1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Mawrth 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o ran amseroedd ymateb ambiwlansys, gyda'r categorïau newydd, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi gwneud cynnydd. Ond rydym ni'n gwybod dros y ddeufis diwethaf, ledled y Deyrnas Unedig, bod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi bod o dan bwysau. Yn y wasg yn ddiweddar, bu enghreifftiau o arosiadau eithafol y bu’n rhaid i gleifion a phobl aros am ambiwlansys. Cyfeiriaf at ŵr bonheddig yn Ninas Powys, a arhosodd 16 awr am ambiwlans, cyfeiriaf at enghraifft ddoe yn y South Wales Evening Post, lle'r aethpwyd â gwraig i'r ysbyty ar ôl aros mor hir am ambiwlans, a dychwelyd adref dim ond i ganfod ambiwlans yn ymddangos 20 awr yn ddiweddarach yn y gorllewin. Yn fy rhanbarth fy hun, ddoe, yn y Bont-faen, bu gwraig yn aros 10 awr a hanner i'r ambiwlans ymddangos ddydd Sul, gan gael ei derbyn i'r adran damweiniau ac achosion brys am 01:15 yn y bore fore dydd Llun. Rwy'n gobeithio y gallwch chi gydnabod bod yr achosion hyn yn bodoli. Nid wyf yn disgwyl i chi wneud sylwadau ar yr achosion unigol hynny, gan fy mod i'n sylweddoli na allwch chi wneud hynny, ond a yw'r Llywodraeth yn cydnabod bod problem wirioneddol pan ddaw i amseroedd aros penodol ar draws Cymru gyfan i wasanaeth ambiwlans Cymru ymateb? Ac, os ydych chi'n cydnabod hynny, pa fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r amseroedd aros gofidus dros ben y mae'n rhaid i deuluoedd, cleifion ac, yn wir, parafeddygon a gweithredwyr y gwasanaeth ambiwlans ymdopi â nhw?
Wel, nid oes gen i unrhyw reswm i amau yr enghreifftiau a nodwyd gan arweinydd yr wrthblaid, ac mae angen ymchwilio i'r enghreifftiau hynny, wrth gwrs, ac ymchwilio iddynt yn llawn. A gaf i ddweud bod y model amseroedd ymateb ambiwlansys wedi ei ddyfeisio gan glinigwyr? Bwriedir iddo sicrhau bod y rhai sydd fwyaf angen ambiwlans yn cael ambiwlans. Rydym ni'n gwybod bod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwella'n fawr dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ers dros flwyddyn erbyn hyn, yn wir, ond bydd enghreifftiau y mae wedi cyfeirio atynt y bydd angen eu hystyried i weld pam mae sefyllfa o'r fath wedi codi.
Mae'n iawn i ddweud y bu llawer iawn o bwysau ar y GIG ac, yn wir, ar ambiwlansys ledled y DU dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn arbennig, ac, wrth gwrs, cafodd y cyfnod oer yr wythnos diwethaf effaith, yn enwedig ar dderbyniadau strôc , lle bu cynnydd sylweddol i nifer y bobl a oedd wedi cael strôc oherwydd y tywydd oer.
Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw ceisio sicrhau bod achosion unigol yn cael eu hystyried. Pan ddaw i'r model gwirioneddol a ddefnyddir, mae'n fodel a ddyfeisiwyd gan glinigwyr.
Gwneuthum y pwynt penodol hwn wrth agor fy sylwadau gan ddweud y bu cynnydd o ran amseroedd ymateb ambiwlansys mewn rhai categorïau, ond ni ellir gwadu, wythnos ar ôl wythnos, ein bod ni'n gweld achosion, yn y wasg ac a adroddir yma yn y Siambr, o amseroedd aros eithafol sy'n peri gofid aruthrol i'r parafeddygon, i'r timau sy'n rheoli'r gwasanaeth ambiwlans ac yn bwysicach, i'r cleifion a'r teuluoedd sydd wedi galw'r ambiwlans i ddod ar eu hadeg o angen.
