– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18. Galwaf ar aelod o'r Comisiwn, Adam Price.
Cynnig NDM6774 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch, Llywydd. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y pumed Cynulliad.
Mae’r Comisiwn wedi gosod y nod o fod yn sefydliad sy’n adnabyddus am ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol ac arloesol, ac i fod yn gorff sy’n esiampl i gyrff eraill yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n braf, felly, cyflwyno’r adroddiad yma o gynnydd ar yr uchelgais hon.
Symudaf yn gyntaf at y themâu a bennwyd ar gyfer cyfnod y cynllun. Rydym wedi pennu pum thema i strwythuro ein gwaith, gyda’r nod o gyflawni ein huchelgais o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n edrych am bob cyfle i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.
Mae’r thema gyntaf yn ymwneud â recriwtio, ac, fel y gwnaethom ni ymrwymo erbyn yr haf eleni, rydym wedi mabwysiadu dull newydd o recriwtio. O hyn ymlaen, felly, bydd y Comisiwn yn pennu lefel sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob swydd y byddwn yn ei hysbysebu. Bydd lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg yn rhan o’r disgrifiad swydd ar gyfer unrhyw swydd lle nad oes angen lefel uwch o sgiliau. Ar gyfer swyddi y mae angen lefel uwch o sgiliau iaith Gymraeg, rydym hefyd wedi cyflwyno fframwaith sy’n diffinio’r lefelau hynny o un i bump.
Dyma ddatganiad pendant, Llywydd, o’n dyhead i gefnogi gweithlu ein Senedd genedlaethol i berchnogi’r Gymraeg yn ddiwahân i gadarnhau ei safle a’i statws fel iaith sy’n eiddo i holl ddinasyddion Cymru, ac i gymryd camau ymarferol i alluogi ein staff i gyd i wasanaethu pobl Cymru yn ein dwy iaith.
Yr ail thema yw sgiliau iaith, ac, unwaith eto, pennwyd cyfres o dargedau i’w cyflawni erbyn haf 2018. Dros y flwyddyn diwethaf, mae’r tîm sgiliau iaith wedi gweithio ar ddatblygu rhaglen hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg sydd ar gael i bawb, o ddysgwyr newydd i siaradwyr Cymraeg rhugl. Dros yr haf, byddwn yn treialu mwy o hyfforddiant dwys, ac mae staff ac Aelodau wedi cael cyfle i fod yn rhan o ddarpariaeth breswyl y project Cymraeg Gwaith o dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
O ran cynlluniau ieithyddol, sef y trydydd thema yn y cynllun, mae’r holl wasanaethau wedi bod yn diweddaru eu cynlluniau iaith gyda chefnogaeth y tîm ieithoedd swyddogol. Yn ogystal â sicrhau bod gan ein gweithlu lefel briodol o sgiliau Cymraeg, mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n cynllunio’n fwriadus i roi pob cyfle i’n staff ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg, waeth ar ba lefel, yn eu gwaith. Wrth adolygu ein cynlluniau iaith gwasanaeth, rydym wedi gweld peuoedd iaith yn datblygu o fewn y sefydliad, gydag aelodau timau yn gweithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn darparu’r gwasanaeth allanol yn gwbl ddwyieithog. Mae’r peuoedd hyn yn rhywbeth y byddwn yn awyddus i’w datblygu ymhellach dros y flwyddyn i ddod.
Mae’r pedwerydd thema yn ymwneud â thrafodion y Cynulliad. Mae’r gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar gefnogi Aelodau a hwyluso gweithio dwyieithog.
