ei wneud yn gyflym hefyd. Yn y cyfamser, yn y de, mae cynnydd da yn cael ei wneud tuag at adeiladu swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf—rydym yn parhau i weithio'n agos iawn â nhw. Wrth edrych ymlaen, cyn gynted ag y bydd y partner gweithredu a datblygu newydd wedi'i benodi, byddwn yn mynd i gyfnod o baratoi’r gwasanaeth newydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r cynigydd llwyddiannus i helpu i sicrhau pontio di-dor o'r fasnachfraint bresennol i'r trefniadau newydd, er budd teithwyr a staff. Ni ddylai’r cyhoedd sy'n teithio weld dim tarfu ar wasanaethau ym mis Hydref pan mae’r partner gweithredu a datblygu newydd yn dechrau. Wedyn, dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r partner gweithredu a datblygu i weddnewid y rhwydwaith trafnidiaeth, gan sicrhau bod teithwyr yn ganolog i’w cynlluniau.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:32, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn rheoli’r broses o gaffael masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a’r gororau. Goruchwylio’r broses o ddyfarnu’r contract hwn, byddwn yn dadlau, yw’r prosiect trafnidiaeth pwysicaf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i reoli hyd yma.

Wrth symud ymlaen, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu cynllun uchelgeisiol i ehangu gwaith Trafnidiaeth Cymru, fel yr amlinellodd yn 'Ffyniant i Bawb', y cynllun gweithredu economaidd. Nawr, byddwn yn cefnogi ehangu Trafnidiaeth Cymru, dros amser. Rwy’n meddwl bod angen gofyn rhai cwestiynau difrifol ar unwaith ynghylch lefel bresennol y capasiti sydd ar gael i Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â hyn, ond heb y capasiti a'r sgiliau cywir, mae Trafnidiaeth Cymru wrth gwrs mewn perygl gwirioneddol a difrifol o beidio â gallu rheoli eu cylch gwaith presennol yn effeithiol, nac unrhyw swyddogaeth estynedig. Felly, ar y wedd honno, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet efallai amlinellu ychydig o'r capasiti staffio, faint o gyflogeion amser llawn presennol y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu cyflogi ar hyn o bryd, faint o’r unigolion hyn sydd â chontractau amser llawn ar hyn o bryd, a faint o ymgynghorwyr allanol sy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru ac sy'n cael eu cyflogi ganddynt?

Tybed a wnewch chi hefyd ymhelaethu ar eich cynlluniau ar gyfer gweithlu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol? Pa amserlenni sydd gennych yn gysylltiedig â staff ychwanegol yn ymuno â Trafnidiaeth Cymru, ac a ydych yn disgwyl i’r ehangu hwn ddigwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod hefyd? Rydych chi hefyd wedi dweud bod Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru, Nick Gregg, wedi'i benodi am gyfnod cychwynnol o 12 mis. A allwch chi ymrwymo i wrandawiad cyn penodi, cyn i Mr Gregg, neu unrhyw ymgeisydd arall, gael ei wneud yn gadeirydd parhaol Trafnidiaeth Cymru, efallai drwy un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn?

Ac yn olaf, mae hyder y cyhoedd, wrth gwrs, yn Trafnidiaeth Cymru yn gwbl hanfodol os yw'r sefydliad yn mynd i lwyddo yn y dyfodol. Nawr, ychydig cyn ichi sefyll i roi eich datganiad, fe wnes i chwilio ar Google am 'Trafnidiaeth Cymru', a sylwi bod manylion cyswllt uniongyrchol nawr ar wefan y Llywodraeth ar gyfer Trafnidiaeth Cymru; doedd hyn ddim yno o'r blaen. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi efallai roi manylion a rhoi cadarnhad bod gan Trafnidiaeth Cymru nawr swyddogaeth sy’n wynebu’r cyhoedd, nad oedd ganddynt o'r blaen. Efallai y gallech chi gadarnhau hefyd a yw cyswllt i Aelodau'r Cynulliad drwoch chi, neu a all Aelodau'r Cynulliad gysylltu â staff Trafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol a chwrdd â nhw yn uniongyrchol, yn hytrach, wrth gwrs, na mynd drwoch chi.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:35, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Russell George am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Fe wnaf roi sylw i’r cwestiwn olaf yn gyntaf. A dweud y gwir, rwyf wedi gofyn heddiw i swyddogion Trafnidiaeth Cymru gynnig sesiwn briffio i Aelodau'r Cynulliad a sesiwn ymgyfarwyddo hefyd fel y gallwch gysylltu’n uniongyrchol ag unigolion sy'n gyfrifol am wahanol feysydd cyflawni yn y sefydliad. Mae nawr yn wynebu'r cyhoedd, mae ganddo’r logo, mae elfen staffio Trafnidiaeth Cymru’n cael ei hadeiladu, a darperir cynllun cyfan Trafnidiaeth Cymru gyda'r bwriad o gynnig ystwythder a hyblygrwydd llawn i uwchraddio neu, yn wir, israddio i ddiwallu anghenion prosiectau. Dylai fod gweithlu Trafnidiaeth Cymru yn seiliedig ar y galw, a bydd hyn yn cynnwys recriwtio’r sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad yn gyflym, yn sydyn, a bydd yn adnodd anhygoel i Lywodraeth Cymru allu galw arno. Mae’r ffordd yr ydym wedi ffurfweddu Trafnidiaeth Cymru yn rhoi cyfle i Weinidogion Cymru gymryd dull pwrpasol wrth drosglwyddo rheolaeth a risg gan ddibynnu ar y prosiect penodol, yr arbenigedd penodol sydd ei angen, yr amserlenni, a hefyd y canlyniad a ddymunir.

