1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth yn gwario £678 yn llai fesul disgybl nag yn Lloegr?
Mae hwnna'n ffigur sy'n gwbl anghywir. Os yw'n dymuno rhoi tystiolaeth o'r ffigur hwnnw i mi, rwy'n barod i'w chlywed.
Prif Weinidog, mae'r rhain yn ffigurau gan gangen Cymru undeb Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, ac mae hyn er gwaethaf cael setliad ariannu sy'n caniatáu i £120 gael ei wario fesul person yng Nghymru ar gyfer pob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Ond nid eich penderfyniad i dan-ariannu ysgolion yn unig sydd wedi arwain at ddirywiad i safonau, ond methiant eich Llywodraeth i bennu cyfeiriad eglur ar gyfer addysg yma yng Nghymru. Gadewch i ni edrych ar dargedau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, er enghraifft—mesuriad eglur o ddirywiad wedi ei reoli mewn safonau ysgolion. Yn 2011, pennwyd y targed uchelgeisiol gan eich cyd-Aelod, y Gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews—Leighton Andrews: ydych chi'n ei gofio fe? Ie; efallai nad ydych chi eisiau ei gofio—y byddai Cymru, erbyn 2015, yn yr 20 gwlad uchaf o ran canlyniadau PISA. Y gwir amdani, Prif Weinidog, yw ein bod ni yn y nawfed ar ddeg ar hugain safle allan o 71 ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw darged o gwbl erbyn hyn. Nid oes unrhyw uchelgais, dim ysgogiad a dim awydd wrth wraidd eich gweinyddiaeth i ddatblygu system addysg sy'n gystadleuol yn rhyngwladol, sy'n dweud cyfrolau gan Lywodraeth Lafur Cymru flinedig ac sy'n dangos diffyg uchelgais. Felly, a ydych chi'n cytuno â'ch cyd-Aelod blaenorol, Leighton Andrews, bod system addysg Cymru yn parhau i fod yn hunanfodlon, ac yn methu â bod yn gyson dda a chyflawni canlyniadau y mae ein dysgwyr yn eu haeddu? A ydych chi'n cytuno bod system addysg Cymru mewn lle gwannach ar hyn o bryd nag yr oedd pryd y daethoch chi'n Brif Weinidog?
Ddim o gwbl. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod dweud bod y system rywsut yn gymedrol neu fod y system mewn dirywiad a reolir yn ymosodiad difrifol ar ein hathrawon sy'n gweithio'n galed iawn, iawn, bob un dydd, i addysgu ein plant. Y gwir amdani yw ei bod hi'n amhosibl cymharu cyllid ysgolion rhwng Cymru a Lloegr. Yn Lloegr, maen nhw'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol; yng Nghymru, nid yw'n digwydd. Rydym ni'n rhoi'r arian i awdurdodau lleol a nhw sy'n gyfrifol am ariannu ysgolion.
Mae'n dweud rywsut bod dirywiad. Wel, gadewch i mi roi rhai ffigurau iddo yn y fan yma: Rydym ni wedi gwella perfformiad ar y graddau uchaf—A* i A o 17 y cant i 18 y cant mewn arholiadau TGAU; wedi gweld cynnydd o 50 y cant yn nifer y disgyblion sy'n astudio gwyddoniaeth, gyda mwy yn ennill graddau A* i C ac yn cael y graddau uchaf ar gyfer bioleg, cemeg a ffiseg; gwelwn, wrth gwrs, gyfraddau pasio Safon Uwch yn gwella; gwelwn, er enghraifft, 63 y cant o bobl ifanc 16 oed yn cael A* i C ym mhwnc Saesneg iaith; gwelwn fod rhifedd mathemateg yn 60 y cant; gwelwn welliannau flwyddyn ar ôl blwyddyn i berfformiad TGAU; a gwelwn welliannau flwyddyn ar ôl blwyddyn i berfformiad Safon Uwch.
