2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 9 Ionawr 2019.
Cwestiynau nawr i'r Gweinidog gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr eto, Llywydd.
Weinidog, yn y pwyllgor y bore yma, buom yn trafod y pryderon parhaus ynglŷn â rhai o'r materion sy'n ymwneud â Brexit a'r system gofal iechyd, ac fe fyddwch yn gwybod fod rhifyn 17 Tachwedd o'r British Medical Journal wedi datgan yn blwmp ac yn blaen y bydd cleifion yn marw os na allwn gynnal y gadwyn gyflenwi meddyginiaethau. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynlluniau wrth gefn eich adran i ddiogelu'r cyflenwad o feddyginiaethau, yn enwedig meddyginiaethau gydag oes silff gyfyngedig na ellir eu storio mewn senario 'dim bargen', sy'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn gobeithio na fydd yn digwydd wrth gwrs, ond sy'n dod yn fwy ac yn fwy o risg?
Diolch am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, rwyf wedi gwneud datganiadau yn y lle hwn eisoes am ein paratoadau ar gyfer unrhyw fath o Brexit, ond yn benodol am Brexit 'dim bargen'. Rwyf wedi nodi hyd a lled a difrifoldeb fy mhryderon ynghylch effaith Brexit 'dim bargen'. A'r gwir diymwad yw, os ydym yn gadael heb gytundeb ar ddiwedd mis Mawrth, bydd hynny'n cael effaith wirioneddol a bron ar unwaith ar iechyd a lles pobl. Y gwir amdani yw, os ydym yn wynebu heriau gyda threfniadau masnachu, nid yn unig ynglŷn ag a yw pobl yn dymuno parhau i gyflenwi ystod o ddyfeisiau meddygol, offer a meddyginiaethau ai peidio, yna bydd hynny'n cael effaith.
Byddaf yn cael cyfarfod pellach gyda rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yfory i ganolbwyntio ar Brexit. Bydd y Dirprwy Weinidog a minnau yn ei fynychu. Byddwn yn parhau i amlinellu cyflwr presennol ein paratoadau iddynt, yng Nghymru, ac yn wir, y camau rydym yn ceisio'u cymryd ar y cyd â phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig. Efallai y byddaf mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r lle hwn am ein paratoadau ar gyfer Brexit 'dim bargen' a'i effaith heb fod yn hir iawn.
Rwy'n ddiolchgar ichi am hynny, Weinidog, a chredaf y bydd y Siambr gyfan yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth honno. Fel y dywedais, mae'n sefyllfa y mae pob un ohonom yn gobeithio'i hosgoi, ond ymddengys ei bod yn dod yn fwy o fygythiad go iawn. Hoffwn roi enghraifft benodol i chi er mwyn dangos y peryglon sy'n ein hwynebu, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn ohoni. Defnyddir yr isotop ymbelydrol technetiwm mewn oddeutu 850,000 o sganiau yn y DU ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys clefyd y galon a chanser. Mae gan y cynnyrch hwn hanner-oes o 66 awr yn unig, sy'n golygu na ellir ei gadw a'i storio. Ar hyn o bryd, mae'r DU yn ei chyfanrwydd yn dibynnu ar gyflenwad parhaol o'r cynnyrch hwn o Ffrainc, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd, a rheolir y cyflenwad hwnnw gan gytundeb Euratom. Mae'r cyflenwyr posibl agosaf nad ydynt yn yr UE yn Ne Affrica ac yn Ontario yng Nghanada, ac yn amlwg, ni allant fod yn ddefnyddiol i ni yn y sefyllfa hon. Ac yn amlwg, un enghraifft yn unig yw hon, gan fod sawl math o isotop na ellir eu storio. Gwyddom fod Gogledd Iwerddon, hyd yn oed dan y trefniadau presennol, wedi cael problemau ddwywaith—yn 2009 ac yn 2013—oherwydd yr heriau logistaidd sy'n ymwneud â chyflenwi'r cynnyrch mewn pryd. A allwch egluro sut y bydd ysbytai yng Nghymru yn cael y mathau hyn o gynhyrchion pe baem yn cael Brexit 'dim bargen'?
