– Senedd Cymru am 5:45 pm ar 15 Mai 2018.
Eitem 6 yw datganiad gan arweinydd y tŷ: y newyddion diweddaraf ynghylch cysylltedd digidol yng Nghymru. Galwaf ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r newyddion diweddaraf i chi ar agweddau seilwaith digidol fy mhortffolio.
Rwyf am ddechrau drwy ganolbwyntio ar fand eang. Daeth cyfnod cyflenwi Cyflymu Cymru i ben ym mis Chwefror, ac, ers hynny, buom yn gweithio i ddatrys tair problem sy'n dal i fodoli. Yn gyntaf, buom yn ystyried pa un a all Llywodraeth Cymru weithio gyda BT i gwblhau'r adeiledd a ddechreuodd BT eu gosod yn ystod cyfnod cyflwyno Cyflymu Cymru. Mae adeiledd o'r fath wedi achosi rhwystredigaeth ymhlith defnyddwyr sy'n dweud eu bod yn gweld ffeibr wedi ei lapio o amgylch polion, ac yn amlwg nid oes unrhyw obaith realistig y byddan nhw'n gallu derbyn gwasanaeth ffeibr. Rydym yn gobeithio cwblhau'r broses hon ddiwedd mis Mai. Yn ail, rydym wedi bod yn ailedrych gyda BT ar bob un pecyn cais a gyflwynwyd ganddynt dros y pum mlynedd diwethaf i lanhau'r data a chadarnhau pa safleoedd yn y diwedd gafodd wasanaethau 30 Mbps o ganlyniad i'n hymyrraeth yn y farchnad. Er nad wyf mewn sefyllfa i gadarnhau'r ffigwr heddiw, gallaf gadarnhau, wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan gytundeb y grant, fod BT wedi darparu mwy o lawer o safleoedd nag oedd y ddwy ochr yn ei ragweld ar ddechrau'r prosiect hwn. Yn olaf, rydym wedi bod yn sefydlu'r prosesau a'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi'r weithred gymhleth o daliadau a fydd yn cadarnhau'r gwariant cymwys terfynol o dan gytundeb y grant. Hyd yma, rydym wedi talu £300 i BT am bob safle, fodd bynnag, oherwydd bod y cyfnod cyflenwi wedi dod i ben mae'n rhaid inni bellach weithio gyda'n gilydd i fantoli'r cyfrifon a sicrhau bod pob gwariant yn gymwys ac yn eglur. Bydd hi'n cymryd sawl mis i'r broses hon ddod i ben, ond mae'n hanfodol sicrhau nad yw BT yn elwa ar unrhyw or-daliad o gymhorthdal.
Er bod nifer o ddefnyddwyr yn dal yn rhwystredig gan nad ydynt yn cael y gwasanaethau y maen nhw eu hangen, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio llwyddiant sylweddol Cyflymu Cymru o ran rhoi mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy i filoedd o gartrefi a busnesau na fyddent wedi elwa heb ein hymyrraeth ni. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad o £80 miliwn er mwyn cyrraedd cynifer o'r safleoedd sydd ar ôl â phosibl. Rwyf yn rhagweld y bydd £62.5 miliwn yn ariannu'r prosiect a fydd yn olynu Cyflymu Cymru. Gallaf ddweud bod ein paratoadau ar gyfer y cynllun a fydd yn olynu Cyflymu Cymru yn mynd rhagddynt yn dda, gyda'r broses dendro yn mynd rhagddi a disgwylir iddi ddod i ben ym mis Mehefin. Rwy'n bwriadu cyhoeddi pwy fydd yn llwyddiannus cyn toriad yr haf, gyda'r gwaith gosod yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Mae'n amlwg o'r cynlluniau eraill ledled y DU y bydd y gost o ymdrin â'r safleoedd sydd ar ôl yn uwch o lawer na chost y rhai a gafodd eu cysylltu yn ystod cyfnod cyflenwi Cyflymu Cymru. Mae'r safleoedd sydd yn dal i fod heb y gwasanaethau yn fwy gwasgaredig ac yn anos eu cyrraedd. Dyma pam yr ydym yn buddsoddi £31.5 miliwn yn ychwanegol drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru.
Mae'r dirwedd ddigidol yn esblygu drwy'r amser felly mae'n rhaid inni edrych i'r dyfodol yn gyson i ddeall beth fydd anghenion busnesau a thrigolion ac i weld os yw ein hymyraethau yn parhau i ddiwallu'r anghenion hynny. Ar hyn o bryd rydym ni'n edrych i weld sut y gallwn ni gefnogi ac ysgogi 'r cynnydd er mwyn cyrraedd cysylltedd ffeibr llawn. Rwyf yn falch o ddweud bod y gyfran o gartrefi a busnesau yn ardal ymyrraeth Cyflymu Cymru sy'n cael gwasanaeth ffeibr llawn yn fwy na dwywaith y gyfran yn y DU yn ei chyfanrwydd. Oherwydd inni gyrraedd ein targed o 30 Mbps fe berswadiwyd BT i fuddsoddi mewn nifer sylweddol o ffeibr ar gyfer safleoedd mewn ardaloedd gwledig iawn yng Nghymru. Mae mwy o ffeibr yn cyrraedd safleoedd ym Mhowys nag yn unman arall yn rhwydwaith BT ar hyn o bryd, a chafodd y dechnoleg ffeibr i'r safle sydd nawr yn cael ei defnyddio ar draws y DU gan Openreach ei defnyddio gyntaf yng Nghymru. Yn yr un modd, yr ydym wedi cynllunio'r strategaeth gaffael er mwyn ffafrio gwasanaethau ffeibr llawn fel y gallwn hybu hyd yn oed mwy o dreiddio ffeibr llawn ble yr ydym yn buddsoddi arian cyhoeddus. Er gwaethaf ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy na £90 miliwn, rwyf yn argyhoeddedig nad yw hyd yn oed yr arian hwn yn ddigon i sicrhau bod y gwasanaethau yn cyrraedd pob safle sydd ar ôl. I wneud hynny bydd angen ymyraethau ategol sy'n gallu gweithredu ochr yn ochr â'r buddsoddiad hwn a chynnig atebion i'r rhai nad ydyn nhw wedi eu cynnwys. Mae angen inni sicrhau bod yr ymyraethau ategol hyn yn ymdrin ag anghenion lleol, adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau a chyd-fynd â'n darpariaeth ehangach. Gobeithiaf fod mewn sefyllfa i ymhelaethu ar hyn cyn toriad yr haf.
Bydd Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi adolygu ein cynlluniau mynediad i fand eang Cymru a thaleb cysylltedd cyflym iawn. Rwyf yn falch o gadarnhau ei bod yn fwriad gennyf i barhau i gynnig talebau wrth gefn yn ystod y dyfodol agos. Mae'r gwaith o symleiddio'r prosesau cais er mwyn gwella profiad y rhai sy'n cael y talebau yn mynd rhagddo. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi lansio cynllun talebau gigabit ledled y DU fis diwethaf. Felly, rwyf yn adolygu ein cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn i weld a yw'n parhau'n berthnasol er mwyn osgoi dyblygu ac unrhyw ddryswch, a byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau cyn toriad yr haf. Yn olaf, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd sy'n cefnogi cymunedau lle nad yw'n darpariaethau diweddaraf wedi eu cyrraedd, a hefyd y lleoedd lle nad yw cymorth taleb efallai yn cynnig ateb addas. Ni fydd y dull hwn o weithredu yn cael ei gadarnhau hyd nes y bydd y broses caffael presennol wedi dod i ben a'i bod yn eglur i ble y bydd y cyflenwr llwyddiannus yn cyrraedd.
Mae mynediad i fand eang yn amlwg yn fater pwysig. Fodd bynnag, ar gyfer busnesau sydd â mynediad, mae hi yr un mor bwysig i gael y mwyaf allan ohono i gynyddu cynhyrchiant, effeithlonrwydd ac ychwanegu gwerth. Byddwch wedi gweld y cyhoeddiad heddiw ynghylch arolwg aeddfedrwydd digidol Prifysgol Caerdydd. Mae'r arolwg hwn yn dangos bod busnes sy'n ymgysylltu fwyfwy â'r byd digidol yn fwy tebygol o lwyddo. Mae ein buddsoddiad mewn seilwaith band eang cyflym iawn ynghyd â'n rhaglen ymelwa busnes yn helpu busnesau i ddeall, mabwysiadu ac ymelwa ar fanteision band eang cyflym iawn er mwyn cynyddu trosiant a phroffidioldeb a galluogi busnesau bach a chanolig eu maint i gyflwyno mwy o gynhyrchion a gwasanaethau. Rwyf yn falch o weld bod cyrff cyhoeddus lleol hefyd yn hyrwyddo gwella seilwaith digidol, gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen Cyflymu Cymru yn eu hardaloedd. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, prifddinas-ranbarth Caerdydd a thimau bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe, i'w helpu i ddatblygu a chyflawni eu strategaethau seilwaith digidol i sicrhau eu bod yn ategu'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud. Rydym yn gweithio gyda chyrff lleol ledled Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu ceisiadau ar gyfer rhaglen rhwydwaith ffeibr llawn lleol Llywodraeth y DU, fel y gall Cymru elwa ar yr arian sydd ar gael ble mae hyn yn cyflawni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol ac ategu ein cynlluniau cenedlaethol.
