– Senedd Cymru am 2:59 pm ar 24 Hydref 2018.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei ymchwiliad i 'Tai Carbon Isel: yr Her'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr heriau o ddiwallu ein hangen am dai carbon isel. Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau presennol a blaenorol o'r pwyllgor a gyfrannodd at ein hymchwiliad, y tîm clercio, y Gwasanaeth Ymchwil a'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni.
Mae ein hadroddiad yn mynd i'r afael â'r rhesymau pam y mae angen cartrefi effeithlon o ran eu defnydd o ynni, costau cael tai nad ydynt yn defnyddio ynni'n effeithlon a'r camau angenrheidiol i ni gyrraedd lle mae angen inni fod er mwyn diwallu ein hymrwymiad ar leihau allyriadau. Pam y mae angen newid? Ceir llawer o resymau pam y dylem wella gallu ein stoc dai i arbed ynni. Y pwysicaf yw'r angen i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i gael gwared ar dlodi tanwydd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae angen i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050. Mae targedau heriol yn galw am atebion heriol. Bydd lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi yn cyflymu'r cynnydd tuag at y nodau hyn yn sylweddol. Bydd cyrraedd y targedau hyn yn galw am gynyddu uchelgais yn sylweddol a rhaid i hynny rychwantu holl ysgogiadau polisi Cymru.
Ein prif argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth carbon isel 10 mlynedd, gan gynnwys cerrig milltir a thargedau mewn chwe maes allweddol, gan gynnwys adeiladu o'r newydd, ôl-osod a chynllunio. Byddaf yn canolbwyntio ar dri o'r meysydd allweddol hynny heddiw.
Yn gyntaf, ôl-osod. Erbyn 2050, mae'n debygol y bydd llawer iawn mwy o dai a adeiladwyd yn yr ugeinfed ganrif nag o dai a adeiladwyd yr unfed ganrif ar hugain, ac mewn sawl rhan o Gymru, bydd mwy o dai a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nag o dai a adeiladwyd yr unfed ganrif ar hugain. Felly, yn amlwg, mae angen inni ôl-osod. Mae cartrefi aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni yn arwain at filiau tanwydd uwch a'r tlotaf yn ein cymdeithas sy'n dioddef waethaf o ganlyniad i hyn. Mae gormod o bobl sy'n agored i niwed yn talu gormod am eu gwres heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario miliynau lawer ar liniaru tlodi tanwydd trwy ôl-osod mesurau effeithlonrwydd gwresogi ar gyfer y rhai sy'n wynebu fwyaf o berygl. Mae ein hadroddiad yn canmol ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem hon a'r cyhoeddiad o £72 miliwn pellach yn rhaglen Arbed i barhau'r rhaglen. Er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth, ni chyrhaeddwyd y targed tlodi tanwydd. Rydym wedi clywed bod angen gwneud gwaith ôl-osod ar raddfa fawr er mwyn cael unrhyw effaith ar dlodi tanwydd, ac ôl-osod 40,000 o dai y flwyddyn er enghraifft er mwyn bod ag unrhyw obaith o gyrraedd y targed erbyn 2050. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru anelu at ôl-osod yr holl dai sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru i fyny at safonau gweithredu di-garbon o fewn 10 mlynedd.
Yr ail faes yr hoffwn ganolbwyntio arno yw adeiladu o'r newydd. Er mai 6 y cant yn unig o dai a adeiladir o'r newydd, mae'n rhywbeth sy'n rhaid ei gael yn iawn. Bydd adeiladau newydd heddiw yn dal i gael eu defnyddio yn yr ail ganrif ar hugain. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, o fewn oes ein strategaeth 10 mlynedd arfaethedig, sicrhau bod pob tŷ newydd yn cael ei adeiladu yn ôl safonau di-garbon.
Ychydig o adeiladwyr tai ar raddfa fawr a geir, ac nid oes llawer o gymhelliad i gynnig mwy na'r safon sy'n ofynnol yn ôl y rheoliadau adeiladu, ond mae rhai adeiladwyr mawr braidd yn amharod i adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy, heb sôn am wneud yn siŵr fod tai'n cael eu hadeiladu i fod yn gynnes. Dywedwyd wrthym y byddai newidiadau i'r rheoliadau adeiladu yn arwain at adeiladu llai o dai yng Nghymru. Mae pawb ohonom wedi clywed hynny o'r blaen, onid ydym, Ddirprwy Lywydd? Dywedwyd hynny wrthym am systemau chwistrellu. Ond dywedwyd wrthym hefyd, gyda rhybudd ac amser, y bydd cwmnïau adeiladu tai mawr hyd yn oed yn gallu addasu i safonau adeiladu uwch. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru nodi amserlen glir i symud tuag at dai di-garbon ar waith, fel y gall adeiladwyr tai, y gadwyn gyflenwi a darparwyr sgiliau baratoi. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn.