Pe bai Brexit 'dim bargen', byddai bron iawn yn amhosibl i gadwyni cyflenwi barhau yn yr un ffordd ag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Caiff llawer o hyn ei gludo ar y ffyrdd a'r realiti diymwad yw, os oes problemau gyda chludo nwyddau ar y ffyrdd sy'n effeithio ar ein porthladdoedd, fel y byddwch wedi'i weld yn sgil yr ymarfer a gynhaliwyd yn ddiweddar ac yr adroddwyd yn ei gylch yn y Financial Times—a phrin fod y papur hwnnw'n offeryn i godi bwganod neu'n lledaenu damcaniaethau cynllwyn asgell chwith—mae'n dangos effaith sylweddol ac eithaf syfrdanol mân achosion o oedi ar yr holl nwyddau sy'n cael eu cludo i mewn i'r wlad. Pe bai hynny'n digwydd, mae'r cynllun arall, nad yw'n gyfrinach, yn ymwneud â pha un a ellir trefnu i feddyginiaethau gyda hanner-oes byr iawn cyn iddynt orffen bod yn ddefnyddiol—ac rwyf wedi siarad droeon am feddyginiaeth niwclear a radioisotopau yn y gorffennol hefyd—gael eu hedfan draw ac yn ddiau, byddai hynny'n arwain at gost ychwanegol, a gallai effeithio ar y cyflenwad. Ond wedyn, byddai'n rhaid i'r trethdalwr ysgwyddo'r gost ychwanegol. Felly, heb amheuaeth, mae'n her, ac rwyf hefyd wedi sôn droeon am yr her i inswlin a gynhyrchir ar gyfer pobl â diabetes math 1. Nid ydym yn cynhyrchu agos digon o inswlin ar gyfer pobl â diabetes math 1 yn ein poblogaeth. Ac unwaith eto, mewn Brexit 'dim bargen', dyna un o'r peryglon gwirioneddol a fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles pobl bron ar unwaith.
Diolch, Weinidog, ac efallai y gallwch roi rhagor o wybodaeth inni yn dilyn y cyfarfod â'r rhanddeiliaid ynghylch yr union drefniadau pe baem yn wynebu gorfod hedfan meddyginiaethau draw.
Soniasoch yn eich ymateb am y gost ychwanegol i'r GIG. Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim bargen'—. Mae'n rhaid imi ddweud bod yr Aelodau draw acw'n peri peth rhwystredigaeth i mi; rwy'n siŵr y cewch gyfle i ymateb i'r pwyntiau hyn i'r Gweinidog, ond mae'n anodd iawn cael trafodaeth synhwyrol ynglŷn â'r materion hyn pan fydd pobl yn gwneud sylwadau ar eu heistedd.
Weinidog, a ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o'r costau ychwanegol posibl hyn, a sut y mae hynny'n cael ei gynnwys yn eich cynlluniau wrth gefn? Rwy'n sylweddoli bod y costau posibl hyn, ar hyn o bryd, yn rhai damcaniaethol, a gobeithio y bydd hwnnw'n fater na fydd yn rhaid inni ei wynebu, ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod hi'n hanfodol, o ran cynllunio ar gyfer y senario waethaf, fod gennych ryw fath o syniad clir ynglŷn â'r costau ychwanegol y gallech orfod eu hwynebu.
