1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 26 Mawrth 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod trefn caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn addas i'w diben?
Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae'r drefn caffael cyhoeddus wrthi'n cael ei hadolygu a'i diwygio. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar y mater hwn ym mis Medi y llynedd, a oedd yn nodi'r ffordd y bydd caffael cyhoeddus yn cael ei drefnu yn y dyfodol, ac mae gwaith yn parhau i gyflawni ar y prosbectws a gyflwynwyd gennym bryd hynny.
Wel, mae'n eithaf amlwg, Prif Weinidog, bod eich Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi bod yn fethiant llwyr, wrth gwrs, gan fethu â chyrraedd ei dargedau a chostio arian i'r trethdalwr pan ddylai fod yn arbed arian—hyn i gyd gyda diffyg cymhwysedd a chyfeiriad llwyr gan eich Llywodraeth chi. Nawr, peidiwch â chymryd fy ngair i am hyn: canfu adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2017, yn hytrach na phrosesu mwy na £1 biliwn y flwyddyn ar gyfer eitemau swmp-brynu, dim ond £150 miliwn a wariwyd gan gyrff cyhoeddus yn 2015-16, ac, o 2015 i 2017, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud colledion blynyddol o £2 filiwn. Nid yw'r gwasanaeth hwn wedi gallu ad-dalu benthyciad o £5.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mae cronfeydd wrth gefn y Llywodraeth erbyn hyn yn parhau i lenwi'r diffyg tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Yn olaf, canfu'r swyddfa archwilio hefyd mai dim ond traean o'r cyrff cyhoeddus a gymerodd ran mewn arolwg oedd yn fodlon â'r gwasanaeth hwnnw. Prif Weinidog, pam wnaeth y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fethu mewn modd mor wael?
Wel, Llywydd, cyfeiriais at fy natganiad ysgrifenedig o fis Medi y llynedd, ond nid oeddwn i wedi disgwyl i'r Aelod ei ddarllen ar lafar, oherwydd roedd popeth y mae ef wedi ei ddweud yn amlwg yn y datganiad hwnnw bryd hynny, ac yn ateb ei gwestiwn cyntaf. Rydym ni'n diwygio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yng Nghymru. Nid wyf i'n derbyn yr hyn a ddywedodd yn ei frawddeg gyntaf yn ei ail gwestiwn, oherwydd mewn gwirionedd bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cyflawni lefel uwch o arbedion ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf—yn y flwyddyn ariannol bresennol, yn hytrach—nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes. Ond mae angen ei ddiwygio. Mae pethau wedi symud ymlaen ers iddo gael ei greu gyntaf. Bydd y rheolau ar gyfer caffael yn newid wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a chyflwynodd fy natganiad ym mis Medi y ffordd y bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau i fod â phortffolio symlach o wasanaethau y mae'n eu darparu i brynwyr yng Nghymru. Byddwn yn gwneud mwy ar y lefel rhanbarthol a lleol. Byddwn yn dibynnu ar Wasanaeth Masnachol y Goron ar gyfer nifer fach o fentrau caffael lle'r ydym ni'n credu bod hynny'n cynnig gwell gwerth am arian i Gymru. Byddwn yn dysgu o'r profiad yr ydym ni wedi ei gael, a byddwn yn cynllunio gwasanaeth sy'n diwallu anghenion y rhai sy'n ei ddefnyddio. Mae hynny i gyd eisoes yn rhan o bolisi'r Llywodraeth. Nid wyf i'n hollol sicr beth y mae'r Aelod yn ei feddwl y mae wedi ei ychwanegu at hynny yn ei gwestiynau hyd yn hyn y prynhawn yma.
Wel, yr hyn wyf i wedi ei ychwanegu, yn amlwg, yw bod eich Llywodraeth chi wedi methu, oherwydd mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'r swyddfa archwilio wedi gwneud hynny'n gwbl eglur, oherwydd, pan sefydlwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, dywedwyd wrthym y byddai'n arbed arian trethdalwyr ac yn ei gwneud yn haws i fusnesau bach gaffael contractau. Yn hytrach, mae wedi costio arian i drethdalwyr ac wedi methu â chefnogi busnesau. Felly, a wnewch chi achub ar y cyfle heddiw i ymddiheuro i bobl Cymru am ei fethiant, ac a allwch chi amlinellu'n benodol nawr pa newidiadau sydd wedi eu gwneud, yr effaith ar weithio yn rhanbarthol ac yn lleol, neu, unwaith eto, a yw hwn yn fater syml o'ch Llywodraeth chi yn tin-droi ac yn rhoi penderfyniad arall o'r neilltu, yn union fel ffordd liniaru'r M4?
