1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 20 Mehefin 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi cyfalaf yng Nghanol De Cymru? OAQ52360
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Er gwaethaf toriadau sylweddol i'n cyllideb gyfalaf gonfensiynol, mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi yng Nghanol De Cymru, gan gynnwys datblygu metro de Cymru, canolfan ganser newydd Felindre a 43 o brosiectau gwahanol sy'n cael eu cyflwyno drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
Diolch am eich ateb. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r prosiect i ailagor twnnel y Rhondda fel llwybr cerdded a llwybr beicio. Yn dilyn adroddiad diweddar gan Balfour Beatty, cafwyd asesiad fod 95 y cant o'r twnnel mewn cyflwr da iawn. Nawr, mae'r Asiantaeth Priffyrdd yn gyfrifol am ddiogelwch y twnnel, ond ni chaniateir iddynt ailagor y twnnel. A fyddai Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried cymryd meddiant ar y twnnel gan yr Asiantaeth Priffyrdd er mwyn bwrw ymlaen â'r cynllun?
Diolch i Gareth Bennett am ei gwestiwn atodol. Mae'n llygad ei le. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy ein cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru i ariannu'r hyn a elwir yn arolwg tapio o dwnnel y Rhondda. Pan allwn ystyried canlyniad yr arolwg hwnnw—ac mae'n iawn i ddweud hefyd fod perchenogaeth ar y twnnel yn un o'r materion nesaf y byddai angen inni eu hystyried—edrychaf ymlaen at drafod yr hyn a allai fod yn bosibl nesaf gydag Aelodau o Blaid Cymru fel rhan o'n hystyriaethau cyllidebol.
Weinidog Cyllid, mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymgynghori ar hyn o bryd ar wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng yr M4 a'r A48 drwy bentref Pendeulwyn. A ydych mewn sefyllfa i roi gwybod i ni sut y byddai'r prosiect hwn yn cael ei ariannu? A fyddai hynny'n digwydd drwy'r fargen ddinesig, neu a fyddai'n rhaid gwneud cais yn uniongyrchol i chi, neu i Lywodraeth Cymru, dylwn ddweud, i ryddhau arian cyfalaf ar gyfer datblygu'r ffordd hon, oherwydd ar hyn o bryd, yn sicr yn ôl y sylwadau a gefais gan drigolion, ceir ansicrwydd ynglŷn â phwy sy'n talu am y gwelliant hwn i'r cysylltiadau trafnidiaeth?
Lywydd, hyd y gwn i, mae'n ddyddiau cynnar o hyd o ran y trafodaethau ynglŷn â’r trefniadau ariannu, pe bai'r prosiect hwnnw byth yn cael caniatâd i fynd rhagddo. Ceir cynseiliau ym margen ddinesig Abertawe am ffyrdd y gellir rhannu buddsoddiad rhwng Llywodraeth Cymru a bargen ddinesig. Byddaf yn gwneud ymholiadau, fodd bynnag, ac os caf wybodaeth fwy cyfredol, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i roi gwybod iddo.
Croesawaf yr hyn a ddywedoch yn awr am dwnnel y Rhondda, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf weledigaeth o lwybr beicio hollol hygyrch sy'n cyrraedd pob rhan o fy etholaeth. Ar hyn o bryd, mae'n dameidiog, a dweud y lleiaf. Ac mae’r weledigaeth yn cynnwys cysylltu twnnel y Rhondda a'r dyffryn cyfagos, Blaengwynfi. Nawr, byddaf yn cyfarfod cyn bo hir â gwahanol bartïon â diddordeb o safbwynt beicio i weld beth y gellir ei wneud i droi'r weledigaeth yn realiti. Weinidog, a ydych yn cefnogi hyn? A wnewch chi gytuno i fwrw ati ar y cwestiwn o berchnogaeth ar dwnnel y Rhondda fel mater o frys, ac a fyddech chi mewn egwyddor yn barod i weithio gyda ni yn y Rhondda ar droi'r weledigaeth feicio hon yn realiti?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am y wybodaeth ddiddorol iawn a ddarparwyd ganddi. Gallaf ddweud hyn, Lywydd: mae dyfodol y twnnel wedi cael sylw yn y trafodaethau a gynhaliais gyda Phlaid Cymru ynghylch y gyllideb dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gobeithio y cawn gyfle i gael rownd ychwanegol o'r trafodaethau hynny ochr yn ochr â'r broses bresennol o bennu'r gyllideb, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod, os mai dyna'r ffordd gywir o wneud pethau, i rannu'r wybodaeth sydd gennym o ganlyniad i'r hyn a gytunwyd hyd yn hyn, ac i glywed am bosibiliadau eraill y mae'n credu y dylem fod yn ymwybodol ohonynt.FootnoteLink
A wnaiff y Gweinidog Cyllid nodi buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y GIG a Chanol De Cymru o ganlyniad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ac a yw'n cytuno â Paul Johnson o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid na fydd unrhyw ddifidend Brexit i helpu i gyllido'r hwb ariannol ychwanegol i'r GIG, neu efallai hyd yn oed yn cytuno â Dr Sarah Wollaston, sy'n cadeirio pwyllgor iechyd Tŷ'r Cyffredin, a drydarodd fod hyn yn ddwli? Dywedodd fod dwli difidend Brexit i'w ddisgwyl ond mae'n trin y cyhoedd fel ffyliaid. Trist gweld y Llywodraeth yn boddio dadleuon poblyddol yn hytrach na thystiolaeth ar fater mor bwysig.
Diolch i Jane Hutt, wrth gwrs, am hynny. Fe atebaf ei chwestiwn yn y ddwy ran y'i gofynnodd. Wrth gwrs, hoffem ddefnyddio cyllidebau Llywodraeth Cymru i barhau i fuddsoddi yn y GIG yng Nghanol De Cymru. Mae hynny'n cynnwys £37 miliwn sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd fel rhan o ddatblygiadau cyfnod 2 i wella gofal newyddenedigol yn yr ysbyty athrofaol yma yng Nghaerdydd; £14 miliwn yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, fel rhan o'r gwaith o uwchraddio'r cyfleusterau ar y safle hwnnw; ac £8 miliwn i greu canolbwynt diagnostig yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sef un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous, yn fy marn i, sy'n llunio dyfodol gwasanaethau iechyd yn ardal Canol De Cymru. O ran yr honiad am yr hwb i'r GIG, pan fyddwn yn darganfod beth y mae hynny'n ei olygu i Gymru mewn gwirionedd, mae unrhyw awgrym fod hyn yn rhan o ryw fath o ddifidend Brexit wedi chwalu mor gyflym yn nwylo Prif Weinidog y DU fel bod yn rhaid ei bod yn difaru cynnwys hynny yn ei chyhoeddiad. Gwyddom, o unrhyw un o'r arolygon a welwn, fod hyn yn debygol o gael effaith andwyol ar yr economi ledled y Deyrnas Unedig, effaith andwyol ar dderbyniadau treth i'r Trysorlys. Ac nid yw unrhyw syniad—unrhyw syniad—fod y buddsoddiad angenrheidiol yn y GIG i'w gael yn y modd hwnnw yn gwneud dim heblaw tragwyddoli darn o nonsens a ddefnyddiwyd yn ystod ymgyrch y refferendwm. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Sarah Wollaston—mae'n siomedig iawn gweld rhywbeth sydd mor amlwg yn gamarweiniol yn cael ei ailadrodd eto.