Gyda'r mwyafrif o safleoedd yng Nghymru bellach yn gallu cael band eang cyflym iawn, mae angen inni sicrhau bod cartrefi a busnesau yn manteisio ar y gwasanaeth fel y gallant wneud y defnydd gorau o dechnoleg er budd yr economi a'r gymdeithas yn gyffredinol. Mae'r cwsmeriaid sy'n manteisio ar y gwasanaeth ar draws ardal ymyrryd Cyflymu Cymru ar hyn o bryd oddeutu 42.5 y cant, sy'n golygu ein bod ar y blaen i ble'r oeddem yn disgwyl bod, ac ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o 50 y cant yn gynharach o lawer na'r hyn yr oeddem yn ei ragweld. Mae hyn yn galonogol ac yn rhwystredig ar yr un pryd, Dirprwy Lywydd. Mae'n galonogol oherwydd bod y gyfradd twf yn fwy nag yn y model, ond mae'n rhwystredig oherwydd yn amlwg, mae lle i wella. Mae'n werth cofio po fwyaf o gwsmeriaid sy'n manteisio ar y gwasanaeth, y mwyaf fydd y gronfa gyllid sydd ar gael i helpu i gyrraedd y rhai sydd heb y gwasanaeth. Rydym yn parhau â'n hymgyrch i godi ymwybyddiaeth trigolion o fanteision band eang cyflym iawn a sut i gael gafael arno. Mae’r ymgyrch integredig yn defnyddio cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu digwyddiadau a chyfryngau cymdeithasol sydd wedi'u targedu ar lefel ranbarthol. Heddiw, mae'r tîm yn Llanfairpwllgwyngyll, yn siarad â thrigolion lleol ynghylch sut i gael gafael ar fand eang cyflym iawn. Unwaith eto, anogaf bob Aelod i wneud cymaint ag y gallant i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y gwasanaeth yn eu hetholaethau.
Er bod llawer o gymunedau a busnesau yn dal i ganolbwyntio ar fand eang yn anad dim arall, rwyf hefyd yn cael galwadau yn gofyn am welliannau i wasanaethau ffonau symudol. Rydym yn gwneud cynnydd cyson wrth gyflawni cynllun gweithredu ffonau symudol. Bydd yr ymgynghoriad ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru' yn dod i ben yr wythnos hon, ac mae'r newidiadau arfaethedig yn cydnabod y cyfraniad ehangach y mae telathrebu yn ei wneud i economi Cymru, a'r rhan y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ei chwarae wrth gynllunio'n gadarnhaol ar gyfer telathrebu o fewn eu cynlluniau datblygu. Dilynir hyn yn fuan iawn gan ymgynghoriad ar hawliau datblygiadau a ganiateir newydd, gan gynnwys newidiadau i'r hawliau ar gyfer seilwaith ffonau symudol. Hefyd yn ddiweddar rydym wedi cynnal proses o alw am dystiolaeth, pryd y gofynnwyd i'r diwydiant ffonau symudol ddarparu tystiolaeth glir ynglŷn â manteision posibl gostwng ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd. Mae swyddogion ar hyn o bryd yn adolygu'r dystiolaeth honno.
Rydym yn parhau mewn cysylltiad ag Ofcom i drafod rheoleiddio'r diwydiant ffonau symudol, ac rydym wedi ymateb yn ddiweddar i'w hymgynghoriad ar rwymedigaeth o ran signal ffonau ar gyfer eu harwerthiant band sbectrwm 700 MHz y flwyddyn nesaf. Ynghylch 5G, rwyf wedi gofyn i Innovation Point i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgaredd 5G yng Nghymru, gan gynnwys nodi cyfleoedd i sicrhau arian o gronfa meinciau arbrofi a threialon Llywodraeth y DU. Mae ein gwaith yn gwella seilwaith digidol yn hanfodol er mwyn cynnal ein hymrwymiadau yn 'Symud Cymru Ymlaen', ac rydym yn parhau i weld cynnydd da. Fel yr wyf wedi ei amlinellu uchod, byddaf yn cyflwyno'r newyddion diweddaraf mewn modd cynhwysfawr cyn toriad yr haf.
Arweinydd y tŷ, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae gennyf nifer o gwestiynau, a gobeithiaf y byddwch yn gallu eu hateb yn benodol. Os nad yw hynny'n bosibl, efallai y caf gyfle i'w gofyn eto yfory yn ystod y cwestiynau.
Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu bod Openreach wedi bod yn fwy na llwyddiannus wrth gyflawni telerau'r cytundeb Cyflymu Cymru gwreiddiol, ond bum mis ar ôl y dyddiad cwblhau olaf posibl, hoffwn ofyn i chi pam nad ydych chi'n gallu darparu rhestr derfynol o'r lleoliadau hynny sydd heb eu huwchraddio? Rwyf yn pendroni ynghylch pam mae hi mor anodd ateb y cwestiwn hwnnw. A allwch chi gadarnhau hefyd fod Openreach yn bendant wedi bodloni rhwymedigaethau eu cytundeb gwreiddiol, cytundeb sy'n nodi bod o leiaf 90 y cant o'r holl eiddo yn ardal ymyrraeth y cytundeb yn gallu cael gwasanaethau band eang ar isafswm o 30 Mbps, a bod 95 y cant yn gallu cael 24 Mbps? Nawr, yr ydych wedi dweud yn eich datganiad bod BT wedi darparu llawer mwy o safleoedd nag oedd y ddwy ochr yn ei ragweld ar ddechrau'r prosiect gwreiddiol. Felly, nid wyf yn deall pam na allwch chi ateb y cwestiwn hwnnw.
Hoffwn ofyn hefyd sawl safle fydd yr ail gyfnod yn ymdrin â nhw? Mae nifer o ffigurau wedi eu crybwyll, ac rwy'n deall bod adolygiad agored o'r farchnad wedi nodi 88,000 o safleoedd a ystyriwyd yn safleoedd gwyn, ac nad oedd asesiad o'r hyn a elwir yn safleoedd diymgeledd wedi ei gynnwys yn y ffigwr hwnnw. Felly, hoffwn eglurhad ynghylch hynny. A gaf i ofyn hefyd sawl lleoliad diymgeledd a lwyddodd Openreach i'w cwblhau yn ystod yr estyniad o ddau fis, a faint ohonyn nhw sydd ar ôl erbyn hyn? A fydd yr asedau diymgeledd hyn sydd ar ôl yn cael eu trosglwyddo i'r prosiect nesaf? Ar y dechrau roeddech chi'n rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ailfuddsoddi £37 miliwn y rhagwelid y byddai'n dod o rannu enillion o ganlyniad i gwsmeriaid yn manteisio ar y gwasanaeth yn ystod prosiect Cyflymu Cymru. Rydych chi bellach yn cyfeirio at £31.5 miliwn drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru. A gaf i ofyn—nid wyf yn siŵr beth yw'r ateb—ai arian newydd yw hwn, neu a yw'n rhan o'r £37 miliwn a gafodd ei grybwyll yn gynharach? Hoffwn ofyn hefyd a yw'r Llywodraeth wedi ystyried ei gwneud hi'n ofynnol i ddatblygiadau adeiladu newydd dros faint arbennig gael mynediad i wasanaethau band eang cyflym iawn fforddiadwy heb yr angen am gymhorthdal cyhoeddus?
