– Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.
Eitem 8 yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar les anifeiliaid, a galwaf ar Gareth Bennett i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM6863 Gareth Bennett
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd mewn lles anifeiliaid.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol yn holl ladd-dai Cymru; a
b) gwahardd yr arfer o ladd anifeiliaid heb eu stynio yn holl ladd-dai Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd allforio anifeiliaid byw at ddibenion eu magu a'u lladd.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud ag amrywiol agweddau ar les anifeiliaid—pwnc pwysig, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno. Ac felly rwy'n hapus i wneud y cynnig hwn heddiw ar ran UKIP.
Mae UKIP yn credu y dylai lles anifeiliaid fferm o adeg eu magu hyd nes y cânt eu lladd fod yn flaenoriaeth absoliwt i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y DU sydd â rhai o'r safonau uchaf o les anifeiliaid yn y byd. Fodd bynnag, mae ein cynnig heddiw yn dangos sut y gall Cymru wella ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn dangos ein dymuniad i fod yn arweinydd byd o ran safonau lles.
Cefnogir y pwyntiau yn ein cynnig gan weithwyr proffesiynol a chan lawer o ymchwil academaidd ym maes lles anifeiliaid. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod yr angen i ddiwydiant amaethyddol Cymru barhau i ffynnu ac i gynhyrchu ei chynhyrchion cig mawr eu bri yn rhyngwladol.
Mae rhan gyntaf ein cynnig yn ymwneud â gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng. Mae hwn yn declyn hanfodol mewn lladd-dai er mwyn sicrhau y glynir at y safonau uchaf o les anifeiliaid. Mae gwyliadwriaeth camera yn lleihau'r posibilrwydd o gam-drin ac esgeuluso anifeiliaid, a lle bo hynny'n digwydd, gellir dwyn y drwgweithredwyr i gyfrif yn gyflym. Ar hyn o bryd, nid oes gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng ar waith mewn 14 o ladd-dai yng Nghymru, er bod gan y rhan fwyaf o'r lladd-dai mwy o faint systemau o'r fath.
Yn ôl ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, ni chedwir data ar leoliad na chyrhaeddiad y camerâu sy'n weithredol mewn lladd-dai na nifer yr anifeiliaid a laddwyd heb fod gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng ar waith. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn amcangyfrif bod 2 filiwn o adar a bron 400,000 o ddefaid, moch, a gwartheg yn cael eu lladd heb wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng bob blwyddyn yng Nghymru. Nododd y gymdeithas fod y risg bosibl o niwed i les yr anifeiliaid hyn yn cynyddu os nad oes teledu cylch cyfyng yn weithredol.
Yn achos y lladd-dai lle y gosodwyd teledu cylch cyfyng, nid oes unrhyw gysondeb o reidrwydd o ran lleoliad camerâu mewn lladd-dai. Ni cheir unrhyw fanylebau cyson ynglŷn â lleoliad neu nifer y camerâu. Felly, hyd yn oed mewn lladd-dai lle y ceir gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng, nid oes unrhyw sicrwydd fod y camerâu mewn lleoliadau addas i ffilmio'r hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau safonau uchel o les ym mhob achos. Felly, mae angen inni edrych ar hyn yn ogystal.
Dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2017, tua £33,000 yn unig o arian Llywodraeth Cymru a neilltuwyd ar gyfer helpu'r Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau lles. Mae llawer o arbenigwyr yn ystyried bod y lefel hon o gyllid yn gwbl annigonol ar gyfer sicrhau y cydymffurfir â gweithdrefnau cywir. Yn ei datganiad ddoe, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, sydd yma heddiw wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn lladd-dai bach a chanolig eu maint yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll heriau'r dyfodol yn well. Ychwanegodd:
'byddaf yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i weithio gyda gweithredwyr busnes bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan. Mae teledu cylch cyfyng yn ddefnyddiol o ran diogelu lles anifeiliaid'.
Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae Cymru bellach ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn llusgo'i thraed mewn perthynas â gosod teledu cylch cyfyng. Mae cynnig UKIP heddiw yn ceisio sicrhau bod safonau lles anifeiliaid Cymru yn gyfredol drwy alw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng a darparu cyllid uniongyrchol priodol at y diben hwn.
Mae rhan nesaf ein cynnig heddiw yn ymwneud â lladd heb stynio. Ar hyn o bryd, mae gan aelod-wladwriaethau'r UE gymhwysedd i ofyn am randdirymiad sy'n caniatáu i ladd-dai hepgor stynio anifeiliaid ar sail arferion crefyddol. Mae'r ffaith bod cyfraith y DU yn datgan y dylid stynio anifeiliaid cyn eu lladd ohoni ei hun yn cydnabod mai stynio cyn lladd yw'r dull lleiaf creulon. O dan gyfraith Islamaidd, sy'n ymwneud â halal fel dull o ladd, ac o dan gyfraith Iddewig, sy'n ymwneud â'r dull shechita o ladd, rhaid ystyried bod anifail yn fyw ar adeg eu lladd. Mae Shechita yn gwahardd yn benodol unrhyw stynio a wneir i anifail cyn ei ladd. Ledled y DU, mewn lladd-dai lle yr arferir lladd halal, caiff 80 i 85 y cant o'r holl anifeiliaid eu stynio cyn eu lladd—gwybodaeth gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i adael cyfran sylweddol o anifeiliaid yn y DU sy'n cael eu lladd heb eu stynio. Ceir pryder cynyddol, o ystyried twf cyflym y farchnad halal, fod y cyhoedd yn gyffredinol yn rheolaidd bellach yn bwyta cig wedi'i stynio a heb ei stynio.