Thema pump yw’r un mwyaf eang o ran y gwaith a wnaed dros y flwyddyn. Mae’r targedau fan hyn yn rhai gweddol syml ar y cyfan, ond, gyda’i gilydd, byddant yn gwneud cyfraniad mawr at newid delwedd ac ethos ein sefydliad i adlewyrchu’r genedl ddwyieithog rydym yn ei gwasanaethu. Bellach, mae bathodynnau a llinynnau gwddf yn cael eu defnyddio a’u dosbarthu yn ddiofyn, er enghraifft, ac mae llawer o staff y Comisiwn yn defnyddio’r bathodyn 'iaith gwaith' ar eu e-byst hefyd. Fel y byddech chi'n ddisgwyl, mae ein gwaith ar dechnoleg iaith wedi parhau, gan gynnwys gwaith sydd wedi arwain at broject cyffrous iawn ar gyfer y Swyddfa Gyflwyno a thîm y Cofnod.
I symud ymlaen felly at y safonau gwasanaeth o fewn y cynllun, mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd rŷm ni wedi cynnal y safonau a osodwyd. Am y tro cyntaf eleni, mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys ystadegau ar nifer o elfennau o’r gwasanaethau rŷm ni yn eu darparu. Yn ystod y broses o ddrafftio’r cynllun, dywedodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wrthym y byddai data o’r fath yn ddefnyddiol i helpu Aelodau i fonitro ein perfformiad mewn rhai meysydd. Felly, maen nhw wedi eu gosod mas yn yr adroddiad blynyddol. Edrychaf ymlaen at gydweithio ymhellach â’r pwyllgor yn y gwaith hwn yn y dyfodol agos. Mae'n rhaid i mi droi reit tu ôl i'ch gweld chi. Bydd y data yma yn ffurfio gwaelodlin ar gyfer mesur ein perfformiad dros y blynyddoedd i ddod a thargedu hyfforddiant i staff. Byddwn hefyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod mwy o wybodaeth ddwyieithog, gan gynnwys tystiolaeth a deddfwriaeth, ar gael i Aelodau Cynulliad wrth iddynt gymryd rhan mewn trafodion a pharatoi ar eu cyfer.
Yn olaf, at fonitro a chydymffurfio, yn yr adroddiad rŷm ni yn adrodd ar y cwynion a'r adborth rŷm ni wedi eu derbyn, a'r camau a gymerwyd ac unrhyw gamau y byddwn ni'n eu cymryd i gywiro methiannau ac i wella cydymffurfiaeth â'r cynllun yn barhaus, yn ysbryd tryloywder a rhoi sicrwydd i bobl Cymru fod y sefydliad hwn yn un sy'n cymryd cydraddoldeb ieithyddol o ddifrif mewn gair a gweithred. Unwaith eto, bydd y manylion yma yn eich helpu chi i ddal Comisiwn y Cynulliad i gyfrif am ein gwaith yn eich cefnogi chi a phobl Cymru i weithio ac i ymgysylltu â ni fel sefydliad yn eich dewis chi o ran iaith swyddogol, ac felly gwella ein gwasanaethau dwyieithog ymhellach i'r dyfodol. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i siarad—Bethan Sayed.
Diolch, Llywydd. Hoffwn groesawu cyhoeddi adroddiad blynyddol y cynllun ieithoedd swyddogol ar gyfer 2017-18. Yn amlwg, mae'n ddefnyddiol bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, hoffwn longyfarch y Comisiwn a staff y Cynulliad am gyflawni'r ymrwymiad i gyhoeddi'r adroddiad erbyn y mis Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.
Er ein bod ni'n croesawu hynny, mae'n achosi rhai anawsterau i ni fel pwyllgor. Y cyfle cyntaf a gafodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ystyried yr adroddiad oedd yn ein cyfarfod y bore yma. Roedd hyn yn rhy hwyr i ni allu cael cyngor ystyriol ar ei gynnwys ac nid yw wedi caniatáu amser i ni ystyried pa un a ydym am graffu ar y Comisiwn o ran y cynnwys, heb sôn am wneud unrhyw graffu ychwanegol. Felly, yn ddelfrydol, byddai'r pwyllgor wedi hoffi gweld yr adroddiad mewn da bryd er mwyn ystyried ei gynnwys, craffu arno—os oeddem yn credu bod angen gwneud hynny, wrth gwrs—ac yna bwydo canlyniad y gwaith craffu hwnnw i'r ddadl hon heddiw.
