1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 20 Tachwedd 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac ar ran arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mi fydd gwladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu mewn uwchgynhadledd y penwythnos yma os ydy'r cytundeb drafft ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio iddyn nhw. A ydych chi'n credu ei fod o'n gweithio i Gymru?
Na, o achos y ffaith rydw i'n wastad wedi bod o blaid sefyll tu fewn i'r farchnad sengl ac, wrth gwrs, tu fewn i'r undeb tollau.
Mi ydym ni, wrth gwrs, ymhell iawn o beth gafodd ei gynnig yn y refferendwm ddwy flynedd a hanner yn ôl.
Mae'r cytundeb sydd ar gael filltiroedd i ffwrdd, a dweud y gwir, o'r addewidion a wnaed ac y pleidleisiwyd arnynt ym mis Mehefin 2016. Mae'n debyg nad yw'n bodloni neb ar hyn o bryd. Rwy'n credu ein bod ni'n cytuno ar hynny. Yr hyn nad ydym yn cytuno arno yw sut i ddiogelu buddiannau Cymru os na fydd y DU yn aelod o'r UE mwyach, sut bynnag y bydd hynny'n digwydd. Nawr, mae'r Goruchaf Lys yn brysur yn ystyried pa un a yw Bil parhad yr Alban o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban. Os bydd y llys yn cytuno ei fod, bydd gan yr Albanwyr amddiffyniad deddfwriaethol grymus yn erbyn camau i gydio grym gan San Steffan. Ac eto, er eich bod chi wedi codi pryderon ynghylch natur ymadawiad y DU fel y'i cynigir ar hyn o bryd, ar yr un pryd rydych chi'n cynnig y prynhawn yma y dylem ni ddiddymu Bil parhad Cymru—yr unig beth sy'n atal y Torïaid rhag deddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad y Cynulliad hwn. Nawr, o gofio y bydd y Goruchaf Lys yn gwneud ei benderfyniad ar yr Alban o fewn mater o wythnosau, beth am oedi diddymiad Bil parhad Cymru tan ein bod ni'n deall y sefyllfa yn y Goruchaf Lys?
Wel, bydd unrhyw ddyfarniad gan y Goruchaf Lys yn cael effaith ar Gymru wrth gwrs. Gadewch i ni ddweud, er enghraifft, pe byddai'r Goruchaf Lys yn dweud bod gan yr Albanwyr y pŵer hwnnw, yna byddai hynny'n ein cynnwys ninnau hefyd. Ond os bydd yn dweud nad oes unrhyw bŵer i wneud hynny, nid oes gan yr Albanwyr ddim, ac mae gennym ni gytundeb. Dyna'r mater yn y fan yma. Mae gennym ni gytundeb rhynglywodraethol y daethpwyd iddo gan ddau barti. Rhan o'r cytundeb hwnnw oedd diddymu'r Ddeddf parhad. Os na fyddwn yn gwneud hynny, byddwn wedi torri'r cytundeb, ac mae hynny'n golygu wrth gwrs ein bod ni wedi dangos ewyllys drwg cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn a chyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn. Mae'n werth cofio hefyd, wrth gwrs, y daethpwyd i gytundeb ar ôl misoedd lawer iawn o drafod, ac nid yw'r cytundeb hwnnw'n rhywbeth y gellir ei daflu i ffwrdd yn ddi-hid. Nawr, gwn ei fod ef o'r farn nad yw'n hoffi'r cytundeb. Rwy'n deall hynny; fe'i gwnaed yn eglur yn y Siambr hon yn y gorffennol. Ond mae gennym ni gytundeb fel Llywodraeth i amddiffyn Cymru, ac rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y cytundeb hwnnw'n cael ei anrhydeddu, ar ein hochr ni o leiaf.