Y mater a godais gyda chi ynghylch yr etholwr yn y Bont-faen—a dweud y gwir, fore dydd Llun, yn Ysbyty Tywysoges Cymru, roedden nhw'n defnyddio'r ystafell profedigaeth i bentyrru trolïau â chleifion arnynt gan fod y pwysau yn yr adran damweiniau ac achosion brys mor fawr. Nawr, tynnwyd eich sylw gennym dros y penwythnos bod nifer sy'n cyfateb i 1,000 o nyrsys wedi cael eu colli i GIG Cymru dros y tair blynedd diwethaf, a daw hynny o gais rhyddid gwybodaeth yr ydym ni wedi ei dderbyn gan y byrddau iechyd lleol. Os nad oes gennych chi'r staff ar y rheng flaen, sut ar y ddaear ydych chi'n gallu ymdrin â'r cleifion sy'n dod drwy'r drws ffrynt a'r galw cynyddol ar y GIG, er mwyn sicrhau, yn y pen draw, y gall y gwasanaeth 999 ymateb yn lle parcio mewn meysydd parcio ledled y wlad?
Wel, gallaf ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid bod mwy o nyrsys cofrestredig yn gweithio yn y GIG nag erioed o'r blaen. Er enghraifft, ers 2014, mae nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd wedi cynyddu gan 68 y cant. Mae hynny, ochr yn ochr â'n hymgyrch recriwtio ryngwladol, yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod y GIG yn parhau i fod â gweithlu o ansawdd uchel. Rydym ni'n ymwybodol o achosion lle mae nyrsys wedi gadael y proffesiwn. Mae'r rhesymau sy'n gysylltiedig â hynny yn amrywiol ac yn gymhleth. Bydd niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond rydym ni'n gwybod, fel y dywedais, bod gennym fwy o nyrsys cofrestredig nag erioed o'r blaen. Rydym ni'n buddsoddi £107 miliwn mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eleni. Mae hynny wedi arwain at gynnydd o 10 y cant i'r lleoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Felly, mae'r nyrsys yno, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddeall, wrth gwrs, pan ddaw i dderbyniadau adrannau damweiniau ac achosion brys, eu bod nhw'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan oedi wrth drosglwyddo gofal, er enghraifft. Pan na all pobl adael ysbyty pan eu bod yn barod i wneud hynny ac felly'n gallu—rwy'n ei roi mewn ffordd sy'n llym efallai—gadael gwely, mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod pwysau yn cael ei leddfu drwy'r system gyfan yr holl ffordd i flaen yr ysbyty yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Felly, mae'n hynod bwysig recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—rwyf i wedi nodi sut yr ydym ni'n bwriadu gwneud hynny—ond hefyd i ganolbwyntio ar symud pobl drwy'r ysbyty pan eu bod yn barod, ac allan o'r ysbyty pan eu bod yn barod, er mwyn gwneud yn siŵr bod lle ar gael i bobl eraill sydd angen y gwelyau hynny.
Amlygodd y cwestiwn cyntaf fy nghyfyng-gyngor, yr argyfwng y mae rhai pobl yn ei wynebu pan fyddant yn ffonio am ambiwlans yma yng Nghymru. A dyna oedd fy mhwynt yn union: nid yw'r system yn caniatáu'r llif cleifion fel bod yr ambiwlansys, yn hytrach na'u bod wedi parcio mewn meysydd parcio ysbytai gyda chleifion ynddynt, allan yn y gymuned yn ymdrin â galwadau 999 sy'n gofyn am eu cymorth. Rwyf i wedi nodi, o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y BILlau—eu ffigurau eu hunain yw'r rhain—y collwyd 1,000 o nyrsys i'r GIG yma yng Nghymru trwy fethu â gallu cadw nyrsys yn ein gwasanaeth. Mae'r bwrdd iechyd sydd o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi, Betsi Cadwaladr, wedi colli 493 o nyrsys yn y cyfnod hwnnw. Nhw oedd â'r nifer uchaf o nyrsys na chawsant rai eraill yn eu lle o bob un o'r saith bwrdd iechyd yma yng Nghymru. Nid yw'n afresymol, Prif Weinidog, i ofyn i chi, ac fe'i gofynnwyd i mi yn ystod y ddiwrnod neu ddau diwethaf, yn enwedig gan y teulu hwn o'r Bont-faen: a yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhedeg allan o syniadau pan ddaw i fynd i'r afael â'r pwyntiau o bwysau yn ein GIG? Felly, a allwch chi roi rhywbeth i mi i fynd yn ôl ag ef at fy etholwyr, a llawer o bobl eraill yng Nghymru, i ddeall beth yn union yw'r amserlen ar gyfer gweld cynnydd yn GIG Cymru, fel nad yw'r arosiadau 10, 12, 14, 16 awr hyn yn ddigwyddiad rheolaidd yn ein gwasanaeth ambiwlans?