Beth y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud ar y pwnc hwn? Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Compassion in World Farming a'r Humane Slaughter Association oll wedi galw'n gyhoeddus am wahardd lladd heb stynio yn y DU. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi datgan bod stynio'n well o safbwynt lles ar sail tystiolaeth wyddonol.
Roedd eu hymchwil yn ailwerthuso'r angen i stynio lloi cyn eu lladd. Nododd yr astudiaeth:
Gall ymwybod, a gallu'r anifail felly i deimlo poen a phrofi trallod ar ôl y toriad, barhau am 60 eiliad neu'n hwy mewn gwartheg.
Dylwn nodi hefyd fod lladd heb stynio eisoes wedi'i wahardd yn Denmarc, Gwlad yr Iâ, Sweden a Seland Newydd.
Beth am farn y cyhoedd ar y mater hwn? Yn ddiweddar, lansiodd Cymdeithas Milfeddygon Prydain ddeiseb i wahardd lladd heb stynio. Cyrhaeddodd dros 100,000 o lofnodion, gan ysgogi dadl yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2014. Cynhaliodd Farmers Weekly arolwg ar-lein ym mis Mawrth a mis Ebrill 2018 yn gofyn y cwestiwn, 'A ddylid gwahardd lladd anifeiliaid heb eu stynio am resymau crefyddol yn y DU?' Atebodd 77 y cant y dylai gael ei wahardd.
Felly, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn? Mae Lesley Griffiths wedi datgan o'r blaen yn y Siambr ei bod wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ynglŷn â stynio anifeiliaid cyn eu lladd. Dywedodd y byddai'n ystyried y cyngor, ond na fyddai'n gwneud polisi heb ystyriaeth drylwyr—roedd hyn pan oedd hi'n cael cwestiynau materion gwledig gan fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Dywedodd y Prif Weinidog, yn wahanol i Lesley Griffiths, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ddiweddar, na fyddai'n cefnogi gwaharddiad ar ladd heb stynio—roedd hyn mewn ymateb i gwestiynau gennyf yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog.
Beth yw safbwynt Llywodraeth y DU? O dan y Llywodraeth glymblaid yn y blynyddoedd diweddar, cafodd deiseb a gyrhaeddodd dros 100,000 o lofnodion yn galw am wahardd lladd heb stynio ei thrafod yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn anffodus, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei hymrwymiad i randdirymiad yn y gyfraith sy'n caniatáu lladd anifeiliaid heb eu stynio.
Mae'n dod yn fwyfwy amlwg fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn barod i anwybyddu cyngor arbenigwyr ym maes lles anifeiliaid. Ar fater mor bwysig â hyn, lle y profwyd mai stynio cyn lladd yw'r arfer gorau o ran safonau lles, ni ddylem ganiatáu i arferion crefyddol bennu polisi Llywodraeth.
Gan droi at y gwelliannau heddiw, mae digonedd o bethau yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr a'r Llywodraeth y byddem yn cytuno â hwy, ond wrth gwrs, maent unwaith eto'n ceisio dileu llawer o'r hyn a fynegwn yn ein pwyntiau, felly nid ydym yn cefnogi'r gwelliannau hynny heddiw.
Ar y llaw arall, mae Neil McEvoy wedi cyflwyno gwelliant adeiladol, nad yw'n dileu'r hyn a ddywedwn ond mae'n ychwanegu pwynt da ato. Mae Neil yn nodi mater gwerthu cŵn bach gan drydydd parti. Rwyf fi a Michelle Brown wedi gofyn cwestiynau am y mater hwnnw o ochr UKIP yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac rydym yn hapus i gefnogi gwelliant 3 gan Neil heddiw.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw yn awr ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r gwaith cadarnhaol a wnaed gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd.
Yn nodi'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU ar agweddau ar les anifeiliaid wrth eu cludo fel bod y drefn reoleiddio yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol a milfeddygol unwaith y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn croesawu'r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gynyddu’r dedfrydau uchaf am greulondeb anifeiliaid i bum mlynedd a chyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai yn Lloegr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ledled Cymru;
b) archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy a gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol yng Nghymru; ac
c) cynyddu cymorth ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu prosesu stoc mor lleol â phosibl.
Rwy'n credu bod Darren yn meddwl y byddai'n rhaid iddo godi a gwneud araith yn y fan honno. [Chwerthin.] Diolch ichi, Lywydd—mae'n bleser gennyf gynnig y gwelliant y mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno i'r ddadl heddiw gan UKIP, a diolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl ar les anifeiliaid yma yn y Siambr y prynhawn yma. Fel y dywedais yn y datganiad ddoe, buaswn yn tybio mai un o'r pethau sy'n llenwi'r rhan fwyaf o sachau post yr Aelodau, a sachau post y Llywodraeth yn wir, yw materion yn ymwneud â lles anifeiliaid a'r pryder sydd gan y cyhoedd yma yng Nghymru ynghylch anifeiliaid fferm ac anifeiliaid domestig yn ogystal. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig deall, a soniodd arweinydd UKIP am hyn—y ffaith ein bod yn dileu rhan o'r cynnig—yn y sector ffermio da byw mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig edrych ar fframweithiau'r DU yn ogystal, ar y sail fod llawer o dda byw Cymru, er gwell neu er gwaeth, yn mynd i Loegr i'w prosesu. Ni allwch ynysu Cymru ar ei phen ei hun, er y gallwn ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni i wneud gwelliannau sylweddol yma.
