1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Chwefror 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pryd fyddwch chi'n gwneud penderfyniad am ddyfodol ffordd liniaru'r M4?
Wel, byddaf yn gwneud penderfyniad, Llywydd, pan fydda i yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Gwn ei bod hi'n rhwystredig i'r Aelodau, ond mae'r sefyllfa yr un fath ag yr wyf i wedi ei hamlinellu ar lawr y Cynulliad o'r blaen. Bu ymchwiliad cyhoeddus lleol mawr. Mae wedi llunio adroddiad, yr wyf i'n credu sy'n sylweddol o ran maint a natur. Mae swyddogion yn parhau i ystyried yr adroddiad hwnnw ac i wneud yn siŵr, pan fyddan nhw'n rhoi cyngor i mi, ei fod yn ddiogel cyn belled ag y mae'r agweddau cyfreithiol yn y cwestiwn, y mae'r agweddau ariannol yn y cwestiwn, y mae'r agweddau polisi yn y cwestiwn, ac rwyf i wedi dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau'r cyngor gorau posibl. Nawr, rwy'n credu y bydd y cyngor hwnnw gen i cyn bo hir, ond rwy'n dal yn fodlon gwneud yn siŵr mai'r cyngor hwnnw yw'r cyngor iawn, ac yna—i fod yn eglur gyda'r Aelod—pan ddaw'r cyngor, byddaf angen amser i astudio'r cyngor hwnnw, oherwydd bydd y cyngor yn gymhleth a bydd yn sylweddol, a bydd yn neilltuo'r amser sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr bod y penderfyniad iawn yn cael ei wneud.
Llywydd, y cwbl yr ydym ni wedi ei gael gan Lywodraethau Llafur olynol yw gogor-droi, gogor-droi, gogor droi, a'r cwbl yw'r ateb yna yw mwy o ogor-droi gennych chi, Prif Weinidog. Mae'n eithaf eglur, er gwaethaf y ffaith fod £44 miliwn o arian trethdalwyr wedi cael ei wario ar yr ymchwiliad i atebion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, bod y manylion yn hel llwch ar eich desg chi erbyn hyn, Prif Weinidog, o gofio y bu misoedd ers cyhoeddi'r adroddiad. Mae eich Llywodraeth yn parhau i lusgo eich traed o ran dod o hyd i ateb ymarferol, ac mae'r ansicrwydd y mae hyn yn ei greu yn niweidio busnesau Cymru ac yn niweidio buddsoddiad. Nawr, yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd mwy na 90 o fusnesau mawr, sy'n cynrychioli chwarter gweithlu Cymru, atoch chi yn gofyn am eglurhad ar y mater hwn ar frys. Mae'n rhaid i chi roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn trwy ddweud wrth Gymru o'r diwedd beth yw eich cynlluniau. Felly, a allwch chi fod yn eglur yn y fan yma heddiw? Os bydd canfyddiadau'r ymchwiliad yn argymell y llwybr du, a wnaiff eich Llywodraeth dderbyn y canlyniad wedyn a darparu'r llwybr du mewn gwirionedd?
Wel, does bosib bod yr aelod yn dychmygu fy mod i'n mynd i roi ateb iddo i'r cwestiwn hwnnw ar lawr y Cynulliad pan nad wyf i wedi gweld yr adroddiad nac wedi gweld dim o'r cyngor ategol a fyddai'n angenrheidiol i mi. Byddai gwneud hynny yn anghyfrifol dros ben, a'r cwbl y byddai'n ei wneud fyddai rhoi beth bynnag a ddywedais mewn perygl cyfreithiol gan y rhai a allai ddymuno ei herio. Wrth gwrs, gwelais yr hyn a ddywedodd y CBI ac eraill, ac mae'n rhaid i'r ateb a roddaf iddyn nhw fod yr un fath ag yr wyf i wedi ei roi i chi: byddaf yn gwneud penderfyniad yn y ffordd orau bosibl. Byddaf yn ei wneud gan roi ystyriaeth lawn i'r holl ffactorau sy'n cyfrannu at ei wneud, a byddaf yn ei wneud yn y ffordd orau y gallaf.
