1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Ebrill 2018.
8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd? OAQ52012
Cyflwynodd strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd y camau yr ydym ni'n eu cymryd i wella datblygu economaidd ledled Cymru, gan gynnwys Casnewydd.
Diolch, Prif Weinidog. Byddai gwasanaeth rheolaidd a dibynadwy ar gyswllt rheilffordd Glynebwy i Gasnewydd yn lliniaru tagfeydd ar ein ffyrdd prysur iawn ac yn gwella ffyniant economaidd ar draws y rhanbarth. Ceir rhwystredigaeth dwfn gan fod pobl wedi bod yn aros am amser maith i hyn ddigwydd. Byddai un trên ychwanegol bob awr ar y rheilffordd, yn rhedeg o Lynebwy i Gasnewydd drwy Tŷ-du a Pye Corner ac ymlaen i Gaerdydd, yn cysylltu'r Cymoedd a dwy o'r dinasoedd mwyaf yn y de-ddwyrain ac i'r gwrthwyneb.
Er fy mod i'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu amlder y gwasanaeth ar reilffordd Glynebwy, gyda'r penderfyniad sydd ar fin cael ei wneud ar ddyfarniad y fasnachfraint rheilffyrdd, a all y Prif Weinidog roi sicrwydd y bydd cyswllt rheilffordd Glynebwy i Gasnewydd yn flaenoriaeth?
Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i gynyddu amlder gwasanaethau ar hyd rheilffordd Glynebwy ac mae'r dewisiadau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys gwasanaethau sy'n galw yng Nghasnewydd. Mae'n bwysig bod rheilffordd Glynebwy yn cyd-fynd â'n dyheadau ar gyfer y metro, felly byddwn yn gweithio gyda'r cynigydd buddugol i ganfod yr ateb technegol sydd ei angen i gwblhau'r seilwaith sydd ei angen i wella nifer y gwasanaethau ar hyd y rheilffordd.
Prif Weinidog, cyhoeddodd Cyngor Casnewydd ei gynllun meistr ar gyfer dyfodol canol dinas Casnewydd yn ddiweddar, ond yn anffodus roedd yn cynnwys cyn lleied o fanylion a chyn lleied o ran cynigion pendant fel mai dim ond 24 o ymatebion a ddenwyd. A wnaiff ef ymuno â mi i annog Cyngor Dinas Casnewydd i fanteisio ar y cyfleoedd y mae cael gwared ar dollau Pont Hafren yn eu cynnig a buddsoddi'n wirioneddol yng nghanol Casnewydd fel ein bod ni wir yn elwa ar y cyfleoedd hynny?
Mae'n rhaid i mi ddweud, mae gan Gyngor Casnewydd hanes rhagorol o ran buddsoddi. Rydym ni'n gweld y datblygiad ar hyd yr afon, campws y brifysgol ac agor Friars Walk, yr oeddwn i'n falch o'i agor rai blynyddoedd yn ôl bellach. Felly, bu datblygiad sylweddol yng nghanol Casnewydd ac rwy'n disgwyl i hanes da y Cyngor barhau.
Yr wythnos hon, gwelsom y cam digynsail o ddatganiad ar y cyd rhwng Canolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol y DU, yr FBI ac Adran Diogelwch Cartref yr Unol Daleithiau, yn rhybuddio am risgiau cynyddol i'n seilwaith rhyngrwyd a'n caledwedd gan hacwyr a noddir gan wladwriaeth Rwsia. Mae Casnewydd ar flaen y gad o ran arbenigedd seiberddiogelwch, ac mae'r Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ragorol wedi ei lleoli yn y ddinas honno. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog yn bwriadu eu cael i sicrhau—gan fod angen i ni gynyddu capasiti yn y DU i wynebu'r bygythiad gwirioneddol hwn, sydd â goblygiadau economaidd a gwleidyddol i bob un ohonom—pa drafodaethau y mae'n bwriadu eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw hyn wedi'i ganoli yn Llundain, a bod ymateb y DU yn cael ei rannu rhwng gwahanol ddinasoedd y DU lle mae arbenigedd yn bodoli ac, yn wir, i fynd hyd yn oed ymhellach a dweud y dylid rhannu arbenigedd a chylch gwaith Canolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol y DU i'r ardaloedd lle ceir arbenigedd presennol eisoes, mewn lleoedd fel Casnewydd?
Rwy'n cytuno, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn annerch digwyddiad ddydd Iau sy'n ymdrin â'r union bwynt hwn. Rydym ni'n cefnogi nifer o fentrau i gynorthwyo enw da technolegol y rhanbarth. Mae gennym ni Academi Meddalwedd Genedlaethol gyntaf y DU, Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol a phwynt arloesi. Mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud na ellir canoli'r gwaith hwn yn Llundain, nid yn unig yn economaidd, ond o safbwynt diogelwch hefyd byddwn yn amau.