Roedd yn bleser gwneud yn siŵr fod ein maniffesto yn 2016 yn cynnwys hwyluso teledu cylch cyfyng gorfodol ar draws holl ladd-dai Cymru, a gwn fod y Llywodraeth, er clod iddynt, a bod yn deg, yn gwneud cynnydd ar y mater penodol hwn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y sicrheir mynediad at gyllid ar gyfer lladd-dai bach a chanolig eu maint, oherwydd mae'r pwysau yn y sector penodol hwnnw wedi cyfyngu'n enfawr ar nifer y lladd-dai sydd ar gael yma yng Nghymru, ac mae hynny i bob pwrpas yn ychwanegu milltiroedd at yr amser teithio sy'n rhaid i stoc ei oddef cyn cael eu prosesu, oherwydd, yn amlwg, mae'r lladd-dy lleol wedi gorfod cau oherwydd pwysau costau. Felly, mae'n hanfodol bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio gyda'r sector i wneud yn siŵr fod teledu cylch cyfyng yn dod yn orfodol mewn lladd-dai, a bod y systemau ariannol, naill ai drwy'r cynllun datblygu gwledig neu fath arall o gymorth, yn dod ar gael i'r gweithredwyr hynny.
Heb rithyn o amheuaeth, mae'r sefyllfa a welwn yn yr amgylchedd a ffermir ar hyn o bryd yn wahanol iawn i ble'r oeddem 20 mlynedd yn ôl o ran lles anifeiliaid. Mae gennym ddefnyddiwr sy'n llawer mwy gwybodus wrth brynu'r cynnyrch oddi ar y silff y dymunant ei fwyta ac yn aml iawn drwy eu chwaeth a'u galwadau hwy, maent yn ysgogi gwelliannau lles wrth gât y fferm. Rydym wedi gweld llu o gynlluniau gwarant ffermydd yn cael eu cyflwyno yn y sector da byw i roi sicrwydd i'r defnyddiwr pan fyddant yn gwneud y dewis gwybodus hwn—a logo'r tractor coch yw un o'r cynlluniau hynny, ac mae gwarant anifeiliaid fferm RSPCA, gyda'u label lles, yn un arall, a gallwn barhau oherwydd ceir llawer ohonynt. Yn wir, un o'r problemau, buaswn yn awgrymu, yw bod gormod o gynlluniau gwarant i'w cael o bosibl, a phe bai modd eu dwyn ynghyd o dan un neu ddau o labeli, byddai hynny'n helpu i hysbysu'r defnyddiwr beth y mae'n ei brynu mewn gwirionedd.
Mae hynny'n arwain at labelu, a chredaf fod hwnnw'n faes pwysig ar gyfer gwella. Yn y datganiad ddoe soniais am enghraifft y cyw iâr a gafodd ei brynu yma yng Nghymru. Ar flaen y pecyn dywedai 'British poultry', ond wedi i chi ei droi drosodd, dywedai mai cynnyrch o Wlad Thai ydoedd. Nawr, os oes rhywun am brynu cynnyrch o Wlad Thai, croeso iddynt wneud hynny, ond pan fyddwch yn edrych ar y silff a bod y neges ar y blaen yn dweud wrthych mai dofednod wedi'i gynhyrchu yn y wlad hon ydyw, mae hynny'n camarwain y defnyddiwr, heb rithyn o amheuaeth, ac eto mae'n ymddangos bod y manwerthwr yn yr achos penodol hwn wedi cael rhyddid i wneud hynny.
Felly, mae angen inni weithio mewn sawl ffordd i wneud y gwelliannau y dymunwn eu gweld—o labelu i welliannau seilwaith ac yn bennaf oll, buaswn yn awgrymu, fel y dywedais yn y datganiad ddoe, mewn perthynas ag addysg yn arbennig. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd gennym yn cynnwys cynnig cyfraith Lucy y credaf ei fod yn hanfodol i ni geisio gwneud cynnydd yma yng Nghymru ar fater anifeiliaid anwes domestig, yn enwedig—cŵn, cŵn bach a chathod bach—oherwydd mae hwn yn faes sy'n peri pryder enfawr i'r cyhoedd yn gyffredinol, ac yn anffodus mae ffermio cŵn bach, yn arbennig, wedi cael troedle yng ngorllewin Cymru, yn benodol, fel y profodd nifer o enghreifftiau. Mae gennym allu yma drwy'r pwerau deddfwriaethol sydd gennym a'r rheoliadau y gallwn eu gwneud i gael gwared unwaith ac am byth ar y broses hon sy'n arwain at ganlyniadau lles mor ofnadwy i gŵn bach ac yn arbennig, i gathod bach yma yng Nghymru a thu hwnt, yn amlwg, oherwydd caiff yr anifeiliaid hynny eu cludo dros bellteroedd mawr i'r farchnad y mae pobl yn ceisio gwerthu'r cŵn a'r cathod bach hynny iddi yn y pen draw.
Hoffwn ofyn hefyd i'r Gweinidog os gallai, yn ei hymateb, gyffwrdd ar y pwynt mai un peth yw i ni siarad yn y Siambr hon am reoliad a deddfwriaeth, ond yr hyn sy'n bwysig ei ddeall yw: a oes gallu ac adnoddau gan y cyrff rheoleiddio yma yng Nghymru i weithredu'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau a gyflwynwn mewn gwirionedd? Yn aml iawn, adrannau safonau masnach yw un o'r adrannau sy'n dioddef toriadau mawr mewn llywodraeth leol, ac maent o dan bwysau enfawr a chanddynt agenda helaeth i ymdrin â hi. A'r hyn sy'n rhaid ei ddeall os ydym am gyflwyno cynigion fel cyfraith Lucy, fel gwella rheoliadau cludo anifeiliaid fferm a gwelliannau i ladd-dai, yw bod capasiti yn y cyrff rheoleiddio i oruchwylio a gwneud yn siŵr y gellir plismona'r amddiffyniadau y dymunwn eu rhoi ar waith, ac y mae ein hetholwyr yn briodol iawn yn eu mynnu gennym, allan yno yn y diwydiant ac yn y sector anifeiliaid anwes.
