1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cyngor am gau ysgolion gwledig y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i awdurdodau lleol ar hyn o bryd? OAQ52595
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddiogelu ysgolion gwledig? OAQ52599
Diolch, Andrew. Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiwn 3 a chwestiwn 5 gael eu grwpio.
Mae'r cod trefniadaeth ysgolion, a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn gosod gofynion ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas â threfniadaeth ysgolion ac yn darparu canllawiau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn wrth ystyried cau unrhyw ysgol, gan gynnwys y rheini sydd mewn lleoliadau gwledig.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ychydig cyn toriad yr haf, cyhoeddasoch ganllawiau newydd mewn perthynas ag ysgolion gwledig—rhywbeth a gafodd groeso. Yn amlwg, daw'r canllawiau hynny i rym yn ddiweddarach eleni. Hoffwn ddeall pa bwys y dylai awdurdodau lleol ei roi ar hyn o bryd ar y canllawiau penodol a gyhoeddwyd gennych. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydynt wedi'u hymgorffori yn y cod, ond mae llawer o awdurdodau—ac rwy'n meddwl am un ym Mro Morgannwg—yn penderfynu ar gau ysgolion ar hyn o bryd, ac mae'n bwysig nad oes brys i gau nifer o ysgolion sydd mewn perygl cyn i'r canllawiau newydd hyn ddod yn rhan o'r cod. Felly, a allech nodi pa bwys rydych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi ar y nodyn a ddosbarthwyd gennych cyn toriad yr haf, os gwelwch yn dda?
Wel, Andrew, fel y dywedoch, rydym yn adolygu'r cod. Gosodwyd y cod drafft sydd wedi'i adolygu i adlewyrchu'r ymatebion i'r ymgynghoriad—yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd—gerbron y Cynulliad ddydd Llun yr wythnos hon. Fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf 2013, mae'n rhaid bod y cod wedi'i osod am 40 diwrnod, a gall ddod i rym wedi hynny oni bai fod y Cynulliad yn penderfynu peidio â'i gymeradwyo. Felly, buaswn yn disgwyl i'r cod newydd ddod i rym ar 1 Tachwedd, os yw'r cyd-Aelodau o amgylch y Siambr hon yn fodlon. Rydym wedi bod yn glir iawn gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â chyfeiriad y polisi yn y maes hwn a buaswn yn disgwyl iddynt fod yn ymwybodol o hynny pan fyddant yn gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â dyfodol ysgol wledig a fyddai wedi'i rhestru o dan y cod newydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â'r cynlluniau arfaethedig i symud/cau Ysgol Gynradd Llancarfan, y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod atynt yn awr, clywais fod mater mynediad at y rhaglen adeiladu ysgolion yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gael eu hadeiladu ar safleoedd newydd ac i ysgolion gael eu cyfuno neu eu hehangu. Mae hon yn broblem wirioneddol i ysgolion mewn cymunedau gwledig, lle gall fod yno safle cyfyngedig, heb opsiwn arall ar gael a lle nad oes arian ar gael ar gyfer addasu—mae'n rhaid i chi gael adeilad newydd cynhwysfawr—ac mae hyn yn cyfyngu ar y dewisiadau sydd gan awdurdodau lleol, yn enwedig pan fyddant yn awyddus i gynyddu hyfywedd ein hysgolion gwledig, llai o faint. A wnewch chi edrych ar y rhaglen adeiladu?
Yn gyntaf, a gaf fi ddweud nad yw'n ofynnol cael adeilad cwbl newydd er mwyn cael mynediad at arian y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? Mewn gwirionedd, rwyf wedi ymweld â phrosiectau adnewyddu ledled y wlad lle mae arian ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi'i ddefnyddio i adnewyddu rhan o ysgol—yn etholaeth eich arweinydd newydd heb fod mor hir â hynny'n ôl. Felly, mae'r syniad hwn mai dim ond drwy adeiladu ysgol newydd sbon y gallwch gael mynediad at yr arian hwnnw yn gamsyniad. Nid yw hynny'n gywir.
Ystyrir pob achos a gyflwynir gan ein partneriaid llywodraeth leol yn ôl ei rinweddau ei hun. Yr hyn a ddeallaf, o ran y mater y gwn ei fod wedi bod yn dreth ar feddyliau Andrew a chi, a'r Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg, yw achos Llancarfan. Y penderfyniad a wnaed mewn cyfarfod ddydd Llun yr wythnos hon, rwy'n credu, yw y bydd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Fro yn cael ei gyfeirio'n awr at eu pwyllgor craffu, a byddant yn caniatáu i aelodau'r pwyllgor craffu hwnnw edrych ar y cynigion a gyflwynwyd gan Gyngor Bro Morgannwg—ac rwy'n eu croesawu—ac yn y pen draw, mater i'r rheini sy'n rhedeg Cyngor Bro Morgannwg fydd gwneud penderfyniad ynglŷn â dyfodol yr ysgol honno.
