– Senedd Cymru am 4:43 pm ar 2 Mai 2018.
Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Rhianon Passmore i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Rhianon.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn rhoi munud o'r amser a neilltuwyd ar fy nghyfer i fy nghyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed.
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod bod hwn yn fater eithriadol o bwysig i mi, ond mae hefyd yn fater o bwys mawr i Gymru. Roedd gennyf gariad angerddol yn blentyn at gerddoriaeth a fy mhroffesiwn fel oedolyn oedd addysgu a pherfformio cerddoriaeth, ac rwy'n benderfynol fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, wrth galon Cymoedd Cymru, o wneud popeth a allaf i sicrhau nad yw dyfodol cerddorol Cymru yn gadael unrhyw blentyn ar ei hôl hi. Lle bynnag yng Nghymru y caiff plentyn ei eni, dylai allu cael mynediad at addysg gerddorol a chyllid; dylai fod ar gael i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am ei pharodrwydd parhaus i wrando arnaf yn annog Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd o wneud mwy, o fynd ymhellach ac o herio'r rhagdybiaethau mewn oes o gyni a ysgogwyd yn wleidyddol nad oes fawr ddim y gallwn ei wneud yng Nghymru i atal dirywiad cymorth ar gyfer addysg cerdd, ac yn arbennig y dirywiad mewn gwasanaethau sy'n cefnogi cerddoriaeth ledled Cymru. Er gwaethaf y toriadau i Gymru ers 2010, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhyddhau arian ychwanegol yn y pumed Cynulliad, gan gynnwys y gwaddol ar gyfer cerddoriaeth ac amnest cerddorol Ysgrifennydd y Cabinet. Anelir y gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth, gydag £1 filiwn o gyllid cychwynnol a roddwyd i Gyngor Celfyddydau Cymru, at weithgareddau allgyrsiol yn benodol, a bwriad y gronfa hon yw annog rhoddion pellach, gyda'r nod o godi £1 filiwn ychwanegol yn flynyddol yn y dyfodol. Mae'r rhain yn fentrau i'w croesawu'n fawr ac yn adenydd defnyddiol yn yr olwyn, ond fel y dywedais o'r blaen, mae angen inni fod yn fwy radical ac yn fwy uchelgeisiol.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd The Economist erthygl o'r enw, 'The quiet decline of arts in British schools'. Defnyddient astudiaeth achos o Gymru o awdurdod lleol yr effeithiwyd arno gan doriadau ariannol. Soniwyd sut roedd cyllideb y gwasanaeth cerddoriaeth wedi lleihau cymaint â 72 y cant. Disgrifiodd pennaeth gwasanaeth cerddoriaeth y cyngor ar y pryd y peth yn gryno—'Bydd llawer yn rhoi'r gorau iddi'. Ac wrth gwrs, mae'n cyfeirio at hyfforddiant offerynnol a'r offerynnau a ddarperir ganddynt.
Os yw Cymru i gadw ei henw da ledled y byd fel y gwlad y gân, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol, sef cynllun, ac yn benodol, strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg perfformio cerddoriaeth i Gymru, yn amlinellu'r camau a'r gofynion, a chynnig craidd a chyson ar gyfer disgyblion Cymru. Mae egwyddorion darpariaeth gyffredinol ledled Cymru yn allweddol os ydym am sicrhau cyfleoedd wedi'u gwarantu i bawb.
Yn wir, mae arweinydd cerddorfaol mwyaf blaenllaw Cymru, Owain Arwel Hughes, wedi priodoli'r argyfwng yng ngherddoriaeth Cymru i doriadau mewn gwasanaethau cerddoriaeth. Ni ellir gwahanu'r rhain oddi wrth y gwasgu parhaus ar gyllideb Cymru, a'r pwysau felly ar wasanaethau llywodraeth leol a gwasanaethau anstatudol, er gwaethaf amddiffyniadau Llywodraeth Cymru. Nid oes neb yn fwy angerddol yng Nghymru, gwlad y gân, nag Owain Arwel Hughes, ond mae angen inni wrando ac mae angen inni wrando'n astud.