Rwy’n sicr yn croesawu cefnogaeth yr Aelod i’r syniad o ehangu swyddogaeth a chylch gwaith Trafnidiaeth Cymru yn y blynyddoedd i ddod. A dweud y gwir, mae achos busnes yn cael ei ddatblygu nawr i benderfynu pa gyfleoedd y gallai Trafnidiaeth Cymru eu cynnig i Weinidogion Cymru o ran darparu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth, gan gynnwys buddiannau costau i drethdalwyr ein gwlad. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau bysiau, gallai gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd, adeiladu trafnidiaeth gyfalaf a gwelliannau ar gyfer cerdded a beicio. Gallai gynnwys prosiectau cyfalaf ar gyfer rheilffyrdd ac, wrth gwrs, ar gyfer ffyrdd hefyd. Gallai hefyd, fodd bynnag, gynnwys brandio a marchnata gwasanaethau, a gwn o fy amser ar y meinciau cefn fod hyn yn sicr yn rhywbeth y byddai teithwyr yn ei werthfawrogi. Mae llu o ddarparwyr gwasanaethau trafnidiaeth, ac mae gan bob un ei logo, ei wefan a’i dudalennau gwybodaeth ei hun. Gallai Trafnidiaeth Cymru gynnig un brand ac un pwynt cyswllt ac adnoddau, ac rwy’n meddwl y byddai hynny'n rhywbeth y byddai teithwyr ar hyd a lled Cymru’n ei groesawu.

O ran y contract am y fasnachfraint, mae'n enfawr, fel y dywed yr Aelod. Hwn yw’r prosiect caffael mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ers datganoli, ac mae angen tîm da o swyddogion gweithredol medrus. Mae gan James Price brofiad a deallusrwydd aruthrol, a chaiff ei gefnogi gan fwrdd sy'n fedrus ac yn brofiadol. Mae'r Aelod yn iawn; penodwyd Nicholas Gregg am un flwyddyn i ddechrau er mwyn caniatáu amser i gwblhau’r broses o recriwtio cadeirydd newydd mewn modd amserol. Nawr, er nad yw penodiadau i fwrdd Trafnidiaeth Cymru yn benodiadau cyhoeddus sydd wedi’u rheoleiddio o dan y cod llywodraethu, o ystyried proffil Trafnidiaeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol i’r broses a’r deunyddiau recriwtio gydymffurfio â chod llywodraethu penodiadau cyhoeddus.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:39, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Ynddo, dywedasoch chi fod Llywodraeth y DU yn bwriadu gosod gorchymyn i drosglwyddo swyddogaethau masnachfreinio rheilffyrdd i Weinidogion Cymru yn fuan. A wnewch chi ddweud ychydig am—pa mor fuan yw buan? A’r dewis wrth gefn yr ydych chi'n cyfeirio ato os na chaiff y swyddogaethau hynny eu trosglwyddo—o dan ba amgylchiadau y gallwch chi ragweld hwnnw’n gorfod cael ei ddefnyddio? Ai o dan amgylchiad lle na allwch ddod i gytundeb terfynol ar rai o'r materion yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad lle mae gwaith yn mynd rhagddo, ac, yn wir, rhai o'r materion pellach a gafodd sylw yn y llythyr gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU atoch chi ym mis Awst? A wnewch chi roi ychydig mwy o oleuni ar ba mor bell yr ydych chi o ddod i gytundeb?

Gwnaethoch chi ddweud eich bod wedi dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen, sy’n gallu golygu nifer o bethau, ond yn benodol, a ydych chi wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am y gweithredwr dewis olaf adran 30? A ydych wedi dod i gytundeb ar y cwantwm o arian yr oeddech yn sôn amdano yn eich datganiad, y bu rhywfaint o anghytuno â Llywodraeth y DU amdano, neu sut y gellir cyfrifo’r ffigur hwnnw? A ydych chi wedi dod i gytundeb ar brotocol ar gyfer sut y bydd Llywodraeth Cymru yn arfer pwerau dros orsafoedd rheilffordd Lloegr a wasanaethir gan y fasnachfraint?

Yn olaf, soniasoch chi am y ffaith mai eich dyhead yw y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am gymaint â phosibl o’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus fel corff sector cyhoeddus. A wnewch chi ddweud pa sylwadau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i ddiwygio Deddf Rheilffyrdd 1993, sydd wedi'i diwygio yn achos yr Alban, i roi pwerau iddyn nhw i gael gweithredwr masnachfraint sector cyhoeddus, i bob diben? Nid yw hynny wedi digwydd yng Nghymru. A ydych chi wedi gwneud sylwadau penodol am hynny i Lywodraeth y DU?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:41, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud i ddechrau ein bod wedi bod yn gwbl gyson wrth alw am wneud gwelliannau i’r Ddeddf rheilffyrdd? Rwy’n credu bod hynny hefyd yn rhan o faniffesto Plaid Lafur y DU a fyddai'n ein galluogi i weld cyrff cyhoeddus yn ymgeisio am gyfleoedd masnachfraint presennol a chyfleoedd masnachfraint yn y dyfodol hefyd. Gwrthodwyd y galw cyson hwnnw gan y Llywodraeth, ond rydym yn parhau i bwyso am ddiwygio’r Ddeddf.