O ran cynllun gweithredu ffonau symudol, credaf fod yr hyn yr ydych yn ei alw yn gynnydd cyson mewn gwirionedd yn gynnydd nad yw'n bodoli o gwbl. Mae'n ddrwg gennyf ddweud hyn, arweinydd y tŷ, ond mewn gwirionedd nid wyf yn credu eich bod wedi gwneud unrhyw gynnydd ynghylch hyn. Fe wnaethoch gyhoeddi'r cynllun gweithredu ffonau symudol ym mis Ionawr 2017—16 mis yn ôl—felly pa fesurau pendant allwch chi gyfeirio atynt sydd wedi gwella signal ffonau symudol yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw? Felly, fe fyddwn yn dweud yn ystod yr 16 mis diwethaf nad ydych chi wedi gwneud dim o gwbl o ran gweithredu i ddiwygio'r cyfreithiau cynllunio presennol, sy'n achosi oedi ac yn ychwanegu at y costau i wella cwmpas y signal, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae hyn yn gwneud Cymru y rhan anoddaf yn y DU i weithredwyr ffonau symudol adeiladu seilwaith. Ac unwaith eto, yn eich datganiad, roeddech chi'n gofyn i weithredwyr ffonau symudol ddarparu mwy fyth o dystiolaeth. Wel, mae'r diwydiant wedi amlinellu dro ar ôl tro y rhwystrau a'r atebion y bydd eu hangen, felly pam yr oedi parhaus? Gofynnodd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU yn Lloegr am y dystiolaeth honno amser maith yn ôl. Maen nhw wedi cael y dystiolaeth gan y gweithredwyr, maen nhw wedi ei dadansoddi, wedi ei derbyn ac maen nhw wedi gweithredu. Felly, rwyf yn siomedig yn hyn o beth. Rydym yn syrthio y tu ôl i weddill y DU. Ac yn wir, yn Lloegr, mae diwygio'r system gynllunio wedi digwydd eisoes. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod dileu'r angen i brosesu ceisiadau yn y system gynllunio, drwy'r gyfundrefn hawliau datblygu a ganiateir—egwyddor sydd wedi ei derbyn yn llawn ym mhob man arall o'r DU—yn hanfodol ac yn fater o frys? Mae'r diwydiant wedi dweud yn glir bod lleihau costau darparu seilwaith yn gwbl hanfodol, ac rwy'n gofyn felly pam mae angen mwy o dystiolaeth? Mae'r dystiolaeth gennych chi, felly ewch ymlaen â'r gwaith rhag i Gymru fynd ymhellach ar ei hôl hi.
Fe roddaf sylw i rai o'r rheini yn nhrefn yr olaf yn gyntaf gan eu bod yn ffres yn fy meddwl. Rwy'n anghytuno'n llwyr â dadansoddiad Russell George o sefyllfa'r ffonau symudol. Fel y dywedais lawer gwaith, Dirprwy Lywydd, yn y Siambr hon, mae'r problemau daearyddol yng Nghymru yn wahanol i unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid inni gael nifer fawr o fastiau er mwyn cael signal cryf, oni bai bod y gweithredwyr ffonau symudol yn gallu cynllunio'n well a rhannu a gweithredu gyda rhywfaint o gyfrifoldeb dinesig. Does neb eisiau gweld mastiau bob rhyw 50 troedfedd ar draws ein parciau cenedlaethol. [Torri ar draws.] Na, nid yw rhai tal yn gweithio. Mae'n rhaid cael llinell welediad. Nid yw'n mynd i bob twll a chornel. Y mater arall lle yr ydym wedi gweld cynnydd sylweddol, yr wyf yn falch iawn o ddweud, yw'r mater ynghylch cwmpas daearyddol. Rydym wedi brwydro gydag Ofcom, rydym wedi brwydro gyda Llywodraeth y DU. Maen nhw'n gweld y pethau hyn fel cynnyrch moethus, ac rydym ni yn anghytuno.
Yn wir, byddai llawer o hyn yn cael ei ddatrys pe byddem ni'n cael sgyrsiau synhwyrol am, er enghraifft, yr angen i ganiatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae'n gwbl amlwg ei bod hi'n bosibl cymryd agwedd gystadleuol ynghylch hyn mewn ardaloedd poblog ble ceir nifer fawr o gwmnïau ffonau symudol, oherwydd yn amlwg, ceir llawer o gwsmeriaid yno. Ond fe wyddoch cystal â minnau, mewn nifer o fannau yng Nghymru, dim ond un gweithredwr ffonau symudol sydd ar gael. Mae meddwl am rywun yn dweud, 'Dewch i Gymru cyn belled â'ch bod chi'n defnyddio'r gweithredwr ffôn symudol hwn, Mr Ymwelydd, oherwydd fel arall ni fydd unrhyw signal ar gael ichi yn yr ardal hon,’ yn amlygu na fyddai hynny’n gynaliadwy. Mae'n amlwg i mi y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU adolygu ei safbwynt a pheidio â gweld hyn fel cynnyrch moethus a chaniatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig a gwledig iawn, oherwydd ni fydd byth gwmpas eang gan sawl gweithredwr ffonau symudol yn yr ardaloedd hynny. Nid yw hyn wedi'i ddatganoli, yn anffodus, a phe byddai hyn wedi ei ddatganoli fe fyddem ni'n gwneud nifer o bethau yr hoffwn i eu gweld yn fawr iawn, er enghraifft ei drin fel seilwaith. Beth bynnag, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn yr ymgynghoriad cynllunio ac rydym ar fin ymgynghori'n benodol ar hawliau datblygu a ganiateir, a hynny mewn ardaloedd penodol yng Nghymru. Ond mae'n iawn i gael cydbwysedd rhwng yr hyn y mae cymunedau lleol eisiau ei weld a'r cwmpas signal yr ydym ei angen ac yn disgwyl ei gael.
Trof yn awr at fanylion penodol y rhaglen band eang cyflym iawn, mae gan y contract rwymedigaethau penodol iawn ynghylch codau post a nifer y safleoedd a nodwyd ym mhob cod post. Mae'n amlwg bellach fod mwy o safleoedd wedi eu cynnwys mewn codau post nag o'r blaen. Nid yw hynny, fodd bynnag, yn golygu bod y grant ynghlwm wrth bob un o'r safleoedd hynny. Mae cyfrifiad cymhleth iawn i'w wneud ynglŷn â pha safleoedd sydd bellach wedi'u cynnwys yn y rhaglen, sydd mewn gwirionedd wedi eu cynnwys o dan gytundeb y grant. Felly, mae'n waith eithaf cymhleth.
Hefyd rydym ni'n ailedrych, fel y dywedais yn fy natganiad, ar bob un o'r pecynnau hawliadau a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf, ac rydym yn gwneud hynny'n rhannol o ganlyniad i'm taith o amgylch Cymru yn cyfarfod â gwahanol gymunedau ble mae'n amlwg i mi nad ydyn nhw wedi cael eu cysylltu a ninnau'n credu eu bod nhw wedi cael eu cysylltu. Cafwyd problemau gyda'r ffeibr—roedd un ohonyn nhw yn eich cyfarfod chi, a nododd un o'r rheini. Felly, rydym wedi ailedrych ar y pecynnau hawliadau i sicrhau nad ydym yn talu am rywbeth nad ydym wedi ei gael ac i sicrhau bod yr holl ddata yn gadarn. Nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Rwyf yn falch iawn bod hynny wedi ei amlygu yn ystod fy nhaith o amgylch Cymru sy'n parhau, ac mae hynny'n beth da, ac rydym yn mynd drwy'r broses honno. Felly, dyna pam y cafwyd ychydig o oedi, ond rwyf wedi dweud o'r dechrau y byddai hi'n ddiwedd mis Mai, ac wrth inni nesáu at ddiwedd mis Mai, rydym yn dal ar y trywydd iawn i allu dweud hynny.
Rydym ni'n cael sgwrs gymhleth gyda BT ynghylch cysylltu â'r asedau diymgeledd. Ceir negodi masnachol cymhleth—'negodi' yw'r unig air y gallaf feddwl amdano—ynghylch pwy ddylai dalu amdanyn nhw. Felly, mae BT wedi buddsoddi swm enfawr o gyfalaf yn y ddaear. Ni chawson nhw'r un geiniog gennym ni ar gyfer hynny oherwydd bod eu rhaglen yn rhy swmpus o lawer. Y sgwrs yw: pwy ddylai dalu am y rhan olaf o'r broses gysylltu? Mae honno'n sgwrs fasnachol gymhleth sy'n mynd rhagddi, a chyn gynted ag y byddwn ni wedi cyrraedd diwedd y sgwrs honno, byddaf yn fwy na pharod i adrodd am hynny yma yn y Siambr. Ond nid wyf am ymddiheuro am y ffaith mai yr hyn rwyf eisiau ei gael, yn amlwg, yw'r nifer fwyaf o safleoedd am y gost leiaf. Felly, yn amlwg, ein safbwynt ni yw ein bod ni eisiau i gymaint â phosibl o'r asedau hynny gael eu cysylltu am gyn lleied o'r arian rhannu elw ag sy'n bosibl.
Rydym yn clustnodi £62.5 miliwn o'r £80 miliwn sydd ar gael yn y gronfa rhannu elw ar gyfer caffaeliadau newydd. Cedwir y gweddill ar gyfer y trefniadau cymunedol pwrpasol yr ydym wedi eu trafod yn helaeth. Rwyf ond yn dweud 'yn fras' oherwydd ei fod yn dibynnu ar beth fydd swm y caffaeliadau, ond rydym wedi cadw swm bach yn ôl er mwyn cael atebion pwrpasol ar gyfer rhai o'r cymunedau, ac mae'r buddsoddiad o'r cynllun canolradd yn ychwanegol.