Yn ddiweddar mynychais lansiad Proms Cymru. Eleni, er siom amlwg i lawer, cafodd cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ei dynnu'n ôl. Y rhesymeg oedd bod yr arian wedi dod o gyllid datblygu economaidd Llywodraeth Cymru, ac na ellid ei gyfiawnhau mwyach. Credaf fod yn rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn syrthio i'r fagl o wybod pris popeth a gwerth dim byd.
Fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathebu, gwn pa mor angerddol hefyd yw ein Cadeirydd, Bethan, ynglŷn â'r mater hwn. Rhennir ei brwdfrydedd gan y cyhoedd yng Nghymru. Mae ymchwiliad ein pwyllgor i gyllid a mynediad at addysg cerdd i fod i gyflwyno'i adroddiad cyn bo hir. Ymchwiliad wedi'i ysbrydoli gan bobl Cymru oedd hwn. Pan ofynnodd y pwyllgor yn 2016 beth ddylai blaenoriaethau'r pwyllgor fod, gwelodd yr ymgynghoriad cyhoeddus mai'r hyn a oedd yn fwyaf poblogaidd oedd cyllid ar gyfer, a mynediad at addysg cerdd. Ac mae'r cyhoedd yng Nghymru ar y blaen inni fel gwleidyddion. Maent yn gwybod gwerth addysg cerdd i fywyd ein cenedl, ein hartistiaid yn y dyfodol a'n diwylliant. Maent yn pryderu, yn briodol, fod Cymru'n wynebu'r perygl o loteri cod post o ran y ddarpariaeth heb weledigaeth genedlaethol a dull cenedlaethol o weithredu strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg perfformio cerddoriaeth.
Yn gynharach eleni, comisiynais yr Athro Paul Carr o gyfadran diwydiannau creadigol Prifysgol De Cymru i gwblhau adroddiad yn edrych ar arferion gorau rhyngwladol o ran modelau addysg perfformio cerddoriaeth, a'r canlyniadau dysgu cysylltiedig ar gyfer Cymru. Dewisodd yr Athro Carr 12 o randdeiliaid a ddewiswyd naill ai ar sail eu gwybodaeth fanwl am y cyd-destun Cymreig, eu tystiolaeth a'u harbenigedd a gwybodaeth ar sail tystiolaeth o'r DU ac yn rhyngwladol. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys cadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, cyfarwyddwr artistig BBC Cymru Wales, athrawon addysg cerdd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, rheolwyr gyfarwyddwyr Undeb Ysgolion Cerdd Ewrop ac wrth gwrs, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn mewn dathliad o gerddoriaeth Gymreig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae'n waith cwmpasu pwysig gydag adroddiad o ganlyniadau i ddilyn. Ac i roi hysbysrwydd bach iddo, rwy'n gobeithio y bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad yn gallu bod yn bresennol ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol ac artistiaid rhyngwladol. Ond rhoddodd rybudd difrifol, ac rwy'n dyfynnu:
Os na wneir rhywbeth i wrthdroi'r dirywiad presennol sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, bydd un o'r disgrifiadau enwocaf o Gymru, sef gwlad y gân, dan fygythiad yn bendant yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd yn syml iawn, ni fydd yn wir.
Yng Nghymru, ni allwn dderbyn canlyniadau'r cyni a orfodwyd arnom o Lundain ers 2010 sy'n dinistrio gwead cerddorol ein cenedl. Mae Cymru angen buddsoddiad cyfalaf tebyg i'r gronfa ddatblygu cerddoriaeth a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur yn 1999. Byddai hon yn darparu gwasanaeth cymorth cerddorol wedi'i fodelu o'r newydd gyda chyllid cynaliadwy angenrheidiol i wneud gweithgareddau cerddorol offerynnol yn hygyrch i bawb, ac yn lle'r mynediad cyfyngedig a geir at gerddoriaeth, cyhuddiadau o elitiaeth a'r wireb ynghylch y loteri cod post, byddai datganiad clir ar gyfer y genedl.
Cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Alun Michael, y gronfa ddatblygu cerddoriaeth yn 1999, a dosbarthwyd £8 miliwn i wasanaethau cerdd awdurdodau lleol. Ac er gwaethaf cyd-destun toriadau a'r nifer o flaenoriaethau sy'n cystadlu o fewn y Llywodraeth, rwy'n dweud wrth y lle hwn fod a wnelo'r ddadl hon heddiw â mwy na cherddoriaeth yn unig. Mae'n ymwneud â'r math o wlad y dymunwn fod. Mae'n ymwneud â'n lle a'n hunaniaeth yn y byd, ein diwylliant, ein treftadaeth, ein diwydiant creadigol a'n twf economaidd. Ac mae hefyd yn ymwneud yn helaeth â chydraddoldeb—cydraddoldeb o ran mynediad, waeth pa mor gefnog, at les, hunan-barch a llwybrau ar gyfer camu ymlaen a gyrfaoedd ym myd ehangach cerddoriaeth, ac mae'n ymwneud â chydraddoldeb yn yr ystafell ddosbarth, fel nad yw'r byd cerddorol ar gau i'r rhai sy'n gallu chwarae ond sy'n methu talu. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu ei bod hi'n bryd ymrwymo ein cenedl i strategaeth gerddoriaeth genedlaethol, cynllun i addo buddsoddiad yn sail i'r strategaeth a chefnogi gwasanaethau cymorth cerdd yng Nghymru.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, gadewch inni siarad yn onest: y dewis arall yw dull tameidiog o geisio sicrhau mynediad parhaus at addysg cerdd a chyllid ar draws Cymru, gyda lleihad mawr yn nifer y cyfleoedd i'r tlotaf yn ein cymdeithas na allant gymryd rhan yn nhirlun cerddorol Cymru a thu hwnt, na'i ymestyn. Byddwn i gyd yn dlotach oherwydd hynny, a bydd honiad balch ein cenedl mai hi yw gwlad y gân yn adleisio'n fwyfwy egwan, a bydd y diminuendo hwnnw ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen. Ac nid wyf yn credu y gallwn ni yn y lle hwn adael i hynny ddigwydd. Diolch.
Yn amlwg, fel yr amlinellodd Rhianon, mae gennym adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir ar gerddoriaeth mewn addysg, felly nid wyf am ddatgelu gormod am hynny, ond gwn ei fod yn ddarn cynhyrchiol o waith ac yn rhywbeth y mae'r cyhoedd wedi cymryd rhan lawn ynddo am fod hwn yn bwnc hynod bwysig. Nid oes angen imi ddweud wrth yr ACau yma ynglŷn â fy angerdd ynglŷn â hyn, gan fy mod yn chwaraewr fiola fy hun, ac mae gennyf frawd yn chwarae'r soddgrwth ac mae fy chwaer, Niamh, ar hyn o bryd yn y system addysg yn chwarae'r soddgrwth yng ngherddorfa cymoedd Morgannwg. Rwy'n cydnabod hefyd yr hyn a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet o ran ei rôl a'i hymyriadau, a chredaf, er bod hyn wedi bod yn hir yn dod, y dylem roi clod lle mae'n ddyledus, a gobeithiaf fod hyn yn rhywbeth a fydd yn deillio o benderfyniadau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru.
