– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 26 Mehefin 2018.
Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr'. Rwy'n galw ar Julie James i wneud y datganiad hwnnw—Julie.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Heddiw rydym yn cyhoeddi ein cynllun 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr', sy'n nodi ein hymrwymiadau i wella cyfle cyfartal a chau'r bylchau mewn canlyniadau a brofir gan yr holl bobl a gaiff eu cwmpasu gan ein cynllun. Mae'r cynllun yn ceisio dangos ehangder y camau gweithredu y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i alluogi unigolion yn ein cymunedau i gyflawni eu potensial a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol.
Yr enw yr ydym ni wedi'i roi ar ein cynllun newydd yw 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr' i gydnabod dwy thema allweddol. Yn gyntaf, mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn aml yn meddu ar sgiliau a phrofiadau datblygedig, safbwyntiau unigryw a gwerthfawr a moeseg entrepreneuraidd gref. Nid yw ein systemau a'n prosesau bob amser mor gynhwysol ag y byddem yn ei hoffi, gan arwain at fethiant i wireddu potensial unigolion a'r gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Rydym yn dymuno sicrhau ein bod ni'n galluogi pawb yn ein cymunedau i gyflawni eu potensial drwy brosesau mwy cynhwysol a gwell dealltwriaeth o gyfleoedd. Yn ail, roeddem yn dymuno adlewyrchu'r amrywiaeth o ddiwylliannau a grwpiau ethnig o fewn y grŵp o unigolion y gallai bod Llywodraethau eraill efallai yn eu rhoi nhw i gyd i dan y faner 'teithwyr'. Gall y term hwn gynnwys llawer o grwpiau gwahanol, ac rydym yn cydnabod y gall fod yna wahaniaethau diwylliannol dwys rhwng rhai unigolion. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys Sipsiwn Romani, Teithwyr Gwyddelig, Roma neu Deithwyr Newydd. Mae'r amrywiaeth hon yn bwysig i aelodau'r gymuned ac roedd yn bwysig adlewyrchu hyn yn ein cynllun. Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, mae grwpiau yn aml yn profi problemau tebyg megis gwahaniaethu, ymyleiddio, iechyd neu ganlyniadau addysgol gwaeth ac angen am well cyngor a chymorth eiriolaeth. Dywedwyd yn enwog gan y diweddar Arlywydd Tsiec, Václav Havel, bod y driniaeth o Sipsiwn yn brawf litmws ar gyfer cymdeithas sifil. Mae'n rhaid inni sicrhau y cyflawnwn ein hymrwymiad i Sipsiwn, Roma a Theithwyr os ydym i fod yn gymdeithas deg a chyfiawn.
Mae'r cynllun hwn yn disodli fframwaith gweithredu a chynllun cyflenwi 'Teithio at Ddyfodol Gwell', a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011. 'Teithio at Ddyfodol Gwell' oedd strategaeth gyntaf y DU wedi'u hanelu'n benodol at wella'r canlyniadau a brofir gan Sipsiwn a Theithwyr. Wrth inni gyhoeddi ein cynllun newydd, ni yw'r unig genedl yn y DU sydd â chynllun pwrpasol i gefnogi ein cymunedau. Ers 2011, rydym wedi gwneud cynnydd da mewn nifer o ardaloedd, ond mae llawer eto i'w wneud. Rydym wedi deddfu i sicrhau bod gan drigolion safleoedd Sipsiwn a Theithwyr awdurdodau sicrwydd deiliadaeth ac i sicrhau bod awdurdodau lleol yn asesu yn iawn yr angen am safleoedd ychwanegol yn eu hardal. Rydym wedi buddsoddi tua £18 miliwn i ddatblygu ac adnewyddu safleoedd ac rydym wedi ymrwymo £20.3 miliwn yn ychwanegol erbyn diwedd 2021. Er ei fod yn arafach nag y byddem yn ei hoffi, mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud a byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â hyn. Rhwng 2014 a 2021 rydym yn disgwyl y byddwn wedi ariannu mwy na 200 o leiniau newydd, o'i gymharu â dim ond llond llaw yn y cyfnod rhwng 1997 a 2014—cyflawniad mawr.
Mae gennym hefyd fwy o ddisgyblion o'r cefndiroedd hyn ar gofrestrau ysgolion nag erioed o'r blaen, sy'n hollbwysig er mwyn sicrhau y gall aelodau'r cymunedau gael mynediad at gyfleoedd drwy gydol eu bywydau a bod gwahaniaethu yn cael ei herio. Mae cyrhaeddiad addysgol yn dal i lusgo ar ôl grwpiau eraill ac mae mwy i'w wneud i sicrhau bod ysgolion a cholegau yn amgylcheddau cynhwysol a bod cymunedau'n gweld mantais addysg oedran uwchradd. Gwyddom fod Sipsiwn a Theithwyr hefyd yn profi canlyniadau iechyd gwaeth na grwpiau eraill, ac rydym yn gweithio i newid hyn. Dylai pob bwrdd iechyd fod yn cynnal asesiadau o anghenion iechyd y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, i ddeall proffil iechyd eu cymunedau lleol yn well a thargedu ymyriadau yn briodol. Rydym hefyd yn cyflwyno categori iechyd ethnig Sipsiwn a Theithwyr i gasglu data GIG er mwyn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o'r canlyniadau a brofir gan ein cymunedau dros amser.
Mae i ba raddau y mae safleoedd ar gael yn fater pwysig a all rwystro Sipsiwn a Theithwyr rhag cael gafael ar lety cynaliadwy, a chael effaith ar gydlyniant cymunedol. Heddiw, rydym hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr cynllunio newydd, sy'n disodli ein cylchlythyrau blaenorol ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r cylchlythyr yn sicrhau bod yr ystyriaeth a roddir i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr drwy'r system gynllunio yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth a chanllawiau ehangach Llywodraeth Cymru ar Sipsiwn a Theithwyr dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys darpariaethau yn Neddf Tai (Cymru) 2014. Yn ychwanegol at y materion hyn, mae'r cynllun newydd yn canolbwyntio ar gyngor a chefnogaeth eiriolaeth, herio gwahaniaethu a throseddau casineb, gwella cyflogadwyedd unigolion, hyrwyddo sgiliau hanfodol a hyfforddiant, a materion eraill.
Mae'r cynllun newydd hefyd yn cynnwys y gymuned Roma am y tro cyntaf. Er y cafwyd safbwyntiau cymysg ynglŷn â chynnwys y gymuned hon yn y cynllun, rydym yn teimlo ei bod yn briodol gwneud hynny, gan bwysleisio'r gwahaniaethau pwysig rhwng y cymunedau. Drysir rhwng Roma a Sipsiwn Romani yn rheolaidd mewn adroddiadau yn y cyfryngau, ond yn aml mae ganddynt wahanol ddiwylliannau, iaith, dewisiadau llety a chrefydd, ac maent yn wahanol i'w gilydd mewn ffyrdd eraill hefyd. Fodd bynnag, mae'r grwpiau hyn yn cael eu huno gan achau cyffredin ac mae'r ddau yn dioddef stereoteipio a gwahaniaethu. Mae'r ddau grŵp yn cael eu hymyleiddio yn ein cymdeithas ac yn wynebu rhwystrau i wireddu eu gwir botensial.
Wrth ddatblygu camau gweithredu, rydym wedi ceisio atal y problemau mwyaf niweidiol sy'n wynebu Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'r rhain yn cynnwys digartrefedd, iechyd gwael, llety gwael a throseddau casineb. Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd calonogol mewn rhai o'r meysydd hyn, ond mae llawer o waith i'w wneud i wella canlyniadau. Mae'r cynllun yn ffurfio rhan bwysig o'r nod tymor hir i sicrhau y gall ein cymunedau gyflawni cyfle cyfartal a gwireddu eu potensial. Mae'r cynllun hefyd yn ddatganiad o'n pwyslais parhaus ar feithrin cysylltiadau da rhwng y grwpiau hyn a'r gymdeithas ehangach. Ar hyn o bryd, mae'n fis hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac rwyf am gydnabod cyflawniadau ein cymunedau a'u cyfraniadau cadarnhaol parhaus at gymdeithas Cymru. Mae croeso iddynt yng Nghymru a bydd y croeso hwn yn parhau.