Roeddem hefyd yn bryderus i glywed rhanddeiliaid yn dweud wrthym nad yw'r safonau adeiladau presennol yn cael eu gorfodi. Yn amlwg, nid yw'r system yn gweithio. Mae angen i'r system arolygu fod yn llawer mwy trylwyr ac annibynnol. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno marc ansawdd ar gyfer mesurau arbed ynni mewn tai a adeiladir o'r newydd a thechnoleg ôl-osod i gynyddu hyder defnyddwyr mewn cartrefi carbon isel. Rhaid i arolygu a gorfodi'r nod ansawdd hwn gael ei orfodi'n annibynnol ac yn drylwyr. Hefyd, dylai osod rhwymedigaeth ar y gosodwr i sicrhau bod y perfformiad gofynnol yn cael ei ddarparu neu atgyweirio, neu osod technoleg o'r newydd. Nid 'Dyma'r hyn y gallech ei gyflawni pe bai popeth arall yn gweithio'n berffath.'
Wrth gwrs, ni ellir darparu'r mesurau uchelgeisiol hyn ar gyfer ôl-osod ac adeiladu o'r newydd oni bai fod gennym fynediad at y sgiliau cywir ar yr amser cywir. Gwelsom fod prinder gweithwyr proffesiynol medrus yn gweithio yn y diwydiant. Mae'r angen i dalu am lafur ychwanegol yn cynyddu cost y dechnoleg angenrheidiol, sy'n gwneud adeiladwyr yn amharod i'w gosod. Dywedodd cynrychiolwyr y diwydiant wrthym mai'r rhwystr mwyaf i fuddsoddi mewn hyfforddiant yw diffyg sicrwydd yn y farchnad. Er mwyn buddsoddi mewn hyfforddiant, mae angen iddynt wybod y bydd y sgiliau hynny'n cael eu defnyddo. Dyma pam y mae ymrwymiad clir i amserlen 10 mlynedd tuag at safonau gweithredu di-garbon mor bwysig. Bydd yn rhoi hyder i'r diwydiant hyfforddi'r gweithlu sydd ei angen arnom i ddod â'n cartrefi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain.
Yn olaf, hoffwn droi at ymateb Llywodraeth Cymru. Nid wyf wedi treulio llawer o amser yn siarad amdano hyd yma. Bydd yn gyfarwydd iawn i'r Aelodau—derbyn argymhellion mewn egwyddor, ond nid oes gennym syniad sut y cânt eu cyflawni'n ymarferol. Dywedir wrthym fod pynciau'n cael eu hadolygu gan grwpiau o ymgynghorwyr neu weision sifil. Gellir maddau i Aelodau am deimlo rhywfaint o déjà vu. Rwy'n meddwl am 'gytuno mewn egwyddor' fel rhywbeth sy'n golygu, 'Nid ydym yn mynd i'w wneud, ond nid ydym am gael dadl ynglŷn â pheidio â'i wneud, felly fe wnawn dderbyn mewn egwyddor fel bod gennym elfen gadarnhaol yno.' Mewn gwirionedd, ac rwy'n edrych arnoch chi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod arnom angen system lle mae pethau naill ai'n cael eu derbyn, eu derbyn yn rhannol a bod y rhannau a dderbynnir yn cael eu henwi, neu'n cael eu gwrthod. Byddai'n well o lawer gennyf gyflwyno argymhellion sy'n cael eu gwrthod a gallaf ddadlau'r achos pam na ddylent gael eu gwrthod wedyn. Sut y mae dadlau yn erbyn 'cytuno mewn egwyddor'? Mae gennych y 'cytuno' i mewn yno—hynny yw, rydych yn cytuno ag ef mewn egwyddor, felly sut y mae dadlau'r achos hwnnw? Mae'n gwneud bywyd yn anodd iawn, ac nid yn achos yr adroddiad hwn yn unig y mae'n digwydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, nid ymosodiad personol yw hynny, mae'n ymateb eithaf cyffredin gan y Llywodraeth y credaf ei fod yn annerbyniol.
Cymerwch ein hargymhelliad allweddol ynghylch strategaeth gynhwysfawr 10 mlynedd ar gyfer tai carbon isel. Dywed yr ymateb fod grŵp cynghori eisoes yn edrych ar y materion hyn ac y bydd yn adrodd yn ôl yn haf 2019. Cynhwyswch yr amser y bydd yn cymryd i'r Llywodraeth ymateb, ac yna ychwanegwch yr amser y bydd yn cymryd i ddatblygu polisi go iawn sy'n ymarferol a'r amser sydd ei angen i ymgynghori yn ei gylch—ychydig iawn o gynnydd a wnawn yn ein rhaglen 10 mlynedd. Rwy'n credu y byddwn i lawr i bump wedi'r rhestr honno, os nad aiff dim o'i le. Mae'n wirioneddol bwysig inni fod o ddifrif ynglŷn â chreu tai carbon isel.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siarad ar ran y pwyllgor cyfan—rydym yn teimlo'n rhwystredig oherwydd yr oedi a'r diffyg cynnydd. Mae ein hadroddiad yn cynnwys cynigion uchelgeisiol a heriol i Gymru. Rydym yn gobeithio yn eich ymateb y byddwch yn dangos yr un uchelgais ag a ddangoswyd gennym ni tuag at sicrhau tai carbon isel i Gymru.
