1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 12 Mehefin 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. A all y Prif Weinidog gadarnhau pa un a yw'r Blaid Lafur yn cefnogi ein haelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ai peidio?
Mae'n un dewis y mae angen i ni ei ystyried ac mae hynny'n rhywbeth, fel Llywodraeth, yr ydym ni wedi ei wneud. Dyna pam yr es i i Norwy, mewn gwirionedd, i weld sut yr oedd y sefyllfa yn gweithio yn Norwy. Model diddorol—nid un sy'n addas i Gymru yn union, ond, serch hynny, os gall Norwy weithio yn unol â model o'r fath ni welaf unrhyw reswm pam na all y DU lunio ei model ei hun.
Mae ein hamser yn dirwyn i ben, Prif Weinidog, ac rydych chi wedi disgrifio safbwynt Llafur fel hyblyg. Nawr, nid oes dim yn hyblyg am £5 biliwn yn diflannu o economi Cymru; nid oes dim yn hyblyg am swyddi a chyflogau Cymru yn diflannu a byth yn dychwelyd; nid oes dim yn hyblyg am rolio'r dis ar ein marchnad ryngwladol fwyaf ar gyfer amaethyddiaeth, dur a dros 60 y cant o holl allforion Cymru. Mae hyd yn oed y Papur Gwyn ar y cyd, 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn nodi mai'r dewis lleiaf niweidiol i Gymru yw y tu mewn i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Cyd-luniwyd yr adroddiad hwnnw gennym ar sail dealltwriaeth eich bod chi eisiau sefyll gyda ni yn erbyn Brexit Torïaidd eithafol. Pam ydych chi'n cefnu ar eich dadansoddiad eich hun? Ac a ydych chi'n credu bod eich arweinydd yn San Steffan yn iawn i glirio'r llwybr i'r Torïaid ein tynnu ni allan o'r farchnad sengl?
Prif Weinidog Cymru ydw i; nid wyf i'n gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw hyn: nid yw ein safbwynt wedi newid. Mae aelodaeth o'r AEE yn ddewis pwysig y mae angen ei gadw'n agored. Yr hyn na ddylai'n bendant fod yn destun trafodaeth yn fy marn i—a gwn y bydd hi'n cytuno â hyn—yw bod angen i ni aros o fewn yr undeb tollau, ac, yn ail, wrth gwrs, cael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Nid yw'r sefyllfa wedi newid o'r adeg pan luniwyd y ddogfen honno gan y ddau ohonom ni.
Chi yw Prif Weinidog Cymru, rydych chi hefyd yn aelod o'r Blaid Lafur, a byddwn yn tybio y dylai fod gennych chi rywfaint o ddylanwad. Nawr, bydd ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yfory i achub swyddi a'n heconomi trwy aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Yn wahanol i Lafur, byddwn yn gwrthwynebu'r Torïaid ac yn gwneud ein gorau glas i atal Brexit Torïaidd eithafol a fydd mor drychinebus i Gymru. Os gwnewch chi adael i'ch plaid ein llusgo ni allan o'r farchnad sengl, byddwch yn anwybyddu eich Papur Gwyn eich hun, eich arbenigwyr eich hun, eich dadansoddiad eich hun. A dweud y gwir, byddwch yn anwybyddu aelodau o'ch Cabinet eich hun. Fe'i mynegwyd yn berffaith gan yr AS Llafur dros Bontypridd a'ch Ysgrifennydd Cabinet eich hun dros lywodraeth leol pan ddywedasant bod Llafur wedi creu 'gôl agored' i'r Torïaid, a bydd Cymru'n cael ei niweidio o ganlyniad. Felly, beth fydd hi, Prif Weinidog? A wnewch chi gefnogi sylwadau'r AS dros Bontypridd a'ch Ysgrifennydd Cabinet, neu a wnewch chi barhau i gyd-fynd â neges Llafur Llundain, gan roi buddiannau eich plaid eich hun o flaen buddiannau eich gwlad eich hun?
