1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 26 Mehefin 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Ddoe, cefnogodd eich Llywodraeth Lafur fuddsoddiad gwerth sawl biliwn San Steffan mewn rhedfa newydd sy'n llygru yn ne-ddwyrain Lloegr. A ydych chi'n glynu wrth y penderfyniad hwnnw, o ystyried, ar yr un diwrnod, bod San Steffan wedi canslo prosiect ynni adnewyddadwy gwyrdd a glân yn Abertawe?
Nid wyf i'n gyfrifol am y ffordd y mae pleidleisiau'n cael eu bwrw yn San Steffan, fel yr wyf i wedi ei ddweud lawer iawn o weithiau, ond rwy'n rhannu ei phryder mawr—ac nid yw'n hynny'n ei gyfleu'n ddigonol, mae'n debyg—ynghylch y methiant i fwrw ymlaen â morlyn llanw bae Abertawe. Mae'n siom enfawr i ardal bae Abertawe ac mae'n siom a rennir, a bod yn deg, gan y Ceidwadwyr yn y Siambr hon hefyd. Maen nhw wedi mynegi'r pryder mawr hwnnw. Mae'n drueni na wnaeth Llywodraeth y DU ystyried hyn mewn ffordd llawer mwy cytbwys—y ffaith y byddai'r prosiect wedi para canrif, y ffaith y byddai wedi creu swyddi nid yn unig yn y tymor byr, ond yn y tymor hir hefyd o bosibl. Byddai wedi creu technoleg y gallem ni fod wedi ei hallforio ledled y byd. Bellach, bydd eraill yn achub y blaen arnom ni.
Mae'n hynod bwysig nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi'r argraff, y mae hi wedi ei wneud nawr, ei bod yn ymddangos mai niwclear a gwynt ar y môr yw'r unig ddewisiadau ar gyfer cynhyrchu ynni yn y dyfodol. Mae gennym ni ar hyd arfordir Cymru, ym Môr Hafren yn arbennig, ond nid yn unig, un o'r cyraeddiadau llanw uchaf yn y byd. Mae'r ffaith nad yw'n cael ei harneisio yn arwydd bod Llywodraeth y DU yn gweld Prydain fel lle diflas a hen ffasiwn ac nid un sy'n feiddgar a disglair ac eisiau bwrw ymlaen â datblygu technoleg newydd. Mae'n drueni enfawr i gymaint o bobl yn ardal bae Abertawe a thu hwnt.
Brif Weinidog, mae'r gwrth-ddweud yn hyn i gyd yn syfrdanol. Ni all unrhyw Lywodraeth sydd o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd wir gymryd safbwyntiau sy'n mynd mor groes i'w gilydd fel hyn. Nid yn unig yr ydym ni'n gweld Heathrow yn cael ei adeiladu, ond niwclear newydd i gael ei ariannu gan y trethdalwr ar yr un gyfradd, os nad uwch na chost ddatganedig y morlyn llanw. Nawr, Brif Weinidog, rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnig o gymorth ariannol ar gyfer y morlyn llanw, ond nid oedd hynny'n ddigon. Nawr, rydym ni angen gweithredu ac nid cynigion. Mae'r ffenestr cyfle yn fach, ond rwy'n credu y gall prosiect morlyn llanw Abertawe gael ei achub o hyd. Felly, a wnewch chi gadw gobaith yn fyw nawr trwy anrhydeddu ymrwymiad maniffesto Llafur i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol o dan berchenogaeth gyhoeddus i gymryd drosodd a bwrw ymlaen â'r prosiect hwn?