Yn y ddogfen hon, rydym yn esbonio beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddarparu cyfleoedd cyfartal a gwell cydlyniant cymunedol, ond mae llawer o sefydliadau ac unigolion eraill a all hefyd chwarae rhan yn hyn. Er enghraifft, byddwn yn annog y cyfryngau i gyflwyno adroddiadau mwy cytbwys sy'n hyrwyddo dealltwriaeth. Byddwn hefyd yn annog awdurdodau lleol i fod yn gymesur wrth wneud penderfyniadau am ddatrys gwersylloedd diawdurdod. Mae angen i gyrff cyhoeddus, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr barn fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Yn aml, ystyrir mai gwahaniaethu yn erbyn y cymunedau hyn yw'r ffurf dderbyniol olaf ar hiliaeth, ac mae'n rhaid inni herio hyn lle bynnag yr ydym yn ei weld.
Yn olaf, rwyf am ei gwneud yn glir nad yw'r cynllun hwn yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud trefniadau arbennig i gefnogi ein cymunedau. Yn hytrach, mae'r cynllun a'r camau gweithredu oddi mewn iddo yn ymwneud â sicrhau bod ein cymdeithas yn cynnwys pawb er mwyn i amrywiaeth o ddiwylliannau a safbwyntiau gael ffynnu. Bydd Cymru sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein cymunedau lleiafrifol i gymryd rhan yn gyfartal—yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn rhan o'n cymdeithas am bron i 500 mlynedd—yn gryfach o ganlyniad. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd i ddileu pob math o wahaniaethu, ac felly rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau bod y cynllun newydd hwn yn llwyddiant. Diolch.
Fel y dywedais yn y fan yma ym mis Ionawr, bydd pawb ar eu colled hyd nes inni nodi a diwallu anghenion llety Sipsiwn, Teithwyr a Roma, gan alluogi darpariaeth safleoedd preswyl a thramwy awdurdodedig. Ni all fod yn dderbyniol fod, yn ôl Cyfrifiad 2011, 62 y cant o Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau, fod 51 y cant yng Nghymru a Lloegr mewn cyflogaeth o'i gymharu â 73 y cant yn gyffredinol, ac nad oes ond 70 y cant ohonynt yn disgrifio eu hunain fel bod mewn iechyd da, o'i gymharu â 81 y cant yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol.
Yn eich datganiad, rydych yn iawn i ddweud ein bod ni'n dymuno adlewyrchu'r amrywiaeth o ddiwylliannau ac ethnigrwydd. Pa ystyriaeth, wrth edrych yn ôl, ydych chi wedi'i rhoi i adroddiad 2006 Pat Niner ar anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru? Credaf mai Jane Hutt wnaeth ei lansio, fel y cofiaf, yn Llandrindod, a fi oedd yr unig AC a oedd yn bresennol i'w gwylio yn gwneud hynny. Ond yn ogystal â llawer o'r materion a amlygir gennych, roeddent yn nodi hefyd fod y cymunedau amrywiol hynny yn teithio dros ardaloedd daearyddol penodedig nad oeddent yn cyfateb i ffiniau y mae'r gweddill ohonom yn byw yn eu hôl, boed y rheini'n ffiniau sirol neu'n ffiniau cenedlaethol. Felly, pa ystyriaeth a roesoch wrth i chi ddatblygu dull gweithredu gyda'r cymunedau eu hunain a'r gwahanol awdurdodau ar draws y ffiniau, er mwyn iddynt allu cytuno a chyflawni anghenion y cymunedau ar y cyd, sydd, drwy ddiffiniad, yn symud o gwmpas yr ardal honno?
Rydych yn cyfeirio at fwy o ddisgyblion o'r cefndiroedd hyn ar gofrestrau ysgolion nag erioed o'r blaen. Rwy'n meddwl fy mod i wedi codi gyda chi o'r blaen y pryder a godwyd dros ysgol uwchradd John Summers yn Sir y Fflint, pan nododd y gymuned Sipsiwn a Theithwyr lleol nad oedd eu barn wedi cael ei hadlewyrchu yn y ddogfen ymgynghori a arweiniodd at gau'r ysgol, ac yn yr achos hwnnw, hi oedd yr unig ysgol bron yn y rhanbarth a oedd wedi datblygu ymddiriedaeth gyda'r gymuned honno. Daethant yn rhan o'r un gymuned ehangach. Roedd y plant yn dod i'r ysgol, yn llwyddo yn eu harholiadau, yn gwneud yn dda, yn cyflawni, a dywedodd y gymuned eu hunain y gallai hynny gael ei beryglu, y byddai hynny'n cael ei beryglu pe byddai'r ysgol yn cau, a chau y gwnaeth. Yn y dyfodol, o bosibl mewn trafodaeth â'ch cyd-weithiwr yr Ysgrifennydd addysg, pa ystyriaeth ydych chi'n mynd i'w rhoi i gyflwyno neu weithredu mesurau i atal hyn rhag digwydd eto a sicrhau bod y gymuned yn cael llais canolog pryd y gellir effeithio arnynt mewn ffordd mor gritigol?
Yn 2017, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr'. Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan rai a ymatebodd i hwnnw, yn dweud bod y cynllun yn rhy eang, heb ddigon o gamau yn gallu dangos tystiolaeth o sut y gellid eu cyflawni yn realistig, gydag un ymatebydd yn dweud nad oedd y cynllun yn newydd ond yn gasgliad o gamau gweithredu o gynlluniau eraill sydd eisoes yn bodoli, i ymgynghoriad Tros Gynnal Plant, pan ddywedodd ymatebwyr fod y cynllun newydd yn syniad da, ond eu bod dal heb eu hargyhoeddi y byddai strategaethau o'r fath mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau bob dydd, a lansio dogfen 'Teithio at Iechyd Gwell' yn 2017 i gynyddu hyder yn y system iechyd, pan ganfuwyd bod ymatebwyr mewn un bwrdd iechyd lleol wedi derbyn triniaeth wahaniaethol, gan gynnwys methu â sicrhau apwyntiad ar alwad â'u meddyg teulu, a bydwragedd yn peidio ag ymweld â safle ar gyfer archwiliadau cynenedigol?
Yn amlwg, rydych chi'n gyfarwydd iawn â sefyllfa Bangor Back Lane yng Nghonwy, y mae'r ddau ohonom wedi ymweld â hi, ac mae eich ymyriad wedi eu helpu i gymryd camau ar y ffens lliniaru sŵn. Ond maen nhw wedyn hefyd wedi ysgrifennu at eich cyd-weithiwr, yr Ysgrifennydd economi a thrafnidiaeth, ynghylch wyneb y ffordd. Maent yn deall efallai na fydd hyn yn cael ei gwblhau tan mor hwyr â mis Hydref 2022. O ganlyniad, oherwydd eu bod yn credu bod y Cyngor wedi torri addewidion ar adeg pan ddarparwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru, maent yn dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol gan sŵn a straen, gan gael triniaeth ysbyty fel cleifion mewnol mewn rhai achosion. Ac maent wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cynllun manwl o'r camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y mater er boddhad y trigolion. Dwi ddim yn gwybod p'un a ydych chi'n ymwybodol o hynny ai peidio, ond os ydych, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi; os nad ydych chi, byddwn yn ddiolchgar pe gallech fynd ar drywydd hynny.