Cefais fy synnu gan hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, arweinydd y tŷ, ynghylch eich taith o amgylch Gymru. Rwyf yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael sgwrs hefyd amdanoch chi a'ch swyddogion yn dod i lawr i rai o'n cymunedau yn sir Gaerfyrddin sy'n wynebu rhwystredigaethau y bydd nifer o bobl a llawer o Aelodau ar draws y Senedd hon yn eu hwynebu hefyd. Rwyf yn ddiolchgar am hynny, ond cefais fy synnu'n fawr pan ddywedasoch chi eich bod wedi canfod drwy gyfarfodydd cyhoeddus nad oedd y cymunedau yr oeddech chi, Llywodraeth Cymru, yn meddwl eu bod wedi cael eu cysylltu, wedi eu cysylltu o gwbl. Ac ar raddfa genedlaethol, mae'n debyg, bod hwn yn brofiad cyfochrog â'r hyn y mae ein hetholwyr unigol ni wedi ei deimlo, onid yw? Maen nhw wedi cael gwybodaeth gan Openreach am ddyddiadau darparu'r gwasanaeth ac, wrth gwrs, mae'r telerau yn cael eu newid yn ddi-ben-draw. A fydd unrhyw gosb ariannol o ganlyniad i hynny? A ydych chi'n rhannu dicter rhai o'r etholwyr o ran y modd yr ydych chi wedi eich camarwain, ac yna fe ewch chi i'r cymunedau hynny a darganfod hynny a deall sut y mae'r bobl hynny'n teimlo? Hoffwn wybod ychydig am beth fydd y canlyniadau i Openreach. Maen nhw wedi cyfaddef eu hunain eu bod wedi cyfathrebu mewn modd echrydus o flaen y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau. Fe'u cyhuddais o ddweud celwydd, a doedden nhw ddim yn hapus iawn â hynny. Gallwn ddewis ein hiaith ein hunain ar ei gyfer, ond, yn anffodus, mae'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud yn cadarnhau profiad llawer o'm hetholwyr.
O ran yr arian a grybwyllwyd gennych yn eich datganiad, dywedasoch y bydd £62.5 miliwn o'r £80 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiect dilynol Cyflymu Cymru. Efallai y gallech ein hatgoffa ar gyfer beth fydd y £17.5 miliwn sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio. Beth yw'r berthynas rhwng yr arian hwnnw â'r £31.5 miliwn a grybwyllwyd gennych chi yn y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru?
Fe soniasoch am ffeibr llawn. Rydym wedi siarad ychydig am hyn. I ba raddau, yng ngham nesaf rhaglen Llywodraeth y DU yn y maes hwn, ac yn y broses ymgeisio, ydych chi'n gweld potensial ar gyfer cais Cymru gyfan? Cafwyd rhai ceisiadau lleol a rhanbarthol o fewn Cymru, ond a ydych chi'n gweld rhywfaint o fantais mewn adeiladu rhyw fath o asgwrn cefn ffeibr digidol yng Nghymru gyfan a chysylltu cymaint o gymunedau ag sy'n bosibl ar yr un pryd?
Roedd gennyf gryn ddiddordeb yn y sylwadau a wnaethoch ynghylch Powys, ac ati, o ran cael cysylltiad ffeibr i'r adeilad. Flwyddyn yn ôl, yn ôl y ffigurau diweddaraf i mi eu gweld, rwy'n credu roedd gan Kingston 50 y cant o gysylltiad ffeibr i'r safle, mae'n debyg oherwydd eu hanes unigryw o fod â pherchnogaeth gyhoeddus—Kingston Communications oedd yr hen enw, KCOM yn awr. Roedd hynny'n galluogi Cyngor Dinas Hull i gynyddu ei seilwaith. Fe soniodd y Cwnsler Cyffredinol am y posibilrwydd—yr oedd hwn ym maniffesto Plaid Cymru—o sefydlu cwmni seilwaith telathrebu a band eang yn eiddo i'r cyhoedd. A yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ei archwilio'n ymarferol?
Roedd cryn amrywiaeth yn y fan yna, felly, eto, rwyf am fynd tuag at yn ôl, ac os anghofiaf rywbeth rhowch wybod imi. Rydym wrthi'n ymchwilio i hynny yn ymarferol. Fe geir anawsterau, oherwydd cwblhawyd llawer o'r seilwaith gydag arian Ewropeaidd drwy'r rhaglen cymorth gwladwriaethol, ac yna byddai cael cwmni sy'n ymyrryd yn y farchnad, i ddefnyddio'r term priodol, yn dod ar ben hynny yn sefyllfa ddyrys i'w goresgyn. Ond, mae gennym ni dîm o swyddogion yn ceisio canfod sut y gallwn gael y budd gorau o'r seilwaith cyhoeddus sydd yn ei le—fe fyddai'n digwydd drwy brosiect cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, er enghraifft, er mwyn cael pibell i mewn i bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru. Nid rhaglen Cyflymu Cymru yw hynny; pibellau'r Llywodraeth i mewn i bob adeilad yw hynny. Mae'r hyn y gallwn ni ei wneud i fanteisio ar hynny a'r hyn y gallwn ni ei wneud i ddod â manteision i gymunedau, gan gynnwys pethau fel cynlluniau Wi-Fi cymunedol ac ati yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Rydym ni'n gobeithio gweithredu rhai cynlluniau arbrofol yn ymwneud â chymunedau ysgolion ac ati cyn bo hir ac rydym yn edrych yn ofalus ar hyn.
O ran mater ffeibr llawn y DU, mae hwnnw'n achosi problemau mawr i ni, oherwydd y broblem fwyaf yng Nghymru yw sut i gyrraedd pawb—rhyw fath o fand eang yn cyrraedd pawb. Mae ffeibr llawn yn ymwneud â newid y rhwydwaith copr sy'n cario'r cyflymderau i rwydwaith ffeibr llawn. Felly, yn fy nghartref i, er enghraifft, nid wyf yn cael cyflymderau cyflym iawn, dim ond y 20au uchel, ond mae hynny oherwydd fy mod ar ben arall i wifren gopr. Bydd y cynllun ffeibr llawn yn newid y rhwydweithiau copr hynny i ffeibr llawn. Byddai hynny'n wych—mae gennym ni lawer o gymunedau yn hofran o gwmpas y 30. Fe fyddai'n beth da iddyn nhw, ond ni fydd yn helpu'r bobl nad ydynt wedi eu cysylltu o gwbl.
Felly, o ran blaenoriaeth, mae gen i awydd gwirioneddol i gyrraedd y bobl sydd heb eu cysylltu o gwbl yn gyntaf, er nad oes dim yn ein rhwystro rhag cael ael ffeibr llawn wedyn. Ac, wrth gwrs, rydym yn chwilio am y ffordd orau i fanteisio ar arian y DU ar gyfer ffeibr llawn, ac rydym yn ceisio canfod pa un a fyddai cais Cymru gyfan efallai yn fwy llwyddiannus yng ngham 2. Fe gawsom rywfaint o lwyddiant ar gyfer awdurdodau lleol, a gwn fod Adam Price yn ymwybodol o hyn, yn y cyfnod cyntaf, felly mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn ceisio rhoi trefn ar gais i wneud hynny, ond ni fyddai'n helpu'r bobl nad ydynt ar y rhwydwaith yn barod, ac mae hyn yn dipyn o ofid.
O ran cyfathrebu, rwy'n llwyr gytuno â chi—mae'r cyfathrebu wedi bod yn echrydus. Fe gefais drafodaethau di-ddiwedd gyda BT ynghylch pam y mae'r cyfathrebu mor wael. Maen nhw'n cuddio y tu ôl i semanteg—maen nhw'n dweud bod y llythyrau yn dweud nad yw'r pethau a drefnwyd byth yn bendant a diamod ac ati, ond rwyf i fy hun wedi aros ar ddiwedd rhaglen dreigl dri mis am gryn amser, ac rwy'n deall y rhwystredigaeth yn iawn. Rwy'n cyfaddef hynny. Pan wnaethom ni ddyfarnu'r contract hwn, nid oedd hynny'n broblem, oherwydd doedd neb wedi ei gael ac roedd pawb yn falch iawn pan gyrhaeddodd. Roedd nifer fawr o bobl yn cael eu cysylltu. Daeth yn broblem sylweddol tuag at ddiwedd y contract oherwydd y ffordd yr oedd y contract wedi ei strwythuro, sef nad oeddem wedi nodi unrhyw safle yng Nghymru yn benodol. Roedd yn rhaid i BT gyrraedd 690,000 o safleoedd, a oedd, yn 2011, yn 96 y cant o'r safleoedd yng Nghymru; nid yw hyn yn wir bellach. Felly rwyf yn derbyn bod y cyfathrebu'n wael.