Ar ddiwrnod pan fo pobl mewn gwahanol bleidiau wedi bod yn unfryd o ran mynegi eu pryder ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU, mae Plaid Cymru yn dechrau symud y bai i rywle arall. Ceir cwestiwn teg, sef: pa gynlluniau sydd gennych chi ar gyfer y dyfodol? Ac mae hwnnw'n gwestiwn teg, ond heddiw, yr hyn y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw bod Cymru wedi cael cam yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU yn Llundain. Dyna'r hyn sydd wedi digwydd. Ni allwn lenwi'r bylchau y maen nhw wedi eu gadael; nhw sy'n gyfrifol am hynny. Nhw yw'r rhai sy'n gorfod esbonio yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i bobl Abertawe, a byddwn ni'n parhau i bwyso arnynt.
Nawr, yn y dyfodol, pa gynlluniau allai fod ar gyfer prosiectau eraill y byddwn yn ceisio eu cefnogi? Mae'r drws ar agor, wrth gwrs, ac wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud, gan ein bod ni'n credu bod potensial enfawr ar hyd arfordir Cymru o ran cynhyrchu ynni. Yr hyn na allwn ni ei wneud, fodd bynnag, yw llenwi'r bylchau enfawr sy'n cael eu gadael gan Lywodraeth y DU ac sy'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Siawns y gwnaiff hi ymuno â mi heddiw i fynegi ei phryder mawr o ran y ffordd yr ymdriniwyd â hyn gan Lywodraeth y DU—18 mis o oedi, er gwaethaf adolygiad Hendry; y ffaith y byddai hwn wedi bod yn brosiect gweddnewidiol i Gymru gyfan ac, yn wir, i'r byd, ac na fydd hynny'n digwydd bellach oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU.
Y cwbl yr ydych chi'n mynd i'w wneud yw anobeithio, felly; dydych chi ddim yn mynd i drafferthu i wneud dim hyd yn oed. A chofiwch, gwnaed addewid gennych chi yn eich maniffesto y byddech chi'n sefydlu cwmni ynni ac y gallai hwnnw, pe byddech chi'n fodlon ei ystyried, fwrw ymlaen â'r prosiect hwn. Brif Weinidog, rheilffyrdd heb eu trydaneiddio, morlynnoedd heb eu hadeiladu, Airbus ddim yn buddsoddi—mae'n amlwg mai'r Ysgrifennydd Gwladol yw llais San Steffan yng Nghymru ac nid llais Cymru yn San Steffan. Brif Weinidog, mae Airbus yn cyflogi tua 7,000 o bobl yma yng Nghymru, a'u rheswm am ailystyried eu buddsoddiad yn y wlad hon yw ein lle yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Nawr, rwy'n cydnabod ei bod yn bosibl iawn y bydd y Prif Weinidog yn dweud ei fod yn cefnogi ein haelodaeth o'r ddau, ond mae gweithredoedd ei blaid yn dynodi i'r gwrthwyneb. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, methodd mwyafrif ASau Llafur a phleidleisio ar welliant hollbwysig a fyddai wedi ein cadw ni yn y farchnad sengl. Mae angen eglurder arnom ni nawr. A wnewch chi, Brif Weinidog, ymuno â ni i gondemnio eich ASau Llafur am gefnogi Cymru yn tynnu allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau, gan beryglu'r swyddi Airbus hynny yn uniongyrchol?
Mae hyn fel gwylio rhywun yn chwarae dartiau ac yn ceisio anelu'n fwriadol at y wal i'r ochr yn hytrach na'r dartfwrdd ei hun. Ar ddiwrnod pan fo pobl o wahanol bleidiau wedi mynegi pryder—maen nhw wedi ei fynegi mewn gwahanol ffyrdd, wrth gwrs, fel y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud, yn dibynnu ar ba blaid y maen nhw'n aelodau ohoni—ar ddiwrnod pan fo pobl wedi mynegi pryder am benderfyniad Llywodraeth y DU, mae Plaid Cymru wedi rhoi rhwydd hynt iddyn nhw.