Wel, os edrychwn ni ar y ffigurau, fe welwn fod amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwella, ac mae ef wedi cydnabod hynny. Rydym ni'n gweld gwelliannau o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, yn gweld gwelliannau o ran diagnosteg, yn gweld gwelliannau o ran amseroedd atgyfeirio i driniaeth, ond bydd adegau pan fydd rhai pobl yn cael eu heffeithio'n andwyol, ac mae angen edrych arnyn nhw'n ofalus iawn a'u hymchwilio, a dysgu gwersi o'r achlysuron hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y pwysau ariannol ar y GIG yn sylweddol bob amser, ac mae'r rhain yn bwysau ariannol sy'n bodoli ar draws y DU gyfan. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod digon o arian ar gael ar gyfer GIG Cymru. Rydym ni mewn sefyllfa lle, yn weddol fuan, y byddai'r GIG yn cymryd hanner ein hadnoddau, ac, fel pleidiau gwleidyddol, rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych yn ofalus iawn—ac mae'r arolwg seneddol, a bod yn deg, wedi gwneud hyn—ar sut yr ydym ni'n dyrannu adnoddau i'r GIG yn y dyfodol, sut yr ydym ni'n cael gwared ar dagfeydd, os oes rhai, a sut yr ydym ni'n datblygu GIG sydd â chefnogaeth y cyhoedd ar draws y pleidiau gwleidyddol.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Bydd yr holl Aelodau wedi eu dychryn gan yr ymosodiad asiant nerfol diweddar yn Nghaersallog. Mae'n ymddangos mai'r farn gyffredinol yw bod y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe rhwng Jeremy Corbyn a Phrif Weinidog y DU ymhell islaw lefel y digwyddiadau. Dywedodd Chris Leslie, cyn Ganghellor yr wrthblaid dros y blaid Lafur, nad oedd yn briodol gwneud pwyntiau gwleidyddol pleidiol pan fo'n gwlad o bosibl yn destun ymosodiad.
Dywedodd AS Llafur arall, John Woodcock,
Byddai'n rhoi ein diogelwch cenedlaethol mewn perygl sylweddol pe byddem ni'n cael ein harwain gan unrhyw un nad oedd yn deall difrifoldeb bygythiad Rwsia i'r wlad hon.
A yw'r Prif Weinidog yn credu bod Jeremy Corbyn yn unigolyn o'r math hwnnw?
Nid wyf i yma i ateb dros unrhyw un arall, ddim mwy, rwy'n siŵr, nag y mae ef yma i esbonio sut y mae Nigel Farage yn credu bod cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau yn bosibl mewn 48 awr, sef yr hyn a ddywedodd ddoe. Mae hwn yn fater difrifol iawn. Mae gennym ni bobl sydd wedi cael eu heffeithio'n ofnadwy, mae gennym ni swyddog heddlu sydd wedi cael ei effeithio'n ofnadwy. Yn ffodus, mae'n ymddangos fel pe byddai'n gwella. Wrth gwrs mae angen ymchwiliad llawn, a bydd gan yr awdurdodau ymchwilio gefnogaeth, rwy'n siŵr, gwleidyddion, nid yn unig yn San Steffan, ond gwleidyddion ar bob ochr yn y Siambr hon.
