– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 29 Ionawr 2019.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ‘Pwysau Iach: Cymru Iach—Ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru’. Rwy’n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno’r datganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n hapus i ddiweddaru'r Aelodau heddiw ar lansiad ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’. Fe ges i’r pleser o lansio ymgynghoriad â rhanddeiliaid ar 17 Ionawr. Roedd hwn yn amlinellu ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra ledled Cymru. Mae'r ymgynghoriad yn dechrau cyfnod o ymgysylltu, herio a myfyrio wrth inni ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Mae gordewdra yn un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf ein cenhedlaeth, ac wrth gwrs, cytunodd y Cynulliad i wneud cynhyrchu’r strategaeth hon yn ofyniad statudol drwy basio ein Deddf Iechyd y Cyhoedd 2017. Rydym yn gwybod bod gan y DU un o'r lefelau gordewdra uchaf yng Ngorllewin Ewrop. Mae’r her o fynd i'r afael â gordewdra’n un sy'n wynebu gwledydd ledled y byd. Felly, dydyn ni ddim yn eithriad yma yng Nghymru. Mae saith ar hugain y cant o'n plant pedair i bum mlwydd oed a 60 y cant o’n hoedolion naill ai’n rhy drwm neu'n ordew.
Mae cyfraddau uchel o blant pedair a phum mlwydd oed sydd dros bwysau neu'n ordew yn fater o bryder cenedlaethol. Nid yw’r Llywodraeth hon yn barod i sefyll o'r neilltu a gwneud dim. Gallai hynny adael i ddeiet gwael neu anweithgarwch corfforol fod yn nodweddion sy’n diffinio bywydau ein plant a’n pobl ifanc. Rydym yn gwybod bod bod dros bwysau’n cynyddu ein risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser. Rydym ni hefyd yn gwybod bod hyn yn risg i’n hiechyd meddwl sy’n gallu arwain at ddiffyg hunan-barch, iselder a gorbryder.
Er mwyn cynaliadwyedd ein GIG yn y tymor hir, bydd angen inni wella iechyd y cyhoedd a’r boblogaeth, annog pobl i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain, i golli pwysau ac i fod yn egnïol. Y llynedd, lansiais ‘Cymru Iachach’, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r cynllun yn nodi’r ymagwedd tuag at bob mater gofal iechyd yng Nghymru o hyn ymlaen. Yn y cynllun hwnnw, amlinellais weledigaeth ar gyfer pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Mae pwysau iach yn elfen allweddol i wireddu'r weledigaeth honno. I ddatblygu’r ymgynghoriad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal ymchwil helaeth i ddatblygu achos cryf dros newid, ac mae hwnnw wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu pedair thema allweddol.
Arweinyddiaeth a galluogi yw ein thema gyntaf. Rydym yn cydnabod y bydd ymagwedd systemau cydlynol ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol yn hanfodol. Yn rhy aml yn y gorffennol, mae cynlluniau mawr wedi methu â chyflawni eu canlyniadau arfaethedig oherwydd diffyg dealltwriaeth o sut y caiff y polisi ei weithredu. Rwy’n edrych ymlaen at glywed gan bartneriaid ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn darparu mesurau sy’n cael eu cyd-gynhyrchu gyda chymunedau ac y maedd eu cyflwyno ar raddfa fwy, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n cael eu gwerthuso’n barhaus i ysgogi’r gwelliant parhaus rydym ni’n gwybod bod angen inni ei weld.
Mae'r thema amgylchedd iach yn ystyried sut y gallwn ddarparu mwy o gyfleoedd ym mywyd bob dydd unigolion i'w galluogi i wneud dewisiadau iachach. Hoffem ni sicrhau bod ein hamgylcheddau byw, ein siopa bob dydd, ein dewisiadau bwyta, ein cymudo dyddiol neu ein hamser hamdden yn gallu cael eu trefnu i’n cefnogi ni i symud mwy a bwyta'n iachach. Mae ein cynigion yma’n cynnwys cyflwyno deddfwriaeth am y tro cyntaf i helpu i fynd i'r afael â gordewdra—mae hyn yn cynnwys ar hyrwyddiadau pris, labelu calorïau ar fwydydd sy’n cael eu bwyta y tu allan i'r cartref, a gwahardd gwerthu diodydd egni i blant. Hoffwn hefyd inni weithio'n rhagweithiol gyda'r diwydiant i sbarduno newid drwy ailfformwleiddio ac i gyfyngu ar hysbysebu bwydydd afiach. Gallai datblygu amgylcheddau pwysau iach drwy ein cynllunio a'n seilwaith ein helpu i greu cyfleoedd go iawn i annog dewisiadau iachach ar ein strydoedd ac i gynyddu'r cyfleoedd am weithgarwch corfforol dyddiol.
Mae ble rydym ni’n treulio ein hamser yn aml yn gallu arwain y dewisiadau bwyd a gweithgarwch rydym ni’n eu gwneud, a bydd gwleidyddion yn gwybod hynny eu hunain. Yn y thema lleoliadau iach, rydym ni’n ystyried sut gallai newidiadau i’n haddysg, ein gwaith a’n hamdden ein helpu i gynnal pwysau iach. Rydym ni’n treulio llawer o'n hamser mewn addysg, yn y gwaith neu mewn lleoliadau cyhoeddus, a gall pob un o’r rhain chwarae rhan allweddol i roi hwb inni tuag at wneud dewisiadau afiach. Yn benodol, rydym ni’n cynnig cymorth cryfach ar gyfer lleoliadau ysgolion a blynyddoedd cynnar er mwyn galluogi bwyta'n iach a chyfleoedd i wneud gweithgarwch corfforol dyddiol.
Fodd bynnag, rwy’n glir hefyd na all ysgolion yn enwedig ysgwyddo holl faich o fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant. Maent yn rhan bwysig o'r ateb, ond, drwy drydedd thema ein hymgynghoriad, sef pobl iach, hoffem ni ystyried sut y gallwn ni gymell a chefnogi cymunedau ac unigolion i gyrraedd a chynnal pwysau corff iach. Mae hynny'n cynnwys ystyried adegau allweddol yn ein bywydau yr ydym ni’n gwybod y byddent yn lle da i gynnig cymorth ychwanegol. Yn hanfodol, hoffem ni ymgorffori arferion iach o ran bwyta a gweithgarwch o'r cychwyn, er enghraifft, helpu menywod i reoli eu pwysau yn ystod beichiogrwydd, drwy’r 1,000 o ddyddiau cyntaf o fywyd y plentyn, a darparu’r cymorth sydd ei angen ar bobl. Byddwn yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod gennym lwybr clinigol cyson ar waith hefyd.
Ceir cysylltiadau cryf â lefelau gordewdra mewn ardaloedd o amddifadedd uwch a hoffem ni ystyried sut i gau'r bwlch anghydraddoldebau iechyd. Mae ein cynigion yn amlinellu sut hoffem ni weithio gyda chymunedau i gynyddu cefnogaeth. Yn benodol, hoffem ni feddwl am sut i dargedu ymyriadau gyda phlant a theuluoedd a’u hwyluso mewn ffordd sy'n helpu i gyflawni dewisiadau ffordd o fyw sy’n gadarnhaol a chynaliadwy.
