– Senedd Cymru am 4:43 pm ar 22 Mai 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar addysg perthnasoedd a rhywioldeb, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd llawer ohonoch yn gwybod bod y mis hwn yn nodi trideg mlynedd ers cyflwyno adran 28 a waharddodd ysgolion rhag hyrwyddo, neu drin yn gydradd, unrhyw berthynas nad yw'n heterorywiol. Er bod adran 28 wedi'i thraddodi i'r llyfrau hanes, mae ei heffaith i'w gweld o hyd yn ein system addysg. Mae ysgolion yn aml yn ei chael hi'n anodd darparu addysg rhyw a pherthnasoedd gwbl gynhwysol, a gallan nhw ei chael hi'n anodd ymateb i anghenion amrywiol eu dysgwyr, a dilyn dull gweithredu unffurf yn lle hynny.
Llywydd, mae'n rhaid i hyn newid. Rwy'n credu bod yn rhaid i Gymru wneud mwy i gefnogi pob un o'n pobl ifanc i ddatblygu perthnasau iach, bod yn iach eu meddwl a chadw'n ddiogel.
Y llynedd, sefydlais y panel arbenigol rhyw a chydberthynas i ddarparu cyngor annibynnol ar y materion hyn, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r panel arbenigol a'i gadeirydd, yr Athro Emma Renold, am eu gwaith rhagorol. Cydnabu eu hadroddiad bod rhai arferion rhagorol yn digwydd yn ein hysgolion. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd ym mhob un o'n hystafelloedd dosbarth, a llawer ohonynt ddim ond yn canolbwyntio ar agweddau biolegol y cydberthnasau dynol. Ond, ni ellir ac ni ddylid dysgu rhyw ar wahân. Dylid ei roi yn y cyd-destun ehangach o faterion cymdeithasol a diwylliannol sy'n effeithio ar sut yr ydym yn canfod ein hunain ac yn meithrin perthynas ag eraill.
Gwnaeth y panel arbenigol 11 o argymhellion sydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio cynllun cyfannol ar gyfer gwella'r ddarpariaeth, ar gyfer ein carfan bresennol o ddysgwyr a'r rhai fydd yn dysgu dan ein cwricwlwm newydd. Un argymhelliad yw y dylai'r maes astudiaeth hwn fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. Bydd statws statudol yn diogelu mynediad at addysg rhyw draddodiadol, ond hefyd yn annog ysgolion i ymgysylltu ag ystod ehangach o bynciau a nodwyd gan y panel arbenigol. Bydd hefyd yn gwella pwyslais y cwricwlwm newydd ar iechyd a lles.
Wrth inni newid y ffordd yr ydym yn meddwl am addysg rhyw, argymhellodd y panel y dylid hefyd newid ei enw i gynrychioli yn well yr amrywiaeth ehangach o bynciau y mae'n ymdrin â nhw. Rwy'n bwriadu ailenwi'r maes astudiaeth hwn yn 'addysg rhywioldeb a pherthnasoedd'—RSE. Mae hyn er mwyn rhoi pwyslais ar ddysgu am ffurfio a chynnal perthnasoedd iach fel un o ddibenion allweddol y maes astudiaeth hwn.
'Addysg rhywioldeb' fel y'i diffinnir gan sefydliad iechyd y byd, yw dysgu am wneuthuriad cymdeithasol, diwylliannol ehangach ynghylch perthnasoedd. Mae hyn yn cynnwys sut yr ydym yn ffurfio credoau ac agweddau, sut yr ydym yn sefydlu amrywiaeth o berthnasoedd a sut y mae materion diwylliannol, megis hunaniaeth o ran rhywedd, stereoteipiau ac anghydraddoldeb, yn llywio ein gwerthoedd. Mae'r dysgu ehangach hwn, sydd wedi'i gynnwys o dan 'addysg rhywioldeb', yn hanfodol ac yn hollbwysig i ddatblygu dealltwriaeth pobl ifanc o amrywiaeth eang o faterion, materion megis caniatâd, trais yn erbyn menywod, mathau eraill o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a pharch at amrywiaeth. Drwy ddysgu am berthnasoedd a rhywioldeb, mae dysgwyr yn ffurfio dealltwriaeth lawn o sut y gall gwerthoedd yr unigolyn, y gymuned a'r gymdeithas effeithio ar ein gallu i sefydlu perthnasoedd parchus a boddhaus.
Fodd bynnag, ni fyddaf yn aros am y cwricwlwm newydd i fwrw ymlaen â'r newid hwn; mae'n rhywbeth y gallwn ei wneud ar unwaith. Bydd fy swyddogion yn diweddaru'r canllawiau presennol ar gyfer ysgolion i adlewyrchu'r newid hwn mewn enw, yn ogystal â darparu mwy o gefnogaeth ar amrywiaeth o bynciau.
Mae addysg statudol yng Nghymru yn dechrau yn bump oed, felly, bydd addysg rhywioldeb a pherthnasoedd statudol hefyd yn dechrau ar yr oedran hwn. Hoffwn egluro, Llywydd, nid ydym yn bwriadu dysgu plant am bynciau nad ydynt yn barod yn ddatblygiadol ar eu cyfer. Ar hyn o bryd mae gennym y cyfnod sylfaen, sy'n darparu dysgu ar gyfer ein plant ieuengaf, ac mae hyn eisoes yn cynnwys maes dysgu ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth diwylliannol. O fewn y maes hwn, mae plant yn dysgu am berthnasoedd â ffrindiau a theulu a sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Felly, gan fod dysgu ynghylch y maes hwn eisoes wedi'i gyflenwi'n dda mewn addysg blynyddoedd cynnar, byddwn yn disgwyl gweld dulliau tebyg o dan y cwricwlwm newydd.
Nid yw gwneud RSE yn statudol, ar ei ben ei hun, yn ddigon i sicrhau y byddwn yn gwireddu'r weledigaeth hon o ddarpariaeth o ansawdd uchel yn ein hysgolion, ar gyfer ein dysgwyr presennol ac yn y dyfodol. Mae dysgu proffesiynol, cefnogi ein hathrawon i fod yn wybodus, yn hyderus ac yn ymatebol i anghenion dysgwyr, yn hanfodol. Pwysleisiodd y panel arbenigol bwysigrwydd sefydlu llwybrau dysgu proffesiynol arbenigol ar gyfer RSE, o fewn addysg gychwynnol athrawon ac ar gyfer y gweithlu presennol. Rwy'n cytuno, wrth inni symud i system a arweinir gan ysgol a gan athrawon, fod yn rhaid inni ddechrau'r broses o sicrhau bod ganddynt yr hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddarparu addysgu effeithiol.
Rwyf felly hefyd yn bwriadu derbyn, mewn egwyddor, argymhellion eraill y panel arbenigol er mwyn inni gymryd ymagwedd strategol a chyfannol at wella RSE. Nid wyf yn edrych i dincran o gwmpas yr ymylon; fy ngweledigaeth i yw ein bod yn trawsnewid y ffordd y darperir y maes astudiaeth hwn, yn awr ac yn y dyfodol. I gychwyn y broses hon rwyf wedi sicrhau bod £200,000 ar gael i gonsortia i ddechrau ar y broses o nodi anghenion dysgu proffesiynol yn y maes hwn. Dyfarnwyd £50,000 pellach hefyd i Cymorth i Fenywod Cymru i ddatblygu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer athrawon.
Llywydd, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn aruthrol o bwysig i les y genhedlaeth nesaf. Mae'r perthnasoedd yr ydym yn eu ffurfio trwy gydol ein bywydau, o'n teulu i'n ffrindiau i'n partneriaid rhamantaidd, yn rhwydweithiau cymorth hanfodol. Maen nhw'n gwneud inni deimlo'n ddiogel, maen nhw'n ein gwneud yn hapus ac maen nhw'n rhoi cysur neu o leiaf fe ddylen nhw. Penderfynir ar sut yr ydym yn gallu ffurfio'r perthnasoedd hyn ar oedran ifanc iawn, ac maen nhw'n hanfodol i'n gallu i ffynnu. Drwy fwrw ymlaen ag argymhellion y panel arbenigol, ac felly ysgogi gwelliannau gwirioneddol yn ansawdd y ddarpariaeth RSE, byddwn yn cyfrannu at wneud Cymru yn lle iachach, hapusach a mwy cysylltiedig.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad, ac am ragolwg ohono cyn y'i gwnaed y prynhawn yma? A gaf i hefyd gofnodi fy niolch i gadeirydd y panel arbenigol am y gwaith y mae hi'n a'i chyd-Aelodau wedi'i wneud? Mae Emma Renold, rwy'n credu, wedi cynhyrchu adroddiad boddhaol iawn sy'n ystyried yn drwyadl lawer o'r materion y mae addysg perthnasoedd a rhyw yn eu cyflwyno.
