2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ52043
Ar hyn o bryd, mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar ei gynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau ysbyty yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymgysylltu a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a lleisio barn wrth helpu i lunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yn y rhanbarth.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddaf, wrth gwrs, yn cymryd rhan lawn, fel rwyf eisoes yn ei wneud, yn y sgwrs honno, ond credaf fod pobl gorllewin Cymru yn haeddu gofal iechyd rhagorol wedi'i ddarparu o fewn pellter rhesymol, ac mae hyn yn cynnwys y gofal iechyd gorau posibl, gan gynnwys gofal brys ac ysbytai addysgu. Mae Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn edrych ar ôl rhan ogleddol ardal Hywel Dda, ac ymddengys ei fod yn cael ei gadw fel ag y mae. Y cwestiwn yw: sut y gallwn gyflawni'r amcanion a'r uchelgeisiau hynny yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin?
Nawr, gwyddoch fod y dewisiadau a gyflwynwyd gan Hywel Dda yn cynnwys ysbyty newydd, o bosibl, yn yr ardal honno. Os ydym am gael sgwrs go iawn am chwyldroi ein gwelyau cymunedol, ein gwasanaethau iechyd meddwl a'n gwasanaethau ysbyty yng ngorllewin Cymru, mae angen i ni ddeall bod hwn yn ymgynghoriad go iawn yn seiliedig ar y ddealltwriaeth y gall hyn ddigwydd. Gan nad ydym wedi cael buddsoddiad mawr yn ysbytai gorllewin Cymru dros y 30 mlynedd diwethaf, golyga hynny y bydd ysbyty newydd yn ffordd bosibl o ddarparu gofal iechyd rhagorol. Felly, er mwyn sicrhau nad ymgynghoriad ffug yw hwn i guddio toriadau pellach, os yw canlyniad yr ymgynghoriad yn arwain at Hywel Dda yn argymell ysbyty newydd yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, a wnewch chi ymrwymo yn awr y byddwch chi fel Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Hywel Dda i wireddu'r uchelgais hwnnw?
Ni allaf ateb pob rhan o'r cwestiwn hwnnw, oherwydd, fel arall, rwyf mewn perygl o roi fy hun mewn sefyllfa o beidio â gallu gwneud penderfyniad ar ddiwedd yr ymgynghoriad. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud am ofal iechyd ym mhob rhan o Gymru yw bod pob cymuned yng Nghymru yn haeddu gofal iechyd rhagorol, ac rwy'n cytuno â chi fod pob cymuned yn haeddu gofal iechyd rhagorol. Fel bob amser, pan fyddwn yn sôn am ddyfodol gofal iechyd, mewn pwyllgorau rydym yn sôn am y ffaith bod angen i ofal sylfaenol a chymunedol wneud mwy o'n gweithgarwch a mwy gyda'n cyllideb ym maes gofal cymunedol sylfaenol, ac yna rydym yn treulio ein holl amser yn dadlau ynglŷn â'r rhwydwaith ysbytai. Pan gafodd ardal Gwent eu strategaeth Dyfodol Clinigol, hoffwn atgoffa'r Aelodau ei bod wedi cymryd peth amser i adeiladu cefnogaeth gan randdeiliaid ac i ddatblygu achos busnes ar gyfer ysbyty newydd yn rhan o hynny. Llwyddasant i gyflawni mewn amryw o feysydd ac yna gallasom weithio ochr yn ochr â hwy a darparu'r ysbyty newydd sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, sef ysbyty prifysgol y Faenor.
Yr hyn a ddywedwn am bob ardal yng Nghymru, yn hytrach nag unrhyw gynigion penodol, os oes cynigion a gynlluniwyd i gyflawni a bod cefnogaeth glinigol a thystiolaeth y byddant yn darparu system gofal iechyd well, yna, wrth gwrs, byddwn yn gweithio ochr yn ochr ag unrhyw sefydliad a phob sefydliad i geisio eu helpu i wneud hynny, o gofio gallu'r Llywodraeth i wneud hynny. Felly, byddwn yn meddwl yn gadarnhaol am bob ardal yng Nghymru pan fydd cynigion go iawn a sylweddol yn cael eu gwneud, ond ni allaf wneud sylwadau penodol ar botensial cynigion yn Hywel Dda, oherwydd mae'n gwbl bosibl y byddaf yn gorfod penderfynu ar y rheini yn y dyfodol agos.