Mae mater gwahanol i'r mater y soniais amdano pryd y darganfyddom ni fod ffeibr rhai cymunedau heb ei gysylltu'n iawn. Felly, nid yw hynny'n ymwneud â chyfathrebu â nhw; mae'n ymwneud â'r ffordd y cafodd y cais ei brosesu a'r hyn yr ydym ni wedi rhoi prawf arno. Mae rhai cymunedau, yng nghymuned y Llywydd mewn gwirionedd, a rhai eraill, wedi dweud wrthym ni, 'Wel, dylai hi fod yn bosibl imi archebu ffeibr.' Rydym ni wedi dweud, 'Dylai, fe ddylai hi fod yn bosib i ni archebu ffeibr.' Ar ôl ymchwilio, rydym wedi deall nad oedd yn bosibl oherwydd problemau cymhleth iawn yn ymwneud â pheirianneg cysylltu yn ôl yn y canolfannau tetrabyte, ac ati. Felly, mae'n fater gwahanol, ond mae'n achosi'r un rhwystredigaeth i bobl y dywedir pethau wrthyn nhw nad ydynt yn wir. Ond mae'n golygu ein bod ni wedi ailedrych ar yr holl hawliadau, i sicrhau nad ydym yn talu am rywbeth nad ydym mewn gwirionedd wedi ei gael, ac mae hynny'n parhau, a dyna pam yr ydym ni'n dal yn y broses honno. Mae'n debyg mai'r un yw'r canlyniad i'r dinesydd—y rhwystredigaeth—ond mae'n achos gwahanol iawn o'n safbwynt ni.
Ac yna, o ran yr arian, mae'r tri chaffaeliad wedi'u cyflwyno yn y ffordd arferol, ac fe nodwyd meysydd penodol yr ydym ni eisiau—. Felly, rydym yn rhoi blaenoriaeth i bobl â signal ffonau symudol gwael iawn, y rhai sydd heb 4G a gyda band eang gwael iawn mewn un maes. Mewn eraill rydym ni'n rhoi blaenoriaeth i safleoedd busnes, ac mae'r tair lot wedi eu cyflwyno ar ffurf caffael safonol iawn. Rydym yn aros am ymateb i weld faint o safleoedd a gwmpesir, am ba bris, ac ati. Ond rydym yn fwriadol wedi cadw pot o arian yn ôl i ymdrin ag atebion pwrpasol cymunedol, oherwydd bod nifer o gymunedau wedi dweud, 'Hoffem wneud rhywbeth pwrpasol iawn yma gyda'r cwmni bach hwn. Mae gan grŵp ohonom ni ateb.', ac fe ydym ni eisiau gallu ariannu hynny, felly rydym ni wedi cadw pot o arian yn ôl ar gyfer hynny.
Mae'r arian yn hylifol. Rwy'n taflu'r ffigurau hyn o gwmpas, ond y rhannu elw ydy hwn, Dirprwy Lywydd, felly yn amlwg mae'n symud. Felly, po fwyaf o bobl sy'n ei brynu, y mwyaf fydd yr arian a ddaw i mewn, ac rydym wedi addo rhoi'r arian hwnnw i mewn. Felly, mae'n swm hylifol o arian oherwydd ei fod yn cynyddu. Wrth i fwy o ganrannau ymuno, mae mwy o arian yn cael ei wario arno. Felly, rwyf yn dweud 'oddeutu' am y rheswm hwn, ond y mae oddeutu tri chwarter ohono, ac rydym wedi cadw chwarter yn ôl. Rydym eisiau gweld pa brosiectau cymunedol a gyflwynir a sut y maen nhw'n edrych, ac, fel y dywedais hefyd, rydym wedi ymrwymo bellach i adolygu'r band eang cyflym iawn—y daleb fusnes—oherwydd yr hyn y mae'r DU newydd ei wneud, oherwydd rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn achub y blaen yn hynny o beth hefyd. Maen nhw newydd gyhoeddi'r gronfa gigabit newydd, felly rydym am achub y blaen yma hefyd. Felly, byddwn yn ei adolygu yng ngoleuni hynny.
Ond mae'r cytundeb grant gyda BT yn un cymhleth iawn, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau na fyddant yn cael unrhyw arian nad oes ganddyn nhw hawl iddo ac y cawn ni gymaint o ganlyniadau cysylltu ag sydd o fewn gallu dynol.
Mae arnaf ofn na fydd fy nadansoddiad i o'r sefyllfa yn gydnaws â barn Cadeirydd y pwyllgor, felly rwy'n gobeithio y bydd yn cymryd hyn yn yr ysbryd iawn. A gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad heddiw, yn rhoi'r diweddaraf i'r Siambr ar gysylltedd digidol yng Nghymru? Yn gyntaf, hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar y cynnydd rhagorol a wnaed hyd yma drwy ei rhaglen Cyflymu Cymru, yn enwedig o ystyried topograffeg Cymru a dosbarthiad y boblogaeth. Rydym ni i gyd yn cydnabod yr heriau a gyflwynodd hyn wrth wireddu uchelgais y Llywodraeth.
Ers haf 2013, cyflwynodd rhaglen Cyflymu Cymru, mewn partneriaeth â BT, gynlluniau i ddarparu band eang cyflym iawn i 655,000 o safleoedd, a bu i'r galw gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd canlynol. Fe wnaeth yr addewid i ddarparu mynediad i 40,000 o eiddo pellach yn 2014 yn sicr ymestyn targed Cyflymu Cymru. Mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod nad yw rheoli'r galw newidiol am fynediad at gyflymderau o 30 Mbps neu fwy yn sicr yn dasg hawdd, yn enwedig yn rhai o gymunedau mwyaf anghysbell Cymru.
Rwyf yn credu, fodd bynnag, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru osod targedau sy'n uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, oherwydd mae mynediad at fand eang cyflym iawn wedi dod yn elfen angenrheidiol sylfaenol o fywyd bob dydd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n ddigon o rwystredigaeth i aelwydydd sydd heb fynediad digonol, ond i fusnesau bach sy'n ymdrechu'n daer i foderneiddio ac i lwyddo yn y Gymru wledig, gall mynediad at fand eang cyflym iawn wneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu. Lefel lawrlwytho derbyniol ofynnol Llywodraeth y DU ei hun yw 10 Mbps, ond mae llawer o bobl yn y Gymru wledig sy'n dioddef cyflymderau cyfartalog o lai na hanner hynny. Er enghraifft, adroddwyd y llynedd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Maldwyn, Ceredigion a Dwyfor Meirionnydd, fod dros 50 y cant o gysylltiadau band eang yn arafach na 10 Mbps. A allai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni o ran a yw hyn yn dal i fod yn wir?
Yn dilyn rhai sylwadau a wnaed gan Adam Price, hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i sicrhau lefel uwch o gyfathrebu â'r cymunedau hynny sy'n dal i fethu â chael mynediad at fand eang â chyflymder mynediad boddhaol. A oes dryswch yn parhau o ran pa un a yw cysylltedd wedi'i gyflawni ai peidio, fel yn achos pentref Llangenni ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, a fu'n sail i ddeiseb i'r Pwyllgor Deisebau? A yw'r Prif Weinidog yn fodlon bod y materion hyn wedi cael sylw?
Nodaf fod Allwedd Band Eang Cymru wedi chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu band eang i gymunedau sydd wedi methu â chael mynediad digonol ac felly rwy'n croesawu'r cyhoeddiad yn y datganiad heddiw fod y cynllun, ynghyd â'r cynllun gwibgyswllt, yn parhau am y dyfodol rhagweladwy. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog—mae'n ddrwg gennyf, gan y Prif Weinidog—pa un a fydd y cynlluniau a'r bartneriaeth y mae'n eu rhagweld yn dod â chysylltedd cyflym iawn i'r 4 y cant sy'n weddill yng Nghymru.
Gan droi at elfen hanfodol arall o'r gwaith cyflwyno, rwy'n croesawu'r ffaith yr ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn dilyn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y seilwaith digidol yng Nghymru, drwy gynnal ymarfer cais am dystiolaeth ar fuddion cyflwyno rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd.
Yn olaf, a yw arweinydd y tŷ yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r Llywodraeth ddefnyddio pa bynnag ddulliau sydd ganddi i annog cwmnïau gweithredu ffonau symudol i rannu eu seilwaith er mwyn darparu gwell signal ffonau symudol yn yr ardaloedd lawer lle na cheir signal digonol?
Hoffwn wneud yn glir nad fi yw'r Prif Weinidog. Rwyf weithiau'n dirprwyo ar gyfer y Prif Weinidog, ond y tro hwn, rwy'n siarad ar fy rhan fy hunan. [Torri ar draws.] Dim problem. Roedd yn achosi'r Aelodau eraill i wenu, rwy'n credu.
