2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
2. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru yn 2019? OAQ53433
Cefnogir ein hymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd, gan gynnwys cysgu allan, â buddsoddiad ychwanegol sylweddol o £30 miliwn. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad ar gyfer Tai yn Gyntaf a chymorth i amrywiaeth o fentrau fel rhan o'n cynllun gweithredu cysgu allan.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn eu hymateb i ymchwiliad y Cynulliad i gysgu allan yng Nghymru, dywedodd cyngor dinas Caerdydd y gall llawer o bobl sy'n cysgu allan barhau i fod wedi'u hynysu ar y strydoedd gan nad ydynt am gael llety mewn hosteli. Y llynedd, gwrthododd Llywodraeth Cymru gais am arian gan Gyngor Dinas Casnewydd i ddarparu podiau digartrefedd ar gyfer pobl sy'n cysgu allan. Roedd hynny'n ddigalon iawn. Yn gynharach y mis hwn, cafwyd adroddiadau y bydd cynllun ar gyfer troi cynwysyddion llongau yn llety yn dod i Gaerdydd, ar ôl cael ei dreialu ym Mryste. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y dylid annog syniadau arloesol o'r fath er mwyn mynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru mewn perthynas â'r bobl nad ydynt eisiau llety mewn hosteli yng Nghymru, am ba reswm bynnag?
Fel Llywodraeth, ein prif amcan yw cefnogi ymyrraeth gyda'r bwriad o gefnogi pobl i osgoi cysgu allan fel cam gweithredu cyntaf. O'r £30 miliwn ychwanegol, darperir £12 miliwn i'r awdurdodau lleol i gynyddu eu cymorth i bobl sy'n dweud eu bod yn ddigartref. Fel y dywed yr Aelod yn gwbl gywir, ceir llawer o resymau pam nad yw pobl yn teimlo ei bod yn iawn iddynt, neu'n briodol iddynt yn wir, fynd i aros mewn hostel, felly dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'n partneriaid yn y trydydd sector i sicrhau y gallwn fabwysiadu ymagwedd gyfannol sy'n ystyried yr unigolyn a'r amgylchiadau unigol. Cyfeiria'r Aelod at fenter podiau Cyngor Dinas Casnewydd a ddaeth gerbron Llywodraeth Cymru cyn hynny. Er y credaf fod Llywodraeth Cymru yn deall y bwriad y tu ôl i'r podiau hyn a'r broblem y maent yn ceisio mynd i'r afael â hi, roedd pryderon ynghlwm wrth eu defnydd a pha opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer ariannu, gyda phob pod yn costio oddeutu £6,000. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i weithio gyda phob un o'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i edrych ar sut y gellir rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â chysgu allan a digartrefedd yng Nghymru, ym mhob un o'n dinasoedd a'n trefi.
Hoffwn ddychwelyd at fater carcharorion CEM Caerdydd yn troseddu ar ôl cael eu rhyddhau fel y gallant gael to uwch eu pennau. Mae gan y Blaid Lafur yn y Llywodraeth hanes blaenorol o addo datrys y broblem hon. Ym mis Rhagfyr 2015, cafwyd addewid gan y Gweinidog cymunedau, Lesley Griffiths, y byddai carcharorion sy'n wynebu bod yn ddigartref yn cael cymorth am 56 diwrnod cyn iddynt gael eu rhyddhau. Wrth lansio'r llwybr cenedlaethol yr honnodd y byddai'n rhoi Cymru ar y blaen i weddill y DU, dywedodd
'Heb os nac oni bai, mae llety sefydlog yn ffactor allweddol wrth geisio torri cylch troseddu.'
Yna, lansiwyd fframwaith y llynedd gan y Gweinidog llywodraeth leol, Alun Davies, i ddarparu newid cadarnhaol ar gyfer y rheini sydd mewn perygl o droseddu. Fe gyhoeddodd yn groyw iawn ymrwymiad y Llywodraeth i leihau—ac rwy'n dyfynnu:
'troseddu ac aildroseddu, er mwyn helpu i sicrhau bod ein cymunedau’n parhau’n ddiogel.'
Rydym wedi cael digon o eiriau calonogol gan gyn-Weinidogion yn y gorffennol, ond fel y dangosodd adroddiad y bwrdd monitro annibynnol yr wythnos diwethaf, mae'r dyfodol yn parhau i fod yn llwm iawn i lawer o garcharorion pan gânt eu rhyddhau o'r carchar. Sut y byddwch yn sicrhau bod eich mentrau newydd yn gwneud yn well na'ch mentrau blaenorol?
Diolch. Mae'r Aelod yn llygad ei lle, yn enwedig yn CEM Caerdydd, o ran yr effaith y gall dedfrydau tymor byr ei chael, yn enwedig y 56 diwrnod, oherwydd os ydych yn y carchar am gyfnod byr iawn, mae'n gyfnod digon byr i gael effaith ar eich llety blaenorol, a llety eich teulu o bosibl. Ac a dweud y gwir, mae'n her i sicrhau bod y llety cywir ar gael wedi hynny. Mae'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar fynd i'r afael â hyn fel mater o frys.
Ar yr un pwnc, Weinidog, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar garcharorion o'r categori angen blaenoriaethol, a bod protocol wedi'i roi ar waith wedyn a ddylai fod wedi cysylltu sefydliadau ac asiantaethau er mwyn sicrhau bod gan garcharorion do uwch eu pennau wrth gael eu rhyddhau, ymddengys nad yw hynny'n gweithio'n dda iawn, o ystyried yr ystadegau y cyfeiriodd Leanne Wood atynt. Tybed, bellach, yn y sefyllfa hon, a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych eto ar sefyllfa pobl sy'n gadael carchar, o gofio'r goblygiadau amlwg i'w hiechyd a'u lles os ydynt yn cysgu allan a heb gartref diogel, yn ogystal â'r effaith ar aildroseddu.
A gaf fi ddiolch i John? Gwn fod gan yr Aelod, yn ei rôl fel Cadeirydd y pwyllgor, gryn ddiddordeb yn y maes hwn. Gwnaethoch bwyntiau tebyg iawn i'r rhai a wnaeth Leanne. Cyfeiriaf yn ôl at yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan y bwrdd monitro annibynnol ar gyfer CEM Caerdydd, a oedd yn cynnwys canfyddiadau llwm iawn. Rydym yn cydnabod bod problem benodol yn CEM Caerdydd gyda lefelau uchel o ddedfrydau byr, a'r effaith a gaiff hynny. Fodd bynnag, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn y Siambr yr wythnos diwethaf, rydym yn disgwyl gweld gwelliannau yn safonau a chapasiti'r cwmnïau adsefydlu cymunedol, sy'n darparu gwasanaethau adsefydlu ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, ac rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol yn y maes drwy'r grant atal digartrefedd. Yn sicr, rydym yn cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod er mwyn sicrhau bod yr adolygiad a wnawn o angen blaenoriaethol yn arwain at welliannau yn y maes hwn.