Mae'n bleser cael dilyn ein Cadeirydd rhagorol. Dywedaf 'ein' Cadeirydd rhagorol—bellach rwyf wedi gadael y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ond fe fwynheais fy amser yn aelod ohono, ac roeddwn yn credu bod hwn yn adroddiad arbennig o bwysig, ac yn un addas i orffen fy amser ar y pwyllgor.
Mae tai'n faes allweddol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, ac os ydym yn mynd i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050, maent yn mynd i fod yn ganolog i unrhyw strategaeth. Ond er mor uchelgeisiol yw'r targedau hynny—wel, roeddent yn sicr yn uchelgeisiol pan gawsant eu gwneud—mae'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn awgrymu efallai y bydd yn rhaid inni fynd ymhellach ac yn gyflymach. Mae cyflymder cynhesu byd-eang bellach yn peri pryder enfawr.
Rwy'n rhannu diffyg amynedd Mike â'r system o ymateb i adroddiadau a dweud 'derbyn mewn egwyddor'. Nawr, roeddwn yn meddwl bod yr Ysgrifennydd Parhaol eisoes wedi gwneud ymrwymiad na fyddai Llywodraeth Cymru yn ymateb yn y ffordd hon; dylai wneud yn union yr hyn a ddywedodd Mike Hedges: derbyn, gwrthod neu dderbyn yn rhannol. Ddirprwy Lywydd, pe bai rhywun yn gofyn i Lywodraeth Cymru, 'Beth yw eich barn am y 10 gorchymyn?', tybed a fyddent yn dweud, 'Derbyn mewn egwyddor'. [Chwerthin.] Wel, wyddoch chi, nid yw hyn yn mynd â ni'n bell iawn mewn gwirionedd. Mae'r rhain yn angenrheidiol, dyna pam y mae gennym adroddiadau, ac mae angen ymatebion polisi clir. Rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Cadeirydd y pwyllgor, pan fyddwn yn cyflwyno adroddiad ar ôl cael tystiolaeth gynhwysfawr, wedi'i hystyried yn ofalus iawn, a'i chefnogi gan ysgrifenyddiaeth rhagorol, a sylw'r aelodau, wrth gwrs, dan arweiniad y Cadeirydd, rwy'n credu o ddifrif mai dyna'r dystiolaeth gadarnaf a gewch ar y materion hyn. Felly, rwy'n credu bod angen inni gael ymateb cryfach.
Roeddwn yn arbennig o siomedig ynglŷn â derbyniad amodol Llywodraeth Cymru i argymhelliad 1. Mae angen strategaeth 10 mlynedd arnom ar frys, ac rydych chi'n dweud eich bod yn mynd i aros am adroddiad y grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi, ond a ydych am gael strategaeth wedyn? Dywedwch hynny wrthym o leiaf, os ydych yn disgwyl i'r grŵp hwnnw gyflwyno'i adroddiad. Yr hyn a ddywedasom yw bod angen strategaeth arnoch, a chredaf fod hwnnw'n argymhelliad eithaf uniongyrchol y gallem gael 'ie' neu 'na' yn ateb iddo.
Os symudaf at argymhelliad 3—eto wedi'i dderbyn mewn egwyddor—ac mae hwnnw'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau ansawdd, rwy'n derbyn bod y Llywodraeth wedi sylweddoli bod hynny'n wirioneddol bwysig. Ond gadewch i ni gofio na fydd y systemau gorau'n cyflawni os cânt eu gosod yn wael, a gwelsom dystiolaeth fod hyn wedi bod yn digwydd. Hefyd, os ydym yn ceisio cael pobl i dalu eu harian eu hunain am ôl-osod— a gall gostio £15,000 ar gyfartaledd—rhaid inni allu rhoi sicrwydd i bobl eu bod yn mynd i gael cynnyrch o ansawdd. Nodaf felly mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y marc ansawdd newydd ar gyfer ôl-osod cynhyrchion, ond hoffwn wybod beth fydd Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau defnydd effeithiol o'r marc siarter hwnnw yn ei rhaglenni ei hun. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallwch ei ateb yn awr.