Yn ystod yr ymgynghoriad, byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori ledled Cymru, gan gynnwys trafodaethau gydag aelodau o'r cyhoedd mewn canol trefi, colegau a lleoedd gwaith. Rydym yn ymrwymedig i gyhoeddi strategaeth derfynol ym mis Hydref eleni. Rwy’n croesawu eich barn heddiw ar draws y Siambr ac rwy’n edrych ymlaen i weithio mewn modd rhagweithiol ar draws y Siambr i sicrhau ein bod yn datblygu cyfres o gynigion a chamau gweithredu a ddylai roi Cymru ar flaen y gad yn yr ymdrechion i atal gordewdra ac yna i’w leihau.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am roi copi ymlaen llaw ohono inni? Mae gordewdra, fel rydym ni’n gwybod, yn her iechyd cyhoeddus fawr yng Nghymru, ac rydych chi wedi cyfeirio at nifer o ystadegau pwysig heddiw ac effaith gordewdra ar iechyd pobl, gan gynnwys, yn bwysig iawn, eu hiechyd meddwl a'u lles.
Rydym ni’n gwybod, yn ôl yn 2017, Gweinidog, bod cynghrair gordewdra Cymru wedi gwneud 18 o argymhellion ar eu barn am sut i fynd i'r afael â gordewdra ac ymdrin â’r dybiaeth bod, ac rwy’n dyfynnu, 'bod dros bwysau wedi dod yn normal yng Nghymru'. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydych chi’n ei ailadrodd yn eich dogfen ymgynghori. Mae eich strategaeth wedi cynnwys nifer o faterion o’r argymhellion a wnaeth cynghrair gordewdra Cymru, ac rwy’n falch iawn o weld y cyfeiriad at y rheini ac yn falch iawn o weld bod y Llywodraeth yn ymgynghori ynglŷn â chymryd camau i fynd i'r afael â nhw.
Un o'r pwyntiau maen nhw wedi eu codi, yn ddigon teg, yw bod angen mwy o reoleiddio yn y cyfryngau ynghylch hysbysebu cynhyrchion bwyd afiach, ac rwy’n gwybod bod hynny'n rhywbeth nad oes gennym ni fel Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb datganoledig drosto eto. Ond tybed a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'r Ysgrifennydd iechyd dros y ffin yn Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd a allai fod i weithio gyda nhw, fel y gallwn ni gael rhyw fath o ffordd i’r DU gyfan i ddatrys y mater hwn o hysbysebu yn y cyfryngau, oherwydd rwy’n gwybod ei fod yn destun pryder mawr i lawer o bobl.
Wrth gwrs, hoffem ni i gyd weld pobl yn bwyta bwyd iachach. Hoffem ni i bobl leihau eu dibyniaeth ar brydau parod, sy’n aml iawn yn cynnwys llawer o halen a chyfran uchel o fwydydd wedi'u prosesu, ac mae’r gynghrair gordewdra wedi awgrymu bod darparu gwersi coginio, nid yn unig mewn ysgolion ond hefyd i oedolion, i’w haddysgu nhw sut i fanteisio i'r eithaf ar fanteision paratoi eu bwyd eu hunain, yn un ffordd o helpu i newid ymddygiad pobl. Yn amlwg, mae hon yn broblem eithaf cymhleth, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod pa fath o strategaeth a allai fod gan y Llywodraeth i gyrraedd y bobl hynny sydd eisoes yn oedolion, ond sydd ddim yn gynulleidfa gaeth yn ein hysgolion, fel y gallwn ni eu harfogi nhw i wneud y dewisiadau ffordd o fyw hynny i baratoi mwy o’u bwyd eu hunain mewn ffordd fforddiadwy, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle gall tlodi fod yn broblem weithiau, a lle mae fforddiadwyedd bwyd mewn siopau ac archfarchnadoedd yn uwch nag mae rhai pobl yn gallu ei fforddio.
Roedd yr ‘Adroddiad ar Gyflwr Gwasanaethau Mamolaeth’ yn ôl yn 2018, a lansiwyd ym mis Tachwedd gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd, hefyd yn tynnu sylw at y problemau sy'n gysylltiedig â chyfraddau gordewdra a beichiogrwydd, ac, unwaith eto, roeddwn yn falch o glywed eich datganiad heddiw’n cyfeirio at hynny. Tybed beth allwch chi ddweud wrth yr Aelodau heddiw ei fod ar waith, fel petai, neu ba gynigion rydych chi'n eu cynnig, i helpu i fynd i'r afael â chyfradd uchel gordewdra. Rydym yn gwybod bod llawer mwy o doriadau Cesaraidd mewn rhai rhannau o Gymru yn ein hysbytai nag sydd ei angen efallai, ac mae rhywfaint o hynny’n gysylltiedig â gordewdra. Felly, pa gamau rydych chi’n eu cymryd i ddatrys y broblem honno, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae gennym ni glwstwr o broblemau gordewdra mewn perthynas â beichiogrwydd?
Mater arall a godwyd gan y gynghrair gordewdra oedd bod angen inni gyhoeddi data am gyfraddau gordewdra i sicrhau y ceir tryloywder fel y gallwn ni fesur cynnydd a llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni beth fyddai’r dangosyddion perfformiad allweddol fel y gallwn ni yn y Siambr hon ddal y Llywodraeth i gyfrif am wneud rhywfaint o gynnydd ar fater sy’n un pwysig dros ben.
A gaf i ofyn hefyd ichi edrych ar yr holl fater o ragnodi cymdeithasol ac a yw hynny’n effeithiol? Rwy’n gwybod bod llawer o feddygon teulu y dyddiau hyn yn defnyddio rhagnodi cymdeithasol drwy ragnodi ymarfer corff neu fynd i gampfeydd lleol. Ond dydw i ddim yn meddwl, a dweud y gwir, bod hyn yn cael ei hyrwyddo mor eang ag y gallai fod. Rydym ni’n gwybod bod rhagnodi cymdeithasol yn gallu cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl, yn ogystal â’u helpu nhw gyda’u pwysau, a byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pa mor gyffredin wir yw defnyddio rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru, ac a allwch roi unrhyw wybodaeth inni ynglŷn â sut y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad ddwyn ein byrddau iechyd lleol a’n gwasanaethau meddygon teulu ein hunain yn ein hardaloedd i gyfrif am gyflawni hynny.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl, hefyd, roedd dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn diystyru rhywfaint o'r cyngor roedden nhw wedi’i gael gan y Llywodraeth ynglŷn â gwahardd bwydydd llawn braster a siwgr rhag cael eu gwerthu mewn peiriannau gwerthu, yn enwedig ar yr ystad ysbytai. Roedd data ar y pryd yn dangos bod 18 o beiriannau gwerthu yn Ysbyty Treforys Abertawe Bro Morgannwg a oedd yn gwerthu diodydd meddal, melysion, ac ati, a bod gan Ysbyty Singleton ac Ysbyty Tywysoges Cymru, sydd hefyd yn gweithredu yn ardal y bwrdd iechyd hwnnw, 16 o beiriannau diodydd meddal rhyngddynt. Dywedodd Cwm Taf fod chwech o'u hysbytai nhw hefyd yn cynnig diodydd tun, siocledi a melysion mewn 37 o beiriannau gwerthu. Gwnaethoch gyfeirio yn eich datganiad at yr angen i ddangos arweinyddiaeth, ac nid wyf yn siŵr bod hynny'n cynrychioli'r math o arweinyddiaeth yr hoffech chi na fi ei gweld gan y GIG. Felly, a allwch chi gadarnhau y gwnaiff eich Llywodraeth chi, yn y dyfodol, ddileu diodydd llawn siwgr, siocled, byrbrydau afiach eraill mewn peiriannau gwerthu ac ysbytai?
Ond hoffwn i—
Ac yn olaf.
