1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2018.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau addysg yng Nghymru? OAQ53104
Wel, ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau addysg i'n pobl ifanc. Rydym ni'n datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd, a fydd yn cynorthwyo gwelliant ysgolion ymhellach. Y cam nesaf, wrth gwrs, yw ystyried sut i gynorthwyo ein hysgolion sy'n peri'r pryder mwyaf ar gam cynnar, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn diweddaru'r aelodau yn y flwyddyn newydd ar y pwynt hwnnw.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn ôl Estyn, dim ond hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru sy'n cael eu dyfarnu'n 'dda' neu'n 'ardderchog'. Nid yw disgyblion yn datblygu gwybodaeth a sgiliau yn ddigon da nac yn gwneud digon o gynnydd mewn oddeutu hanner ysgolion uwchradd Cymru, ac nid yw mwyafrif y disgyblion yn yr ysgolion hyn yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddyn nhw gyrraedd diwedd addysg orfodol. Mae hyn yn effeithio ar eu rhagolygon cyflogaeth ac yn ychwanegu at y pwysau ar golegau addysg bellach, ac mae'n rhaid i'r rheini unioni methiant y system addysg i baratoi'r myfyrwyr hyn ar gyfer gwaith. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn cynghori ei olynydd i'w cymryd i fynd i'r afael â'r methiannau hyn cyn i genhedlaeth arall o blant yng Nghymru gael ei chondemnio i fod yn dangyflawnwyr?
Wel, nid wyf i'n cytuno bod plant yn tangyflawni. Rwy'n credu bod canlyniadau rhagorol yng Nghymru o ran Safon Uwch a TGAU, ac rydym ni'n gweld safonau da iawn o addysgu yng Nghymru. Rwy'n credu mai'r hyn y mae hi'n iawn ei ddweud yw bod cysondeb wedi bod yn broblem erioed. Nawr, wrth gwrs, yr hyn sy'n allweddol i ymdrin â hynny yw llywodraeth leol, gan mai llywodraeth leol sy'n darparu addysg. Nawr, mae'n gwbl briodol, wrth gwrs, y gofynnir cwestiynau i mi, ac y gofynnir cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet, am addysg yn y Siambr hon, ond mae gan lywodraeth leol ran fawr i'w chwarae, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i lywodraeth leol weithio gyda'i gilydd, yn rhanbarthol, i ddarparu addysg. Rydym ni wedi gweld gwelliannau. Byddai'n gwbl anghywir i unrhyw awdurdod lleol geisio darparu addysg ei hun neu i dynnu allan o strwythurau rhanbarthol. Mae hwnnw'n gam yn ôl a byddai addysg plant yn cael ei waethygu o ganlyniad. Felly, ydym, rydym ni eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, ond mae'n eithriadol o bwysig hefyd bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu addysg ar draws ardal ehangach o lawer.
Fel rydym ni newydd ei glywed, mae disgyblion sy'n mynychu hanner ysgolion uwchradd Cymru yn methu â chyrraedd eu llawn potensial erbyn iddyn nhw adael yr ysgol. Estyn sydd yn dweud hynny, er gwaethaf beth roeddech chi'n ei ddweud rŵan. Bum mlynedd yn ôl, fe wnaethoch chi gyfaddef bod Llywodraeth Cymru wedi esgeuluso addysg yn y gorffennol, ac fe gytunoch chi bryd hynny—ac rwy'n dyfynnu—eich bod chi wedi 'taken our eye off the ball'. Bum mlynedd ers ichi ddatgan hynny, a ydych chi'n siomedig gyda'r canlyniadau diweddar gan Estyn ac arafwch y cynnydd yn ein hysgolion uwchradd ni'n arbennig?
Wel, fe ddywedais i hynny, ond dywedais i hynny tua naw mlynedd yn ôl. So, felly, beth mae hynny'n ei ddweud—wrth gwrs, mae pethau'n newid ac yn newid am y gorau. Os edrychwn ni, wrth gwrs, ar y canlyniadau, rydym ni'n gweld canlyniadau'n gwella. Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod pobl ifanc Cymru yn dda dros ben yn lefel A, rydym ni'n gweld cynnydd, wrth gwrs, yn y graddau y mae pobl yn eu cael yn TGAU ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod pobl Cymru yn bles gyda'r system addysg sydd gyda ni. Nid yw hynny'n meddwl, wrth gwrs, ein bod ni'n eistedd yn ôl a dweud, 'Wel, mae hynny'n iawn, te.' Mae yna waith i'w wneud, wrth gwrs, rydym ni'n deall hynny, ac mae'r gwaith yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ond, ynglŷn â symud ymlaen, ynglŷn â sicrhau bod cyllid ar gael i ysgolion, ynglŷn â sicrhau bod y cyllid ar gael i awdurdodau lleol i dalu athrawon, maen nhw wedi cael yr arian hwnnw, ac mae'n hollbwysig eu bod nhw'n gwario'r arian hwnnw ar dalu athrawon. Rwy'n credu bod llawer wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni nawr yn gweld pethau'n symud yn y cyfeiriad iawn.
Prif Weinidog, mae'r blynyddoedd cynnar yn hanfodol i gyfleoedd addysg a bywyd drwy gydol bywyd, felly a gaf i eich canmol chi a Llywodraeth Cymru ar ddatblygu rhaglen Dechrau'n Deg, yr wyf i'n credu sy'n werthfawr ac yn effeithiol? Ond, fel erioed, mae mwy i'w wneud, ac rwy'n credu bod y meini prawf cymhwysedd cod post ar gyfer Dechrau'n Deg yn codi cwestiynau o ran pa un a ellir gwneud mwy i gyflwyno'r rhaglen hon i lawer mwy o deuluoedd yng Nghymru. A yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n credu ddylai ddigwydd?
Wel, mae hwnnw'n fater—mae'n fater i'r Llywodraeth nesaf. Dyma'r tro cyntaf yr wyf i wedi defnyddio'r ymadrodd yna, mae'n rhaid i mi ddweud, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ond, wrth gwrs, mae'n—. Yr anhawster yw ein bod ni'n gwybod bod llawer o raglenni yn cael eu darparu mewn ardaloedd, ond rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, y bydd teuluoedd mewn ardaloedd eraill nad ydyn nhw'n elwa ar yr un cynlluniau. Y rhan anodd fu nodi'r teuluoedd sydd efallai'n byw y tu allan i'r ardaloedd hynny fel eu bod yn gallu elwa. Rwy'n siŵr bod hwn yn rhywbeth a fydd yn cael sylw yn y misoedd i ddod.