Rwyf wedi siarad efo Adam Price ac yn deall bod rhai problemau ymarferol wrth gyhoeddi'r adroddiad llawer yn gynt yn y flwyddyn. Yn sicr, ni fyddwn am weld oedi gyda chyhoeddiadau yn y dyfodol. Serch hynny, gofynnaf fod y Comisiwn yn gwneud pob ymdrech yn y dyfodol i gyhoeddi'r adroddiad yn ddigon cynnar er mwyn caniatáu i'r pwyllgor ei ystyried yn briodol, ac, os bydd angen, craffu arno cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn. Os yw hynny'n golygu cynnal y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn yr hydref yn hytrach na diwrnod olaf tymor yr haf, yna rwy'n credu bod y pris hwnnw'n werth ei dalu er mwyn gwneud gwaith craffu effeithiol.
Gan droi at gynnwys yr adroddiad ei hun, mae gennyf nifer o bwyntiau i'w gwneud a chwestiynau i'r Comisiynydd. Yn gyntaf, pan luniwyd y cynllun presennol, cafodd asesiad o effaith ar gydraddoldeb, neu EIA, ei baratoi. Nodaf fod y gweithgor a sefydlwyd i weithio ar thema 1, sef recriwtio, yn edrych yn rheolaidd ar y tasgau sy'n codi o'r EIA i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud mewn gwirionedd. Fodd bynnag, a allai'r Comisiynydd sicrhau bod EIA diwygiedig, sy'n dangos yn glir y cynnydd a wnaed ar y tasgau hyn bellach wedi'i gyhoeddi?
Nid oes llawer o wybodaeth yn yr adroddiad yma am y broses recriwtio newydd na gwybodaeth am y lefelau sgiliau iaith a gesglir. Efallai y gallai'r Comisiynydd ymhelaethu ar hynny. Er enghraifft, bydd y dystysgrif lefel cwrteisi newydd a roddir i bawb a gaiff eu hasesu ar y lefel hon ond yn para am ddwy flynedd. Pam dwy flynedd? Byddai esboniad o'r rhesymeg y tu ôl i hynny yn ddefnyddiol i ni fel pwyllgor. Yn fwy cyffredinol, byddai rhagor o wybodaeth yn y maes hwn ac, yn y dyfodol, mwy o ddata—mwy o ddata eto, sori—am y niferoedd sy'n cael eu recriwtio ar bob lefel yn ddefnyddiol i ni.
Mae'r adroddiad yn dweud bod Comisiwn y Cynulliad yn disgwyl i'r sefydliadau a'r cyrff hynny sy'n destun safonau neu gynlluniau iaith gydymffurfio â'u cynlluniau eu hunain wrth gyflwyno gwybodaeth i'r Cynulliad. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cyfeirio at is-ddeddfwriaeth, sy'n aml yn cael ei chyflwyno yn Saesneg yn unig. Tybed a all y Comisiynydd roi sylwadau pellach ar hynny a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru, rwy'n tybio, yn cydymffurfio â'i chyfrifoldebau yn y maes hwn.
Ar bwynt tebyg, nodaf fod 23 y cant o bapurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i bwyllgorau'r Cynulliad yn Saesneg yn unig. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru? A hefyd o ran cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch i ba raddau y mae Aelodau’r Cynulliad yn derbyn atebion yn Gymraeg i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad. A bod yn deg, mater i'r Cynulliad fynd i'r afael ag ef yw hynny i ddechrau ond a oes unrhyw dystiolaeth bod y Llywodraeth yn ymateb yn Saesneg i gwestiynau yn y Gymraeg?