Felly, dyna pam rwy'n galw ar y Siambr i gefnogi'r gwelliant y mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno y prynhawn yma, oherwydd nid yw'n edrych ar Gymru ar ei phen ei hun yn unig, mae'n edrych ar draws y DU gyfan, ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol, nid yn unig maes ffermio da byw, ond hefyd yn yr amgylchedd anifeiliaid anwes yn ogystal, sy'n destun pryder allweddol i etholwyr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 2—Julie James
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:
a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;
b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.
Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn ei enw.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, nid yw hwn yn fater Mwslimaidd nac Iddewig. Nid oes ganddo ddim i'w wneud ag arferion crefyddol, felly nid wyf yn gweld perthnasedd crybwyll hynny yn gynharach. Mater sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yw hwn.
Rwyf wedi cyflwyno gwelliant syml: sef gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd parti er mwyn rhoi diwedd ar ffermio cŵn bach yn anfoesegol. Gall bridio cŵn mewn modd dwys olygu bod cannoedd o anifeiliaid yn byw mewn amgylchiadau cyfyng iawn, gyda geist yn gorfod magu toreidiau lluosog bob blwyddyn. Cafodd cynnig cynnar-yn-y-dydd ar y mater a gyflwynwyd yn Senedd San Steffan ym mis Rhagfyr 2017 gefnogaeth drawsbleidiol sylweddol, ac aeth Llywodraeth y DU ati wedyn i gyhoeddi y byddai'n rhoi diwedd ar yr arfer o ffermio batri yn Lloegr drwy waharddiad ar werthu gan drydydd parti.
Nawr, nid yw'n iawn mewn gwirionedd fod gennym gŵn yng Nghymru sy'n byw mewn amgylchiadau ofnadwy ac yn cael eu gorfodi i fridio drosodd a throsodd. Roeddwn yn gwrando ar straeon arswyd neithiwr ynglŷn â chŵn yn cael eu gadael mewn cyflwr ofnadwy oherwydd bridio parhaus. Y cymhelliad yw ei fod yn cael ei weld fel arian hawdd. Mae angen y dechrau gorau mewn bywyd ar gŵn bach, ac mae hynny'n golygu gofal am les anifeiliaid yn hytrach na bod cŵn yn cael eu gweld fel ffordd o wneud arian yn unig. Gobeithio y bydd pawb ohonom yn pleidleisio i sicrhau'r safonau lles anifeiliaid uchaf yng Nghymru, a hoffwn ofyn i bawb ohonoch ymuno â mi i bleidleisio o blaid y gwelliant hwn i roi diwedd ar ffermio cŵn bach yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett, mae dadl UKIP heddiw'n ymwneud ag un peth: gwella bywydau anifeiliaid fferm o adeg eu magu hyd nes y cânt eu lladd. Mae UKIP wedi bod ar flaen y gad yn ymdrin â pholisi lles anifeiliaid. Fel plaid, rydym wedi hyrwyddo safonau uchel o ran lles anifeiliaid ar gyfer da byw ac anifeiliaid domestig. Yn wir, ymhell cyn y newidiadau i'r gyfraith yn Lloegr, roedd fy mhlaid yn galw am ddedfrydau llymach o garchar ar gyfer pobl sy'n euog o gam-drin anifeiliaid a gwaharddiad am oes ar unrhyw unigolyn y gwelir ei fod wedi cam-drin neu wedi esgeuluso anifail yn y fath fodd. Rydym yn cydnabod bod gan y DU rai o'r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid yn y byd. Fodd bynnag, fel yr awgryma ein cynnig heddiw, fe allwn wneud mwy. Mae fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett, eisoes wedi datgan fod lle pendant i wella'r dulliau o ladd anifeiliaid a'r modd y gall Llywodraeth Cymru hwyluso lefelau uwch o wyliadwriaeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag arferion gorau bob amser.
Mae pwynt 3 ein cynnig yn ymdrin â mater allforio anifeiliaid byw. I roi rhywfaint o gyd-destun i hyn, 1.3 y cant yn unig o gyfanswm gwerth allforion byw y DU sy'n anifeiliaid a fagwyd yng Nghymru. Felly, gallwn fod yn sicr na fyddai diwydiant amaethyddol Cymru yn cael ei niweidio i raddau mawr pe bai gwaharddiad ar allforion byw yn dod yn weithredol. Rydym yn falch o'r enw da rhyngwladol sydd i sector cig coch Cymru, ac rydym yn credu'n gryf fod anifeiliaid a fagwyd ac a laddwyd yn lleol o dan safonau lles anifeiliaid uchel yn arwain at y cynnyrch terfynol gorau, a hynny yn ei dro yn arwain at gynyddu hyder defnyddwyr.