A'r pwynt olaf yr oeddwn i am ei godi—mae'n rhywbeth sydd wedi cael sylw—a byddaf yn rhoi enghraifft yn Sir y Fflint, er nad yw'n unigryw i Sir y Fflint. Yn 2011, yn sgil rhwymedigaethau i ddiwallu'r angen am safleoedd llety Sipsiwn a Theithwyr, rhoddwyd caniatâd cynllunio dros dro am bum mlynedd ar gyfer safle, oherwydd sicrwydd a roddwyd i'r arolygydd cynllunio gan Gyngor Sir y Fflint, y byddai, o fewn cyfnod hwnnw, yn diwallu'r angen hwnnw am lety. Ond oherwydd na chafodd yr angen ei ddiwallu, rhoddodd Sir y Fflint ganiatâd dros dro eto am bum mlynedd arall, er y cydnabyddir yn eang nad yw'r safle yn addas i fod yn safle parhaol, yna, wedyn, cafodd y caniatâd cynllunio dros dro ei ddiddymu yn y llys oherwydd bod Sir y Fflint wedi methu â chyflawni ei chyfrifoldeb i ddarparu darpariaeth amgen yn unol â'r ddeddfwriaeth. Felly, mewn amgylchiadau o'r fath, pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd? Wn i ddim a allwch chi wneud sylw ar yr achos unigol hwn, ond sut y gallwch chi ddylanwadu ar y sefyllfa pan mae'n ymddangos bod rhywbeth wedi mynd o'i le cymaint hyd nes iddynt orfod mynd at y llys am benderfyniad, a hynny ddwywaith?
Wel, ie, diolch i chi am y gyfres honno o sylwadau; byddaf yn gwneud fy ngorau i ymdrin â hwy. O ran pwerau Llywodraeth Cymru, nid oes gennym bwerau i ymyrryd yn y ffordd honno, ond gwn fod Mark Isherwood yn ymwybodol fy mod yn ymweld â phob awdurdod lleol a safle o amgylch Cymru, ac rwyf eisoes wedi cael un drafodaeth â Sir y Fflint. Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw datblygu cynllun gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod safleoedd yn cael eu datblygu y gallwn ni helpu i'w hariannu, trwy ein rhaglen grant cyfalaf ac ati. Felly, rydym yn cynnal sgwrs, ond nid oes gennym ni bŵer uniongyrchol i'w cyfarwyddo, er enghraifft. Ac nid wyf yn siarad yn benodol am yr awdurdod hwnnw, ond unrhyw awdurdod. Felly, rydym yn gweithio llawer gydag awdurdodau lleol i nodi safleoedd addas, ac mae hynny'n fy arwain i at y pwynt am rwydwaith o safleoedd tramwy. Rydym yn awyddus iawn i weld rhwydwaith o safleoedd tramwy yn datblygu ledled Cymru erbyn 2021. Mae gennym bum ardal a nodwyd ag angen am safleoedd tramwy ac rydym yn awyddus i weld y rhain yn cael eu datblygu i gefnogi ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr, gan osgoi gwersylloedd amhriodol. Mae'r Aelod yn llygad ei le—rydym yn gwybod beth yw'r trefniadau teithio daearyddol ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau ar hyd y ffyrdd dan sylw i wneud yn siŵr y gallwn gael y canlyniad gorau ar gyfer hynny, ac rydym yn cynllunio trafodaethau ar draws y ffin, oherwydd, wrth gwrs, mae llawer o deuluoedd yn croesi rhwng Cymru a Lloegr, ac, yn wir, mae rhai teuluoedd yn symud i fyny i'r Alban ac ar draws i Iwerddon hefyd. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i ddatblygu system safle tramwy.
Rydym newydd ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar adolygiad o ddeddfwriaeth gwersylla diawdurdod. Roeddwn ychydig yn siomedig â chywair yr ymgynghoriad hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, ond rydym yn disgwyl canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw cyn ailystyried a yw ein canllawiau rheoli ar wersylla anawdurdodedig yn dal yn addas at eu diben, a byddwn yn edrych i ailgyhoeddi hwnnw, gyda golwg, fel y dywedaf, ar hwyluso ffordd o fyw gan wneud yn siŵr nad yw gwersylloedd amhriodol, a allai fod yn niweidiol i feddianwyr a'r amgylchoedd, yn cael eu goddef. Ond nid yw hynny'n wir am bob gwersyll, a lle mae safleoedd tramwy yn cael eu creu, nid yw bob amser yn gymesur neu'n angenrheidiol i adleoli gwersylloedd eraill, felly rydym am ddatblygu system sy'n galluogi ystyriaeth briodol o hawliau pob aelod o'r gymuned ac yn sicrhau y gellir datrys materion yn ymwneud â gwersylloedd gyda dyngarwch cyffredin a chysondeb. Felly, fel y dywedaf, Dirprwy Lywydd, roeddwn ychydig yn bryderus am gywair ymgynghoriad diweddar y DU, ond rydym wedi ymateb i ddweud hyn. Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb brwd iawn yn hynny.
Rydym hefyd wedi bod yn ymwybodol iawn o'r trefniadau addysg. Rydym yn edrych i wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol, wrth ystyried eu dyletswyddau, yn ystyried materion o'r fath, yn y pen draw. Mae cau ysgolion yn fater i'r awdurdod lleol, ond mae'r canllawiau yn cynnwys pwyslais ar drefniadau GIG ac addysg. Yr hyn yr ydym ni'n chwilio amdano yw hyblygrwydd yn y trefniadau, oherwydd gyda ffordd deithiol o fyw, yn amlwg efallai y bydd angen i chi fynychu nifer o wahanol sefydliadau, yn hyblygrwydd hefyd ar gyfer y rhai sydd yn byw ar leiniau mwy sefydledig. Felly, mae amrywiaeth o ganlyniadau yr ydym yn gobeithio eu cael yn hynny o beth.
O ran Back Bangor Lane, do'n wir fe wnes i ymweld â'r safle, a gwn fod yr Aelod yn ymwybodol o hynny. Rwy'n ymwybodol o'r mater yn ymwneud ag wyneb newydd ar y ffordd ac rwy'n siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch beth y gellir ei wneud am hynny—mae'n faes cymhleth iawn, fel y gwn y mae'r Aelod yn gwybod—i wneud yn siŵr y cawn yr ymateb cyflymaf posibl i’r sŵn ffyrdd y mae'n tynnu sylw ato.
Diolch am y datganiad. Rydw i wedi cael cipolwg sydyn ar y cynllun 'Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr', ac rydw i yn eich llongyfarch chi ar rai agweddau o'r cynllun, gan ei fod o yn cynnwys gweithredu penodol ac amserlenni, yn enwedig o ran darparu safleoedd. Yn amlwg, mae yna gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwnnw. Yn y cynllun, rydych chi'n dweud hyn:
'rydym wedi gyrru ymlaen gan roi mwy o ffocws ar ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Mae hyn yn adlewyrchu dealltwriaeth fod llawer o broblemau eraill a brofir gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn codi o ddiffyg mynediad at lety priodol'.
Rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi yn hynny o beth. Mae yna dystiolaeth bod awdurdodau lleol wedi ymateb i'r her o greu lleiniau newydd a hefyd wedi adnabod safleoedd yn eu cynlluniau datblygu lleol—dim gwaith hawdd, wrth gwrs, yn rhannol yn sgil agweddau a rhagfarnau cyhoeddus, ac mae'r cynghorau i'w llongyfarch, ar y cyfan, ar eu hymdrechion.
