– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 22 Mai 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ynghylch y stori erchyll sy'n cael ei hadrodd heddiw am faetio moch daear yma yng Nghymru? Rwy'n sylweddoli bod hyn yn draws-asiantaeth ac yn draws-sector, a bod rhai o'r cyfrifoldebau yn San Steffan, bod rhai o'r cyfrifoldebau hynny o ran iechyd a lles anifeiliaid yma yn y Cynulliad. Ond pwy bynnag sydd â'r cyfrifoldeb hwnnw, mae'n stori erchyll o gam-drin anifeiliaid na ddylid ei oddef mewn unrhyw wlad wâr, ac mae angen i ni weithredu ar sail y dystiolaeth hon a gyflwynwyd gan y BBC heddiw. Yn arbennig, mae'n dynodi—ac rwy'n gwerthfawrogi'r unigolyn sydd wedi nodi ac wedi dweud nad yw'n cymryd rhan yn hyn o gwbl—bod gan unigolyn orchymyn yn ei erbyn yn ymwneud â bod yn berchen ar gŵn at ddibenion bridio, ac eto mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn bridio cŵn.
Mae angen i ni fel gwlad ddangos arweiniad ar y mater hwn, a byddwn yn gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar sut y gallai hi, gyda'i swyddogion, ddod ag asiantaethau at ei gilydd sy'n gallu edrych ar hyn, a, lle bynnag y mae'n digwydd ledled Cymru, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddileu ac yn cael ei atal ar unwaith.
Rwy'n credu bod pob un ohonom ni'n rhannu eich pryderon; rydym ni i gyd wedi clywed yr hysbysebion ac ati ar gyfer y rhaglen, ac rwy'n credu ei bod yn cael ei darlledu yn ei chyfanrwydd heno. Byddwn ni'n edrych arni'n ofalus iawn ac yn edrych ar y dystiolaeth, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi ei bod hi, wrth gwrs, yn rhannu eich pryderon ac y byddwn ni'n ymateb yn briodol i hynny, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein brawychu gan rai o'r straeon o greulondeb, tuag at y moch daear a'r cŵn dan sylw, mewn gwirionedd.
Hoffwn wneud tri chais ar gyfer datganiadau, os yw hynny'n iawn; fe geisiaf fod yn gryno. Rwyf wedi clywed gan drigolion a chynghorwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr nad ydyn nhw wedi gallu mynd ar borth cynllunio'r cyngor ers nifer o fisoedd bellach, ac mae wedi bod ar-lein ac all-lein mewn modd ad-hoc iawn. Rwy'n codi hyn yma oherwydd bod yr etholwyr yn dod ataf i yn dweud bod arnynt eisiau edrych ar geisiadau cynllunio presennol—i roi barn arnyn nhw, neu i apelio yn eu herbyn—ac ymddengys na allan nhw wneud hynny. Felly, meddwl oeddwn i tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i gynghorau yn gyffredinol, gan roi arweiniad ynghylch sut y dylai'r pyrth cynllunio hynny weithredu, oherwydd gallai fy etholwyr i golli'r cyfleoedd i roi eu barn ar geisiadau cynllunio os yw'r sefyllfa bresennol yn parhau.
Mae'r ail gais am ddatganiad yn ymwneud â'r syrcas deithiol gydag anifeiliaid gwyllt sy'n mynd ar daith ar hyn o bryd. Mae yna daith yn y de ac yn y gogledd—roedd ym Mhorthcawl yr wythnos diwethaf. Cefais gyfarfod ag RSPCA Cymru yr wythnos hon, ac roedden nhw'n dweud wrthyf mai'r rheswm dros gynnal y sioe ym Mhorthcawl yw bod gan gyngor Pen-y-bont ar Ogwr brydles ar gyfer digwyddiadau sy'n ei glymu i gontract hirdymor â'r arddangoswr penodol hwn. Tybed a wnewch chi roi datganiad i ni ar ba ymchwil yr ydych chi wedi'i wneud yn y cynghorau eraill, ac yn y cyngor penodol hwn, sydd mewn sefyllfaoedd tebyg, oherwydd, os oes ganddyn nhw brydlesoedd tymor hir o'r fath, ac os oes yna gais i wahardd anifeiliaid gwyllt rhag bod yn rhan o syrcasau—cais yr wyf yn gobeithio y byddwn ni'n cael datganiad arno cyn bo hir—yna mae angen inni fod yn ymwybodol y gallai'r prydlesoedd hirdymor hyn fynd yn erbyn y broses benodol honno.