Ie, mae yna her ynghylch costau damcaniaethol, ond mewn gwirionedd, mae'r costau'n cynyddu ar hyn o bryd. Er enghraifft, ceir cost ychwanegol y mae'r gwasanaeth iechyd ledled pedair gwlad y DU yn ei hysgwyddo i gynyddu capasiti storio, a'r costau rydym yn eu gwario ar hyn o bryd ar gynllunio ar gyfer senarios posibl, pan wyddom nad yw un senario o leiaf am fod—wel, ni fydd mwy nag un senario yn realiti erbyn diwedd mis Mawrth. Mae pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gorfod ymdopi â'r her benodol hon. Mae swyddogion yn siarad â'i gilydd yn rheolaidd, yn ogystal â'n sgyrsiau o fewn pedair gwlad y DU yn unigol. Rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i ddarparu mwy o wybodaeth am gostau, am y trefniadau rydym yn eu cyflawni. Rwy'n gobeithio hefyd y cawn ymateb cadarnhaol gan Weinidogion iechyd cyfatebol ledled y DU—pedwar Gweinidog iechyd y gwahanol Lywodraethau o wahanol gefndiroedd gwleidyddol—i gael sgwrs adeiladol ac agored serch hynny ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i gefnogi ein gilydd, a'r peryglon y mae pob un ohonom yn cydnabod eu bod yn bodoli, gan ddibynnu ar ba ffurf o Brexit a gawn, os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Gwn fod fy ngweinidog cyfatebol yn yr Alban yr un mor awyddus i gael y cyfarfod hwnnw gyda'n gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a pha swyddog bynnag a fyddai'n mynychu o Lywodraeth Gogledd Iwerddon.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pam ei bod wedi cymryd cyhyd i ymyrryd yn y sefyllfa ym mwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf?
Nid yw wedi cymryd llawer o amser o gwbl. Rwyf wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon ar bob pwynt mewn perthynas â'r ymyrraeth o ran y mater cychwynnol ynghylch gofal mamolaeth, ac yn wir, yn dilyn y cyfarfod tairochrog diweddar iawn rhwng prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gwneuthum ddewis cynnar—fel y byddwch wedi'i weld o'r datganiad ysgrifenedig heddiw—i newid statws uwchgyfeirio Cwm Taf o 'arferol' i 'monitro gwell'. Ac wrth gwrs, byddaf yn ateb cwestiwn amserol ar y mater hwn ymhen ychydig funudau.
Ar 4 Hydref, Weinidog, amlygwyd pryderon am y tro cyntaf ynglŷn â gwasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf. Cyfeiria eich datganiad heddiw at ddiffyg cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch ac ymbelydredd, ansawdd llywodraethu a threfniadau adrodd ynghylch digwyddiadau difrifol, diffyg gweithredu ac ymateb i adroddiadau'r arolygiaeth gofal iechyd, a phrinder staff hefyd fel ffactorau sy'n achosi problemau yn y bwrdd iechyd hwnnw. Bydd llawer o bobl yn ardal y bwrdd iechyd yn pendroni pam ar y ddaear ei bod wedi cymryd tri mis—mwy na thri mis—i Lywodraeth Cymru uwchgyfeirio'r sefyllfa yno er mwyn sicrhau rhywfaint o welliant.
Wrth gwrs, nid Cwm Taf yw'r unig fwrdd iechyd sydd mewn mesurau uwchgyfeirio ar hyn o bryd. Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, sy'n cefnogi 2.4 miliwn o bobl yng Nghymru—tri chwarter ein poblogaeth—yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd gan fyrddau iechyd sy'n destunau ymyrraeth. Onid yw hynny'n peri pryder ichi, o ran cyflymder yr ymateb, gan ei fod yn bendant yn peri pryder i mi?