Buaswn i'n licio cael eich barn chi am bwysigrwydd dylunio'r lleiniau a'r safleoedd yma yn briodol. A ydych chi'n cytuno efo fi fod angen gwneud hynny mewn ffordd fwriadus, ar y cyd efo'r gymuned, er mwyn ymateb i rai o'r prif heriau sy'n wynebu'r gymuned? Rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig bod buddsoddiad digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer creu'r llefydd newydd, gan y gall hynny fod yn fwy cost-effeithiol yn y pen draw, gan arbed arian i wasanaethau cyhoeddus.
Felly, wrth ystyried safleoedd newydd, a hefyd uwchraddio safleoedd, mae'n bwysig rhoi ystyriaeth i'r dylunio, achos, er enghraifft, mae dylunio bwriadus yn gallu mynd i'r afael efo problemau iechyd gwael ymhlith y gymuned yma. Mae'r gymdeithas yma, fel y gwyddoch chi, bum gwaith mwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd o'i chymharu â'r gymdeithas yn gyffredinol. Ond efallai mai prin ydy'r dystiolaeth bod cyfleusterau ar y safleoedd yn cael eu dylunio fel bod modd, er enghraifft, cynnal clinigau ar y safleoedd eu hunain, a byddai hynny, o gael llefydd addas ar gyfer ymweliadau gan weithwyr iechyd, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i gynnal brechiadau ar gyfer babanod—un enghraifft, mewn ffordd, o beth fyddai'n gallu digwydd mewn clinig ar safle, a hefyd o ran cyfleusterau addysg, yn enwedig ar rai o'r safleoedd mwy.
Mae eich cynllun chi yn dweud bod angen sicrhau bod pob safle presennol yn gwbl addas i’r pwrpas. Buaswn i'n dadlau, felly, fod angen uwchraddio llawer o'r safleoedd presennol. Yn fy mhrofiad i o ymweld ag un neu ddau o safleoedd parhaol, mae'r cyfleusterau ymhell o fod yn addas. Yn aml, mae'r lleiniau yn rhy agos at ei gilydd, nid ydy'r cyfleusterau ymolchi a'r toiledau yn ddigonol nac yn safonol, ac nid oes llecynnau chwarae addas ar gyfer y plant.
Felly, mae'n amlwg bod llawer o'r ffocws wedi bod, cyn belled, ar greu llety addas, ac mae hynny'n hanfodol, wrth gwrs, ond rydw i hefyd yn credu bod angen, rŵan, symud ymlaen i roi sylw i rai o'r prif broblemau: cyflogaeth a sgiliau, iechyd ac addysg. Ac efallai nad ydy'r cynllun mor glir nac mor uchelgeisiol ac y gallai o fod yn y meysydd hynny.
O ran cyflogaeth a sgiliau, mae sôn bod angen i gynlluniau presennol y Llywodraeth gynnig gwasanaethau i'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond rhaid cofio bod y gymuned hon yn wynebu rhwystrau gwahanol i drwch y boblogaeth, ac efallai bod angen cynlluniau wedi eu teilwra yn fwy penodol ar eu cyfer nhw.
O ran addysg, rydw i'n sylwi yn y cynllun nad oes yna set o weithredoedd penodol er mwyn cynyddu cyflawniad y plant a'r bobl ifanc. Mae yna weithredoedd ynglŷn â thaclo bwlian a dysgu Saesneg, sydd, wrth gwrs, yn bwysig, ond mae angen pwyslais ar godi disgwyliadau a gwell cyflawniad hefyd, efallai yn enwedig ymhlith y merched yn y gymuned yma. Felly, tra fy mod i'n eich llongyfarch chi ar rai agweddau o'r cynllunio, a gaf i ofyn cwestiwn fel hyn ar y diwedd: a ydych chi'n cytuno, wrth symud ymlaen, fod angen mwy o waith a mwy o uchelgais ar y rhannau o'r cynllun sydd yn delio efo addysg, iechyd, cyflogaeth a sgiliau, ac y dylid gosod mwy o bwyslais ar yr agweddau yma i'r dyfodol?
Mae Siân Gwenllian yn cyfleu'n gywir gymhlethdod rhai o'r materion a wynebir gan y gymuned, a cheir pwyslais ar safleoedd da, llety, safleoedd tramwy a chynnal ffordd o fyw, gan hefyd gynnig y gweddusterau i bobl sy'n hanfodol ar gyfer bywyd dynol. Rwyf am bwysleisio, Dirprwy Lywydd, fod ein grantiau cyfalaf ar gael i uwchraddio safleoedd hŷn â blociau amwynderau llai, er enghraifft. Hefyd hoffwn ddweud diolch yn fawr i holl aelodau'r teuluoedd o'r gymuned hon sydd wedi fy nghroesawu i'w cartrefi â breichiau agored a'r lletygarwch mwyaf anhygoel i drafod rhai o'r materion hyn. Mae'r blociau amwynderau newydd yn fwy o lawer, yn aml mae ganddynt ystafelloedd dydd ac ati sy'n gysylltiedig â hwy, felly rwyf am bwysleisio unwaith eto, fel yr ydym wedi'i wneud, i bob awdurdod lleol, fod yr arian uwchraddio ar gael drwy grantiau cyfalaf. Rydym, wrth gwrs, yn ymgynghori â'r cymunedau ynglŷn â beth y maen nhw ei eisiau a sut y mae hynny'n gweithio, felly mae hynny'n bwysig iawn.
Hefyd rydym yn sicrhau bod holl egwyddorion cydraddoldeb a thegwch yn parhau i fod yn ganolog i gyflawniad ein cynlluniau eraill, y mae hwn yn eu hategu, felly derbyniaf bwynt Siân Gwenllian am gyflogadwyedd a sgiliau, er enghraifft, a rhai o'r materion eraill a godwyd ganddi. Fe fydd yn ganolog i'n cynllun cyflogadwyedd newydd ein bod yn hyrwyddo ystyriaeth o anghenion yr holl grwpiau gwarchodedig, a byddaf yn trafod â'm cyd-Weinidogion ynghylch y ffordd orau i sicrhau bod hynny wedi'i wneud, a hefyd ein bod yn ariannu cynlluniau cyflogadwyedd yn benodol mewn cymunedau sydd â lefelau penodol o angen, fel eu bod yn cael eu teilwra mewn ffordd benodol, oherwydd bod gan y gymuned hon ofynion penodol iawn. Rwyf hefyd yn falch bod y cynllun newydd yn golygu y bydd Busnes Cymru yn gallu cefnogi'r cymunedau hyn i sefydlu eu busnesau eu hunain, sef yn aml iawn yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud mewn gwirionedd.
Rwyf am bwysleisio dau beth arall a gododd yng nghyfraniad Siân Gwenllian. Dwi wedi cael llawer o sgyrsiau gyda phobl ifanc hefyd ar y safleoedd hyn, ac mae'r mater o ardaloedd chwarae yn codi. Ac, unwaith eto, Dirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio i awdurdodau lleol, er fy mod yn gwybod eu bod yn ymwybodol, ond mae'n werth ei ailddatgan, y gellir defnyddio grant cyfalaf i uwchraddio pethau fel cyfleusterau chwarae ac ati. Ond rydym hefyd yn awyddus nad ydym yn creu set o amwynderau hollol ar wahân. Felly, pan mae ardal chwarae addas ar gyfer safle penodol gerllaw, rydym am sicrhau bod llwybrau mynediad diogel at yr ardal chwarae honno, a llwybrau mynediad diogel i ysgolion ac ati, fel nad ydym ni yn gwneud y cymunedau yn ynysig chwaith, oni bai bod diffyg cyfleusterau chwarae o fewn cyrraedd rhesymol.