Bydd rhaid i chi faddau imi yma, oherwydd rwyf braidd yn fursennaidd pan ddaw at y materion hyn, ond rwy'n credu y bydd pryderon gan rai pobl am y ffaith eich bod yn sôn am y posibilrwydd o gyflwyno materion yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer rhai pum mlwydd oed nad ydyn nhw'n barod amdanyn nhw yn ddatblygiadol. Sylwaf eich bod wedi cyfeirio at ddatblygiad plant ifanc a gwneud yn siŵr bod addysg rhyw a pherthnasoedd priodol ar eu cyfer. Ond, yn amlwg, mae plant yn datblygu ar gyflymder gwahanol ac mewn ffyrdd gwahanol, a rhaid inni sicrhau y gall y math hwn o addysg fod yn ddigon hyblyg, hyd yn oed o fewn yr ystafell ddosbarth, er mwyn targedu unigolion ac nid dim ond carfannau cyfan o blant ifanc.
Credaf y bydd llawer o bobl yn dymuno amddiffyn diniweidrwydd plant ac y bydd rhieni yn holi sut y bydd yn bosibl i sicrhau y ceir addysg briodol, mewn ffordd sensitif, sydd hefyd yn bodloni gofynion a allai fod gan grwpiau ffydd, er enghraifft, lle gallan nhw godi pryderon ynglŷn ag ehangder yr addysg, os hoffech chi, a'r wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo. Felly, tybed pa ganllawiau fyddwch chi'n eu cyhoeddi i gyd-fynd â'r gyfundrefn newydd i wneud yn siŵr y gellir rhoi sylw i'r pryderon hynny, gan barhau i gynnal cyfraniad ansawdd uchel iawn ar gyfer plant o bob oed, ac ar bob cam o'u datblygiad, ond nad yw'n ddiangen yn cyflwyno plant ifanc yn arbennig i'r pethau sydd yn amlwg yn amhriodol iddynt allu eu dirnad.
Gwnaethoch gyfeirio, sylwais, yn eich datganiad i'r wasg, a gyhoeddwyd ddoe o dan embargo, at fater diogelwch ar-lein. Sylwaf nad ydych wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad heddiw, ond gwn y byddwch yn rhannu fy mhryderon ynghylch gwneud yn siŵr bod pobl ifanc, yn enwedig 'tweenagers', os cawn eu galw felly, yn paratoi'n briodol ar gyfer yr heriau y gall cyfryngau cymdeithasol ar-lein yn benodol eu cyflwyno iddynt. Tybed a allwch chi ymhelaethu ychydig ar y sylwadau a wnaethoch yn y cyfryngau ynghylch y cynnwys yr ydych yn disgwyl iddo gael ei ddarparu ynghylch diogelwch ar-lein o ran addysg rhywioldeb a pherthnasoedd.
Rydych wedi dweud eich bod yn dymuno i'r chwyldro hwn mewn addysg perthnasoedd a rhywioldeb ddechrau ar unwaith, ac eto rydych wedi dweud eich bod wedi sicrhau bod £200,000 ar gael er mwyn addysgu pobl hefyd. Wel, ni all ddechrau ar unwaith os nad ydyn nhw wedi cael eu haddysgu ar sut i gyflawni'r pethau hyn yn gyntaf. Felly, allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych yn disgwyl i bethau gael eu cyflawni ar unwaith heb arfogi athrawon yn yr ystafell ddosbarth â'r sgiliau, â'r wybodaeth, â'r arbenigedd i allu darparu'r set newydd hon o safonau addysgol o ran perthnasoedd ac addysg ar rywioldeb? Oherwydd credaf, unwaith eto, y bydd llawer o bobl yn pryderu eich bod chi'n mynd i ruthro i gyflwyno'r peth hwn, heb iddo gael ei lawn ystyried o ran y ffordd y mae hynny'n mynd i gael ei weithredu.
A gaf i hefyd ofyn sut yr ydych chi'n disgwyl monitro gweithrediad hyn? Rydych wedi dweud yn gwbl briodol y ceir rhai enghreifftiau rhagorol o ysgolion yn gwneud hyn yn iawn ac mae rhai enghreifftiau gwael iawn o ysgolion sy'n gwneud pethau'n gwbl anghywir. Sut ydych chi'n disgwyl gallu monitro'r ffordd y mae ysgolion yn gweithredu'r newidiadau yr ydych yn eu cynnig? A welwch chi swyddogaeth i'r awdurdodau addysg lleol? Ydych chi'n gweld swyddogaeth i'r consortia rhanbarthol? A oes disgwyl i Estyn arolygu yn erbyn y safonau newydd hyn, ac os felly, sut maen nhw'n mynd i gael darlun cyfannol ar draws ysgol gyfan os ydych chi wedi dweud nad yw'n mynd i fod yn bresgripsiwn penodol, fel petai, ond y bydd rhywfaint o hyblygrwydd o'i fewn? Felly, efallai, unwaith eto, y gallech chi gyffwrdd â sut yr ydych chi'n bwriadu gwneud hynny i wneud yn siŵr y bydd yn cael ei drin yn y modd priodol.
Yn olaf, yn amlwg, i lawer o blant, yr unig enghraifft sydd ganddyn nhw o berthnasoedd yw'r rhai o'u cwmpas, naill ai o fewn y teulu neu y tu hwnt i'r teulu, neu'r rhai sy'n cael eu dangos ar y teledu neu yn y cyfryngau. Sut y mae hyn yn mynd i gyd-fynd â gwaith arall sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ar faterion fel cymorth rhianta a pherthynas yn fwy eang? Yn amlwg, mae'r enghraifft honno yn y cartref yn mynd i gael effaith hyd yn oed yn fwy difrifol nag athro yn trafod hyn yn anfynych mewn ystafell ddosbarth. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa mor gydgysylltiedig yw hyn ar draws y Llywodraeth. Diolch.
Diolch i chi, Darren, am y gyfres honno o gwestiynau. Os nad oedd yn glir, Llywydd, yn fy natganiad cychwynnol, gadewch imi ddweud hynny eto: nid oes gennyf fwriad i athrawon yn ein hysgolion addysgu plant yn y pwnc hwn nad ydynt yn ddatblygiadol—ni allaf hyd yn oed ddweud y gair—nad ydyn nhw'n barod i'w ddysgu [Chwerthin.] Mae'n briodol i oedran ac nid oes gen i unrhyw fwriad i wneud hynny ac rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn, iawn.
Ddoe, roeddwn mewn ysgol yng Nghasnewydd, ac o'r oedran cynharaf, mae'r ysgol honno yn addysgu eu plant am y cysyniad o wahaniaeth—ein bod i gyd yn fodau dynol, ond fod pob un ohonom ni yn unigolyn ac mae hynny'n iawn, ac mae angen i chi ddathlu pwy ydych chi. Dydyn nhw ddim yn siarad am y peth mewn unrhyw ffordd arall, ond maen nhw yn dechrau o'r oedran ieuengaf, gan ddweud, 'Rydym ni i gyd yn wahanol, ond yn y bôn, rydym ni i gyd yr un fath hefyd.' Ac wrth iddyn nhw fynd drwy'r ysgol, maen nhw'n dysgu am faterion eraill. Felly, roeddwn i'n siarad â merched ifanc ddoe a oedd yn mynegi eu rhwystredigaeth, oherwydd eu bod nhw'n ferched, eu bod i fod i wisgo mewn ffrogiau ac maen nhw i fod i hoffi pinc. Bûm yn siarad â bechgyn oed ysgol gynradd sydd, eisoes, yn yr oedran hwnnw, yn teimlo pwysau i fod yn gryf ac i beidio â dangos eu hemosiynau. Dyna'r mathau o faterion yr ydym ni'n sôn am eu dysgu i'n plant o'r oed ieuengaf iawn—sut y maen nhw'n cydymffurfio, perthnasoedd iach a pherthnasoedd parchus gydag aelodau o'u teulu ac â'u ffrindiau, a sut y gallan nhw gadw eu hunain yn saff ac yn ddiogel. Felly, rwyf am fod yn gwbl glir y caiff hwn ei gyflwyno mewn ffordd sensitif sy'n addas i oedran plant.
