– Senedd Cymru am 4:38 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Rydym yn symud ymlaen yn awr at eitem 5, sef y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Roedd nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiadau llafar a oedd wedi eu trefnu ar y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gofal ar gyfer y rhai sy'n difrifol wael a gwella gwasanaethau deintyddol yn cael eu cyhoeddi mewn datganiadau ysgrifenedig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad llafar ar 'Tuag at ddull gwahanol o ymdrin â'r system gosb yng Nghymru', fel y gwnaethom ei drafod yn gynharach. Mae'r busnes drafft ar gyfer tair wythnos gyntaf y tymor newydd wedi ei nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Fis Rhagfyr y llynedd, argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod pwerau deddfwriaethol i osod Gorchymyn atal dros dro yn cael eu rhoi i Gyngor y Gweithlu Addysg—neu fwy nag un. Dri mis yn ddiweddarach, gofynnodd yr Ysgrifennydd dros addysg i'r Cyngor Gweithlu Addysg a fydden nhw'n cynnal ymgynghoriad, ac mae'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw ymhen 10 niwrnod, nawr, ni wn i pam cafwyd oedi yn y fan hyn, ond rydym ni'n sôn am flwyddyn yn ddiweddarach. O ystyried hynny, tybed a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru ystyried cyflymu ei hymateb i adroddiad yr ymgynghoriad pan gaiff ei gyhoeddi yn y pendraw ym mis Ionawr.
Yn ail, Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018. Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 ym mis Mehefin yn gynharach eleni gyda Chydsyniad Brenhinol yn cael ei roi ym mis Awst. Tybed, yn gynnar yn y tymor newydd, a wnaiff yr Ysgrifennydd iechyd newydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd wrth lenwi'r bylchau yn y Bil hwnnw. Efallai y bydd yr Aelodau yn cofio fy mod i wedi bod yn anfodlon iawn gydag ansawdd y Bil penodol hwnnw, a chredaf y byddai rhywfaint o wybodaeth ynghylch sut y mae'r rheoliadau hynny'n edrych bellach a'r ymchwil sy'n cael ei wneud yn cael ei groesawu'n fawr. Diolch.
Ie, ynghylch yr ymgynghoriad, nid wyf yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn achosi'r oedi, mae arnaf ofn. Rwyf yn sicr yn hapus i edrych, i weld, i argymell bod y Llywodraeth newydd yn hwyluso ei hymateb. Ni wn pa mor ymarferol yw hynny, ond rwyf yn fodlon gwneud yr argymhelliad hwnnw. O ran y Bil isafbris alcohol, gwn y bydd yr Ysgrifennydd iechyd cyfredol yn argymell i bwy bynnag fydd ei olynydd, boed ef ei hun ynteu rywun arall, bod adroddiad cynnydd cynnar yn cael ei wneud, felly gwn fod hynny eisoes yn y system.
Arweinydd y tŷ, ar 14 Chwefror, yn gynharach eleni, cynhigiais ddadl Aelodau unigol ynghylch mater y ffyrdd nad ydynt wedi eu mabwysiadu. Roedd yn ddadl a welodd gyfraniadau ar draws y Siambr a chafodd ei phasio yn unfrydol. Un o ganlyniadau'r cynnig oedd sefydlu tasglu, a wnaed o dan gylch gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth. Ar ôl cwestiwn ysgrifenedig dilynol gennyf fis Ebrill eleni, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn disgwyl i'r tasglu gwblhau ei waith yn gynnar yn 2019. O gofio bod y tasglu wedi ei gefnogi gan Aelodau ar draws y Siambr, mae llawer ohonom ni'n edrych ymlaen at weld yr argymhellion a fydd yn cael eu cynnig, ond, ychydig iawn y mae'r Aelodau wedi ei glywed o ran unrhyw gynnydd a wnaed hyd yn hyn. Tybed, felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i roi datganiad ysgrifenedig i'r holl Aelodau i amlinellu'r dyddiad cwblhau disgwyliedig, ac a fydd hefyd yn rhoi manylion unrhyw ymgynghoriadau a wnaed gan y tasglu a chrynodeb dros dro ynghylch ble mae'r tasglu arni erbyn hyn gyda'i waith. Diolch.
Rwyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu hysbysu'r Senedd, Dirprwy Lywydd, cyn gynted ag y bydd y tasglu wedi cwblhau ei waith, sef—. Mewn gwirionedd, mae Dai Lloyd ychydig o'm blaen i, felly rwy'n credu mai dechrau 2019 fydd hynny, a chredaf fod gan y rhaglen ddiweddariad ar y pwynt hwnnw.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar benderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i dynnu ei gyllid yn ôl ar gyfer synhwyrau a chyfathrebu Gwent? Gwasanaeth ar gyfer plant â phroblemau golwg, clyw a chyfathrebu, a ariannir ar hyn o bryd gan bum cyngor yn ne-ddwyrain Cymru yw hwn. Mae penderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i dynnu ei gyllid yn ôl wedi achosi cryn bryder ymhlith rhieni a gwarcheidwaid y plant sy'n elwa ar y gwasanaethau hyn a gallai danseilio'r holl waith. A gawn ni ddatganiad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer y plant rhyfeddol hyn yn y de-ddwyrain, os gwelwch yn dda?
Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod gyda chyngor Casnewydd rhesymeg ei benderfyniad i dynnu'n ôl o'r gwasanaeth, ac rwyf yn siŵr y bydd hi'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd pan fydd y trafodaethau hynny wedi eu cwblhau.
Hoffwn godi’r mater o ganabis meddyginiaethol. Mae llacio cyfreithiau ynghylch presgripsiynau canabis meddyginiaethol o ganlyniad i newidiadau yn neddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau wedi creu ychydig yn unig o newid eleni. Mae hyn, yn fwy na thebyg, oherwydd canllawiau cyfyngol dros dro a gyhoeddwyd o ganlyniad i'r newid hwn yn y ddeddfwriaeth. Mae’r Gymdeithas Sglerosis Gwasgaredig yn dweud na fydd dim yn newid yn y tymor byr ar gyfer 10,000 o bobl yn y DU sy’n byw gyda sglerosis gwasgaredig a allant gael esmwythâd o’r boen a’r gwayw drwy ddefnyddio canabis meddyginiaethol. Daeth hyn i'r amlwg yn ystod yr wythnos diwethaf, gydag achos Bailey Williams sy’n 16 mlwydd oed, sydd ag epilepsi difrifol sy’n achosi iddo ddioddef cannoedd o ymosodiadau ar ôl ei gilydd. Mae ei deulu yn dweud bod ei gyflwr yn dirywio'n gyflym. Maen nhw’n dweud y byddai canabis meddyginiaethol yn gwella ei symptomau yn fawr.
Nawr, gall Sativex fod ar gael ar y GIG yng Nghymru, ond ar gyfer triniaeth sbastigedd yn unig y caiff hwn ei drwyddedu, a phryd hynny nid yw ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis gwasgaredig sy'n bodloni'r meini prawf. Nid yw hyn o unrhyw ddefnydd i bobl fel Bailey sydd ag epilepsi difrifol, nag unrhyw gyflwr arall a allai fod y tu allan i’r cwmpas cyfyng hwnnw. Hoffwn i weld y Llywodraeth hon yn gweithio tuag at sicrhau bod y canllawiau ar ragnodi canabis meddyginiaethol yn cael eu hadolygu a’u llacio yn y cyfamser, fel nad yw mynediad at driniaeth yn cael ei gyfyngu mor llym. Mae gennym ni gyfle yng Nghymru i fabwysiadu ymagwedd flaengar at ragnodi canabis meddyginiaethol, ac ni ddylem ni adael i’r cyfle hwnnw ddiflannu. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at yr arweinydd Llafur newydd, felly, a wnewch chi sicrhau, fel mater o frys, bod y Prif Weinidog newydd yn cymryd camau i ymdrin â hyn yn ddi-oed, gan na all y teulu aros tan y Nadolig?
Hoffwn hefyd godi’r mater bod Aelod o’r Cynulliad wedi rhannu llwyfan gyda bwli asgell dde islamoffobaidd adnabyddus yn Llundain yn ystod y penwythnos. Mae’n hysbys bod Yaxley-Lennon wedi creu straeon newyddion sydd wedi helpu i ledaenu casineb yn erbyn Mwslemiaid. Mae'n annog casineb yn rheolaidd ac nid oes lle iddo yng ngwleidyddiaeth y brif ffrwd. Nid oes gan yr Aelod Cynulliad dan sylw unrhyw gywilydd, ond mae’r ffaith ei fod yn rhannu llwyfan gyda chymeriad gresynus a pheryglus o'r fath yn dwyn cywilydd ar y Senedd hon ac mae'n dwyn gwarth ar Gymru. Rwyf yn amau na fydd yr Aelod Cynulliad dan sylw yn edifarhau, gan mai dyna'r math o unigolyn yw ef, ond gobeithiaf y bydd camau’n cael eu cymryd i’w sancsiynu mewn rhyw ffordd am iddo foddio colbiwr asgell dde a'i ddilynwyr.