Sylwais fod y Prif Weinidog wedi ochrgamu'r cwestiwn. Ond mae Nicola Sturgeon wedi dweud
Mae angen pennau pwyllog yn sicr, ond ymateb cadarn hefyd. Ni ellir caniatáu i Rwsia lansio ymosodiadau ar ein strydoedd yn ddi-gosb.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â hynny?
Wrth gwrs fy mod i'n cytuno â hynny. Mae'n ceisio awgrymu yn y fan yma nad wyf i, rywsut, yn derbyn bod yn rhaid cael ymchwiliad llawn neu nad wyf i'n derbyn bod Rwsia yn rhan o hyn. Wrth gwrs bod y ffactorau hynny ar waith. Mae'n bwysig dros ben bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal. Gwn, ar sail amhleidiol, fod cefnogaeth i hynny, yn Nhŷ'r Cyffredin ac, yn wir, rwy'n siŵr, yma yn y Cynulliad. Ni all fod yn iawn bod pobl yn cael eu hanafu neu waeth o ganlyniad i'r defnydd o'r hyn sy'n ymddangos fel asiant nerfol gradd milwrol. Mae angen cosbi pwy bynnag oedd yn gyfrifol am hynny.
Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb rhesymol iawn yna. Un peth yr oeddwn i'n cytuno â Jeremy Corbyn yn ei gylch o ganlyniad i'r ddadl ddoe oedd hyn: dywedodd fod yn rhaid cael deialog gadarn â Rwsia ar yr holl faterion—domestig a rhyngwladol—sy'n rhannu ein gwledydd ar hyn o bryd, yn hytrach na thorri cysylltiad.
Os yw hynny'n wir am Rwsia, mae'n fwy gwir fyth efallai am ein perthynas â'r Unol Daleithiau. Yr Unol Daleithiau yw ein cynghreiriad pwysicaf, ac er bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi newid yn ystod heddiw, dywedodd Rex Tillerson yn ddiweddar
Rydym ni'n sefyll fel un gyda'n cynghreiriaid yn y Deyrnas Unedig a bod yr hyn a ddigwyddodd yn Nghaersallog yn weithred ddybryd iawn a bod Rwsia'n dod yn fwy ymosodol yn peri gofid mawr iddo. Nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd polisi gweinyddiaeth America yn newid gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd.
Onid yw'n ddyletswydd, felly, ar bob gwleidydd Llafur uwch roi'r ystyriaeth fwyaf gofalus i'n buddiannau gyda'r Unol Daleithiau a'n perthynas ddiplomataidd â nhw, ac i roi terfyn ar y galw enwau plentynnaidd ar yr Arlywydd ac eraill yn ei weinyddiaeth y maen nhw'n digwydd anghytuno â nhw yn wleidyddol? Buddiannau Prydain ddylai ddod yn gyntaf.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i'n cymeradwyo dulliau Arlywydd yr Unol Daleithiau a'r ffordd y mae'n cyfathrebu. Mae swydd arlywyddiaeth Unol Daleithiau America yn un a ddylai ennyn parch, hyd yn oed ymhlith y rhai na wnaethant bleidleisio dros yr Arlywydd presennol, ac nid wyf i'n siŵr bod yr Arlywydd presennol yn y sefyllfa honno. Mae'r ffaith fod Rex Tillerson, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, yn cefnogi'r DU ac yn gwbl gefnogol o safbwynt y Prif Weinidog, a'i fod wedi cael ei ddiswyddo o ganlyniad i hynny, yn peri gofid i mi. Mae hynny'n peri gofid i mi. Beth mae hynny'n ei olygu o ran pa gymorth fydd yn dod gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau i safbwynt Llywodraeth y DU o ran yr ymosodiad erchyll hwn? A cheir llawer o gwestiynau sy'n cael eu gofyn o ganlyniad i hynny. Nid wyf i erioed wedi bod o'r farn y dylem ni dorri cysylltiad â'r Unol Daleithiau mewn rhyw ffordd. Roeddwn i yno bythefnos yn ôl, a threuliais amser yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghanada. Fy marn i yw y dylem ni estyn allan i bob gwlad ac endid democrataidd, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs—endid y mae e'n llai awyddus i gadw cysylltiadau ag ef.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu swyddogaeth Aelodau'r Cynulliad—y swyddogaeth sydd gennym ni—o ran craffu ar gynllun metro de Cymru a'r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf?