Wel, mae hwn yn hen bwynt diflas y mae'r Aelod yn ei gynnig i ni wythnos ar ôl wythnos. Gallaf sicrhau'r Aelodau bod yr adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi ei arwain gan y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Dyna'r oeddem ni eisiau ei sicrhau—bod y gwasanaeth a ddarperir yn un y mae'r bobl sy'n dibynnu arno yn ei ganfod yn fwyaf defnyddiol iddyn nhw. Rydym ni'n parhau i weithio ochr yn ochr â nhw, rydym ni'n parhau i ddiwygio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fel ein bod ni'n symud rhywfaint o'i gapasiti i'r lefel rhanbarthol a lleol hwnnw. Rydym ni'n gwneud yn union hynny er mwyn gwneud yn siŵr y gall economïau lleol fanteisio ar rym caffael cyhoeddus wrth i ni symud i sefyllfa lle nad y pris rhataf sy'n bwysig, ond y gwerth mwyaf yn gyffredinol am wariant cyhoeddus yr ydym ni'n ei gael o'r gwerth £6 biliwn o wariant cyhoeddus a wneir yn y modd hwn ledled Cymru bob blwyddyn.
Arweinydd Plaid Cymu, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrtha i fan hyn mai polisi eich Llywodraeth chi o ran Cymraeg yn y gweithle yw gwthio cyrff cyhoeddus i wneud mwy i hybu'r Gymraeg. Fodd bynnag, y gwrthwyneb sydd wedi digwydd yn achos y llyfrgell genedlaethol, lle mae wedi dod yn amlwg bod y Gweinidog diwylliant wedi gwrthwynebu yn chwyrn gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer swydd y prif lyfrgellydd, yn groes i bolisi eich Llywodraeth chi eich hun. Mae e-byst rhwng Llywodraeth Cymru a'r llyfrgell genedlaethol ynglŷn ag e-byst mewnol rhwng y Gweinidog a'i swyddogion yn cadarnhau bod y Llywodraeth wedi ceisio bargeinio o ran yr archif ddarlledu genedlaethol i ddwyn pwysau ar awdurdodau'r llyfrgell i beidio â gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd. Dyma ddyfyniad o gofnod o sgwrs ffôn rhwng yr adran diwylliant a'r llyfrgell, lle dywedwyd wrth y llyfrgell:
os byddan nhw'n bwrw ymlaen, gallai wneud pethau'n llawer mwy anodd o ran materion Llyfrgell Genedlaethol eraill y maen nhw'n gobeithio sicrhau ein cefnogaeth ar eu cyfer (e.e. yr Archif Ddarlledu).
Fis yn ddiweddarach i ddyddiad yr e-bost, rŷn ni'n gwybod bod y buddsoddiad yma ar gyfer yr union archif ddarlledu yn y fantol. Ydych chi, Brif Weinidog, yn cytuno bod yr awgrym lleiaf o ddefnyddio dylanwad amhriodol gan Weinidogion yn hollol annerbyniol, ac a wnewch chi felly sicrhau'r Cynulliad y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ystyried a yw'r Dirprwy Weinidog diwylliant a'i adran wedi gweithredu'n groes i'r cod gweinidogol a'r egwyddorion Nolan yn hyn o beth?
Wel, nid wyf i'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, Llywydd, o gwbl. Yn hytrach na dibynnu ar nodiadau ar hap o sgyrsiau dros y ffôn, gadewch i ni weld beth yn union ddigwyddodd yn yr achos hwn. Y canlyniad sydd gennym ni ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw bod gennym ni lyfrgellydd cenedlaethol newydd sy'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gymwys i wneud y swydd. Dyna'r hyn sydd gennym ni mewn gwirionedd. Ac mae gennym ni archif ddarlledu newydd wedi'i lleoli yn y llyfrgell genedlaethol. Mae hynny'n ymddangos i mi—. Mae'n ymddangos i mi bod y ddwy ffaith hynny yn llawer mwy grymus ac yn tystio i'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymgymryd â hyn na dibyniaeth yr Aelod ar balu, fel erioed, ymhell i chwyn mater yn hytrach na gallu cydnabod ei sylwedd.
