Gwasanaethau Bysiau Lleol i Gwm Afan

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch gwella gwasanaethau bysiau lleol i gwm Afan? OAQ53201

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:02, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru ar nifer o feysydd i wella gwasanaethau bws lleol ymhellach, ac rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau bws lleol.

Photo of David Rees David Rees Labour 2:03, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mewn gwirionedd caiff cwm Afan ei wasanaethu gan ddau awdurdod lleol ar un ystyr, oherwydd daw bysiau o Ben-y-bont ar Ogwr a Maesteg. Mae'r ffocws, yn bennaf, o Bort Talbot i fyny at gwm Afan. Nawr, cymunedau cwm Afan yw rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig sydd gennym yng Nghymru, ac nid oes ganddynt lawer o geir. Mae'r ganran o bobl sy'n berchen ar gar yn eithaf isel o gymharu â llawer o ardaloedd eraill; maent yn dibynnu ar wasanaethau bws. Nawr, yn anffodus, mae'r gwasanaeth bws o Bort Talbot i fyny cwm Afan un awr yn mynd i Lyncorrwg, a'r ail awr, mae'n mynd i Flaengwynfi bob yn ail. Felly, am ddwy awr, rhaid ichi aros am fws i ddod i fyny. Nawr, i bobl heb drafnidiaeth ac sy'n gorfod cael mynediad at wasanaethau, boed yn gyflogaeth, neu efallai'n henoed sydd angen cyrraedd gwasanaethau ysbyty 10 milltir i lawr y ffordd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gallent dreulio diwrnod cyfan yn teithio a chyrraedd yno ar gyfer apwyntiad hanner awr o bosibl. Nawr, mae'n adeg heriol. Rwyf wedi ysgrifennu at y cwmni bysiau, sydd fel petaent yn canolbwyntio'n bennaf ar weithgareddau masnachol. Ond a wnewch chi gyfarfod â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i edrych ar y cyfleoedd i gefnogi trafnidiaeth bws er mwyn caniatáu i bobl gyrraedd lleoedd mewn pryd heb dreulio eu bywydau cyfan yn teithio?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:04, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â'r awdurdodau lleol. Yn wir, dengys yr enghraifft y mae David Rees wedi tynnu sylw ati heddiw beth yw manteision posibl creu cyd-awdurdodau trafnidiaeth ar sail ranbarthol fel y gall awdurdodau lleol gynllunio a darparu gwasanaethau bws gyda'i gilydd mewn ffordd gydweithredol. Credaf fod David hefyd yn tynnu sylw at wendid sylfaenol yn y trefniadau presennol, sef nad oes gan Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol bwerau i fynnu bod cwmni bysiau'n gweithredu gwasanaeth penodol. Cyflawnir hyn drwy gontractau awdurdodau lleol, gan gynnwys cymhorthdal cyhoeddus. Nawr, rydym wedi gallu cynnal y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn ers peth amser, a defnyddir yr arian hwn i ategu'r—dylwn bwysleisio 'ategu'—cyllidebau awdurdodau lleol at y diben hwn. Nid yw'n bodoli yn lle cyllidebau awdurdodau lleol, a chredaf ei bod hi'n hanfodol fod awdurdodau lleol yn parhau i ddangos eu hymrwymiad i gysylltedd lleol drwy gynnal eu cyllidebau eu hunain ar gyfer rhoi cymhorthdal i wasanaethau bws a chludiant cymunedol. Ond ni all y gwendid sylfaenol hwn yn y system barhau ac eir i'r afael ag ef mewn modd cynaliadwy drwy gael llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i barhau i roi cymhorthdal i lwybrau anfasnachol. Mae angen diwygio radical, ac yn ddiweddar, drwy'r Papur Gwyn, fe amlinellais y cynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chanlyniadau enbyd dadreoleiddio a'r penderfyniadau a wnaed yng nghanol y 1980au ar gyfer gwasanaethau bws. Drwy'r diwygiadau a gynigiwn, rwyf am sicrhau bod gwasanaethau bws ar hyd a lled Cymru yn gwasanaethu anghenion teithwyr a dinasyddion, yn hytrach na gwasanaethu awydd rhai i elwa o'r gwasanaeth anhygoel o werthfawr ac angenrheidiol hwn i lawer o'n cymunedau. A buaswn yn annog pob Aelod, Lywydd, i ddangos diddordeb brwd yn y Papur Gwyn ac i gyflwyno sylwadau a safbwyntiau cyn y daw'r ymgynghoriad i ben yng nghanol mis Mawrth.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:06, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs, mae'r cynghorau a grybwyllodd David Rees mewn dinas-ranbarthau gwahanol, sydd ag ymagwedd wahanol iawn tuag at eu hanghenion trafnidiaeth yn y dyfodol. Felly, mae sut y byddai hynny'n datblygu yn ddiddorol iawn. Ond yn y tymor byr, ym mis Mawrth 2018, fe gadarnhaoch eich bod wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer ymrwymo 5 y cant neu ragor o'u cyllideb bysiau i gludiant cymunedol, ac wrth gwrs, gall cludiant cymunedol, os yw'n dilyn y rheoliadau priodol, weithredu rhai o'r llwybrau anfasnachol. Mae blwyddyn wedi mynd heibio. A ydych yn hyderus fod cynghorau'n dilyn y canllawiau hynny?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn hyderus hyd yma fod y canllawiau'n cael eu dilyn yn llawn gan bawb, a bydd graddau ymrwymiad awdurdodau lleol i gynnal eu cyllidebau eu hunain ar gyfer cymorthdaliadau bysiau wedi'u hadlewyrchu fwyfwy yn fy mhenderfyniadau ynglŷn â dyfarniad grant cynnal gwasanaethau bysiau pob awdurdod, a'r rheswm am hynny yw fy mod eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio arian trethdalwyr sy'n dod i Lywodraeth Cymru er mwyn ysgogi gwasanaethau gwell yn ein cymunedau, ac ni fyddwn ond yn gwneud hynny o fewn y trefniadau presennol ar sail fyrdymor, drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyfrannu at gyllid y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Yn fwy hirdymor, wrth gwrs, drwy'r diwygiadau, wrth inni ddefnyddio mwy o'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd, ond wrth inni ddatblygu mwy o adnoddau ac ysgogiadau, credaf y byddwn yn gallu gweithredu gwasanaeth ledled Cymru sydd nid yn unig yn fwy effeithiol ar gyfer ateb anghenion teithwyr, ond sydd hefyd yn fwy cynaliadwy o ran costau.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:07, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r system wedi torri ar hyn o bryd yn fy marn i. Mae gennym sefyllfa anffodus lle y mae cynghorau'n cwtogi gwasanaethau allweddol fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yng nghwm Afan, gyda phedwar arall ar y gweill ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, a disgwyl i bobl o gwm Afan, wedyn, deithio ymhellach i gael y gwasanaethau hynny, ond ni allant gyrraedd y gwasanaethau hynny am nad oes bysiau'n mynd yno.