Rwy'n gofyn i chi wneud rhywbeth yn ei gylch. Gwnewch rywbeth yn ei gylch—
Ar ddiwrnod pan ddylai'r bai gael ei roi ar San Steffan, lle gwnaed y penderfyniad, mae Plaid Cymru yn ceisio troi hwn yn ymarfer mewn cyflwyno eu hunain fel eu bod yn berthnasol pan, mewn gwirionedd—[Torri ar draws.] Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r rhain. Nid yw cwestiynau i'r Prif Weinidog yn cynnwys ateb cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Dyna un o'r pethau sy'n gwbl eglur. Rwyf i yma i roi safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n fater o ofid mawr heddiw, wrth i wleidyddion o bob cwr o Gymru fynegi eu pryder ynghylch y penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU—hyd yn oed y rhai hynny ym Mhlaid y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi mynegi eu barn—bod Plaid Cymru wedi penderfynu rhoi rhwydd hynt iddyn nhw.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd yr adroddiad ar y drychineb yn Ysbyty Coffa'r Rhyfel Gosport ac, yn benodol, y defnydd gormodol o boenladdwyr opioid a arweiniodd o bosibl at farwolaeth cynamserol o leiaf 650 o gleifion. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i ystyried yr adroddiad, canfyddiadau'r adroddiad hwnnw ac unrhyw oblygiadau i GIG Cymru a'r newidiadau y gallai fod angen iddo eu gwneud?
Byddwn, wrth gwrs, yn ystyried unrhyw adroddiadau sy'n berthnasol i Gymru, a bydd llawer o'r materion sy'n codi mewn mannau eraill yn y DU a thu hwnt yn llywio ein hystyriaethau yn y dyfodol. Bydd swyddogion a'r Gweinidog yn edrych ar yr adroddiad i weld a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu ar gyfer Cymru.
Diolch am yr ateb yna. Rwy'n gobeithio y bydd adroddiad prydlon yn ôl ar hynny, oherwydd ceir rhai agweddau sy'n peri pryder mawr o ran yr amgylchiadau yn ymwneud â marwolaethau cynamserol y cleifion dan sylw. Ond un o'r pethau sydd wedi dod i'r amlwg, yn sicr yn sylwadau'r wasg, yw'r defnydd o yrwyr chwistrell Graseby, sy'n darparu poenladdwyr opioid i bob pwrpas, naill ai dros gyfnod o 24 awr neu dros awr. Nawr, cyhoeddwyd gwahanol hysbysiadau diogelwch dros yr 20 mlynedd diwethaf o ran yr offerynnau hyn, a chawsant eu gwahardd flynyddoedd lawer yn ôl yn Awstralia a Seland Newydd. Roedd y GIG i fod wedi tynnu'r chwistrelli hyn o gael eu defnyddio yn 2015. A allwch chi gadarnhau heddiw pa un a yw'r GIG yng Nghymru yn dal i ddefnyddio'r chwistrellau hyn, neu a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ymchwilio i hyn?