Gwrthodwyd argymhelliad 6, ac yn y ffocws ar ôl-osod, mae hwn yn pwysleisio angen y rhai sydd yn y categori o berchnogion cartrefi sydd â gallu i dalu ac ar incwm isel. Mae hon yn rhan wirioneddol bwysig o'r farchnad, gan mai dyma'r bobl y mae gwir angen inni eu denu os gallwn gael y llu o bobl hynny i fynd ati i ôl-osod. Maent yn mynd i fod y tu allan i raglenni cyhoeddus fel arfer, nid ydynt mewn tai cymdeithasol, ac maent yn mynd i orfod ysgwyddo cost yr ôl-osod. Efallai y bydd modd inni eu helpu mewn ffyrdd penodol gyda chynhyrchion morgais deniadol neu fenthyciadau neu beth bynnag, ond mae'n faes eithriadol o bwysig a chredaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi arweiniad.
O ran argymhelliad 7, unwaith eto, pwynt a wnaed gan ein Cadeirydd: mae angen inni sicrhau bod gweithlu talentog a medrus ar gael. Ond teimlwn fod yr ymateb i'n hadroddiad yn arbennig o hunanfodlon, oherwydd oni bai ein bod yn gwybod y bydd gennym strategaeth a maint y gwaith ôl-osod y byddwn yn ei wneud, ni allwn obeithio hyfforddi'r nifer o bobl y byddwn eisiau iddynt fod yn gymwys ar gyfer y gwaith adeiladu pwysig hwn.
Yn olaf, ar argymhelliad 13, a wrthodwyd, credaf ei bod yn amlwg nad ydych yn credu bod cymhellion treth uniongyrchol yn briodol ar gyfer y sector perchnogion tai sydd â gallu i dalu ac ar incwm isel, ond wedyn credaf fod angen inni gael gwell dangosydd o ba ddewisiadau eraill rydych yn mynd i'w defnyddio. Ni allwch ddweud, 'Ceir tystiolaeth ryngwladol fod systemau grantiau a strategaethau cyfathrebu yn well.' Beth rydych chi'n mynd i'w wneud? Dyna rydym am ei wybod. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Fel aelod newydd sbon o'r pwyllgor hwn nad oedd yn ddigon ffodus i glywed llawer o'r dystiolaeth a gafwyd, fe fwynheais ddarllen yr adroddiad yn fawr, a darllenais ymatebion y Llywodraeth i'r argymhellion hefyd. Mae'n amlwg ein bod yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth geisio cyflawni ein rhwymedigaethau newid hinsawdd yma yng Nghymru, a bydd gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050 yn galw am gamau gweithredu hirdymor beiddgar a phendant gan Lywodraeth Cymru, ac mae gwneud tai yn elfen ganolog o gyflawni hynny o ran gwneud ein cartrefi'n fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni yn mynd i fod yn un o'r elfennau allweddol wrth gyflawni hynny, er yn un anodd iawn, yn amlwg, oherwydd oedran ein stoc dai—mae ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac mae'r adroddiad yn galw'n briodol am weledigaeth uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru. Mae angen cynyddu graddfa a chyflymder y gwaith o gyflawni cartrefi effeithlon iawn o ran eu defnydd o ynni ar frys, neu wrth gwrs, fe fyddwn yn methu ateb yr heriau a wynebwn. A byddaf yn ymhelaethu ar rai o'r negeseuon hyn yn ein dadl ddiweddarach ar newid hinsawdd.
Hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth y Cadeirydd a David Melding ynglŷn â'r duedd hon i dderbyn mewn egwyddor. Roedd yn amlwg yn nodwedd yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl'. Yn yr achos hwnnw, wrth gwrs, gyrrwyd y Gweinidogion a'r Ysgrifenyddion Cabinet yn ôl i edrych ar beth o hwnnw eto. Ac rydych yn iawn i gyfeirio at lythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, David Melding, ond roedd y llythyr yn ymwneud yn benodol â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n meddwl tybed—credaf ei fod wedi cyrraedd pwynt yn awr lle mae gwir angen inni ystyried a ddylid ei ymestyn i gynnwys yr holl bwyllgorau, neu o leiaf fod proses ar waith i edrych ar hyn i gyd.
Beth bynnag, mae gwir angen i Lywodraeth Cymru uwchraddio ei rhaglenni effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â materion newid hinsawdd wrth gwrs, fel y gwyddom, ac i fanteisio ar y swyddi a gaiff eu creu yn ogystal. Hoffwn ein gweld yn gosod targed i leihau'r galw am ynni, ac agregu hwnnw i lawr i lefel leol hyd yn oed, fel y gallwn annog mwy o berchnogaeth leol ar yr hyn sydd angen ei wneud mewn gwirionedd, a gwneud uchelgais byd-eang yn rhywbeth y gall pobl mewn cymunedau unigol uniaethu ag ef a theimlo y gallant gyfrannu mewn modd cadarnhaol tuag at ei wireddu.