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y tri dewis yn yr ymgynghoriad hwn yn arwain at israddio ysbyty Llwynhelyg o ysbyty cyffredinol i ysbyty cymunedol, sy'n gwbl annerbyniol i'r bobl rwy'n eu cynrychioli. I'r bobl rwy'n eu cynrychioli, mae'r ymgynghoriad yn ddiwerth o gofio nad oes ganddynt ddewis yn y mater hwn o gwbl. Ni all hyn fod yn iawn. O dan yr amgylchiadau, rwy'n ymbil arnoch i ymyrryd yn y mater hwn a gorfodi'r bwrdd iechyd i gyflwyno cynigion sy'n deg i bobl Sir Benfro. A wnewch chi ymyrryd yn awr—'gwnaf' neu 'na wnaf'?
Rydym wedi bod yn glir iawn fod hwn yn ymgynghoriad cyhoeddus i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan ynddo. Rwyf hefyd wedi bod yn glir iawn fod angen arweinyddiaeth glinigol mewn perthynas ag unrhyw gynigion eraill, a dyna pam roedd hi'n bwysig fod clinigwyr yn cymryd rhan, nid yn unig mewn cyflwyniad a thrafodaeth gyda'r bwrdd, mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r drafodaeth gyda'r cyhoedd hefyd. Os wyf yn ymyrryd yn awr a dweud nad oes ots beth y mae'r clinigwyr eu hunain wedi'i ddweud mewn gwirionedd—nad oes ots beth a ddaw o'r ymgynghoriad cyhoeddus—ac y byddaf yn penderfynu hynny drostynt, bydd hynny, mewn gwirionedd, yn rhwystro arloesedd a chynnydd a diwygio gofal iechyd ym mhob rhan o'r wlad. Mae'n bwysig fod trafodaeth yn digwydd, mae'n bwysig i bobl ganolbwyntio ar ddarparu gofal iechyd gwell ac mae'n bwysig ein bod mewn sefyllfa fel gwlad i allu gwneud penderfyniadau anodd. Dyna'r her a osodwyd i ni gan yr arolwg seneddol. Mae'n dweud wrthym ar y naill law fod yna sylfaen dystiolaeth dda dros ddadlau y dylid darparu rhai gwasanaethau arbenigol mewn llai o ganolfannau ledled y wlad—bydd hynny'n golygu mwy o deithio i unrhyw gymuned—ond hefyd ein bod yn gallu darparu mwy o wasanaethau o fewn rhwydwaith ehangach o ofal iechyd cymunedol. Lle y caiff y cynigion hynny eu cyflwyno, lle y cytunir arnynt gyda strategaeth glinigol glir, bydd y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i gyd-fynd â hynny. Os ydym am wneud hynny, os ydym am ateb yr her a osodwyd i ni, her a gafodd ei derbyn mewn egwyddor gan bawb yn yr arolwg seneddol, yna mae'n rhaid i ni allu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anodd ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth chwarae ei rhan fel yr un a fydd o bosibl yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn symud i gyfnod ymgynghori ac fe glywais yr hyn a ofynnodd fy nghyd-Aelod Simon Thomas, ac mae'n bosibl iawn y byddaf yn gofyn yr un cwestiwn yn y dyfodol agos, ond yr hyn sy'n fy mhoeni ar hyn o bryd yw bod pobl wedi cysylltu â mi i ddweud bod y cyfleoedd iddynt gymryd rhan yn y broses hon yn gyfyngedig, eu bod yn bell yn ddaearyddol o'r llefydd y gallai'r unigolion hynny fod yn byw ac ar adegau pan na fydd pobl yn gallu mynychu'r digwyddiadau cyhoeddus hyn o bosibl. Fy nghwestiwn i chi heddiw yw, a allech annog bwrdd iechyd Hywel Dda i ehangu'r cwmpas o ran amser a lleoliad daearyddol eu hymgynghoriadau cyhoeddus ar y cam hwn.
Rwy'n hapus i ymateb yn gadarnhaol a dweud y dylai Hywel Dda ymateb yn gadarnhaol i geisiadau am ymgysylltu cyhoeddus pellach. Mae sicrhau'r lefel uchaf bosibl o ymgysylltu cyhoeddus o fudd i bawb, nid yn unig ymgysylltiad â'r bwrdd iechyd ar lefel yr arweinyddiaeth, ond â chlinigwyr yn eu cymunedau lleol mewn gwirionedd, boed mewn ymarfer cyffredinol neu wasanaethau ysbyty neu wasanaethau cymunedol eraill, er mwyn sicrhau bod ymgysylltiad clinigol go iawn rhyngddynt a'i gilydd a chyda'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Rwy'n fwy na pharod i ddweud y buaswn eisiau i Hywel Dda fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny i ymgysylltu gyda'r cyhoedd, gan gynnwys mewn lleoliadau ac ar adegau o'r dydd sy'n briodol gyfleus i bawb allu cymryd rhan a lleisio barn.