2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi adroddiad ar hynt cynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru? OAQ51970
Gwnaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr holl themâu: arweinyddiaeth, trawsnewid, sgiliau a gweithlu, gwasanaethau platfform, ymgysylltu a deialog ddigidol, a data. Mae'n bwysig iawn i mi gan ei fod yn hybu gwelliannau wrth gyflawni gwaith y Llywodraeth, ac wrth gwrs, rwy'n goruchwylio cynnydd y cynllun, sy'n eiddo i'r Ysgrifennydd Parhaol, yn y grŵp digidol a data, a gadeirir gennyf.
Diolch am eich ateb. Arweinydd y tŷ, mynychais y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol ddiwedd y tymor diwethaf. Yno, nodwyd rhwystr i weithio'n fwy effeithiol a chyfathrebu ar draws disgyblaethau, sef anallu gwahanol systemau technoleg gwybodaeth i siarad â'i gilydd, er fy mod yn deall bod gwelliannau ar y gweill. Ddoe ddiwethaf, yn ystod y datganiad ar wasanaethau iechyd rhywiol, amlygwyd diffyg systemau TG effeithiol fel problem unwaith eto. Rwy'n sylweddoli nad yw systemau iechyd yn rhan o'ch cylch gwaith, ond mae hyn wedi gwneud imi feddwl am arloesedd y gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn addas ar gyfer y presennol, heb sôn am y dyfodol.
Mae fy ymchwil wedi fy arwain i ddarllen eich cynllun gweithredu digidol ar gyfer 2017-20, enghraifft wych o syllu ar eich bogail, os gwelais un erioed, gydag un paragraff yn unig—29—yn sôn am un o'r prif resymau pam rydym yma: ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Cefais fy arwain wedyn at yr adroddiad 'digidol yn gyntaf' yn 2012. Dyma'r cyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru, lle yr ystyriwyd bod arweinyddiaeth, strategaeth a chyfeiriad yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon yn y dyfodol. Nawr, mae hi bellach yn 2018—dyma'r dyfodol. Wedi 20 mlynedd o ddatganoli, mewn gwlad fechan iawn, a allwch amlinellu pa arweinyddiaeth, strategaeth a chyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dangos yn y maes allweddol hwn?
Fe geisiaf fynd i'r afael â hynny. Mater y gwasanaethau iechyd: mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau yn cydweithio ar faterion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd, ac yn wir, rwy'n mynychu'r bwrdd rheoli gwybodeg cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth iechyd, a elwir yn NIMBY—sydd bob amser yn gwneud imi wenu, mae arnaf ofn, ond nid yw'n golygu'r hyn y mae'n ei olygu fel arfer; dyna yw'r enw ar system y bwrdd gwybodeg. A holl bwynt hynny yw cydgysylltu cynnydd TG ar draws y gwasanaeth iechyd, ar sail unwaith i Gymru, ac i sicrhau bod gennym systemau sy'n gweithio—wel, (a) bod gennym gyn lleied o systemau â phosibl, er mwyn sicrhau bod gennym systemau tebyg ar draws pob bwrdd iechyd, ac yn wir, eu bod yn siarad gyda'i gilydd, ac mae'r gwaith o wneud hynny'n mynd rhagddo. Ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ein cynnydd mewn perthynas â hynny. Ond gallaf eich sicrhau ein bod yn bwrw drwyddi ar hynny, ac rydym yn cael sgyrsiau bywiog iawn yn ei gylch.
O ran Llywodraeth Cymru ei hun, credaf fod tair agwedd ar eich cwestiwn. Un yw busnes mewnol Llywodraeth Cymru, a amlinellwyd gennyf yn awr yn nhermau'r cynllun gweithredu digidol, sy'n ymwneud â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn gweithio. Ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod ein bod newydd ddod i ben ag un o'r prif gontractau TG mawr, Atos, a'n bod yn newid i system fwy hyblyg. Roedd y comisiwn sawl blwyddyn ar y blaen i'r Llywodraeth yn hyn o beth, ac mae'n ffordd wahanol o weithio. A dyna roeddwn yn ei amlinellu, a byddaf yn adrodd ar gynnydd ar y cynllun hwnnw cyn bo hir. Ac yna, mae'r gwaith a wnaf gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, mewn llywodraeth leol ac yng nghyngor partneriaeth y gweithlu, ar arloesi digidol a gwella ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym agenda enfawr yn hynny o beth, lle'r ydym yn cysylltu â'r holl wasanaethau cyhoeddus—gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru—er mwyn sicrhau, unwaith eto, fod gennym system unwaith i Gymru â chyswllt digidol, lle'r ydym yn rhoi'r systemau ar waith gyda'i gilydd. A soniodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ei atebion yn awr am y llwyddiant gwirioneddol rydym wedi'i gael gydag Awdurdod Cyllid Cymru, a ddaeth yn weithredol yn gynharach y mis hwn—a gwn ei fod wedi'i amlinellu yn gynharach—gyda'r holl broses ar-lein o gasglu a rheoli'r trethi trafodiadau a thirlenwi wedi'i galluogi'n ddigidol, a chyda'r holl gyfreithwyr a thrawsgludwyr, ac yn y blaen, yn gallu mewngofnodi ar y system, a chwblhau eu trafodion yn ddigidol.
Felly, rydym ar flaen y gad yn hynny o beth. Mae llawer o waith ar ôl i'w wneud, ac mae problem fawr yma o ran deall sut y mae'r dyfodol yn edrych, o ran yr agenda sgiliau hefyd. Ond heb os, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn bwrw drwyddi'n dda gyda'r agenda honno.