Felly, ceir nifer o faterion yn y fan yna. Roedd y cynllun gwreiddiol yn gweithio mewn ffordd lle nad oedd yn pennu unrhyw eiddo o gwbl, a chai BT ddewis o blith yr holl eiddo yng Nghymru ac yn amlwg aethant at y rhai rhataf a'r cyflymaf a'r agosaf at ei gilydd, gan fod hynny'n cynnig y fantais fasnachol orau iddyn nhw. Fodd bynnag, hoffwn roi taw unwaith ac am byth ar y camargraff nad yw hwn yn gynllun gwledig. Ymyriad yn y farchnad yw hwn: ni chaniateir i ni fynd ag ef i unrhyw fan lle yr aiff unrhyw weithredwr masnachol ac felly ni cheir Cyflymu Cymru mewn unrhyw ddinas neu gytref neu ddatblygiad mawr, oherwydd dyna yn amlwg lle mae'r holl gyflwyno masnachol wedi digwydd. Felly, yn fy etholaeth i, ni cheir Cyflymu Cymru, a gallaf eich sicrhau bod gennyf i bobl nad oes ganddyn nhw fand eang, ond nid wyf yn gallu mynd yno ac ymyrryd ar eu rhan, sydd yn peri cryn rwystredigaeth.
Ond rydym ni wedi dysgu o rai o'r materion a oedd gennym yn ymwneud â chyfathrebu, fel yr wyf wedi'i ddweud wrth ateb nifer o Aelodau o gwmpas y Siambr. Yn y cynlluniau newydd yr ydym yn eu cyflwyno, ar ôl i'r cynigion ddod eu holau, rydym wedi gofyn i gael safleoedd penodol. Felly, bydd y caffaeliadau newydd ar sail safleoedd penodol a chostau penodol a bydd modd i ni ddweud wrth bobl ar unwaith pa un a ydynt wedi'u cynnwys ai peidio, ac yn achos y bobl hynny nad ydynt wedi'u cynnwys, byddwn ni'n gallu gweithio'n rhagweithiol gyda nhw i sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn cynlluniau cymunedol ac yn y cynlluniau talebau; ac yn achos y bobl sydd wedi'u cynnwys, byddwn yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw ar sail bersonol ynghylch lle y maen nhw arni ac a oes unrhyw broblemau peirianneg ac ati, sy'n codi. Felly, rydym wedi dysgu'r wers gyfathrebu a hoffwn feddwl, wrth symud ymlaen, na fydd gennym ni'r broblem honno mwyach.
Rydym ni yn gwybod, o fewn y rhan fwyaf o baramedrau, pwy sydd wedi'u cysylltu a cheir map rhyngweithiol ar wefan Llywodraeth Cymru sydd yn dweud wrthych chi os ydych chi'n safle gwyn ai peidio. Mae yna ambell fân addasiad i hynny, fel y soniais. Wrth i mi fynd o gwmpas y wlad, rydym wedi canfod rhai problemau gydag ef, ond rhai bach iawn ydyn nhw. Felly, ar y cyfan, mae'r map yn gywir. Rwy'n annog Aelodau sy'n dod o hyd i gamgymeriad ar y map i ddweud wrthyf am hynny, oherwydd rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ei fod mor gywir ag y bo modd.
Fe wnaethom ni gynnwys bron i 2,000 o safleoedd busnes ychwanegol drwy'r contract Airband hefyd, felly mae hwnnw'n gontract ychwanegol y gwnaethom ni ei roi ar waith yn benodol er mwyn ymdrin â safleoedd busnes, oherwydd yn yr adolygiad marchnad agored gwreiddiol, roedd llawer o safleoedd busnes a oedd yn cael eu gwasanaethu gan y cwmnïau masnachol, ond yna daeth yn fwyfwy amlwg nad oeddent yn mynd i'w gwasanaethu. Felly, fe wnaethom ni roi contract ychwanegol ar waith yn benodol ar gyfer hynny, ac mae'r contract hwnnw bellach wedi'i gwblhau ac ar waith.
Yn olaf, o ran seilwaith a rennir a mastiau ffonau symudol, fel y dywedais wrth ymateb i Russell George, rwy'n rhwystredig gan ei bod yn ymddangos yn amlwg i mi nad ydym ni'n mynd i gael marchnad fasnachol lawn yn y rhannau gwledig o Gymru. Byddwn ni'n ffodus os cawn ni un gweithredwr. Felly, mae'r syniad nad ydym ni'n caniatáu trawsrwydweithio, heb sôn am rannu seilwaith, yn fater o rwystredigaeth enfawr i mi. Nid wyf yn gallu gweld sut y gallwch chi redeg busnes twristiaeth a dweud, 'Dewch i Gymru, cyn belled a'ch bod chi wedi'ch cysylltu â'r un gweithredwr hwn.' Yn amlwg, nid yw hynny'n gweithio. Os oes gennych chi SIM cyfandirol—os ydych chi'n ddigon ffodus i fod ag un o'r rheini—mae'n trawsrwydweithio'n hapus braf ac yn dod o hyd i'r gweithredwr, felly rwy'n parhau i bwyso'n drwm ar Ofcom a Llywodraeth y DU i ganiatáu hynny mewn ardaloedd gwledig a rhannau gwledig iawn, lle mae'n amlwg nad oes cystadleuaeth ar gyfer y gwasanaethau hynny.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i arweinydd y tŷ am gyflwyno'r datganiad hynod o bwysig hwn heddiw. Bydd hi'n gwybod bod hwn yn fater pwysig i'm hetholwyr i yn Alun a Glannau Dyfrdwy ac fy mod i wedi codi materion sy'n ymwneud â chysylltedd digidol o'r blaen yn y Siambr hon.
Yn amlwg, mae'n bwysig cael cysylltedd digidol yn iawn os yw Cymru a'r DU yn mynd i fod ar flaen y gad o ran technoleg byd-eang yn y dyfodol. Mae gennyf ddau bwynt yr hoffwn i ofyn cwestiwn i arweinydd y tŷ yn eu cylch. Yn gyntaf, a yw hi'n cytuno â mi fod gwella ein cysylltedd digidol yn hanfodol os ydym ni'n mynd i fanteisio i'r eithaf ar y datblygiadau mewn technoleg deallus, o geir heb yrwyr i ddronau awtonomaidd a dyfeisiau monitro amgylcheddol? Mae angen inni wella, ac mae angen inni wneud hynny ar frys.
Yn ail, a yw hi'n cytuno â mi fod angen inni fod yn wirioneddol radical wrth ystyried syniadau sy'n ymwneud â'r mater hwn ac adeiladu dinasoedd a chanolfannau gigabit? Er enghraifft, gallai sir y Fflint a Wrecsam uno â'i gilydd i greu un ganolfan gigabit enfawr, a thrwy ddylunio a defnyddio'r math hwn o seilwaith ffeibr llawn, diogel at y dyfodol, gallem helpu i gyflwyno llawer o'r buddion yr ydych chi wedi sôn amdanynt yn eich datganiad, gan gynnwys lled band diderfyn a chysylltedd ar gyflymder gigabit, i gymunedau cyfan, yn rhai trefol a gwledig. Byddai pob dinas a chanolfan gigabit y byddem yn ei hadeiladu yn darparu cyfleusterau arloesol a'r seilwaith digidol a all ddiwallu anghenion data, cysylltedd a chyfathrebu busnesau lleol, llywodraeth leol a'r sectorau iechyd ac addysgu, a hynny am ddegawdau i ddod.
Dylem ymdrechu i sicrhau bod Cymru a'r DU yn arwain y byd o ran y dechnoleg a'r arloesedd hyn. Mae chwyldro technolegol ar y gweill ledled y byd, ac os na fanteisiwn ni ar y cyfleoedd hyn sydd gennym ni yma yng Nghymru, fe wnawn ni ddifaru.
Rwy'n cytuno'n hollol â chi, Jack Sargeant; rydych chi'n gwneud cyfres o bwyntiau da iawn, iawn. Yn amlwg, un o'r rhesymau yr ydym ni wedi buddsoddi cymaint o filiynau o bunnoedd i gyflwyno band eang yw oherwydd bod cysylltedd yn gwbl hanfodol. Mae'r syniad ein bod ni'n parhau i'w drin yma yn y DU fel cynnyrch moethus yn hytrach na seilwaith yn gynyddol anghynaladwy yn y byd modern sydd ohoni, ac mae gennym ni awydd gwirioneddol i fynd i'r afael â hynny, pe na byddai ond gennym y pŵer datganoledig i wneud hynny. Ond yn amlwg, mae hyn yn beth cynyddol anodd oherwydd nad rhywbeth moethus mohono. Mae pobl mewn gwirionedd yn ynysig yn gymdeithasol hebddo, ac maen nhw wedi'u datgysylltu o rwydweithiau byd-eang ac ati.
