– Senedd Cymru am 4:55 pm ar 12 Mehefin 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sy'n ymwneud â'r adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, ac rydw i'n galw ar Angela Burns i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliant arall yn y grŵp. Angela Burns.
Diolch, Fadam Llywydd. Hoffwn gynnig gwelliant 2.
Mae gennym ni gyfrifoldeb yma, a'n cyfrifoldeb ni yw nid yn unig i wneud cyfraith, ond i wneud cyfraith dda. Ac os ydych chi'n mynd i wneud cyfraith, yn enwedig cyfraith arloesol, cyfraith nad yw'n gyffredin yn y gwledydd cartref eraill ac nad yw'n gyffredin fel arfer, mewn gwirionedd, yn Ewrop, yna y peth lleiaf y gallwch chi ei wneud pan rydych chi wedi troi hynny yn gyfraith yn gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi sylw i'r holl ddata y mae ei angen arnoch chi er mwyn sicrhau y caiff eich cyfraith ei gweinyddu a'i bod hi mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn y mae hi i fod i'w wneud, ei bod yn effeithio ar y bobl briodol a'i bod yn cyflawni eich amcanion polisi. Ac felly yr hyn y mae gwelliant 2 o'n heiddo yn ei wneud yw ei fod yn pennu'r nodweddion y mae'n rhaid eu hystyried yn rhan o'r adroddiad gwerthuso ac yn nodi pwy ddylai Gweinidogion Cymru ymgynghori â nhw wrth baratoi'r adroddiad hwn, oherwydd rwy'n parhau i fod yn ymwybodol o'r pryderon y soniwyd amdanyn nhw yn y pwyllgor ac yn y memorandwm esboniadol y gallai cynyddu pris alcohol lyncu cyfran helaethach o gyllidebau teuluoedd ac unigolion ar incwm bychan, neu gallai arwain at gyfnewid alcohol am sylweddau anghyfreithlon. Er enghraifft, roedd argymhelliad 14 yn adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor yn tynnu sylw'r Llywodraeth yn benodol at y pryderon hyn. Mae parhau i symud ymlaen heb gryfhau'r Bil i gyflwyno system i fonitro'r pryderon hyn yn rheolaidd, yn fy marn i, yn gwneud cyfraith wael, a does arnaf i ddim eisiau gwneud cyfraith wael; mae arnaf i eisiau gwneud cyfraith dda sydd mewn gwirionedd yn pwyso'n ysgafn ar ysgwyddau'r bobl ac yn gwneud yr hyn y mae i fod i'w wneud.
I fod yn deg, ers Cyfnod 2, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi cynlluniau ar gyfer gwerthuso'r Ddeddf, sy'n ymateb i lawer o'r pryderon penodol y soniwyd amdanyn nhw yn y Pwyllgor ac yn fy ngwelliant blaenorol. Mae'r llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 22 Mai a anfonwyd at y pwyllgor iechyd yn crybwyll defnyddio dull sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth werthuso a elwir yn ddadansoddi cyfraniad i werthuso'r Bil. Nawr, does gen i ddim problem â'r fethodoleg a awgrymir fel y cyfryw. Fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio gosod y gwelliant hwn ar wyneb y Bil oherwydd mae hi'n hanfodol waeth pa fethodoleg a ddefnyddir ei bod hi'n bwysig bod y meini prawf y manylir arnyn nhw yn y gwelliant hwn yn ffrwyth y camau cynharaf. I fod yn onest Ysgrifennydd y Cabinet, dylid dadansoddi'r lefel hon o wybodaeth ni waeth pa fethodoleg a ddefnyddir. Nid ein barn ni yn unig mo hyn, ond barn nifer o dystion ac aelodaeth drawsbleidiol y pwyllgor iechyd.
Nawr, nid wyf yn mynd i ddarllen drwy bob un rhan o'n gwelliant, ond rydym ni yn dymuno casglu gwybodaeth am bobl y mae eu defnydd o alcohol yn uwch na chanllawiau presennol prif swyddog meddygol y DU. Mae arnom ni eisiau gwybod pwy yw'r grwpiau oedran penodol o bobl yr ystyrir eu bod mewn mwy o berygl cael eu niweidio gan alcohol, ac fe wnaethom ni ddweud wrth Lywodraeth Cymru, 'penderfynwch chi ar hynny, ond rydym ni eisiau'r wybodaeth honno.' Rydym ni eisiau gwybod beth yw effaith yfed alcohol fesul grŵp incwm. Wyddoch chi, nid yw Cymru yn genedl gyfoethog i lawer iawn o bobl ac mae'n hanfodol nad oes canlyniadau anfwriadol y bydd eu heffaith yn treiddio i gartrefi cymaint o bobl. Rydym ni eisiau gwybod a yw hyn yn newid nifer yr achosion o gam-drin domestig ai peidio, a fydd gostyngiad yn y nifer o bobl sy'n mynd i'r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol, a'r effaith, wrth gwrs, ar wasanaethau cymorth alcohol, sy'n gwbl hanfodol, yr effaith ar fanwerthwyr, ar dafarnwyr Cymru, gwerthiannau traws-ffiniol, a gwerthu dros y rhyngrwyd.