Pwysleisiwyd i mi hefyd fod canlyniadau anfwriadol, weithiau, i rai o'n polisïau eraill ynghylch llwybrau mwy diogel i ysgolion ac ati, ac rydym yn gweithio'n galed iawn ar y materion gyda'r cymunedau dan sylw, oherwydd gwyddom, yn achos cymuned sy'n wynebu rhwystrau, fod angen inni weithiau wneud yn siŵr bod pob rhwystr y mae modd i ni ei reoli mor fach â phosibl, er mwyn sicrhau cyfranogiad parhaus mewn addysg a sgiliau a hyfforddiant ac ati. Felly, mae'n faes cymhleth, ac mae dymuniadau a dyheadau'r cymunedau yr ydym yn ceisio eu helpu wrth wraidd ein cynllun.
Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ, ac am gyhoeddi eich cynllun newydd. Rhaid imi ddweud cyn dechrau fy mod bob amser wedi cael llawer iawn o gydymdeimlad â Theithwyr, Sipsiwn, Roma a chymunedau eraill o'r fath—credaf eu bod wedi eu trin yn wael iawn dros y blynyddoedd. Mae Llywodraethau olynol wedi gwneud eu ffordd o fyw yn amhosibl bron, drwy ddileu safleoedd traddodiadol, cael gwared ar dir comin, a'u dwyn i wrthdaro â'r cymunedau y maent yn teithio drwyddynt ac y maent am ymgartrefu dros dro ynddynt. Felly, rwy'n croesawu eich ymdrechion i gefnogi'r cymunedau hynny a hwyluso'r dull hwnnw o fyw.
Yn y pen draw, rydym yn dymuno cefnogi dewisiadau unigol pobl—cyn belled nad ydynt yn niweidio neb arall—ac rwy'n credu, wyddoch chi, fod y cymorth yr ydych chi'n ceisio ei gynnig i'r Teithwyr a Sipsiwn yn gymeradwy, yn enwedig yr ymgais i ddarparu safleoedd gwersylla ar eu cyfer, a mannau aros yn y gaeaf ar gyfer siewmyn ac ati.
Rwyf hefyd yn falch o weld pwyslais bwriadedig ar gael dull sy'n canolbwyntio ar unigolion. Efallai fod y cymunedau hyn ar wahân yn gyffredinol i eraill, ond mae pob cymuned yn cynnwys unigolion sydd â'u hanghenion penodol eu hunain, felly rwy'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny.
Rwyf hefyd yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn sôn am integreiddio Sipsiwn, Roma a chymunedau Teithwyr eraill. Fel y dywedais, mae gweithredoedd Llywodraethau ac awdurdodau lleol dros y blynyddoedd wedi llwyddo i rannu'r cymunedau hynny oddi wrth eraill, ac mae popeth y gellir ei wneud i integreiddio'r ddau, i gael y cymunedau gwahanol hyn yn siarad â'i gilydd, yn cydweithredu â'i gilydd ac yn deall ei gilydd yn well i bawb, felly croesawaf eich amcan o integreiddio. Ond a allwch chi roi manylion am y gwaith a gaiff ei wneud i feithrin cysylltiadau rhwng y cymunedau Teithwyr a phobl leol?
Nodaf fod y cynllun mwyaf newydd yn disodli'r un a gyhoeddwyd yn 2011. A all arweinydd y tŷ grynhoi'r gwersi a ddysgwyd o weithredu'r cynllun blaenorol? Beth oedd llwyddiannau'r cynllun hwnnw? Beth oedd y methiannau? A sut ydych chi'n adeiladu ar y profiad hwnnw ar gyfer y cynllun newydd hwn, a beth ydych chi'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol? Dywed arweinydd y tŷ y bu'r cynnydd yn arafach nag y byddai hi wedi'i ddymuno. O ble'r ydych chi'n meddwl y mae'r rhwystrau hyn i gynnydd yn dod? Pa fesurau ydych chi'n eu cymryd, ar y cyd ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg a'r gwasanaeth iechyd, i oresgyn y rhwystrau hynny a chyflawni'r amcanion clodwiw iawn o'r cynllun diwethaf a'r un newydd hwn?
Ac yna, gan droi at gyfleoedd addysgol plant o gymunedau Teithwyr, Roma a Sipsiwn, sylwaf eich bod yn cyfaddef—mae'n debyg y byddai pawb yn cytuno â chi—fod perfformiad y plant hyn yn dal i lusgo ar ôl plant eraill ac nid yw hynny'n dderbyniol. Un peth yw nodi hyn, ond nid yw'n broblem newydd, a thynnwyd sylw ati yn flaenorol. Gwnaed addewidion i roi sylw i'r broblem, ond pa fesurau ymarferol fyddwch chi'n eu rhoi ar waith yn awr i annog ymgysylltiad ag addysg a phresenoldeb yn yr ysgol, yn enwedig ar gyfer merched o gymunedau Teithwyr a Roma? Hynny yw, weithiau mae ar y merched angen help ychwanegol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Rydych chi wedi amlygu rhai o'r cymhlethdodau o ran ymdrin ag amrywiaeth o bobl sydd â gwahanol ffyrdd o fyw, disgwyliadau gwahanol a chanlyniadau gwahanol y mae pob cymuned benodol yn dymuno eu cael. Byddaf yn ceisio ymdrin â rhai o'r rheini.
Dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i Siân Gwenllian—mae Michelle Brown wedi cyffwrdd â'r peth hefyd—fod llawer o'r cymunedau hyn mewn gwirionedd yn dymuno datblygu eu safleoedd eu hunain, ac felly rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r adrannau cynllunio ac awdurdodau lleol i hwyluso hynny, lle bo'n bosibl. Felly, er y ceir safleoedd a ddarperir gan awdurdodau lleol, mae llawer o aelodau o'r gymuned yn awyddus i ddatblygu eu safleoedd eu hunain, ac rydym wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau hynny.
Gwnaethoch ofyn am rai o'r rhwystrau, ac fe wnes i sôn am safleoedd tramwy. Cafwyd anawsterau penodol wrth ddatblygu safleoedd tramwy oherwydd ffiniau awdurdodau lleol, sy'n arbennig o broblematig mewn rhai ardaloedd. Felly, rydym ni'n gweithio'n galed iawn gydag amrywiaeth o awdurdodau lleol ac, fel y nododd Mark Isherwood, ar hyd llwybrau tramwy hysbys i wneud yn siŵr y gallwn roi hynny ar waith, ond mae hynny wedi bod yn arafach nag y byddem wedi'i ddymuno. Rydym yn rhoi pwyslais o'r newydd ar hynny.
O ran rhai o'r pethau eraill, rydym yn gweithio yn galed iawn ar gyfer cynhwysiant ac i ddatblygu ffyrdd gwahanol o weithio fel, os oes gennych rywun â ffordd deithiol o fyw, yna mae gennych ffyrdd hyblyg o sicrhau eu bod yn aros mewn cysylltiad. Felly, rydym yn ystyried ffyrdd y gallwn ni wneud hynny, i sicrhau y gallwn ni dderbyn plant yn gyflym i ysgolion lleol, er enghraifft, neu i feddygfeydd, ac rydym yn gweithio yn galed iawn ar hynny.
Dirprwy Lywydd, rwy'n meddwl ei bod yn eithriadol o bwysig hefyd, fel y crybwyllodd Michelle Brown, i ddweud ein bod yn gwybod bod llawer o Sipsiwn a Theithwyr yn dal i wynebu lefel o droseddau casineb a gwahaniaethu eraill, sydd yn gwbl annerbyniol, ac rwyf eisiau annog unrhyw un yr effeithir arnynt gan droseddau casineb i adrodd amdano a cheisio cymorth drwy gysylltu â'u heddlu lleol ar 101, neu 999 os yw'n argyfwng; ac i dynnu sylw at y ffaith ein bod yn ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru er mwyn darparu cymorth emosiynol, ymarferol ac eiriolaeth ar gyfer unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan unrhyw un o'r materion hynny.