Rwy'n mynd i ddweud rhywbeth negyddol yn awr, er nad wyf fi eisiau. Cefais ohebiaeth gan y rheini yn y gwasanaeth cerddoriaeth dros y dyddiau diwethaf yn dweud wrthyf eu bod yn anobeithio ynglŷn â'r sefyllfa ledled Cymru. Yn wir, un o'r negeseuon a gefais oedd ei fod yn ofni mai ras i'r gwaelod yw hyn mewn perthynas â gwasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru. Yn Wrecsam, er enghraifft, mae toriadau'n digwydd wrth inni siarad, ac maent yn dweud wrthyf eu bod yn cael eu gorfodi i ddilyn modelau cyflenwi gwahanol oherwydd eu bod yn colli eu swyddi wrth inni gael y ddadl hon yma heddiw. Dywedir wrthyf hefyd nad yw rhai o'r ensembles cenedlaethol yn digwydd eleni oherwydd prinder pobl yn dod i glyweliadau. Nid wyf eisiau bod yn negyddol, oherwydd, fel y dywedodd Rhianon, rydym yn teimlo'n angerddol ynglŷn â chadw'r gwasanaethau cerddoriaeth hyn, ond os nad ydym yn cefnogi'r hyn sydd yno yn awr, efallai na fyddant gennym ar gyfer y dyfodol. Felly, credaf fod angen inni roi ein pennau at ei gilydd yn awr a chefnogi'r diwydiant hwn. Hoffwn weld mwy o fuddsoddi eto, a hoffwn weld strategaeth a fyddai'n sicrhau ei fod yn rhan greiddiol o'r hyn a wnawn ar draws Cymru. Mewn rhai ardaloedd, rwy'n credu ein bod wedi gweld rhai awdurdodau lleol yn gwneud gwaith gwych, ond mae eraill yn ei weld fel rhywbeth atodol a rhywbeth nad oes angen iddynt ei hyrwyddo.
I mi, nid wyf yn meddwl y buaswn yn y byd gwleidyddol oni bai bod cerddoriaeth wedi dysgu sgiliau bywyd i mi, cymryd rhan mewn trefn ddisgybledig, gallu gweithio mewn tîm, a gobeithio y byddai hynny'n wir ar gyfer pobl iau yng Nghymru sydd eisiau dilyn llwybrau cerddorol yn awr ac na fydd yn rhywbeth ar gyfer y breintiedig yn unig neu'r rhai sy'n gallu ei fforddio, ond ar gyfer pawb yma yng Nghymru, fel y gallwn ddal i fod yn wlad y gân ac yn wlad sy'n gallu hyrwyddo ein hunain ar sail ryngwladol, fel gwlad y gân a gwlad diwylliant.
Roedd honno'n funud hir iawn—
Mae'n ddrwg gennyf.
—ond roedd yn destun da.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Rhianon am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn cydnabod ei phenderfyniad a'i brwdfrydedd ynglŷn â'r pwnc, ac rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno bod yr un peth yn wir am Bethan hefyd.
Lywydd dros dro, un o bleserau bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw ymweld ag ysgolion ar hyd a lled Cymru, a phryd bynnag y gwnaf hynny, mae cerddoriaeth yn rhan o bethau, boed yn fand samba yn Llandeilo, band drymiau Affricanaidd yng Ngelli Gandryll yr wythnos hon, bandiau dur yng Nghaerdydd, y grŵp ffidlau yn Wrecsam, a rhaid imi ddweud, fy ffefrynnau arbennig, iwcalilis yn Sir Benfro—ac wrth gwrs, mae yna gôr bob amser—rwyf bob amser yn rhyfeddu at y talent cerddorol a welaf ym mhob rhan o'n gwlad. Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod cerddoriaeth yn elfen bwysig o'r cwricwlwm ysgol. Mae'n bwnc statudol i bob dysgwr yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, ac mae lle cerddoriaeth yn ddiogel yn natblygiad ein cwricwlwm newydd.
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, bydd yna chwe maes dysgu a phrofiad, gan gynnwys un ar gyfer y celfyddydau mynegiannol, ac rwy'n hyderus fod hyn yn sicrhau statws hyd yn oed yn fwy amlwg i'r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth, wrth inni symud ymlaen. Mae addysg cerdd yn cyfrannu at ddatblygu dinasyddion brwd a gwybodus drwy sicrhau bod ein pobl ifanc i gyd, beth bynnag fo'u cefndir, yn gallu datblygu eu doniau a'u sgiliau drwy astudio a chyfranogi, boed yn unigol neu ar y cyd.