Mae tua 23 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, ac rydym yn amcangyfrif bod tua 1,800 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf bob blwyddyn, ac yn 2016-17, gellid priodoli tua 540 ohonynt i gartrefi oer. Nawr, mae hynny'n adrodd ei stori ei hun yn ogystal. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi defnyddio dinas-ranbarth bae Abertawe fel astudiaeth achos o sut y gallai'r rhanbarth hwnnw ddiwallu ei ofynion ynni rhagamcanol yn gyfan gwbl o adnoddau adnewyddadwy erbyn 2035. Canfu bosibiliadau sylweddol ar gyfer cyfleoedd i gyflawni'r her honno. Er enghraifft, byddai angen i 200,000 o gartrefi—dyna 60 y cant o'r eiddo domestig yn y rhanbarth hwnnw—fabwysiadu mesurau effeithlonrwydd ynni er mwyn cyrraedd y nod ar gyfer 2035. Nawr, byddai hynny hefyd wrth gwrs yn sicrhau y byddai pob cartref yn arbed rhwng £350 a £420 y flwyddyn ar eu bil ynni blynyddol. Nawr, fel plaid rydym wedi dweud y byddem yn lansio rhaglen effeithlonrwydd ynni genedlaethol i helpu i wneud cartrefi'n gynhesach, lleihau biliau ynni, creu swyddi a helpu'r amgylchedd mewn rhaglen fuddsoddi gwerth biliynau lawer o bunnoedd dros ddau ddegawd.
Cyn i fy amser ddod i ben, nid wyf eisiau anghofio'r ail argymhelliad sy'n cyfeirio at Ran L y rheoliadau adeiladu. Yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn yn llefarydd y blaid ar y mater hwn ar y pryd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar wella effeithlonrwydd ynni, ac roedd ganddynt ddau opsiwn yn yr ymgynghoriad. Roedd un ar gyfer gwelliant o 40 y cant; roedd y llall ar gyfer gwelliant o 25 y cant. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad, ac chytunwyd ar lefel o 8 y cant. Nawr, roedd hwnnw'n gyfle mawr a gollwyd yn fy marn i, i Gymru fod ar flaen y gad, i ennill mantais y symudwr cyntaf ar y daith, wrth gwrs, lle mae'n rhaid i bawb ohonom sicrhau lefel benodol erbyn adeg benodol mewn amser, felly nid oedd erioed yn fater o ddewis a oeddem am symud i'r cyfeiriad hwnnw, ac mae'n dda gweld pobl a bleidleisiodd yn erbyn hynny ar y pryd yn llawer mwy brwd ynglŷn â hyn, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Serch hynny, yn fwy cyffredinol, o gofio bod y cloc yn fy nhrechu, rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig o weld pa mor gymedrol yw ymateb Llywodraeth Cymru. Nid yw'n cyfleu'r brys sydd ei angen arnom, nac yn wir yr uchelgais y mae gennym hawl i'w ddisgwyl.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Cododd Mike Hedges y mater ynglŷn â faint o reoleiddio sydd ei angen arnom yn y rhan hon o'r farchnad dai, ac wrth gwrs rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gor-reoleiddio, ond credaf iddo wneud achos da fod angen lefel benodol o reoleiddio er mwyn ymdrin â phroblem hen dai a'u diffyg effeithlonrwydd ynni. Felly, mae tai carbon isel yn un ffordd y gallwn wneud hynny. Mae ôl-osod yn mynd i fod yn rhan angenrheidiol o'r rhaglen, fel y nododd Mike Hedges, ac mae angen inni gael sicrwydd ansawdd os ydym yn mynd i gyflwyno rhaglen ôl-osod, er mwyn osgoi problemau a gawsom yn y gorffennol gyda chontractwyr anfedrus yn mynd i mewn i'r farchnad, fel y gwelsom gydag inswleiddio waliau ceudod. Felly, rhaid inni fod yn ofalus nad ydym yn ailadrodd camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol.
Mae hyfforddiant yn broblem. Fel y dywedodd Mike, roedd gennym bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad yn crybwyll materion ynglŷn â hyfforddiant. Nawr, bydd angen sgiliau newydd yn y gwaith o gynhyrchu cartrefi carbon isel yn y dyfodol, oherwydd nid yw'r mathau o sgiliau sydd eu hangen arnoch i adeiladu'r rhain yn sgiliau adeiladu traddodiadol. Gallai colegau addysg bellach gynnig y mathau hyn o gyrsiau. Clywsom dystiolaeth gan dystion yn nodi hyn. Ond wrth gwrs, mae angen inni wybod y bydd yna farchnad ar gyfer y sgiliau hyn yn y dyfodol, ac mae angen inni gael rhywfaint o sicrwydd y bydd rhyw fath o gymorth gan y Llywodraeth tuag at gynlluniau tai carbon isel. Crybwyllwyd materion cynllunio yn yr ymchwiliad hefyd. Nodwyd materion yn ymwneud ag ôl-osod waliau'n benodol, oherwydd dywedwyd wrthym fod ôl-osod waliau, o dan ddehongliad llym o'r rheolau cynllunio—. Nid oedd caniatâd cynllunio i fod yn ofynnol, ond dywedwyd wrthym ei bod hi'n anhygoel pa mor aml y mae arolygwyr cynllunio'n penderfynu bod angen caniatâd cynllunio i ôl-osod waliau, ac awgrymwyd y gallai hyn fod yn rhan o system gan gynghorau lleol, sydd â hawl i godi eu ffioedd cynllunio eu hunain, i benderfynu codi tâl ar bobl am wahanol bethau nad oedd angen codi tâl amdanynt a bod yn fanwl gywir, er mwyn codi refeniw ychwanegol i'w hawdurdod lleol sy'n brin o arian. Nid wyf yn gwybod pa mor real yw'r broblem honno, ond soniodd un neu ddau o bobl amdani, felly mae'n werth ymchwilio i hynny mae'n debyg.