Mae 20 y cant o gyfraniadau mewn dadleuon yn y Cyfarfod Llawn gan Aelodau yn cael eu gwneud yn Gymraeg. Fodd bynnag, dim ond 8 y cant o'r cyfraniadau mewn pwyllgorau sy'n Gymraeg. A all y Comisiynydd gynnig unrhyw esboniad am y gwahaniaeth hwnnw ac a oes unrhyw waith yn cael ei wneud i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg mewn pwyllgorau? Yn fy marn bersonol i, un o'r prif broblemau yw, weithiau, rŷm ni'n gofyn cwestiynau yn y Gymraeg ac mae pobl yn tynnu eu clustffonau oddi arnynt ac wedyn yn disgwyl weithiau fod y cwestiynau atododol yn mynd i ddilyn yn Saesneg ac wedyn mae'n amharu ar lif y rheini sy'n gofyn y cwestiynau. Felly, efallai mwy o wybodaeth i'r rheini sydd yn rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor fod yna oblygiad—neu efallai y gallan nhw gadw'r clustffonau hynny arnynt yn ystod sesiynau pwyllgorau.
Yn olaf, nodaf fod enghreifftiau o gwynion wedi codi ynghylch diffyg cydymffurfio â'r cynllun—rydych chi wedi dweud hyn yn barod, Adam. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddata er mwyn rhoi syniad i ni o nifer y cwynion. Byddai'n ddefnyddiol pe byddai data yn y dyfodol yn cynnwys nifer y cwynion a ddaeth i law fel y gellir gwneud cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn. Byddai hynny hefyd yn golygu y gellir monitro'n effeithiol unrhyw gynnydd neu ostyngiad, yn ogystal ag unrhyw dueddiadau ynghylch y math o gwynion.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i holl staff y Cynulliad sy'n ein helpu i weithio mewn amgylchedd gwirioneddol ddwyieithog, boed hynny'r rhai sy'n cyfieithu fy sylwadau heddiw neu'r rhai sy'n ein helpu gyda gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig. Ond diolch hefyd i'r staff hynny, siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, sy'n cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y lle hwn yn cael ei weld fel esiampl o sefydliad dwyieithog ac sydd, drwy ei waith, yn caniatáu i ni weithio yn ein hiaith o ddewis ac sy'n sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu i ganiatáu i'r cyhoedd ryngweithio â ni yn eu dewis iaith.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n fwy na bodlon nodi'r adroddiad yma a'i groesawu hyd yn oed. Yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae'n ymddangos i mi fod y lle yma wedi dechrau teimlo dipyn bach yn wahanol; mae'r Record wedi gwella ac rwy'n falch, wrth gwrs, o weld bod rhai o'n staff diogelwch wedi dechrau fy nghroesawu i yn Gymraeg. Siŵr o fod maen nhw wedi gweld y lanyard, a gobeithio dyna'r unig reswm. Hefyd, rwy'n teimlo fy mod i wedi elwa ar rai o'r gwersi gloywi a hefyd rhai o'r gwersi hanes Cymru hefyd sydd wedi dod am ddim—nid oeddwn i'n disgwyl y rhain. Hefyd, mae wedi bod yn mater o bleser gweld bod yna fwy o bobl yn gwisgo'r lanyards yma, a mwy o ddysgwyr yn defnyddio'r Gymraeg yma yn y Siambr. Mae yna neges gryf gyda hynny hefyd achos rwyf wedi sylweddoli bod rhai ohonyn nhw wedi dod—wel, rhai o leiaf—o ardaloedd Cymru lle nad oes yna ddim lot o bobl yn siarad Cymraeg. Mae yna nifer o bobl, efallai, sydd ddim cweit wedi croesi'r trothwy i ddeall pa mor bwysig yw'r Gymraeg dros Gymru, ac i gael rhai o'r Aelodau o'r Cymoedd, er enghraifft, yn sefyll i fyny ac yn siarad Cymraeg, efallai am y tro cyntaf—mae honno'n neges bwysig, rydw i'n credu.
Rwy’n falch eich bod chi wedi cyfeirio at y pwyllgor diwylliant yn yr adroddiad, ac, er fy mod i’n hapus i weld llinell sylfaen am hysbysebion a busnes y Cynulliad, er enghraifft, mae dal yn siomedig bod yr adroddiad yn llawn o frawddegau fel 'cynnydd yn y dysgwyr' neu 'sawl cwrs' neu 'grwpiau o ddysgwyr'. Heb ffigurau pendant, mae’n mynd i fod yn amhosibl gweld, flwyddyn nesaf, maint unrhyw lwyddiant. Mae’n bownd o fod lwyddiant, ond bydd yn anodd ei weld ef, a thwf sgiliau unigolion.