Felly, byddwn yn croesawu'n fawr cael cyfarfod â chi ac unrhyw Aelod arall sy'n dymuno trafod sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hynny. Rydym newydd gyhoeddi tasglu digidol o ran elfen yr economi ar hynny o beth, ond mae yna bentwr cyfan o bethau eraill y gallem ni ei wneud o ran ein buddsoddiad cyhoeddus. Siaradais ag Adam Price yn gynharach am rai o'r problemau o ran cydgasglu band eang y sector cyhoeddus, a beth allwn ni ei wneud am hynny. Ceir llawer o gyfleoedd mewn ardaloedd fel Alun a Glannau Dyfrdwy i ddefnyddio cysylltedd cyhoeddus yr holl swyddfeydd er lles y cyhoedd ac er lles y gymdeithas ac er mwyn gweithredu economaidd. Mae gennym ni rai materion technegol y bydd yn rhaid eu goresgyn, ond byddwn yn croesawu rhagor o drafod ar hynny.
Wrth gwrs, mae gennym ni rwydwaith cysylltedd cyflymder ffeibr yn y gogledd hefyd, a cheir rhai problemau gwirioneddol o ran sut y gallwn ni sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at rai o'r manteision a ddaw yn sgil hwnnw. Mae gennym y mater cysylltedd ffeibr llawn hwnnw y soniais i amdano. Mae Llywodraeth Prydain yn cyflwyno ceisiadau i weithredu ar gyfer ffeibr llawn, a chafwyd cais llwyddiannus yn y gogledd-ddwyrain—rwy'n cymysgu'r gorllewin a'r dwyrain—ac rydym yn falch iawn o weld hynny. Felly, byddwn ni'n edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud â hynny. Fel y dywedais i wrth Adam Price, byddwn yn edrych i weld a allwn ni wneud cais Cymru gyfan i gyfateb â hynny yn y dyfodol, er fy mod i'n bryderus iawn i sicrhau nad ydym ni'n gadael pobl sydd heb unrhyw gysylltedd o gwbl ar ôl, wrth i ni gysylltu pawb arall â ffeibr llawn.
Rwyf hefyd wedi penodi Innovation Point i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgarwch ar 5G yng Nghymru, fel y soniais. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad, rwy'n bryderus iawn fod Llywodraeth y DU yn ymdrin yn briodol â gwerthu'r sbectrwm 700 MHz ac nad ydym yn gweld y bancio tir a gafwyd â'r sbectrwm 4G, felly, yn y bôn, rydym yn dymuno iddyn nhw bennu categori 'ei ddefnyddio neu ei golli' ar gyfer hynny, oherwydd mewn rhannau helaeth o Gymru, er enghraifft, nid yw 4G yn cael ei ddefnyddio gan y gweithredwyr sydd wedi'i brynu, ac mae'n destun rhwystredigaeth fawr i ni na allwn ni fynnu ei gael yn ôl oddi wrthynt, a hynny yn union fel yr oeddem ni'n sôn am y dreth tir gwag, mewn gwirionedd: mae gennych chi ased, ac rydych yn eistedd arno, ac mae arnom ni eisiau ei ddefnyddio er budd y cyhoedd.
Felly, croesawaf yn fawr iawn sgwrs am sut y gallem ni symud ymlaen â hynny, ac mewn gwirionedd, gyda chyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, o ran yr hyn y gallech chi ei ysgogi drwy eich dylanwad ar Lywodraeth bresennol y DU, oherwydd rwy'n meddwl ei bod yn broblem wirioneddol i'r Gymru wledig yma, nad yw'n cael ei gweld gan bobl sy'n byw yn swigen y de-ddwyrain o gwbl—ei bod yn annhebygol iawn y byddai'r math hwn o gysylltedd yn gallu cael ei wneud ar ffurf gystadleuol yn y Gymru wledig iawn, ond ein bod ni'n awyddus i weithio gyda'r holl fargeinion dinesig presennol, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a chyrff lleol ledled Cymru i wneud yn siŵr ein bod ni yn manteisio ar raglenni Llywodraeth y DU ar gyfer rhwydweithiau ffeibr llawn, a bydd y canolfannau gigabit yn sicr yn rhan hanfodol o hynny, oherwydd, os na wnawn ni symud gyda'r llif hwnnw, cawn ein boddi ganddo. Felly, byddwn yn croesawu eich cyfraniad chi i hyn.
Rydym ni'n mynd yn brin o amser ar y datganiad hwn, felly os gallwn ni gael cwestiynau byr ac atebion byr, fe wnaf i geisio galw ar y tri siaradwr sydd ar ôl. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd, a diolch i chi unwaith eto. Dim ond i ailadrodd, mewn gwirionedd, rydych chi wedi bod yn hynod gymwynasgar a chydweithredol o ran y pryderon yr wyf i wedi'u codi gyda chi, ac mae'n deg i ddweud fy mod i wedi codi digon ohonynt. Ond a gaf i fynd â chi'n ôl yn gyflym at y cyfarfod hwnnw y daethoch chi iddo lle'r oedd gennym ni fwy na 100 o bobl pryderus iawn yn yr ystafell, ac un o'r pethau mawr a ddaeth i'r amlwg oedd y problemau gyda BT eu hunain, o ran eu cysylltiadau â'n hetholwyr, a'r ffaith y bu'n rhaid iddyn nhw yn y pen draw ddod ataf i. Gofynnodd un o'r etholwyr, a chafodd gefnogaeth yr ystafell gyfan wrth wneud hynny, ynglŷn â symud ymlaen—a gwn fod hwn yn gwestiwn anodd i chi—ond wrth symud ymlaen â'r prosesau tendro. Os ceir y teimlad hwn, y diffyg hyder yn BT ei hun, sut y bydd hyn yn effeithio (a) arnoch chi yn symud ymlaen o ran cael yr hyder i ymdrin â nhw eto? Ond fy mhryder pennaf yw'r hyn a ddywedasoch yn eich datganiad heddiw, lle rydych yn sôn:
'Hyd yn hyn, rydym wedi talu £300 i BT am bob safle, fodd bynnag, mae terfyn y cam cyflenwi yn golygu bod yn rhaid inni weithio gyda'i gilydd yn awr i fantoli'r llyfrau'.
Wrth ddweud 'gweithio gyda'n gilydd', gyda phwy? A:
'sicrhau bod yr holl wariant yn gymwys a bod yna dystiolaeth lawn i'w brofi. Bydd yn cymryd sawl mis i'r broses hon gael ei chwblhau, ond mae'n hanfodol nad yw BT yn elwa ar unrhyw or-gymhorthdal'.
Mae hynny, i mi, ychydig bach yn amwys, ac o ran prosesau archwilio, tybed sut y gallwch chi mewn gwirionedd roi ychydig bach mwy o hyder inni y bydd yna graffu trylwyr ar hyn, oherwydd rwy'n gwybod, yn fy etholaeth i, mae'n siŵr eich bod chi wedi eich synnu gan gynifer y bobl yr oedden nhw eu hunain yn credu eu bod yn mynd i'w gael—fe ddywedwyd wrthynt y byddent yn ei gael, nid ydynt wedi'i gael ac eto maen nhw mewn gwirionedd yn y cam cyflwyno cyfredol hwn.
Felly, mae llawer o gwestiynau i'w gofyn am ran BT yn hyn o hyd, ac rwy'n meddwl eich bod chi wedi dioddef llawer o feirniadaeth dros y misoedd diwethaf er nad chi sydd ar fai mewn gwirionedd, ond y cwestiwn yw pa ddylanwad a pha bŵer sydd gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, fel Llywodraeth Cymru, yn erbyn BT, oherwydd rwy'n credu eu bod yn gwbl ymwybodol o fy mhryderon i, oherwydd roedden nhw yn y cyfarfod hefyd.
Mae'r Aelod yn gwneud y pwyntiau y mae llawer o Aelodau yn eu gwneud drwy'r amser am y mater cyfathrebu, ac ni wnaf i ailadrodd hynny, Llywydd; rydym wedi bod drwy hynny lawer gwaith o'r blaen, ond rydym ni wedi dysgu'r wers honno. Felly, gan symud ymlaen, bydd yn un o amodau'r contractau newydd, ar gyfer pwy bynnag fydd yn eu hennill nhw, eu bod yn cyfathrebu'n uniongyrchol â—. Bydd gennym ni eiddo wedi'u henwi yn y contractau hynny; ni fydd gennym ni'r effaith 'pwll pysgota' a fu gennym y tro hwn. Byddwn ni'n gwybod pwy sydd yn y contract a phwy nad ydynt, a bydd modd i ni roi polisi cyfathrebu ar waith, oherwydd rydym yn sicr wedi dysgu'r wers honno'n dda. Yn wir, rwyf wedi derbyn llawer o feirniadaeth ar y pwnc hwnnw o bob cwr o Gymru, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud hynny.