Cynhaliwyd trafodaethau adeiladol am ystod gyfan o fesurau y mae angen cytuno arnynt cyn gosod y Gorchymyn swyddogaethau. Mae Llywodraeth y DU wedi gohirio darparu’r Gorchymyn hwnnw—cyflwyno’r Gorchymyn hwnnw—mewn modd amserol, ond rydym wedi cael sicrwydd y bydd hynny'n digwydd erbyn mis Mai, yn dilyn y cytundebau y dylid eu cwblhau fis nesaf ynglŷn â chyllid y fasnachfraint, a hefyd ynglŷn â throsglwyddo pŵer dros yr asedau. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o gytundebau sydd cyn hyn wedi bod yn ein rhwystro rhag gwneud cynnydd, ond fel y dywedais i, mae cynnydd amserol yn cael ei wneud erbyn hyn.

O ran gwasanaethau trawsffiniol, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn arbennig o awyddus i sicrhau y gallwn ei ddatrys yn gyfeillgar, ac rwyf i a’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gallu cytuno ar ffyrdd a fydd yn sicrhau bod teithwyr ar ochr Lloegr y ffin yn cael eu trin yn gyfartal ac yn cael profiad cyfartal o ran eu teithiau ar y trenau yn y fasnachfraint nesaf, fel na fydd neb o dan anfantais o dan y fasnachfraint nesaf. Mae hyn yn rhywbeth sy'n arbennig o berthnasol o ystyried yr holl deithiau trên sy'n dod i mewn ac allan o Gymru ar draws y ffin.

Byddwn i'n hapus i gyflwyno, ar ôl diwedd y trafodaethau â Llywodraeth y DU ym mis Chwefror, y materion fforddiadwyedd a gyflwynir o ganlyniad i’r trafodaethau sy'n digwydd. Rydym wedi ymgysylltu â Thrysorlys y DU, rydym hefyd wedi ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ein trafodaethau, ac rwy’n ffyddiog y byddwn, erbyn diwedd mis Chwefror, wedi cwblhau’r trafodaethau hynny mewn modd boddhaol.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:43, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am y datganiad—gobeithio, y cyntaf o lawer mwy. Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn brysur iawn nid yn unig â’r fasnachfraint rheilffyrdd ond hefyd â’r metro; yn wir, mae nhw'n cyd-fynd â’i gilydd i raddau helaeth. A gaf i yn gyntaf groesawu lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd? Mae’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf eisoes yn gatalydd arwyddocaol i adfywio'r ardal. Ceir hefyd y cynigion a allai arwain at swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau o ran cynnal a chadw cerbydau mewn mannau fel Ffynnon Taf, a hefyd y gwaith o ddatblygu prentisiaethau a chyllid Llywodraeth Cymru ar eu cyfer yng Ngholeg y Cymoedd mewn cysylltiad â pheirianneg rheilffyrdd.

Ond a gaf i ddweud o’ch adroddiad bod nifer o bethau yr hoffwn ichi eu hystyried sy’n peri pryder imi, i ryw raddau? Un yw’r arian cyfalaf pum mlynedd y cyfeirir ato. Pe gallech, efallai, roi ychydig mwy o fanylion am hynny, oherwydd yn amlwg mae hwn yn destun pryder sylweddol. Yn ail, yr arbedion effeithlonrwydd 15 i 20 y cant—beth yn union mae hynny'n ei olygu. Rydym yn gwybod, pan mae’r Torïaid yn sôn am arbedion effeithlonrwydd, eu bod yn sôn am doriadau. Beth yn union yw ystyr arbedion effeithlonrwydd 15 i 20 y cant? Yn sicr, mae Chris Grayling wedi dweud wrthym yn y bôn nid yn unig na fyddwn yn cael trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a'r rheilffordd i Abertawe, ond y dylem fod yn falch iawn nad ydym yn cael hynny gan y bydd mewn gwirionedd yn llawer gwell heb drydaneiddio. Beth yw goblygiadau hynny o ran y cynllunio a'r rhaglen cyfalaf pum mlynedd oherwydd y materion sy’n ymwneud â threnau a’r mathau o gerbydau trên a fydd gennym?