A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth hon sy’n condemnio’r weithred hon ac sy’n egluro i bawb pam nad yw cymdeithasau o'r fath yn ddiniwed, a hefyd, a all y datganiad hwnnw amlinellu hefyd strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chynnydd y dde eithaf yng Nghymru?
Rwyf yn rhannu dicter a phryder yr Aelod ynghylch y ffaith fod Aelod o'r Cynulliad wedi rhannu llwyfan yn ystod y penwythnos. Mae'n frawychus meddwl bod rhywun yn ein plith yn credu bod rhannu llwyfan gydag eithafwr asgell dde, mewn gwirionedd, yn rhywbeth cwbl resymol i'w wneud. Rwyf yn credu bod y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon yn rhannu'r dicter y gellid gweld rhywun ar lwyfan o'r math hwnnw, a byddaf yn sicr yn siarad â'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ynghylch pa gamau sy'n briodol i'w cymryd. Ond rwyf yn sicr yn rhannu dicter yr Aelod. Rwyf yn credu bod pob un ohonom yn ei rannu.
Mae datganiad wedi ei drefnu ar gyfer pwy bynnag fydd â'r portffolio yr wyf i'n ei ddal ar hyn o bryd ar eithafiaeth asgell dde yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac rwyf yn siŵr y bydd hynny'n ystyried unrhyw gamau a fydd yn deillio o hyn, ond rwyf yn hapus i fynegi fy ngwarth eithafol ynghylch ei ymddygiad yn hyn o beth. Roeddwn yn meddwl ei fod yn gywilyddus.
O ran canabis meddygol, mae'r Aelod wedi dweud ei bod hi eisoes wedi ysgrifennu at arweinydd newydd Llafur Cymru. Byddaf innau'n dwyn hyn i'w sylw ef hefyd. Gwn fod yr Ysgrifennydd dros iechyd presennol wedi cael nifer o sgyrsiau am hyn, ac mae hi wedi gwneud gwaith da, fel bob amser, o dynnu sylw at y mater, ond rwyf yn hapus iawn i godi'r mater gydag ef hefyd.
Tybed, arweinydd y tŷ, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd nesaf i ystyried gwneud datganiad i'r tŷ hwn ynghylch potensial systemau trwyddedu ar gyfer busnesau saethu masnachol yng Nghymru. Nid wyf yn wrthwynebwr chwaraeon maes, ond mae fy nghyd-Aelod, y Cynghorydd Bryn Davies ym Mhennant Melangell yng ngogledd Sir Drefaldwyn, yn wynebu sefyllfa lle mae busnes penodol, ers degawdau wedi bod yn saethu am ddau ddiwrnod yr wythnos mewn ffordd sy'n hollol dderbyniol i'r gymuned leol, bellach, maen nhw'n saethu bedwar i bum diwrnod yr wythnos am gyfnodau estynedig, ac mae'n ymddangos nad yw'r pwerau sydd ar gael i'r awdurdod lleol yn ddigonol iddyn nhw gyfyngu ar hyn. Mae hyn yn amlwg yn dwyn anfri ar y busnes ei hun, mae'n gwneud pethau'n anodd iawn, iawn i'r cymdogion, ac mewn gwirionedd, mae'n cael effaith ar y busnesau ffermio cyfagos. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn os gall pwy bynnag yw'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr amgylchedd edrych ar y system bresennol er mwyn rheoleiddio'r busnesau hyn. A dylwn bwysleisio mai busnes masnachol yw hwn; nid rhywun sy'n saethu rywfaint ar ei dir ei hun, yn amlwg, neu fydden nhw ddim yn saethu bum diwrnod yr wythnos. Ac rwyf wir yn teimlo bod hwn yn faes lle y dylem fod yn gallu rheoleiddio'n effeithiol.
Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau yn ymwneud â hynny. Tybed a fyddai Helen Mary Jones cystal ag ysgrifennu llythyr, ac wedyn bydd yn sicr o fod ar ben mewnflwch pwy bynnag yw'r aelod newydd sydd â'r amgylchedd yn ei bortffolio.
Mi hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, mi hoffwn i wneud cais am ddatganiad ynglŷn â’r argyfwng ariannol sydd, rwy’n ofni, yn dyfnhau mewn addysg uwch yng Nghymru ar hyn o bryd, ac eglurhad o unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r sefyllfa ariannol honno. Yr wythnos yma, mae staff ym Mhrifysgol Bangor, sydd â phresenoldeb pwysig yn fy etholaeth i hefyd, yn dweud wrthyf i eu bod nhw wedi bod yn derbyn cyfathrebiad gan y brifysgol yn amlinellu achosion busnes ar gyfer toriadau pellach, yn cynnwys diswyddiadau. Mae yna ofn y gallai 60 o swyddi da fynd o’r brifysgol. Nid ydy’r sefyllfa, yn amlwg, ddim yn gynaliadwy. Mae safon yr addysg a’r ymchwil sy’n cael eu cynnig yn siŵr o ddioddef ar draws ein sector prifysgolion ni yn y pen draw, ac mi hoffwn i glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y mae hi am ymateb.
Mi fyddwn ni hefyd yn dymuno clywed datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros gyllid ynglŷn â beth ddylai ddigwydd i’r tymor canol ynglŷn â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes stryd fawr. Mi ydym ni newydd gael datganiad yn ymestyn y cynllun rhyddhad hwnnw am gyfnod pellach. Rydw i'n croesawu hynny. Mae fy mhlaid i wedi bod yn frwd iawn, yn dod i gytundebau efo'r Llywodraeth ar gynlluniau ardrethi ac yn y blaen, ond nid ydw i'n gyfforddus â'r ffordd y mae'r rhaglen yn cael ei rolio o un flwyddyn i'r llall. Rydw i wedi bod yn trafod efo busnesau yn fy etholaeth i ynglŷn â phwysigrwydd y rhyddhad ardrethi yma i'r stryd fawr yn benodol. Mae Plaid Cymru yn Arfon wedi bod yn casglu enwau, llawer iawn o enwau, ar ddeiseb ac maen nhw yn sicr yn falch bod yr enwau ar y ddeiseb wedi cael dylanwad ar y Llywodraeth. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ynglŷn â beth y gallwn ni ei ddisgwyl yn y tymor canol. Oherwydd nid ydy blwyddyn i flwyddyn, er mor dda ydy unrhyw help ychwanegol, ddim yn ddigon da ar gyfer cynllunio hirdymor.
O ran hwnnw, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ateb yn eithaf cynhwysfawr yn ei gwestiynau yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr pan fydd y Llywodraeth newydd wedi setlo, pwy bynnag fydd y Gweinidog newydd â chyfrifoldeb am ryddhad ardrethi busnes, fe fydd eisiau ei amlinellu. Rydym ni'n ei roi yn ein cyllideb derfynol. Gan dybio y bydd y gyllideb derfynol yn pasio, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog newydd eisiau amlinellu ei gynlluniau i fwrw hynny ymlaen, ond atebodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfres o gwestiynau eithaf cynhwysfawr ar hyn dim ond yr wythnos diwethaf.
O ran addysg uwch, gwn fod Rhun ap Iorwerth eisoes yn ymwybodol bod pob sefydliad addysg uwch yn sefydliadau ymreolaethol a bod y cyfrifoldeb dros faterion staffio yn gyfan gwbl yn nwylo corff llywodraethol y brifysgol. Fe ddyrannodd Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg £10 miliwn ychwanegol i'r sector i liniaru'r effaith yn sgil cadw ffioedd dysgu yn £9,000, ac mae hynny wedi'i gynnwys yn y gyllideb. Fe wyddom ni y bu cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr o ganlyniad i'n cynllun newydd, ond nid yw'n briodol i'r Llywodraeth ymyrryd ym mhenderfyniadau staffio unigol prifysgolion. Maen nhw'n gyrff ymreolaethol, sefydliadau di-elw sy'n gwasanaethu aelwydydd, ac mae'n fater iddyn nhw yn gyfan gwbl.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.