Mae'n sylw rhyfeddol, oherwydd, er mwyn darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi hynna, byddai'n rhaid iddi ddangos, rywsut, fy mod i wedi gwrthwynebu aelodaeth o'r AEE—nid wyf wedi gwneud hynny, na'r Llywodraeth ychwaith—yn ail, fy mod i, rywsut, yn gwrthwynebu aros yn yr undeb tollau, pan, mewn gwirionedd, fy mod i'n un o'i gefnogwyr mwyaf brwd, gan fy mod i'n gwybod yn iawn beth fyddai'n digwydd yn Iwerddon pe byddai hynny'n digwydd; yn drydydd, fel y bydd hi'n gwybod, rwyf i wedi dadlau erioed, fel y mae hithau, dros fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Nid yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid, a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos i'r rhai hynny mewn mannau eraill yn y DU sy'n aelodau o'n plaid. Ond rydym ni mewn Llywodraeth yng Nghymru. Mae ein safbwynt yn eglur, nid yw'r sefyllfa wedi newid o'r adeg yr ysgrifennwyd y Papur Gwyn gennym, ac rwy'n ei gwneud yn gwbl eglur: mae dyfodol Cymru yn perthyn yn y DU, nad yw hi'n ei gredu; yn ail, yn yr undeb tollau, yn fy marn i, yn y farchnad sengl hefyd, gan fod hynny'n golygu mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl—nid yn yr UE, oherwydd bod pobl wedi pleidleisio i hynny beidio â digwydd, ond nid yw'n golygu bod angen i ni gael Brexit anhrefnus yn seiliedig ar genedlaetholdeb chwifio'r faner, sef yr hyn y mae rhai yn y Blaid Geidwadol o'i blaid, yn hytrach na Brexit synhwyrol ac ymarferol sy'n gweithio i Gymru. Dyna'r hyn yr ydym ni ei eisiau, ac rwy'n gobeithio mai dyna mae hithau ei eisiau.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth Prif Weithredwr cwmni awyrennau Qatar sylwadau annefnyddiol a dilornus iawn ynghylch pa un a fyddai menyw yn gallu cyflawni ei swydd. Rydych chi fel Prif Weinidog wedi nodi'n briodol eich bod chi fel Llywodraeth, a phawb yn y Siambr hon rwy'n siŵr, eisiau i Gymru fod y wlad fwyaf ystyriol o fenywod a chaniatáu llwybrau at bob cyfle yng Nghymru, ni waeth pa ryw ydych chi. Pa sylwadau wnaethoch chi i brif weithredwr cwmni awyrennau Qatar am y sylwadau hyn, o gofio eu bod nhw'n bartner strategol i chi ac, nid yn unig hynny, rydych chi wedi rhoi llawer o arian cyhoeddus ar gael i'r cwmni awyrennau hwnnw i ddatblygu'r llwybrau i mewn i Faes Awyr Caerdydd?
Wel, yn amlwg, nid wyf i'n cytuno â'i eiriau. Prif weithredwr cwmni awyrennau yw ef, nid pennaeth Llywodraeth. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos, yn y DU a thu hwnt, i sicrhau bod cydraddoldeb yn dod yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio mewn cymdeithasau ledled y byd.
Yn anffodus, o'r ateb yna, Prif Weinidog, rydych chi'n rhoi awgrym na wnaethoch chi unrhyw sylwadau o gwbl i'r prif weithredwr na'r cwmni awyrennau am y sylwadau hyn. Pe byddai'n fusnes bach yng Nghymru, neu'n fusnes canolig yng Nghymru, rwy'n siŵr, o ystyried y contract cymdeithasol yr ydych chi wedi ei ddatblygu, y byddech chi, yn amlwg, yn dangos eich atgasedd at y sylwadau a wnaed ac yn tynnu'r cymorth hwnnw yn ôl oddi wrth y busnes bach neu ganolig ei faint hwnnw. Arwydd arall o'r safonau dwbl yma yng Nghymru yw'r adroddiad heddiw ar Pinewood a'r arian a roddwyd ar gael gan Lywodraeth Cymru i Pinewood i ddatblygu cyfleuster yn Llaneirwg. Soniasoch ar y pryd, yn 2014, bod potensial i £90 miliwn ddod i mewn i economi Cymru; roedd potensial i 2,000 o swyddi gael eu creu gan y datblygiad hwn. Rydym ni'n gwybod bod oddeutu 50 o swyddi wedi eu creu ac, ar hyn o bryd, mae colled ar bapur o £9 miliwn, yn ôl ffigurau'r Archwilydd Cyffredinol. Beth sydd wedi mynd o'i le, Prif Weinidog?