Mae fy nhrydydd cais yn ymwneud â datganiad—adroddiad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf—ar gladin allanol ar adeiladau yn sgil Grenfell. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw'n mynd i ymgynghori ar wahardd cladin fflamadwy, ac ar lefel y DU, mae grŵp Plaid Lafur y DU wedi dweud, 'Peidiwch ag ymgynghori arno, ewch ati i'w wahardd', ac yn y fan hon mae'r Gweinidog wedi dweud ei bod hi'n mynd i gymryd rhywfaint o amser i ystyried y dewisiadau. Hoffwn gael datganiad cyn gynted â phosibl i ddeall beth fydd safbwynt Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae pobl yn dod ataf i, fel llefarydd ar dai, i ofyn beth sy'n digwydd yng Nghymru. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad i'r perwyl hwnnw.
Diolch i chi am y tri mater hynny, sy'n rhai pwysig iawn. O ran y cyntaf, y porth cynllunio, byddai'n ddefnyddiol iawn, os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, pe byddech yn ysgrifennu a rhoi gwybod beth yw'r manylion. Mae canllawiau yn bodoli eisoes ar gynnal y pyrth cynllunio, felly byddai'n ddiddorol gweld a oes rhyw fater penodol sy'n ymwneud a pheidio â chydymffurfio â'r canllawiau hynny. Felly, nid wyf yn siŵr a ydych chi eisoes wedi ysgrifennu—os nad ydych chi wedi gwneud hynny, yna byddwn i'n awgrymu eich bod yn gwneud hynny. Ac yna, os oes problem gyffredinol â'r canllawiau, gallwn ni edrych ar hynny.
O ran y syrcasau a'r anifeiliaid, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, rydym wrthi'n ystyried beth i'w wneud. Mae yna gonsensws yn y fan hon nad yw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn beth da i'w weld. Rwy'n siŵr y bydd rhan o'r ddeddfwriaeth a gyflwynir yn ymdrin â threfniadau lesddaliadol presennol a'r amddiffyniad ar gyfer pobl a allai gael eu dal mewn sefyllfa o'r fath. Ond mae'n werth chweil tynnu sylw at y mater hwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gwrando'n astud i chi wrth i chi sôn amdano. Fe fydd yna broblemau cysylltiedig eraill hefyd—a bydd angen inni wneud yn siŵr bod unrhyw waharddiad yn cael effaith gyflawn, a'n bod ni'n gwneud y ddeddfwriaeth yn briodol yn hynny o beth, a dyna beth y mae'r Gweinidog yn ei ystyried.
Ac yna, o ran Grenfell, ac mae'r Gweinidog yn brysur nodio y tu ôl imi, byddwn ni'n edrych yn ofalus ar yr hyn sy'n digwydd ac yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y byddwn ni mewn sefyllfa i wneud hynny, oherwydd dyna—. Yn amlwg, rydym ni i gyd wedi cael ein hatgoffa o drychineb arswydus Grenfell dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, ac wn i ddim amdanoch chi, ond roeddwn i yn fy nagrau unwaith eto o glywed rhai o'r adroddiadau yn y cyfryngau ddoe. Felly, yn amlwg, mae angen inni wneud rhywbeth i wneud yn siŵr na all trychineb o'r fath ddigwydd byth eto.
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad—y datganiad cyntaf ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella diogelwch trydanol, yn dilyn tanau trydanol yng nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Achoswyd 121 gan offer neu gyfarpar diffygiol, 119 gan gyflenwad trydan diffygiol, 15 gan geblau diffygiol a 52 gan orboethi. Mae'r rhain yn broblemau difrifol. Hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar hynny.