Mater derbyn argymhellion mewn egwyddor: nid yw'n arfer da iawn, ac mae i'w weld yn cael ei ddefnyddio fwyfwy gan Lywodraeth Cymru. Ond mae Aelodau eraill wedi—maent wedi dangos eu teimladau ynglŷn â hynny, ac rwy'n falch fod Mike Hedges wedi gwneud hynny yn ogystal, a'i fod yn dal i ddangos annibyniaeth barn gref fel Cadeirydd y pwyllgor. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, sy'n cydnabod bod darparu tai carbon isel yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd a heriau sylweddol. Adeiladau domestig sy'n gyfrifol am gyfran bwysig o allyriadau carbon Cymru. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall y gellir lleihau allyriadau mewn llawer o ffyrdd gwahanol, a bydd angen amrywiaeth o atebion, yn seiliedig ar y math o dŷ, deiliadaeth, perfformiad ynni, demograffeg, defnydd adeiladau ac amrywiaeth o ffactorau eraill. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio a minnau, ochr yn ochr â'n cyd-Aelodau gweinidogol, yn ymrwymedig i drawsnewid Cymru yn wlad ffyniannus mewn byd carbon isel.
Ym mis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i wneud datgarboneiddio yn faes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb'. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn gofyn i'r Aelodau gytuno ar dargedau allyriadau ar gyfer 2020, 2030 a 2040, a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Bydd hyn yn darparu llwybr datgarboneiddio clir ar gyfer Cymru. Dros yr haf, lansiwyd ymgynghoriad gennym i ofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar ein dull o ddatgarboneiddio Cymru, ac roeddwn yn hapus iawn gyda'r ymateb. Mae'r ymatebion hyn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd a byddant yn llywio datblygiad ein cynllun cyflawni carbon isel, a gyhoeddir ym mis Mawrth 2019.
Roedd ein hallyriadau o'r sector preswyl yn 8 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2016, ac mae allyriadau o'r sector wedi gostwng 25 y cant ers y llinell sylfaen yn 1990. Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen newydd o gamau gweithredu a fydd yn datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru 80 y cant erbyn 2050. Bydd targedau a cherrig milltir clir i'r rhaglen hon. Rydym wrthi'n datblygu'r rhaglen gan ddefnyddio ymchwil annibynnol wedi'i chomisiynu'n arbennig i ddarparu sylfaen dystiolaeth gref. Mae'r grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol, yn ein helpu i ddatblygu'r rhaglen, a'i chyflwyno wedyn.
Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl cefnogi argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â strategaeth tai carbon isel yn llawn, gan ei bod hi'n dal yn aneglur beth fydd yr ymchwil a'r grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio yn ei argymell i Weinidogion. Disgwylir yr adroddiad yn ystod haf 2019. Ond yn ddiweddar, siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan Mark Isherwood, ac fe ymrwymais i fod yn barod iawn i weithio ar gyflwyno'r strategaeth honno yn gynt, a chredaf mai'r cyngor a roddodd y rhanddeiliaid imi yn y cyfarfod hwnnw oedd y byddai gofyn cael strategaeth 10 mlynedd.
Yn y cyfamser, defnyddir ein rhaglen tai arloesol i brofi atebion carbon isel. Yn 2018-19, mae'n agored i landlordiaid cymdeithasol a'r sector preifat. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn annog y sector busnesau bach a chanolig ym maes tai yng Nghymru i ddechrau adeiladu eto, ond mewn ffordd sy'n newid eu harferion presennol. Drwy bartneriaethau sgiliau rhanbarthol a rhaglenni cymorth amrywiol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad yn y ddarpariaeth hyfforddiant i sicrhau bod gan y sector adeiladu weithlu gyda'r sgiliau priodol i gyflawni ei dargedau ar gyfer cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur er mwyn darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ar lefelau darparu presennol yn erbyn tueddiadau cyfredol, ond maent hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr a phrosiectau datblygu sylweddol i ragweld anghenion sgiliau yn y dyfodol.
