2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gellir gwella'r broses gynllunio er mwyn cynnal gwell asesiad o'r effaith gronnol a gaiff ceisiadau datblygu aml-breswyl yn yr un ardal? OAQ53237
Gwnaf, yn wir. Mae cynlluniau datblygu lleol cyfredol yn darparu'r cyd-destun lleol er mwyn asesu effaith gronnol ceisiadau datblygu preswyl lluosog yn yr un ardal. Dylai cynlluniau datblygu lleol sicrhau bod digon o dir ar gael mewn lleoliadau priodol a chynaliadwy i ddiwallu'r angen rhagamcanol am dai a nodwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac a gaf fi hefyd groesawu'r newid ym mholisi'r Llywodraeth tuag at ddull mwy gofodol o gynllunio? Ond yn fy etholaeth i, yn Llanilltud Faerdref, mae gennym dri chais cynllunio preswyl sylweddol o fewn radiws o 700m. Mae pob un ar wahanol gamau yn y broses gynllunio, ac nid wyf yn gofyn ichi wneud sylwadau arnynt—y rhai yn Ystrad Barwig, fferm Cwm Isaf a chomin Tynant—ond yr hyn a wyddom yw bod y seilwaith priffyrdd o dan bwysau sylweddol, a dywed meddygon teulu lleol wrthyf eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal gwasanaeth da i gleifion cyfredol. Mae angen tai ar bobl, ond a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r broses gynllunio roi mwy o bwyslais ar effaith gronnol datblygiadau cyfagos ar les pobl a mynediad at wasanaethau allweddol?
Ydw. Dylai cynllun datblygu lleol da gynllunio nid yn unig ar gyfer ei angen am dai, ond ar gyfer yr anghenion seilwaith sy'n gysylltiedig â'r angen am dai. Yn amlwg, golyga hynny amrywiaeth o wasanaethau, fel y gwyddoch, o seilwaith priffyrdd arferol, i gysylltedd digidol, i fynediad at feddygon teulu ac ysgolion, gwasanaethau bws lleol, trafnidiaeth gynaliadwy, ac ati. Mae'n ddarlun cymhleth iawn. Dylai pob lle fod yn cynllunio i sicrhau bod eu lle wedi'i wasanaethu'n briodol gan ei gynllun, a chredaf y dylai cynghorau fod yn uchelgeisiol iawn ac yn arloesol wrth bennu eu gofynion ar gyfer y datblygwyr drwy'r cytundebau amrywiol a wnânt drwy'r broses gynllunio—cytundebau adran 106, er enghraifft, neu'r cytundebau Deddf Priffyrdd, ac ati—er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r boblogaeth leol yn sgil datblygiadau penodol ac i sicrhau nad ydynt yn crynhoi popeth mewn un ardal ar draul gwasanaethau eraill. Yn wir, dyna ddiben y cynllun datblygu lleol—mynd drwy gam ymchwiliad lle y caiff y bobl leol ddweud eu dweud yn y ffordd honno. Ac rwy'n falch iawn fod 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi canolbwyntio ar greu lleoedd ac wedi sicrhau bod hynny wrth wraidd ein polisi cynllunio cenedlaethol, gan y credaf fod hynny'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r ffordd rydym am symud Cymru ymlaen i'r dyfodol.
Mae gennyf sefyllfa debyg, Weinidog, yn fy etholaeth i, yn nhref Abergele, lle mae cannoedd ar gannoedd o gartrefi newydd wedi'u cynllunio ar gyfer yr ardal honno fel rhan o'r cynllun datblygu lleol. Ac mae Abergele, fel y gŵyr y Gweinidog o bosibl, nid nepell o Fodelwyddan, sydd yn yr awdurdod lleol cyfagos, lle y cynlluniwyd cwpl o filoedd o gartrefi newydd. Felly, o fewn yr ardal fach honno, mae oddeutu 3,000 o gartrefi newydd wedi'u hargymell, ac eto, rydym eisoes mewn sefyllfa lle mae ein seilwaith yn gwegian, ceir tagfeydd traffig yn aml yn Abergele, mae'r ysgolion eisoes yn orlawn—yr ysgolion cynradd—ac yn wir, mae gennym broblemau gyda'n gwasanaeth iechyd a gallu pobl i gael mynediad at feddygon teulu hefyd.