Yn gyntaf oll, mae ychydig dros £4 miliwn wedi ei adennill, ond mae llawer o brosiectau yn dal ar y gweill. Ni fyddech chi'n disgwyl i'r cwbl gael ei adennill ar un tro. Mae'r rhain yn brosiectau tymor hir, a chaiff yr arian ei adennill dros gyfnod hwy. Rwy'n meddwl tybed—mae gen i rai sylwadau o fy mlaen i yn y fan yma, yr wyf i'n meddwl tybed a yw ef yn cytuno â nhw:
Mae ychwanegu cwmni cynhyrchu byd enwog Pinewood at ddiwydiant cynhyrchu ffilmiau Cymru sydd eisoes yn gyfoethog i'w groesawu'n fawr.
Mae nifer cynyddol o ffilmiau mawr yn cael eu saethu mewn lleoliadau ledled Cymru a bydd canolfan newydd Pinewood yn cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i weld Cymru ar ffilm, y gallai'r holl wlad elwa arno...
Mae'r cyhoeddiad hwn sydd i'w groesawu'n fawr yn dystiolaeth bellach o enw da cynyddol Cymru, fel lleoliad delfrydol ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau, gyda'r gymysgedd gywir o sgiliau cywir i ddenu mynychwyr sinema'r dyfodol a'r rhai sy'n frwd am ffilmiau.
Rwy'n cytuno â'r sylwadau hynny. Daethant o'i blaid ei hun—Suzy Davies.
Gwnaed y sylwadau yng ngoleuni eich haeriad y gallai'r buddsoddiad hwn ddod â 2,000 o swyddi, ac rydym ni'n gwybod mai dim ond 50 ohonyn nhw sydd wedi eu darparu, a £90 miliwn i mewn i economi Cymru o bosibl. Pwy na fyddai'n croesawu cynnig o'r fath? Ond yr hyn yr ydym ni wedi ei weld o'ch rheolaeth chi a rheolaeth eich Llywodraeth o'r cais penodol hwn yw eich bod chi wedi methu â bodloni unrhyw un o'r targedau hynny a bennwyd gennych chi yn 2014. Ond y pwynt a nodais gyda Qatar Airways, lle nad ydych chi wedi dweud dim, y pwynt a nodais gyda Pinewood, cwmni rhyngwladol mawr arall, yw os ydych chi'n fusnes bach yng Nghymru ac yn edrych ar y cwmnïau mawr hyn yn cael yr arian ac yna eich bod chi'n cael eich gwahardd rhag cael mynediad at gymorth Llywodraeth Cymru gan eich bod chi wedi gwneud sylwadau mor annymunol, yn achos Qatar, neu goramcangyfrif Pinewood o'r enillion i economi Cymru, byddwch chi'n crafu eich pen heddiw ac yn gofyn, 'Beth yw pwrpas Llywodraeth Cymru?' Onid yw'n wir, Prif Weinidog, yn ystod eich holl amser fel Prif Weinidog, eich bod chi wedi addo llawer ond mai ychydig iawn yr ydych chi wedi'i gyflawni?
Mae diweithdra yn 4.4 y cant, sy'n lefel hanesyddol isel. Gwrthgyferbynnwch hynny â blynyddoedd y Torïaid, pan roedd mewn ffigurau dwbl yn barhaus. Mae'r dinistr a achoswyd ganddyn nhw yno i bawb ei weld. Rydym ni'n gweld diffyg uchelgais llwyr gan feinciau'r Ceidwadwyr. Maen nhw'n amddifad o syniadau, dim uchelgais i'n gwlad, dim diddordeb mewn prosiectau buddsoddi. Nawr, mae'n ymddangos ei fod yn dweud y dylem ni dynnu cymorth i Qatar Airways yn ôl a gadael i hynny fynd. Oherwydd roedden nhw eisiau cau'r maes awyr beth bynnag, gadewch i ni fod yn onest. Nid oedd ots ganddyn nhw pa un a oedd y maes awyr yn cau ai peidio, cyn ymuno yn y balchder pan ddechreuodd y maes awyr fod yn llwyddiannus.