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ei fod yn iawn am y sylw i'r chwistrellau yn y cyfryngau. Roedd y gyrwyr chwistrell, o'r enw Graseby MS26 a Graseby MS16A, yn cael eu llwytho gyda chapsiwlau wedi eu rhaglennu i ryddhau cyffuriau i lif gwaed claf dros gyfnod estynedig. Roedden nhw'n darparu cyffuriau ar wahanol gyfraddau, ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod o'r adroddiad bod hynny wedi arwain at or-drwytho peryglus o gyffuriau. Cyhoeddwyd hysbysiadau o berygl gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a chynhyrchion Gofal Iechyd—MHRA—i sicrhau bod staff y GIG yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y modelau. Roedd hyn hefyd yn destun cyhoeddiad Asiantaeth Diogelwch Cleifion Genedlaethol ar draws Cymru a Lloegr—adroddiad ymateb cyflym—ym mis Rhagfyr 2010, a roddodd bum mlynedd i'r GIG bontio i yrwyr â nodweddion diogelwch ychwanegol gan liniaru'r risg yn y cyfamser. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod holl sefydliadau perthnasol GIG Cymru wedi cadarnhau cydymffurfiad â'r gofyniad diogelwch cleifion hwnnw. Byddwn yn ysgrifennu at fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gan ofyn iddyn nhw archwilio arferion presennol a rhoi sicrwydd eu bod yn dal i gydymffurfio â'r cyngor hwn, a deallaf y bydd yr un peth yn digwydd yn Lloegr.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb manwl iawn yna, oherwydd bydd yr adroddiadau dros y penwythnos wedi achosi gofid aruthrol i deuluoedd perthnasau sydd wedi dioddef profedigaeth a allai amau rhywfaint o ddrygioni neu offer diffygiol a allai fod wedi achosi marwolaeth gynamserol. Yr hyn sy'n bwysig, os bydd y pryderon hynny gan deuluoedd—ac mae'r niferoedd yr ydym ni'n sôn amdanynt yn rhedeg i'r miloedd os byddwch chi'n ei gyfrif ar draws y GIG cyfan, oherwydd defnyddiwyd y peiriannau hyn ar draws y GIG yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—yw y gall teuluoedd godi eu pryderon a chael sylw i'r pryderon hynny yn y pen draw. Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda byrddau iechyd fel bod teuluoedd sydd â'r pryderon hynny—cofiwch eich bod chi wedi cadarnhau bod GIG Cymru yn cydymffurfio â'r gyfarwyddeb a ddiystyrwyd eu defnydd hyd at 2015, ond bydd gan deuluoedd bryderon y mae angen rhoi sylw iddynt, felly sut gall teuluoedd fynd ati i gael sylw i'r pryderon hynny?
Wel, os oes gan unrhyw un bryder, wrth gwrs, gallant godi'r pryder hwnnw yn uniongyrchol gyda'r bwrdd iechyd, gyda'u AC, neu gyda'r Gweinidog iechyd, yn wir. Ceir ffordd o wneud hynny. Nid ydym ni'n ymwybodol o unrhyw bryderon, ond mae'n amlwg yn briodol bod archwiliad i wneud yn siŵr bod y cydymffurfiad yn dal i fod yno yn y ffordd y byddem ni'n dymuno iddo fod. Dyna'r ffordd y byddwn ni'n ceisio rhoi sicrwydd i gleifion a'u teuluoedd ar draws y GIG.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn ofnadwy i stryd fawr Cymru, gyda nifer o fanwerthwyr mawr yn cyhoeddi y bydd eu siopau yn cau. Mae Mothercare yn cau 50 o siopau ledled y DU, gan gynnwys ei gangen yng Nghasnewydd. Mae New Look yn cau 60 o siopau, gan gynnwys ei siopau yng Nghaerdydd, Trefynwy, y Rhyl a Phont-y-pŵl. Cyhoeddodd Carphone Warehouse ei fod yn cau bron i 100 o siopau ledled y wlad, ac mae cewri manwerthu eraill fel M&S yn cyhoeddi eu bod yn cau siopau, ac yn bwriadu cau siopau hefyd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cawsom y newyddion trychinebus bod un o enwau mwyaf eiconig y stryd fawr, House of Fraser, yn cau ei siopau yng Nghaerdydd ac yng Nghwmbrân. Felly, rydym ni wedi gweld llawer o frandiau stryd fawr yn diflannu yn ddiweddar, ac mae miloedd o swyddi wedi eu colli. Felly, Brif Weinidog, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac mae rhai yn galw hyn yn 'uffern ar y stryd fawr', felly a allwch chi ddweud wrthyf beth mae eich Llywodraeth chi, Llywodraeth Cymru, yn bwriadu ei wneud i helpu i atal y dirywiad hwn?