Prif Weinidog, roedd fy nghwestiwn yn gwestiwn syml, ond, unwaith eto, ni allwch chi roi ateb syml. Mae Llafur Cymru wedi oedi ar y mater hwn ers bron i 20 mlynedd erbyn hyn, ac mae'n ymddangos fel pe byddai mor analluog ag erioed i fwrw ymlaen ag ateb i'r broblem. Mae'n dechrau edrych, o'm safbwynt i, fel pe byddai'r prosiect hwn wedi cerdded drwy'r drws gyda'r Prif Weinidog blaenorol. Mae effeithiau niweidiol eich methiannau polisi o ran datblygu system drafnidiaeth effeithiol yn eglur. Mae gwerth ychwanegol gros Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU; mae cynhyrchiant ar waelod tabl cynghrair y DU; mae cyflogau ar waelod tabl cynghrair y DU. Ac ni allwn danbrisio pa mor bwysig yw'r prosiect seilwaith hwn ar gyfer gwella ffyniant economaidd Cymru. Felly, Prif Weinidog, os nad ydych chi'n mynd gyflwyno'r llwybr DU, a allwch chi ddweud wrthym ni pa atebion y byddwch chi'n eu cynnig fel Llywodraeth, oherwydd mae pobl Cymru wedi aros yn ddigon hir?
Llywydd, mae'n anodd gwrando weithiau ar yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud heb gofio mai ei blaid ef yw'r un sydd wedi methu â thrydaneiddio'r rheilffyrdd, sydd wedi bod yn gyfrifol am oediadau yn Wylfa—[Torri ar draws.] A phan ddaw, Llywydd, i aros i weithredu ar adroddiad, sawl mis, ac, yn y pen draw, blwyddyn aeth heibio cyn i'w Lywodraeth ef weithredu i wrthod yr adroddiad yr oedd hi ei hun wedi ei gomisiynu o ran morlyn llanw bae Abertawe? Felly, credaf fod ganddo ddigon i feddwl amdano o ran hanes ei blaid ei hun.
Gadewch i mi ddweud hyn wrtho: roedd ei gwestiwn i mi y gwrthwyneb llwyr i syml. Roedd yn esgus ei bod yn bosibl rhoi ateb syml i gwestiwn cymhleth, y dylwn ddod i gasgliad yma ar lawr y Cynulliad heb ystyried dim o'r cyngor na'r adroddiad ei hun. Byddai hynny i'r gwrthwyneb yn llwyr o ffyrdd synhwyrol o weithredu i mi fod wedi dilyn ei gyngor.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau'r Senedd nad yw eich gwas sifil blaenllaw, yr ysgrifennydd Parhaol y Fonesig Shan Morgan, wedi dweud mewn sgwrs gyda chi, neu'r Cabinet neu gydweithwyr eraill ei bod yn fodlon gadael ei swydd cyn i'w chontract ddod i ben yn 2022?
Rhoddaf sicrwydd i'r Aelod na fu unrhyw sgyrsiau o'r fath.
Prif Weinidog, mae gen i ofn bod yn rhaid i mi bwyso arnoch chi unwaith eto ynghylch y pwynt hwn, ac mae hyn oherwydd natur y mae'r ymadawiad honedig hwn wedi dod i'r amlwg yn y cyfryngau, fel yr adroddwyd ddydd Iau diwethaf gan brif ohebydd y Western Mail, Martin Shipton. Mae'n cyfeirio at y ffaith fod nifer o ffynonellau uwch, ac, fel y mae ef yn ei eirio, rhai sydd mewn sefyllfa dda yn Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r wybodaeth iddo y bu trafodaethau ynghylch ymadawiad cynnar y Fonesig Shan Morgan. Nawr, ceir dau bosibilrwydd sy'n deillio o'r stori fel y'i hadroddwyd: naill ai mae'n wir, sy'n golygu y gallai fod gan yr Ysgrifennydd Parhaol achos i hawlio diswyddiad adeiladol, neu nid yw'n wir, ac felly mae rhywun yn ceisio tanseilio'r Ysgrifennydd Parhaol yn fwriadol. Bu'n rhaid i'ch Llywodraeth chi, o dan eich rhagflaenydd, wadu honiadau o friffio yn erbyn unigolion. Onid ydych chi rhywfaint yn bryderus ei bod yn ymddangos bod yr arfer hwn yn parhau?
Wel, Llywydd, cyn belled ag y mae'r stori honno yn y cwestiwn, rwy'n credu fy mod i'n ffynhonnell sydd mewn cystal sefyllfa ag y bydd gan yr Aelod fyth. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud—. Nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i ddyfalu ynghylch sut y mae pobl eraill wedi dod o hyd i wybodaeth y maen nhw'n credu sydd ganddyn nhw ac yn y blaen. Yr hyn a wnaf, yn syml, yw hysbysu am y sgyrsiau uniongyrchol yr wyf i wedi eu cael gyda'r unigolyn y mae'r Aelod wedi ei henwi, a rhoddaf iddo'r sicrwydd llwyr hwn nad yw'r pethau y mae wedi eu darllen yn y papur newydd erioed wedi codi mewn unrhyw sgwrs yr wyf i wedi ei chael gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, a bod y cywiriad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd ei gynnwys yn y stori honno yn cynrychioli safbwynt Llywodraeth Cymru 100 y cant.