Mae Rhan L o'r rheoliadau adeiladu yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd i gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd a darparu cartrefi sydd bron yn ddi-ynni fan lleiaf. Cyfeiriodd David Melding at fwlch perfformiad fel y'i gelwir, ond rwy'n credu'n sicr y bydd yr adolygiad hwn yn mynd i'r afael â hynny yn y dyfodol. Byddaf yn ystyried gosod safonau llymach os na fydd adeiladu bron yn ddi-ynni yn bodloni ein dyheadau presennol o ran ynni. Fel rhan o'r gwaith ar gyflawni'r newidiadau nesaf i Ran L, byddwn yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol y tu hwnt i'r adolygiad presennol a'r amserlen ar gyfer eu cyflawni.
Drwy ein rhaglenni ein hunain, rydym yn hyrwyddo safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni a gosod. Gyda chau'r tariffau cyflenwi trydan ym mis Mawrth 2019, bydd angen inni edrych hefyd i weld sut yr ysgogwn ostyngiadau mewn allyriadau drwy fesurau ynni adnewyddadwy mewn cartrefi. Eleni, rydym wedi dyfarnu a pharatoi contractau ar gyfer cyfnod nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Mae contractau Nyth ac Arbed 3 yn mynnu bod asesiadau tŷ cyfan yn cael eu cynnal i sicrhau bod yr ateb cywir yn cael ei gynnig. Golyga hyn ein bod yn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref ac yn rhoi'r cymorth y maent ei angen i bobl beidio â byw mewn tlodi tanwydd. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn y rhaglen hon, gyda buddsoddiad o £104 miliwn rhwng nawr a 2021. Bydd ein buddsoddiad hefyd yn denu hyd at £24 miliwn o gyllid o'r UE yn ogystal â chyllid o rwymedigaeth cwmni ynni y DU, a bydd hyn yn ein galluogi i wella hyd at 25,000 o gartrefi.
Eisoes mae gennym gynlluniau i gomisiynu dadansoddiad cost a budd o ôl-osod cartrefi, a bydd hynny'n cynnwys aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd. Bydd hyn yn gwella'r modd y byddwn yn helpu pobl allan o dlodi tanwydd yn y dyfodol, tra'n cefnogi ein hamcanion o ran datgarboneiddio tai. Rydym hefyd yn arwain y ffordd drwy ddangos ffyrdd y gall darparwyr morgeisi gymell cyfraddau benthyca ffafriol ar gyfer cartrefi carbon isel. Mae'r prosiect i fenthycwyr dan arweiniad y diwydiant wedi darparu fformiwla ar gyfer asesiadau fforddiadwyedd sy'n ystyried effeithlonrwydd ynni'r eiddo a gall ddarparu benthyciadau ychwanegol ar gyfer cartrefi mwy effeithlon. Cyflwynwyd y fformiwla hon i gyfrifwr fforddiadwyedd Cymorth i Brynu—Cymru ym mis Mehefin eleni.
Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd symud tuag at gartrefi di-garbon neu garbon isel, nid ydym am gyflwyno hyn i'r holl gynlluniau ar hyn o bryd, ond yn hytrach, cyflwyno'r math hwn o ofyniad dros gyfnod o amser. Mae cronfa safleoedd segur Cymru, er enghraifft, wedi'i chynllunio i ddod â chohort o BBaChau sy'n datblygu at ei gilydd cyn inni gyflwyno gofyniad o'r fath. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, ac os daw rhagor o dystiolaeth i law sy'n cefnogi'r achos dros newidiadau i bolisi neu drethiant, bydd Llywodraeth Cymru'n hapus i edrych eto ar yr achos. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges, i ymateb i'r ddadl?
Diolch. A gaf fi ddiolch i David Melding am ei sylwadau y prynhawn yma, am ei gyfraniad i'r ddadl, ac am ei gyfraniad yn ystod y pwyllgor? Gallaf ddweud y byddwn yn gweld eich colli yn y pwyllgor pan fyddwn yn trafod tai.
Mae'n nodi bod sicrwydd ansawdd yn bwysig. Mae angen i bobl gael sicrwydd os ydynt yn prynu rhywbeth, fod yr ansawdd sydd ganddynt yn golygu nad ydynt yn talu arian fel y mae pobl wedi'i wneud am bethau eraill a gawsant a oedd i fod i helpu eu cartrefi ac na wnaeth hynny.
Pobl ar incwm isel ac sy'n berchnogion tai ar incwm isel sy'n byw mewn eiddo hŷn, drwy ddiffiniad. Nid deiliaid tai ar incwm isel sy'n tueddu i fyw yn eich tai sengl pum ystafell wely; mewn tai teras dwy/tair ystafell wely y mae perchen-feddianwyr ar incwm isel yn tueddu i fyw, ac mae'n bwysig fod ôl-osod yn digwydd i eiddo o'r fath. Mae'n debyg mai dyma'r grŵp mwyaf o bobl a allai elwa nid yn unig o ran tlodi tanwydd, ond gallent elwa o ôl-osod mewn gwirionedd.