Wel, mae manwerthu yn sector pwysig i ni; rydym ni'n ei wneud yn flaenoriaeth. Nid wyf i'n mynd i esgus bod yr heriau sy'n wynebu manwerthu yn hawdd, gan nad ydyn nhw. Ceir llawer o bobl sy'n siopa ar-lein. Ceir llawer o bobl sy'n mynd i mewn i siop ac yna'n siopa ar-lein, nid siopa yn y siop ei hun. A cheir rhai heriau yn hynny o beth. Ymhle mae'r ateb? Rwy'n amau mai'r ateb yw sicrhau bod canol ein trefi yn fwy cymysg, gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn byw yng nghanol trefi, a hefyd sicrhau bod mwy o swyddfeydd. Gwn o'm profiad fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod diffyg mannau swyddfa a bod gormod o fannau manwerthu. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw sicrhau'r cydbwysedd cywir fel bod mwy o fannau swyddfa o ansawdd da ar gael, gan greu, wedyn, yr ymwelwyr yn ystod y dydd ar gyfer y siopau sydd yno. Felly, mae'n gwestiwn, rwy'n credu, o ailfeddwl sut y dylai canol ein trefi edrych, nid eu gweld fel bod ar gyfer manwerthu yn unig ond cymysgedd llawer gwell o ran yr hyn y maen nhw'n ei gynnig, a phobl yn byw yno a phobl yn gweithio yno.
Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Brif Weinidog, ond, dros y penwythnos, amlinellodd arbenigwyr manwerthu faint y broblem sy'n wynebu siopau adrannau Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad gan House of Fraser a'r newyddion y byddai siop Herbert Lewis yng Nghas-gwent yn cau. Mae Howells wedi bod ar stryd fawr Caerdydd ers 1879 ac yn fuan bydd yn mynd yr un ffordd â David Morgan, a oedd yn ganolbwynt i brofiad manwerthu Caerdydd am dros 125 mlynedd. Mae Herbert Lewis wedi bod yn rhan o brofiad siopa Cas-gwent am 140 mlynedd. Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr siop adrannau Wildings, Casnewydd, y bu'n rhaid iddi leihau ei maint yn ddiweddar, nad yw'r dyfodol yn dda ar gyfer siopau traddodiadol, oherwydd y costau cynyddol a thwf gwerthiannau ar-lein. Felly, Brif Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod hi'n bryd i ni gymryd camau radical, fel gostwng ardrethi busnes yn aruthrol, er mwyn achub yr eiconau manwerthu sydd ar ôl yng Nghymru?
Bydd yn cymryd mwy na hynny. Rwy'n credu mai un o'r materion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw yw bod angen i ni wneud yn siŵr bod manwerthwyr ar-lein yn talu trethi yn briodol. Y gwir amdani, os ydych chi'n siop, yw eich bod chi'n talu ardrethi busnes. Efallai eich bod chi'n cystadlu gyda rhywun sy'n talu'r nesaf peth i ddim, gan eu bod nhw ar-lein, a cheir materion yn hynny o beth mai dim ond Llywodraeth y DU sy'n gallu eu datrys. Maen nhw wedi bod yn faterion sydd wedi codi droeon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond dyna lle mae'n rhaid creu'r sefyllfa o chwarae teg. Nid yw dweud yn syml, wel, gan fod siop ar-lein sydd wedi'i lleoli y tu allan i'r DU neu'n ddarostyngedig i gyfundrefn dreth fwy ffafriol—nid yw byth yn mynd i weithio ar gyfer y stryd fawr, os caf ei roi felly, na hyd yn oed i'r cadwyni mwy, os ydyn nhw'n cystadlu yn erbyn manwerthwyr ar-lein nad ydyn nhw'n talu'r un trethi ag y maen nhw'n eu talu, a dyna lle y credaf y dylai'r pwyslais fod.