Rwy’n gwybod ei fod yn anodd dweud pwy sydd wedi llwyddo achos mae hwn yn gwestiwn o gyfrinachedd, siŵr o fod, ond, yn arbennig, rydw i’n meddwl y byddai’n help i ddeall faint o staff Aelodau sydd wedi ymateb i’r cynnig a pha fath o broblemau oedd gyda nhw o ran cymryd mantais o’r cynnig o ystyried eu ffordd o weithio sydd heb ei ragweld. Nid wyf i’n rhoi esgus drostyn nhw, wrth gwrs, ond rŷm ni i gyd yn gwybod fel Aelodau sut mor anodd yw hi i ffeindio amser yn ystod yr wythnos i ni gael tipyn bach o help gyda’n Cymraeg. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â’n staff hefyd.
Fel Comisiwn, rydym wedi cynnal arolwg staff yn eithaf diweddar, ac mae hynny’n cynnwys staff Aelodau. A oedd rhywbeth yn glir o hynny o ran faint ohonyn nhw oedd yn gwybod, er enghraifft, am dudalennau’r wefan am y cynllun, help gyda chyfieithu ac yn y blaen? A ydym ni’n gwybod faint o hits mae tudalennau’r cynllun wedi eu cael? Achos nid oedd yn glir i mi yn yr arolwg cyffredinol beth oedd ein staff yn meddwl am y cynllun.
Ynglŷn â’r Comisiwn, wrth gwrs, rŷm ni’n edrych ar weithlu hyblyg nawr, ac rwy’n deall fod capasiti cynnig gwasanaeth mewn tîm, yn lle gofyn am sgiliau afrealistig gan bob unigolyn, yn beth pwysig. Ond, wrth ymateb i’r ddadl, a fydd yn bosibl i ddweud tipyn bach mwy yn benodol am ble rŷch chi wedi edrych am syniadau cyn creu'r fframwaith sgiliau iaith a phwy sy’n edrych dros y broses pennu rhuglder nawr? Achos mae’r bwrdd buddsoddi ac adnoddau wedi diflannu, wrth gwrs.
Jest i droi at bapurau’r Llywodraeth—mae Bethan Sayed wedi cyfeirio at hynny yn barod—a ydy’n glir, ynglŷn â’r papurau is-ddeddfwriaeth, a yw’r broblem yn dod o’r Deyrnas Unedig neu o’r Llywodraeth yma? Achos os yw’r Llywodraeth yma—wel, mae’r ddwy ohonyn nhw, actually. Erbyn hyn, ddylai unrhyw un sydd o dan safonau ddim chwilio am esgusodion nawr am beidio â chydymffurfio. Mae pawb yn gallu esgusodi slips bach fan hyn ac yn y blaen, ond i gael rhywbeth, mae'n debyg, sydd yn fwy systematig na hynny—mae cwestiynau i’r Llywodraeth yma, ac efallai San Steffan. Hoffwn i wybod sut rydych chi’n mynd i wynebu hynny.
Rwy’n mynd i siecio fy neges peiriant ateb hefyd. Mae’n rhaid i mi wneud hynny, achos, os oes cwyn wedi dod mewn ynglŷn â hynny, hoffwn i sortio hynny.