Wel, buaswn yn gobeithio cael ymateb mwy rhesymol a seiliedig ar ffeithiau ar y materion hyn. Nid yw ceisio cyfuno mater gwasanaethau mamolaeth gyda'r meysydd a amlinellir yn fy natganiad ysgrifenedig heddiw yn gydnaws â chraffu gonest. Ar wasanaethau mamolaeth, fe wnaethom weithredu'n briodol ac yn amserol, gyda'r sgyrsiau a ddigwyddodd rhwng swyddfa'r brif nyrs a'r bwrdd iechyd, a'r penderfyniad a wneuthum wedyn y dylid cynnal adolygiad ar y cyd gan ddau goleg brenhinol yn annibynnol, gyda'r Llywodraeth mewn gwirionedd, os mynnwch, yn gweithredu fel y corff noddi, yn hytrach na'r bwrdd iechyd. Rwy'n disgwyl i'r adroddiad hwnnw fod ar gael yn y gwanwyn. Felly, mae'r materion hyn yn cael sylw priodol ac yn cael sylw cyflym gan y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd ehangach. Edrychaf ymlaen at allu darparu mwy o ffeithiau ar y mater hwn wrth i'r adroddiad gael ei ddarparu, fel yn wir y disgwyliaf allu dweud mwy ynglŷn â'r camau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd mewn ymateb i fy mhenderfyniad heddiw i newid statws uwchgyfeirio bwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf.
Dylai'r sefyllfa, wrth gwrs, fod wedi cael ei huwchgyfeirio o'r cychwyn cyntaf cyn gynted ag y daeth y sefyllfa mamolaeth i'r amlwg yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl wedi eu siomi gan ba mor araf y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu.
Nid ydych wedi ymateb i'r ffaith bod pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun trefniadau ymyrryd ac uwchgyfeirio o ryw fath ar hyn o bryd a bod tri chwarter poblogaeth Cymru yn cael eu gwasanaethu gan y byrddau iechyd hynny. Onid yw hynny'n dweud wrthych, os yw pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun trefniadau uwchgyfeirio ar hyn o bryd—ac mae llawer ohonynt wedi bod felly ers peth amser, gan gynnwys bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, dros dair blynedd a hanner hyd yma heb unrhyw arwydd eto o'u tynnu allan o fesurau arbennig—onid yw hynny'n dweud wrthych eich bod yn Llywodraeth Lafur Cymru sy'n methu, ac wedi methu mynd i'r afael â phroblemau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, ac nad ydych yn gweithredu'n ddigon cyflym i'w datrys?
Wel, fel y dengys yr Aelod, mae'n haws o lawer mynd ar drywydd penawdau nag ymdrin â'r ffeithiau o'u blaen. Byddai wedi bod yn gwbl anghywir—byddai wedi bod yn gwbl anghywir—fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, inni ymyrryd ym mis Hydref ar y diwrnod cyntaf pan godwyd y pryderon ynghylch gwasanaethau mamolaeth. Rwy'n gwneud y peth iawn ar gyfer y wlad ac ar gyfer y bobl a wasanaethir gan y byrddau iechyd unigol hyn, ac yn wir, ar gyfer y staff sy'n darparu'r gwasanaethau. Rwy'n disgwyl y ceir craffu priodol ar y dewisiadau a wnaf yn ogystal ag ar ymddygiad pob sefydliad iechyd yn y wlad. Mae trefniadau uwchgyfeirio, wrth gwrs, wedi digwydd am wahanol resymau mewn gwahanol fyrddau iechyd ac edrychaf ymlaen at weld sefydliadau'n gostwng eu lefel uwchgyfeirio hefyd, fel rwy'n disgwyl ei weld yn digwydd ar adegau gwahanol dros y flwyddyn a mwy nesaf.
Rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn darparu'r dyfodol hwnnw, ac yn wir, mae gan bobl Cymru ffydd a hyder mawr yn ein gwasanaeth iechyd, fel y dengys pob cydnabyddiaeth o brofiad pobl o ofal iechyd. Mae dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yn un anodd. Rydym yn wynebu ymchwydd yn y galw, newid technolegol sydyn a chyflym, ac wrth gwrs, fel y gŵyr pob un ohonom, cyfnod o gyni parhaus. Er hynny, rydym wedi cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gennym gynllun hirdymor—cynllun ar y cyd—ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i fyny ac yn sicrhau bod ganddynt gynllun ar y cyd—
Dylai roi ei arian ar ei air.