I mi, un o'm meysydd allweddol yw'r trawsnewid o'r awydd a'r cymhelliant a'r caethiwed i'r ddiod gadarn, a throi at sylwedd arall: cyffuriau. Mae hyn i gyd yn hanfodol. Rydym ni'n casglu'r wybodaeth honno, yna gallwn wybod a yw'r Ddeddf hon ynglŷn ag isafbris uned yn gwneud yr hyn yr ydym ni'n bwriadu iddi ei wneud ai peidio, a yw'n gwneud yr hyn y mae hi i fod i'w wneud. Ac os nad yw hi, beth allwn ni ei wneud wedyn yw ei newid. Gellir ei haddasu, gallwn ei newid fel ei bod mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn y mae arnom ni eisiau iddi ei gwneud i gyflawni'r amcanion polisi. Ac yn un o'r pryderon mawr rwyf wedi eu darganfod, a minnau'n gwneud mwy bellach gyda'r sector cyhoeddus, yw pryd bynnag mae gennym ni bolisïau nad ydym ni yn eu monitro, nad ydym ni yn eu mesur, ni allwn ni felly ddweud gydag eglurder pa mor llwyddiannus ydynt.
Nawr, rwyf wedi gwneud y penderfyniad i newid fy ngwelliant ychydig o Gyfnod 2 mewn ymateb i sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cael gwerthusiad ar ôl dwy flynedd—rwyf wedi derbyn y sylw hwnnw—ac rwyf wedi ymostwng i ddarparu ar gyfer eich sylwadau o ran y diffiniadau o yfwyr niweidiol a pheryglus. Ac mae'r gwelliant diwygiedig hwn, yn fy marn i, yn adlewyrchu cynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ar gyfer gwerthuso. Yr Alban yw'r unig un o'r gwledydd cartref eraill i fabwysiadu isafbris uned alcohol, ac mae ganddyn nhw ddarpariaethau tebyg, sy'n dangos rwy'n credu y doethineb o gasglu data perthnasol ar gam cynnar iawn. Rwyf yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn y gwelliant hwn, a byddwn hefyd yn cefnogi gwelliant 5.
Rydym ni’n mynd i fod yn cefnogi’r gwelliant y mae Angela Burns wedi bod yn siarad yn ei gylch o. Yn syml iawn, mi rydym ni’n credu bod y gwelliant hwn yn cynyddu'r sgrwtini ôl-ddeddfwriaethol a fyddai angen ei weld yn cymryd lle cyn adnewyddu’r Ddeddf hon. Mae hynny’n gam synhwyrol, ac mae ein gwelliant ni—gwelliant 5—yn gysylltiedig â fo, ond yn benodol wedi’i gynllunio o’n rhan ni i sicrhau bod pwyllgor o’r Cynulliad yn edrych yn llawn ar effeithiau, llwyddiannau a gwendidau'r mesurau hyn wrth iddyn nhw gael eu gweithredu. Achos tra rydym ni’n cefnogi’r egwyddorion yma, mae’n wir dweud mai drwy brofiad gweithredu’r mesurau hyn y cawn ni weld y gwir effaith. Ac mi fydd sgrwtineiddio, edrych ar ac asesu'r ddeddfwriaeth yma, fel mae o'n cael ei weithredu’n ymarferol, yn gwbl allweddol. Felly, mi rydym ni eisiau i bwyllgor o’r Cynulliad edrych ar y mater hwn.