Mae eich pwynt ynglŷn ag ar-lein, Darren, wedi'i wneud mor dda. A dyma'n union pam y mae'n rhaid inni wella ein perfformiad yn hyn o beth yn ein hysgolion. Oherwydd, lle mae plant yn cael eu gwybodaeth yn awr yw eu bod yn gwglo; maen nhw'n defnyddio Snapchat; maen nhw'n defnyddio WhatsApp; maen nhw'n defnyddio Facebook ac maen nhw'n byw yn y byd hwnnw. Nawr, efallai nad ydym ni, fel oedolion, yn hoffi'r byd hwnnw, ond ni allwn freuddwydio am—. Ni allwn fynd yn ôl. Rydym ni lle'r ydym ni ac mae angen inni roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i'n plant. A phan fyddan nhw'n dod ar draws y deunydd hwn ar-lein, gallan nhw gadw eu hunain yn iach a gallan nhw gadw eu hunain yn ddiogel. Oherwydd os ydym ni'n creu gwagle yn ein hysgolion ac nad ydym yn mynd i'r afael â hyn, bydd plant yn edrych am y wybodaeth hon mewn rhyw ffordd arall, ac ni fydd hynny o reidrwydd mewn modd dibynadwy neu mewn ffordd sydd yn rhoi darlun real, darlun priodol iddynt, am beth yw perthynas iach.
Cyfarfûm â dyn ifanc yn ddiweddar a oedd wedi anesmwytho'n ddifrifol drwy wylio pornograffi ar-lein, sut oedd hynny wedi effeithio arno, sut yr oedd wedi lliwio ei farn o sut beth oedd perthynas rywiol, beth yr oedd ef, yn ddyn, yn ymwneud ag o a sut yr oedd i fod i drin menyw mewn perthynas rywiol. Mae angen inni roi darlun mwy realistig a chyfannol a gwir o berthnasoedd i'r plant hyn, nid dim ond eu gadael ar drugaredd yr hyn sydd ar-lein. Dyna pam y mae'n rhaid i ni ei newid, a dyna pam mae'r Llywodraeth, fel y gwyddoch chi, yn cynhyrchu rhaglen ddiogelwch ar-lein newydd i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, oherwydd, ar hyn o bryd, mewn gormod o achosion, rydyn ni'n gadael ein plant i ymbalfalu allan yno, Darren, mewn byd digidol nad yw'n ddymunol.
Bydd gennym ni ganllawiau newydd ar gyfer y cwricwlwm newydd yn y flwyddyn newydd. Felly, rydym yn cychwyn ar y broses honno yn awr. Rydych chi'n iawn; mae gwaith i'w wneud, ond rydyn ni'n ei ddechrau drwy gael sesiynau hyfforddiant cyn yr haf i nodi beth yw'r anghenion dysgu, a thrwy adnewyddu'r canllawiau. Felly, ni allwn aros nes y bydd y cwricwlwm newydd yn dod; mae angen inni wella ein perfformiad ar hyn o bryd. O ran arolygu, wel, mae Estyn eisoes yn edrych ar les yn y fframwaith arolygu presennol sydd ganddyn nhw. Ac, wrth gwrs, yn ein cwricwlwm newydd, un o'r meysydd dysgu a phrofiad yw iechyd a lles, a byddem yn disgwyl i RSE eistedd o fewn y maes dysgu a phrofiad hwnnw, a phan fydd Estyn yn barnu ynghylch ansawdd addysg yn yr ysgol honno yna byddai hynny'n cael sylw drwy'r dull hwnnw.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad a diolch hefyd i'r Athro Renold a'r panel arbenigol am eu gwaith, a phob un a gyfrannodd i'r adroddiad a'i argymhellion? Rwy'n anghytuno â Darren Millar. Nid yw'n adroddiad boddhaol; mae'n adroddiad rhagorol, ac mae'r union fath o adroddiad y dylai Ysgrifenyddion Cabinet ei ddisgwyl gan y mathau hyn o baneli arbenigol, gydag argymhellion clir—rhai y byddwn i'n eich annog i'w derbyn yn eu cyfanrwydd. Efallai, dim ond i ddechrau, byddwn yn gofyn: beth sydd angen digwydd i chi benderfynu ar y rhai eraill wedyn? Pa mor hir y mae'n rhaid i ni aros, oherwydd fe wnaethoch chi dderbyn yr adroddiad ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, chwe mis cyfan yn ôl? Pryd y gallwn ni ddisgwyl ymateb llawn i bob un o'r argymhellion hynny? Byddai'n dda dim ond i gael syniad o beth yw'r oedi neu beth yw'r rhesymau i chi fod yn amharod i gadarnhau heddiw eich bod yn hapus i dderbyn yr holl argymhellion.
Byddwn hefyd yn herio'r honiad nad yw plant yn barod yn bump oed. Mae gennyf fab pum mlwydd oed, ac rwyf eisoes yn gweld fy hun yn herio rhai o'r pethau sy'n cael eu dweud yn ein tŷ ni, ac mae cael sicrwydd bod yr ysgol yn atgyfnerthu'r negeseuon hynny, i mi, yn bwysig iawn, iawn.
Nawr, rwyf wedi drysu braidd, ond rwy'n edrych atoch chi, yn amlwg, am gadarnhad yma, oherwydd rwyf wedi gweld rhywfaint o'r sylw yn y newyddion o amgylch y datganiad heddiw, ac maen nhw'n dweud na fydd unrhyw newid ar gyfer ysgolion crefyddol. Felly, mae angen eglurder arnaf y bydd pob ysgol, gan gynnwys ysgolion ffydd, bellach yn cael y ddyletswydd statudol honno arnyn nhw, oherwydd mae plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgolion crefyddol yn wynebu'r un heriau ac mae angen yr un wybodaeth arnyn nhw â phlant nad ydynt. Mae angen i mi fod yn glir beth yw'r sefyllfa, oherwydd dywedwch yn eich datganiad:
'bod yn rhaid i Gymru wneud mwy i gefnogi pob un o'n pobl ifanc i ddatblygu perthnasau iach, bod yn iach eu meddwl a chadw'n ddiogel.'
Tybiaf ein bod yn rhannu'r un dyheadau ar gyfer plant ni waeth pa ysgolion y maen nhw'n eu mynychu. Felly, hoffwn ei glywed gennych chi y prynhawn yma.
Yn amlwg, ni fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cwricwlwm newydd tan 2022. Nawr, mae pedair blynedd tan hynny, a dim ond wedyn y mae'n dechrau cael ei gyflwyno. Rydych chi wedi sôn am ychydig o bethau: rydych chi am fwrw ymlaen â newid yr enw, rydych chi am roi mwy o gymorth. Rwy'n meddwl tybed pa mor fuan y gallwn ni wir weithredu rhai o'r newidiadau hyn yn yr ystafell ddosbarth, heb orfod aros tan 2022. Rydych chi wedi sôn am y canllawiau newydd; rhaid imi fod yn glir pryd yn union y disgwylir i hynny gael ei adlewyrchu yn yr hyn sy'n digwydd yn ein hystafelloedd dosbarth ledled y wlad. A fydda i ddim yn colli'r cyfle, hefyd, i atgoffa'r Llywodraeth bod SchoolBeat yn rhaglen sy'n ymdrin â rhai o'r meysydd hyn, er nad gyda'r pwyslais fyddai gan y newidiadau a gynigir, ond gallai atgyfnerthu llawer o'r materion hyn, fel y gwna o ran bwlio, cam-drin domestig, cam-drin rhywiol a pherthnasoedd iach. Hoffwn bwyso arnoch chi, unwaith eto, i ddylanwadu ar eich cyd-Aelodau yn y Llywodraeth i sicrhau cyllid hirdymor ar gyfer SchoolBeat.
