1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau rhagolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer poblogaeth oedran gweithio Cymru? OAQ52911
Diolch i Dawn Bowden am hynny. Ledled y Deyrnas Unedig, rhagwelir y bydd cyfran y boblogaeth sydd o oedran gweithio yn cwympo. Nid yw gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y maes hwn yn darparu rhagolygon yn yr ystyr gonfensiynol. Yr hyn a wna'r ffigurau yn syml iawn yw ymestyn patrymau'r gorffennol i mewn i'r dyfodol, heb unrhyw gyfeiriad at heriau neu gyfleoedd newydd.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y prif economegydd, sy'n dod gyda'r gyllideb ar gyfer Cymru, yn amlygu'r risg i sylfaen drethu Cymru pe bai'r boblogaeth oedran gweithio yn parhau i leihau yng Nghymru, yn enwedig o gymharu â’r cynnydd a ragwelir yn y grŵp oedran hwn yn Lloegr. Dywed adroddiad y prif economegydd y gallai hyn olygu £150 miliwn y flwyddyn yn llai yng nghyllideb Cymru erbyn diwedd y degawd nesaf, ac mae'r broblem, wrth gwrs, yn tyfu bob blwyddyn drwy gydol y cyfnod hwnnw. I ba raddau y gall datganoli trethi Cymru ein cynorthwyo i wrthbwyso’r sefyllfa hon a sicrhau y gall ein sylfaen drethu yng Nghymru barhau i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen arnom?
Diolch i'r Aelod am hynny. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn wrth gysylltu rhagamcanion ynghylch y boblogaeth oedran gweithio gyda'r effaith ar sylfaen drethu Cymru, ac yn wir, ar addasiad y grant bloc sy'n effeithio ar yr arian a gawn yn flynyddol gan y Trysorlys. Y pwynt pwysig yma, Lywydd, yw'r un a grybwyllais eiliad yn ôl—mai amcanestyniadau llinell syth yw'r rhain o'r gorffennol i'r dyfodol. Ac mae llawer o ffactorau a all effeithio ar y newidiadau cymharol yn y boblogaeth oedran gweithio mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Yn wir, ceir amrywiadau ar lefel is na lefel Cymru. Ym Merthyr Tudful, er enghraifft, mae'r amcanestyniad is-genedlaethol yn dangos gostyngiad llai yn y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed nag yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Y pwynt a ddyfynnwyd gan Dawn Bowden o adroddiad y prif economegydd yw hwn: pe bai ein poblogaeth oedran gweithio'n tyfu'n arafach na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, gallai hynny drosi'n hawdd yn sylfaen drethu lai, a byddai hynny'n effeithio ar yr arian a gawn gan Lywodraeth y DU. Mae llawer o bethau y tu hwnt i'n rheolaeth a fydd yn effeithio ar y ffigurau hynny yn y dyfodol, fel yr amlygir pethau yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru sy'n dangos y pethau y gallwn eu gwneud ein hunain i wneud gwahaniaeth yn y maes hwnnw, a thrwy gymryd y camau hynny, gallwn liniaru'r problemau a nododd Dawn Bowden.
Ond wrth gwrs, un o'r pethau allweddol er mwyn tyfu ein sylfaen drethu yw sicrhau, yn gyntaf, fod mwy o bobl yn cael gwaith, ac yn ail, eu bod yn gallu sicrhau gwell safon byw, gwell cyflog, fel y gallant roi'r arian hwnnw yn ôl i mewn i'r economi. Mae hynny, yn ei dro, yn cynhyrchu'r arian i ni ei wario ar iechyd, addysg a'r llu o ofynion eraill sydd gennym o ran gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly, mae'r sylfaen waith, mewn gwirionedd, yn ysgwyddo baich go drwm.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod arnom angen i'r sylfaen waith honno dyfu, a bod arnom angen iddynt allu ennill mwy o arian ac arian gwell, fy nghwestiwn i chi yw pa sicrwydd y gallwch ei roi na wnaiff y trethi a gynigir yn eich maniffesto arweinyddiaeth effeithio'n anghymesur ar fusnesau Cymru, a thrwy hynny, amharu ar dwf economaidd, oherwydd mae angen yr arian hwnnw ar y busnesau er mwyn cyflogi mwy o bobl ac ehangu eu busnesau.
Wel, rwy'n deall pwynt Angela Burns ynglŷn â'r angen i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru mewn gwaith ac yn ennill cyflogau da. Ond bydd yn deall hefyd mai'r cwestiwn a ofynnwyd gan Dawn Bowden oedd: beth os bydd llai o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn y dyfodol? Hyd yn oed os bydd yr holl bobl hynny'n gweithio ac yn ennill cyflogau da, os oes llai ohonynt, goblygiadau hynny yw y byddai'n arwain at lai o dderbyniadau treth yn y dyfodol. Mae economi gref yn bwysig iawn, ond mae nifer y bobl o oedran gweithio yn bwysig hefyd. Ar hynny y mae'r amcanestyniadau poblogaeth yn canolbwyntio.
Cytunaf â'r pwynt mwy cyffredinol a wnaed ganddi, wrth inni feddwl am ddefnyddio ein pwerau cyllidol ar gyfer y dyfodol, fod angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi ein heconomi ac yn dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo'r sylfaen drethu honno i dyfu.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhagolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru yn creu her wirioneddol i ni. Erbyn 2035, disgwylir y bydd cyfran yr oedolion sy'n byw â chyflwr cyfyngus gydol oes yn cynyddu 22 y cant, ac ar yr un pryd, bydd 48 o bobl dros 65 oed am bob 100 o bobl o oedran gweithio. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall Cymru fforddio gofalu am ei phoblogaeth sy'n heneiddio?
Mae'r gymhareb rhwng pobl o oedran gweithio a phobl sydd wedi ymddeol yn un bwysig iawn i holl economïau'r gorllewin. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol, 50 mlynedd yn ôl, fod pobl wedi tynnu sylw at y mater hwn gan ddweud bod y cymarebau'n symud i gyfeiriad mwy o bobl o oedran ymddeol. Roedd pump o bobl o oedran gweithio am bob unigolyn a oedd wedi ymddeol 50 mlynedd yn ôl; bellach, rydym yn agosach at gymhareb o 2:1. Serch hynny, rydym wedi llwyddo i greu economi sy'n caniatáu inni ddathlu'r ffaith bod pobl yn byw'n hirach a'n bod yn gallu parhau i'w cefnogi. Felly, nid yw'r broblem yn un anorchfygol. Mae ffyrdd y gallwn barhau i dyfu maint yr economi, er ei bod yn cynnwys llai o bobl o oedran gweithio, mewn ffordd sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu ar gyfer y nifer uwch o bobl yn y boblogaeth sy'n hŷn na'r oedran gweithio. Ceir cyfres gyfan o ffyrdd lle rydym wedi llwyddo i wneud hynny dros y 50 mlynedd diwethaf ac mae'n rhaid inni gael rhywfaint o hyder felly, er mor heriol yw'r broblem, y byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o barhau i wneud hynny yn y dyfodol.