Rŵan, mae’r gwelliant ei hun, fel y gwelwch chi o’i ddarllen yn fanwl, yn fwy cyffredinol na hynny. Mae o’n sôn am y Cynulliad yn cymryd y camau angenrheidiol er mwyn sgrwtineiddio. Fy nealltwriaeth i o hynny, a fy ngobaith i, ydy y byddai’r Cynulliad dan yr amgylchiadau hynny yn cyfeirio hyn at bwyllgor. Dyna fyddai’n gwneud synnwyr, ac rwy’n gobeithio y clywn ni gan yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai fo yn ystyried mai dyna fyddai effaith ymarferol y gwelliant hwn. Felly, rydw i’n gobeithio y gallwn ni gael cefnogaeth y Llywodraeth ar y gwelliant. Mae yna drafod wedi bod ymlaen llaw, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed eglurhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod o yn gweld gwir ddiben y gwelliant hwn yn yr un goleuni ag yr ydw i.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Fe wnaf ymdrin yn gyntaf â gwelliant 2, fel y'i cyflwynwyd gan Angela Burns. Unwaith eto, rydym ni wedi trafod hynny yn ystod Cyfnod 2. Rwy'n cydnabod ei fod yn welliant gwahanol i'r un a gynigiwyd, ond fy marn i o hyd yw nad yw'n angenrheidiol nac yn fanteisiol. Wrth gwrs, rwyf wedi cydnabod pwysigrwydd gwerthuso ac adolygu. Yn wir, mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth ar ddiwedd y cyfnod cychwynnol o bum mlynedd, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad wedyn gymeradwyo yn gadarnhaol i barhau â'r drefn isafbris uned o fewn cyfnod ar ôl hynny. Ac yn wir, mae'r egwyl a'r cymal machlud hwnnw wedi cael croeso eang gan randdeiliaid allanol. Felly, rwy'n cytuno â'r egwyddor, heblaw y dylai adroddiad ganolbwyntio ar y graddau y mae'r ddeddfwriaeth wedi cyfrannu at gyflawni newid mewn amrywiaeth o ganlyniadau, gan gynnwys pethau fel lefelau yfed, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol —ac, yn wir, peth o'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar effaith isafbris uned ar grwpiau penodol.
Rwy'n falch fod Angela Burns wedi cydnabod y cynlluniau ar gyfer y gwerthusiad a rannwyd gyda'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fel y nodais y byddent, ac mae hynny'n dangos i Aelodau ein bod ni eisiau bod yn agored yn y sgwrs ac yn yr ystyriaethau manwl yr ydym ni yn eu rhoi i'r adolygiad a'r gwerthuso arfaethedig o'r hyn sydd, rwy'n derbyn, yn ddeddfwriaeth newydd. Ac mae'r cynlluniau hynny yn trafod yr astudiaethau pwrpasol sydd o dan ystyriaeth yn ogystal ag yn bwriadu dysgu gwersi o'r gwerthusiad o'r isafbris uned yn yr Alban, a beth yw'r ffordd orau inni ddysgu o astudiaethau eraill sydd ar y gweill neu wedi'u cynllunio yn y maes polisi hwn, gan gynnwys amrywiaeth o fuddiannau o'r sector prifysgolion o ran ystyried effaith y ddeddfwriaeth. Ac wrth inni wneud mwy o waith dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau terfynol, ac unwaith eto byddaf yn fodlon eu rhannu gyda'r pwyllgor ar gyfer unrhyw sylwadau y maen nhw eisiau eu gwneud. Fodd bynnag, ymddengys bod graddau'r manylder yn y gwelliant, i mi, yn dal i lyffetheirio gallu nid yn unig y Llywodraeth ond o bwyllgor, neu gorff arall o'r Cynulliad hwn yn y dyfodol i benderfynu ar y gwerth mwyaf a'r pryder fyddai ganddyn nhw o ran y gwerthusiad, ar ryw adeg, yn fras, yng nghanol tymor nesaf y Cynulliad. Mae pob un ohonom ni'n gwybod fod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Nid ymddengys i mi fod rhagweld yn y fath fanylder beth mae'n rhaid ei gynnwys yn y pum mlynedd ar ôl cyflwyno isafbris uned yn gymesur. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi amlinellu'r telerau cyffredinol ynglŷn â chael adolygiad gwerthuso ffurfiol yn y memorandwm esboniadol. Rydym ni wedi darparu mwy o fanylion ers hynny, felly mae ymrwymiad gwirioneddol i fod yn agored yn y ffordd y mae datblygu'r gwerthusiad hwnnw a gwrando ar y Cynulliad wrth wneud hynny.