Rydym hefyd yn ariannu, fel y gofynnodd Michelle Brown, y prosiect Teithio Ymlaen i roi cymorth i Sipsiwn a Theithwyr dan dair thema ar wahân, ac un ohonynt yw gwrth-wahaniaethu. Teithio Ymlaen yw'r ganolfan adrodd trydydd parti i gefnogi Sipsiwn a Theithwyr i feithrin hyder i adrodd am y troseddau y maent yn eu profi yn y modd hwn. Rydym hefyd yn ariannu wyth cydgysylltwr cydlyniant cymunedol rhanbarthol ledled Cymru, mae eu cynllun gwaith yn cynnwys ystyried cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac maent yn cydgysylltu cymorth ar gyfer dealltwriaeth y cyhoedd o faterion yn ymwneud â datblygu safleoedd. Maent yn cynhyrchu deunyddiau sy'n chwalu'r mythau ac yn darparu hyfforddiant i aelodau etholedig mewn awdurdodau lleol, sy'n edrych ar gynlluniau i gefnogi cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ, am eich datganiad. Rwy'n meddwl ei bod yn galonogol iawn clywed ein bod ni wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y cynllun hwn, oherwydd credaf ei bod yn un eithriadol o bwysig. Fel y dywedwch, mae hwn yn brawf litmws gwirioneddol o p'un a ydym yn gymdeithas wâr ai peidio. Dywedwch hefyd yr ystyrir mai gwahaniaethu yn erbyn y cymunedau hyn yw'r ffurf dderbyniol olaf o hiliaeth, ac yn amlwg mae angen inni fynd i'r afael â hynny.
Mae gennyf ddiddordeb eich clywed chi'n annog pobl i ddweud wrth yr heddlu am unrhyw wahaniaethu a ddioddefant. Cefais fy ysgwyd braidd i ddarllen am arolwg a wnaed gan y mudiad Teithwyr yn ddiweddar, gyda gwahanol heddluoedd, am yr agweddau ymysg rhai heddluoedd a'r diffyg sylw dyledus ar gyfer eu dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus mewn perthynas â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae'r arolwg hwn a materion eraill sydd wedi cael eu datgelu yn mynd i gael eu cyflwyno i Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ddydd Gwener. Does gen i ddim syniad a oes unrhyw un o heddluoedd Cymru yn cymryd rhan, ond yn amlwg, pe byddai unrhyw achosion sy'n peri pryder, byddai angen i ni nodi hynny. Mae'n arbennig o bwysig ar hyn o bryd, pan fo Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu haflonyddu ar draws Ewrop, yn enwedig, yn anffodus, yn yr Eidal yn fwyaf diweddar, lle y mae yna hyd yn oed ymdrechion i lanhau ethnig, sy'n beth cythryblus iawn.
Hoffwn droi yn awr at y pwyntiau pwysig yr ydych yn eu gwneud ynghylch sicrhau bod Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn gwneud yn dda mewn addysg, oherwydd rwy'n cofio bod y cyflawniad ymhlith Sipsiwn a Theithwyr yn waeth o lawer nag unrhyw grŵp lleiafrifoedd ethnig arall. Rwyf am dynnu sylw at y gwaith rhagorol a wneir yn Ysgol Uwchradd Cathays, sydd mewn gwirionedd yn etholaeth Julie Morgan, ond mae yn ymyl fy un i, ac mae llawer ohonynt yn byw mewn gwirionedd yng Nghaerdydd Canolog. Mae Patrik Bandy yn Roma o'r Weriniaeth Tsiec, a ymunodd ag ysgol uwchradd Cathays ym mlwyddyn 8. Cyflawnodd ef A ac A* mewn celf a dylunio a thecstilau TGAU. Yna aeth ymlaen i gymryd tair lefel A, ac yna roedd prifysgolion niferus eisiau rhoi lle iddo oherwydd rhagoriaeth ei waith. Mae newydd orffen ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac mae eisoes wedi cynnal sioeau ffasiwn, ac yn amlwg mae'n mynd i fod yn rhywun yr ydym yn mynd i glywed amdano yn y dyfodol.
Yn ail, mae Cynthia Kandurova yn Roma o'r Weriniaeth Tsiec sydd yn rhagori ar hyn o bryd mewn lefel A Saesneg yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gobeithio darllen llenyddiaeth Saesneg yn y Brifysgol yn y dyfodol. Credaf fod hyn yn adlewyrchu'r gwaith gwych a wneir gan athrawon yn Ysgol Uwchradd Cathays, gyda chefnogaeth y grant lleiafrifoedd ethnig. Felly, tybed pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynghylch parhau â'r grant cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig, oherwydd credaf ei fod yn bwysig iawn, iawn—yn arbennig os oes gennym ni'r disgyblion yn dod i mewn yn ystod y flwyddyn, mae angen inni roi cymorth ychwanegol iddynt i sicrhau eu bod yn ymgartrefu yn eu sefydliad addysg.
Hoffwn ofyn a oes unrhyw awdurdodau lleol sydd yn gwrthsefyll sefydlu safleoedd newydd ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma, a Theithwyr, oherwydd rwy'n cofio cael sgyrsiau â Carl Sargeant am hyn pan oeddem yn pasio deddfwriaeth berthnasol, ac roedd yn gwbl bendant bod angen inni sicrhau bod safleoedd ym mhob awdurdod lleol, nid dim ond y rhai da—ym mhob awdurdod lleol.
Ie, diolch am y gyfres graff honno o gwestiynau. Rydym yn ymwybodol o effaith bosibl Brexit ar hawliau a statws Roma o aelod-wladwriaethau eraill yr UE, ac yn amlwg rydym yn gweithio i ddeall yn well beth yw cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyfleu gwybodaeth am y broses statws preswylydd sefydlog i gymunedau penodol, oherwydd mae'r rhain yn gymunedau sy'n ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth o'r math cywir beth bynnag. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael inni i sicrhau bod y negeseuon hynny wedi mynd allan a bod pobl yn cael cymorth i wneud cais am statws fel y mae'n ofynnol iddynt wneud. Ond yn amlwg, hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'n union sut y bydd y system statws preswylydd sefydlog yn gweithio, mae potensial ar gyfer negeseuon anfwriadol ddryslyd ac mae llawer yn y gymuned yn amheus o negeseuon dryslyd gan swyddogion, beth bynnag. Felly, byddwn eisiau gweithio'n galed iawn yn wir i wneud yn siŵr ein bod yn cydnabod y cyfraniadau a wnaed gan ddinasyddion o aelod-wladwriaethau eraill yr UE, eu bod yn sicrhau'r statws, ac rydym yn dymuno iddynt aros yma a ffynnu gyda ni. Felly, rydym am wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei alluogi cymaint â phosibl.
O ran addysg, rydym wedi darparu arian ychwanegol eleni. Yn amlwg bu rhai problemau ynglŷn â hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei dargedu mewn ffordd, ond dyma'r anhawster a'r sgwrs barhaus ynghylch cyllid sydd wedi'i neilltuo a heb ei neilltuo. Rydym yn dymuno i'n hawdurdodau lleol allu ymateb i anghenion eu hardaloedd, ac mae dadl hir a chymhleth am sut y mae awdurdodau lleol yn gwneud hynny. Ond rydym wedi darparu £8.7 miliwn y flwyddyn ariannol hon i helpu gyda hynny, ac rydym yn sicr yn gweithio'n galed iawn gyda chydweithwyr, Rebecca Evans yn benodol, ar wneud yn siŵr bod gennym y canllawiau cywir ar waith i gefnogi'r bobl fwyaf ymylol sy'n cael budd o'r holl grantiau hynny.