Hoffwn i gofnodi ein bod yn croesawu cyhoeddi’r datganiad hwn. Hoffem ni ymgysylltu'n gadarnhaol â chi i fynd i'r afael â’r broblem hon yng Nghymru, ac mae gennych ein cefnogaeth lawn o ran yr ymgynghoriad sy'n cael ei wneud.
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rydych yn iawn nad yw rheoleiddio hysbysebu wedi'i ddatganoli, er bod swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU. Maen nhw'n mynd i ymgynghori ynglŷn â mesurau ychwanegol o gwmpas hysbysebu a'r potensial ar gyfer, yn enwedig, bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster a halen—yn y bôn, i gyflwyno trothwy amser ar gyfer hysbysebu. Rydym ni o blaid, yn fras, cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei hysbysebu ar amser penodol, ac, yn benodol, sut mae wedi’i dargedu. Yna, rydym ni hefyd yn ystyried a oes yna bethau y gallem ni eu gwneud o ran sut y mae gwahanol gynhyrchion yn cael eu hysbysebu mewn digwyddiadau rydym ni ein hunain yn eu noddi a’u hyrwyddo.
O ran eich pwynt am goginio ar gyfer oedolion, os edrychwch chi drwy'r ddogfen ymgynghori, rydym ni’n cydnabod, a dweud y gwir, bod helpu pobl i baratoi bwyd iachach yn ffactor allweddol. Yn wir, mae bron bob un o'n rhaglenni gwrthdlodi wedi edrych ar helpu pobl i baratoi bwyd iachach hefyd. Mae'n rhan arferol o'r sgwrs—mae hefyd yn rhan o beth rydym ni’n ceisio ei wneud i hyrwyddo neges bwyta'n iach drwy ysgolion. Nid dim ond mater o addysgu plant yw hyn—mae’n berthnasol i holl gymuned yr ysgol. Rhan o'r hyn y byddwn ni’n ei wneud yn yr ymgynghoriad yw, yn ogystal â’r grwpiau rydw i wedi eu hamlinellu, yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n siarad â rhieni sy’n cymryd rhan yn Dechrau'n Deg. Rydym ni hefyd yn mynd i gael rhai sgyrsiau o amgylch cymunedau ysgol yn ogystal â siarad â disgyblion a rhieni, yn hytrach na dim ond bod ar un pen neu’r llall i'r sgwrs.
O ran gordewdra a beichiogrwydd, mae hyn yn berthnasol i'r her gyffredinol sydd gennym ni o gynnal pwysau iach drwy fywyd. Os mai dim ond yn union cyn beichiogrwydd neu pan fydd rhywun eisoes yn feichiog rydych chi am gael y sgwrs honno, gallwch chi ddal i wneud rhai pethau i helpu pobl i reoli eu pwysau. Ond, a dweud y gwir, hoffem ni achub y blaen ar hynny i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael sgwrs ehangach yn hytrach na llwytho hyn i mewn i addysg cyn geni.
Ond, wrth gwrs, y gwir amdani yw ein bod ni wedi cynyddu niferoedd ein bydwragedd i wneud yn siŵr ein bod ni’n cydymffurfio â Birthrate Plus, ac mae hynny’n bennaf oherwydd y cymhlethdod ychwanegol wrth gyflawni geni. Mae hynny'n rhannol oherwydd bod menywod yn tueddu i fod yn hŷn nawr wrth roi genedigaeth, ond hefyd oherwydd heriau gordewdra hefyd. Felly, mae gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu geni’n ddiogel yn her, ac rydym ni wedi ymateb i hynny drwy gynyddu nifer ein bydwragedd yn sylweddol a chynnal y buddsoddiad yn eu hyfforddi.
Ond, fel y dywedais i, yn hyn o beth, rwy’n meddwl bod gennym ni fwy o ddiddordeb mewn sut i wneud i bob cyswllt gyfrif, pan fydd pobl yn cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol, ac yn y newid diwylliannol mwy cyffredinol yr hoffem ni ei weld yn datblygu. Mae hynny'n golygu gweithio gyda phobl, a dyna pam nad ydym ni'n cyfeirio at hyn fel strategaeth gordewdra, oherwydd y gwir yw bod yr iaith a’i fframio yn y sgwrs yn bwysig iawn. Os yw pobl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu barnu, maent yn annhebygol o ddangos diddordeb, gan gynnwys y bobl hynny sydd ag eisiau help i wneud gwahaniaeth.
O ran y mesurau yr hoffem ni eu mabwysiadu, mae hynny’n rhan o bwynt cynnal yr ymgynghoriad—i weld beth sy'n gweithio, ac yna, pan fydd gennym ni hynny a phan fyddwn ni’n cyflawni strategaeth, byddwn ni'n glir ynglŷn â sut y bydd gennym ni gerrig milltir a meincnodau i ddeall a ydym ni wir yn gwneud cynnydd a sut y mae'n briodol i fesur y Llywodraeth a pha uchelgeisiau y dylem ni eu gosod ar gyfer y wlad. Mae hwnnw'n gwestiwn ehangach yma, oherwydd ni all y Llywodraeth ar ei phen ei hun ddatrys y mater hwn—pe gallem ni, byddem yn sicr wedi gwneud hynny erbyn hyn.
Ynglŷn â’ch pwynt am bresgripsiynu cymdeithasol, rwyf wedi gwneud nifer o ddatganiadau yn y Siambr ynglŷn â phresgripsiynu cymdeithasol, am ei ddefnyddio nid yn unig, er enghraifft, yn y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, ond yn y buddsoddiadau ychwanegol rydym ni wedi eu gwneud, ynghyd â’r trydydd sector, sydd wedi’u targedu’n bennaf at iechyd meddwl. Fe wnaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr eto, pan fyddwn ni wedi gwerthuso’r prosiectau rwyf i wedi eu cyhoeddi eisoes.
O ran eich pwynt ehangach am ddileu peiriannau gwerthu, mae her bob amser o ran y cydbwysedd yn yr hyn rydym ni’n ei wneud. Rwy’n disgwyl y bydd rhai mesurau’n dod o’r ymgynghoriad a fydd yn heriol ynghylch sut yr ydym ni’n bwrw ymlaen â hynny. Bydd safbwyntiau cryf iawn ar y ddwy ochr. Os ydym ni’n dweud yn syml, ‘Chaiff ysbytai ddim gwerthu siocled’, er enghraifft, rydym ni’n gwybod y bydd pobl yn mynd i’w brynu o leoedd eraill hefyd.
Felly, mae'n rhan o'r newid diwylliannol, ond os edrychwch chi ar sut y mae byrddau iechyd wedi symud dros y blynyddoedd diwethaf, y gwir yw bod y bwyd y byddwch chi’n ei weld ar gael o fewn ein safleoedd ysbyty wedi gwella'n fawr, ac mae llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r cynnig a’r ffaith ei fod yn gynnig iachach hefyd. Rwy’n disgwyl i’r symudiad hwnnw barhau, ond rwyf wir yn edrych ymlaen i glywed beth a fydd gan Aelodau yma a'r tu allan i’w ddweud yn ystod yr ymgynghoriad.
Rwy’n falch iawn o groesawu datganiad y Gweinidog heddiw a'r cynnydd sy’n cael ei wneud ar y darn pwysig iawn hwn o waith, sydd, wrth gwrs, yn deillio o welliant gan Blaid Cymru i'r ddeddfwriaeth wreiddiol. Byddwn yn fy nghysylltu fy hun â phopeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud ei hun ac y mae Darren Millar wedi'i ddweud am bwysigrwydd y mater hwn i iechyd a lles ein cymuned.