Ie, ond mae'n rhaid i ni unioni'r fantol ac ystyried y cydbwysedd a chael sefyllfa o chwarae teg. Yn anffodus, yn ôl ysgol fusnes Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae'n rhy hwyr i achub ein manwerthwyr traddodiadol. Yn ôl Chris Parry, sy'n uwch ddarlithydd cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, 2008 oedd yr adeg i ostwng ardrethi a rhenti, nid 2018. Dywedodd mai'r her i ni yw sut yr ydym ni eisiau i ganol ein trefi a'n strydoedd mawr edrych ymhen 10 mlynedd. Beth ydym ni'n mynd i'w wneud â nhw? Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried ar frys. Felly, os bydd y cynnydd esbonyddol i werthiannau ar-lein yn parhau—ac nid oes gennym ni reswm i gredu na fydd—yna, erbyn 2028, bydd llawer o'n manwerthwyr traddodiadol wedi diflannu. Felly, Brif Weinidog, mae'n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol hwnnw. Dywedodd Chris Parry, os byddwn ni'n eistedd ac yn gwneud dim, mae'n bosibl iawn y bydd canol ein trefi yn diroedd diffaith yn y degawd nesaf. Felly, mae'n rhaid i ni osgoi hynny ar bob cyfrif. Brif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gyflymu defnydd cymysg o'n trefi a'n dinasoedd, gan ddisodli siopau sydd wedi cau gyda thai, bwytai, meddygfeydd teulu, a phopeth arall sydd ei angen ar gyfer bywyd trefol gwirioneddol?
Rwy'n cytuno, ac mae'n dod yn ôl i'r pwynt a wneuthum yn gynharach—ac mae canllawiau cynllunio wedi cael eu newid i adlewyrchu hyn—mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein canolfannau trefol yn fwy cymysg. Mae rhai ohonynt, nid yw rhai ohonynt. Mae pobl wedi tueddu i beidio â byw yng nghanol trefi ers cryn amser. Rydym ni'n gwybod bod rhai busnesau a fydd yn gwneud yn dda oherwydd nad oes ganddyn nhw gystadleuaeth ar-lein. Os ydych chi'n gaffi, nid oes cystadleuaeth ar-lein. Os ydych chi'n farbwr neu'n siop trin gwallt, nid oes cystadleuaeth ar-lein. Ceir rhai siopau sydd wedi arbenigo yn arbennig o gryf mewn rhai cynhyrchion. Efallai y bydd ganddyn nhw siop ar-lein hefyd, sy'n eu helpu i gynnal eu busnes. Yn y pen draw, wrth gwrs, y broblem yw nad yw pobl yn mynd drwy'r drysau fel yr oedden nhw; maen nhw'n chwilio mewn mannau eraill. Sut ydym ni'n ceisio datrys hynny? Wel, gwneud yn siŵr, rwy'n credu, hefyd, bod pobl o gwmpas yn ystod y dydd. Un o'r problemau, yn fy marn i, yw bod siopau yng nghanol llawer o drefi ar agor rhwng 9.30 a.m. a 5.30 p.m. pan nad yw'r rhan fwyaf o bobl o gwmpas, mewn gwirionedd. Mae'n gwestiwn o edrych eto ar oriau agor hyblyg fel bod canolfannau siopa ar agor, yn enwedig yng nghanol trefi, pan nad yw pobl yn y gwaith ac yn ôl o'r gwaith ac yn gallu siopa, yn hytrach na chael model sy'n fodel nad yw wedi bodoli ers 30 neu 40 mlynedd mewn gwirionedd, lle byddai pobl yn mynd i mewn i siopa yn ystod y dydd oherwydd efallai nad oedden nhw mewn cyflogaeth. Mae'r dyddiau hynny wedi newid, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig hefyd bod yr heriau sy'n bodoli gyda'r sector manwerthu yn cael eu bodloni trwy ystyried hefyd sut y gallan nhw ddod yn fwy hyblyg er mwyn darparu ar gyfer y ffaith bod bywyd wedi newid i'r rhan fwyaf o'u cwsmeriaid.