Nid yw ein penaethiaid yn gorymdeithio ar y strydoedd yn dweud bod eu hysgolion yn cael eu tanariannu, yn wahanol i'r sefyllfa sy'n bodoli o dan ei blaid ef yn Lloegr. Awgrymaf iddo, 'Ewch i weld'. Roeddwn i yn ei etholaeth ychydig wythnosau yn ôl ar ymweliad gwleidyddol—ewch i weld yr ysgolion newydd sydd wedi eu hadeiladu neu eu haddo ledled Cymru, ac ewch i weld faint sy'n cael eu hadeiladu neu eu haddo yn Lloegr. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn parhau i allu cael y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw i ddysgu, i gael y cymorth gan Lywodraeth sydd ei angen arnynt i ddysgu, i gael y cyllid gan Lywodraeth sydd ei angen arnynt i ddysgu, yn hytrach na chael y sefyllfa yn Lloegr, lle maen nhw'n addysgu pobl ifanc a phlant mewn adeiladau sy'n dadfeilio tra bod y penaethiaid yn gorymdeithio ar y strydoedd.
Prif Weinidog, dywedasoch eich hun eich bod chi wedi cymryd eich llygad oddi ar y bêl o ran addysg. Yn amlwg, mae eich plaid wedi bod yn cysgu wrth yr olwyn dros y degawd diwethaf. A gadewch i mi roi rhai ffigurau i chi: o dan stiwardiaeth eich plaid chi, rydym ni wedi gweld y canlyniadau TGAU gwaethaf mewn degawd; y sgoriau PISA isaf yn y DU, gyda chyrhaeddiad addysgol sy'n waeth na gwledydd fel Fietnam a Slofacia; a thoriad o 8 y cant mewn termau real i gyllid ar gyfer addysg, gydag ysgolion yn paratoi ar gyfer mwy o doriadau; ac mae arweinydd eich cyngor eich hun yn eich etholaeth eich hun wedi rhybuddio y gallai'r bwlch ariannu o £57 miliwn ym maes addysg a grëwyd gan eich Llywodraeth chi arwain at golli 1,300 o athrawon neu 2,400 o gynorthwywyr addysgu ledled Cymru.
Mae'n gwbl annerbyniol bod dyfodol ein disgyblion a dyfodol Cymru yn ysgwyddo baich anallu eich Llywodraeth yn y maes hwn. Mae ein plant yn werth mwy na'r hyn yr ydych chi'n ei roi iddyn nhw, Prif Weinidog. Pan gawsoch eich penodi i'r swydd yn 2009, ai dyma'r math o ddiwygio yr oeddech chi'n bwriadu ei gyflawni? Ac a ydych chi'n falch o'ch hanes ar addysg?
Ie ac ydw. Ond gadewch i mi ddweud dau beth wrtho: aeth ei blaid ef i mewn i etholiad Cynulliad 2011 gydag addewid i dorri gwariant ar addysg gan 20 y cant—20 y cant. Dywedodd ei arweinydd ei hun ar y pryd, Nick Bourne, y byddai—[Torri ar draws.]—gwn nad ydych chi'n hoffi hyn, ond fe'i dywedodd yn fyw mewn cyfweliad ar BBC Wales. Gwelsom y gyllideb amgen a ddarparwyd gan ei blaid, ac os oes ganddo unrhyw gŵyn, does bosib nad honno yw'r ffaith nad ydym wedi torri digon ar wariant ar addysg cyn belled ag y mae ef yn y cwestiwn.
Yn ail, nid oes gen i unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n eistedd yma yn ystod yr hanner awr nesaf, ac, yn wir, yn yr wythnosau i ddod, tra ei fod ef yn mynnu ein bod ni'n gwario mwy o arian ar bopeth—iechyd, addysg, llywodraeth leol, popeth—a hoffem ni wneud hynny. Hoffem wneud hynny, ond y gwir amdani yw bod gennym ni £4 biliwn yn llai o ganlyniad i bolisïau ei blaid ef nag y byddai gennym ni fel arall pe byddai gwariant wedi cadw i fyny â datblygiad economaidd. Ni all ei chael hi bob ffordd; ni all ef sefyll ar ei draed yma bob wythnos a gofyn am arian ar gyfer pob un rhan o'r Llywodraeth bob un wythnos heb fod yn gyfrifol a dweud o ble mae'r arian hwnnw'n dod. Ni fydd yn gwneud hynny gan fod hynny'n rhy anodd.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n fodlon bod yr RAF yn hyfforddi peilotiaid Saudi Arabia yn RAF y Fali ar Ynys Môn, gan addysgu'r technegau y gellir eu defnyddio yn y rhyfel yn Yemen?
Mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, nad ydynt wedi eu datganoli, ond rwy'n sicr yn ymuno ag ef o ran dymuno gweld ateb heddychlon i'r rhyfel yn Yemen. Mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy—mae bywydau diniwed yn cael eu colli—a gwn mai safbwynt Llywodraeth y DU hefyd yw bod angen dod i gytundeb heddwch, a hynny'n fuan.
Rydych chi'n dweud ei fod yn fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond a yw moeseg yn rhywbeth nad yw wedi ei ddatganoli? A yw moesoldeb yn rhywbeth nad yw wedi ei ddatganoli? Ble mae'n dweud yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 bod materion y cydwybod wedi eu cadw yn ôl i San Steffan? Mae miloedd o bobl wedi marw yn y rhyfel yn Yemen, llawer ohonyn nhw yn sifiliaid, a phlant yn eu plith. Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar allforio arfau i Saudi Arabia, sydd, fel y nododd, wedi cael ei chyhuddo o droseddau rhyfel gan y Cenhedloedd Unedig.
Nawr, ddydd Sul, mewn seremoni sanctaidd ger y Senotaff i goffáu'r rhai a laddwyd mewn rhyfeloedd, gwnaed addewid gennych chi a minnau, a dyfynnaf, 'I ymdrechu am bopeth sy'n sicrhau heddwch.' Felly, i anrhydeddu'r addewid hwnnw, a ydych chi'n barod i addo y bydd dim o arian Llywodraeth Cymru yn mynd i gwmni sy'n cyflenwi arfau yn uniongyrchol i Saudi Arabia tra bod y rhyfel gwaedlyd hwn yn parhau?
Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gwmni sydd wedi cael arian yn yr ystyr hwnnw. Yn sicr nid ydym ni wedi trefnu contractau gyda Llywodraeth Saudi Arabia, ac rydym ni'n rhannu pryder Llywodraeth y DU, nid yn unig o ran yr hyn sydd wedi digwydd yn Yemen, ond wrth gwrs llofruddiaeth y newyddiadurwr, Khashoggi, yn Nhwrci, sydd wedi cael cymaint o gyhoeddusrwydd. Mae cwestiynau i Saudi Arabia eu hateb, ac rwy'n cytuno ag ef y dylem ni fod yn ofalus iawn, fel y mae pethau ar hyn o bryd, gyda'r ddwy sefyllfa hynny o ran y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth Saudi.
Wel, gallaf ddweud wrth y Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £1 filiwn i gwmni amddiffyn Raytheon yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl CNN, defnyddiwyd arfau Raytheon yn y bomio wedi'i dargedu o sifiliaid yn Yemen. Mae gwybodaeth gan Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau yn cadarnhau bod gweithrediadau Raytheon yng Nghymru yn cymryd rhan yn uniongyrchol ac yn sylweddol yn y broses o ddanfon cannoedd yn fwy o daflegrau aer i dir i fyddin Saudi Arabia. Llofnodwyd y cytundeb $300 miliwn hwnnw, gyda llaw, wythnos ar ôl i brif swyddog gweithredol Raytheon hedfan i Riyadh i lobïo Mohammed bin Salman, y dywedwyd mai ar ei gyfarwydd ef y llofruddiwyd Jamal Khashoggi, y mae'r Prif Weinidog newydd gyfeirio ato. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, i anrhydeddu eich addewid ac ymrwymo na fydd yr un geiniog arall o arian cyhoeddus o Gymru yn mynd i gwmni sy'n ymwneud â chyflenwi arfau i'r gyfundrefn lofruddiol a barbaraidd hon?