Mae hon yn agenda bosibl â chwmpas eang iawn, ac allaf fi ddim ond cyffwrdd heddiw ar nifer bach o faterion, ond, fel y dywedodd Darren Millar, hoffwn roi sicrwydd i’r Gweinidog y bydd Plaid Cymru yn awyddus i'w gefnogi i ddatblygu’r gwaith hwn ac i gydweithredu mewn unrhyw ffordd sy’n briodol.
Mae’r cwestiwn cyntaf yr hoffwn i ei ofyn i’r Gweinidog yn ymwneud â chyflymdra’r gwaith hwn. Nawr, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cymryd amser i’w wneud yn iawn, ond rwy’n siŵr y gwnaiff y Gweinidog gytuno â mi bod pob diwrnod o beidio â chymryd y camau sydd eu hangen ddiwrnod yn ormod. Felly, rwy’n ceisio sicrwydd gan y Gweinidog heddiw na chaiff amserlen mis Hydref lithro ac y bydd ef yn cymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau hynny, o gofio pwysigrwydd y materion.
Unwaith eto, o ran gwerthuso cynnydd y strategaeth pan fydd hi ar waith, byddwn yn dweud wrth y Gweinidog y bydd angen targedau penodol. Bydd angen targed cenedlaethol ar gyfer sut yr ydym ni’n mynd i leihau’r canrannau y mae’r Gweinidog wedi eu nodi’n gywir o’n cyd-ddinasyddion sy'n ordew neu dros bwysau. Ond hefyd bydd angen targedau penodol i sefydliadau penodol weithredu arnynt, oherwydd fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir ei hun, does dim angen mwy o eiriau cynnes am y materion hyn ac rydym yn gwybod bod yr hyn sy'n cael ei fesur yn cael ei wneud.
O ran pennawd amgylchedd iach y Gweinidog a’r awgrymiadau ar gyfer deddfwriaeth, tybed a fyddai’r Gweinidog yn rhoi ystyriaeth bellach i sut y gellid defnyddio'r system gynllunio i sicrhau, er enghraifft, nad oes gennym ni mwyach gymaint o siopau bwyd cyflym yn agos iawn i ysgolion. Rwyf ar ddeall nad oes gan awdurdodau lleol y gallu ar hyn o bryd i gyfyngu ar y rhain ar sail iechyd ac rwy'n credu y byddai llawer ohonom yn gryf o blaid cyfyngiad. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod hyn yn arbennig o wir mewn cymunedau tlotach lle gall pobl ifanc ddewis prynu sglodion yn hytrach na thalu am ginio ysgol iachach, fel bod ganddyn nhw ychydig mwy o arian yn eu pocedi.
O ran lleoliadau iachach, hoffwn i gael sicrwydd gan y Gweinidog, er bod llawer o bwyslais yma ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion, y bydd yn ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chwaraeon am weithgarwch corfforol. A wnaiff sicrhau—gan weithio gyda'r Gweinidog Addysg, sydd yma—y caiff hyn ei gynnwys yn y cwricwlwm newydd? Rwy’n arbennig o awyddus i’n gweld ni’n cymryd camau i sicrhau bod gan athrawon, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, y sgiliau a'r hyder i gynnwys hyder corfforol a gweithgarwch corfforol yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud gyda phlant mor ifanc â hynny.
Hefyd, o ran lleoliadau iachach, rwy’n ceisio sicrwydd y Gweinidog y byddwn yn sicrhau bod hyn yn cynnwys colegau addysg bellach. Rydym yn gwybod bod gostyngiad mawr o ran gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith menywod a merched, rhwng 16 a 25 oed, ac mae'n ymddangos i mi y gallai sicrhau bod lleoliadau addysg bellach yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc yn yr ystod oedran hwnnw fod yn bwysig iawn, iawn o ran helpu i ddatblygu a chynnal arferion iach, yn enwedig ar gyfer menywod a merched.
Mae datganiad y Gweinidog yn tynnu sylw, yn briodol, at y cysylltiad rhwng lefelau gordewdra ac ardaloedd o amddifadedd uwch, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ystyried y dylai’r strategaeth edrych ar y gallu i gael gafael ar fwyd iach. Byddwn i’n cynnig, Dirprwy Lywydd, nad oes llawer iawn o famau a thadau yng Nghymru sydd ddim yn gwybod bod afal yn well i’w plentyn na sglodion. Ond y gwir amdani yw bod tatws yn rhatach nag afalau. Felly, a wnaiff ystyried archwilio, wrth ddatblygu’r strategaeth, y gallu i gael gafael ar fwydydd iachach? Rwy’n meddwl yn benodol am gwmnïau bwyd cydweithredol. Rwyf wedi gweld rhywfaint o waith arloesol yn ardal Llanelli lle mae ffermwyr lleol yn dod ynghyd â chymunedau lleol—i nodi pwynt Darren Millar am yr angen am sgiliau coginio, wrth gwrs—ond yn defnyddio’r cynnyrch dros ben a fyddai fel arall yn cael ei daflu i’w ddarparu’n rhad iawn i gymunedau lleol.
Dim ond dau bwynt byr iawn arall. O ran pobl iachach, rwy’n falch iawn o weld y Gweinidog yn cyfeirio at y 1000 Diwrnod Cyntaf. Bydd y Gweinidog, rwy’n siŵr, yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd bwydo ar y fron i sicrhau iechyd cynnar plant a lleihau peryglon gordewdra. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n hyrwyddo hynny mewn modd cadarnhaol i fenywod, ond heb roi pwysau arnyn nhw ychwaith. Rwy’n credu y byddai'n rhan hanfodol o'r strategaeth hon i sicrhau bod cymorth ar gael i fenywod, yn y dyfodol—nid pwysau, oherwydd gwyddom nad yw hynny o gymorth—ond cymorth i fenywod, yn y dyfodol.
Yn olaf, hoffwn fynd ar drywydd y pwynt a wnaed gan y Gweinidog ei hun am dôn y ffordd yr ydym yn trafod y materion hyn gyda’n cyd-ddinasyddion. Mae'r Gweinidog yn gywir iawn i ddweud, os yw pobl yn teimlo eu bod nhw’n cael eu barnu, na fyddant yn barod i gydweithredu, na wnant gymryd rhan—yn wir, mae'r rhai sydd mewn perygl uchel yn troi at fwyta am gysur. Ond byddwn i hefyd yn ychwanegu at yr hyn y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud—ei bod hi’n bwysig iawn nad oes dim byd yn nhôn y trafodaethau hyn sy’n gallu cyfrannu at y math o bryder ynghylch pwysau a’r ddelwedd o’r corff yr ydym ni’n gwybod eu bod nhw’n cael effaith mor ofnadwy, yn enwedig ar fenywod ifanc, ond yn fwyfwy hefyd ar ddynion ifanc, ac, os na chaiff ei reoli’n briodol, sy’n gallu arwain at anhwylderau bwyta. Mae’r Gweinidog ei hun wedi cyfeirio at effaith materion pwysau a gordewdra ar iechyd meddwl. Mae hynny, wrth gwrs, yn wir am bobl sy'n cario gormod o bwysau, ond gall hefyd fynd y ffordd arall. Felly, rwy’n ceisio sicrwydd gan y Gweinidog heddiw, pan fyddwn ni’n edrych ar yr iaith i’w defnyddio, na fyddwn ni’n ein rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle’r ydym ni mewn perygl o waethygu’r agenda honno.