—i ddarparu iechyd a gofal gyda'i gilydd.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, fis Hydref diwethaf, i mi godi'r ffaith nad oedd offeryn ar-lein Fy Iechyd Ar-lein ar gael i gleifion meddygon teulu yng ngogledd Cymru allu gwneud apwyntiadau. Yn garedig iawn, ysgrifennodd ataf wedyn i ddweud nad penderfyniad polisi oedd hwn, ond weithiau, nid oedd y system ar gael gan fod cyfateb anghenion cleifion i argaeledd meddygon teulu yn ymarferol amhosibl, yn enwedig lle'r oedd niferoedd uchel o staff locwm. Yr awgrym, wrth gwrs, oedd fod cyfnodau o amser pan nad oes modd cael mynediad at y gwasanaeth. A yw'n ymwybodol fod treialon llwyddiannus wedi eu cynnal yn Llundain o'r adnodd hwn mewn practisau meddygon teulu, gan arwain at leihau gwaith gweinyddol a gwella effeithlonrwydd? Mewn un achos penodol, cafodd rhestrau aros meddygon teulu eu torri o bedair wythnos i un diwrnod yn unig, ac roedd angen apwyntiad ar 25 y cant o'r 2,500 o gleifion, felly roedd modd ymdrin â 75 y cant heb ddefnyddio amser y meddygon teulu yn y feddygfa, gyda llawer o fanteision eraill hefyd, a llwyddodd meddygon teulu i brosesu 30 o ymholiadau cleifion ar-lein yn yr amser a fyddai wedi'i gymryd fel arall i weld 18 o gleifion wyneb yn wyneb. Felly, yn amlwg, mae hwn yn offeryn pwysig a defnyddiol, lle rydym yn wynebu'r broblem gyson o baru anghenion â modd. Felly, a all y Gweinidog roi sicrwydd imi y bydd yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau bod yr offeryn ar-lein hwn ar gael mor aml ag y bo'i angen, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond ar gyfer pob rhan o'r GIG yng Nghymru?
Credaf mai'r her rydych wedi'i nodi yw nid sut y gallwn barhau i gyflenwi'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, ond sut y mae'r dyfodol yn edrych a'r diwygio sy'n angenrheidiol er mwyn cyrraedd yno, ac nid yn unig ym maes gwneud gwell defnydd o dechnoleg. Yn y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, fe welwch adran sylweddol ar wneud gwell defnydd o dechnoleg, ac o dechnoleg ddigidol yn benodol.
Mae hynny'n ymwneud yn rhannol â mynediad, ac mae'r enghreifftiau a roesoch yn ymwneud â mynediad, ac ni chredaf fod hyn yn ymwneud ag un adnodd penodol yn unig. Mae amrywiaeth o wahanol adnoddau cyfrifiadurol, fel petai, ar gael i geisio gwella a gwneud gwell defnydd o amser staff wrth wneud hynny. Mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod gennym staff sy'n gallu gweithredu'r system honno, ac nid yn unig gweithredu'r system fel technegydd digidol, ond darparu'r cymorth clinigol wedyn i alluogi'r system i weithio'n iawn. Felly, mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud, ac rydym yn disgwyl ei wneud, mewn gofal iechyd lleol ond hefyd ym maes gofal ysbytai mewn perthynas â mynediad, mewn perthynas â diagnosis a thriniaeth a gwneud gwell defnydd o dechnoleg, ac yn y pen draw, dylai hynny olygu ei fod yn lle gwell i'n staff weithio yn ogystal â bod yn well profiad i gleifion pan fo angen gofal iechyd arnynt.
Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb, ac wrth gwrs, mae'n codi rhai pwyntiau synhwyrol a phwysig iawn mewn ymateb i fy nghwestiwn. Fe fydd yn ymwybodol iawn o'r problemau rydym wedi eu hwynebu yng Nghymru gyda systemau gwybodeg GIG Cymru, ac yn ddiweddar iawn, cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a ddywedai ein bod yn credu bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar redeg systemau TG sydd wedi dyddio, ac ar adeg pan fo potensial gofal iechyd digidol yn tanio'r dychymyg ac yn gwella canlyniadau i gleifion, 10 y cant yn unig o weithgarwch Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy'n canolbwyntio ar arloesi.
Cynhaliwyd y treialon clinigol a grybwyllais funud yn ôl yn Llundain gan gwmni meddalwedd feddygol o'r enw EMIS, ond maent hwy bellach wedi colli eu statws fel y darparwr a ffafrir o ganlyniad i benderfyniad gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yma yng Nghymru. Felly yma, yn gyntaf oll, mae gennym adroddiad damniol o weithgareddau Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a methiant eu hymdrechion i foderneiddio system gyfrifiadurol y GIG, ac eto, ar y llaw arall, maent yn cael gwared ar statws darparwr cwmni sydd wedi llwyddo i ddarparu'r union fath o wasanaethau y mae arnom eu hangen. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthyf beth y mae'n ei wneud i sicrhau nad ydym yn gweld y math o gamddeall gweinyddol a achoswyd gan y math hwn o beth, yn ôl pob golwg?
Gyda phob parch, credaf eu bod yn ddau bwynt gwahanol. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r system yr hoffem ei chael yma yng Nghymru o dan ein goruchwyliaeth strategol ein hunain, ac ynghylch lefel yr adnoddau y gallem ac y dylem eu hymrwymo er mwyn cynnal ein systemau presennol. Mae hynny ynddo'i hun yn her sylweddol yn ogystal â'n gallu a'r adnoddau a roddwn tuag at ddiwygio ac arloesi. Wrth gwrs, byddwn yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n destun trafod rheolaidd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Nid yw'r pwynt ynglŷn ag EMIS yn ymwneud yn gymaint â'r ffaith bod hon yn enghraifft o bobl â syniadau arloesol gwych sydd wedi eu tynnu allan o'r system a bod diffyg cysylltiad yn bodoli, ond yn hytrach mai'r hyn a ddigwyddodd gydag EMIS a'r systemau meddygon teulu yw bod ymarfer tendro wedi'i gynnal, ac fe ddewisasant gyflwyno cais nad oedd yn cydymffurfio â gofynion sylfaenol y tendr. Nid oedd y penderfyniad hwnnw wedyn i beidio â chaniatáu iddynt barhau serch hynny i fod yn gyflenwr posibl yn benderfyniad a wnaed gan y Llywodraeth yn unig; mewn gwirionedd, fe'i cefnogwyd gan bwyllgor ymarfer cyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain eu hunain. Cytunodd grŵp cynrychioliadol o feddygon, o gofio bod EMIS wedi gwrthod cydymffurfio â'r tendr, na ddylent felly gael eu gwobrwyo mewn unrhyw fodd a'u caniatáu yn ôl i mewn i'r system. Ac yn anarferol—gan y cafwyd cwestiynau yn y Siambr ar y pryd gan bobl o fwy nag un blaid—ers hynny, nid oes cwynion sylweddol wedi'u gwneud ynglŷn â'r peth gan ein bod wedi darparu'r cymorth y dywedasom y byddai ar gael, ac yn gyffredinol, mae cymuned y meddygon teulu wedi derbyn ein bod wedi gwneud y dewis cywir wrth beidio â chaniatáu EMIS i mewn i'r system wedi iddynt wrthod cydymffurfio â manylion y tendr.