Prif Weinidog, yn yr achos enwog pan wnaeth John Howard ddiswyddo ei holl benaethiaid adrannol 20 mlynedd yn ôl yn Awstralia, cyfeiriwyd ato fel 'noson y cyllyll hir'. Nawr mae eich Llywodraeth chi yn gwadu pob gwybodaeth am sgyrsiau y mae sawl ffynhonnell uwch wedi mynnu eu bod wedi digwydd. Mae'n ymddangos mai noson y cofion byr yw hon. Nawr, roedd yn dweud yn yr erthygl eich bod chi'n awyddus i gael dechrau newydd, ond i roi mwy o hygrededd i'r hyn a ddywedasoch nawr, heddiw, ar y cofnod, a allwch chi gadarnhau na fyddwch chi nac unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan naill ai'n gwneud cais nac yn cytuno i'r Ysgrifennydd Parhaol derfynu ei chontract yn gynnar? Wedi'r cyfan, mae egwyddor bwysig iawn yn y fan yma—mae'r cliw yn yr enw ysgrifennydd 'parhaol'. Er mwyn gwarchod natur ddiduedd ac annibyniaeth y gwasanaeth sifil, ni ddylai gwleidyddion byth allu diswyddo'r gwasanaeth sifil uwch. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os na fydd unrhyw ddechrau newydd yn ystod y ddwy flynedd a hanner nesaf, mai'r bobl fydd y barnwr wedyn, ac mai chi fydd yr unigolyn a ddylai gael ei ddiswyddo wedyn o dan yr amgylchiadau hynny ?
Wel, gadewch imi geisio achub rhywbeth o gwestiwn olaf yr Aelod a fyddai'n werth ymateb synhwyrol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Adam Price bod annibyniaeth a natur ddiduedd y gwasanaeth sifil yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n cyflawni busnes, ac mae'n ganolog i'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni busnes yma yng Nghymru, ac nid oes dim y byddaf i'n ei wneud nac y bydd unrhyw Aelod o'm Llywodraeth yn ei wneud i godi unrhyw amheuon ynghylch yr egwyddor honno. Wrth gwrs, roedd yr Aelod yn iawn ein bod ni i gyd, yn y pen draw, yn gweithio i'r bobl sy'n ein hethol ni, ac mae pob un ohonom ni—pob un ohonom ni—mewn sefyllfa ar ddiwedd tymor Cynulliad lle bydd dyfarniad yn cael ei wneud arnom ni gan y bobl a'n hanfonodd ni yma yn y lle cyntaf, ac felly y dylai hi fod.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae gwasanaethau bws Caerdydd mewn argyfwng. Fe wnaeth Bws Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan y cyngor, golled o bron i £2 filiwn y llynedd ac mae'n colli arian ar gyfradd aruthrol. Mae Bws Caerdydd wedi ymateb trwy dorri llwybrau a chodi prisiau tocynnau, sy'n effeithio ar deithwyr, a thrwy israddio tâl ac amodau ar gyfer ei staff ei hun. Mae'n dal i fod heb ffeilio ei gyfrifon ar gyfer y llynedd. Beth yw eich myfyrdodau ar argyfwng bysiau Caerdydd a'i oblygiadau ar gyfer gwasanaethau bysiau yng ngweddill Cymru?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau y mae'n eu codi yn rhai pwysig i bobl sy'n byw yn y brifddinas yn arbennig. Oherwydd y sefyllfa yng nghwmni Bws Caerdydd y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gysylltu â'r cwmni i gynnig cyngor iddyn nhw, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael pa bynnag gymorth sydd ei angen arnyn nhw i geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb i'r pwysau masnachol y maen nhw'n ei wynebu ac i wneud penderfyniadau sy'n hybu iechyd hirdymor gwasanaethau bysiau yn y brifddinas.