Nawr, rydym ni'n gwybod, oherwydd bod y panel arbenigol yn dweud wrthym ni, fod traean o ysgolion yng Nghymru nad ydynt yn darparu unrhyw hyfforddiant staff mewn diogelu pobl ifanc. Rydych chi nodi'n glir bod hynny'n mynd i newid. Rydych chi wedi tynnu sylw at y £200,000 ar gyfer y consortia, sydd, beth, yn £50,000 yr un—£50,000 i Cymorth i Fenywod hefyd. Nawr, yn amlwg, er mor dderbyniol yw hynny, nid yw'n ddigon, byddwn yn dychmygu, i gael yr effaith eang a dwfn yr ydym yn gobeithio y bydd y newid polisi hwn yn ei chael. Felly, rwy'n meddwl tybed beth mwy y gall y Llywodraeth ei wneud yn y tymor canolig yn hynny o beth. Dywedasoch chi nad ydych chi'n mynd i dincran o amgylch yr ymylon. Dywedasoch chi mai eich gweledigaeth yw inni drawsnewid y ffordd y darperir y maes astudiaeth hwn nawr ac yn y dyfodol. Os mai dyna yw eich dyhead—ac nid oes gennyf unrhyw reswm i amau hynny—yna gallaf ddweud wrthych chi yn awr y bydd Plaid Cymru yn eich cefnogi yn y dyhead hwnnw, ac rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Llyr, am eich croeso i'r datganiad. Dim ond i egluro, rwy'n derbyn holl argymhellion yr adroddiad mewn egwyddor, ac rwy'n dymuno gwneud cynnydd ar bob un ohonyn nhw, y pwysicaf ohonyn nhw yw sicrhau, wrth inni symud at ein cwricwlwm newydd, y bydd RSE yn rhan statudol o'r cwricwlwm hwnnw, sydd yn bolisi newydd. Nid oedd yn fwriad i ddechrau i'w wneud yn rhan statudol o'r cwricwlwm. Mae'r adolygiad wedi gwneud yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n derbyn yr adolygiad hwnnw, a, phan ddeuwn i ddeddfu ar gyfer y cwricwlwm, yna bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gweld hynny wedi'i adlewyrchu yn y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno fydd yn deddfu'r cwricwlwm newydd. Felly, mae hynny'n newid sylweddol.
Roedd yr ail argymhelliad ynghylch—dyna pam y mae'n cael ei dderbyn mewn egwyddor—newid yr enw. Am fod yr adroddiad yn dweud y dylem ni ei galw'n addysg rhywioldeb a pherthnasoedd. Mewn gwirionedd, rwy'n mynd i'w galw yn addysg perthnasoedd a rhywioldeb. Rwy'n gwneud hynny oherwydd fy mod am ganolbwyntio ar fater perthnasoedd, o ba bynnag fath, oherwydd credaf mai perthnasoedd yw asgwrn cefn ein bywydau. Fel y dywedais yn fy natganiad, boed hynny yn berthynas â phartner rhywiol neu'n berthynas â'n ffrindiau, mae'r gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd, boddhaus yn floc adeiladu i'n hapusrwydd a'n lles, ac rwy'n awyddus iawn i berthnasoedd fod yn flaenllaw yn yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano gyda'n plant. Felly, mae'n newid bach o'r hyn a argymhellodd y panel.
Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, yn yr adroddiad, y bu pwyslais cryf, cryf ar yr angen i ddatblygu ein staff, oherwydd rydym ni angen i'n hathrawon fod yn hyderus ynghylch mynd i'r afael â'r materion hyn gyda phlant a phobl ifanc. Rwy'n derbyn hynny. Mae'r arian yr ydym ni'n sôn amdano heddiw ar gyfer dechrau ar y broses honno o nodi anghenion dysgu proffesiynol uniongyrchol sydd gennym yn y system bresennol. Ochr yn ochr â hynny, wrth inni weithio ymlaen gyda'n harloeswyr dysgu proffesiynol fel rhan o ddiwygio ein cwricwlwm, ceir cyfleoedd eraill i feddwl am yr anghenion dysgu proffesiynol y bydd angen inni eu cael ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Mae angen inni achub ar y cyfle yn ein diwygiadau o'n darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon hefyd er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â'r materion hyn, oherwydd mae arnom ni angen athrawon o ansawdd da sy'n hyderus, fel y dywedais, i allu mynd i'r afael â'r materion hyn hefyd.
Mae'r cwricwlwm yn statudol ei natur, felly bydd hynny'n berthnasol i bob ysgol sydd â phlant o oedran statudol. Felly, mae hynny o bump i 16, a bydd yn ofynnol i bob ysgol ddarparu'r rhan honno o'r cwricwlwm. Ar gyfer ysgolion o natur grefyddol, byddwn yn parhau i gael trafodaethau parhaus gyda'r sector penodol hwnnw ynghylch sut y bydd y cwricwlwm newydd hwn yn effeithio ar eu cyflawni, ond rhaid imi ddweud ein bod wedi cael ymgysylltiad ag ysgolion o gymeriad crefyddol yn natblygiad y polisi. Rwyf i fy hun wedi cael trafodaeth gydag Archesgob Cymru amdano yn ddiweddar, ac mae dealltwriaeth ar draws pob ysgol o'r angen i arfogi ein plant â'r wybodaeth y mae ei hangen arnyn nhw, oherwydd maen nhw'n cydnabod, fel y gwnaeth Darren Millar, y peryglon gwirioneddol iawn sy'n wynebu ein plant a'n pobl ifanc weithiau. Ac maen nhw'n deall eu bod am sicrhau bod eu plant ag iechyd meddwl da, iechyd corfforol da, y gallan nhw eu harfogi eu hunain i ddatblygu'r perthnasoedd da hynny yr ydym ni i gyd am eu gweld ar gyfer ein plant, ac, yn hollbwysig, eu cadw'n ddiogel.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn cytuno y gall perthnasoedd a rhywioldeb fod yn gymhleth ac anaml iawn y maen nhw'n syml. I bobl ifanc, gallan nhw fod yn ddryslyd ac, mewn rhai achosion, yn anodd eu deall. Yn eich datganiad, rydych chi'n iawn i gyfeirio at y niwed a wnaethpwyd gan adran 28, a, diolch byth, mae bellach wedi'i gyfyngu i hanes. Mae'n rhaid inni bob amser dderbyn pobl, waeth beth fo'u rhywioldeb neu eu rhyw—rhywbeth sy'n cael cefnogaeth aruthrol gan y rhan fwyaf yn ein cymdeithas heddiw. Ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod yn y Siambr sydd â phryderon ynghylch ailwampio addysg rhyw yng Nghymru. Rôl y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru yw hwyluso addysg plant gan nodi galluoedd disgyblion a'u hannog i fod y gorau y gallan nhw fod, boed hynny mewn byd academaidd neu weithgarwch allgyrsiol neu, gobeithio, y ddau. Mae'n hanfodol bod ysgolion yn darparu cymorth ar gyfer plant wrth iddyn nhw ddatblygu perthnasoedd a dechrau deall eu rhywioldeb. Fodd bynnag, dylai hyn gael ei wneud ar oedran priodol a dylai gael ei arwain gan y plentyn. Rwy'n synnu i weld yn adroddiad y panel arbenigol ac yn eich datganiad heddiw y bydd plant mor ifanc â phum mlwydd oed yn cael addysg perthnasoedd a rhywioldeb. Ysgrifennydd y Cabinet, siawns na chytunwch y dylem ni annog plant i ganolbwyntio ar eu haddysg a ffurfio cyfeillgarwch gyda'u cyd-ddisgyblion heb or-gymhlethu eu plentyndod. Credaf yn gryf mai swyddogaeth y rhieni yw addysgu eu plant ar berthnasoedd a darparu gwersi gwerthfawr ar gydsyniad a beth yw ymddygiad priodol. Mae UKIP ers amser hir wedi gwrthwynebu ymyrraeth gan y Llywodraeth ar faterion rhywioldeb ac addysg rhyw, yn enwedig ar gyfer plant iau, ac rydym ni'n cadw at ein hymrwymiad maniffesto na ddylai unrhyw fath o addysg rhyw gael ei addysgu mewn ysgolion i unrhyw un o dan 11 mlwydd oed. O'r datganiad heddiw, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn meddwl eu bod yn gwybod orau. Rydym ni'n credu mai rhieni sy'n gwybod orau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ein sicrhau nad ei bwriadu yw bod plant yn cael eu haddysgu ar bynciau y maen nhw—[Torri ar draws.] Mae'n ymateb i ddatganiad.
Nid oes dim ymyrraeth mewn datganiad, Joyce Watson. Ewch yn eich blaen.