O ran yr hawliadau grant, byddem bob amser yn mynd drwy broses drylwyr ar ddiwedd unrhyw gontract. Mae'n cynnwys cosbau ariannol difrifol, felly mae er budd i ni, ac er budd y contractwr i sicrhau bod gennym ni, y naill a'r llall, ddealltwriaeth gyffredin o'r hyn sy'n cael ei hawlio, pam y mae'n cael ei gytuno neu pam nad yw'n cael ei gytuno, a beth yw'r prosesau ar gyfer hynny. Ac, yn amlwg, maen nhw yn ei hawlio, rydym ni'n dweud 'na', maen nhw'n dweud 'ie', rydym yn mynd yn ôl ac ymlaen sawl gwaith, a nawr rydym yn mynd drwy'r contract cyfan eto ar y diwedd i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn hollol glir ar ba sail yn union yr ydym ni wedi talu'r amryw geisiadau, pam, a pham yr ydym ni wedi dweud 'na' neu 'ie' ac ati.
Felly, dyna yw'r broses. Rwy'n fodlon iawn ei bod yn broses drylwyr. Mae wedi'i llywio gan fy nhaith i o gwmpas Cymru, lle mae rhai pobl, rwy'n meddwl, hyd yn oed yn etholaeth y Llywydd y diwrnod o'r blaen, yr oeddem ni'n meddwl eu bod wedi'u cysylltu yn dweud nad oeddent wedi'u cysylltu. Felly, rydym wedi anfon ein timau yn ôl allan i wirio, gwirio'r hawliadau hynny unwaith yn rhagor a rhoi prawf ar y broses gyfan unwaith yn rhagor. Felly, rwy'n falch iawn o hynny, ac, fel y dywedais, mae yna faterion cymhleth yn y cytundeb grant o ran nifer y safleoedd y gellir eu hawlio ym mhob cod post, ond mae'n amlwg yn awr eu bod wedi cysylltu mwy o lawer o eiddo mewn llawer o'r codau post nag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl, neu yn wir, nag y byddant yn cael eu talu amdanynt o dan y cytundeb grant, felly mae hynny'n beth da, ond rydym ni'n dal i fod yn awyddus nad ydyn nhw'n cael cymhorthdal am bethau nad oeddent yn y contract gwreiddiol.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. Ar gyfer fy nghwestiynau i heddiw, hoffwn gysylltu rhai o'r pwyntiau yn eich datganiad yn ôl i 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Fel y gwyddoch, mae'r ddogfen honno'n nodi'r uchelgais i ddatblygu gweledigaeth ddigidol ar gyfer y Cymoedd, sy'n canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau i nodi sut y gellir defnyddio technoleg i sicrhau gwell canlyniadau i bobl sy'n byw ac yn gweithio yno. A all arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd tuag at gyflawni hyn? Yn benodol, pa ymyraethau, o ran cysylltedd digidol a seilwaith digidol, y bydd eu hangen er mwyn bwrw ymlaen â hyn?
Yn ail, cam gweithredu arall gan dasglu'r Cymoedd oedd helpu i greu swyddi digidol yn y Cymoedd. Gallai hyn fod yn allweddol wrth hyrwyddo eu ffyniant economaidd yn y dyfodol, ond eto mae hynny'n gofyn am seilwaith digidol a all fodloni disgwyliadau. Sut y mae arweinydd y tŷ yn cynnwys hyn yn ei gwaith?
Rwyf wedi gwrando ar ddau gwestiwn ardderchog. Cawsom gyfarfod da iawn â thasglu'r Cymoedd yn etholaeth Castell-nedd, mewn gwirionedd, yn ddiweddar iawn, pan wnaethom ni drafod ag arweinydd y tasglu, beth yn union sy'n digwydd ar draws ardal tasglu'r Cymoedd. Rwy'n credu roedd Lee Waters yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw. Fe wnaethom benderfynu ar dri cham gweithredu pendant iawn, ond yn anffodus, nid wyf yn mynd i'w blaen-gyhoeddi, oherwydd byddai fy nghyd-Aelod Alun Davies yn flin iawn pe byddwn i'n gwneud hynny, felly bydd yn rhaid ichi aros yn eiddgar iddo ef eu cyhoeddi nhw i ni. Ond, mae'r gwaith hwnnw wedi mynd yn dda iawn yn wir, ac mae gennym ni rai syniadau arloesol a chreadigol iawn i'w rhannu â chymunedau'r Cymoedd yn rhai o'r ardaloedd a'r canolfannau treialu, ac rwy'n falch iawn o hynny. Byddwn yn helpu busnesau bach a chanolig yn yr ardal honno i fanteisio ar rai o'r posibiliadau a ysgogir gan ddata sydd wedi dod i'r amlwg, gan ein bod ni wedi cynnal ymarfer mawr yn edrych ar ba ddata cyhoeddus sydd ar gael, a beth y gellir ei rannu yng nghymunedau'r Cymoedd hefyd. Felly, mae a wnelo â mwy na chysylltedd yn unig, mae a wnelo â beth y gellir ei wneud â'r data hynny, sydd wedyn yn teithio dros y rhwydweithiau hynny.
Rydym ni hefyd wedi mapio'r ardal gyfan ar gyfer y cysylltedd gorau, ac fe wnaethom ni fapio'r rheini i'r canolfannau hynny yr ydym wedi siarad amdanynt. Mae fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth newydd gyhoeddi tasglu digidol traws-lywodraethol a fydd yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i ddeall manteision economaidd hynny yn y ffordd orau, a gwn fod nifer ohonoch chi yn trafod hynny gydag ef, gydag Alun a minnau. Rydym wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Mae fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig a minnau wedi cael trafodaethau hir iawn am amaethyddiaeth fanwl a rhai o'r manteision y gellir eu cyflwyno, drwy gysylltedd, i'n diwydiannau ffermio hefyd. Mae llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd yn y categorïau hynny hefyd, felly gellir gwneud llawer â hynny, ac rwy'n credu y byddwn ni mewn lle da o ganlyniad i'n gwaith, o ran y cysylltedd—y peth anodd—ond yn bwysicach fyth, mewn gwirionedd, o ran y sgiliau a'r pethau meddal sy'n mynd law yn llaw â hynny, er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn cael yr hwb y maen nhw'n ei haeddu o ganlyniad i'r gwariant yr ydym ni wedi'i fuddsoddi yn hyn.
Yn olaf, Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn cadw fy sylwadau yn gryno. Rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am beidio â cholli golwg ar lwyddiant sylweddol y cynllun, ond yn anochel, y man gwan sy'n cael y sylw. Dywedasoch fod gwaith yn mynd rhagddo i symleiddio'r cynllun talebau. Hoffwn godi gyda chi achos fy etholwyr yn y Bynie yn Llanelli, sydd wedi bod yn rhwystredig iawn am nad yw Openreach yn fodlon gosod band eang ffeibr optig, ac mae'n rhaid i bob un ohonynt wneud cais am daleb mynediad Allwedd Band Eang Cymru i'w galluogi i gomisiynu cyflenwr annibynnol. Maen nhw wedi bod yn aros am 11 wythnos erbyn hyn. Mae ganddyn nhw gyflymderau o 0.04 i 0.6 Mbps, ac felly gellir deall eu rhwystredigaeth. Felly, tybed a allwch chi gynnig unrhyw gysur iddynt.
Gallaf yn wir. Os hoffech chi ysgrifennu ataf i gan nodi eu manylion cyswllt, mae gennym ni dîm busnes sy'n arbenigo mewn dwyn cymunedau at ei gilydd er mwyn manteisio ar y daleb, a hynny yn gyflym. Ac mae gennym ni dîm sy'n dda iawn o ran cael y gorau o'r system honno. A chyn iddynt fynd a gwario eu harian ar y cynllun talebau, byddai gennym ni hefyd syniad da iawn o'r hyn sydd ar y gorwel o ran caffaeliadau newydd ac ati. Felly os rhowch chi'r manylion hynny i mi, rwy'n fwy na pharod i ofyn i'r tîm hwnnw gysylltu â nhw.
Llywydd, rwyf wedi gwneud y cynnig hwnnw ym mhob un o'r cyfarfodydd cyhoeddus yr wyf i wedi'u cynnal ledled Cymru, ac felly fe wnaf ei ailadrodd yma yn y Siambr. Os yw Aelodau yn ymwybodol o grŵp o bobl sydd eisiau dod at ei gilydd i ddefnyddio cynllun talebau mewn unrhyw ffordd arloesol, neu os oes ganddynt unrhyw ateb arloesol arall yr hoffen nhw ei awgrymu, anfonwch eu manylion ataf, ac mae gennym ni dîm o bobl, a'u gwaith nhw yw mynd yno a helpu hynny i ddigwydd. Felly, os hoffech chi roi gwybod i mi am hynny, gallwn ni'n sicr gyflymu hynny.
Diolch i arweinydd y tŷ.