1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur llwyddiant gwelliannau i wasanaethau sy'n deillio o'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd? OAQ52823
Wel, fy nod yw sicrhau mai gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r gororau fydd y gwasanaeth rheilffordd gorau yn y DU i deithwyr o fewn y 15 mlynedd nesaf. Bydd y cytundeb newydd yn mesur llwyddiant drwy gasglu data ar niferoedd teithwyr, adborth o arolygon teithwyr, ynghyd â mesur yr amser y mae teithwyr yn ei golli o ganlyniad i amhariadau.
Iawn. Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddai'n dda iawn gennyf wybod pa fath o gytundeb lefel gwasanaeth rydych wedi'i sefydlu gyda deiliad y fasnachfraint newydd, yn enwedig mewn perthynas â'r targedau a'r dangosyddion perfformiad a nodwyd yn y cytundeb lefel gwasanaeth hwnnw. Pa mor llym rydych yn gorfodi'r dangosyddion perfformiad hynny yn y cytundebau lefel gwasanaeth—? Pa atebion sydd gennych yn y cytundeb lefel gwasanaeth a chytundeb y fasnachfraint i orfodi'r cytundeb lefel gwasanaeth mewn gwirionedd?
Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n bwysig oherwydd, yn nhrefniadau'r fasnachfraint yn ddiweddar, ychydig iawn o fetrigau a oedd gennym ar gyfer profi perfformiad y gweithredwr. Yng nghytundeb y fasnachfraint, un mesur allweddol, wrth gwrs, fydd cynnydd neu fel arall yn niferoedd y teithwyr, ond byddwn hefyd yn edrych ar berfformiad gweithredol, sy'n cynnwys dulliau sy'n canolbwyntio mwy ar deithwyr o fesur amser teithwyr a gollir. Bydd yn ystyried prydlondeb gwasanaethau drwy gydol y daith, yn hytrach na'r gyrchfan derfynol yn unig, fel yn achos y cytundeb blaenorol. Byddwn hefyd yn edrych ar y ganran o orsafoedd a gaiff eu hepgor. Bydd hwnnw'n cael ei fonitro'n barhaus. Byddwn hefyd yn edrych ar drenau heb ddigon o gerbydau. Ceir mesurau mwy caeth ar gyfer trenau â llai na'r arfer o gerbydau a nifer y gorsafoedd a gaiff eu hepgor. Mae hefyd yn werth imi nodi bod trefn ansawdd gwasanaeth yn cael ei gweithredu sy'n ei gwneud yn ofynnol i drenau a gorsafoedd fodloni amrywiaeth o safonau'n seiliedig ar deithwyr mewn arolygiadau rheolaidd. Ac wrth gwrs, byddwn hefyd yn defnyddio'r arolwg teithwyr rheilffyrdd cenedlaethol yn ogystal ag arolygon boddhad cwsmeriaid rheolaidd, a bydd arolygon cwsmer cudd yn cael eu cynnal hefyd. Bydd perfformiad y gweithredwr a'r partner datblygu yn cael ei fonitro ar sail barhaus. Os bydd y perfformiad yn disgyn islaw'r lefelau rydym yn eu disgwyl a'r lefelau y cytunwyd arnynt, byddwn yn rhoi sefyllfa unioni ar waith. Gallai'r sefyllfa unioni arwain at ostwng neu atal y taliad cymhorthdal i'r gweithredwr a'r partner datblygu.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhan o'r fasnachfraint newydd yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rheilffordd bob hanner awr ym Mro Morgannwg. Rwyf wedi ymgyrchu am wasanaeth bob hanner awr ers blynyddoedd lawer, gan gredu bod datblygu cynllun trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn ffordd fwy cynaliadwy o sicrhau cysylltedd ar gyfer cymudwyr, trigolion y Fro, ymwelwyr â'r arfordir treftadaeth a maes awyr Caerdydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod yn ymwybodol o'r gwrthwynebiad sylweddol i gynigion y Fro ar gyfer ffordd fawr newydd i gysylltu'r A48 â'r M4. Mae ymgyrchwyr yn bryderus iawn ynglŷn â llygredd a diffyg cynrychiolaeth i'r grŵp amgylcheddol yn y grŵp adolygu ffyrdd. Felly, a ydych yn cytuno y dylid prysuro fy ngalwad am wasanaeth bob hanner awr yn y Fro? Mae'n ymddangos bod mwy byth o frys amdano.