Fel y nodwyd gan eraill yn y Siambr hon, mae plant yn datblygu ar gyflymderau gwahanol. Nid yw'n bosibl dweud oherwydd bod y rhan fwyaf yn barod, fod pob un yn barod. Hefyd mae'n anymarferol i ddweud, gan fod plentyn yn X oed, maen nhw'n barod i ddysgu Y. Mae rhieni yn adnabod eu plentyn yn well nag Ysgrifennydd y Cabinet, ei phanel o arbenigwyr a'r ysgolion. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw RSE yn ymwneud â bioleg yn unig—mae'n ymwneud â gwerthoedd, moeseg a gwneud penderfyniadau deallus. Fel y cyfryw, nid yw'n fater i'r wladwriaeth orchymyn yr hyn y caiff plentyn ei addysgu am y materion hyn. Felly, hoffwn ofyn a fydd cyflwyno'r addysg perthnasoedd a rhywioldeb newydd yn cynnwys cyfle i rieni sy'n teimlo nad yw'r cwricwlwm yn briodol ar gyfer eu plentyn i optio allan. Rydych wedi dweud yn eich datganiad y byddwch yn darparu dysgu a chymorth proffesiynol i athrawon a fydd yn gyfrifol am ddarparu addysg perthnasoedd a rhywioldeb. Rwy'n gwerthfawrogi ac yn edmygu'n fawr y gwaith y mae ein hathrawon yn ei wneud—mae'n waith anodd a llethol. Mae pobl yn mynd i mewn i'r proffesiwn ag angerdd i archwilio ac i addysgu eu pwnc, ond gellir dadlau bod y cwricwlwm eisoes wedi'i lethu'n ormodol ac nid oes gweledigaeth glir ar gyfer yr hyn a ddylai fod yn flaenoriaeth i'n system addysg—rhywbeth a welir yng nghanlyniadau Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol Cymru, sy'n peri pryder mawr. A ydych chi'n cytuno y bydd y mesurau hyn yn gorlwytho athrawon ymhellach mewn swydd sydd eisoes yn llethol, gan dynnu eu sylw oddi ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig—sef addysgu cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru? Ac, fel cwestiwn terfynol, rydych chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at ddarparu arian ychwanegol ar gyfer hyn. O ble y daw'r cyllid hwnnw? Diolch.
Llywydd, mae'r Aelod newydd ddweud nad yw addysg rhyw yn ymwneud â bioleg yn unig, mae'n ymwneud â gwerthoedd a moeseg, a dwi ddim yn meddwl ei bod hi byth yn rhy gynnar i ddechrau siarad â phlant ynghylch gwerthoedd a moeseg.
Nid mater i chi yw penderfynu pa werthoedd sy'n cael eu haddysgu. Mater i'r rhieni yw hynny.
Rwy'n credu—. Fel y dywedais, nid wyf yn credu ei bod hi byth yn rhy gynnar i ddechrau addysgu plant am werthoedd a moeseg, a hoffwn ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach yn y sicrwydd a roddais i Darren Millar, sef nad oes gennyf unrhyw fwriad i blant ddysgu gwersi nad ydynt yn briodol ar gyfer eu hoedran. Nawr, mae'r Aelod newydd ddweud mai polisi ei phlaid yw na ddylid bod unrhyw addysg rhyw—rwy'n credu mai dyna oedd hi—o dan 11 oed. Felly, tybiaf na ddylid bod unrhyw addysg rhyw yn ein hysgolion cynradd. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl y cawsom ddadl yn y Siambr hon am dlodi misglwyf ac urddas misglwyf. Y gwir amdani yw, oherwydd— [Torri ar draws.] Y gwir amdani yw— [Torri ar draws.] Y gwir amdani yw, oherwydd y newidiadau yn y ffordd y mae plant yn tyfu, mae'r oed y mae'r rhan fwyaf o ferched yn dechrau eu misglwyf yn gostwng a gostwng a gostwng. Ceir llawer o ferched yn ein hysgolion cynradd sydd a'u misglwyf wedi dechrau. Pe byddai'r Aelod yn cael ei ffordd, yna ni fyddai unrhyw allu yn ein cwricwlwm i helpu i baratoi ein plant ar gyfer y pethau hyn sydd ar fin digwydd iddynt. Ac nid yn unig wrth baratoi merched ar gyfer yr hyn sydd ar fin digwydd iddynt—i allu esbonio i'r dosbarth cyfan nad ydych yn tynnu coes y plentyn oherwydd y gwelwch dywelion misglwyf neu dampon yn ei bag, oherwydd dyna sut y mae hi yn y byd. Nawr, rwy'n sylweddoli bod gan yr aelod safbwynt pendant, ond mae'n rhaid imi ddweud, diolch byth, ei bod hi yn y lleiafrif yn y Siambr hon, ac yn bwysicach fyth, ei bod hi yn y lleiafrif yn y sgwrs ddinesig ehangach. Croesawyd y cyhoeddiad heddiw gan ein comisiynydd plant, gan ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fe'i croesawyd gan elusennau plant, ac fe'i croesawyd gan Relate, elusen perthnasoedd. Fe'i croesawyd yn gyffredinol, oherwydd mae'r hyn y mae'n nhw'n ei ddeall sy'n rhan hanfodol o ran addysgu'n plant yn ymwneud â mwy na Saesneg neu fathemateg neu'r iaith Gymraeg neu wyddoniaeth yn unig, mae'n ymwneud â dysgu iddynt sut y gallant oroesi a ffynnu mewn byd sy'n prysur yn gyflym.
Os ydych chi'n meddwl y gall plant wneud y mwyaf o'u cwricwlwm ac o'u cyfleoedd dysgu a'u gallu i ddysgu'r pynciau traddodiadol hynny os nad ydyn nhw wedi deall am drais yn y cartref neu os nad ydyn nhw wedi gallu cadw eu hunain yn ddiogel oherwydd y gallan nhw eu hunain fod yn cael eu cam-drin —ni allan nhw ddysgu'r cwricwlwm. Mae hyn yn rhan hanfodol o addysg ein plant, a dywedaf hynny nid yn unig fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ond fel mam hefyd.
Cytunaf yn llwyr â Llyr Gruffydd ac, yn wir, ag Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n canmol y gwaith a wneir gan feithrinfa fy wyres wrth ei pharatoi ar gyfer y genfigen emosiynol a gaiff ei ennyn gan ddyfodiad brawd neu chwaer ifanc. Wyddoch chi, mae hyn yn hanfodol. Os ydym yn dweud na allwn siarad am hyn, rydym yn mynd i greu plant sydd wedi'u niweidio. Ni allwn ni gael plant sy'n cael eu misglwyf heb wybod beth sy'n digwydd iddynt, yn meddwl eu bod nhw mewn rhyw ffordd cael eu clwyfo. Mae hyn yn hollol erchyll. Felly, roeddech chi'n huawdl iawn yn dweud hynny i gyd.
Hoffwn dalu teyrnged i bobl ifanc yn Teilo Sant a fynychodd Just a Ball Game?, a gynhaliwyd gennyf i ar y diwrnod rhyngwladol yn erbyn homoffobia, deuffobia a thrawsffobia, oherwydd dewrder y bobl ifanc hyn, yn siarad mewn cyfarfod cyhoeddus o flaen grŵp o oedolion am eu rhywioldeb, am eu hawl i barch, a'u gallu i wynebu'r gwrywdod ymosodol sydd yn anffodus yn nodwedd amlwg o'r gymdeithas hon sy'n canolbwyntio ar bornograffigi y mae'r rhai yn eu harddegau yn tyfu i fyny ynddi. Os na allwn wynebu'r problemau sydd gennym ni ym Mhrydain, sef fod rhyw i'w weld ym mhobman, yn gwerthu pob math o nwyddau defnyddwyr—. Mae'n rhywbeth nad ydym ni yn y wlad hon wedi cael y sgwrs oedolion amdano fel y maent wedi'i chael yng gwledydd Sgandinafia a Gogledd Ewrop, a dyna pam y mae cyfraddau beichiogrwydd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau yn uwch o lawer yn ein gwlad ni nag sydd ganddynt yn y gwledydd hynny.
Felly, mae llawer iawn o dystiolaeth bod plant yn llai tebygol o gael rhyw yn gynnar po fwyaf o wybodaeth a roddir iddynt yn gynnar am ryw a pherthnasoedd. Ni ellir gorbwysleisio hyn. Mae'r math hwn o ysgelerder moesol mewn rhai pobl yn enbyd. Rwy'n canmol gwaith eich panel o arbenigwyr, sy'n nodi yn hollol amlwg bod plant tair oed yn cyrraedd yr ysgol, a chanddynt eisoes lwyth o feichiau emosiynol. Mae angen rhoi cymorth i ddehongli ffyrdd y byd. Byddant yn dod â'u hamgylchiadau teuluol, amgylchiadau teuluol pobl eraill gyda nhw, ac rydym ni'n cefnogi pob person ifanc i sicrhau eu bod yn parchu eraill ac yn parchu gwahaniaeth.