Mae e'n ein cyhuddo ni o gamreoli. Edrychwch ar y ffordd yr ydych chi wedi ymdrin â'r rheilffyrdd. Edrychwch ar y llanastr yr ydych chi wedi ei wneud o'r rheilffyrdd. Mae'n warth yr hyn y mae'r Torïaid wedi ei wneud i'r rheilffyrdd a'r arian sydd wedi ei daflu i ffwrdd—biliynau o bunnoedd dros y blynyddoedd—ar wasanaeth sy'n annigonol. Gwrthgyferbynnwch hynny â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth, gan ddarparu'r gwasanaeth rheilffyrdd gorau erioed i bobl Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Edrychwch ar gyflogaeth, edrychwch ar ffigurau diweithdra a pha mor isel ydyn nhw, edrychwch ar y ffaith ein bod ni wedi cael y ffigurau gorau ers 30 mlynedd o fuddsoddiad uniongyrchol o dramor, edrychwch ar y ffaith ein bod ni wedi prynu maes awyr yn 2013, a wrthwynebwyd ganddo ef. Roedden nhw eisiau i ni beidio â phrynu'r maes awyr, roedden nhw eisiau gadael iddo gau, ac mae wedi cynyddu 50 y cant o ran nifer y teithwyr erbyn hyn. Mae gennym ni gysylltiadau rhyng-gyfandirol, ac mae e'n ein cyhuddo ni o beidio â gwneud digon dros Gymru. Edrychwch yn ofalus iawn ar eich hunain a'r dinistr yr ydych chi wedi ei achosi fel plaid.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roedd rhai sylwadau yn y cyfryngau ynghylch carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru. Fel rheol, ni fyddwn yn codi hwn fel mater gan nad yw'r mater o garchardai wedi ei ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, honnir bod y sylwadau hyn wedi dod gan aelod o'ch Llywodraeth. Credir bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dweud na ddylai carchar y Parc, yn ein rhanbarth a'n hetholaeth ni, gael ei ddefnyddio ar gyfer carcharorion o Loegr. Prif Weinidog, a allwch chi egluro safbwynt eich Llywodraeth ar y mater hwn ac a ydych chi'n credu y dylai carchardai yng Nghymru fod ar gyfer carcharorion o Gymru yn unig?
Yn gyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eglur na wnaeth ddefnyddio'r geiriau hynny. Yn ail, rydym ni'n gwybod ei bod yn amlwg na all fod yn wir mai dim ond carcharorion o Gymru gaiff fod mewn carchardai yng Nghymru. Mae rhai carchardai nad ydynt yn bodoli yng Nghymru y mae angen iddyn nhw ddarparu lle i garcharorion o Gymru—carchardai categori A, er enghraifft—ac nid oes gennym ni garchar i fenywod ychwaith. Felly, ni allem ni greu rhyw fath o system garchardai hunangynhaliol o dan yr amgylchiadau presennol, gan y byddai hynny'n effeithio arnom ni yn fwy na neb.
Diolch am egluro hynny, Prif Weinidog. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn briodol, nid oes gennym ni garchar i fenywod yng Nghymru a dim un carchar categori A. A dweud y gwir, mae'r carchardai yng Nghymru wedi eu gorlenwi'n ddifrifol. Mae gan Gymru 4,747 o garcharorion a chapasiti gweithredol o ddim ond 3,700 ar draws y pum carchar. Felly, mae nifer fawr o garcharorion o Gymru wedi eu carcharu mewn carchardai gannoedd o filltiroedd o'u cartrefi. Credir fod hyn yn ffactor sylweddol o ran hunan-niwed a hunanladdiad. Yng nghyflwyniad eich Llywodraeth i'r comisiwn ar gyfiawnder, mae'n ymddangos eich bod chi'n dadlau'r achos dros ddatganoli carchardai. A yw hyn yn wir? Os felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu carchardai newydd yng Nghymru i leddfu gorlenwi a'r broblem ddiogelwch o ran staff, yr hunan-niweidio ymhlith carcharorion, a darparu lle i garcharorion yn nes at eu cartrefi o ran adsefydlu?