Yn 2011, adolygodd y Comisiwn Ewropeaidd ei reoliadau ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo, ac mae'n rhaid dweud bod y rheoliadau hyn yn mynd gyn belled â phosibl i sicrhau safonau lles uchel drwy awdurdodi cludwyr, sefydlu gofynion sylfaenol ar gyfer cerbydau a chynwysyddion, cyfyngiadau ar hyd amser teithio a gofynion ar gyfer seibiant awdurdodedig. Fodd bynnag, cydnabu adolygiad y Comisiwn ei hun fod problemau difrifol yn dal i fodoli o ran lles anifeiliaid wrth eu cludo. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau yn y DU ac yn Ewrop lle methwyd bodloni safonau lles, gan arwain at anifeiliaid yn dioddef anafiadau, diffyg hylif a blinder, a hyd yn oed yn marw wrth gael eu cludo.
Y llynedd, gadawyd lori o Fwlgaria yn cario defaid am bedwar diwrnod heb fawr o ddŵr na bwyd, gan arwain at ddioddefaint a marwolaeth nifer o'r anifeiliaid. Ac yn 2012, pennwyd nad oedd cerbyd a gludai ddefaid drwy borthladd Ramsgate yn ffit i deithio. Canfuwyd bod yr anifeiliaid ynddi'n sâl ac yn gloff, gan arwain at orfod lladd 43 ohonynt. Yn yr achos llys a ddilynodd, dyfarnodd yr Uchel Lys na allai'r porthladd wahardd allforio anifeiliaid byw ar sail y rhyddid i symud o fewn Ewrop. Er bod yr achosion mwy difrifol hyn yn brin, maent yn dangos na all unrhyw faint o reoliadau ar gludiant gael gwared ar y risg i les anifeiliaid yn llwyr.
Risg bellach i dda byw sy'n cael eu hallforio o'r DU yw eu bod yn aml yn cael eu cludo ar longau fferi anaddas. Deillia hyn o'r ffaith bod cwmnïau fferi mawr wedi gwahardd da byw ar eu llongau. Mae llefarydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi cydnabod y broblem, wrth gyfaddef yn 2016, fod porthladd Ramsgate a'r fferïau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cael eu disgrifio—yn llednais, meddai—fel rhai 'nad ydynt yn ddelfrydol ar gyfer masnach o'r fath'.
Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae gennym gyfle i wella safonau deddfwriaeth lles anifeiliaid yng Nghymru a'r DU, yn enwedig lle mae'n ymwneud ag anifeiliaid wrth eu cludo. Byddai gwneud mwy i ddiogelu lles anifeiliaid yn llesol i dda byw, ond byddai hefyd yn llesol i ddiwydiant amaethyddol gwerthfawr Cymru. Bob blwyddyn, mae'r UE yn amcangyfrif bod tua 4 miliwn o wartheg, 28 miliwn o foch, 4 miliwn o ddefaid, 245 miliwn o ddofednod a 150,000 o geffylau yn cael eu cludo am fwy nag wyth awr o fewn yr UE. Mae'r niferoedd hyn yn dangos maint y broblem a'r lle i droseddau ddigwydd o ran safonau lles. Yn UKIP, rydym yn gwbl argyhoeddedig fod anifeiliaid sy'n gorfod teithio am gyfnodau hir o amser yn peryglu'r safonau lles hynny ni waeth pa ragofalon a roddir ar waith. Ar ôl gadael yr UE, bydd UKIP yn mynnu bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn deddfu ar gyfer gwaharddiad, ac rydym yn annog y Siambr hon a Llywodraeth Cymru i'n cefnogi yn y cynnig hwn.
Nid wyf yn amau eich didwylledd o ran peidio â bod eisiau peryglu lles anifeiliaid, ond wrth gwrs, mae perygl y bydd holl broses Brexit yn tanseilio hynny. Oherwydd rydym ni ym Mhlaid Cymru eisiau gweld Cymru'n un o arweinwyr y byd ym maes lles anifeiliaid ac rydym am weld hynny'n parhau ar ôl yr heriau sylweddol y mae Brexit yn eu creu i les anifeiliaid, oherwydd mae rheoliadau'r UE, wrth gwrs, ar safonau lles ymysg yr uchaf yn y byd ac mae angen inni wneud yn siŵr fod y safonau hynny'n cael eu cynnal a'u gweithredu, ac mae'n hollbwysig nad yw Brexit yn arwain at ras i'r gwaelod ar fater safonau lles anifeiliaid. A'r ffordd orau, wrth gwrs, y gallem ddiogelu lles anifeiliaid yng Nghymru yw aros yn yr UE neu o leiaf aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau.
Nawr, mae bron 50 y cant o'r milfeddygon sy'n cofrestru yn y DU wedi cymhwyso mewn mannau eraill yn yr UE. Yn y gwasanaethau hylendid cig, amcangyfrifir bod mwy na 80 y cant o'r gweithlu milfeddygol ledled y DU yn ddinasyddion yr UE nad ydynt yn hanu o Brydain. Mewn gwirionedd, credaf ei fod yn agosach i 100 y cant, os nad yn 100 y cant, yma yng Nghymru. Felly, yn dilyn Brexit, bydd angen inni sicrhau nifer ddigonol o weithwyr proffesiynol milfeddygol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes ac mae hyn yn cynnwys diogelu lles anifeiliaid mewn lladd-dai wrth gwrs.
Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi lladd a phrosesu anifeiliaid mor agos â phosibl i'r man lle y cawsant eu magu. Mae hyn o fudd i'w lles a'r economi wledig yn lleol ac wrth gwrs, ceir manteision amgylcheddol o ran lleihau allyriadau am na fyddai angen cludo anifeiliaid am bellteroedd mor hir. Bydd angen cymorth i'r sector bwyd a diod yn dilyn Brexit, ac mae hynny'n golygu gan ffermwyr i ladd-dai i'r proseswyr bwyd hefyd fel y gallwn ddiogelu lles anifeiliaid a sicrhau bod gan gynnyrch o Gymru y brand cryf y byddai pawb ohonom yn hoffi iddo ei gael, yn arwydd o'r safonau uchel rydym mor falch ohonynt.