Rwyf wedi gweithio'n galed ers ymgymryd â rôl Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ochr yn ochr â chyd-aelodau o'r Cabinet i sicrhau ein bod yn cynorthwyo ysgolion i ddarparu addysg cerdd o ansawdd. Rydym wedi mynd ati ar y materion a amlygwyd yn adroddiad 2015 gan y gweithgor gwasanaethau cerddoriaeth. Eleni, rwy'n darparu cyllid ychwanegol o £1 filiwn, gydag £1 filiwn yn rhagor yn 2019-20, i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau cerddoriaeth, a daw hwn ar ben yr arian presennol a roddir i awdurdodau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth. Rwyf fi a fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu cytuno ar ddull o weithredu i wella'r cymorth i wasanaethau cerddoriaeth ymhellach.
Rwyf hefyd yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl ifanc sy'n dymuno symud ymlaen i gael hyfforddiant cerdd unigol yn cael cyfle i wneud hynny. Mae mynediad at y cyfleoedd hyn nid yn unig yn datblygu cerddgarwch y dysgwr, ond hefyd mae'n cyfrannu at feithrin sgiliau a budd ehangach, fel yr amlinellodd Bethan funud yn ôl, megis disgyblaeth, dyfalbarhad a lles cyffredinol. Dyna pam y darparais £220,000 y llynedd i awdurdodau lleol allu prynu offerynnau cerdd er mwyn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf o angen mynediad at offerynnau yn ei gael.
Rydym hefyd wedi dechrau amnest offerynnau cerddorol cenedlaethol. Arweiniodd hyn at dros 80 o offerynnau o ansawdd da yn cael eu rhoi a'u hailddosbarthu i gerddorfeydd a phobl ifanc. Yn wir, yr wythnos hon yn unig, daeth rhywun â thrwmped i fy swyddfa etholaeth—ychydig ar ôl yr amnest, ond rydym yn ddiolchgar iawn amdano. Roedd hyn yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus yn Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol a welodd dros 60 o offerynnau yn cael eu rhoi gan staff y Llywodraeth a'r Cynulliad, yn ogystal â nifer o Aelodau'r Cynulliad yma hefyd a roddodd offerynnau.
Mae ensembles cerddorol, fel y clywsom y prynhawn yma hefyd, yn chwarae rôl hanfodol yn cynorthwyo ein pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd perfformio a darparu llwybr gyrfa i ddod yn gerddorion proffesiynol. Credaf y dylai pob person ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir, sy'n ddigon dawnus i ennill lle yn un o'r ensembles, allu cymryd rhan. Felly, rwy'n croesawu sefydlu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, sydd, yn 2018-19, yn dechrau ar eu blwyddyn lawn gyntaf o reoli a datblygu'r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol. Yn ogystal, y llynedd, darparais £280,000 i awdurdodau lleol am eu cyfraniad i ensembles perfformio cenedlaethol.
Rwyf hefyd wedi cefnogi sefydlu gwaddol cerddoriaeth, fel y clywsom, ar gyfer Cymru i gefnogi gweithgareddau cerddorol ychwanegol i bobl ifanc—menter gyffrous ac arloesol, a'r gyntaf o'i bath yng Nghymru. Fe'i lansiwyd ym mis Chwefror o dan yr enw 'Anthem' ac mae'n seiliedig ar gydweithio agos rhwng yr adrannau addysg a diwylliant yma yn y Llywodraeth a Chyngor Celfyddydau Cymru, a'r gwaddol yw ein dull gweithredu hirdymor a chynaliadwy mewn perthynas â chyllido. Ei nod yw cynyddu cyfleoedd cerddorol i bobl ifanc ledled Cymru yn y dyfodol—nid yn lle gwasanaethau cerddoriaeth presennol, ond i'w hategu. Rydym wedi dyrannu £1 filiwn i helpu i sefydlu a darparu arian ar gyfer y gwaddol, a gobeithiwn y bydd yn cronni drwy roddion elusennol gan amrywiaeth o gynlluniau a rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi mynediad i bobl ifanc at y profiadau hyn y tu allan i'r ysgol, yn yr un modd ag y bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd iddynt o fewn yr ysgol. Credaf y bydd y gwaddol yn fenter wirioneddol arloesol ac yn torri tir newydd, ac un a wnaed yng Nghymru.