Nid wyf yn ymddiheuro dim am fynd yn ôl at y colledion swyddi yn Virgin, unwaith eto, yn yr ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano, oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae'n fater o bryder difrifol yn ein rhan ni o'r byd. Cyfarfuom â chynrychiolwyr y gweithlu yr wythnos diwethaf, ac fe ddaethant i'n gweld, ac roeddent yn pryderu ynglŷn â phryd y byddai pobl, yn gyntaf, yn dechrau mynd i mewn i'w gweld a siarad â hwy, ac yn ail, mae nifer o gwmnïau, gan gynnwys Admiral—sydd wedi dweud hynny'n gyhoeddus—wedi cynnig siarad â hwy a gweld a yw eu sgiliau yn bodloni prinder sgiliau Admiral. Ond os ydyn nhw'n gadael oherwydd eu bod nhw ar fin cael eu diswyddo, yna maent yn credu y dylent gael eu tâl dileu swydd, oherwydd y gwneir datganiad eu bod wedi'u diswyddo, yn hytrach na gorfod aros tan y diwrnod olaf. Y trydydd yw y byddai rhai ohonynt yn dymuno defnyddio eu tâl diswyddo er mwyn talu costau hyfforddiant ychwanegol, na fyddai ond cyfran benodol ohonynt yn cael eu talu gan ReAct, er mwyn gwella eu sgiliau. Os cânt eu tâl dileu swydd, efallai y bydd y cyrsiau yn dechrau cyn i'r broses gau ddod i ben. Felly, mewn gwirionedd, byddai unrhyw ddiweddariadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y—mae'n ddrwg gennyf, pam wyf i'n dweud hyn wrthych? Rydych yn gwybod hyn. [Chwerthin.] Byddai unrhyw ddiweddariadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y bobl sy'n gweithio yno.
Yn hollol. Diolch i chi am y ddau fater pwysig hynny. Ar ddiogelwch tân trydanol, fel yr wyf yn siŵr ein bod ni i gyd yn cofio, dywedodd Carl Sargeant wrth y Cynulliad y llynedd bod ganddo bryderon gwirioneddol am y cynnydd mewn tanau domestig sy'n tarddu o'r cyflenwad trydan, a chomisiynodd ymchwil fanwl i'r broblem, sydd bellach wedi'i chwblhau. Mae'n archwilio graddau'r duedd a'r achos posibl yn fanwl ac yn argymell pa gamau pellach y dylid eu cymryd gan y gwasanaeth tân ac eraill. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar fin cyhoeddi'r gwaith ymchwil hwnnw, ac wedyn byddwn yn gallu ymateb yn briodol i'r ymchwil a rhoi mesurau priodol ar waith. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi bod yn pryderu ers tro am faterion o'r fath.
O ran y sefyllfa gyda Virgin Media, yn wir, rydym ni'n amlwg yn rhannu nifer o bryderon am hyn, fel pob un o Aelodau'r Cynulliad yn y rhanbarth. Rydym ni i gyd wedi bod mewn nifer o gyfarfodydd. Rydym ni wedi rhoi cymorth i'r gymdeithas staff yno erbyn hyn, i lunio cais amgen posibl, fel y trafodwyd yn y cyfarfod yr oeddem ni ynddo. Rydym ni hefyd wedi rhoi'r tasglu ar waith, fel y bydd cyllid ar gael cyn gynted ag y caniateir i'r tasglu gael mynediad, ac yr wyf ar ddeall y bydd hynny cyn gynted ag y bydd y broses ymgynghori wedi gorffen, sef unrhyw funud nawr—ddiwedd yr wythnos hon, rwy’n credu, ond byddaf yn edrych ar yr union ddyddiad yn hynny o beth. Rwyf ar ddeall, yn unol â'r holl ddigwyddiadau eraill, y bu'n rhaid i ni ymdrin â nhw, yn anffodus, bydd y tasglu yn mynd i mewn wedyn, ar ôl i'r ymgynghoriad hwnnw gael ei gwblhau. Os bydd rhywbeth yn newid ar hynny, neu os oes rhyw anhawster gyda'r cwmni o ran caniatáu mynediad at y cronfeydd hynny, byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Senedd, gan ei bod yn fater o bryder mawr i ni fod y gweithwyr yn cael eu trin yn deg ac yn briodol yn ystod y broses gythryblus iawn hon, yn wir, a bod Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cymaint o gymorth iddyn nhw ag y gallwn ni.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar bolisi derbyn ysgolion yng Nghymru? Bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol mai'r oedran ysgol gorfodol yw dechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bum mlwydd oed. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, a elwir yn blant a anwyd yn yr haf, o dan anfantais. Mae rhieni plant pedair blwydd oed, nad ydyn nhw wedi cyrraedd aeddfedrwydd emosiynol, cymdeithasol nac academaidd na pharodrwydd ar gyfer ysgol, yn cael eu gorfodi i gofrestru eu plentyn flwyddyn gyfan yn gynharach, neu i gael hawl addysgol y plentyn wedi'i lleihau o flwyddyn a gorfod dechrau'r ysgol ym mlwyddyn 1. Mae rhiant yng Nghasnewydd wedi cysylltu â mi i ddweud, er gwaethaf tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol sy'n cadarnhau y bydd ei phlentyn yn dioddef os gorfodir iddo ddechrau yn yr ysgol eleni, neu ym mlwyddyn 1 y flwyddyn nesaf, y gwrthodwyd iddo'r hawl i gael mynd i ddosbarth derbyn yn yr ysgol yn 2019. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i roi'r hawl i blant a anwyd yn yr haf gael dechrau yn y dosbarth derbyn yn bump oed. A gaf i ofyn am ddatganiad ar ba gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn eu cymryd i roi terfyn ar yr annhegwch hwn a orfodir ar blant a anwyd yn yr haf yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, wrth gwrs, mae nifer fawr o blant wedi eu cynnwys yn y cyfnod sylfaen mewn ysgolion yng Nghymru, sy'n tynnu oddi wrth rai o'r anawsterau hynny. Ond os oes gan yr Aelod broblem benodol sy'n ymwneud â phlentyn penodol, rwy'n awgrymu ei fod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn uniongyrchol yn nodi'r broblem benodol honno, gan nad wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na fyddai'r plentyn hwnnw yn cael ei gynnwys fel mater o drefn yn y trefniadau cyfnod sylfaen, sy'n lliniaru'r broblem benodol y cyfeiriodd ati ar gyfer y rhan fwyaf o blant yng Nghymru.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad neu gamau gweithredu gan y Llywodraeth? Yn gyntaf oll, a gawn ni ddechrau gyda Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? Ers inni basio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol fel Cynulliad, mae Tŷ'r Arglwyddi wedi diwygio'r Bil. Fel y digwyddodd, rhoddodd egwyddorion amgylcheddol ar wyneb y Bil, rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi, ond na wnaethant ymgynghori â ni ar hynny, felly rydym ni'n gweld at beth y mae'r broses hon yn ein harwain ni. Dywedodd yr Athro Tim Lang wrth bwyllgor y Cynulliad ddoe y gellir bellach sathru Cymru dan draed o ran polisi amaethyddol oherwydd ein hufudd-dod ar y Bil. Dywedodd Michael Gove wrth felin drafod ar gyfnewid polisi ddoe nad oedd, mewn gwirionedd, y gwaith wedi gorffen o ran penderfynu pa feysydd sy'n mynd i ba le pan fyddan nhw'n dod yn ôl o'r Undeb Ewropeaidd, gan ychwanegu o bosibl at y 26 a nodwyd eisoes yn y cytundeb rhyng-lywodraethol. Ac, yn eironig, ar ôl inni basio ein cynnig cydsyniad deddfwriaethol, mae Tŷ'r Cyffredin wedi penderfynu na fydd yn ymdrin â Bil yr UE am rai wythnosau eto, sy'n tanlinellu'n wir y pwynt a wnes i fod gennych ddigon o amser i daro bargen well.
Felly, beth nawr? A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sy'n gyfrifol am hyn, yn nodi sut yn union y bydd y Cynulliad nawr yn cael gwybod am newidiadau i'r Bil? Nid oes gennym reolaeth dros hyn bellach; rydym ni wedi pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Ond bydd diwygiadau yn cael eu gwneud. Bydd amseru yn digwydd. Bydd pethau wedi digwydd ar gam gwahanol yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae potensial y bydd ping-pong yn ôl ac ymlaen rhwng yr Arglwyddi a'r Cyffredin ar hyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni ddeall sut y byddwn ni'n cael gwybod am hynny o hyn ymlaen. Mae'r egwyddor o roi'r newyddion diweddaraf i'r Cynulliad yn y cytundeb rhynglywodraethol ac rydych chi wedi ymrwymo i hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad yn nodi sut y caiff hyn ei wneud, fesul cam, ac a fydd gennym ni efallai, os oes angen, rai dadleuon pellach yn amser y Llywodraeth ar rai egwyddorion a allai ddod i'r amlwg dros yr wythnosau i ddod, oherwydd nad ydym ni'n credu bod y gwaith wedi ei gwblhau o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn meddwl y bydd yn ei wneud ar y meysydd hyn eto? Felly, dyna un maes.