Mae gan wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng rôl bwysig i'w chwarae yn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau presennol sy'n ymwneud â lles anifeiliaid. Fodd bynnag, mae angen cadw mewn cof hefyd fod lladd-dai yng Nghymru yn tueddu i fod yn fusnesau bach ac yn amlwg byddai'n rhaid i ddeddfu ar ddefnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng ddigwydd ar y cyd â darparu cymorth ychwanegol i'r busnesau bach hyn.
Un dull allweddol a allai sicrhau gwelliannau sylweddol ym maes lles anifeiliaid, wrth gwrs, yw dewis i ddefnyddwyr ar sail gwybodaeth, ac mae hyn yn dilyn ymlaen o bwynt a wnaed o'r blaen am labelu. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn galw am ddulliau gorfodol o labelu cynhyrchion cig a llaeth ac ar hyn o bryd, rwy'n credu, ceir saith prif gynllun gwarant ffermydd—rhestrwyd rhai ohonynt yn gynharach—a meini prawf gwahanol gan bob un, ac nid yw'r diffyg eglurder, felly, ynglŷn â stynio anifeiliaid cyn eu lladd yn cael y sylw y dylai ei gael yn y cyswllt hwnnw o bosibl.
Nawr, canfu arolwg Cymdeithas Milfeddygon Prydain i ganfod llais y proffesiwn milfeddygol fod 94 y cant o filfeddygon yn credu y dylai pobl sy'n bwyta cig a physgod yn y DU gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dulliau lladd. Hefyd, ceir cefnogaeth sylweddol ymhlith y cyhoedd i labelu cliriach yn gyffredinol: mae 80 y cant o gwsmeriaid yr UE eisiau labeli sy'n dangos yn glir pa system ffermio a ddefnyddiwyd i gynhyrchu eu cynnyrch cig a llaeth. Ac fel y nodwyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain gallai labeli bwyd gorfodol ar gynnyrch, ac rwy'n dyfynnu, roi pwynt gwerthu unigryw i gynhyrchwyr bwyd a ffermwyr y DU ar ôl Brexit drwy roi'r labeli lles clir y maent eu heisiau i ddefnyddwyr.
A buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i fynd ar drywydd hynny o ran ble rydym am fynd yma yng Nghymru. Gall ffermwyr Cymru gystadlu ag unrhyw le yn y byd o ran safon ac o ran ansawdd eu cynnyrch, ac mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y ffordd y caiff eu bwyd ei farchnata, ei frandio a'i labelu.
Mae yna berygl gwirioneddol y bydd Brexit yn arwain at orlifo marchnad Cymru â chynnyrch o ansawdd is, heb unrhyw ystyriaeth, o bosibl, i les anifeiliaid, ac yn sicr nid dyna'r llwybr yr ydym am ei ddilyn. Hoffwn ddweud—ac fel y dywedais ddoe, mewn gwirionedd, mewn ymateb i ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar les anifeiliaid—ein bod yn cefnogi camau gweithredu ar werthu cŵn bach gan drydydd parti, ac yn y cyswllt hwnnw byddem yn sicr yn annog Llywodraeth Cymru i roi camau pendant ar waith ar hynny hefyd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser gennyf ymateb i'r ddadl hon ar ran y Llywodraeth. Ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol. Fel y dywedais sawl gwaith, gan gynnwys ddoe yn fy natganiad llafar ar yr un pwnc, ac fel y cefais fy nyfynnu gan Gareth Bennett, buaswn yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, byddaf yn gweithio yn gyntaf gyda gweithredwyr busnesau bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan.
Rwyf am ategu ymrwymiadau eraill a wneuthum ddoe mewn perthynas â'r gwaith o barhau i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod lles anifeiliaid yn faes na fyddwn yn cyfaddawdu yn ei gylch. Mae'n uchel iawn ar fy agenda, ac mae'n bwysig dros ben inni gynnal ein safonau a'n disgwyliadau, yn enwedig o ystyried y pwysau a allai ein hwynebu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn cefnogi gwelliant 1 gan y Ceidwadwyr Cymreig unwaith eto am fod yr alwad i wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn rhy gynnar. Rwy'n ailadrodd: yn y lle cyntaf rwy'n gweithio i gefnogi'r lladd-dai bach a chanolig eu maint yng Nghymru.
Lladd-dai mawr sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o'r anifeiliaid a leddir yng Nghymru ac mae teledu cylch cyfyng ganddynt eisoes, fel, yn wir, sydd gan bob lladd-dy sy'n cyflenwi archfarchnadoedd. I gefnogi fy safbwynt, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i'w galluogi i osod teledu cylch cyfyng a chyflawni gwelliannau eraill i'w busnesau i'w gwneud yn fwy gwydn. Mae'r diwydiant wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol iawn i'r fenter hon, ac mae mwy na dwy ran o dair o'r rhai sy'n gymwys eisoes mewn trafodaethau gyda'n rheolwyr busnes, sy'n dangos sut y mae'r diwydiant, gyda'r cymorth priodol, yn arwain ar wella safonau lles. Roeddwn yn benderfynol o gefnogi lladd-dai llai o faint i'w cynorthwyo i allu lladd anifeiliaid yn nes at y man cynhyrchu, a byddaf yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar y grant yn ystod y misoedd nesaf.
