1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd? OAQ53119
Mae brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd wedi bod yn un o gynlluniau blaenllaw Llywodraeth Cymru ers dros 15 mlynedd. Mae'n rhan annatod o'n gwaith ehangach i gynorthwyo ein dysgwyr ieuengaf i fod yn barod yn emosiynol ac yn gorfforol ar gyfer dysgu drwy roi dechrau iach i'r diwrnod ysgol.
Diolch, Weinidog. Mae'r ethos wrth wraidd y cynllun yn wych, ond mae rhai o fy etholwyr wedi ysgrifennu ataf yn mynegi pryderon am ei bod hi'n bosibl nad yw rhai plant o gefndiroedd difreintiedig yn gallu elwa ohono, a hynny oherwydd y gallai eu bywydau anodd gartref ei gwneud yn anodd iddynt fynd i'r ysgol ar amser yn gyson i fanteisio ar y bwyd am ddim, a gallai hynny effeithio ar eu dysgu. Mae'n ffaith drist fod yna blant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi go iawn ac yn mynd heb fwyd. Felly, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried y posibilrwydd o ddarparu bwyd am ddim yn nes ymlaen yn y bore ar gyfer y plant sy'n methu mynychu'r clwb brecwast cyn i'r ysgol ddechrau?
Ers mis Ionawr 2018, mae 88 y cant o'r holl ysgolion cynradd a gynhelir yn cynnig clwb brecwast am ddim, gan ganiatáu i ddysgwyr yn yr ysgol honno fanteisio, fel y dywedais, ar y brecwast iach hwnnw cyn iddynt ddechrau'r diwrnod ysgol. Yn wir, byddai'r dystiolaeth yn awgrymu—ac mae'n rhaid imi gyfaddef, ac mae pobl sydd wedi bod yn y Siambr yn ddigon hir i wybod fy mod yn amheus iawn o'r cynllun brecwast am ddim pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, ond mae'r dystiolaeth a'r gwerthuso a gynhaliwyd ers hynny—[Torri ar draws.] Mae'r dystiolaeth a'r gwerthuso a gynhaliwyd wedi profi bod hyn yn gwneud gwahaniaeth, a fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, wedi cynnal y gwerthusiad hwnnw, fod y polisi hwn yn gwneud gwahaniaeth. Un o'r ffyrdd y mae'n gwneud gwahaniaeth, mewn gwirionedd, yw mai'r gallu i gael mynediad at y bwyd hwnnw yw'r cymhelliad i rieni, ac yn wir, y plant eu hunain weithiau, yn anffodus, i godi o'r gwely, i wisgo, ac i'r ysgol. Felly, mae angen inni gael sgyrsiau gydag ysgolion hefyd ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod mwy o blant yn gallu gwneud hynny, ond nid wyf wedi cael unrhyw sgyrsiau ynglŷn â sicrhau bod y bwyd hwnnw ar gael yn nes ymlaen yn y dydd. Ond mae arferion da i'w cael. Hoffwn dynnu sylw'r Aelod at ysgol yn etholaeth Wrecsam sy'n gwasanaethu cymuned ddifreintiedig, lle y mae'r pennaeth yn defnyddio peth o'i grant datblygu disgyblion i greu bws cerdded. Ac mewn gwirionedd, mae staff yr ysgol honno'n mynd i'r ystâd dai leol, maent yn casglu'r plant o'u cartrefi, maent yn eu hebrwng i'r ysgol, fel y gallant fynychu clwb brecwast ac fel y byddant yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol. Rwy'n cymeradwyo arfer mor arloesol ar ran y pennaeth, ac fe'i galluogir gan y grant datblygu disgyblion.
Gallaf gofio, beth amser yn ôl, Weinidog, fy mod yn teimlo'n eithaf cadarnhaol ynghylch y cynllun brecwast am ddim, pan nad oedd rhai Aelodau, gan eich cynnwys chi, yn amlwg, mor frwd, ond mae hynny'n hen hanes bellach. Mae cynllun brecwast ysgol am ddim Llywodraeth Cymru wedi bod yn bolisi blaenllaw, fel y dywedoch, i lawer o'ch rhagflaenwyr am gyfnod hir o amser, ond mae wedi dod o dan bwysau cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o gynghorau yn lleihau oriau agor clybiau brecwast ac eraill yn codi tâl, er mai tâl bach iawn ydyw. Pa gefnogaeth rydych yn ei rhoi i awdurdodau lleol i'w helpu i gynnal mynediad at glybiau brecwast er mwyn sicrhau bod y plant sydd wir angen y maeth y mae'r brecwast yn ei roi iddynt yn gallu cael mynediad ato yn y dyfodol?
Rwy'n ymwybodol fod rhai awdurdodau lleol wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ynglŷn â sut y maent yn trefnu clybiau brecwast. Fe fyddwch yn gwybod, yn 2013-14, y flwyddyn ariannol honno, fod y mecanwaith ariannu ar gyfer brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd wedi newid o grant uniongyrchol, a bod yr arian hwnnw bellach yn cael ei ddarparu drwy'r grant cynnal refeniw. Mae'r brecwast am ddim, ond gall ysgolion ac awdurdodau lleol unigol godi tâl bach, er enghraifft, os defnyddir y clwb am gyfnod hwy o amser, ar gyfer gofal plant a gofal cofleidiol i bob pwrpas, y bydd rhai rhieni ei angen ac yn ei ddefnyddio. Ond ni ddylid codi tâl am y slot 30 munud ar gyfer brecwast am ddim.