Yr ail beth yr hoffwn gael datganiad arno gan y Llywodraeth, os oes modd—neu efallai y byddai llythyr at Aelodau yn briodol yn hyn o beth hefyd—yw, wrth gwrs, o ran y refferendwm yng Ngweriniaeth Iwerddon ddydd Gwener—refferendwm o'r enw 'Diddymu'r 8fed'. Nid oes a wnelo hwn ddim â Chynulliad Cymru, wrth gwrs, nid yw'n ymwneud dim â ni, ac eithrio, mewn ffordd, fod a wnelo â ni wedi'r cyfan, oherwydd bod llawer o ddinasyddion Iwerddon yn byw yng Nghymru ac yn gallu pleidleisio yn y refferendwm hwn. Mae llawer o golegau, darllenais mewn man eraill, wedi bod yn helpu myfyrwyr i ddychwelyd adref i bleidleisio yn y refferendwm, a byddai gennyf ddiddordeb mewn deall a yw'r broses honno wedi ei dilyn yma yng Nghymru hefyd. Os nad yw Diddymu'r 8fed yn llwyddiannus, yna gallwn dybio y bydd menywod o Iwerddon yn parhau i deithio i Gymru ac i weddill y DU er mwyn cael erthyliadau. Dyma'r sefyllfa ryfedd y mae'r Weriniaeth ynddi ar hyn o bryd, sef ei bod yn goddef erthyliad, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud yn rhywle y tu allan i Weriniaeth Iwerddon, wrth gwrs. Felly, mae yna fuddiant yn y fan hon, a byddai gennyf ddiddordeb i gael gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gyswllt â dinasyddion Gwyddelig, â Llysgenhadaeth Iwerddon, wrth gefnogi gallu dinasyddion Gwyddelig i ddychwelyd i bleidleisio yn refferendwm Iwerddon. Ac efallai y gall pob un ohonom ddweud 'Tá' i Ddiddymu'r 8fed.
Ar yr hyn, mae arnaf ofn nad wyf yn gwybod yr ateb i hynny, felly byddaf yn gwneud yn siŵr yr ysgrifennir at bob aelod i ddweud beth yw'r sefyllfa. Yn amlwg, mae llawer ohonom ni wedi bod yn ymddiddori'n frwd yn y sefyllfa yno, (a) oherwydd ei bod yn effeithio ar ein gwasanaethau, fel y soniodd yr aelod, ond, mewn gwirionedd, (b) oherwydd bod gennym ni ymrwymiad hirdymor i wasanaethau priodol ar gyfer menywod ac mae'r sefyllfa yng Ngweriniaeth Iwerddon y tu hwnt i nifer fawr o ddemocratiaethau rhyddfrydol a'r holl werthoedd yr ydym ni'n sefyll drostyn nhw. Felly, rydym ni i gyd wedi bod yn ei ddilyn gyda chryn ddiddordeb, ond yn anffodus dydw i ddim yn gwybod y manylion am ddinasyddion sy'n dychwelyd adref, felly byddaf yn gwneud yn siŵr y rhoddir llythyr at bob Aelod o'r Cynulliad yn dweud a ydym ni wedi gwneud unrhyw beth. Dydw i ddim yn gwybod p'un a ydym ni wedi neu beidio.
O ran Bil ymadael yr UE, oes, mae yna rywfaint o anhrefn, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, o ran yr hyn a ddigwyddodd gyda'r Arglwyddi ac ati. Rydym ni'n amlwg yn cadw llygad manwl ar hynny. Rwy'n anghytuno â'r datganiadau a wnaed gan y ddau Weinidog y gwnaethoch eu dyfynnu am resymau na fyddaf yn treulio 25 munud i ehangu arnyn nhw, neu fe fydd y Llywydd yn grac. Ond wrth gwrs bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn diweddaru'r Senedd yn aml iawn wrth i'r sefyllfa newid, ac yn wir mae'n bosibl iawn y bydd rhai o'r newidiadau yn cael eu codi a'u rhoi yn y Bil nesaf, er enghraifft, ac mae nifer o bethau eraill ar y gweill. Felly, mae'n bwysig iawn bod y Senedd hon yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran lle'r ydym ni. Ac, yn amlwg, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn gwirionedd, os bydd y sefyllfa yn newid mewn unrhyw ffordd berthnasol, yna wrth gwrs y byddai'n rhaid inni ei hailystyried. Felly, yn sicr, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'r sefyllfa yn—credaf mai'r ymadrodd safonol yw—'ansefydlog' a 'diddorol', a, Llywydd, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn awr yn byw yn y ddihareb Tsieineaidd, 'byw mewn amserau diddorol'.