Jest i ddod i ben, Llywydd, rwy’n cytuno â’r pwynt ynglŷn â dwy iaith yn cael eu darlledu ar yr un pryd, yn arbennig fel rhywun sy’n dal i ddysgu. Mae isdeitlau yn lot, lot gwell. Rydym wedi clywed y bore yma yn ein pwyllgor am S4C a beth maen nhw’n gallu ei wneud gyda’r system is-deitlau. Rwy’n gwybod fod y Comisiwn wedi bod yn siarad â nhw. Jest i roi enghraifft, roeddwn i’n gwrando yn y caffi wedyn, neu drio gwrando, ar gwestiwn Simon Thomas—ac rwy’n sôn nawr am y system fewnol, nid system tu fas, ac, i rywun fel fi sy’n chwilio am gyfleoedd i godi geiriau newydd, roedd yn siom nad oedd yn bosibl i wrando ar Simon, achos mae’n iwsio geiriau sy’n newydd i fi yn aml. Felly, os oes pobl tu fas i’r sefydliad yn cael yr un profiad—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] Geiriau newydd i chi hefyd mae’n debyg. Ocê, mae’n fine. Os oes yna rywbeth byddem ni’n gallu ei wneud yn y dyfodol ynglŷn â hynny, i rywun fel fi, fe fyddai’n gam mawr ymlaen, rwy’n credu. Diolch.
Diolch am yr adroddiad pwysig yma. Mi oeddwn i’n falch o weld fod Comisiwn y Cynulliad yn cyflwyno papurau cyhoeddus i bwyllgorau yn ddwyieithog ar y cyfan, ond, fel mae Suzy a Bethan wedi sôn, yn bryderus o weld fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwybodaeth yn uniaith Saesneg 174 o weithiau. Hefyd, mae'r adroddiad yn dweud bod 25 y cant o'r dogfennau a osodwyd—fel rydym ni newydd fod yn ei drafod rŵan, memoranda esboniadol ac is-ddeddfwriaeth—heb gael eu gosod yn ddwyieithog, dogfennau y mae'r Llywodraeth ei hun yn eu cynhyrchu. Felly, mae angen rhoi neges glir heddiw, rydw i'n meddwl, i'r Llywodraeth, i sicrhau bod y Llywodraeth yn cydymffurfio â'r safonau iaith sydd wedi cael eu gosod arni wrth ymwneud â'r Cynulliad, ac rydw i'n galw ar y Llywodraeth i gydweithio efo'r Comisiwn i sicrhau eu bod nhw yn perfformio'n well ac yn peidio â llesteirio ewyllys y Cynulliad yma.
Mae'r adroddiad eleni yn cynnwys data, ond data cychwynnol, ac mae'r adroddiad yn dweud hefyd y bydd adroddiadau mewn blynyddoedd i ddod yn cynnwys y data ar ffurf lle y bydd modd cymharu'r sefyllfa dros nifer o flynyddoedd, ac mae hyn yn hollbwysig, wrth gwrs. Mi fyddai'n fuddiol iawn, rydw i'n meddwl, cael awdit llawn o staff y Cynulliad er mwyn i ni wybod faint o bobl sydd â sgiliau dwyieithog, ym mha adrannau ac ati. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynllunio gweithlu'r dyfodol a defnyddio'r gweithlu presennol yn fwy pwrpasol. Rydw i'n falch o weld bod yna nodyn yn dweud ei bod hi'n fwriad i wneud hynny.
Rydw i'n falch iawn hefyd o weld y peuoedd iaith yma'n datblygu yn y Cynulliad, sef timau o bobl sydd yn gweithio'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y rhain yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae'r timau yn cynnwys cyfuniad o siaradwyr rhugl a dysgwyr, ac mae cynllunwyr iaith yn nodi, yn gyffredinol, felly, fod creu peuoedd iaith yn y man gwaith, lle mae'r iaith leiafrifol yn cael ei defnyddio i weinyddu a chyfathrebu'n fewnol, yn hollbwysig wrth ddiogelu a datblygu iaith, ac mi fyddai creu awdit sgiliau iaith yn gallu annog creu rhagor o beuoedd Cymraeg, ac rydw i'n edrych ymlaen at weld hynny.