Mae gan Gymru rhy ychydig o ysgogiadau fel y mae hi, a'r hyn sy'n digwydd o gael gwared ar bwerau posibl Bil parhad Cymru yw eich bod chi'n gwanhau'r pwerau hynny sydd gennym ni. Y ddadl gyfreithiol yw bod gan Gymru achos cryfach yn y Goruchaf Lys nag oedd gan yr Alban.
Ond, i symud ymlaen, ychydig dros wythnos yn ôl, dywedodd Jeremy Corbyn, arweinydd eich plaid, wrth bapur newydd Der Spiegel yn yr Almaen na ellir atal Brexit. Ers hynny, fe'n hysbyswyd mai'r hyn yr oedd yn ei olygu mewn gwirionedd oedd na all Llafur atal Brexit ar ei phen ei hun. Nawr, mae'r gwrthbleidiau ar ochr 'aros' y ddadl wedi bod yn agored iawn i'r syniad o weithio mewn modd trawsbleidiol i atal Brexit. Yn hytrach nag osgoi ateb—ac, a bod yn onest, rwyf i wedi cael llond bol ar ddyfalu beth sy'n digwydd ym meddwl Jeremy Corbyn—onid ydych chi'n credu y dylai'r Blaid Lafur fod yn cychwyn trafodaethau brys nawr gyda ni, yr SNP a phleidiau eraill yn San Steffan i gydgysylltu ymdrechion i sicrhau pleidlais newydd gydag 'aros' ar y papur pleidleisio? Gwn eich bod chi wedi bod yn hyrwyddo mynd ar drywydd etholiad cyffredinol yn hytrach, ond siawns y gallwch chi weld nawr mai'r hyn sydd wir ei angen arnom yw pleidlais y bobl?
Gadewch i mi esbonio'r sefyllfa yr wyf i'n credu yr ydym ni ynddi. Yn gyntaf oll, rwy'n credu y bu methiant llwyr o ran gwleidyddiaeth yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod hynny, gan ein bod ni wedi cael refferendwm yn 2016 ar syniad. Gall pobl weld nawr beth yw'r canlyniad, ac rwy'n credu bod pob cyfiawnhad dros ddweud wrth bobl, 'Nawr eich bod chi'n gwybod beth yw'r realiti, beth ydych chi eisiau ei wneud nawr?' Gellid gwneud hynny naill ai drwy etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus. Ond yr hyn sy'n eglur yw y byddai'n rhaid i'r bleidlais gyhoeddus honno gynnig y dewis i adael, ar ba sail i adael, neu, yn wir, i aros, ar sail yr hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr. Ni allaf weld, lle mae gwleidyddion yn San Steffan wedi methu, neu y mae Llywodraeth yn San Steffan wedi methu, bod unrhyw beth o'i le ar fynd yn ôl at bobl a dweud, 'Mae'r amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, beth ydych chi eisiau ei wneud nawr?' Os byddant yn dal i fod eisiau gadael, yna, wrth gwrs, mae ganddyn nhw'r cyfle i ddweud hynny. Ond rwy'n credu bod angen i ni ymddiried yn y bobl yn hyn o beth.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, sut ydych chi'n meddwl y mae camau cynnar y fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn mynd rhagddynt?
Gyda chryn anhawster, oherwydd bu problemau enfawr, fel y gallwn weld. Rwy'n falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud yr ymddiheuriadau y mae wedi eu gwneud. Roedd wedi cael ei effeithio gan storm Callum ac mae wedi etifeddu fflyd braidd yn hen. Ond fe wnaethom ddweud—roeddem ni'n onest ar y dechrau—y byddai'n cymryd cryn amser i newid y trenau yr oeddem ni eu heisiau a chael y math o wasanaeth yr ydym ni eisiau ei ddarparu i bobl Cymru.
