1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 6 Mawrth 2019.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau cyllido mewn llywodraeth leol? OAQ53523
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyllidebau awdurdodau lleol? OAQ53482
Diolch. Deallaf, Lywydd, eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 3 a 4 gael eu grwpio. Gyda'n gilydd, cyfarfu'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau â chynrychiolwyr llywodraeth leol yn yr is-grŵp cyllid ar 23 Ionawr, lle buom yn trafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys yr heriau cyllid sy'n wynebu llywodraeth leol.
Diolch, Weinidog. Ddoe, o ganlyniad i gyni Torïaidd, bu'n rhaid i gyngor Torfaen godi'r dreth gyngor 5.9 y cant er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn enwedig ysgolion a gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn o gynrychioli cyngor Llafur sy'n brwydro mor galed i ddiogelu gwasanaethau lleol, ac er fy mod yn croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ar ôl y gyllideb ddrafft, heb os, mae awdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol enfawr, yn enwedig mewn perthynas ag addysg a gofal cymdeithasol.
O ran addysg, efallai eich bod yn ymwybodol fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i gyllid ysgolion yng Nghymru, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y dystiolaeth rydym wedi'i chael hyd yn hyn gan athrawon ac arweinwyr ysgolion yn peri cryn bryder.
Clywch, clywch.
A gaf fi ofyn pa drafodaethau y bydd y Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a pha sicrwydd y gallwch ei roi fod sicrhau cyllid digonol ar gyfer ein hysgolion yn flaenoriaeth i chi?
Diolch am godi hyn, ac mae'n syfrdanol clywed pobl yn gweiddi 'cwestiwn da' a 'clywch, clywch' ar feinciau'r Ceidwadwyr pan fydd cyllid fesul y pen o'r boblogaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig dydd i ddydd, megis ysgolion yng Nghymru, 7 y cant yn is y flwyddyn nesaf na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl o ganlyniad i gyni. Rhwng 2010-11 a 2019-20, bydd cyllideb Cymru wedi gostwng 5 y cant mewn termau real, pan fydd cyllid ad-daladwy wedi'i eithrio. Felly, mae hynny'n cyfateb i £850 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus bob blwyddyn, ond serch hynny, rydym yn rhoi blaenoriaeth glir i'r GIG, rydym yn blaenoriaethu addysg, ac rydym yn blaenoriaethu gwasanaethau cymdeithasol.
Felly, o ran ysgolion yn benodol, rydym yn rhoi'r cyfan o'r £23.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis Medi diwethaf i awdurdodau lleol er mwyn ariannu dyfarniad cyflog athrawon ysgol yn 2018-19 a 2019-20. Ac yn ychwanegol at hyn, rydym wedi mynd ymhellach ac wedi cyhoeddi £15 miliwn ychwanegol o arian a fydd yn cael ei roi dros y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymdopi â'r pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â chyflogau athrawon yn benodol.
Fodd bynnag, rwy'n llwyr gydnabod y pwysau enfawr sydd ar awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Rydym wedi rhoi'r setliad gorau posibl, ond rydym yn gwbl ymwybodol fod hynny'n golygu dewisiadau anodd ar gyfer ein cymheiriaid mewn llywodraeth leol.
Weinidog, un o ganlyniadau'r cyni Torïaidd yw nid yn unig fod gan y Cynulliad lai o arian, ond golyga hefyd fod llai o arian gan lywodraeth leol. Ac wrth gwrs, un elfen sydd o dan bwysau yw'r canolfannau hamdden a ddarperir, sydd o werth cyhoeddus sylweddol i'n cymunedau. Rydym eisoes yn gweld canolfannau hamdden yn gorfod cau neu gael eu trosglwyddo i ymddiriedolaethau. Gofynnaf ichi ystyried hyn, Weinidog: drwy gael gwared ar y rhwymedigaeth mewn perthynas â'r dreth gyngor i ganolfannau hamdden awdurdodau lleol, ceir cyfle i sicrhau chwarae teg rhyngddynt a'r ymddiriedolaethau. Byddai hynny'n arbed, yn sicr yn fy nghyngor i yn Rhondda Cynon Taf, oddeutu £800,000 y flwyddyn. Os oes rhaid i'r awdurdodau hyn gau neu drosglwyddo'r canolfannau hamdden hynny i ymddiriedolaeth, rydym yn colli'r arian hwnnw beth bynnag. Felly, credaf y byddai hon yn ffordd greadigol o gefnogi ein canolfannau hamdden cymunedol sy'n eiddo i'r cyhoedd lle rydym yn talu cyflog gweddus—amodau gweddus, yn atebol i'r gymuned. A thrwy gael gwared ar y rhwymedigaeth a sicrhau chwarae teg, gallem wneud llawer i'w hamddiffyn ac i warchod yr elfen hon o wasanaeth cyhoeddus.
Diolch yn fawr iawn, a gwn eich bod wedi codi'r mater penodol hwn gyda mi yn y Siambr wythnos neu ddwy yn ôl, ac yn sicr, rwyf wedi cael mwy o gyfle i archwilio'r mater ymhellach. Credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei gofio yw bod holl refeniw ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol i helpu i ariannu gwasanaethau lleol. Felly, bydd y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael mwy o ganlyniad i dalu ardrethi annomestig nag y gwelant yn cael ei dalu allan yn eu hardaloedd eu hunain. Gallai rhoi rhyddhad ardrethi neu esemptiadau i gynghorau neu gyrff cyhoeddus eraill ystumio'r gystadleuaeth a'r marchnadoedd, gan roi mantais annheg i gyfleusterau cyhoeddus dros y rhai preifat, a gallai hynny arwain at oblygiadau mewn perthynas â chymorth gwladwriaethol, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf. Ond yn amlwg, gwn fod hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i chi; rwy'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs honno.