Wel, mae arweinydd Plaid Cymru wedi codi mater pwysig yn y fan yna o ran Raytheon. Nid yw'n eglur beth yw cyfraniad ffatri Raytheon yng Nglannau Dyfrdwy o ran Saudi Arabia. Fodd bynnag, byddaf yn darganfod hynny, a byddaf yn ysgrifennu ato ar ôl o mi sefydlu beth yw'r cysylltiad. Ar ôl gweld canlyniadau'r ymchwiliad hwnnw, byddaf yn ymateb yn llawn wedyn, wrth gwrs, i'r pwyntiau y mae ef wedi eu codi.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, un o'r polisïau cynnar a ddeddfwyd gan Lywodraeth Cymru oedd cyflwyno cymhwyster addysgol newydd, bagloriaeth Cymru, neu 'bac Cymru', fel y'i gelwir. Mae bagloriaeth Cymru wedi cael ei feirniadu, felly a ydych chi'n dal i gredu ei fod wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru?
Ydw.
Ie, roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n debygol y byddech chi'n ei gymeradwyo, felly diolch am yr ateb. Mae'n rhaid i mi ddweud na wnaethoch chi ddweud wrthym ni pam yr ydych chi'n credu hynny, ond efallai y daw—[Torri ar draws.] Wnes i ddim gofyn. Efallai y daw hynny'n fwy eglur wrth i ni symud ymlaen. Mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n debyg na fydd mwyafrif y myfyrwyr sy'n astudio fersiwn Safon Uwch bagloriaeth Cymru yn cytuno â'ch asesiad chi ohono—nid cyn belled ag y gallaf i ei weld. Un o'r problemau yw bod gan fyfyrwyr Safon Uwch sy'n ceisio cael eu derbyn i brifysgolion gorau'r DU ddigon ar eu plât fel y mae hi gyda thri chymhwyster Safon Uwch i ymdopi â nhw. Yna, mae eich Llywodraeth yn mynd ati i'w rhoi o dan anfantais yng Nghymru drwy eu gorfodi i astudio pwnc ychwanegol, bagloriaeth Cymru, nad yw'r rhan fwyaf o brifysgolion gorau'r DU yn ei gydnabod hyd yn oed, ac nad yw'n cyfrif tuag at eu graddau ar gyfer cael lle ar y cyrsiau gorau. A ydych chi'n derbyn bod eich—[Torri ar draws.] A ydych chi'n derbyn bod eich bagloriaeth Cymru yn gwneud bywyd yn fwy anodd i fyfyrwyr Safon Uwch Cymru?
Nid gwleidyddiaeth America yw hyn. Rydym ni'n hoffi gweld cwestiynau a ofynnir ar sail tystiolaeth—unrhyw dystiolaeth, a dweud y gwir. Dywedodd ei bod yn debygol na fyddai mwyafrif y myfyrwyr Safon Uwch yn cytuno â mi. Nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth ar gyfer hynny. Mae'n awgrymu bod y rhan fwyaf o brifysgolion yn gweld bagloriaeth Cymru fel rhyw fath o orfodaeth neu nad ydynt yn ei gydnabod. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Mae'n credu bod bagloriaeth Cymru ei hun rywsut yn rhoi ein myfyrwyr o dan anfantais. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Oherwydd yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw—mae gen i blentyn, mae'n 16 mlwydd oed, mae'n astudio ar gyfer TGAU eleni, ac mae bagloriaeth Cymru yn hynod ddefnyddiol, gan ei fod yn addysgu myfyrwyr sut i weithredu mewn bywyd ac mewn gwaith y tu hwnt i bynciau academaidd. Byddan nhw'n ymchwilio i bynciau ac yn dod i wybod am feysydd fel gwaith cymunedol, maen nhw'n edrych ar entrepreneuriaeth—yr holl bethau nad ydyn nhw'n cael eu haddysgu mewn pynciau traddodiadol. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r bac yn ei wneud yw paratoi ein pobl ifanc yn y ffordd ehangaf bosibl nid yn unig ar gyfer cymwysterau academaidd, ond ar gyfer y byd gwaith. Gwn fod llawer o gyflogwyr yr wyf i wedi siarad â nhw—fel nad wyf i'n cael fy nghyhuddo o ddweud celwydd—wedi dweud wrthyf eu bod nhw'n canfod bod y rhai sydd wedi bod trwy fagloriaeth Cymru ac wedi ennill y cymhwyster hwnnw wedi eu paratoi'n well i ddechrau yn y byd gwaith.