Yr enw blaenorol arni oedd Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia, ond 21-27 Mai 2018 yw Wythnos Gweithredu Dementia, ac rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny. Fel y mae'r rhan fwyaf o Aelodau yn gwbl ymwybodol, amcangyfrifir bod 45,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ddementia. Disgwylir i hyn gynyddu 35 y cant dros y degawdau nesaf, ond eto dim ond tua hanner yr unigolion yng Nghymru sydd â dementia sydd wedi cael y diagnosis hwnnw. Bedair blynedd yn ôl, fe ddes innau'n gyfaill dementia. Dri mis yn ôl, bu farw fy nhad, sydd wedi dioddef o Alzheimer a dementia fasgwlaidd, ar ôl iddo gwympo. Bydd fy mab hynaf yn eillio ei wallt ar 1 Mehefin i godi arian i'r Gymdeithas Alzheimer. Dywedodd, 'ni allaf newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond fe alla' i helpu i ddod o hyd i ddatrysiad.' Pe byddai unrhyw Aelodau yn teimlo y gallan nhw fynd i Just Giving a rhoi £1 hyd oed, byddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr.
Ddydd Mercher, mae BBC One yn dangos rhaglen, The Toddlers who Took on Dementia, yn dilyn arbrawf diweddar gan Brifysgol Bangor yng nghartref gofal dementia Hen Golwyn, Llys Elian, gyda grŵp o blant bach ifanc, yn treulio tri diwrnod gyda thrigolion hŷn, i weld a yw treulio amser gyda nhw'n helpu i wyrdroi effeithiau dementia. Unwaith eto, gofynnwyd i mi ganmol y rhaglen honno i'r Cynulliad hwn, ac i eraill, gobeithio, y tu allan sy'n gwrando ar hyn.
Ym mis Mai 2016, cynhaliodd Cymdeithas Alzheimer ddigwyddiad, yr oedd llawer o Aelodau'r Cynulliad ynddo, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, i arddangos eu gwaith ar greu cymunedau cyfeillgar i ddementia yng Nghymru. Ym mis Chwefror, cynhaliodd Cymdeithas Alzheimer a Heneiddio'n Dda yng Nghymru ddigwyddiad 'Beth nesaf ar gyfer cymunedau cyfeillgar i ddementia yn y gogledd?'.
Rydym ni'n gwybod y nododd adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 'Dementia: mwy na dim ond colli'r cof', yn 2016 ddiffyg parhaus o ran gwybodaeth am ddementia a'r ddealltwriaeth ohono. Gwyddom hefyd fod y Gymdeithas Alzheimer, bryd hynny, wedi galw am i'r strategaeth dementia a oedd yn yr arfaeth ar y pryd gan Lywodraeth Cymru, i nodi targedau clir ar gyfer gwella cyfraddau diagnosio dementia, a oedd y rhai isaf o blith cenhedloedd y DU ar yr adeg honno. Ym mis Chwefror 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu ar gyfer dementia, ond y cyflawni fydd mesur ei lwyddiant, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei ragair. Felly, yr her dementia yr ydym ni i gyd yn ei rhannu yw'r un y mae'n rhaid i ni i gyd ei hwynebu. A galwaf felly am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn Wythnos Gweithredu Dementia 2018 yn unol â hynny.
Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig am ddementia. Mae'n salwch, syndrom, ofnadwy i orfod byw gydag ef, ac rydym ni i gyd wedi bod, rwy'n gobeithio, yn cefnogi'r wythnos cyfeillgar i ddementia; rwyf innau'n gwisgo'r bathodyn. Hefyd, rwyf innau’n gyfaill dementia, a gwnaeth fy swyddfa gyfan ddilyn yr hyfforddiant; i unrhyw un nad ydynt wedi gwneud yr hyfforddiant hwnnw, rwy'n argymell yn gryf y dylech wneud hynny. Wrth gwrs, rydym ni newydd gyhoeddi'r cynllun gweithredu. Rwy'n falch o ddweud bod nifer mawr o bobl sy'n byw gyda dementia, a grwpiau cefnogi neu grwpiau sy'n cynrychioli pobl sy'n byw gyda dementia, wedi bod yn rhan bwysig o'r broses honno. A chymerodd un o fy etholwyr fy hun ran flaenllaw iawn ynddo, ac mi ges i'r cyfle i drafod hynny ag Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o achlysuron. Felly, mae'n fater pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi, ac rwy'n falch o weld bod gennym ni ddigwyddiad yma yn y Senedd heddiw sy'n tynnu sylw at hynny, a bod yr Aelod wedi gallu gwneud hynny.