Os caf i ddweud—[Torri ar draws.] A gaf i ddweud bod hynny'n ymateb gwbl warthus gan y Prif Weinidog i gwestiwn digon dilys a oedd yn gofyn dim ond am ddyfarniad ganddo fe? Yn ôl y cod, mae hawl gyda ni i ofyn iddo fe am ddyfarniad. Mae e wedi gwneud ei safbwynt yn glir. Mae'n siŵr y byddwn ni'n dychwelyd at y mater yma pan ddaw rhagor o fanylion i'r fei.
Prif Weinidog, i droi at y dadleuon hanesyddol sydd ar y gweill yn San Steffan yr wythnos hon ar y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i wneud popeth o fewn ein gallu i roi llais i fuddiannau Cymru. Fodd bynnag, yng nghyfarfod y pwyllgor materion allanol ddoe, roeddech chi'n amharod i ddweud pa un o'r dewisiadau a fydd yn cael eu dadlau ar lawr Tŷ'r Cyffredin yfory sy'n well gennych chi. Dywedasoch y byddai gwneud hynny'n golygu ymgysylltu â chwestiynau damcaniaethol. Ond, yn sicr, o un safbwynt o leiaf, nid oes unrhyw gwestiwn damcaniaethol—mae'n fater o egwyddor sylfaenol. Roedd hynny'n ganolog i'r orymdaith gan dros filiwn o bobl yn Llundain ddydd Sadwrn. A dyna'r cwestiwn—pa un a ddylid mynd â pha bynnag gytundeb a ddaw allan o'r Senedd yn ôl i'r bobl. Roedd eich Gweinidog iechyd yn eglur ynghylch y cwestiwn hwn, roedd eich Gweinidog materion rhyngwladol yn eglur ynghylch y cwestiwn hwn, ac felly hefyd llawer o Aelodau eraill o'ch meinciau eich hun ac, yn wir, aelodau eich plaid a ymunodd â mi mewn rali pleidlais y bobl ym Mangor. Y cwestiwn yw, Prif Weinidog: beth yw eich safbwynt chi?
Wel, fy safbwynt i, Llywydd, yw'r un safbwynt yn union ag y bu gen i o'r cychwyn. Mae safbwynt ei blaid—. Mae ei safbwynt ei hun yn newid o ddydd i ddydd. Fel y gwyddom, roedd gan ei blaid bedwar safbwynt mewn un diwrnod ddim ond wythnos yn ôl. Dim ond un safbwynt oedd gan y Llywodraeth hon, sef yr un a gyflwynwyd yn eglur iawn y prynhawn yma gan y Gweinidog Brexit. Rwy'n gobeithio, yr wythnos hon, yn y Senedd, y bydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle i bleidleisio ar y math o gytundeb a nodwyd gennym yn ein papur, 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rwy'n gobeithio y byddan nhw hefyd yn cael cyfle i bleidleisio ar ail refferendwm. Gellid cefnogi'r ddau ganlyniad hynny o safbwynt Llywodraeth Cymru ac, os gall ASau gytuno ar y naill neu'r llall ohonynt, byddwn yn gallu cefnogi'r canlyniad hwnnw.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, bydd aelodau'r Blaid Lafur yn edrych ag anobaith ar yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud. Roeddwn i'n sefyll mewn undod—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n sefyll mewn undod gydag aelodau'r Blaid Lafur oherwydd, ar rai materion, dylem ni roi ein gwahaniaethau pleidiol o'r neilltu. Ie, pleidlais y bobl yw polisi fy mhlaid i; dyna bolisi eich plaid chithau hefyd. Pam nad ydych chi ac arweinydd y Blaid Lafur yn sefyll yn gadarn drosto? Dywedodd Syr Keir Starmer, Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid, dros y penwythnos, pa bynnag ateb fydd yn ennill mwyafrif yn San Steffan—ac rwy'n ei ddyfynnu yn uniongyrchol yn y fan yma, Prif Weinidog—mae'n rhaid cael pleidlais gyhoeddus fel 'clo neu rwystr', ac mae angen i hynny fod rhwng dewis credadwy i adael ac aros.