Prif Weinidog, dim ond ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd eich Ysgrifennydd trafnidiaeth y byddai'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn drawsnewidiol. Rydym ni ychydig dros fis erbyn hyn ers i Drafnidiaeth Cymru—[Torri ar draws.]—ers i Drafnidiaeth Cymru gymryd masnachfraint rheilffyrdd Cymru drosodd, ac eisoes—
Ni allaf glywed arweinydd yr wrthblaid, ac nid wyf i'n credu y gall y Prif Weinidog ychwaith, felly allwch chi fod yn dawel os gwelwch yn dda a chaniatáu i arweinydd yr wrthblaid gael ei glywed?
Diolch, Llywydd. Rydym ni ychydig dros fis erbyn hyn ers i Drafnidiaeth Cymru gymryd masnachfraint rheilffyrdd Cymru drosodd, ac mae gennym ni ymddiheuriad cyhoeddus tudalen lawn papur newydd eisoes, yr ydych chi wedi cyfeirio ato. Nawr, mae'r ymddiheuriad yn dweud, a dyfynnaf:
Rydym ni'n gwybod eich bod chi, ein cwsmeriaid, yn haeddu gwell gan eich gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau, ac nid dyma yr oeddech chi'n ei ddisgwyl gan eich gweithredwr newydd.
Diwedd y dyfyniad. A ydych chi'n gwybod pam, Prif Weinidog, nad dyma yr oedd pobl yn ei ddisgwyl? Fe ddywedaf wrthych chi pam. Oherwydd, unwaith eto, mai eich Llywodraeth chi sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hyn, ac rydych chi, unwaith eto, yn methu â chyflawni eich addewidion. Addawyd rhwydwaith trenau fforddiadwy, hygyrch, o ansawdd uchel gennych chi yng Nghymru, ond y realiti i deithwyr yw bod trên cymudwyr boreol Trafnidiaeth Cymru o Gas-gwent a Chil-y-coed i Gasnewydd a Chaerdydd wedi cael ei ganslo 16 o weithiau yn ystod yr 20 diwrnod gwaith diwethaf. Nid yw Blaenau Ffestiniog, Betws-y-coed a Llanrwst wedi cael unrhyw drenau drwy'r dydd yn ystod saith o'r 20 diwrnod gwaith diwethaf. A chafodd y trên 08:40 o Aberystwyth i Amwythig ei ganslo ar bedwar diwrnod yr wythnos diwethaf. Mae hyn yn llanastr llwyr gan eich Llywodraeth. Felly, Prif Weinidog, yn hytrach na ymddiheuriadau wedi'u hysbrydoli gan gysylltiadau cyhoeddus, pa gamau mesuradwy y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dechrau trychinebus hwn i'r fasnachfraint?
Mae'n rhaid i mi ddweud, mae hwn yn dir sigledig iddo fe. Sut mae'n cyfiawnhau'r ffaith bod Cymru yn cael dim ond 1 y cant o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd? Dim ganddo ef am hynny. Sut mae'n esbonio—? Ie, gwn ei bod hi'n anodd, ond mae'n wir. Sut mae'n esbonio'r ffaith mai ei blaid ei hun wnaeth ganslo trydaneiddio i'r gorllewin o Gaerdydd, er gwaethaf yr addewid a wnaed mewn gwirionedd? Felly, mae hwn yn dir sigledig iawn iddo fe.
Ond, dywedasom y byddem yn gweddnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Ni ddywedasom y byddem ni'n gwneud hynny mewn mis. Ar ôl 15 mlynedd o fasnachfraint a osodwyd o'r blaen, ar ôl blynyddoedd lawer iawn o danfuddsoddi yn y trac gan Lywodraeth Geidwadol, dywedasom y byddem yn gweddnewid y rhwydwaith, ond roeddem ni'n onest a dywedasom y byddai'n cymryd amser i wneud hynny. Wrth gwrs y byddai. Mae rhai o'r problemau ar y trenau yn ymwneud â'r trac, nad oes gennym ni reolaeth drosto, ac mae rhai ohonynt yn ymwneud â'r ffaith yr effeithiwyd ar 30 y cant o'r stoc gerbydau gan storm Callum.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fe, nid wyf i'n credu y bydd pobl yn ei weld yn realistig pan ei fod yn dweud, ar ôl 15 mlynedd o ddefnyddio cerbydau, bod popeth yn mynd i newid mewn mis. Yn wir. Dywedasom na fyddai hynny'n digwydd, ond, wrth gwrs, amlinellwyd cynllun ar gyfer y dyfodol gennym a byddwn yn darparu gwasanaeth rheilffyrdd ar gyfer pobl Cymru ac yn cadw ein haddewidion, yn wahanol i'w blaid ef.