Nawr, rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr hyn a ddywedoch ynglŷn â'r cyfrifoldebau sydd gan awdurdodau lleol, ond beth rydych yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru pan fo awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau anghyfrifol heb boeni dim, weithiau, am anghenion trafnidiaeth ac anghenion seilwaith eraill yn eu cymunedau, ac yn eu gwaethygu o bosibl drwy roi caniatâd i ddatblygiadau tai sylweddol? Yn ychwanegol at hynny, pa ganllawiau rydych yn eu rhoi i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried cynlluniau datblygu lleol mewn ardaloedd awdurdod lleol cyfagos, oherwydd wrth gwrs, mae Bodelwyddan yn sir Ddinbych, ac Abergele yng Nghonwy?
Hoffwn ddweud yn glir ar unwaith na fyddaf yn rhoi sylwadau ar unrhyw achosion penodol, ac nid yw fy sylwadau yn cyfeirio at y datblygiad penodol a grybwyllwyd gan yr Aelod—felly, rwy'n siarad yn gyffredinol. Mae gennym ddarpariaethau drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 i alluogi awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno cynlluniau datblygu strategol, ac felly i weithio'n fwy rhanbarthol. Rydym yn bwriadu sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud hynny am yr union reswm a nodwyd gan yr Aelod, er mwyn gwella cynllunio gofodol ar draws ffiniau awdurdodau lleol.
Rydym yn gweithio i baratoi ein fframwaith datblygu cenedlaethol cyntaf i ddarparu cyd-destun cenedlaethol ar gyfer hynny, a chefais gyfarfod defnyddiol y bore yma gyda'r swyddogion sy'n cefnogi comisiwn seilwaith Cymru ynglŷn â sut y gallant gymryd rhan mewn peth o'r cynllunio cenedlaethol hwnnw.
Rwy'n gobeithio y gallwn roi'r cynllun datblygu strategol cyntaf ar waith i lawr yn ne-ddwyrain Cymru y gwanwyn hwn, cyn bo hir, ac rwy'n gobeithio sicrhau bod y system honno wedi'i lledaenu ledled Cymru fel y gallwn ystyried materion trawsffiniol yn briodol.
Ond yn y cynllun datblygu lleol ac wrth ddatblygu'r cynllun datblygu lleol, wrth gwrs, mae'n briodol ystyried lle mae datblygiadau'n mynd rhagddynt ar hyd y ffiniau ac mewn mannau eraill, yn ogystal â mapio'r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau eraill ac ati, er mwyn sicrhau bod y bobl sydd wrth wraidd y broses ddemocrataidd leol ac sy'n rhoi'r cynllun datblygu lleol ar waith yn ganolog yn y broses honno o wneud penderfyniadau. Os nad yw'r broses yn ymwneud â'r bobl a fydd yn byw gyda hi, beth yw ei phwrpas? Dylai'r cynlluniau gadw mewn cof, ar bob adeg, mai pobl sydd wrth wraidd y broses.
Ond mae problem fwy sylfaenol byth yma, wrth gwrs: beth yw'r angen lleol am dai? Mae eich Llywodraeth wedi dweud wrth awdurdodau lleol yn awr fod eich amcanestyniadau ar gyfer y boblogaeth wedi dyddio, a dyna oedd yn sail, wrth gwrs, i'r cynlluniau datblygu lleol y mae pobl yn pryderu amdanynt, ac rydym wedi gweld tir ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai ac angen nad yw'n bodoli, yn amlwg. Felly, a wnewch chi dderbyn bod hynny'n anghywir? Ac a wnewch chi hefyd, felly, gyfarwyddo eich swyddogion i ganiatáu i gynghorau ddad-ddyrannu safleoedd tir glas er mwyn diogelu ein hamgylchedd a'n cymunedau?
Nid oes gennyf ddarlun o Gymru yn fy meddwl mewn perthynas â'r amcanestyniadau poblogaeth gwahanol, felly ni allaf sôn am achosion penodol, ond rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod yr amcanestyniadau cywir ar waith gennym, a'n bod yn ymateb i'r angen yn y mannau cywir.
Rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod maint y datblygiadau'n gywir ac yn gymesur â'r ardal y maent yn ei gwasanaethu. Felly, yr hyn rydym am ei wneud, fel y dywedais, yw annog datblygwyr bach eu maint ledled Cymru i ddarparu safleoedd bach sy'n addas i'r angen lleol heb orfod cael dyraniadau mawr. Ac nid yw hynny'n feirniadaeth o unrhyw gyngor; fel y dywedaf, rwy'n siarad yn gyffredinol. Ond rwy'n gobeithio ailedrych ar ein hamcanestyniadau, o ran y fformiwla ar gyfer llywodraeth leol yn gyffredinol ac o ran angen amcanestynedig, er mwyn gweld i ble y gallwn fynd.