Rydych yn sôn am y Papur Gwyn. Beth, o fewn y Papur Gwyn hwnnw, oherwydd efallai y bydd llawer o bobl nad ydynt yn ei ddarllen—? Beth yw'r prif benawdau ynddo fel y gellir sicrhau pobl yn ein hardal ni, pan fydd y newidiadau hynny'n digwydd, naill ai drwy newid y gyfraith, pa un a fydd y gwaith rheoleiddio'n trosglwyddo i gwmni di-elw fel Trafnidiaeth Cymru, y bydd ganddynt fysiau mwy mynych yn eu cymunedau yn y cwm, fel y gallant barhau i fyw yno ac na fyddant yn troi'n drefi anghyfannedd gyda phobl yn symud o'r ardaloedd hyn am nad oes  gwasanaethau yno mwyach?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:08, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'r system wedi torri, a dyna pam y mae cymaint o angen y diwygiadau a nodir gennym yn y Papur Gwyn. Yn gryno—ac unwaith eto, rwyf am wahodd pob Aelod i ddarllen y Papur Gwyn ac i gyflwyno sylwadau—mae'r cynigion yn cynnwys pwerau i ddyfarnu masnachfreintiau, maent yn cynnwys pŵer i allu creu cwmnïau bysiau trefol, maent yn cynnwys cynigion ar gyfer mwy o integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth, maent yn cynnwys creu awdurdodau trafnidiaeth ar y cyd i ddarparu a chynllunio gwasanaethau bysiau ar sail ranbarthol, ac maent yn cynnwys cynigion i Trafnidiaeth Cymru gymryd rhan fwy gweithredol yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn ar gyfer pobl Cymru.

Ochr yn ochr â hyn, ceir newidiadau posibl y gellir eu gwneud o ran y system docynnau i deithwyr i'w gwneud yn fwy fforddiadwy, ac yn fwy tryloyw yn ogystal, i integreiddio tocynnau. Mae'n dal yn ffaith frawychus nad yw 20 y cant o bobl ifanc ddi-waith mewn rhai rhannau o Gymru yn gallu fforddio, neu'n gallu cael gwasanaeth bws i'w cyfweliadau, heb sôn am i swyddi. Cânt eu cloi allan o gyflogaeth am fod y system wedi torri, a dyna pam rwy'n credu bod y cynigion yn y Papur Gwyn—dyna pam y credaf fod diwygio radical mor hanfodol.