Ers i'ch Llywodraeth gymryd y fasnachfraint hon drosodd, mae gwasanaethau wedi gwaethygu, ac mae hynny mewn dim ond mis, Prif Weinidog. Nawr, nid oedd y cytundeb masnachfraint blaenorol yn gadael unrhyw le ar gyfer twf i niferoedd teithwyr a dim darpariaethau ar gyfer capasiti trenau ychwanegol. Ers gosod y fasnachfraint honno gyntaf yn 2003, mae niferoedd y teithwyr wedi cynyddu gan tua 75 y cant. Creodd hyn dagfeydd cronig, diffyg cerbydau priodol a blynyddoedd o danfuddsoddi o ran gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru.
Gofynnwyd i chi dro ar ôl tro gyhoeddi manyleb y tendr y byddai'r darpar weithredwyr rheilffordd yn gwneud cais yn ei herbyn er mwyn ennill y contract presennol. Rydych chi wedi gwrthod dro ar ôl tro gwneud y ddogfen honno yn gyhoeddus. Mae tryloywder, wrth gwrs, yn elfen allweddol o ran sicrhau bod gan gyhoedd Cymru ffydd yn Nhrafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r gwasanaethau hyn sy'n dirywio, a wnewch chi gyhoeddi'r fanyleb dendro honno'n llawn nawr, er mwyn helpu i adfer ffydd y cyhoedd yn nhrosolwg eich Llywodraeth o wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, ac fel y gallwn asesu swyddogaeth eich Llywodraeth o ran y parhad hwn o siomi cymudwyr Cymru?
Bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi. Dywedwyd gennym erioed y byddai—â rhannau priodol wedi eu dileu, wrth gwrs. Ond, hynny yw, mewn gwirionedd, pedair wythnos i mewn i'r fasnachfraint, mae e'n feirniadol—ar ôl 15 mlynedd o redeg y fasnachfraint o Whitehall, ar ôl wyth mlynedd o Lywodraeth Geidwadol pan na roddwyd unrhyw arian ychwanegol i mewn i fuddsoddiad rheilffyrdd yng Nghymru, ni roddwyd unrhyw arian ychwanegol ar gyfer seilwaith, ni roddwyd unrhyw arian ychwanegol ar gyfer cerbydau, ni ddyrannwyd unrhyw arian ar gyfer trydaneiddio. Rydym ni wedi gweld y llanastr yn Lloegr gyda rhai o'r masnachfreintiau yno. Mae Chris Grayling wedi cael ei feirniadu'n hallt am hynny. Nid oes unrhyw weledigaeth yn Lloegr. Nid oes unrhyw arian yn cael ei neilltuo. Er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi galw am i seilwaith rheilffyrdd gael ei ddatganoli, gyda swm canlyniadol Barnett priodol, a fydd yn 6.2 y cant, mae'r Torïaid wedi gwrthod, gan eu bod nhw'n hapus â'r sefyllfa, mae'n debyg, lle mae Cymru yn cael 1 y cant o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd. Mae hynny'n gwbl anghywir o ystyried y ffaith bod yr Alban yn cael bargen well o lawer. Yr hyn yr ydym ni wedi ei gynnig i bobl Cymru yw gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Rwyf i wedi dweud y bydd y trenau pacer wedi mynd erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, y bydd trydaneiddio rhannol, y bydd trenau newydd, byddant i gyd wedi eu haerdymheru, a bydd pobl yn gallu cael gwasanaeth sy'n llawer iawn gwell na'r gwasanaeth a oddefwyd gan y Torïaid am gyhyd o 2010 ymlaen.
