1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol? OAQ52266
Rydym ni'n cynorthwyo gwasanaethau llywodraeth leol trwy gymysgedd o gyllid refeniw craidd, cyllid cyfalaf a grantiau penodol fel y bo'n briodol. Ein strategaeth o hyd yw diogelu Llywodraeth Leol rhag effeithiau cyni cyllidol yn unol â'r adnoddau sydd ar gael i ni fel Llywodraeth.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n credu yn y cyfnod hwn o gyni cyllidol y Torïaid, bod y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, ar gyfer y cylch cyllideb 2018-19 cyfredol, bod llai o'r arian hwn wedi ei neilltuo neu ei glustnodi, gan roi mwy o hyblygrwydd a disgresiwn dros flaenoriaethau gwariant awdurdodau lleol.
O'm cwestiynau diweddar i'r Ysgrifennydd dros Addysg, byddwch yn ymwybodol, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, bod hyn yn golygu bod cyllid ysgolion yn cael ei dorri a bod clybiau brecwast o dan fygythiad, sy'n mynd yn groes i ymgynghoriad cyllideb y cyngor ei hun pryd y dywedodd y cyhoedd mai ysgolion ac addysg oedd eu prif flaenoriaeth ar gyfer y fwrdeistref. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i hyn godi cwestiynau ynghylch pa un a all Llywodraeth Cymru gymryd y risg o dynnu cyllid wedi ei glustnodi o unrhyw feysydd blaenoriaeth eraill, fel Cefnogi Pobl, er enghraifft, os yw rhai awdurdodau lleol yn mynd i ddewis torri yn eich meysydd blaenoriaeth a bennwyd?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg. Ein nod, wrth gwrs, yw rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau lleol ac maen nhw'n atebol i'w hetholwyr am y penderfyniadau a wnânt. Byddwn wedi gobeithio y byddai unrhyw awdurdod lleol yn gweld addysg fel blaenoriaeth gref iawn. Rwy'n synnu o glywed yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am ei hawdurdod lleol ei hun, ac mae'n wir bod angen i awdurdodau lleol ddangos, wrth iddyn nhw gael mwy o hyblygrwydd, eu bod nhw'n parhau i flaenoriaethu gwariant yn y meysydd hynny lle mae angen arian fwyaf. Ac mae addysg yn un o'r meysydd hynny.
Cydnabuwyd yn uniongyrchol yn y Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol' bod angen, Prif Weinidog, adolygiad mwy sylfaenol o gyllid llywodraeth leol. Mae'r Papur Gwyrdd cyfredol hefyd yn nodi bod awdurdodau lleol wedi tynnu sylw at nifer o ychwanegiadau o ran chyllid. Gan ymateb i'r Papur Gwyrdd, dywed CLlLC y bydd yn parhau i ddadlau'r achos dros gyllid priodol i awdurdodau, ac mae nifer o'n hawdurdodau lleol yn dal i fod yn ymrwymedig nawr i alw am gyllidebau ariannol tymor hwy priodol a theg. Mae Bro Morgannwg yn nodi bod achos da dros newidiadau i'r fformiwla, ac felly hefyd llawer o awdurdodau lleol eraill. Pan fydd rhywun yn ystyried yr ohebiaeth y mae eich Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei derbyn, ond y mae'n ei hanwybyddu—. Nid yw'n gwrando nawr; mae'n well ganddo anwybyddu'r cwestiwn yn llwyr, ac ef yw Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol. Felly, yn ogystal ag anwybyddu'r galwadau hynny ac anwybyddu'r cwestiwn hwn heddiw—. A wnewch chi gysylltu â'ch Ysgrifennydd y Cabinet a siarad ag ef, os gwelwch yn dda, i sicrhau bod model a fformiwla gyllido mwy cynaliadwy yn cael eu sefydlu, yn y dyfodol? Dyna'r lleiaf un y mae ein hawdurdodau lleol yn ei haeddu.
Wel, rwy'n credu bod angen i Fro Morgannwg esbonio pam maen nhw'n gwario llai ar addysg nag unman arall yng Nghymru, fesul pen. Mae hynny o dan ei phlaid hi, ac mae hynny'n rhywbeth y bydd angen iddyn nhw ei esbonio i'w hetholwyr. Felly, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthi yw hyn: ein bod ni'n ariannu awdurdodau lleol ar lefel uwch o lawer na fyddai'n wir pe bydden nhw yn Lloegr, rydym ni wedi ceisio eu diogelu cymaint ag y gallwn, ond mae'n anochel y bydd anawsterau a gwasgfa ar awdurdodau lleol, gan ein bod ni ein hunain yn cael ein gwasgu. A gaf i awgrymu ei bod hi'n codi'r mater gyda'i phlaid yn Llundain, sy'n parhau i orfodi gwasgfa, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ar Lywodraeth Cymru, ar gyllideb Cymru, gan daflu £1 biliwn tuag at Ogledd Iwerddon ar yr un pryd i brynu llond llaw o bleidleisiau? Dyna pa mor isel y mae Llywodraeth bresennol y DU wedi gostwng—dim strategaeth, popeth yn ymwneud â phrynu pleidleisiau.
Un o brif ddadleuon eich Llywodraeth chi dros yr angen i ddiwygio llywodraeth leol yn y ffordd a gynigir yn y Papur Gwyrdd ydy'r angen i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y cynghorau i'r dyfodol. Mae arweinwyr cynghorau ledled Cymru o bob lliw gwleidyddol yn cwestiynu'n gryf a fyddai uno'r cynghorau yn arbed arian. Felly, ar sail hynny, pa asesiad ariannol mae'r Llywodraeth wedi ei gwblhau er mwyn cefnogi bwriadau'r Papur Gwyrdd? Faint yn union ydych chi'n gobeithio ei arbed a dros ba gyfnod o amser? Beth fydd cost gychwynnol gweithredu'r ailstrwythuro yma?
Wel, mae yna gost os nad ydym ni'n edrych ar unrhyw fath o newid yn y system o lywodraeth leol. Ar un adeg, roedd chwe awdurdod lleol o fewn mesurau arbennig ynglŷn ag addysg. Roedd Ynys Môn wedi cael ei gymryd drosodd yn gyfan gwbl. Nawr, nid yw hynny'n dangos i fi fod pethau ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Mae'n rhaid inni sicrhau o leiaf fod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd ranbarthol. Nid yw'n ddigon da i awdurdod lleol i ddweud, 'Wel, nid ydym ni'n mynd i weithio gyda'r rheini sydd drws nesaf i ni.' Rydym ni wedi gweld, wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr sydd wedi cael ei wneud yn addysg gyda'r consortia, ac nid oes un awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn iawn dros y bobl sydd yn byw tu fewn i'w ffiniau os nad ydyn nhw'n gweithio gydag awdurdodau eraill. So, mae arian yn bwysig—rydym ni i gyd yn deall hynny—ond mae'r modd mae pobl yn gweithio yn bwysig hefyd.