Rwy'n falch bod camau wedi eu cymryd eisoes ac rwy'n falch bod eich Gweinidog trafnidiaeth eisoes yn rhoi sylw i'r mater ac y bydd trafodaeth gyda Chyngor Caerdydd. Ond mae problemau gyda thrafnidiaeth yng Nghaerdydd wedi bodoli ers cryn amser, felly rwy'n credu efallai y gallaf i gynnig rhai awgrymiadau—gwn ei fod yn Weinidog Cabinet galluog iawn, ond efallai y gallaf i gynnig rhai awgrymiadau y tro hwn. Cyngor Caerdydd sy'n goruchwylio gweithrediad Bws Caerdydd ac yn craffu arno, ond tybed pa mor effeithiol yw'r craffu hwnnw mewn gwirionedd. Nid oes gan Gyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan eich Plaid Llafur Cymru chi bwyllgor trafnidiaeth i oruchwylio gweithrediadau bysiau. Caiff Bws Caerdydd ei oruchwylio gan bwyllgor yr amgylchedd mewn gwirionedd, sy'n ymddangos fel pwyllgor eang iawn, a tybed pa mor drylwyr maen nhw'n ystyried y gweithrediadau bysiau. Hefyd, caiff ei gadeirio gan Ramesh Patel, ac fe oedd aelod cabinet y cyngor dros drafnidiaeth tan yn ddiweddar. Felly, i ryw raddau, mae'n craffu i bob pwrpas ar benderfyniadau a wnaed ganddo ef ei hun nid mor bell yn ôl fel yr aelod cabinet. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol o hyn, Prif Weinidog, oherwydd pan fo ganddo'r amser i wneud hynny, mae'r Cynghorydd Patel hefyd yn gweithio i chi yn y Cynulliad. A ydych chi'n ffyddiog fod gan bwyllgor yr amgylchedd Cyngor Caerdydd, sy'n llawn aelodau Llafur, y gallu mewn gwirionedd i oruchwylio'r hyn y mae Bws Caerdydd yn ei wneud a helpu i roi trefn ar y llanastr syfrdanol hwn?
Wel, Llywydd, mae trefniant priodol lle ceir bwrdd sy'n gofalu am Bws Caerdydd ac mae'r berthynas rhwng y cwmni a chyngor y ddinas yn un i gyngor y ddinas ei hun i fod yn fodlon â hi, nid i mi. Cyn belled ag y gwelaf i o'r tu allan, rwy'n credu bod y trefniadau craffu hynny yn gadarn. Yn dilyn y Papur Gwyn y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi ei gyhoeddi ac yn y ddadl yn ei gylch yma yn y Cynulliad, gallai arwain at awdurdod trafnidiaeth ar y cyd, a fyddai'n atgyfnerthu'r trefniadau craffu ymhellach dros yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd ond yn fwy eang ar draws holl ranbarth de Cymru a thu hwnt.
Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr awdurdod trafnidiaeth ar y cyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth, ac mae'n well na dim ond dweud, 'Mater i'r cyngor lleol yw hwn', sef y math o ymateb y mae Gweinidogion yn y fan yma yn tueddu i guddio y tu ôl iddo fel rheol. Ond mae'n ddiddorol, onid yw, pan wnaethoch chi ymgyrchu ar gyfer swydd y Prif Weinidog, mai un o'ch polisïau oedd cytuno gyda Jeremy Corbyn bod angen i ni ddychwelyd i gael mwy o gwmnïau bysiau trefol yma yng Nghymru? Pe byddech chi'n gwneud yr hyn y dywedasoch chi y byddech chi'n ei wneud ac yn ceisio cael mwy o gwmnïau bysiau trefol, onid yw'n wir mai'r cwbl y byddai hyn yn ei wneud yw ymestyn model aflwyddiannus Caerdydd ledled Cymru gyfan ac achosi mwy o broblemau i drethdalwyr Cymru, sydd eisoes o dan bwysau?
Wel, yr ateb i hynny, Llywydd, yw: nac ydy siŵr iawn. Oherwydd pe byddem ni mewn sefyllfa, fel yr ydym ni'n gobeithio gallu bod ynddi, i ailgyflwyno ail-reoleiddiad y gwasanaethau bysiau i ddod â gwasanaethau sy'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud ynddynt eisoes yn ôl o dan reolaeth y cyhoedd, yna byddem ni'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n osgoi llawer o'r anawsterau y mae'r model presennol yn ei achosi i'r gwasanaeth bysiau trefol yma yng Nghaerdydd. Rwy'n falch iawn yn wir o gysylltu fy hun â'r cynigion hynny sy'n cael eu datblygu i ddod â gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn ôl o dan reolaeth y cyhoedd a'r bobl hynny sydd eisoes yn talu amdanyn nhw, ac mae'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog yn gam mawr ymlaen ar y daith honno.