Rwy’n hapus i gadarnhau’r ymrwymiad a roddais eisoes i ddyddiad ym mis Hydref ar gyfer cyhoeddi’r strategaeth. Rwy’n disgwyl y bydd yn cynnwys mesurau a cherrig milltir, ond cerrig milltir, mesurau a thargedau doeth, nid rhai uchelgeisiol. Rwy’n awyddus iawn i gael rhywbeth y gellir ei gyflawni, yn ogystal â mesurau lle gallwn olrhain ein cynnydd, fel y bydd pobl yn gallu gweld y cynnydd a wnawn nid yn unig fel Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus, ond sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn dylanwadu ar ymddygiad ac yn helpu i’w newid. Mae llawer o'r hyn yr ydym yn sôn amdano, mewn gwirionedd, yn ymwneud â sut yr ydym ni’n helpu i newid ymddygiad pobl, yn ogystal ag un o'r pwyntiau y gwnaethoch chi am sut i wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Mae hynny'n bwysig iawn inni hefyd.
Ac ar un o'r pwyntiau hynny, wrth gwrs, yn anffodus, nid yw’n glir o gwbl—yn wir, barn y mwyafrif yw nad oes gennym ni’r pwerau i ystyriaethau iechyd y cyhoedd fod yn ddyfais gynllunio ddilys, felly nid oes modd cyfyngu ar nifer y siopau bwyd cyflym o gwmpas ysgolion, canolfannau hamdden neu ardaloedd eraill. Credaf fod hynny'n broblem. Mae'n faes lle cafwyd dadl rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod hynt y Ddeddf Cymru ddiwethaf, ynghylch pwerau a gedwir yn fwriadol gan Lywodraeth y DU. Rwy’n credu y gallem wneud llawer mwy o gynnydd pe gellid ystyried hynny yn ystyriaeth gynllunio ddilys, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd mewn sefyllfa lawer gwell. Ond eto nid yw hynny'n golygu, pan fyddwn yn ystyried cynllunio amgylcheddau iach i fanteisio ar yr hyn sydd gennym ni, na fyddem ni’n gallu gwneud mwy eisoes yn y ffordd yr ydym yn cyflenwi gwasanaethau ac yn y ffordd yr ydym yn cynllunio datblygiadau newydd.
O ran eich pwynt ehangach ar leoliadau iach a’r gweithgarwch mewn ysgolion, ceir pwynt yma am lythrennedd iechyd fel rhan o'r cwricwlwm newydd. Rydym newydd gael datganiad yn para dros awr gyda chwestiynau am ddatblygiad y cwricwlwm newydd. Rydym yn glir iawn ynglŷn â swyddogaeth iechyd a llythrennedd iechyd o fewn y cwricwlwm newydd. I fod yn glir am y gweithgarwch mewn ysgolion, nid dim ond sôn am y filltir ddyddiol yw hyn ac nid dim ond sôn am chwaraeon mewn ysgolion ychwaith, oherwydd mae pobl fel fi a oedd wrth eu bodd â chwaraeon ac yn eu mwynhau, ond, a dweud y gwir, mae pobl eraill sydd ddim erioed wedi eu hoffi. Serch hynny, mae angen inni ddeall bod gweithgarwch yn rhan bwysig o symud o gwmpas a byw bywyd, ac nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n mynd i ddweud bod yn rhaid i bawb orfod gwisgo rhy ychydig o ddillad ar ddiwrnod oer iawn i gael rhywun i weiddi arnoch chi; dydy hynny ddim yn ffordd wych o wneud i bobl syrthio mewn cariad â chwaraeon nac unrhyw fath arall o weithgaredd penodol. Sut i normaleiddio gweithgarwch sy’n bwysig, yn fy marn i.
Ac ar eich pwynt am newid diwylliannol—wrth gwrs, dyna'n union yr hyn a ddywedais yr ydym yn ceisio ei gyflawni, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelod dros Lanelli yn bwrw ymlaen â’i ddiddordeb parhaus mewn teithio llesol, er enghraifft. Soniais am hynny yn y datganiad ynglŷn â sut rydym ni’n mynd o gwmpas ac yn symud o gwmpas. Bydd hynny’n bwysig iawn hefyd. Ond hefyd, rwy’n siŵr y cofiwch chi, wrth gwrs, y gronfa iach ac egnïol, gwerth £5 miliwn, yr oeddwn i’n falch iawn o’i lansio gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog diwylliant—. Mae’r teitl wedi'i ddiweddaru ychydig bellach—Dirprwy Weinidog y Gymraeg a materion rhyngwladol. Na? Dyna’r Gweinidog. Yr Arglwydd Elis-Thomas beth bynnag—[chwerthin.]—a fi a lansiodd y gronfa iach ac egnïol gwerth £5 miliwn. Mae’n ymwneud â defnyddio'r holl asedau sydd gennym ni ac, unwaith eto, mae'n gobeithio hybu newid diwylliannol, yn ogystal â defnyddio’r holl gyfleoedd ar gyfer mwy o weithgarwch corfforol yn y modd gorau posib.
Yn olaf, ar eich pwynt am fwydo ar y fron, mae'n bwnc yr ydym ni’n dychwelyd ato’n rheolaidd yn y Siambr, fel y dylem ni. Mae'n her symud o 'y fron sydd orau' i 'mae’r fron yn normal', a normaleiddio bwydo ar y fron a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei dderbyn a’i gefnogi, ac, ar yr un pryd, nad yw merched sy'n gwneud dewisiadau gwahanol am fwydo eu plant yn cael eu barnu ychwaith. A dyna eich pwynt olaf am beidio â barnu pobl, am geisio helpu pobl i wneud dewisiadau iachach, heb ddymuno gwthio pobl i rywle lle mae ganddyn nhw anhwylderau bwyta naill ai oherwydd bwyta gormod neu ddim digon, ond am sut yr ydym yn dweud, 'Beth yw pwysau iach a meddwl iach i allu cynnal a chadw pwysau iach?', a dyna sy’n hoelio ein sylw. Dyna sut yr hoffwn i’r sgwrs ddigwydd.
Rwy’n anghytuno â chi am un peth, lle rwy’n credu eich bod chi wedi dweud na ddylai deiet gwael fod yn nodwedd ddiffiniol. Yn anffodus, mae'n un o nodweddion diffiniol Cymru. Ni yw’r genedl fwyaf gordew yn Ewrop, ac mae hwnnw'n ystadegyn eithaf syfrdanol. Felly, rhaid inni roi'r gorau i siarad am y peth a rhaid inni wneud rhywbeth gwirioneddol am y peth.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwyslais ar y 1,000 diwrnod cyntaf; rwy’n cytuno bod hynny’n lle da iawn i ddechrau. Ond, fel yr ydych chi’n ei gydnabod, allwn ni ddim gadael i ysgolion ysgwyddo'r baich o fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant ar eu pen eu hunain; rhaid inni weithio gyda nhw. Ond yn bendant mae’n rhaid inni fynd i'r afael â bwyd mewn ysgolion. Gwnaeth fy rhagflaenydd fel yr Aelod dros Ganol Caerdydd, Jenny Randerson, ymladd yn hir ac yn galed i gyflwyno Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 ac roedd ganddi’r weledigaeth hon o sefydlu bwyd ffres, newydd ei wneud mewn ysgolion. Nid yw hynny wedi digwydd. Mae gennym lawer o gwmnïau arlwyo mawr o hyd yn dod â bwyd o bwy a ŵyr ymhle ac, a dweud y gwir, does prin ddim monitro’n digwydd. Roedd yn ofnadwy clywed bod Sir y Fflint wedi cefnu ar y rhaglen Bwyd am Oes a sefydlwyd ganddyn nhw ynghyd â Chymdeithas y Pridd oherwydd bod hynny’n cynnwys elfennau o fonitro o ble roedd y bwyd yn dod. Does dim monitro’n digwydd nawr yn unrhyw un o'r sefydliadau arlwyo sy'n gwasanaethu ein hawdurdodau lleol. Ers 2013, mae gan Estyn rwymedigaeth i adrodd ar fwyd a diod, ond dydyn nhw ddim yn ei archwilio. A does neb arall yn gwneud hynny oni bai bod gennych chi lywodraethwyr neu gynghorau ysgol arbennig o wyliadwrus. Felly, mae angen deddfwriaeth.