Un peth i orffen: fel rydych chi'n gwybod, rydw i yn dewis defnyddio fy iaith gyntaf, y Gymraeg, bron bob tro wrth fy ngwaith yn y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn fy mod i'n gallu gwneud hynny, wrth gwrs. Un rhwystr i hynny ydy'r ffaith bod briffiadau'r Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer gwaith pwyllgor yn cael eu paratoi yn Saesneg. Weithiau, mae hynny'n golygu oedi o ddiwrnod neu ddau cyn bod y fersiwn Gymraeg ar gael. Un ffordd o ddechrau goresgyn hynny fyddai annog y rhai sy'n meddu ar sgiliau dwyieithog yn y Gwasanaeth Ymchwil i gynhyrchu briffiadau yn y Gymraeg—yn y lle cyntaf, hynny yw. Mi fyddan nhw'n siŵr o gael eu trosi i'r Saesneg yn gyflym iawn, felly. I mi, dyma un arwydd o wir ddwyieithrwydd—hynny yw, bod dogfennau yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg, ac ychydig iawn o hynny sydd yn digwydd rŵan, yn ôl fy mhrofiad i, beth bynnag. Ac yn ogystal â symud i'r cyfeiriad yna, efallai y byddai cynnwys dangosydd penodol i fesur cynnydd yn y maes yna yn bwysig.
Felly, rydw i yn edrych ymlaen at weld y ffrwyth gwaith yn parhau ac i weld cynnydd cyffredinol pellach erbyn i ni gael yr adroddiad y flwyddyn nesaf. Diolch.
Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Mae yna gymaint o sylwadau difyr a chwestiynau, ac rydw i'n ddiolchgar am rheini, ond ni fydd yn bosib i mi ei hateb nhw i gyd yn ystod y ddau funud nesaf, felly maddeuwch i mi am hynny, ond fe wnaf i, yn sicr, sicrhau eich bod chi yn cael ateb. O ran y diffyg amser ar gyfer craffu, wel, i raddau, arnaf i mae'r bai. Nid ydw i'n mynd i feio Ilar bach am hyn, ond roeddwn i wedi amserlennu hyn ar y diwrnod olaf am reswm, ac felly—. Ond rydw i yn edrych ymlaen at graffu gan y pwyllgor maes o law, ac fe edrychwn ni ar y trefniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. O ran yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb—yr EQIA—mae yn ddogfen fyw, ac wrth i'r camau rydym ni'n eu cymryd gael eu cyflawni, byddwn yn ei ddiweddaru maes o law, a gallaf i roi rhagor o wybodaeth i chi. Mae'r system recriwtio newydd ond ar waith ers dechrau'r wythnos hon, felly bydd rhagor o wybodaeth y flwyddyn nesaf. O ran y dystysgrif dwy flynedd, roedd y gweithgor o'r farn y byddai angen gloywi sgiliau cwrteisi o dro i dro. Felly, dyna ran o’r rheswm am y ddwy flynedd. O ran cael rhagor o ffigurau meintiol ynglŷn â sgiliau ac yn y blaen—hynny yw, o ran dysgwyr, a'r awdit cyflawn, a dweud y gwir, roedd Siân Gwenllian yn cyfeirio ato fe—rwy’n meddwl bod hwnnw'n fanteisiol, felly. Hynny yw, rwy’n gobeithio y byddwn ni'n cyfoethogi'r adroddiadau blynyddol gyda rhagor o wybodaeth feintiol yn y dyfodol. Gallwn hefyd edrych ar yr hits—beth bynnag yw’r gair am hwnnw—ar y dudalen ynglŷn â’r cynllun, ac yn y blaen, ac i edrych ar sut mae hynny’n gweithio. Rwyf yn bwriadu ysgrifennu at y BBC ynglŷn ag isdeitlo, ar hyd y llinellau roedd Suzy Davies yn awgrymu, ac o ran y briffiadau, rwy’n meddwl bod awgrym Siân yn un adeiladol iawn, ac fe wnawn ni edrych i mewn i hwnnw ac adrodd nôl ichi. Maddeuwch imi, ond rwyf wedi rhedeg mas o amser, ond bydd modd inni ysgrifennu at bawb a chopïo pawb gydag atebion llawnach.FootnoteLink
Y cynnig yw i nodi’r adroddiad blynyddol. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.