Rydym ni yn credu y dylid ystyried datganoli carchardai, ynghyd â gweddill y system cyfiawnder troseddol. Byddai'n cymryd cryn amser, oherwydd yn amlwg bu gennym ni system integredig â Lloegr ers amser maith. Ond nid yw'n ddigon i ni ddweud, 'Byddwn ni'n cymryd rheolaeth dros garchardai' a pharhau gyda'r un polisi ag o'r blaen. Mae cyfle nawr i ni edrych ar system newydd o bolisi cosbi er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni bolisi sydd wedi'i deilwra i anghenion Cymru. Mae hynny, yn fy marn i, yn cynnwys edrych ar wahanol fathau o garchardai, eu maint, eu llwyddiant o ran diwygio carcharorion, ac mae hynny y gyd yn rhan bwysig o'r ystyriaeth o bolisi cosbi i Gymru, pe byddai carchardai yn cael eu datganoli.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno, er budd diogelwch staff a charcharorion o ran hunan-niweidio, bod angen gwneud rhywbeth ynghylch nifer y staff hefyd—i'r nifer staff gael ei gynyddu er mwyn darparu amgylchedd diogel ac er mwyn helpu gydag adsefydlu ac i atal aildroseddu. Felly, ni waeth pwy sy'n gyfrifol am garchardai, mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae o ran adsefydlu, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, ac ymdrech trwy ddarparu gwasanaethau iechyd, addysg, tai a materion cyflogaeth.
Felly, Prif Weinidog, rwyf i eto i gael fy narbwyllo bod dadl dros ddatganoli'r system gyfiawnder, carchardai yn benodol, oherwydd nid wyf i'n credu y gallwn ni ei wneud ar ein pennau ein hunain. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen mwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan yn hyn o beth. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gwella mynediad at wasanaethau adsefydlu yng ngharchardai Cymru, ac effaith gorlenwi, sy'n cynorthwyo aildroseddu yn y pen draw? Felly, o ran prinder staff a'r effaith ar adsefydlu carcharorion, a allwch chi ateb y cwestiynau hynny os gwelwch yn dda?
Wel, mae'n anodd, gan fod llawer o wasanaethau a ddarperir mewn carchardai yn wasanaethau sydd wedi eu datganoli, ac nid yw cyfateb gwasanaeth sydd heb ei ddatganoli â gwasanaeth sydd wedi ei ddatganoli er mwyn darparu'r gwasanaethau hynny y peth hawddaf i'w wneud. Rydym ni wedi ei wneud, ond bydd ffyrdd haws o'i wneud. Mae hi'n dweud mynd ar ein pennau ein hunain; mae gan Ogledd Iwerddon system garchardai, felly hefyd yr Alban, ac felly hefyd, pe byddai'n dod i hynny, Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Nid yw'n gwbl hunangynhaliol, a bydd dadl bob amser, yn fy marn i, i rai o'r carcharorion mwyaf peryglus gael eu cadw mewn un neu ddau o leoedd efallai, neu dri yn fwy na thebyg, ledled y DU, yn hytrach na ni yn ei wneud yng Nghymru. Byddai'n rhaid i ni dalu am y lleoedd carchar hynny, ond mae nifer y troseddwyr yn y categori hwnnw yn eithaf isel mewn gwirionedd. Felly, mae'n bosibl iawn efallai na fyddwn ni eisiau dewis yr opsiwn o gael carchar categori A yng Nghymru. Ond nid oes unrhyw reswm mewn egwyddor na mewn theori pam na allem ni redeg y system gyfiawnder ein hunain, o ystyried y ffaith bod endidau llai o lawer fel Gogledd Iwerddon wedi bod yn gwneud hynny ers bron i 100 mlynedd.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ52330] yn ôl, felly cwestiwn 4—Paul Davies.