Wel, mae'n agored i'r Aelodau, wrth gwrs, i graffu ar gynlluniau'r Llywodraeth yn y ffordd arferol.
Wel, mae'r gymhariaeth o fetro de Cymru ag anghenfil Loch Ness gan un o aelodau eich meinciau cefn yn crynhoi sut y mae llawer ohonom ni'n teimlo amdano. Ni wnaiff eich Llywodraeth esbonio beth sy'n digwydd, ac mae pobl eisiau eglurder. Nid ydych chi'n fodlon cyhoeddi'r ddogfen gwahoddiad i dendro hyd yn oed, ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi ei wneud gan bob gwlad arall yn y DU, a chadarnhawyd erbyn hyn bod Trafnidiaeth Cymru yn credu bod trydaneiddio rheilffordd Glynebwy, a dyfynnaf, wedi cael ei ddiystyru o unrhyw ystyriaeth bellach. A allwch chi gadarnhau nad oes gennych chi unrhyw fwriad i drydaneiddio rheilffordd Glynebwy erbyn 2023 erbyn hyn?
Wel, nid oedd rheilffordd Glynebwy wedi ei chynnwys yn y fanyleb wreiddiol ar gyfer trydaneiddio. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, na fydd gwasanaethau amlach ar y rheilffordd. Bydd hynny'n digwydd. Nawr, pan ddaw i'r Metro ei hun, fel yr wyf yn siŵr y mae'r Aelodau wedi cael llond bol o fy nghlywed i'n dweud, mae'r metro yn rhywbeth a godais gyntaf, flynyddoedd lawer yn ôl, yng nghlwb rygbi Bedwas—o bobman. Mae map wedi ei gyhoeddi, sy'n cynnwys y gwahanol gamau o sut y bydd y metro yn cael ei ddatblygu. Nid yw'n fater syml o uwchraddio'r hyn sydd yno eisoes. Mae'n golygu ystyried, er enghraifft, cysylltiadau rheilffordd ysgafn newydd, yn enwedig lle ceir rheilffyrdd trwm eisoes, nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae'n golygu ystyried y ffordd y mae bysiau yn rhyngweithio â rheilffyrdd ysgafn a rheilffyrdd trwm. Rydym ni wedi dangos ein hymrwymiad, wrth gwrs, trwy wneud yn siŵr bod gennym ni reolaeth dros y trac ei hun, i wneud yn siŵr nad ydym ni yn nwylo Network Rail, nad oes gennym ni unrhyw rym drostynt o gwbl i'w cyfeirio. Rydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen—ac rydym ni wedi dyrannu arian i'r diben hwn—gyda threnau gwell, trenau mwy cyfleus, pris rhesymol, rhwydwaith integredig ac, wrth gwrs, trenau amlach, a dyna'n union y bydd y metro yn ei ddarparu.
Mae hyn yn swnio llawer iawn i mi fel gêr tuag at yn ôl, Prif Weinidog. Roedd eich achos busnes gwreiddiol yn cynnwys rheilffordd Glynebwy. Roedd yn dweud, a dyfynnaf:
yn gyntaf ac yn bwysicaf oll, mae'r achos dros drydaneiddio rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd, ar y sail bod yr holl reilffyrdd yn cael eu cynnwys o Lynebwy i Faesteg a chyda rheilffordd Bro Morgannwg wedi ei chynnwys hefyd.