Arweinydd y tŷ, fel aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar olwg, rydym ni'n clywed rhai hanesion eithaf torcalonnus gan gleifion gofal llygaid sy'n dioddef cyfnodau o oedi erchyll yn eu triniaeth, ac mae oedi o ran gofal dilynol yn broblem fawr ar draws Cymru. Yr wythnos diwethaf, gofynnais i Lywodraeth Cymru ryddhau data ynghylch maint y broblem gofal dilynol yng Nghymru, fesul bwrdd iechyd, gan nad yw'r ffigurau hyn wedi'u cyhoeddi. Mae'r data'n frawychus, ac yn dangos, o'r 114,000 o gleifion sy'n aros am apwyntiad dilynol yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth eleni, fod 54,000 ohonyn nhw wedi aros y tu hwnt i'r dyddiad adolygu y cytunwyd arno yn glinigol. Pam y mae hynny'n bwysig? Wel, mae archwiliadau clinigol wedi dangos bod tua 90 y cant o gleifion ar restrau dilynol offthalmoleg yn dioddef o gyflyrau megis dirywiad macwlaidd gwlyb sy'n gysylltiedig ag oedran, glawcoma a retinopathi diabetig—cyflyrau sy'n golygu bod y cleifion mewn perygl o niwed anwrthdroadwy neu ddallineb, os na chânt eu trin o fewn y cyfnod dilynol clinigol y cytunwyd arno. Mae'r sefyllfa'n gwbl warthus ac mae yna anghysondeb amlwg o ran y capasiti a'r galw o fewn y system, ac mae'n sefyllfa sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. Yng ngoleuni'r ffigurau syfrdanol hyn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gytuno i gyflwyno datganiad i'r Siambr hon a fydd yn amlinellu sut y mae'n mynd i'r afael â'r amseroedd aros gwarthus hyn ar gyfer cleifion gofal llygaid?
Ydi, mae'n fater pwysig iawn. A dweud y gwir, Llywydd, a gaf i ddatgan buddiant personol? Mae fy ngŵr yn aros am apwyntiad ar gyfer ei olwg ar hyn o bryd mewn gwirionedd, ac rwy'n gwybod bod gwahanol Aelodau yn ymwybodol o hynny. Felly, mae arnaf eisiau dweud hynny ar goedd.
Rwy'n gwybod bod cynllun peilot cenedlaethol ar waith ar hyn o bryd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthyf, ar ôl cael adroddiad gan y cynllun peilot cenedlaethol, ac yng ngoleuni'r materion a godwyd gan Dai Lloyd, y bydd yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y pwynt hwnnw.
Rydych chi wedi sôn am y digwyddiad cyfeillgar i ddementia i fyny'r grisiau amser cinio, arweinydd y tŷ. Roedd y digwyddiad drws nesaf—. Mae'n debyg na allwch chi weld, oni bai bod gennych chi olwg eithriadol o dda, fy mathodyn ar gyfer y therapyddion galwedigaethol, a oedd yn yr ystafell drws nesaf. Roedd yn wych cael cwrdd â therapyddion galwedigaethol o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a wnaeth roi gwybod i mi cymaint o waith y maen nhw'n ei wneud â materion iechyd meddwl hefyd. Felly, mae'n ymddangos i mi nad yw therapi galwedigaethol yn ymwneud â rheoli'r meysydd traddodiadol yn unig, mae hefyd yn bwysig iawn wrth gymryd pwysau oddi ar feysydd eraill y gwasanaeth iechyd, o ran ymdrin â'r bobl hynny, felly tybed a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd ar y cymorth a roddir i therapyddion galwedigaethol yng Nghymru.