Fy mhedwerydd pwynt, a dweud y gwir, yw hyn: rhan hanfodol o hyn oll yw ymestyn y rheilffyrdd, ymestyn i ardaloedd, torri gafael haearnaidd traffig, galluogi datblygiad trafnidiaeth gyhoeddus a phobl i deithio ar draws, o gwmpas, drwy’r Cymoedd i ble bynnag y bo heb fynd ar y ffyrdd. Wrth gwrs, rwyf wedi sôn wrthych lawer gwaith am y rheilffordd o Creigiau i Lantrisant a’i phwysigrwydd, ac eto ychydig iawn o eglurder sydd gennym o hyd ynghylch ble y gallai hynny ffitio o fewn y rhaglen gyfalaf, ac yn wir a fydd yn y cyfnod hwn, a fydd yn y cyfnod nesaf neu beth bynnag. Rwy’n meddwl mai’r pwynt yw bod diddordeb cynyddol ym mhwysigrwydd hyn oll i ddatblygu economi a chymdeithas y de, cyn belled ag y mae fy etholaeth i dan sylw—Taf Elái. Ond mae angen llawer mwy o eglurder. Pryd y byddwn yn gallu cael yr eglurder hwnnw a’r math o fanylder yr hoffai pobl ei weld?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:46, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiynau amrywiol ac am y ffaith ei fod wedi croesawu lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd? Mae'r Aelod yn llygad ei le; mae potensial enfawr i bencadlys Trafnidiaeth Cymru weithredu fel catalydd i adfywio Pontypridd. Fel y gwnaeth ymyriadau ym Merthyr, rwy’n gweld lleoli Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd fel ychydig o fagnet i dynnu busnesau eraill a buddsoddiadau eraill i mewn i'r gymuned. Rwy’n falch ein bod yn gwneud cynnydd da iawn gyda'r awdurdod lleol; rhaid imi eu llongyfarch am eu ffordd ragweithiol o weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu'r safle hwn. Does dim amheuaeth, er mwyn datblygu economi, bod yn rhaid ichi sefydlu’r seilwaith cywir. Hefyd, mae angen i’r sgiliau cywir fod ar gael yn ogystal â’r math cywir o gefnogaeth ranbarthol ar gyfer datblygu economaidd. Drwy'r cynllun gweithredu economaidd, drwy greu Trafnidiaeth Cymru, drwy fuddsoddiad digyffelyb mewn trafnidiaeth a drwy gynllun cyflogadwyedd a gyflawnir gan gyd-Aelodau yn y Llywodraeth, rwy’n siŵr ac rwy’n ffyddiog ein bod yn rhoi sylw i’r tri angen allweddol hynny yn yr economi.

O ran y gyllideb bum mlynedd, rwy’n fwy na pharod i rannu ag Aelodau yr adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2011, a edrychodd ar hyn. Daeth i'r casgliad bod creu sicrwydd cyllid dros gyfnod o bum mlynedd a datblygu cynlluniau tymor hir ar gyfer ffyrdd drwy ymrwymiad cyllideb pum mlynedd, yn rhywbeth a allai gyflawni arbedion 15 i 20 y cant. Felly, mae troi at gyllideb bum mlynedd yn gwneud synnwyr, ond mae hefyd yn gam mawr. Ni wnaiff ddigwydd dros nos, ac mae angen inni fod yn glir mai dim ond ar gynlluniau newydd y bydd arbedion yn bosibl, ac nid ar rai a gontractiwyd eisoes.

Nawr, o ran y swm gwirioneddol y gellid ei arbed, gan gymryd y ffigurau cyllideb drafft a gyhoeddwyd ar gyfer 2018-19 ar gyfer cyfalaf trafnidiaeth dros y tair blynedd nesaf fel cyfartaledd gwariant blynyddol, dros gyfnod o 10 mlynedd gallai hynny fod oddeutu £630 miliwn—arbediad enfawr a all wedyn arwain at fwy o fuddsoddi i wella ein seilwaith trafnidiaeth a darparu gwasanaethau. Ond, fel y dywedaf, rwy’n fwy na pharod i allu darparu’r adroddiad hwnnw i Aelodau fel y gallant graffu ar sut yn union y gellir cyflawni arbedion mor fawr.

O ran trydaneiddio, wel, gwnaethpwyd yr achos o blaid trydaneiddio hyd at Abertawe ar y cyd â’r achos o blaid trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Digwyddodd yn ôl pan oedd David Cameron yn Brif Weinidog yn 2014, ac o dan delerau'r cytundeb hwn byddai Llywodraeth y DU yn ariannu cost lawn trydaneiddio'r rheilffordd hyd at Abertawe, yn darparu £125 miliwn ar gyfer cynllun trydaneiddio a moderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd ac, yn gyfnewid am hynny, byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am gynlluniau rheilffyrdd y Cymoedd. Nawr, roedd y cytundeb yn rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru i optimeiddio cynllun moderneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn unol â Llyfr Gwyrdd y Trysorlys. Ar y pryd, aseswyd bod y buddsoddiad i drydaneiddio’r brif reilffordd gan ddefnyddio fflyd trenau trydan i gyd yn opsiwn mwy cost-effeithiol na chaffael fflyd gymysg o drenau trydan a deufodd. Roedd y fflyd o drenau trydan i gyd hefyd, wrth gwrs, yn darparu manteision amgylcheddol sylweddol.