Weinidog, mae talwyr y dreth gyngor yn ne-ddwyrain Cymru yn wynebu cynnydd aruthrol yn eu biliau diolch i setliad llywodraeth leol annigonol Llywodraeth Cymru. Mae pobl sy'n byw yng Nghasnewydd, Torfaen a Merthyr Tudful yn wynebu cynnydd o bron i 6 y cant yn eu biliau, ac mae cyngor Caerffili ar fin cael cynnydd o bron i 7 y cant. O gofio mai ymarfer cysylltiadau cyhoeddus yn unig oedd cap 5 y cant Llywodraeth Cymru yn fy marn i, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Aelodau ynghylch yr effaith ddinistriol y bydd y codiadau anferth hyn yn ei chael ar deuluoedd sydd dan bwysau, yn aml yn y rhannau tlotaf o Gymru?
Credaf fod yr haerllugrwydd ar feinciau'r Ceidwadwyr yn eithaf anhygoel y prynhawn yma. Pe bai gwariant cyhoeddus wedi cadw i fyny â thwf yn yr economi, byddai gennym £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario y flwyddyn nesaf, a dychmygwch pa mor hael y gallem fod tuag at awdurdodau lleol pe ba hynny wedi digwydd. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth y Ceidwadwyr, os yw'r Ceidwadwyr yn dymuno cael mwy o arian ar gyfer unrhyw ran o'r bywyd Cymreig, boed yn awdurdodau lleol neu'r GIG neu unrhyw le arall, byddai'n rhaid iddynt ddweud wrthym lle dylid gwneud y toriadau.
Weinidog, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ymbil bob amser ar Lywodraeth Cymru i leihau faint o grantiau penodol wedi'u neilltuo a ddyrennir i gynghorau ar sail flynyddol. Yn amlwg, maent yn dadlau y dylid darparu'r cyllid hwn yn uniongyrchol drwy'r grant cynnal refeniw yn lle hynny, gan roi cymaint o ryddid â phosibl i awdurdodau lleol ymateb i angen lleol. Nawr, a ydych yn cydnabod yr alwad hon, ac o gofio cyflwr presennol cyllid llywodraeth leol, a wnewch chi ymrwymo i wrando ar arweinwyr awdurdodau lleol mewn perthynas â'r pwynt hwn yn ystod y broses o bennu'r gyllideb nesaf?
Diolch yn fawr. Mae bob amser yn wir, yn amlwg, yr hoffai awdurdodau lleol gael cymaint o'r arian â phosibl yn y grant cynnal refeniw, ac rydym wedi cymryd camau, ar sail flynyddol rwy'n credu, i ystyried beth arall y gallwn ei wneud er mwyn rhoi'r math o hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i awdurdodau lleol. Bydd yr is-grŵp cyllid yn cyfarfod eto cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno yno.
Er bod mwy o bwysau ariannol ar yr holl awdurdodau, mae'n hysbys iawn ledled Cymru bellach, o ran gofal cymdeithasol, fod gennym fom sy'n tician. Ni all awdurdodau lleol reoli eu cyllidebau gofal cymdeithasol. Gwyddom bellach, wedi protest yng ngogledd Cymru dros y penwythnos, a thrwy siarad ag undebau a phobl, athrawon ac arweinwyr yn ein maes addysgol, fod gennym argyfwng cyllido addysg yn ein hawdurdodau lleol.
Nawr, mae'n rhaid eich bod yn ymwybodol fod awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisoes wedi ymdrechu i wneud arbedion ariannol sylweddol: £15.6 miliwn eleni yn unig. Felly, nid oes unrhyw beth ar ôl iddynt ei dorri. Nawr, o ganlyniad i hynny, cynnydd o 9.6 y cant yn y dreth gyngor yng Nghonwy, 9.5 y cant ar Ynys Môn ac 8.75 y cant yn sir y Fflint. Serch hynny, mae llawer o awdurdodau lleol, a'r rheini gyda dros £100 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn—maent wedi cael cynnydd yn eu cyllid. Pryd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn edrych ar Gymru gyfan ac yn darparu'r cyllid ariannol sydd ei angen ar sail angen demograffig, a rhoi'r gorau i'r ystumio gwleidyddol o wobrwyo awdurdodau lleol dan arweiniad Llafur? Ac i fod yn onest, rydych yn gwneud tro gwael ag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, yn enwedig yn fy ardal i yn Aberconwy.
Wel, edrychwch, nid yw'n wir o gwbl fod gwleidyddiaeth yn cael unrhyw le yn y fformiwla ariannu llywodraeth leol. Datblygir y fformiwla ariannu llywodraeth leol ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau wedi dweud yn glir iawn wrth lywodraeth leol, os ydynt am gynnig ffordd wahanol o rannu cyllid ymhlith awdurdodau lleol, y byddem yn fwy na pharod i gael y sgyrsiau hynny, ond nid oes syniad neu gynigion o'r fath wedi cael eu cynnig eto.