Mae'r cynllun dysgu creadigol drwy'r celfyddydau, a seiliwyd ar ein partneriaeth gyda chyngor y celfyddydau, ac a gefnogir gan gyllid o £20 miliwn, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol oherwydd ei ymagwedd weledigaethol tuag at gefnogi creadigrwydd ar draws y cwricwlwm. Mae'r adborth cadarnhaol i'r rhaglen hon yn dangos yn glir ei bod yn cynorthwyo ysgolion i ddefnyddio creadigrwydd a'r celfyddydau, gan gynnwys cerddoriaeth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am y rhaglen dysgu creadigol mewn ysgolion, ond yr hyn a glywsom o dystiolaeth i'n pwyllgor oedd nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad o gwbl â gwasanaethau cerdd ac mewn gwirionedd, nad oeddent yn gallu gwneud cais am unrhyw ran o'r cynllun hwnnw. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, yn y dyfodol, a fyddech yn gallu edrych ar ddiwygio'r modd y mae hynny'n gweithio fel y gallai fod yn rhywbeth y gallai'r gwasanaethau cerddoriaeth fanteisio arno?
Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio am y modd y mae'r cynllun hwnnw'n gweithredu yw mai mater i'r ysgol unigol yw gweithio gyda chyngor y celfyddydau i nodi partneriaid creadigol i gyflawni'r prosiect. Felly, mater i'r ysgol yw nodi'r math o ymarferwyr y maent yn dymuno gweithio gyda hwy. Ni fuaswn yn dymuno cyfyngu ar annibyniaeth penaethiaid ysgolion i allu cynllunio'r ddarpariaeth honno ac i weithio gydag amrywiaeth o artistiaid proffesiynol, ond rwyf bob amser yn barod i edrych i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau y gall amrywiaeth mor eang â phosibl o weithwyr proffesiynol weithio yn ein hysgolion.
Yr hyn sy'n bwysig iawn am y rhaglen honno yw ei bod yn codi cyrhaeddiad a dyheadau ac mae'n ein helpu i lunio ein cwricwlwm newydd. Yr wythnos diwethaf—ac roeddwn yn siomedig iawn fod ymrwymiadau yma wedi fy rhwystro rhag mynychu—yn y Tate Modern, cafodd 32 o ysgolion creadigol arweiniol o Gymru gyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ac arddangos eu gwaith. Rhannwyd ein ffocws ar greadigrwydd yn y cwricwlwm â chynulleidfa eang y tu allan i Gymru gyda dros 1,000 o ymwelwyr yn gweld yr arddangosfa honno yn Oriel y Tate, ac rwy'n credu bod hynny'n wych.
I gloi, hoffwn ddweud fy mod yn edrych ymlaen at weld yr argymhellion gan y pwyllgor diwylliant a'r iaith Gymraeg, sydd wedi bod yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth gerddorol yng Nghymru. Ond gobeithio y gallwch weld o'r trosolwg a roddais y prynhawn yma fy mod yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi addysg cerdd drwy amrywiaeth o ddulliau, ac rwy'n canolbwyntio'n bendant ar sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar, a gwella'r ddarpariaeth gerdd i bawb o'n pobl ifanc—er ei fwyn ei hun ac er mwyn ein cenedl.
Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.