Nawr, mae'r dogfennau a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017—ddau fis ar ôl y gwahoddiad terfynol i dendro. Felly, gofynnaf i chi, Prif Weinidog: pa wybodaeth wnaeth Trafnidiaeth Cymru ei chael, a arweiniodd atyn nhw'n ddatgan bod rheilffordd Glynebwy, rheilffordd Maesteg a chynlluniau Bro Morgannwg wedi eu terfynu?
Wel, dydyn nhw ddim wedi eu terfynu, oherwydd bydd gwasanaethau amlach ar y rheilffyrdd hynny, fel yr ydym ni wedi ei ddweud. Er enghraifft, os edrychwch chi ar Faesteg—. [Torri ar draws.] Os edrychwch chi ar Faesteg, er enghraifft—. Os edrychwch chi ar Faesteg, er enghraifft—. [Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau fy holi am drenau, yna pob lwc. Os edrychwch chi ar Faesteg, er enghraifft, gwasanaeth ddwywaith yr awr yw'r hyn sy'n cael ei gynnig, pa un a yw hynny'n golygu yr holl ffordd i Gaerdydd neu'n golygu un i Ben-y-bont ar Ogwr ac un i Gaerdydd. Wrth gwrs, y broblem gyda Maesteg yw bod trydaneiddio'r prif reilffordd wedi diflannu i'r gorllewin o Gaerdydd. Mae hynny'n ychwanegu'n sylweddol at y gost o drydaneiddio i Faesteg. Yn wreiddiol, pan edrychasom ar y cynlluniau metro, roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n trydaneiddio cyn belled ag Abertawe. Mae hynny wedi diflannu erbyn hyn.
Ond gadewch i ni fod yn gwbl eglur am hyn. Mae dau beth i'w pwysleisio yn y fan yma: yn gyntaf, beth bynnag yw'r dull tynnu, bydd gwasanaeth gwell a gwasanaeth amlach; ac yn ail, mae'n amlwg nad yw awgrymu'r hyn a awgrymwyd yr wythnos diwethaf, y gallwch chi wahanu Caerdydd oddi wrth gweddill rheilffyrdd y Cymoedd, yn gweithio. Mae llawer iawn o bobl yn dod i weithio i Gaerdydd o'r Cymoedd. Mae hynny'n golygu pan eu bod yn cyrraedd Caerdydd ei bod hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gallu symud o gwmpas Caerdydd yn briodol, a symud o gwmpas Caerdydd yn y ffordd rwyddaf bosibl, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, integreiddio'r system yng Nghaerdydd gyda rheilffyrdd y Cymoedd. Unwaith eto, gadewch i mi fod yn gwbl eglur: bydd gwasanaethau amlach; bydd gwasanaethau gwell.
Wedi'u trydaneiddio?
Bydd rhai rheilffyrdd yn cael eu trydaneiddio yn gyntaf. Bydd yr achos busnes dros eraill yn cael ei ystyried yn y dyfodol. Ni allwn drydaneiddio'r cwbl ar unwaith. Rydym ni'n edrych ar y rheilffyrdd ac yn datblygu trydaneiddio wrth i amser fynd yn ei flaen.
Ond y pwynt y mae Plaid Cymru yn ceisio ei wneud yw hyn: y bu, rywsut—rwy'n gwybod nad ydyn nhw'n gwrando—symudiad oddi wrth ddarparu gwasanaeth trenau gwell i bobl yn ardal metro de Cymru. Nid yw hynny'n wir. Bydd y trenau'n well ac yn amlach. Yn y camau cyntaf, bydd rhai'n cael eu trydaneiddio, a bydd rhaglen barhaus ar gyfer gwneud hynny. Bydd pobl yn gallu dal bysiau sy'n cysylltu â gwasanaethau trên. Byddant yn rhan o rwydwaith integredig mewn ffordd na fu erioed yn bosibl o'r blaen. Bydd y metro yn digwydd. Bydd yn symud ymlaen ar hyd y rheilffyrdd yr ydym ni wedi eu hawgrymu, yn unol â'r cynlluniau yr ydym ni wedi eu hawgrymu, a bydd y bobl yn ardal metro de Cymru yn cael gwasanaeth gwell.