Arweinydd y tŷ, ymddengys bod gan gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru ddau nod—Cymru fwy cysylltiedig a Chymru fwy cyfartal. Nawr, fe gyhoeddoch ddiweddariad i'ch cynllun cynhwysiant digidol y bore yma, ac rwyf wedi ei ddarllen, ac mae'n nodi cynnydd da. Ond mae'n rhaid imi ddweud mai'r gwir amdani, wrth gwrs, yw bod cysylltedd band eang miloedd o fy etholwyr, yn Sir Drefaldwyn, yn dal i fod yn araf neu heb fodoli o gwbl. Felly, golyga hynny, wrth gwrs, na allant gael mynediad at wasanaethau Llywodraeth Cymru ar-lein. Nid ydynt yn teimlo'n fwy cysylltiedig, ac nid ydynt yn teimlo'n rhan o Gymru fwy cyfartal yn y cyswllt hwn, ac ni fydd yn syndod, wrth gwrs, fy mod yn dweud hyn wrthych. Ond a gaf fi ofyn am ddiweddariad ar gaffael cam 2 y prosiect Cyflymu Cymru, a phryd y byddwch mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr gyflawn o'r 88,000 o safleoedd a fydd yn elwa ar y cynllun nesaf?
Wel, mae'n rhaid imi ddweud, hoffwn longyfarch yr Aelod am lwyddo i sicrhau bod band eang yn rhan o'r sgwrs am gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru, a chredaf fod nifer o gwestiynau eraill ar hynny yn ddiweddarach ar yr agenda. Ond yr ateb byr yw: byddaf yn gwneud datganiad tuag at ddiwedd mis Mai ar gynnydd prosiect Cyflymu Cymru 2, y tri phrosiect a dendrwyd, a mater y gymuned benodol, a byddaf yn ymhelaethu ar hynny mewn cwestiynau diweddarach, Lywydd.
Mae e yn deg i ddweud, wrth gwrs, fod llawer mwy o ryngwyneb rhwng gwasanaethau cyhoeddus ac etholwyr yn digwydd ar-lein, felly rydw i'n meddwl bod y cwestiwn yn ddilys. Mae'n rhaid i mi ddweud: mae nifer o'm hetholwyr i wedi cael llond bol ar yr addewidion gwag maen nhw wedi bod yn eu cael yn y gorffennol gan bobl fel BT Openreach gynt, Openreach erbyn hyn. Mae pentrefi fel Ysbyty Ifan, i bob pwrpas, wedi cael eu camarwain gan gwmni sy'n amlwg â mwy o ddiddordeb mewn gwarchod buddiannau eu cyfranddalwyr nag mewn darparu gwasanaethau i'r cymunedau maen nhw fod i'w gwasanaethu. Ac yn waeth na hynny, mae Llywodraeth Cymru, hyd yn oed, wedi rhoi addewidion ffals i etholwyr, gyda chopïau o lythyrau rydw i wedi eu gweld yn dyddio yn ôl i Dachwedd 2015 yn addo datrysiadau yn y maes yma—un ohonyn nhw gennych chi, gyda llaw, mewn cyd-destun neu mewn rôl flaenorol fel Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg, dros ddwy flynedd yn ôl. Felly, pryd fydd y cymunedau gwledig yma, fel Ysbyty Ifan, o'r diwedd yn cael y gwasanaethau maen nhw'n eu haeddu, yn hytrach na'r addewidion gwag maen nhw wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf?
Mae'n ddrwg gennyf fod yr Aelod yn teimlo eu bod yn addewidion gwag. Rydym yn pwysleisio y gall y dyddiadau a grybwyllir yn y llythyrau newid ac na allwn addo mai dyna fydd y dyddiadau cysylltu. Ond rwyf wedi dweud sawl tro yn y Siambr hon fy mod yn rhannu ei rwystredigaeth a rhwystredigaeth y bobl y trefnwyd iddynt fod yn rhan o'r rhaglen, ac yna, am ba bynnag reswm cymhleth, ni chawsant eu cynnwys yn y diwedd. Bydd rhaglen Cyflymu Cymru 2 yn ceisio ymdrin â phobl a fu'n rhan o'r rhaglen Cyflymu Cymru 1 ac na chawsant eu cynnwys am ba reswm bynnag. Ni allaf addo y gellir ymdrin â phob un ohonynt. Mae yna faterion cymhleth ynghlwm wrth hyn.
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu rhwystro gan broblemau sy'n ymwneud â fforddfreintiau, er enghraifft. Credaf fod gennym oddeutu 10,000 o safleoedd sydd wedi'u rhwystro gan fforddfreintiau ar hyn o bryd, ac yn anffodus, gan nad yw hyn yn cael ei ystyried yn gyfleustod, nid oes gan Lywodraeth Cymru na'r contractwyr y mae Llywodraeth Cymru yn eu caffael unrhyw hawl i groesi tir. Os yw perchennog tir yn gwrthod mynediad i dir, nid oes gennym unrhyw ffordd o fynnu ein bod yn cael mynediad, ac un enghraifft yn unig yw honno o blith llawer sy'n bodoli ledled Cymru.
Ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod. Rwy'n ymweld â nifer fawr o gymunedau yng Nghymru i drafod a oes ateb cymunedol yn bosibl ar gyfer pentrefi, fel yr un a grybwyllwyd gennych yn awr, ac a allwn ddarparu un o'n hatebion pwrpasol i grŵp o bobl sy'n ddaearyddol agos neu a fyddai ateb arall yn well, a byddaf yn mynd i Geredigion yr wythnos nesaf, rwy'n credu.
Byddwch, ddydd Iau. Pedwar o'r gloch. [Chwerthin.] Llanina Arms.
Rwy'n edrych ymlaen yn barod. [Chwerthin.]