Ceir cyfres gyfan o faterion eraill ynglŷn â Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf tai wedi bod yn allweddol wrth gymell awdurdodau lleol ac rydym ni'n falch iawn ohoni, ond mae problemau ynghylch, os nad oedd awdurdod lleol yn nodi unrhyw angen yn ei ardal oherwydd nad oes ganddo boblogaeth sefydlog o Sipsiwn, Teithwyr neu Roma, yna a oes rhai o'r materion yn ymwneud â safleoedd tramwy i'w hystyried wedyn. Fel y dywedais, mae ôl-ddoethineb yn beth rhyfeddol, felly rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i oresgyn rhai o'r materion hynny. Ond ar hyn o bryd, mae gennych ddyletswydd os oes angen cydnabyddedig, felly rydym yn gweithio ar draws Cymru i sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu nodi'n gywir ac mae gennym y grant cyfalaf i gynorthwyo â datblygu'r safleoedd hynny.
Fel y dywedais, rwyf eisoes wedi sôn am y gweithwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol, ac roeddwn eisiau talu teyrnged i rai o'r bobl sydd wedi gweithio'n galed iawn gyda dysgwyr Sipsiwn, Roma, Teithwyr. Rydym yn gwybod bod cyrhaeddiad yn dal i lusgo ar ei hôl hi, ond hoffwn dalu teyrnged i'r gweithlu sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed i ennyn diddordeb y gymuned ac i gael y merched ifanc yn arbennig i gymryd rhan yn y broses ddysgu. Cyfarfûm gyda Julie Morgan, y diwrnod o'r blaen, â set o ddysgwyr ifanc nad oeddent yn sicr yn swil o leisio rhai o'u pryderon. Roedd yn bleser gwirioneddol, felly mae'n hyfryd clywed yr enghreifftiau a roesoch o beth y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.
Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau ei hymrwymiad i wneud Cymru yn gymdeithas gyfartal i bawb, gan gynnwys y rhai mwyaf ymylol, fel y dywedodd arweinydd y tŷ. Roeddwn yn arbennig o falch eich bod wedi dechrau eich datganiad drwy gydnabod yr ysbryd entrepreneuraidd cryf sydd gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a'r safbwyntiau gwahanol, a'r ffaith y ceir amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau ac ieithoedd.
Credaf ei bod yn iawn i gynnwys Roma yn y strategaeth hon. Nid wyf yn gwybod p'un a ydych chi'n gallu dweud mwy am y trafodaethau yr ydych wedi'u cael ynghylch hynny, oherwydd gwn ei fod yn fater cymhleth.
Croesawaf hefyd y gwaith i ddatblygu safleoedd a'r arian sy'n mynd i gael ei roi i mewn, a chroesawaf y diogelwch o ran deiliadaeth a'r cynigion ar gyfer safleoedd tramwy. Rwyf hefyd yn falch bod arweinydd y tŷ yn dweud bod y Llywodraeth am fod yn fwy cymesur ynghylch datrys materion yn ymwneud â gwersylloedd anawdurdodedig. Cefais lythyr gan ferch ifanc, 15 mlwydd oed, Sipsiwn/Teithwyr. Dwi ddim yn gwybod a anfonodd lythyr at arweinydd y tŷ yn ogystal, ond roedd yn llythyr llawn teimlad. Mae hi'n dweud sut y caiff miliynau eu gwario yn symud teithwyr o safleoedd anghyfreithlon yn hytrach na'i wario'i ar addysg. Dywed 'A ydych chi'n credu y byddem yn byw ar diroedd anghyfreithlon pe byddem yn cael ein haddysgu, yn hytrach na chael ein labelu yn dramp, gyppo, pikey a lleidr cyn i chi hyd yn oed wybod pwy ydym a cheisio ein deall?' Rhan o'i llythyr oedd hwnnw, a chredaf, os ydych yn edrych arno o safbwynt plentyn, person ifanc, ac yn gweld y swm o arian sy'n cael ei wario ar symud pobl yn eu blaenau—. Felly, rwy'n falch eich bod wedi dweud eich bod chi'n mynd i annog awdurdodau lleol i ymateb mewn ffordd fwy cymesur.
Felly, credaf fod yna gynnydd, sy'n wych, ond mae'n amlwg bod meysydd o bryder hefyd. Ceir pryderon am y canlyniadau iechyd gwael a grybwyllwyd eisoes. Yn y grŵp trawsbleidiol a gadeiriaf, rydym wedi clywed llawer o enghreifftiau o Sipsiwn a Theithwyr yn wynebu rhagfarn, mewn gwirionedd, pan maent yn ceisio cael mynediad at ofal iechyd, felly credaf fod llawer mwy i'w wneud yn y maes hwnnw. Ond mae'n gwbl hanfodol, yn fy marn i, fod gweithwyr iechyd rheng flaen proffesiynol i gyd yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth a hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth ddiwylliannol, ac mi wn fod hyn yn y cynllun gweithredu. Credaf felly, ei bod yn bwysig iawn inni wneud hynny a hefyd ein bod ni'n gallu mesur ar ôl i hynny gael ei wneud ac i gadw golwg ar sut y mae'n mynd.
Croesawaf hefyd y cynllun i ddod o hyd i wasanaethau arbenigol ar gyfer menywod Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd angen cymorth arbenigol oherwydd eu bod nhw'n ddioddefwyr trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol—credaf fod hynny'n bwysig iawn.
Ac yna, i fynd ymlaen at addysg, oherwydd, wrth gwrs, mae addysg wedi'i chodi'n aml y prynhawn yma, yn amlwg mae gennym y nod o wella canlyniadau addysgol. Fodd bynnag, mae llawer o bryder ymhlith y gymuned Sipsiwn a Theithwyr a'u cefnogwyr am beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth addysg i deithwyr, y mae, mae'n ymddangos, rhai awdurdodau lleol yn cael trafferth i barhau i'w ariannu.
Gwn fod gan wasanaeth addysg Sipsiwn, Roma a Theithwyr Castell-nedd Port Talbot ddeiseb ynghylch y toriadau i'r gyllideb addysg, sy'n effeithio ar y gwasanaeth. Rwy'n deall bod llawer o staff mewn awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu'r bygythiad o golli eu swyddi yn y gwasanaeth hwn. Mae'r gwasanaeth hwn wedi bod mor bwysig wrth gefnogi pobl ifanc Sipsiwn a Theithwyr, a chredaf mewn gwirionedd mai dim ond oherwydd y gwasanaeth hwnnw yr ydym wedi gwneud y cynnydd a welwyd yn y maes addysg.
Cyfeiria'r person ifanc hon yn deimladwy iawn at yr help y mae hi wedi'i gael gan y gwasanaeth hwn, felly wn i ddim a yw arweinydd y tŷ yn gallu rhoi unrhyw farn ar hynny. Mae'r person ifanc hwn yn dweud, 'Mae fy ethnigrwydd—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn, ydw. Yn olaf, pan gyfarfûm â'r bobl ifanc Sipsiwn gyda chi, credaf y codwyd y mater ynghylch band eang, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am hynny.
Ac yna mae'r cwestiwn olaf yn ymwneud â phobl Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw mewn tai—a wnaed unrhyw ymdrech i gysylltu â nhw a synhwyro beth y maen nhw'n ei deimlo.
Ni fyddech yn disgwyl dim llai gan Julie Morgan na throsolwg cynhwysfawr o'r materion. Gweithiodd yn ddiflino yn hyn o beth drwy ei bywyd, mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn draddodiad teuluol balch.
O ran y materion iechyd, rydym wedi mynd i drafferth i wneud yn siŵr bod y cynllun yn rhoi manylion am sut y bwriadwn leihau'r bwlch mewn canlyniadau iechyd rhwng Sipsiwn, Roma, Teithwyr a'r boblogaeth ehangach, ac mae hynny'n cynnwys iechyd corfforol a meddyliol. Felly, bydd yr holl gamau yn yr adran hon yn cael eu cymryd ag ystyriaeth ddyledus i'r ddwy agwedd hynny, gan fod hynny bob amser wedi ei godi gyda mi yn y cyfarfodydd hynny yr ydym ni wedi'u mynychu gyda'n gilydd.