Rwyf wedi bod yn glir bob amser: dylid lladd anifeiliaid mor agos at y fferm â phosibl. Rwy'n derbyn bod y fasnach anifeiliaid byw yn gyfreithlon ar hyn o bryd, a byddaf yn parhau i sicrhau bod lles anifeiliaid wrth eu cludo ac adeg eu lladd yn parhau i wella yng Nghymru. A hoffwn ddweud wrth Gareth Bennett fod cofnodion yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cadarnhau nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd ar hyn o bryd mewn unrhyw ladd-dai yng Nghymru. Mae gan gig coch a gynhyrchwyd yng Nghymru enw da hirsefydlog am ei ansawdd. Ni ellir ennill enw da o'r fath heb gael, a chynnal, safonau iechyd a lles anifeiliaid sy'n gadarn. Mae llawer o'r lladd-dai bach hefyd yn gweithredu siopau cigydd lleol ac yn cynnal bwytai a gwestai lleol, ac rwy'n siŵr y gall pawb gydnabod y cysylltedd a'r gwerth y mae hyn yn ei gynnig i gymunedau gwledig.
Soniodd Andrew R.T. Davies am bwysigrwydd swyddogion gorfodi yn ein hawdurdodau lleol a'n hasiantaethau eraill, ac yn sicr, mae'n bwysig iawn, pan fyddwn yn gweld lles anifeiliaid yn dioddef, ein bod yn ymdrin â'r mater yn gyflym iawn, ac mae'r dyddiau a dreuliais gyda'r RSPCA, er enghraifft, a thîm troseddau gwledig gogledd Cymru, yn fy sicrhau bod hynny'n bendant yn digwydd, ond mae'n bwysig iawn fod capasiti gan awdurdodau lleol ar draws Cymru.
Rydym hefyd yn cyflawni rhaglen waith fawr i ddiffinio cyfres o werthoedd brand cynaliadwy a fydd yn diffinio cynhyrchiant bwyd yng Nghymru o'r dechrau i ben draw'r gadwyn cyflenwi bwyd. Bydd datblygu'r gwerthoedd brand hyn yn caniatáu i gynhyrchwyr yng Nghymru fod yn wahanol i gystadleuwyr rhyngwladol, gan ganiatáu inni gynyddu effaith neges cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth o'n bwyd a'n diod mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol. Mae'n mynd i fod yn gwbl hanfodol i'n llwyddiant parhaus ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae ymchwil pellach ar y gweill i bennu pa fesurau cynaliadwyedd sy'n bwysig i brynwyr a defnyddwyr y farchnad, a sut y gellir achredu'r cynllun er mwyn iddo gael ei gydnabod fel safon ansawdd ar draws yr holl farchnadoedd.
O ran labelu bwyd, mae'r rheoliadau'n glir ar y wybodaeth sy'n rhaid ei darparu i ddefnyddwyr pan fyddant yn prynu bwyd a sut y dylid cyflwyno'r wybodaeth honno. Fel y soniais ddoe, rhaid i labeli pob cynnyrch porc, cig oen, cig gafr a dofednod ffres, wedi'u hoeri ac wedi'u rhewi gynnwys tarddiad, sy'n golygu gorfodaeth i labelu'r man lle magwyd, a lle lladdwyd yr anifail y daeth y cig ohono. Mae angen i unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth labelu bwyd a diod fod yn seiliedig ar dystiolaeth gan gadw mewn cof hefyd sut y caiff bwyd a diod eu masnachu a'u defnyddio o fewn y farchnad gyfan.
Cynhaliodd y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm adolygiad o lenyddiaeth, ac mae prosiect a ariennir ar y cyd drwy Brydain yn mynd rhagddo ar les anifeiliaid wrth eu cludo. Cyflwynir y canfyddiadau i'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm, ac maent yn darparu cyngor gwyddonol annibynnol, nid yn unig i ni, ond i Loegr a'r Alban hefyd.
Rwy'n cefnogi gwelliant 3 gan Neil McEvoy. Unwaith eto, soniais am hyn ddoe yn y datganiad llafar—gofynnais i fy swyddogion archwilio sut y gallai'r gwaharddiad ar werthiannau gan drydydd parti ddatrys pryderon yr Aelodau a'r cyhoedd. Mae gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi cŵn bach yn arbennig o bwysig yn y broses hon, rwy'n credu. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â gwraidd unrhyw bryderon lles wrth wneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth, a soniais ddoe y byddaf yn lansio ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd.
Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ac awdurdodau lleol hefyd i sicrhau bod gennym dystiolaeth a data perthnasol. Byddant hefyd yn cysylltu â DEFRA a Llywodraeth yr Alban i sicrhau synergedd rhwng dulliau gweithredu er mwyn cyflawni gwelliannau real a pharhaol. Mae'r farchnad cŵn bach wedi'i gyrru gan y galw, a gall dalu'n dda iawn i fridwyr a gwerthwyr, ac mae perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes yn dechrau gyda chyrchu cyfrifol. Felly, rwy'n falch iawn o gael y cyfle unwaith eto yr wythnos hon i atgyfnerthu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, ac i ailadrodd bod iechyd a lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Diolch.