Nid fy unig bryder ynghylch peidio â thrydaneiddio prosiect y brif reilffordd hyd at Abertawe yw y bydd yn gadael teithwyr o bosibl yn waeth eu byd nag y gellid bod wedi’i ddisgwyl gyda thrydaneiddio; mae hefyd yn peri risg i enw da Abertawe ei hun. Mae llawer o economïau mwyaf blaengar y byd yn cymryd yn ganiataol y bydd eu gwasanaethau rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio, ac, eto, mae hyn yn rhywbeth a gaiff ei wrthod ar hyd de Cymru. Rydym nawr yn canolbwyntio, fel Llywodraeth, ar sicrhau bod y cynlluniau a amlinellodd yr Ysgrifennydd Gwladol, ac yr ymrwymodd iddynt, yn cael eu datblygu yn sgil canslo’r trydaneiddio, a’u bod yn cael eu datblygu mewn modd amserol. Maent yn cynnwys, wrth gwrs, gwella amseroedd teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe, a hefyd rhwng de Cymru, Bryste a Llundain. Mae'n cynnwys rhoi ymrwymiadau i ardal Abertawe o ran gwella rheilffyrdd a gorsafoedd, yn ogystal â gwella amseroedd teithio a chysylltiadau ar draws gogledd Cymru.

Rydym yn disgwyl i Lywodraeth DU, ar ôl canslo trydaneiddio prif reilffordd y de, beidio â chanslo dim ymrwymiadau y mae'r Llywodraeth wedi cytuno â nhw ers hynny.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:51, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr a llawn? Rwy'n cymryd y cyfle hwn i gydnabod y bydd mis Mai eleni yn sicr yn ddyddiad hanesyddol, pan ddyfernir y contract cyntaf erioed â label 'gwnaethpwyd yng Nghymru' arno.

Mae eich gweledigaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, y dylai Trafnidiaeth Cymru ymgymryd â swyddogaeth debyg i Transport for London yn un a gefnogaf yn llwyr. Mae model Transport for London yn cael ei ystyried yn esiampl o ffordd effeithlon a chost-effeithiol o ddarparu system drafnidiaeth fodern. Mae'n gysur gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i edrych ar arfer gorau lle bynnag y mae'n digwydd, a’i roi ar waith. Mae un cwestiwn yn codi yn dilyn dyfarnu'r contract rheilffyrdd, sef: Pa fath o oedi y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ragweld cyn penodi’r gweithredwr a’r partner datblygu, ac i ddilyn hynny, y partneriaid datblygu seilwaith a fydd gweithio gyda’r partner gweithredu a datblygu i sicrhau bod y seilwaith yn cael ei uwchraddio a’i wella’n sylweddol, fel y bydd ei angen i ddarparu’r system drafnidiaeth a ragwelwyd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am ddefnyddio busnesau bach a chanolig lleol i ddarparu cymaint o'r gwasanaethau a'r seilwaith â phosibl ac rwy’n croesawu’r ffaith bod ymgynghoriad wedi’i ddechrau gyda chwmnïau sydd am gymryd rhan yn y broses. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog bod y sgiliau a'r cymwyseddau gofynnol yn bresennol yn y diwydiant lleol?

Fel y cyfeiriodd Adam Price ato yn gynharach, rydych chi wedi dweud bod trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y DU am drosglwyddo pwerau llawn i Gymru, ac rwy’n siŵr y gwnaiff pob aelod yn y Siambr hon ymuno â mi i alw ar yr Adran Drafnidiaeth i hwyluso’r trosglwyddiad hwn fel mater o'r brys mwyaf.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, braf iawn yw gweld eich ymagwedd gyfannol tuag at ddarparu’r system drafnidiaeth gwbl integredig y mae ei hangen yn daer ar Gymru.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:54, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau a'i gwestiynau? Mae David yn llygad ei le: yn fuan iawn byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar geir Aston Martin, byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar geir TVR, byddwn yn gweld stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac o bosibl, yn y tymor hwy, ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig ar draws ein gwlad.

Ni fydd dim oedi cyn penodi’r partner gweithredu a datblygu, ac mae cynghorwyr Busnes Cymru eisoes yn gweithio gyda phartner cyflenwi seilwaith posibl i sicrhau bod gan gwmnïau bach a chanolig, ar hyd a lled Cymru, y gallu, y capasiti a'r sgiliau i allu sicrhau prosiectau pwysig ac, mewn llawer o achosion, prosiectau hanfodol fel rhan o'r fasnachfraint nesaf. Mae hon yn rhaglen anferth o ran y gwariant cyfalaf a gaiff ei fuddsoddi ym metro’r de ac a gaiff ei fuddsoddi hefyd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau, ac wrth gwrs yn natblygiad metro’r gogledd-ddwyrain.

Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr bod cynghorwyr Busnes Cymru yn gwneud mwy na rhoi cymorth ynglŷn â sut i ennill contractau, ond eu bod hefyd yn rhoi cefnogaeth i sicrhau bod busnesau bach yn cyflogi’r bobl iawn â’r sgiliau iawn i allu cyflawni prosiectau a fydd yn trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau, gyda rhanddeiliaid, gyda’r partner gweithredu a datblygu, ac rwyf hefyd yn credu gyda llywodraeth leol ar lefel ranbarthol, i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth ac i ddatblygu system drafnidiaeth integredig sydd o fudd nid yn unig i unigolion, ond hefyd i fusnesau ar hyd a lled Cymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:55, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym ni wedi cael siaradwyr o bob un o'r pleidiau nawr, felly, i’r set nesaf o siaradwyr, a gaf i ofyn ichi am gyflwyniad byr iawn i'ch un cwestiwn? Diolch. John Griffiths.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn gwybod bod llawer o broblemau â’r gwasanaethau rheilffyrdd o amgylch Casnewydd. Mae cymudwyr yn aml ar drenau gorlawn iawn yn teithio i Fryste, er enghraifft. Mae gofyn i bobl sefyll mewn toiledau i ganiatáu i fwy o bobl ddod ymlaen, pobl yn llewygu, pobl yn cael eu gadael ar y platfform, problemau â dibynadwyedd ac, yn wir, â fforddiadwyedd—mae prisiau wedi codi’n sylweddol, rwy’n meddwl, tua thraean dros 10 mlynedd, heb welliant cymesur i ansawdd y gwasanaeth. Yn ddealladwy, mae pobl yn aml yn flin iawn, os nad yn digalonni. Mae grwpiau fel grŵp gweithredu twnnel Hafren a’r bobl sy'n ymgyrchu am orsaf ym Magwyr wedi cynnal arolygon sy’n dangos yn glir pa mor anfodlon yw teithwyr a diffyg ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu profi.