Mae cam gweithredu penodol yn yr adran hon yn ymdrin â monitro asesiadau anghenion iechyd a gwblheir gan fyrddau iechyd lleol, a bod y canlyniadau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl yn iawn wrth gynllunio gwasanaethau, a soniais o'r blaen am gofnodi'r ethnigrwydd er mwyn gallu olrhain y data, fel ein bod yn parhau i gael data da ynghylch pa un a yw'n gweithio ai peidio, ac y byddwn yn cael y dystiolaeth sy'n ofynnol i ymateb i anghenion iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, ac yn dangos lle y mae angen camau gweithredu ychwanegol o ganlyniad i hynny. Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr ei fod yn ganolog i'r cynllun pan fyddwn yn ymgynghori â'r gymuned i wneud yn siŵr bod y cofnodi yn gweithio'n iawn ac yn llesol iddynt, fel ei fod yn rhan fawr iawn ohono.
O ran band eang, rwy'n falch o ddweud ein bod yn edrych yn awr i weld a allwn ni gael band eang da ar holl safleoedd awdurdodau lleol. Roedd y ferch ifanc, a wnaeth argraff fawr arnaf i, Dirprwy Lywydd, yn bendant iawn i mi, os ydym am gael trefniadau hyblyg ar safleoedd fel bod pobl yn gallu mewngofnodi ac allgofnodi o Hwb ar gyfer addysg neu Fy Iechyd Ar-lein ac ati, fod hynny'n anobeithiol os yw'r band eang yn annigonol. Felly, ystyriais hynny yn llawn, ac rydym yn ymdrechu nawr i wneud yn siŵr bod pob un o'n safleoedd yn mapio lle y maen nhw arni o ran hynny, ac yn gwneud yn siŵr bod y band eang yn cael ei ymestyn yn briodol i ymdrin â hynny.
Y mater arall yw gwneud yn siŵr bod gennym y cysylltiadau iawn yn ein prosiect Teithio Ymlaen i gysylltu â'r holl bobl sydd yn ein cymunedau, gan gynnwys y rhai sy'n digwydd bod mewn llety sefydlog ar hyn o bryd. Effeithiwyd yn fawr arnaf wrth siarad ag un o'r teuluoedd hynny a gynigiodd lawer iawn o letygarwch i mi, am ei thrallod o orfod byw mewn 'brics a morter', fel y mae hi'n ei alw, tra oedd ei merch yn y brifysgol, a'i hawydd taer i ddianc o hynny cyn gynted â phosibl. Roedd cryfder ei theimlad yn amlwg. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn ystyried yr holl faterion hynny, ac rwy'n benderfynol iawn, iawn o wneud hynny.
Ac, o ran y cymorth i ddysgwyr, fel y dywedais, roeddwn am roi teyrnged i hynny. Byddwn ni'n gweithio'n galed iawn gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau yr aiff yr arian ychwanegol yr ydym wedi'i roi iddynt hyd yma i'r lleoedd cywir, ac i ddeall sut y maen nhw'n gwneud yr asesiadau o anghenion. Oherwydd rwy'n deall hefyd o'r ymgynghoriadau a wnaed yr ymddengys bod rhai o'r gwasanaethau dan fygythiad, ac mewn gwirionedd dwi ddim yn gweld pam y dylai hynny fod yn digwydd. Felly, rydym yn mynd i fod yn edrych yn ofalus iawn i wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd, oherwydd ein bod ni'n ariannu hynny.
Ac, yn olaf, John Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno'n gryf iawn ei fod yn brawf o'n democratiaeth newydd yng Nghymru a sut yr ydym yn gwrthwynebu'r gwahaniaethu a'r rhagfarn sy'n wynebu cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma, ac rwy'n dyfalu y bydd llawer ohonom sy'n gyfarwydd â materion yn ymwneud â safleoedd lleol arfaethedig yn ein hetholaethau yn deall lefel yr amheuaeth ac, yn anffodus, yr anwybodaeth sy'n aml yn bodoli. Ac rwy'n meddwl tybed, arweinydd y tŷ, o ran yr wythnos hanes ac ymdrech y cyfryngau a'r papurau lleol efallai yn arbennig, sy'n gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth gyflwyno'r straeon cadarnhaol a'r straeon diddordeb dynol cadarnhaol, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r posibiliadau hynny ac yn datblygu strategaeth cydlyniant i fynd i'r afael â rhai o'r camddealltwriaethau hyn, sydd, yn anffodus, yn eithaf cryf, a mynd i'r afael â rhywfaint o'r, unwaith eto, camddealltwriaeth a geir ynghylch safleoedd anghyfreithlon, y mathau o sylwadau y mae pobl yn eu gwneud, fel, 'Pam ydych chi eisiau sefydlu safle sefydlog pan mae'r bobl hyn eisiau teithio o amgylch ac nad oes arnynt eisiau setlo?' Mae yna bob math o ddealltwriaeth sydd gan bobl sy'n dod o hanes gwerin, mewn gwirionedd, nad yw'n cydweddu â'r ffordd y mae'r oes fodern yn gweithredu, a'r ffordd y mae diwylliannau a chymunedau wedi symud yn eu blaenau.
O ran y gymuned Roma, croesawaf y pwyslais hwnnw a geir yn awr. O'm mhrofiad lleol fy hun, mae ysgolion yn gwneud gwaith da iawn. Mae gan ysgol gyfun Llyswyry yng Nghasnewydd, er enghraifft, nifer sylweddol o blant Roma. Mae'n gweithio'n dda iawn gyda hwy a'u teuluoedd. Credaf y canfuwyd y gall cyflogi rhywun fel pont, rhywun o'r gymuned Roma fel pont, ag awdurdod, fel y gwelir, yn y byd mwy ffurfiol, fod yn ddefnyddiol iawn o ran cyfathrebu a chael polisïau ar waith yn effeithiol ar lawr gwlad. A meddwl oeddwn i tybed a yw'r profiad hwnnw o beth sy'n gweithio mewn rhai rhannau o Gymru, lle ceir cymunedau Roma sylweddol, yn cael ei werthuso'n briodol a'i ledaenu drwy Lywodraeth Cymru.
Ie, rydych chi'n gwneud pwynt da iawn, John Griffiths. Mae gennym ni rai enghreifftiau da iawn ledled Cymru o ymgysylltu da iawn â chymunedau Roma, Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n siŵr y gallem ni i gyd enwi ysgolion ledled Cymru sydd wedi gwneud gwaith da iawn. Felly, byddwn ni'n gweithio'n galed iawn gyda chydweithwyr yn yr adran addysg i wneud yn siŵr ein bod yn ei ledaenu. Ac, wrth gwrs, rwyf am ddweud ei fod yn rhan ganolog iawn o'n cwricwlwm Donaldson newydd, fod pobl yn dod yn ddinasyddion moesol, deallus o'r byd. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg a fi wedi sicrhau y bydd modiwlau penodol ar bobl Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r thema dinasyddion cytbwys. Fel y dywedais, maent yn rhai o'r bobl sydd fwyaf ar ymylon cymdeithas ac y gwahaniaethir fwyaf yn eu herbyn yn ein cymdeithas. Mae'n bwysig iawn bod eu hanes yn cael ei ddeall yn iawn. Rydym yn ariannu'r gweithwyr cydlyniant cymunedol i gynhyrchu deunyddiau dryllio'r mythau a darparu hyfforddiant, yn arbennig i aelodau etholedig sy'n gyfrifol am roi rhywfaint o'r gwaith cynllunio ar waith. Ond rwy'n meddwl ei bod yn syniad da iawn i gynnwys y cyfryngau yn hynny, a byddaf yn sicr o gyflwyno hynny fel awgrym ardderchog.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.