Ie, rydych chi'n dweud ei fod yn eu paratoi'n well, ond mae hefyd yn eu rhwystro rhag cael eu derbyn ar y cyrsiau gorau. Nawr, roeddech chi eisiau—[Torri ar draws.] Roeddech chi eisiau tystiolaeth, felly gwrandewch ar rywfaint o dystiolaeth. Rydym ni'n gwybod o geisiadau rhyddid gwybodaeth bod prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt wedi gwneud 153 o gynigion amodol i fyfyrwyr o Gymru yn 2017, ac nid oedd yr un ohonyn nhw yn cynnwys bagloriaeth Cymru. Dywedodd Coleg Imperial Llundain nad yw'n arfer safonol gwneud cynigion sy'n cynnwys bagloriaeth Cymru. Yn wir, o 19 o brifysgolion Grŵp Russell, gwnaeth 14 ohonynt fwy o gynigion amodol nad oeddent yn cynnwys bagloriaeth Cymru i fyfyrwyr yng Nghymru na'r rhai a oedd yn ei gynnwys. Felly, a fyddech chi'n cytuno, yn seiliedig ar y dystiolaeth ger ein bron, nad yw bagloriaeth Cymru yn gwneud dim i helpu myfyrwyr Cymru i gael eu derbyn i'r prifysgolion gorau ac yn gwneud popeth, mewn gwirionedd, i'w rhwystro? A ydych chi'n cytuno â mi y dylai eich Llywodraeth ystyried o ddifrif diddymu bagloriaeth Cymru yn gyfan gwbl?
Nac ydw. Nid yw'n ei hoffi gan ei fod yn gysylltiedig â Chymru. Gadewch i ni fod yn onest. Nid yw'n hoffi dim sy'n gysylltiedig â Chymru, dyna pam nad yw'n hoffi bagloriaeth Cymru.
Unwaith eto, nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth. Y cwbl y mae'n ei ddweud yw bod rhai prifysgolion—ac mae Caergrawnt yn cefnogi bagloriaeth Cymru; rydym ni'n gwybod hynny, maen nhw wedi ei ddweud—yn gwneud cynigion lle maen nhw'n dibynnu ar raddau Safon Uwch traddodiadol. Nid ydyn nhw'n dweud bod bagloriaeth Cymru yn anfantais. Ac nid yw bagloriaeth Cymru yn gymhwyster o safbwynt academaidd yn unig. Mae'n gymhwyster sy'n paratoi pobl ifanc, fel y dywedais, ar gyfer y byd gwaith. Mae gan brifysgolion ddiddordeb mewn graddau academaidd, mae gan gyflogwyr ddiddordeb mewn graddau academaidd, oes, ond hefyd parodrwydd a pharatoad person ifanc i ymuno â'r byd gwaith. Mae'n rhywbeth nawr sy'n cael ei ailadrodd yn Lloegr, wrth gwrs. Mae'n debyg os caiff ei fabwysiadu yno y bydd o blaid bagloriaeth Cymru bryd hynny, cyn belled ag y bo ganddo wahanol enw, nad yw'n gysylltiedig â Chymru.
Na, rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud yn dda i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Rydym ni wedi asio bagloriaeth Cymru i'r cwricwlwm traddodiadol, a gallaf ddweud o'm profiad personol fy hun o edrych arno gyda fy mab, ei fod yn gwneud llawer iawn o ddaioni o ran ehangu gorwelion cynifer o bobl ifanc, sydd ei angen arnynt er mwyn gwneud eu hunain hyd yn oed yn fwy cyflogadwy yn y dyfodol.