Ni allwn gael sefyllfa lle mae cwmnïau arlwyo'n gwerthu poteli dŵr yn yr ysgol oherwydd yn syml nad ydyn nhw’n ei ddarparu mewn jwg. Mae hyn yn warthus. A rhaid inni gofio bod pobl fel Gareth Wyn Jones wedi cael anhawster i wneud prydau o fwyd ffres pan geisiodd wneud hynny yn Nhreganna yng ngorllewin Caerdydd, oherwydd nad oes digon o lysiau ffres ar gael o fewn 50 milltir. Mae gennym eisoes nodweddion yr hyn sydd angen ei wneud yn adroddiad Kevin Morgan, 'Bwyd Da i Bawb', a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn 2015, sef caffael cyhoeddus mewn ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai ac adeiladau'r llywodraeth. Mae hynny'n rhywbeth y mae gan y Llywodraeth bwerau drosto eisoes, ac mae angen inni ddechrau gweini bwyd iach yn yr holl sefydliadau hynny fel un ffordd o ddechrau newid i'r sgwrs.
Yn olaf, rwy’n gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gefnogi syniad diweddaraf Veg Power i wneud llysiau’n hwyl i blant, oherwydd does dim pwynt dweud wrth blant bod yn rhaid iddyn nhw fwyta 5 y dydd—dydy hynny ddim yn mynd i weithio, yn enwedig os nad yw eu rhieni’n gwybod am y neges pump y dydd. Felly, ‘mae bwyta llysiau’n hwyl’ yw'r ffordd ymlaen yn fy marn i. Rwy'n credu bod hysbyseb fach ragorol wedi mynd allan ar ITV yr wythnos ddiwethaf, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei gysylltu ei hun â’r math hwnnw o ffordd greadigol o ennyn diddordeb plant yn y syniad mai’r hyn y maen nhw'n ei fwyta y byddan nhw’n troi iddo.
Diolch am y sylwadau a'r pwyntiau. Hoffwn egluro nad yw'r Llywodraeth yn derbyn y dylem ni ganiatáu i ddeiet gwael barhau i fod yn nodwedd ddiffiniol yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau a bod yn rhaid i’r Llywodraeth anelu at nodi hynny. Ac rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych wedi ei ddweud am fwyta'n iach o fewn ysgolion a heriau caffael, am brydau bwyd iach a chadw at y rheoliadau presennol sydd gennym ni wrth ystyried newid deddfwriaethol pellach. Nid mater o’r cwricwlwm yn unig yw hyn, ond a oes angen newid deddfwriaethol hefyd. Ac wrth gwrs, rydym ni'n cael sgwrs i roi cnawd ar beth yw'r camau mwyaf priodol i wneud y gwahaniaeth mwyaf. Bydd hynny’n golygu bod angen inni weithio gydag awdurdodau lleol i feddwl am beth yw'r canllawiau, beth sydd ei wir angen i sicrhau'r canlyniad iawn.
Ond dylwn ddweud, pan ewch chi i'r ysgolion cynradd yn enwedig, mai un peth sy’n fy nharo i’n rheolaidd yw pa mor gyson yw’r neges ynghylch bwyta'n iach. Negeseuon am ormod o siwgr, gormod o fraster, gormod o halen, a'r ffordd y mae eich pwynt olaf am normaleiddio gwneud bwyd iach, a’i bod hi’n hwyl bwyta bwyd iach yn hytrach na rhywbeth sy’n weithred o benyd, yn hytrach na rhywbeth y dylech chi wir ei fwynhau. Ac rwy’n gwybod hyn gan fod gen i blentyn fy hun yn y system ysgol a phrosiect presennol y tymor yw 'blasus'. Felly maen nhw’n ceisio rhoi cynnig ar flasau newydd a gwahanol a’u gwneud nhw’n ddiddorol a normaleiddio’r peth i blant ifanc. Ac rwy’n falch iawn o ddweud ei fod yn mwynhau’r thema hon ar ei siwrne ddysgu yn fawr, a hoffwn i blant eraill gael yr un cyfle. Felly, unwaith eto, rydym yn edrych ar yr hyn a wnawn, sut yr ydym yn ei wneud, a sut yr ydym yn ei wneud yn fwy cyson i wneud y newid diwylliannol gwirioneddol y mae pawb yn ceisio ei gyflawni.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae gordewdra yn fater pwysig, fel y mae’r siaradwyr i gyd wedi’i wneud yn glir, ac mae'n mynd i fod yn fwy a mwy o broblem, yn ariannol, os na allwn ni fynd i'r afael ag ef. Nid wyf yn credu fy mod yn anghytuno â dim byd a ddywedodd neb arall yn y Siambr heddiw. Ond mae pobl wahanol yn dod o onglau gwahanol, a bydd yn waith anodd dwyn pob un o'r dulliau hyn ynghyd mewn rhaglen gydlynol. Felly, mae yna anawsterau o’n blaenau ni. Mae Jenny Rathbone newydd sôn am bwysigrwydd deiet ysgol, a soniodd hefyd am gaffael cyhoeddus, sy'n rhywbeth sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ar bwyllgor yr amgylchedd, sy’n cael ei gadeirio gan Mike Hedges; mae yntau’n awyddus iawn i gynnig defnyddio caffael cyhoeddus fel ysgogydd. Felly, mae hyn yn rhywbeth y gallem ni ei wneud, a gallai hefyd gael ei gysylltu â chynhyrchwyr bwyd mewn amgylchedd ar ôl Brexit sy’n ceisio dod o hyd i farchnad ar gyfer eu cynnyrch. Felly, rwy’n gobeithio y gall y syniad hwnnw o gaffael cyhoeddus rywsut gyfrannu at eich rhaglen o fynd i'r afael â gordewdra. Wrth gwrs, dim ond un ongl yw honno. Mae gweithgarwch corfforol yn sicr yn fater mawr arall a'r angen i gynyddu gweithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc, ac rwy’n credu bod angen ei gyflwyno mewn ysgolion gymaint â phosibl. Ond rydych chi eich hun wedi codi rhai o'r materion a gafodd sylw gan bobl eraill hefyd, sef na allwn ni gyfyngu gweithgarwch corfforol i bobl sy’n gallu ei wneud yn dda. Y broblem, a dweud y gwir, yw perswadio pobl sydd ddim cystal â hynny am wneud gweithgarwch corfforol, y rheini sydd o bosib ddim yn credu bod ganddynt gorff deniadol iawn neu gorff addas i chwaraeon, i wneud gweithgaredd corfforol ystyrlon. Mae Angela Burns wedi codi'r mater hwn o’r blaen wrth siarad am y peth o feinciau'r Ceidwadwyr. Felly, mae hyn yn un o'r problemau.