Felly, yn y cyd-destun hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod llawer o bobl yn gobeithio’n fawr y bydd masnachfraint newydd Cymru a'r gororau yn cynnwys y gwasanaethau trawsffiniol hynny, er enghraifft i Fryste. Hoffent glywed gennych y byddwch yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynnwys y gwasanaethau hynny yn y fasnachfraint, a hoffent hefyd glywed gennych, os caiff y rheini eu cynnwys, y bydd y problemau hyn â gorlenwi, dibynadwyedd a fforddiadwyedd yn cael sylw effeithiol o fewn masnachfraint newydd Cymru a'r gororau.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:57, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei sylwadau a’i gwestiynau? Roedd yn esgeulus imi beidio â dweud hefyd y bydd gennym cyn bo hir stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar drenau CAF, fel y mae gennym stamp 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ar adenydd Airbus, ar gynhyrchion Raytheon. Bydd gennym 'gwnaethpwyd yng Nghymru' wedi’i stampio ar drenau, awyrennau a cheir ar gyfer y farchnad fyd-eang yn fuan iawn. Rwy’n meddwl bod hynny'n bwysig o ran datblygu hunaniaeth i Gymru fel man sy’n cymryd gweithgynhyrchu gwerth uchel o ddifrif.

Mae'n annerbyniol bod gorlenwi i'r fath raddau ag yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd ar y rhwydwaith trenau. Mae'n gwbl ofnadwy, yn ystod oriau brig yn enwedig, ar lawer o wasanaethau—ar y rhai y soniodd John Griffiths amdanyn nhw, ond hefyd ar wasanaethau yr wyf yn siŵr bod llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn eu defnyddio’n dyddiol neu’n wythnosol. Yn ystod y fasnachfraint nesaf, ein safbwynt penderfynol yw sicrhau bod ansawdd yn gwella, bod prydlondeb yn gwella, bod amlder teithiau trenau’n gwella, bod capasiti, yn sicr, yn gwella’n glir, a bod datrysiadau technolegol hefyd yn gwella. Yn wir, rydym yn cymell ac yn annog yr ymgeiswyr i ddefnyddio technolegau newydd i sicrhau bod teithwyr mor gysurus â phosibl.

O ran y gwasanaethau trawsffiniol hynny y soniodd John Griffiths amdanyn nhw, nodais yn ddiweddar fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn credu y gallai Llywodraeth Cymru gymryd mwy o reolaeth dros y gwasanaethau trawsffiniol penodol hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gofyn amdano, ac mae'n rhywbeth y byddem yn sicr yn ei groesawu yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy, wrth inni geisio gwella, yn amlwg, gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru ac ar sail drawsffiniol.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:59, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thimau rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol newydd a phartneriaid i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig. Yn y cyd-destun hwn, byddwch yn ymwybodol o'r cais bargen twf o'r gogledd a gyflwynwyd mewn rhai dyddiau cyn y Nadolig, ac y dylai’r trafodaethau ddechrau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gynnar eleni. Beth, felly, yw’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer y trafodaethau hynny?

O ystyried eich cyfarwyddyd, yn eich datganiad, i Drafnidiaeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer swyddfa yn y gogledd, sut yr ydych yn ymateb i wahoddiad y cais twf i Lywodraeth Cymru i gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol i ymgymryd â chynllunio a phrosiectau trafnidiaeth strategol yn y gogledd, ar sail rhanbarth cyfan, a phwerau wedi’u dirprwyo i'r corff gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ganiatáu iddo weithredu mewn capasiti gweithredol, â chronfa trafnidiaeth ranbarthol o £150 miliwn dros 10 mlynedd, gan gynnwys y £50 miliwn presennol gan Lywodraeth Cymru i ymrwymiad metro’r gogledd?

A wnewch chi hefyd ddweud wrthyf i pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael sgwrs â Defnyddwyr Bysiau Cymru ynghylch integreiddio rheilffyrdd a bysiau? Beth mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud i gynrychioli teithwyr bws, yn ogystal ag ymgysylltu â darparwyr yn y sector?