Rydw i'n meddwl bod fy safbwynt i ar gefnogi ysgolion gwledig yn reit hysbys. Rydw i'n cydymdeimlo, mae'n rhaid i mi ddweud, â chynghorau ym mhob cwr o Gymru sy'n wynebu sefyllfaoedd cyllidol amhosib. Rydw i yn meddwl bod rhaid i Lywodraeth sicrhau cyllid digonol i gefnogi dulliau arloesol o gadw ysgolion yn ein cymunedau ni—cefnogaeth i greu ysgolion ardal aml-safle, er enghraifft, sef rhywbeth rydw i yn ei gefnogi. Un elfen sydd yn rhoi pwysau ar gyllidebau addysg, fel rydym ni wedi ei glywed, ydy'r backlog o waith cynnal a chadw. Rydw i'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud fel Ysgrifennydd Cabinet, ond, heb os, mae'r tueddiad yna yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain tuag at adeiladu ysgolion newydd, mwy, sydd ddim yn gweithio yng nghefn gwlad o reidrwydd. Felly, a allwch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet, roi ymrwymiad i chwilio am becyn newydd o gyllid sylweddol a phenodol at y diben hwn, fel bod cyflwr adeilad ysgol yn nghefn gwlad ddim yn yrrwr mor gryf pan fydd hi'n dod at benderfyniadau ar ddyfodol ysgolion?
Unwaith eto, Lywydd, byddai'n rhaid i mi herio'r awgrym gan yr Aelod fod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gael ar gyfer adeiladau newydd yn unig. Unwaith eto, rwyf wedi ymweld ag ysgolion yn etholaeth yr Aelod—prosiectau adnewyddu—lle defnyddiwyd buddsoddiad i wella cyfleusterau mewn ysgol.
O ran adnoddau ychwanegol ar gyfer ysgolion gwledig, bydd yr Aelod yn ymwybodol y byddwn yn darparu oddeutu £10 miliwn o adnoddau ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn drwy ein grant newydd ar gyfer ysgolion bach a gwledig i annog arloesi a chefnogi rhagor o waith ysgol-i-ysgol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau a rhai o'r anawsterau ymarferol sydd ynghlwm wrth ddarparu addysg mewn ardal wledig—arian y mae ei gyngor ei hun yn ymwybodol ohono ac wedi gwneud cais amdano ac sy'n cael ei ddefnyddio.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi darllen y cod a osodwyd ddydd Llun. Mae'n cynnwys dynodiad o ysgolion gwledig at ddibenion rhagdybiaeth yn erbyn cau, ac mae'n defnyddio dosbarthiad gwledig a threfol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy'n derbyn hwnnw, a dyna pam fod y rhestr yno ar y cefn. Ond pan edrychwch ar y gofynion ychwanegol manwl, rwy'n gofyn y cwestiwn: pam nad ydynt yn berthnasol i bob ysgol, oherwydd mewn gwirionedd, dylai'r gofynion ychwanegol hynny fod yn berthnasol i bob ysgol sydd dan ystyriaeth ar gyfer ei chau? Mae'r awdurdod lleol yn fy ardal i wedi dynodi y dylid cau Ysgol Gyfun Cymer Afan, ond mae'n rhaid i'r astudiaeth fanwl a chydwybodol sydd ei hangen, yn enwedig ynghylch yr effaith ar y gymuned, gael ei defnyddio mewn perthynas â phob ysgol. A wnewch chi edrych ar hyn a dweud nad yw'n ymwneud ag ysgolion gwledig yn unig ac y dylai fod yn berthnasol ar gyfer pob ysgol?
Wel, David, fe fyddwch yn ymwybodol fod y rheoliadau a'r cod wedi nodi set o feini prawf llym iawn y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu defnyddio wrth ystyried cau unrhyw ysgol. Roedd yn bwysig i mi, a theimlaf ei bod yn bwysig i lawer o gymunedau gwledig o ystyried natur bywyd gwledig, fod mesur diogelwch ychwanegol ar gael i ysgolion sy'n gwasanaethu cymuned wledig. Os ydym am gael rhagdybiaeth yn erbyn cau'r ysgolion hynny mae'n rhaid inni gael rhestr ac mae'n rhaid inni gael meini prawf gonest, agored a thryloyw ynglŷn â'r modd y caiff ysgol ei rhoi ar y rhestr. Rydym wedi defnyddio, fel y dywedoch chi, ddosbarthiad trefol/gwledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn gwneud hynny. O ganlyniad i'r ymgynghoriad, rydym wedi ehangu'r categorïau ysgolion a gwmpesir gan y rhestr wledig i gynnwys mwy o ysgolion nag a ragwelwyd gan y Llywodraeth hon yn wreiddiol. Ond wrth ystyried dyfodol unrhyw ysgol, mae gweddill y cod yn berthnasol a buaswn yn disgwyl i unrhyw awdurdod lleol ddefnyddio'r cod hwnnw'n drwyadl, gan ystyried yr effaith y gallai cau unrhyw ysgol ei chael ar y gymuned, boed yr ysgol honno mewn ardal wledig neu mewn ardal fwy trefol.