O ran gwelliant 5, rwy'n hapus i ddweud y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn. Yn ystod trafodion Cyfnod 2 yn y pwyllgor, rhoddais ymrwymiad i weithio gydag Aelodau, fel y gellid cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i sicrhau y byddai'r Cynulliad yn gwneud gwaith craffu priodol ac ystyrlon ar ôl pasio'r ddeddfwriaeth. Nodais hefyd nad oedd angen iddo fod yn welliant o eiddo'r Llywodraeth. Rwyf o'r farn ei bod hi'n bwysig y dylai gwelliant ar y mater hwn ategu gweithdrefnau presennol sydd eisoes ar waith ar gyfer y Cynulliad, ac rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn gwneud hynny, oherwydd mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru wrth baratoi'r adroddiad hwnnw ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Felly, mae hynny'n golygu bod yn rhaid ymgynghori â'r Cynulliad cyn bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno adroddiad o dan adran 21, a fydd yn sbarduno gallu'r Cynulliad i benderfynu, o dan Reolau Sefydlog ei hun, pa faint bynnag o graffu mae'n tybio sy'n briodol. Rwy'n fodlon iawn cadarnhau fy mod yn rhannu barn Rhun ap Iorwerth y byddwn yn disgwyl y byddai'r Cynulliad ei hun yn penderfynu cyfeirio'r mater i'r pwyllgor priodol er mwyn darparu adroddiad ffurfiol, i sicrhau bod gwaith craffu ystyrlon a'r gallu i dderbyn tystiolaeth bryd hynny. Yn benodol, bydd y Cynulliad yn gallu deall a gofyn am unrhyw sylwadau a fyddai'n berthnasol, cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn ag a ddylai barhau â'r darpariaethau isafswm prisio. Felly, o ganlyniad, rwy'n hapus i ddweud na fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 2, ond i ddweud, unwaith eto, mae'r Llywodraeth yn hapus i gefnogi gwelliant 5.
Galwaf ar Angela Burns i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Madam Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn synnu o gwbl at eich ymateb. Yn y blynyddoedd yr wyf i wedi bod yma yn Aelod Cynulliad, cefais y fraint o gadeirio'r Pwyllgor Cyllid am dymor. Rwyf hefyd wedi eistedd ar rai o'r pwyllgorau polisi difrifol iawn, sef addysg ac iechyd. A thro ar ôl tro ar ôl tro ar ôl tro, rwyf wedi darganfod polisïau lle bu'r monitro yn brin iawn, fawr ddim mesur, fawr ddim dadansoddi effeithiolrwydd polisi yng ngwir ystyr y gair.
Yma mae gennym ni ger ein bron gynnig ar gyfer darn o ddeddfwriaeth. Er fy mod i yn cydnabod bod eich cymal machlud yn well nag yr oedd, a bod nifer fawr o bobl yn ac wedi ei groesawu, y realiti yw mai anaml iawn y caiff deddfwriaeth ei diddymu. Yn wir, rwy'n ei chael hi'n anodd meddwl am ddarn o ddeddfwriaeth yn y Cynulliad sydd wedi'i diddymu erioed, ond mae croeso ichi fy nghywiro. Felly, rwy'n teimlo'n gryf iawn, iawn—yn gryf iawn—fod angen inni mewn gwirionedd wneud yn siŵr ein bod yn casglu data cywir. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod wrthyf, dim ond munud yn ôl, pam ar y ddaear na fyddem ni eisiau casglu'r data hwn? Pam na fyddem ni eisiau canfod faint o bobl y bydd hyn yn effeithio ar eu pocedi, yn andwyol, sydd erioed wedi cael problem gydag yfed? Pam na fyddem ni eisiau canfod faint o bobl allai ffeirio alcohol am gyffuriau? Pam na fyddem ni eisiau canfod sut allai trais yn y cartref newid o ganlyniad i hyn? Pam na fyddem ni eisiau canfod yr effaith bosib ar ganolfannau triniaeth alcohol a chyffuriau ac ar yr arian ychwanegol y mae angen inni ei roi iddyn nhw, a'r costau? Felly, ni allaf ddeall pam na fyddech chi'n gwneud hynny. Felly, i mi mae eich dadl yn gwbl ffug. Rwy'n siomedig iawn nad ydym ni'n rhoi ar unrhyw ddarn o'n deddfwriaeth—ond rydym ni'n sôn am yr un yma, felly fe wnaf i ganolbwyntio ar yr un yma—nad ydym ni'n rhoi yn y Bil yr hyn y byddwn ni yn ei fesur a sut y byddwn ni'n mesur. Rwy'n derbyn bod mesuriadau yn newid, ac rwy'n derbyn eich bod yn mynd i ychwanegu mwy o bethau—ac yn gwbl briodol—a dyna pam mae gennym ni'r union beth hwn:
'unrhyw nodweddion neu faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.'
Ond rwyf o'r farn ei bod hi'n briodol ein bod ni mewn gwirionedd yn mesur nifer o'r agweddau eraill hyn. Dyma beth yr ydym ni wedi'i glywed yn y pwyllgorau, dyna beth mewn gwirionedd y cytunodd yr holl bwyllgor trawsbleidiol arno a dweud y dylem ni ei wneud, ac nid ydych chi eisiau gwneud hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n wael iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 2 yn enw Angela Burns. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, pedwar yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.
Rhun ap Iorwerth, gwelliant 5.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig, felly, ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.