Yn amlwg, byddwch yn gwybod bod D Jones a'i fab, gweithredwyr bysiau yn Acrefair, wedi rhoi'r gorau i weithredu cyn y Nadolig, yn dilyn tranc Bysiau GHA yn 2016. Codwyd pryderon gan Llyr yn gynharach ynghylch yr effaith ar barc busnes neu ddiwydiannol Wrecsam, a’r ffaith na allai gweithwyr gyrraedd adref rhwng 5 a 6 y nos. Sut, felly, yr ydych yn ymateb i bryder a godwyd gyda mi, gyda chi yn ysgrifenedig, gan yr aelod arweiniol ar gyfer trafnidiaeth yn Wrecsam, ond hefyd gan gynrychiolwyr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, Defnyddwyr Bysiau Cymru, Traveline Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, na fyddai dim camau gweithredu na chanlyniadau pendant yn dod allan o'r uwchgynhadledd bysiau ym mis Ionawr 2016 a’r gweithdai a ddilynodd hynny?

Ac, yn olaf, cwestiwn gan un o drigolion Sir y Fflint ac etholwr sy'n teithio’n drawsffiniol, ac yng nghyd-destun darpariaeth drawsffiniol: pa gamau yr ydych yn cynnig eu cymryd lle mae’r unig gyswllt rhwng cytref integredig Glannau Dyfrdwy a Glannau Mersi yw 'cefnffordd lôn sengl, heb oleuadau, â ffordd yr A550 wedi’i blocio neu’n dagfa bob dydd' wrth i bobl o'r gogledd deithio rhwng Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, yn y gogledd a Chilgwri a Glannau Mersi? Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:02, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Roedd sawl cwestiwn yn y fan yna, er imi ofyn am un yn unig nawr, ond pa ots.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Oedd, nifer sylweddol o gwestiynau, ond gwnaf i geisio ateb pob un ohonyn nhw. Yn gyntaf oll, o ran y cais twf, wrth gwrs byddwn yn craffu ar bob un o'r cynigion yn ystod y cyfnod trafod. Byddwn yn sicr yn croesawu, fel y dywedais yn fy natganiad, creu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol i sicrhau bod gennym drafnidiaeth integredig wedi'i chynllunio’n rhanbarthol ac—yn achos y gogledd—yn drawsffiniol. Rydym eisoes wedi sefydlu grŵp llywio’r gogledd a metro’r gogledd-ddwyrain ac maen nhw'n datblygu rhaglen waith i lunio pecyn o ymyriadau sy'n adlewyrchu gwelliannau nid yn unig yn lleol ond hefyd yn rhanbarthol. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gwelliannau trawsffiniol a bydd y pwyslais ar greu canolfannau trafnidiaeth integredig ar safleoedd cyflogaeth allweddol ledled y gogledd ac, wrth gwrs, ledled ardal Mersi a Dyfrdwy. Mae'n fater o well cysylltiadau, nid yn unig yn y canolfannau, ond hefyd i fynd atyn nhw, oddi wrthyn nhw a rhyngddyn nhw.

O ran Defnyddwyr Bysiau Cymru, rwy’n synnu bod yr Aelod yn dweud hynny, o gofio ein bod yn cael deialog reolaidd gyda nhw ac o gofio bod gennym ymgynghoriad yn digwydd ar hyn o bryd ar drafnidiaeth bysiau, a’n bod wedi cynnal dau ymgynghoriad yn y 12 mis diwethaf. Bydd ymgynghoriad arall yn digwydd y gwanwyn hwn ynghylch y cynigion manwl ar gyfer deddfwriaeth y dyfodol ac rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld Defnyddwyr Bysiau Cymru yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw.

O ran pa mor fregus yw'r gwasanaethau bws lleol, rhaid i'r Aelod, siawns, gydnabod bod y dadreoleiddio yn 1986 yn rheswm mawr dros hyn, ac, wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol bod awdurdodau lleol yn cymryd eu swyddogaeth a'u cyfrifoldeb o ddifrif. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod Cyngor Wrecsam, o dan reolaeth annibynwyr a'r Ceidwadwyr, credaf, wedi gostwng eu cefnogaeth i wasanaethau bysiau anfasnachol, rwy'n credu, i sero; mae hynny’n wrthgyferbyniad llwyr i’r £25 miliwn yr ydym ni, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi ei gynnal dros lawer o flynyddoedd.

Yn ogystal â hynny, fe wnes i ddarparu £300,000 i’r rhanbarth, i’r gogledd-ddwyrain, i allu ymdrin â chwymp GHA a pha mor fregus yw'r rhwydwaith bysiau lleol. Mae gofyn i’r tri awdurdod lleol hynny—Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint—weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod gwasanaethau bysiau’n cael cefnogaeth gan awdurdodau lleol, ar y cyd ac yn unigol, i sicrhau eu bod yn gwasanaethu cymunedau. Ac o ran yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd y llynedd, un o brif fanteision yr uwchgynhadledd honno oedd—roedd yn rhan o’r cynllun pum pwynt—cyflwyno cwmnïau bysiau, yn enwedig y cwmnïau bysiau bach a bregus hynny, i gynghorwyr a gwasanaethau cymorth Busnes Cymru. O ganlyniad, mae nifer o gwmnïau wedi cael cyngor ymarferol ynghylch sut i oroesi'r storm o galedi a bregusrwydd yn y system ddadreoleiddiedig. Ond, yn fwy hirdymor, rhaid rhoi sylw i’r system ddadreoledig honno, a bydd hynny’n digwydd, drwy ddeddfwriaeth, a byddwn yn ymgynghori am hynny yn y misoedd nesaf.