Dywedodd cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Dr Rebecca Payne, ar y pryd ei bod yn bryderus iawn ynglŷn ag effaith bosibl hyn ar bractisau yng ngogledd Cymru, gan fod 89 o'r 118 practis gydag EMIS. Mae'n anodd gweld sut y mae gennym staff clinigol yng Nghymru i liniaru'r problemau posibl a allai godi. Ond gan symud ymlaen o hynny i newid systemau TG, mae'n amlwg y gallai hynny greu pob math o anawsterau ymarferol pan fo'n rhaid i hynny ddigwydd weithiau, wrth gwrs, gan fod systemau presennol yn dyddio neu'r dechnoleg yn datblygu. Mae llawer o bobl o'r farn y bydd yn cymryd tair blynedd cyn i'r holl gofnodion cleifion ddod i drefn ar systemau newydd, ac mae angen integreiddio cofnodion meddygol cleifion rhwng lleoliadau sylfaenol ac acíwt, ac nid yw'r amgylchiadau presennol yng ngogledd Cymru yn caniatáu hyn. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthyf pa gamau penodol rydych yn eu cymryd yng ngogledd Cymru i leihau dioddefaint cleifion a'r cyfleoedd sy'n cael eu colli i sicrhau gwell effeithlonrwydd ar gyfer cleifion yn y rhanbarth hwn?
Credaf mai'r pwynt cyntaf y buaswn yn ei wneud yw bod cyn-gadeirydd, bellach, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru, Dr Payne, wedi codi pryderon ar y pryd, fel y gwnaeth nifer o randdeiliaid eraill, ond fel y dywedaf, roedd corff cynrychioliadol y meddygon teulu sy'n ymwneud â'r gwaith o asesu'r ymatebion i'r ymarfer tendro yn cytuno â'r dewis hwnnw ac yn ei gefnogi. Mae David Bailey yn sawl peth, ond yn sicr, nid yw'n byped i'r Llywodraeth, ac fe gefnogodd y dewis a wnaed i beidio â rhoi cyfle i EMIS geisio bod yn gyflenwr, wedi iddynt fethu ymdrin â'r tendr.
O ran y pwynt ehangach ynglŷn â mynediad pobl at gofnodion, nid o fewn y system iechyd yn unig y mae hyn yn codi; rydym wedi wynebu her o ran cydgysylltu cofnodion, er enghraifft, o fewn lleoliad fferyllfa. Dyna mae Dewis Fferyllfa yn caniatáu inni ei wneud—felly, fersiwn o gofnod meddyg teulu i fod ar gael ac i allu ychwanegu ati, ond gwneud mwy mewn perthynas â sicrhau bod cofnodion ar gael o fewn lleoliad y fferyllfa gymunedol hefyd. Ond o ran mynediad rhwng y gwasanaeth ambiwlans brys a rhwng ymarfer cyffredinol, ac yn wir, ymarferwyr mewn ysbytai hefyd, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yma yng Nghymru tuag at wneud hynny. Ond mae mwy i'w wneud bob amser, gan gynnwys parhau i gyflwyno system wybodaeth gofal cymunedol Cymru, sy'n golygu y gallwn rannu gwybodaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
Nawr, ceir sawl rhan o Gymru lle y mae hynny wedi'i gyflwyno, ac ym mhob ardal, bron â bod, lle y digwyddodd hynny, mae ymarferwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod ei fod wedi bod yn welliant. Mae'n golygu eu bod yn treulio llai o amser yn ceisio cael gafael ar wybodaeth, a chredant nid yn unig fod eu swydd yn well gan ei bod yn llai rhwystredig, ond eu bod yn darparu gwell gofal i'r dinesydd.
Felly, oes, mae mwy i'w wneud, ac rwy'n derbyn y bydd yna syniadau eraill bob amser ynglŷn â'r hyn y gallem ei wneud i wella, ond nid maes ymylol mohono. Mae'n waith craidd i wasanaethau iechyd a gofal, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn ateb rhagor o gwestiynau ar hyn yn awr ac yn y dyfodol.