Arweinydd grŵp UKIP—Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ceir rhestr sy'n tyfu'n barhaus o brosiectau adeiladu yng Nghaerdydd yn ymdrin, mae'n debyg, â llety myfyrwyr. Agorwyd, cymeradwywyd neu dechreuwyd adeiladu 23 o ddatblygiadau ar wahân yn y tair blynedd diwethaf yng Nghaerdydd. Os gwnewch chi sefyll ar gyffordd City Road a Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, gallwch chi weld wyth gwahanol datblygiad, naill ai'n cael eu hadeiladu neu newydd agor. Ceir enghreifftiau hefyd erbyn hyn yng Nghasnewydd a Chaerdydd o flociau a elwir yn llety myfyrwyr lle mae fflatiau yn cael eu gosod yn fasnachol. Nid yw'r fflatiau y tu mewn i'r blociau hyn yn mynd i fyfyrwyr oherwydd nad oes digon o alw ymhlith myfyrwyr. A ydych chi'n meddwl y gallai patrwm amheus fod yn datblygu lle mae prifysgolion a datblygwyr preifat yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau sydd i fod ar gyfer myfyriwr ac yna'n newid eu defnydd yn fwriadol wedyn?
Mae'n rhaid gwneud cais i'r awdurdod lleol ar gyfer newid defnydd, wrth gwrs. Os oes ganddo unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi'r hyn y mae'n ei ddweud, byddwn yn falch o'i chlywed.
Wel, fel y dywedwch, mae'n fater i'r awdurdod lleol perthnasol yn rhannol, ond teimlaf fod hwn yn faes y dylai Llywodraeth Cymru fod yn bryderus yn ei gylch. Rwy'n credu bod gennych chi ran bwysig i'w chwarae o ran monitro hyn. Rwyf i wedi codi'r mater hwn gyda'ch Gweinidog Tai, a ddywedodd ei bod hi'n cadw llygad ar hyn, ond dywedodd y gallai fod yn agos at fod yn rhan o gylch gwaith eich Gweinidog cynllunio. Felly, ceir perygl, yn fy marn i, y gallai hyn syrthio drwy'r rhwyd. Mae angen i ni ystyried pam y bu cymaint o gynnydd yn y llety sydd i fod ar gyfer myfyrwyr .
Ar hyn o bryd, mae llety myfyrwyr wedi'i eithrio o ardrethi busnes. Mae hyn oherwydd bod y fflatiau myfyriwr yn cael eu dosbarthu fel anheddau domestig ac felly'n dod o dan y gyfundrefn treth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes. Canfu perchnogion busnesau ar Heol Maendy yng Nghaerdydd yn ddiweddar y bydd yn rhaid iddyn nhw adael eu hunedau busnes i wneud lle ar gyfer adeilad chwe llawr yn cynnwys 143 o fflatiau myfyriwr. Ceir garej trin ceir sydd wedi bod ar y safle hwn ers 40 mlynedd. Nid yn unig y bydd y newid hwn yn cael effaith andwyol ar y gymuned leol, ond bydd y trethdalwr yn colli miloedd o bunnoedd gan nad yw ardrethi busnes yn cael eu talu gan berchnogion y fflatiau myfyrwyr. Onid yw hwn yn achos, Prif Weinidog, o brifysgolion a datblygwyr yn camfanteisio ar elfennau amwys yn y rheolau cynllunio dim ond i sicrhau'r elw mwyaf posibl?