Diolch yn fawr, Jenny. Mae'r enghraifft a roesoch o blentyn meithrinfa yn dod yn frawd neu chwaer yn enghraifft berffaith o addysg sy'n briodol i'w datblygiad. O'r cam cyntaf un, rydym yn dechrau gwneud cysylltiadau, onid ydym, gyda'n rhieni, gyda'n brodyr a'n chwiorydd, gyda'n cymuned, a dyna'n union beth y mae angen inni fod yn addysgu ein plant ieuengaf amdano. Mae'n ymwneud â sut yr ydych chi'n ymdopi â chenfigen a beth yw eich swyddogaeth o fewn teulu a sut yr ydych chi'n trin eich ffrindiau.
Rwy'n meddwl bod ein Haelod gyferbyn wedi disgyn i'r fagl o weld hyn yn y ffordd y caiff ei ddarparu ar hyn o bryd. Y rheswm pam yr ydym ni wedi llunio'r adroddiad—a'r hyn a ddywed yr adroddiad—yw bod yr addysg hon yn canolbwyntio ar fioleg yn unig, mae'n canolbwyntio ar ryw mewn ffordd fiolegol, nid yw'n siarad am bob un o'r materion hyn sy'n ymwneud â'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn fod dynol a beth y mae'n ei olygu i gael perthynas â llu o bobl, a dyna pam y mae angen inni ddatblygu'r rhaglen yr ydym yn ei datblygu.
Ac rydych chi'n iawn; siaradais â rhai disgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd huawdl iawn ddoe. Nid ydynt yn swil, nid ydynt yn fursennaidd, fel y disgrifiodd rhywun ei hunain. Eu bywyd nhw yw hwn, ac maent yn hyderus iawn ac maen nhw'n hapus iawn yn yr achosion hynny i sôn amdano mewn ffordd ddidaro, nid mewn math o ffordd eistedd yng nghefn y dosbarth yn piffian chwerthin, ond mewn ffordd aeddfed iawn, oherwydd maent wedi cael gwneud hynny yng nghyd-destun eu hysgol. Maen nhw'n cynhyrfu llawer llai am y pethau hyn nag efallai y byddai rhai pobl yma yn y Siambr hon y prynhawn yma.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad pwysig hwn. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, yn ddiweddar mae'r Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg wedi cyhoeddi ein hadroddiad i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac mae nifer o themâu sy'n codi yn ein hymchwiliad eang yn cyd-fynd â chanfyddiadau allweddol y panel o arbenigwyr. Yn gyntaf, bod y dull ysgol gyfan yn hollbwysig wrth atgyfnerthu negeseuon allweddol ynglŷn â lles, gan gynnwys perthnasoedd iach ar draws y cwricwlwm ac mewn gwahanol feysydd yr ysgol a'r gymuned. Yn ail, yr hyn a ddywedodd y panel arbenigol am addysg rhyw a chydberthynas fel maes cwricwlwm nad yw'n cael digon o adnoddau na blaenoriaeth mewn ysgolion, gan arwain at ddarpariaeth anwastad ac anghyfartal. Clywsom negeseuon tebyg ynghylch lles yn fwy cyffredinol, ac mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn a ddarparwyd gan ddiwygiadau Donaldson, i gael hyn yn iawn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Ac yn olaf, clywsom fod hyfforddiant ar gyfer athrawon yn hanfodol os ydych chi'n disgwyl iddynt ddarparu cymorth effeithiol, ac mae rhoi statws cyfartal i les ochr yn ochr â meysydd eraill y cwricwlwm â rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth.
Felly, gan droi at fy nghwestiynau, clywais ar y radio y bore yma y bydd yn dal i fod yn bosibl i rieni ar hyn o bryd i dynnu eu plant o'r gwersi hyn os ydynt yn dymuno, a deallaf fod hynny'n wir yn y tymor byr. Felly, mae'n debyg braidd i gwestiwn Llyr, mewn gwirionedd, a hoffwn ofyn pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i hawliau plant o dan y CCUHP wrth alluogi'r sefyllfa honno i barhau. Hoffwn hefyd pe gallech amlinellu sut y bydd ysgolion arloesol yn cael cefnogaeth i helpu i ddatblygu'r ymagwedd hon at faes iechyd a lles y profiad dysgu, o fewn y cwricwlwm newydd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Mae'r pryder ynghylch statws y pwnc hwn yn y cwricwlwm yn un o'r rhesymau pam yr wyf wedi penderfynu ei wneud yn statudol yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol—i fod yn gallu rhoi'r amlygrwydd hwnnw iddo ac i allu sicrhau'r addysg hon yn y cwricwlwm. Mae'n fater iechyd meddwl. Mae'n gwbl hanfodol inni arfogi ein plant â'r sgaffaldiau a'r cadernid i ymateb i sefyllfaoedd y gallent eu cael eu hunain ynddynt. Merch 13 oed yn derbyn negeseuon testun rhywiol—fe wyddoch, y lluniau neu'r negeseuon hynny sy'n gyson yn dweud, 'Tynna lun ohonot ti dy hun a'i anfon ataf'—dyma realiti bywydau ein plant, ac mae angen inni eu galluogi i allu ymdrin â hynny.
Mae'r ymchwil yn adroddiad ysgolion 2017 Stonewall yn dangos bod pobl ifanc sy'n nodi eu bod yn LGBTQI + yn dal i fod yn fwy tebygol o ddioddef o iechyd meddwl gwael, ac iselder ac i hunan-niweidio. Felly, mae'n hollbwysig inni weithredu ac rydym yn gwneud yn siŵr bod ein cwricwlwm yn y dyfodol yn gynhwysol. Fel arall, rydym ni'n gadael i'r plant hyn ddioddef ar eu pennau eu hunain. Rydym yn gadael i'r plant hyn ddioddef ar eu pennau eu hunain. A dyna pam y byddwn ni'n cymryd y cyfle yn ystod tymor yr hydref i gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyngor ac arweiniad i gefnogi'r newid yn yr enw, ac i gefnogi'r ymagwedd gwbl gynhwysol hon, oherwydd ni allwn aros tan y cwricwlwm newydd.
O ran y cwricwlwm newydd, wrth gwrs, gwneir gwaith ar hyn o bryd â gweithgor penodol yn edrych ar iechyd a lles maes dysgu a phrofiad. Ac os nad yw wedi digwydd eisoes, rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y pwyllgor yn ei gwahodd hi ac, yn wir, holl aelodau'r pwyllgor i gymryd rhan mewn ymweliadau â rhai o'n hysgolion arloesi sy'n gweithio ar bob maes dysgu a phrofiadunigol, er mwyn i'r Aelodau weld drostynt eu hunain sut y mae'r gwaith hwnnw'n edrych ar lawr gwlad, yn hytrach na dim ond clywed amdano gennyf i. Felly, yn amlwg, mae hyn yn rhan bwysig o'r gwaith datblygu maes dysgu a phrofiad iechyd a lles. Ond, yn hollbwysig, mae gennym hefyd ysgolion arloesi sydd yn edrych ar anghenion datblygiad proffesiynol athrawon i allu darparu'r cwricwlwm newydd, a bydd hwn yn rhan o'r gwaith hwnnw, hefyd.
Ar hyn o bryd, nid wyf yn diwygio hawl rhieni i dynnu plant yn ôl o wersi, ond bydd yn rhaid inni edrych ar hynny wrth inni symud ymlaen gyda'r cwricwlwm newydd, oherwydd mae natur y cwricwlwm newydd yn llawer mwy trawsbynciol. Does dim gwersi unigol yn yr un math o ffordd. Ond byddwn yn annog pob rhiant, os oes ganddynt bryderon am y materion hyn, i gael sgwrs â'r ysgol am beth sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol. Ond wrth inni fynd ymlaen ac wrth inni newid a datblygu ein cwricwlwm newydd, bydd yn rhaid inni ystyried y materion hyn yn fanylach ac yn fwy gofalus o ran sut y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol o dan yr amgylchiadau newydd.
Byddwch yn cofio yng Nghyfnod 4 Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, aeth eich cyd-Aelod, Peter Black, a Jocelyn Davies a fi â'r Llywodraeth i'r pen ar addysg ar berthnasoedd iach, ac roedd y sicrwydd a gawsom wedyn yn sicrhau bod, gobeithio—wel, roedden nhw'n cyfrannu at y sefyllfa yr ydym ni ynddi bellach gyda'ch cyhoeddiad heddiw. Roedd rhan o'r dystiolaeth a ddefnyddiodd pob un ohonom ni ar y pryd yn ymwneud â rhaglenni trydydd sector, yn enwedig prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, a oedd yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, yn darparu addysg ar berthnasoedd iach drwy sesiynau i ddisgyblion ysgol. Mynychais un o'r rheini a gwnaed argraff dda iawn arnaf gan yr effaith anhygoel a gafodd o fewn ychydig oriau yn unig ar grŵp o ferched a bechgyn 15 ac 16 mlwydd oed—neu ddynion ifanc a menywod ifanc. Ond sut y byddwch chi'n sicrhau—a gobeithiaf eich bod—bod prosiectau fel hyn yn parhau i gael eu hintegreiddio yn y rhaglen wrth iddi fynd ymlaen ac nad yw hyn ddim ond yn dod yn 'orchwyl' ychwanegol i athrawon neu'n brosiect statudol ychwanegol i'w gynnwys o fewn y ddarpariaeth cwricwlwm ehangach?