Yn ail, ac yn olaf, mae toriad yr haf ar y gorwel yn awr. Tybed a gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer seilwaith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymweld â'r cynllun hwnnw yn ddiweddar. Ymwelais i ag ef hefyd; mae'n gynllun gwych. Gwnaeth y dyluniad argraff dda iawn arnaf, yn ogystal â'r bobl sy'n gweithio ar y cynllun, ond rydym ni'n gwybod ei fod wedi cael problemau o ran mynd dros y gyllideb a thros amser, ac nid dim ond y math arferol o lithriant amser, ond cyfnod sylweddol o amser, ac mae pobl leol wedi mynegi pryderon am hynny. Felly, a gawn ni ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran pryd yr ydym ni'n rhagweld y bydd y cam hwnnw o'r prosiect yn cael ei gwblhau, a hefyd sut yr ydym ni'n bwriadu manteisio ar y cynllun hwnnw yn y tymor hir, fel bod yr Aelod dros Flaenau Gwent a minnau, fel yr Aelod dros Sir Fynwy, yn gallu dweud wrth ein poblogaethau lleol y bydd Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn bwrw ati'n syth ar ôl i'r datblygiad hwnnw gael ei gwblhau ac y gallwn ni ddatblygu'r twf economaidd yn yr ardal honno?
Ie, rwy'n credu y bu cyfres o ymweliadau felly, gan fy mod i wedi bod yno hefyd. Mae'n drawiadol iawn yn wir. Mae'r ddau Ysgrifennydd Cabinet yn nodio'n hapus ataf ac yn dweud y bydd yna ddiweddariad ar y mater hwnnw cyn toriad yr haf.
O ran iechyd galwedigaethol, yn hollol, mae'n elfen bwysig iawn o rai o'r trefniadau iechyd meddwl sydd gennym ni ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn fy atgoffa ein bod ni, wrth gwrs, wedi cynyddu faint o hyfforddiant a chydnabyddiaeth yr ydym ni'n eu rhoi i ymarferwyr iechyd galwedigaethol a'u bod, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn o'r strwythur clinigwyr ledled Cymru.
Mi fydd nifer ohonom ni wedi ein brawychu, rydw i'n siŵr, gan yr ystadegau a gyhoeddwyd wythnos diwethaf fod dros 77,000 o ddyddiau gwaith wedi cael eu colli ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, oherwydd stres a lefelau o ofid ymhlith y staff. Nawr, nid yn unig y mae hynny, wrth gwrs, wedi costio bron £5.5 miliwn i'r bwrdd, ond mae'n cynrychioli cynnydd o 17 y cant mewn absenoldebau mewn dim ond chwe blynedd. Mae'r bwrdd yma, fel roeddwn yn cyfeirio ato yn gynharach, o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth yma. Rydw i'n nodi yn y datganiad busnes y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi diweddariad i ni ar y sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yr wythnos nesaf. A gaf i felly ofyn i chi sicrhau y bydd yna ymateb uniongyrchol i'r sefyllfa rydw i wedi cyfeirio ati, oherwydd mae hynny i fi yn un o'r problemau sylfaenol? Mae'n adlewyrchu methiant eich Llywodraeth chi i fynd i'r afael â sicrhau bod yna weithlu digonol ac mae hynny, yn ei dro, yn cael yr effaith rydym newydd ei weld.
Ie, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi wrthyf y bydd ef yn gwneud yr union beth hynny pan fydd ef yn rhoi diweddariad i'r Senedd yr wythnos nesaf.
Rwy'n gresynu at godi ar fy nhraed unwaith yn rhagor, i fynegi pryderon am lywodraethu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy'n gynyddol ddod yn orllewin gwyllt llywodraeth leol Cymru. Mae cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu bod naw cyn-aelod o staff wedi eu hailgyflogi ar ôl derbyn ymddeoliad cynnar, taliad diswyddo neu dâl dileu swydd. Mae hyn, wrth gwrs, yn groes i bolisi'r cyngor ei hun ac mae'n codi pryderon difrifol fod taliadau wedi eu derbyn gan unigolion a gafodd eu hailgyflogi wedyn gan y cyngor. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud a yw'n ystyried bod yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n briodol ar yr achlysuron hyn? Yn wir, a gawn ni ddatganiad ehangach gan Ysgrifennydd y Cabinet ar lywodraethu yng nghyngor Caerffili yn fwy cyffredinol?
Oes, mae, wrth gwrs, fel rwy'n siŵr y gŵyr Steffan Lewis, gyfres lem iawn o reolau a rheoliadau ynglŷn â beth y gellir ei dderbyn drwy gyfrwng taliadau pan fo chi'n cael pensiwn llywodraeth leol. Mae'r cynllun yn anhyblyg iawn yn hynny o beth ac mae cyfres lem iawn o reolau ynghylch hynny. Felly, os oes gennych chi fanylion y rheini, rwy'n siŵr, pe byddech yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd yn hollol o ddifrif ynglŷn ag edrych a lynwyd at y cynlluniau hynny.
Diolch i arweinydd y tŷ.