Galwaf ar Gareth Bennett i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Diolch i bawb a gyfrannodd at ddadl ddiddorol. Os caf fynd drwy'r cyfraniadau, roedd Andrew R.T. Davies yn dweud wrthym am rai o'r agweddau sy'n broblemus ynglŷn â'r cynnig yn yr ystyr fod llawer o dda byw Cymru mewn gwirionedd yn croesi'r ffin ac yn mynd i Loegr i'w prosesu. Roedd y Ceidwadwyr, yn eu maniffesto yng Nghymru, yn cefnogi gosod teledu cylch cyfyng yn holl ladd-dai Cymru, sy'n cyd-fynd â rhan o'n cynnig heddiw. Ond fe nododd mai un agwedd hollbwysig fydd arian i atal rhagor o ladd-dai lleol cymharol fach rhag cau, ac rydym yn rhannu'r pryder hwnnw. Rydym yn cytuno bod angen ymateb cydgysylltiedig, gyda'r Llywodraeth yn helpu i ariannu'r lladd-dai er mwyn caniatáu iddynt osod darpariaeth felly.
Soniodd Andrew hefyd am y gwelliannau mawr sydd wedi digwydd ym maes lles anifeiliaid dros yr 20 mlynedd diwethaf, a gwelliannau hefyd o ran labelu. Ond fe dynnodd sylw at broblemau gyda geirwiredd peth o'r labelu, oherwydd y nifer fawr o wahanol labeli a ddefnyddir bellach, felly mae'n bosibl fod hynny'n creu amheuon ynglŷn ag i ba raddau y gellir ymddiried yn y labeli. Wrth gwrs, nododd Andrew un enghraifft benodol lle roedd cynnyrch wedi'i fewnforio o Wlad Thai mewn gwirionedd.
Mae'n awyddus i Lywodraeth Cymru wella'r broses o reoleiddio—mae'r Ceidwadwyr am i Lywodraeth Cymru wella'r broses o reoleiddio—ffermio cŵn bach a chathod bach, sydd, fel y nododd Andrew, wedi cael troedle yng ngorllewin Cymru, yn enwedig ffermio cŵn bach. Ond tynnodd sylw at y ffaith bod angen capasiti yn y cyrff rheoleiddio i sicrhau bod unrhyw reoliadau neu waharddiadau a gyflwynir yn cael eu gorfodi'n effeithiol.
Roedd Neil McEvoy yn siarad yn benodol am broblem ffermio cŵn bach. Soniodd am yr amgylchiadau wael y mae llawer o'r cŵn—a soniodd hefyd am gathod bach—yn eu dioddef yn aml yn y fasnach hon, a mater arall oedd bod lles yr anifeiliaid yn aml yn dioddef, oherwydd yr angen i fridio'n gyson.
Canolbwyntiodd David Rowlands—fy nghyd-Aelod UKIP—ar allforio anifeiliaid byw, a nododd, er gwaethaf rheoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd, fod llawer o'r anifeiliaid a gaiff eu hallforio yn dal i wynebu teithiau erchyll. Nododd ei farn y byddai problemau'n dal i ddigwydd hyd yn oed pe baem yn rheoleiddio yn y maes, a'r ateb gorau yn syml yw gwahardd allforio anifeiliaid byw.
Crybwyllodd Llyr Gruffydd lawer o broblemau gyda'n cynnig. Wrth gwrs, fe wnaeth y pwyntiau'n glir iawn. Nododd y risg y gallai Brexit ei hun danseilio lles anifeiliaid, a soniodd fod cyfran fawr o'r milfeddygon sy'n byw yn y DU ac sy'n gweithio mewn lladd-dai yn ddinasyddion o'r tu allan i'r DU mewn gwirionedd—credaf fod llawer ohonynt yn dod o Sbaen—felly mae hon yn broblem rydym yn ei hystyried, a bydd yn rhaid inni ddatrys hynny. Mae rhan dda gan deledu cylch cyfyng i'w chwarae, meddai Llyr, ond fe nododd fod angen cyllid ar ladd-dai bach, sy'n cysylltu â'r pwynt a wnaeth Andrew R.T. Davies, felly rydym yn rhyw fras gytuno ar y pwynt fod gofyn cael cymorth gan y Llywodraeth i helpu'r lladd-dai bach lleol os ydym i symud tuag at osod rhagor o systemau teledu cylch cyfyng. Hefyd, nododd Llyr fod llawer o gefnogaeth gyhoeddus i labelu cliriach, gan gysylltu â phwyntiau Andrew R.T. Davies unwaith eto, ac mae hefyd yn cefnogi camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar werthu cŵn bach, y credaf efallai fod pawb yn gytûn yn ei gylch.
Soniodd Lesley Griffiths, y Gweinidog, am yr angen i gael safonau lles anifeiliaid cryf. Roedd yn braf iawn clywed hynny, ac rwy'n siŵr ei bod wedi ymrwymo i hynny. Fe nododd fod ei Llywodraeth yn erbyn ei gwneud hi'n orfodol i osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai. Roedd hi'n 'rhy gynnar' i wneud hynny yn ei geiriau hi. 'Yn rhy gynnar', ie. Dywedodd ei bod hi'n 'rhy gynnar'. Fe wnaeth y pwynt fod angen gweithio'n agos gyda busnesau bwyd os ydym yn mynd i symud ymlaen yn y maes hwn. Wrth gwrs, cyfeiriodd at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru eisoes. Dywedodd hefyd nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru. Hefyd, mae angen gweithio ar y gwerthoedd brand, ac mae hi'n gweithio arnynt. Unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â labelu, a grybwyllwyd gan nifer o bobl. Eto, dywedodd fod y Llywodraeth yn cefnogi gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd parti. Felly, mae'n debyg fod yr agwedd honno, y gwelliant hwnnw, yn rhywbeth y gall pawb ei gefnogi o bosibl, felly efallai y gallwn symud ymlaen ar hynny cyn gynted â phosibl. Diolch eto i bawb am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.