1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2018.
5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael mewn perthynas â gwella gwasanaethau trên o Bontyclun i Gaerdydd? OAQ53004
Wel, rydym yn cyflwyno amrywiaeth o welliannau i wasanaethau ym Mhont-y-clun, gan gynnwys lleihau amseroedd teithio, trenau pedwar cerbyd newydd a chynyddu amlder gwasanaethau ar ddydd Sul. Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ystyried ymestyn y metro, gan gynnwys i Bont-y-clun—yn amodol, wrth gwrs, ar gyllid ac achos busnes cryf.
Diolch ichi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am gyfarfod â mi, gyda Huw Irranca-Davies, Aelodau Seneddol lleol ac arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, i drafod y gwasanaethau o Bont-y-clun i Gaerdydd. Ac wrth gwrs, mae'r rhain yn effeithio cryn dipyn ar y cyhoedd sy'n dymuno defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, mae maint y datblygiad tai ym Mhencoed ac yn y rhan honno o Daf Elai yn golygu bod y galw am wasanaethau trenau ym Mhont-y-clun nid yn unig yn fawr, ond yn mynd i gynyddu'n sylweddol.
Y broblem allweddol gyntaf yw mai dau gerbyd yn unig yw'r trenau o hyd, a buaswn yn ddiolchgar am eich barn o ran sut y gellid mynd i'r afael â hyn fel rhan o'r cynllun i gael cerbydau yn lle'r hen rai. Yn ail, i raddau helaeth, y groesfan ym Mhencoed, sydd ar gau am hyd at 40 munud bob awr, sy'n pennu amlder y gwasanaethau trên. Byddai pont newydd ym Mhencoed yn golygu na fyddai angen cau'r groesfan, gan ei gwneud hi'n haws cynyddu amlder gwasanaethau'n sylweddol. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud beth yw ei farn ynglŷn ag ymarferoldeb yr atebion hyn.
Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn a hefyd am y cyfle i siarad ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â'r ddau fater a gododd yn ei gwestiwn? Rwy'n falch o ddweud bod croesfan Pencoed wedi cael sylw amlwg yn y trafodaethau a gefais gyda chadeirydd Network Rail, Syr Peter Hendy, y bore yma, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb i'r mater penodol hwn, a defnyddio nid yn unig adnoddau Network Rail, ond hefyd y gronfa trafnidiaeth leol y credaf y bydd yn hollbwysig wrth geisio dod o hyd i ateb yno.
Nawr, o ran y capasiti ar y trenau dau gerbyd, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod, gyda chyflwyno'r trenau pedwar cerbyd erbyn ddiwedd 2022—a gadewch inni gofio mai trenau newydd fydd y rhain—y bydd nifer y seddi a fydd ar gael ar y trenau'n codi o 120 i 204, gan gynyddu capasiti'n sylweddol ar y gwasanaeth hwnnw.
Ymunaf â'r Aelod dros Bontypridd i dynnu sylw at orsaf Pont-y-clun fel man cyfyng go iawn, yn enwedig gyda'r datblygiadau sydd wedi bod yn mynd rhagddynt yn y blynyddoedd diwethaf—ond datblygiadau y gwyddom eu bod yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Dros yr wythnos ddiwethaf, cefais fy mombardio'n llythrennol gan etholwyr yn yr ardal honno sydd wedi cael profiad arbennig o wael o'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig iddynt, gyda threnau'n gor-redeg heibio i'r platfform, anallu tocynwyr i gasglu tocynnau ar y trên ei hun, a phan gyrhaeddant orsaf Caerdydd Canolog, un agoriad yn unig ar agor i wneud taliadau i allu parhau eu taith. Nawr, nid yw'r diffygion hyn yn dibynnu ar y tywydd yn llwyr; maent yn dibynnu ar reoli da, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi clywed y rhesymeg y tu ôl i rai o'r problemau a fu'n effeithio ar y rhwydwaith yn fwy cyffredinol, ond pa hyder y gallwch ei roi imi fel Aelod etholedig i fynd yn ôl at fy etholwyr a dweud y bydd y lefelau sylfaenol iawn hyn o staff sydd yn y gorsafoedd i fonitro trenau yn cyrraedd a gadael, ac yn arbennig mannau penodol sy'n cael eu gwasanaethu o fewn y gorsafoedd ar gyfer gwneud taliadau, yn cael eu staffio'n llawn, fel y gall pobl gael profiad cadarnhaol, nid yn unig yn 2022, ond yn awr yn 2018?
Rwy'n falch o allu dweud, o ganlyniad i'r cytundeb rhyngom â KeolisAmey, ein bod yn mynd i gyflogi 600 yn fwy o bobl. Mae hwnnw'n ffigur eithaf sylweddol. Hefyd, rydym yn mynd i gyflwyno peiriannau tocynnau nad ydynt yn defnyddio arian ym mhob gorsaf ar draws ardal masnachfraint Cymru a'r gororau, a byddwn hefyd yn cydnabod ymhellach yr heriau a wynebir ar hyn o bryd gyda'r orsaf benodol a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn. Ond bydd pob gorsaf yn cael buddsoddiad ac yn cael ei huwchraddio o ganlyniad i'r £200 miliwn y byddwn yn ei fuddsoddi mewn gorsafoedd ar draws llwybrau Cymru a'r gororau.