Roedd Darren Millar yn sôn am bresgripsiynau cymdeithasol, sydd wrth gwrs yn beth arall y gallwn ni ei ddefnyddio mewn ffordd ystyrlon. Ond eto y broblem â phresgripsiynau cymdeithasol yw, os ydych chi'n mynd i berswadio pobl i fynd i gampfeydd, os yw pobl yn credu eu bod nhw'n dew, fwy na thebyg, lawer ohonynt—bydd yn anodd eu perswadio nhw i fynd i'r gampfa oherwydd bydd ganddyn nhw rai pryderon am siâp eu corff. Felly, mae'r rhain yn anawsterau enfawr, a sut rydym ni’n mynd i’w goresgyn nhw, wn i ddim. Mae angen dull gweithredu cydgysylltiedig.
Mae teithio llesol hefyd yn sicr yn rhan ohono, ac rwy’n bryderus braidd ynghylch y ffordd y mae teithio llesol wedi cael ei basio o amgylch y Llywodraeth yn y gorffennol. Mae wedi mynd rhwng gwahanol bortffolios a gwahanol adrannau a gwahanol Weinidogion. Felly, rwy’n gobeithio bod hynny’n rhywbeth sy’n mynd i gael ei gymryd o ddifrif. Yn ôl pob golwg, efallai mai Lee Waters, rwy’n credu bod rhywun wedi awgrymu hynny, sy’n gyfrifol am hynny erbyn hyn. Nawr, nid oes gennym dystiolaeth wirioneddol, ers cyflwyno’r Ddeddf teithio llesol, bod lefelau cyfranogiad wedi gwella rhyw lawer. Felly, rwy’n credu bod angen inni ddefnyddio'r Ddeddf honno, cael gafael arni, ei gweithredu'n gywir a’i defnyddio'n rhan o'ch rhaglen. Mae'n fater eang, a byddwn i’n falch o glywed eich barn ar y mater heddiw.
Diolch i chi am yr ystod o feysydd yr ydych chi wedi sôn amdanynt. Ynglŷn â delwedd y corff, teithio llesol a chaffael, er enghraifft, rwy’n credu fy mod i wedi sôn am y rheini yn y datganiad ac wedi bod yn glir eu bod yn feysydd y mae angen inni roi sylw iddynt. Maen nhw'n rhan o'r ymgynghoriad ac rwy’n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan bobl i'w ddweud am y cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt. Mae gennyf wir ddiddordeb yn yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud ac mewn tystiolaeth o'r hyn sydd â’r gobaith gorau o weithio, oherwydd nid ni yn unig sy’n wynebu’r her hon. Mae gan bob cenedl orllewinol arall her debyg, ac nid yw gwneud dim yn opsiwn. Bydd hynny'n golygu y bydd angen inni ddysgu wrth weithio hefyd, oherwydd does dim un wlad yng ngorllewin Ewrop y gallwch chi ddweud ei bod hi wedi cael hyn yn iawn ar lefel genedlaethol. Ceir peth tystiolaeth, serch hynny, ynghylch rhannau o'r Iseldiroedd fesul dinas lle mae arweinyddiaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Rwy’n anghytuno’n gwrtais â chi ar eich pwynt am weithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc. Wrth gwrs mae'n bwysig ein bod ni’n ceisio hybu patrymau oes ar gyfer pobl ifanc, ond, mewn gwirionedd, mae gweithgarwch corfforol yn bwysig i bob un ohonom, pa un a ydych yn ifanc, yn eich gweld eich hun fel rhywun canol oed neu hŷn. Nid wyf yn mynd i ofyn i'r bobl yn y Siambr hon roi eu hunain mewn categorïau fel yna, ond rydym yn gwybod bod manteision i bob un ohonom o aros yn egnïol yn gorfforol drwy bob cyfnod yn ein bywydau. Mae'n ymwneud â'r math o weithgarwch a sut rydym yn ei wneud yn haws ac yn beth normal i'w wneud ac, unwaith eto, ddim yn fath o benyd neu gosb.
Diolch, Gweinidog. Mae gen i gwpl o gwestiynau heddiw ynghylch gordewdra ymhlith plant, sy'n fater yr wyf yn bryderus iawn yn ei glych. Wrth gwrs, rydym yn gwybod y gall fod problemau daearyddol penodol o ran mynd i'r afael â mater hwnnw, ac un ystadegyn sydd wedi rhoi sioc imi erioed yw'r ffaith bod chwarter y plant yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn ordew—nid dim ond dros bwysau, ond yn glinigol ordew. Gwn fod eich datganiad yn sôn am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ond a fyddai modd ichi roi unrhyw wybodaeth bellach am hyn, neu, yn wir, enghreifftiau o arfer gorau y byddech yn awyddus i’w hyrwyddo?
Mae gordewdra ymhlith plant hefyd yn gallu gwaethygu drwy inni beidio â rhoi i'n pobl ifanc yr hyder i fynd allan i’r byd naturiol, sydd, unwaith eto, yn achos yr wyf i wedi ei hyrwyddo ers imi ddod i'r lle hwn. Yng Nghymoedd y De, mae'r byd naturiol yn union ar garreg eu drws yn aml. Dim ond 13 y cant o blant Cymru sy’n ystyried bod ganddynt gysylltiad cryf â'r awyr agored, felly sut rydych chi’n gweithio gyda chymheiriaid ar draws y Llywodraeth i weld sut y gallwn ni fynd i'r afael â’r canfyddiad hwnnw? Rwyf wedi siarad o'r blaen am sut y gall addysg awyr agored fwy ffurfiol gyfrannu at hynny. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed pa drafodaethau yr ydych chi o bosib wedi'u cael ynghylch sut y gallai hynny gyd-fynd â’r strategaeth i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant.
Diolch am y sylwadau. Rydych chi’n iawn i nodi maint gwahaniaethol yr her sy'n ein hwynebu. Ac mae’n rhan o ail-normaleiddio gweithgarwch a meddwl am y dewisiadau a wnawn ni fel rhieni, oherwydd rydym ni’n gwneud dewisiadau ar gyfer ein plant, ac, wrth wneud hynny, rydym ni mewn gwirionedd yn helpu i bennu eu patrymau ar gyfer bywyd, ac mae hynny'n rhan o'n her. Unwaith eto, mae'n mynd yn ôl i beidio â barnu pobl. Os dywedwch chi wrth rieni, 'Rydych chi'n rhieni gwael oherwydd mae eich plentyn dros bwysau', wnaiff hynny byth—wel, i’r mwyafrif helaeth o bobl, bydd hynny’n eu hanfon nhw’n bellach i ffwrdd ac ni fydd yn ennyn y math o ymddiriedaeth a’r sgwrs y mae angen inni ei chael ynglŷn â sut i wneud y dewisiadau iachach hynny’n llawer haws i bobl. A cheir enghreifftiau micro-gymunedol o bethau sydd wedi gweithio. Yr her yw gwneud hyn ar raddfa, a dyna yw ein her fawr: creu newid diwylliannol sylweddol a newidiadau mewn ymddygiad cymunedol.
Mae’r cyfle bob amser yn fwy pan fydd plant yn iau, ac mae rhieni, a dweud y gwir, yn fwy tebygol o rannu straeon â'i gilydd. Rydych chi'n fwy tebygol o ryngweithio â rhieni pan fo’r plant yn iau, â’r gwahanol weithgareddau y maen nhw’n eu gwneud cyn ysgol gynradd ac wedyn hefyd. Felly, mae cyfle go iawn yn digwydd yn y blynyddoedd cynnar hynny mewn bywyd. Yn wir, rydym ni’n gweld rhai newidiadau buddiol gyda, er enghraifft, rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf, ond y bwriad yw cynyddu’r raddfa o ran cysondeb a gweithgarwch.