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am arwain yr ymgyrch dros wasanaethau rheilffyrdd gwell ar gyfer ei hetholwyr, ac a gaf fi hefyd ddiolch i'r Aelod am gytuno i gyfarfod â mi yn ddiweddar i drafod pryderon lleol am y cynigion ar gyfer ffordd fawr newydd i gysylltu'r A48 â'r M4? Mae'r mater y mae'r Aelod yn ei godi yn ymwneud â nifer y cerbydau trên sydd ar gael. Nawr, bydd rheilffordd Bro Morgannwg yn gweld cynnydd i ddau drên yr awr o 2023 ymlaen, ac mae'r cynnydd yn nifer y gwasanaethau yn dibynnu, wrth gwrs, ar gael cerbydau tri-moddol newydd sbon yn weithredol. Byddai'r amseroedd rhagbaratoadol cyfredol yn awgrymu mai'r dyddiad cynharaf y bydd y trenau hyn ar gael fydd 2023. Fodd bynnag, os oes unrhyw ffordd o gaffael y trenau'n gynt na hynny, byddwn yn eu gweithredu cyn y dyddiad hwnnw.
Rwy'n meddwl tybed a allaf fod yn gwsmer cudd o dan y fasnachfraint newydd, Ysgrifennydd y Cabinet—bydd rhywun yn siŵr o sylwi arnaf.
Un maes y gwyddoch fod gennyf ddiddordeb mewn gweld gwelliant mawr ynddo—codais y mater gyda'r Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf—yw mynediad i bobl anabl yn ein gorsafoedd. Ni chafodd ei wella cymaint â hynny o dan y fasnachfraint flaenorol. Gwn fod y Prif Weinidog wedi addo bod gwelliannau ar y gweill o dan y fasnachfraint newydd. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â mynediad i bobl anabl yng ngorsaf y Fenni, fel y gwyddoch. Rwy'n meddwl tybed a allech chi roi mwy o fanylion i ni am yr hyn a argymhellir ar gyfer gorsafoedd o ran gwella mynediad i bobl anabl, mewn perthynas â'r gorsafoedd yn fy etholaeth i yn benodol.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? A byddaf innau hefyd yn ystyried ei gais i fod yn gwsmer cudd ar gyfer y fasnachfraint. [Chwerthin.] Rwy'n falch o ddweud y bydd gorsaf y Fenni yn orsaf a fydd yn elwa o fuddsoddiad i sicrhau nad oes unrhyw risiau yno er mwyn gwella mynediad i bawb. Mae'n dipyn o gyferbyniad mai tua £600,000 yn unig a wariwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ar wella gorsafoedd ledled Cymru a'r gororau, ac yn y 15 mlynedd nesaf, bydd bron i £200 miliwn yn cael ei wario ar wella'r gorsafoedd hynny, gorsafoedd nad oedd y gweithredwr blaenorol yn gweld eu gwerth, ar sawl ystyr.
Nawr, credaf ei bod yn bwysig nodi hefyd, o fewn y £200 miliwn hwnnw, y bydd tua £15 miliwn ohono'n cael ei wario ar wella mynediad i orsafoedd. Byddwn yn ceisio sicrhau nad oes grisiau mewn cynifer o orsafoedd â phosibl, er mwyn gwella hygyrchedd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau i bobl anabl yn enwedig.