Diolch ichi, Mark. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno heddiw, os, yn y weinyddiaeth flaenorol, yr oeddem yn mynd i'r pen, heddiw rydym ni wedi mynd heibio'r pen drwy wneud y cyhoeddiad hwn, a byddwn i'n talu teyrnged i'r rhai mewn Cynulliadau blaenorol wnaeth wthio ar y mater hwn. Mae'n hollbwysig i mi, wrth drafod perthnasoedd a rhywioldeb, bod sut beth yw perthynas iach yn rhan sylfaenol allweddol o hynny, ac mae cyfle drwy ein canllawiau newydd wedi'u diweddaru yn y flwyddyn newydd ac yn ein cwricwlwm newydd i edrych ar drais yn erbyn menywod a thrais ar sail rhywedd arall hefyd. Nawr, gellir gwneud hynny mewn cyfuniad o ffyrdd, boed hynny drwy'r athro dosbarth neu a yw ysgolion yn gofyn i sefydliadau allanol i ddod i gyflwyno rhaglenni unigol pwrpasol. Yn sicr, byddwn i'n dymuno annog y trydydd sector i barhau i drafod gyda ni sut y gallan nhw ein helpu ni i drawsnewid y rhan hon o'n cwricwlwm. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi grant bach o £50,000 i Cymorth i Fenywod Cymru fel y gallan nhw helpu i ddatblygu deunydd y gallwn ni ei gael i mewn i ysgolion i helpu athrawon i ddarparu'r rhan honno o'r cwricwlwm, ond mae'r trydydd sector wedi cael llais pwysig wrth ddatblygu'r adroddiad hwn ac byddaf eisiau parhau i weithio ochr yn ochr â'r trydydd sector fel y gallan nhw gefnogi ein hathrawon a'n haddysgwyr i ddarparu amrywiaeth o raglenni. Yn sicr, mae lle i'r ddau yn y cwricwlwm newydd.
Rwy'n croesawu'r ddogfen hon yn fawr iawn a'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch iawn ei bod wedi dechrau drwy sôn am adran 28, oherwydd gallaf gofio'r baich ofnadwy a roddodd adran 28 ar staff mewn ysgolion. Gallaf eu cofio yn sôn am y peth wrthyf, a gallaf gofio'r rhyddhad enfawr pan gafodd ei diddymu gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Credaf ein bod ni bellach mewn sefyllfa well o lawer, llawer iachach. Rwyf hefyd yn falch iawn bod hyn, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn cyflawni un o addewidion yn y Bil trais yn erbyn menywod i gyflwyno addysg fel rhan o'r rhaglen gyfan.
Felly, rwy'n croesawu hyn yn gryf. Rwy'n falch iawn bod y cynllun yn dechrau yn 5 oed. Rwy'n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sôn am berthnasoedd mor gynnar ag y gallwn, a chredaf fod hyn yn gyffredin iawn mewn gwledydd eraill. Rwy'n cofio edrych ar y rhaglenni ar gyfer addysg berthnasoedd cynnar yng Nghanada, er enghraifft, lle maen nhw'n ei chyflwyno yn gynnar iawn yn yr ysgolion cynradd, ac felly credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn dechrau'n gynnar. Felly, credaf fod hynny'n bwynt da iawn.
Rwy'n bryderus ynghylch y mater a godwyd eisoes am y ffaith y bydd rhieni yn dal i allu tynnu eu plant allan os ydyn nhw'n dymuno, felly rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn edrych ar hyn wrth iddo ddatblygu, oherwydd rwy'n cefnogi'r dull ysgol gyfan yn gryf. Rwy'n gobeithio os gall ysgolion estyn allan at y rhieni sydd â phryderon ac esbonio beth yw natur yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yn yr ysgolion, o ran ymgorffori hyn i gyd yng nghyd-destun perthnasoedd, y bydd yn helpu i annog y rhieni hynny a allai fod yn nerfus o ran yr hyn y maen nhw'n clywed pobl yn ei ddweud, neu sydd â rhyw fath o bryderon gwirioneddol am y peth. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig i estyn allan ac egluro i rieni, felly hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd imi y byddwch yn annog ysgolion i wneud hynny.
Credaf fod hyn yn annog natur agored ac yn gam mawr ymlaen, felly rwyf yn ei gefnogi'n llwyr, ac rwy'n siŵr y bydd mewn gwirionedd yn newid holl ethos y ffordd y mae ysgolion yn gweithredu.
Diolch yn fawr iawn, Julie. Rwy'n credu bod nifer o bobl yn y Siambr hon sydd wedi bod â rhan mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ag adran 28—rhai pobl yn ymdrechu'n daer i'w gwrthwynebu, ac, yn anffodus, rwy'n deall bod un Aelod yma—wel, nid yma yn y Siambr ar hyn o bryd—a bleidleisiodd drosto, mewn gwirionedd, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu symud mor bell.
Julie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Yr hyn sy'n amlwg iawn yn adroddiad y grŵp arbenigol yw mai'r modd gorau o ddatblygu'r maes hwn yw drwy fynd ati fel ysgol gyfan, ac mae hynny'n golygu ysgolion yn gweithio gyda rhieni a'r gymuned ehangach ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn eu hysgol. Efallai bod yna rieni sydd â phryderon dilys, efallai bod yna rieni sydd wedi gwrando ar rai o'r ffug-wirioneddau ac nad ydyn nhw'n deall yn iawn beth y gallai hyn ei olygu, ond fel gyda llawer o agweddau ar addysg, gwyddom fod ein plant yn gwneud orau pan fydd ysgolion yn ymgysylltu'n gadarnhaol â rhieni. Ar ôl ansawdd yr addysgu, dylanwad rhieni ac ymgysylltiad rhieni ag addysg yw'r ffactor mwyaf sy'n dylanwadu ar ganlyniadau addysgol. Po fwyaf y gallwn ni ei wneud i gael ysgolion i weithio gyda rhieni ar agwedd hon, ar yr holl agweddau, yna mae hynny'n arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer eu plant. A dydw i ddim wedi cyfarfod â rhiant eto nad yw eisiau canlyniadau gwell ar gyfer ei blant.
Rydw innau hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad yma heddiw. Mae creu ffordd newydd o gyflwyno addysg rhyw, rhywioldeb a sut rydym ni’n perthnasu efo’n gilydd yn gam pwysig cadarnhaol ymlaen, ac rydw i’n eich llongyfarch chi’n bersonol am yrru hwn ymlaen yn egnïol.
Rydw i’n cytuno’n llwyr efo chi fod angen rhoi pwyslais ar berthnasoedd iach yn ogystal ag ar agweddau eraill, ac rydw i’n cytuno hefyd fod plant pump oed yn agored iawn i addysg rhyw, rhywioldeb a pherthnasoedd iach. Fel mam i bedwar o blant, rydw i’n cofio’n glir iawn y cwestiynau di-ri roeddwn i'n arfer eu cael pan oedd y plant yn fychan iawn, iawn: cwestiynau di-ri ond cwestiynau syml iawn—mater o ffaith oedden nhw gan y plant acw. Ni, yr oedolion, sydd wedi creu’r cymhlethdod a’r dirgelwch o gwmpas rhyw, ac mae’n hen bryd inni symud ymlaen o’r fanno. Mae cael rhieni ac athrawon yn cyflwyno’r un negeseuon pwrpasol a phositif ar y cyd yn bwysig iawn.
Mae beth rydym yn ei wneud yma heddiw, i mi, yn un o fendithion mawr datganoli. Beth rydym ni'n ei wneud yn fan hyn ydy caniatáu i ni ein hunain lunio ein polisïau blaengar ein hunain wrth dorri cwys ein hunain. Hynny yw, rydym ni wedi adnabod problem ac wedi mynd ati i ffeindio ffordd unigryw Gymreig o ddatrys y broblem honno, heb ddisgwyl i San Steffan weithredu ar ein rhan ni.