Roeddwn yn synnu o glywed, hefyd, beirniadaeth ynghylch diffyg buddsoddiad mewn ffyrdd trawsffiniol yn y gogledd-ddwyrain, o ystyried ein bod wedi ymrwymo dros £200 miliwn i goridor Sir y Fflint, sy'n cynnig un o'r llwybrau pwysicaf. Caiff ei uwchraddio’n sylweddol i liniaru tagfeydd rhwng Sir y Fflint a Chilgwri.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:06, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Beth sy'n bod ar Lywodraeth y DU sy'n ei gwneud mor anodd iddyn nhw wneud penderfyniadau amserol ynglŷn â Chymru? Nid wyf yn disgwyl ichi ateb hynny, ond, wyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn barod am hyn, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r pwerau i'n galluogi i ddyfarnu statws cynigydd a ffefrir, cytuno ar y contract, a dal i allu trosglwyddo gwasanaeth newydd yn ddi-dor erbyn mis Hydref.

Mae gennyf ddiddordeb yn y ffaith eich bod yn sôn am wella gorsafoedd, trydaneiddio a signalau ar gyfer metro’r de, ond rwyf fi’n fwy awyddus i glywed am dramiau, rheilffyrdd ysgafn a thocynnau integredig; mae’n ymddangos i mi mai’r rheini yw’r materion allweddol, yn hytrach na mynd i ormod o ffwdan ynglŷn â thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd. Mae angen atebion llawer mwy effeithiol arnom er mwyn cynhyrchu’r canlyniadau sydd eu hangen. Tybed a allech ddweud am hynny.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:07, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwyf wedi bod â llawer o ddiddordeb yng nghynlluniau Mersey Travel a’r ffordd y maen nhw'n integreiddio tocynnau ac yn sicrhau ffordd dryloyw a chadarn iawn o dalu am wasanaethau. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am sicrhau tocynnau integredig a thrafnidiaeth fforddiadwy a hygyrch i bawb, a chyfundrefn brisiau sydd hefyd yn deg.

Byddwn yn cytuno â’r cwestiwn rhethregol ac â sail y cwestiwn rhethregol. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU wir yn ei chael yn anodd cefnogi llawer o rannau o Gymru o ran seilwaith rheilffyrdd. Dim ond tuag 1 i 1.5 y cant o fuddsoddiad yr ydym wedi’i gael yn y llwybr Cymru a'r gororau yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad, ac mae hynny er ei fod yn fwy na 5 y cant o holl rwydwaith y DU. Rydym hefyd wedi gweld Llywodraeth y DU yn methu, hyd yma, â chefnogi morlyn Abertawe, trydaneiddio, a rhaid imi ddweud fy mod yn falch nad nhw sy’n gyfrifol am Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, oherwydd pe baen nhw, dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw obaith iddyn nhw aros yn yr uwch gynghrair.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac o barch tuag atoch chi, byddaf yn gryno a gofyn un cwestiwn yn unig. Rwy’n falch o weld yn y datganiad eich bod yn dweud y bydd Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar y daith gyfan o ddrws i ddrws. Rwy'n cymryd felly fod hynny'n cynnwys teithio llesol fel y cysylltiadau allweddol hynny ar ddau ben y daith. A allwch chi gadarnhau mai dyna yw'r bwriad, oherwydd nid oes sôn amdano yn y datganiad? Ac os felly, a fyddwch chi'n gwneud yn siŵr bod y sgiliau a’r capasiti o fewn Trafnidiaeth Cymru yn bodoli i allu gweithredu ar deithio llesol, oherwydd mae hynny’n amlwg ar goll ar lefel llywodraeth ganolog a lleol ar hyn o bryd? Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:09, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie. A gaf i ddiolch i Lee Waters am ei gwestiwn a dweud, byddai, o bosibl, byddai teithio llesol o fewn cwmpas Trafnidiaeth Cymru, ond byddai angen sgiliau ychwanegol hefyd i wneud yn siŵr bod datrysiadau teithio llesol yn addas at y diben a hefyd yn ystyried natur o ddrws i ddrws llawer o’r teithiau y mae pobl yn eu gwneud?

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich sylwadau bod pobl yn ganolog i gyflawni polisi trafnidiaeth. Yn fy etholaeth i, ceir dadl ynghylch pa un a cysylltiadau bws neu trên fyddai’n gwasanaethu un gymuned leol orau o dan unrhyw gynllun metro yn y dyfodol. Pa fecanweithiau a fydd wedi’u cynnwys er mwyn ymgynghori â chymunedau, fel y gellir llunio gwasanaethau i fodloni anghenion a gofynion pobl leol?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r cynigwyr i gyd wedi cael eu gwahodd i gynnig yr atebion gorau, nid dim ond o ran gwerth am arian, ond yr atebion gorau o ran gallu cysylltu cymunedau a chysylltu canolfannau cyflogaeth. Gallai’r atebion gyfuno gwahanol fathau o deithio, ond mae'n hanfodol, wrth i’r broses o gynllunio’r metro gychwyn, bod cymunedau a rhanddeiliaid yn rhan o ddull partneriaeth, fel bod yr atebion a ddewisir yn y pen draw yn rhai sy'n cael eu cefnogi gan y bobl a fydd yn defnyddio'r gwasanaethau yn y pen draw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:10, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.