Ar y pwynt ehangach ynglŷn â sut yr ydym ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth, ar y thema iach ac egnïol, mewn gwirionedd roedd gennym ni ddwy wahanol strategaeth i ddechrau: un ar weithgarwch ac un ar bwysau iach. Rydym ni wedi dod â nhw at ei gilydd yn fwriadol oherwydd bod cysylltiadau clir yno a hoffem ni sicrhau eu bod yn fwriadol. Yn wir, yr wythnos diwethaf, roeddwn i a’r Dirprwy Weinidog yn bresennol mewn grŵp traws-Lywodraeth yn edrych ar sut y gallwn fwrw ymlaen â mwy o weithgarwch, i edrych ar wahanol ddulliau Llywodraeth o deithio llesol i amgylchedd iachach i bobl yn nhîm Lesley Griffiths, ac i edrych ar sut i ymdrin â hyn ar draws y Llywodraeth ac nid dim ond dweud, 'Mater iechyd ac addysg yw hwn'. Ac mae hynny hefyd yn rhan o'r rheswm pam yr oedd gennym ni’r gronfa iach ac egnïol yn gweithio nid yn unig gyda Chwaraeon Cymru ond hefyd, er enghraifft, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal i ddefnyddio’r asedau sydd gennym ni eisoes, ac, unwaith eto, i normaleiddio defnyddio'r asedau hynny sy’n bodoli o fewn cyrraedd rhwydd i bob cymuned i wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod eu bod nhw yno a’u bod nhw wir yn manteisio ar y cyfle i'w defnyddio nhw.
Ac, yn olaf, Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gordewdra yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r strategaeth hon, oherwydd ni yw’r genedl fwyaf gordew yn Ewrop. Felly, mae croeso mawr i strategaeth. Gweinidog, rwy’n cefnogi llawer o’ch cynllun ac rwy’n croesawu'r pwyslais ar atal, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Ond, ar unrhyw oed, os oes angen newid, mae angen ei groesawu a'i annog.
Gweinidog, yn ogystal â’r strategaeth, a fyddwch chi’n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn gwneud darpariaeth i addysgu plant a phobl ifanc am fwyta'n iach? Yn ein cymunedau a'n trefi, rhaid inni hefyd sicrhau bod mamau, mamau ifanc, yn teimlo'n hyderus am y cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer bwydo ar y fron. Rwy’n croesawu’r gwaharddiad ar ddiodydd egni i blant o dan 16 oed. Diolch byth, mae nifer y bobl ifanc sy’n yfed diodydd llawn siwgr wedi gostwng dros chwarter yn y degawd diwethaf, ac mae'r rhai sy'n eu hyfed nhw’n yfed llawer llai na 10 mlynedd yn ôl. Mae caeau chwarae ysgolion, neu eu diffyg oherwydd adeiladu ar yr ardaloedd hyn, hefyd yn bryder mawr imi oherwydd mae gweithgarwch corfforol yn eithriadol o bwysig ac mae llai a llai ohono’n digwydd.
Mae cyflogwyr sy'n cynnig cymorth i brynu beiciau i feicio i'r gwaith hefyd i'w groesawu ac mae angen rhoi mwy o sylw i hynny. Fodd bynnag, yn ôl yr arolwg cenedlaethol deiet a maeth, mae cymeriant ffibr i lawr, fel y mae cymeriant fitaminau a mwynau, ac mae llawer o bobl yn dal i fwyta llawer llai na phump y dydd. Gweinidog, dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld feganiaeth yn mynd yn fwy poblogaidd, ac, er y gall deiet fegan fod yn iach iawn, mae angen bod yn ofalus i sicrhau’r cydbwysedd cywir o fitaminau a mwynau. Gweinidog, a fyddwch chi’n ystyried gwelliannau i labelu bwyd i helpu pobl i sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â lleihau braster, halen a siwgr, yn cael digon o fitaminau a mwynau i gadw corff iach?
A sôn am labelu bwyd, mae gen i bryderon am fandadu labelu calorïau ar gyfer bwyd sy’n cael ei brynu a’i fwyta y tu allan i'r cartref. Er bod hyn yn gymharol hawdd i siopau mawr, fel McDonalds neu Greggs, efallai na fydd y caffi lleol bach yn gallu ymdopi â’r galwadau a’r costau ychwanegol. Felly, Gweinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gymell symudiadau fel hyn drwy gynnig, er enghraifft, gostyngiad ardrethi busnes i helpu’r busnesau bach hynny i gymryd y cam pellach hwn?
Yn olaf, Gweinidog, er fy mod i’n croesawu’r pwyslais ar atal, rhaid gwneud mwy i helpu'r bobl hynny sydd eisoes yn rhy drwm neu'n ordew. Pa drafodaethau ydych chi wedi’u cael â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol am sicrhau bod meddygon teulu’n cael y sgyrsiau anodd â'u cleifion ynghylch pwysau? A sut ydych chi’n bwriadu ymateb i bryderon Coleg Brenhinol y Ffisigwyr mai dim ond ychydig neu ddim cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gwella gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl sydd eisoes yn ordew? Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd hefyd yn hynod o bwysig, fel mae Vikki Howells eisoes wedi’i ddweud.
Felly, diolch unwaith eto, Gweinidog. Rwy’n edrych ymlaen at weld eich strategaeth derfynol, ac rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau Cymru iachach.
Diolch i chi am eich sylwadau a'r cwestiynau a'r croeso cyffredinol i'r ymgynghoriad. I geisio ymdrin â nhw o chwith i'w trefn, rydym ni'n glir y byddwn ni'n edrych ar y llwybr clinigol i fynd i'r afael â gordewdra; rydym yn cydnabod bod mwy y mae angen inni ei wneud, ac, unwaith eto, mwy o gysondeb a dysgu o'r lleoedd y bu hynny fwyaf llwyddiannus yn y wlad.
Rwy'n credu bod eich pwynt am feddygon teulu yn cael sgyrsiau anodd, mewn gwirionedd yn ymwneud â sut y mae cyswllt yn rheolaidd â gwahanol rannau o'n system iechyd a gofal. Felly, mae'n fater nid yn unig ar gyfer meddygon teulu, ond, unwaith eto, pa mor sensitif yw'r sgwrs a pha un a yw'r cymorth a'r gefnogaeth ar gael. Mewn gwirionedd mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau bod yn iachach o ran pwysau a siâp, ac maen nhw'n ymwybodol o hynny, a'r her yw sut gallwn ni helpu pobl i wneud hynny mewn ffordd sy'n grymuso ac nid yn beirniadu, fel yr wyf wedi ei ddweud sawl gwaith o'r blaen.
O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â labelu bwyd, dyna'r pwynt sydd y tu ôl i'r ymgynghoriad—i ddeall bod barn wahanol, ond mae llawer o fusnesau bwyd eisoes yn darparu'r cyfartaledd o galorïau mewn dogn, pa un a ydych chi mewn cwmni cadwyn neu hyd yn oed mewn siopau llai hefyd. Felly, rydym ni'n bwriadu ymgynghori er mwyn ceisio deall sut y byddai hynny'n edrych. O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â newid deiet, dyna'n union un o'r rhesymau pam yr ydym ni yma—nid yn unig ynghylch mwy o fraster, mwy o siwgr a mwy o halen, ond mewn gwirionedd y diffygion o ran ein deiet hefyd.
A'r pwyntiau ynghylch diodydd egni, bwydo ar y fron, ac, yn wir, y cwricwlwm, sydd, rwy'n credu wedi'u gwneud mewn cyfraniadau blaenorol felly nid wyf am drethu amynedd y Dirprwy Lywydd drwy ailadrodd atebion yr wyf eisoes wedi eu rhoi.
Diolch yn fawr iawn.