Wedi dweud hynny, mae’n ddrwg gen i droi dipyn bach yn negyddol, ond rydw i jest yn gresynu ei bod hi wedi cymryd mor hir inni gyrraedd lle rydym ni heddiw. Fel soniodd Mark Isherwood, yn ystod y trafodaethau ynghylch y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a chyn hynny, fe geisiodd Plaid Cymru sicrhau bod addysg ar ryw a rhywioldeb a pherthynas iach yn cael ei chynnwys yn y Ddeddf ei hun, ac mae hi wedi cymryd tan rŵan i’r Llywodraeth gydnabod pwysigrwydd hyn, ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae yna genhedlaeth o blant wedi colli addysg bwysig iawn. Rydw i'n cydnabod eich ymrwymiad personol chi i'r maes yma, felly a fedrwch chi egluro'r prif rwystrau rydych chi wedi eu hwynebu wrth geisio symud y polisi yma ymlaen, ac a oes yna wersi i'w dysgu er mwyn cyflymu'r broses o gyflwyno polisïau arloesol i'r dyfodol ym maes addysg a meysydd eraill?
Mi fydd y polisi newydd yn rhoi ffocws ar gael gwared ar agweddau dinistriol, gan gynnwys agweddau yn ymwneud â stereoteipio rhywedd, sy'n milwrio yn erbyn datblygiad unigolion i'w llawn potensial. Mae'r Prif Weinidog ishio i'w etifeddiaeth o i fod yn un ffeministaidd. Mae ganddo fo addewid i wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fenyw yn Ewrop ac i drawsnewid Llywodraeth Cymru i fod yn Llywodraeth ffeministaidd. Mae hyn yn dilyn cyfnod o sylw cynyddol ar gydraddoldeb rhywedd, ac, wrth gwrs, mae'r adolygiad rhywedd yn digwydd ar draws Llywodraeth Cymru—
Rydym ni angen cwestiynau erbyn hyn, Siân Gwenllian.
Iawn. Jest un frawddeg ar hynny: rhaid i'r rheini beidio â bod yn eiriau gwag—mi ydym ni angen cynllun gweithredu manwl ar yr holl agweddau hynny. Felly, y cwestiwn ydy: pa wahaniaeth ydych chi'n disgwyl ei weld yn sgil cyflwyno addysg ryw ar ei newydd wedd?
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau? Hoffwn ei gwneud hi'n glir nad ydym ni mewn sefyllfa lle nad oes dim yn digwydd yn ein hysgolion. Mae rhai arferion da iawn yn ein hysgolion, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad. Yr her, fel bob amser, mewn addysg Gymraeg—fel yr wyf wedi darganfod dros y ddwy flynedd diwethaf—yw sut ydych chi'n gwneud hynny'n gyson ym mhob un o'n hysgolion. Felly, dydw i ddim eisiau i bobl feddwl nad oes dim o hyn yn digwydd ar hyn o bryd. Rwy'n gweld arferion da iawn pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion. Yr hyn yr wyf i eisiau ei weld o ganlyniad i'r newidiadau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw, yw bod yna gysondeb rhwng lleoliadau, a phwyslais cryf iawn a phwysigrwydd yn cael eu rhoi i'r pwnc hwn, drwy ei wneud yn statudol yn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol, nad oedd yn rhan o'r cynllun gwreiddiol ddwy flynedd yn ôl.
Os caf i, Llywydd, soniodd Siân Gwenllian am fater pwysig iawn nad yw neb arall wedi sôn amdano heddiw, sef y mater ynghylch stereoteipio ar sail rhyw a pha mor ddinistriol y gall hynny fod a'r goblygiadau y gall hynny ei gael i blant weddill eu hoes. Os wnewch chi chwilio yn Google am fanwerthwr teganau adnabyddus ar eich cyfrifiaduron heddiw, fe allwch chi mewn gwirionedd glicio ar ddewis oedran a dewis rhyw. Dewis rhyw—a oes y fath beth â thegan ar gyfer rhyw penodol? Yn ôl y manwerthwr adnabyddus hwn, oes, fe allwch chi ddewis rhyw. Os cliciwch chi ar yr adran 'gwisg ffansi' generig, dyfalwch beth y mae'r merched yn ei wisgo? O, ie, maen nhw i gyd yn dylwyth teg ac yn dywysogesau, ac mae'r bechgyn yn archarwyr, heddweision ac ymladdwyr tân. Os edrychwch chi ar y darlun ar gyfer offer adeiladu, dyfalwch beth welwch chi: bechgyn gyda morthwylion a Lego. Mawredd mawr, byddwn i wedi gobeithio y byddem ni wedi symud ymlaen o hynny erbyn hyn. Felly, mewn gwirionedd, mae gallu dweud wrth ein plant yn ein hysgolion, 'Gallwch chi fod yn beth bynnag yr ydych chi eisiau bod' a 'Does dim rhaid i chi chwarae â math penodol o degan'—dyma'r rhesymau pam mae angen inni wneud y newidiadau yr ydym ni'n eu gwneud heddiw. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Plaid Cymru i wneud hynny.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw ar fater mor bwysig, ac i'r holl unigolion hynny sydd wedi bod yn rhan o gyflawni'r adroddiad hwn. Bydd rhai ohonoch chi'n gwybod fy mod i eisoes yn mynd i ysgolion ac yn gofyn iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymgyrch Rhuban Gwyn, ac mae llawer o ysgolion wedi gwneud hynny. Mae'r ymgyrch yn sôn am roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Rwyf wedi gofyn i ysgolion feddwl, drwy eu disgyblion, beth yw ystyr hynny iddyn nhw. Dro ar ôl tro, maen nhw wedi nodi un gair pan ydym ni'n sôn am berthynas ag eraill, sef 'parch'. Dyna beth mae'r plant yn ei ddweud. Nid fy nylanwad i yw hynny, nid dylanwad unrhyw oedolion yw hynny, y plant eu hunain sy'n dweud hynny. Y llynedd, roedd gan Ysgol Ardudwy yn Harlech faner gwych yr oedden nhw wedi ei chynhyrchu â'r geiriau 'parch' neu 'respect' wedi'u hysgrifennu arni.
Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano heddiw yn y fan yma yw ceisio ennyn parch at ein gilydd o ran gwahaniaeth, beth bynnag yw'r gwahaniaeth hwnnw, doed a ddêl. Mae rhai o'r pethau yr wyf i wedi eu clywed yma heddiw wedi fy atgoffa i o tua 30 mlynedd yn ôl ac adran 28. Dydyn nhw heb fynd mor bell â hynny hyd yn hyn, ond maen nhw wedi cynnwys y math hwnnw o iaith. Felly, hoffwn eich llongyfarch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ein symud yn ein blaenau, nid mynd â ni ar yn ôl, a sicrhau bod parch wrth wraidd addysg rhyw a pherthnasoedd. Fy nghwestiwn i chi yn y fan yma yw: rwy'n sylwi eich bod chi wedi dweud y byddwch chi'n rhoi rhywfaint o arian a fydd yn cael ei drosglwyddo i Cymorth i Fenywod Cymru—£50,000—ac y byddan nhw wedyn yn eu tro yn cynhyrchu deunyddiau sy'n addas i blant ifanc yn ôl eu hoedran. Pa mor fuan y gallwn ni weld rhywfaint o hynny'n digwydd? Rwy'n gwybod bod pethau eisoes yn digwydd, ond pa mor fuan—oherwydd mae'r rhain yn gwestiynau y bydd pobl yn eu gofyn imi—y bydd y sefydliad hwnnw yn gallu defnyddio'r cronfeydd hynny?
Diolch ichi, Joyce. Dydw i ddim yn disgwyl unrhyw oedi pellach o ran rhyddhau'r adnoddau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw heddiw. Credaf eich bod chi'n iawn—mae'r cysyniad o barch yn un a fydd yn sail i lawer o ddarpariaeth y cwricwlwm hwn. Fe wnaethoch chi bwynt pwysig iawn hefyd: os bydd unrhyw un ohonom ni'n cymryd amser i wrando ar blant a phobl ifanc, byddan nhw'n dweud wrthych chi nad yw'r hyn yr ydym ni'n ei ddarparu ar eu cyfer ar hyn o bryd yn ddigon da, a'u bod eisiau gwell darpariaeth. Os ydym ni'n Senedd ac yn Llywodraeth sydd wirioneddol yn gwrando ar lais y disgybl, yna mae angen inni weithredu, a dyna un o'r rhesymau pam yr wyf i'n gwneud hyn heddiw.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.