Llyr Gruffydd—unwaith eto, pwysigrwydd cael dull o leihau allyriadau carbon, a rhaid i dai fod yn rhan ohono. Mae angen cynyddu graddfa a chyflymder—credaf fod hynny'n rhywbeth rydym wedi'i ddweud am lawer iawn o bethau yn ein hadroddiadau o bryd i'w gilydd, ond credaf ei fod, os gallwch grynhoi llawer iawn o bethau yma, yn symud i'r cyfeiriad cywir ond heb fod yn ddigon yn gyflym. Credaf fod hynny mwy na thebyg—. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un wedi beirniadu'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo. Ni feirniadodd neb y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn symud i leihau tlodi tanwydd. Maent yn symud i leihau carbon. Credaf mai pryder y pwyllgor—a gall unrhyw un o aelodau'r pwyllgor ddweud wrthyf os wyf yn anghywir—yw nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym.
Swyddi newydd—rydym wedi sôn llawer am y ffaith, ac rydym wedi cael Lee Waters, nad yw i mewn yma, yn dweud wrthym yn rheolaidd am effeithiau awtomatiaeth, ond bydd swyddi eraill yn cael eu creu. Bydd y gwaith ôl-osod yn annhebygol o fod wedi'i awtomeiddio, yn sicr yn y tymor byr. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwella sgiliau pobl i allu gwneud hyn.
Soniodd Gareth Bennett ein bod angen sgiliau. Mae angen i'r colegau hyfforddi pobl, ond ni fydd pobl yn cael hyfforddiant, ni fydd colegau'n rhoi cyrsiau, oni bai eu bod yn gwybod bod yna farchnad a bod sicrwydd o barhad, y gwyddant—y bobl sy'n mynd ar gwrs hyfforddi—fod yna werth 10, 15 mlynedd o waith i'w ôl-osod, yn hytrach na bod newid polisi ymhen tair blynedd, newid cyfeiriad a bod eu sgiliau'n hen ffasiwn.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Rwy'n croesawu llawer o'r sylwadau a wnaeth yn fawr. Ac mae nifer o wahanol ffyrdd o leihau allyriadau. Nid wyf yn gweld—ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro wrthyf—pam y mae deiliadaeth yn effeithio ar y dull o ôl-osod. Gallaf ddeall sut y mae'r math o eiddo yn effeithio arno, ond ni allaf ddeall sut y byddai tŷ sy'n cael ei rentu'n breifat, neu sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, neu i gymdeithas dai yn effeithio ar y math o ôl-osod y byddai ei angen arnoch. Efallai y gall y Cabinet—rwy'n eithaf hapus i dderbyn ymyriad i gael hynny wedi'i egluro i mi.
Mae datgarboneiddio'n flaenoriaeth—a nododd Ysgrifennydd y Cabinet ostyngiadau. Rydym yn mynd i gael cerrig milltir a thargedau wedi'u gosod; credaf y byddai'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma yn hoffi gwybod pryd. Ystyried safonau llymach—ie, dyna'r cyfeiriad rydym eisiau symud iddo. Adolygu Rhan L—credaf fod hynny'n rhywbeth sydd angen ei newid. Mae pawb ohonom yn croesawu Nyth ac Arbed 3, ac rwy'n siŵr y bydd pwy bynnag fydd yn sefyll yma mewn pum neu chwe blynedd yn croesawu Nyth ac Arbed 4. Ond ar ryw gam, mae angen inni fod yn gwneud cynnydd i'r fath raddau fel na fydd angen Nyth ac Arbed 5, 6, 7, 8, 9 a 10 arnom.
Mae tlodi tanwydd yn broblem enfawr. Rwyf am orffen gyda hyn—stori am un o fy etholwyr. Mae'n mynd i'r gwely am 7 o'r gloch o'r nos gyda'i merch. Pam? Dyna'r unig ffordd y gallant gadw'n gynnes. Maent yn byw mewn tŷ ar rent preifat, mae'n debyg oherwydd eu bod yn gwario mwy ar gadw'n oer nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yma'n ei wario ar eu tai i'w cadw'n gynnes. A chredaf mai dyna'r broblem. Mae gennym y lefel hon o dlodi tanwydd, a'r bobl dlotaf sy'n dioddef, nid yn unig oherwydd cost tanwydd, ond oherwydd y math o eiddo y maent yn byw ynddo—ffenestri sengl gyda bylchau sy'n golygu eu bod yn gwresogi'r byd yn dda iawn, ond heb fod cystal am wresogi eu tai eu hunain. O ddifrif, rhaid i dlodi tanwydd fod yn brif flaenoriaeth. Gwn fod Llywodraeth Cymru am ei leihau, ond mae angen inni fod yn wirioneddol ymrwymedig i'w ddileu.
Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.