Mae'n ymddangos ei fod yn credu bod pobl sy'n byw mewn fflatiau preifat yn talu ardrethi busnes. Dydyn nhw ddim. Maen nhw'n talu treth gyngor, yn union fel y mae myfyrwyr yn ei wneud. Nid oes unrhyw wahaniaeth. Felly, ni allaf weld y pwynt y mae'n ceisio ei wneud yn y fan yna. Os bydd rhywun yn prynu fflat mewn bloc o fflatiau sydd newydd gael ei adeiladu, maen nhw'n talu treth gyngor, nid ardrethi busnes.
Diolchaf i chi am eich ateb, ond bu cryn dipyn o bryder ynglŷn â hyn, hyd yn oed o fewn cyngor Caerdydd. Dywedodd swyddog cynllunio cyngor Caerdydd, Lawrence Dowdall, yn ddiweddar y gallai fod gan Gaerdydd or-gyflenwad o lety myfyrwyr erbyn hyn. Disgrifiodd aelod o'r pwyllgor cynllunio, Wendy Congreve, sy'n aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, un datblygiad diweddar fel defnydd sinigaidd o'r broses gynllunio. Nid yw'n ddim llai na datblygiad masnachol drwy'r drws cefn ac mae'n rhaid ei wrthsefyll.
Datblygwyd gormod o'r math hwn o lety gennym, ac nid yw'n ddim syndod eu bod nhw'n cael eu troi'n ddatblygiadau masnachol, proffidiol erbyn hyn.
Rwy'n credu bod angen i chi fod yn bryderus am hyn, oherwydd gallai'r achos posibl hwn o ddiystyru'r rheolau effeithio ar eich uchelgeisiau ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru. Mae gan ddatblygwyr masnachol, pan fyddant yn adeiladu ystadau tai newydd, rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu elfen o dai fforddiadwy. Nid oes unrhyw rwymedigaeth o'r fath ar ddatblygwyr sy'n adeiladu blociau myfyriwr tybiedig. Felly, gallech chi gael prifysgolion yn gweithio gyda datblygwyr preifat i gael eu heiddo ar y farchnad fasnachol drwy'r drws cefn, gan osgoi'r angen i ddarparu tai fforddiadwy ar yr un pryd. A ydych chi'n credu y dylai eich Llywodraeth fod yn cael gair gyda'r datblygwyr neu fod yn monitro'r sefyllfa hon mewn unrhyw ffordd?
Wel, rwy'n credu y dylai fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd i bob pwrpas mae'n cyhuddo prifysgolion o fod yn rhan o dwyll, i bob pwrpas, heb unrhyw dystiolaeth. Dychwelaf at y pwynt a wneuthum yn gynharach: mae wedi gwneud awgrymiadau, ac nid wyf i wedi gweld unrhyw dystiolaeth ganddo i gefnogi unrhyw un o'i awgrymiadau, ac eithrio'n hyn y mae'n ei ddweud, ond dim byd i'w gefnogi. Ond rwy'n eithaf siŵr nad yw ein prifysgolion yn ymgymryd â datblygu eiddo masnachol pan fo ganddyn nhw filoedd lawer iawn i ganfod llety ar eu cyfer beth bynnag. Dylem ddathlu'r ffaith bod Caerdydd a phrifysgolion eraill ledled Cymru wedi bod mor llwyddiannus o ran denu myfyrwyr o bedwar ban byd, gan eu bod nhw'n ychwanegu at allu ymchwil a dysgu'r prifysgolion hynny ac, yn y pen draw, yn ychwanegu at ein heconomi. Mae prifysgolion yn ysgogwyr enfawr o'r economi gan eu bod nhw'n denu cynifer o fyfyrwyr, ac nid wyf i wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod prifysgolion yn ceisio adeiladu llety myfyrwyr yn fwriadol gyda'r bwriad o newid defnydd y llety hwnnw wedyn i wneud arian trwy eiddo masnachol.