Nawr, mae'n wir—mae'n wir—bod Jeremy Corbyn yn dal i fod yn fwy amwys. Yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr, y cwbl a ddywedodd oedd, mae'n rhaid i'r Tŷ hwn hefyd ystyried pa un a ddylid cyflwyno unrhyw gytundeb i'r bobl ar gyfer pleidlais gadarnhau, heb unrhyw arwydd sut y byddai'n pleidleisio. Felly, mae gennym ni ddryswch parhaus yn San Steffan ynghylch safbwynt y Blaid Lafur, ond nid oeddwn i'n disgwyl i'r dryswch hwnnw ymestyn i'r fan yma pan gawsom ni bleidlais eglur ym mis Ionawr—y Blaid Lafur a Phlaid Cymru—gyda'n gilydd o blaid pleidlais y bobl. Mae'n rhaid i mi ddweud—mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog efallai fod y dŵr yn swyddfa arweinydd y Blaid Lafur yn Llundain mor goch â'ch dŵr chi erbyn hyn, ond yn sicr nid yw'n glir. Oni ddylai eich teyrngarwch fod i Gymru? Oni ddylid rhoi mwy o bwyslais ar hynny na'ch teyrngarwch i Jeremy Corbyn?
Wel, Llywydd, mae'n brynhawn i'r Aelod beidio â bod yn fodlon derbyn ateb cadarnhaol. Mae eisoes wedi clywed ein safbwynt tua phedair gwaith nawr, rwy'n credu. Rydym ni o blaid pleidlais y bobl fel dewis. Rydym ni o blaid y math o gytundeb a gyflwynwyd gan ei blaid ef a'm plaid innau yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Dyna ni; ni all fod yn fwy eglur. Nid wyf i'n mynd i'w ddweud eto. Rwy'n credu y gall ef adael aelodau'r Blaid Lafur i mi yng Nghymru, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Brynhawn dydd Sadwrn, tra'r oedd ef—[Torri ar draws.] Tra'r oedd ef wedi ymgolli yn yr orymdaith, roeddwn i'n curo drysau yng Ngorllewin Casnewydd. Gallwn fod wedi ei gyflwyno i'r person y cyfarfûm ag ef ar garreg y drws a ddywedodd wrthyf ei fod wedi bod yn meddwl pleidleisio dros Blaid Cymru efallai, tan iddo glywed eu bod nhw'n bwriadu cyfuno â'r Torïaid ac yn sicr ni fyddai'n gwneud hynny bellach.
Arweinydd Grŵp UKIP, Gareth Bennett. [Torri ar draws.] Arweinydd Grŵp UKIP, Gareth Bennett, i ofyn y cwestiwn.
Diolch, Llywydd. [Torri ar draws.] Prif Weinidog—Prif Weinidog, mae'n ymddangos mai rhan fawr o strategaeth economaidd eich Llywodraeth chi ar gyfer Cymru erbyn hyn yw—[Torri ar draws.]
A gawn ni glywed y cwestiwn, os gwelwch yn dda? Mae angen i'r Prif Weinidog yn arbennig allu clywed y cwestiwn. Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'n ymddangos mai rhan fawr o strategaeth economaidd eich Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru erbyn hyn yw datblygu rhywbeth yr ydych chi a'ch Gweinidogion yn ei alw'n 'economi sylfaenol'. Mae hwn yn ymadrodd sydd wedi dod yn boblogaidd ymhlith academyddion a gwleidyddion yng Nghymru, ond sy'n golygu fawr ddim i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin. Ond, hyd yn oed mewn cylchoedd gwleidyddol ac academaidd, ceir perygl bod ystyr yr ymadrodd 'yr economi sylfaenol' mor niwlog fel ei fod yn golygu ychydig iawn o safbwynt ymarferol. Beth yw eich dealltwriaeth chi o'r term, a pha gymorth ymarferol y gallwch chi weld eich Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu i dyfu'r rhan hon o economi Cymru?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dadl yr economi sylfaenol yn un bwysig iawn. Rwy'n cytuno ag ef bod mwy i'w wneud i gael y ddadl honno y tu hwnt i'r cylchoedd y mae'n gweithredu ynddyn nhw ar hyn o bryd. Mae'r economi sylfaenol yn cyfeirio at y pethau hynny sydd, ddydd ar ôl dydd, yn darparu'r gwasanaethau y mae bywyd cyffredin yn dibynnu arno. Mewn rhai rhannau o Gymru, dyma'r rhan fwyaf o'r economi honno. Mae'n golygu pethau fel gofal cymdeithasol. Mae'n golygu pethau fel cynhyrchu bwyd. Mae'n golygu pethau fel darparu'r gwasanaethau beunyddiol hynny na ellir eu symud i rannau eraill o'r byd, sy'n parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac y mae cymunedau yn llunio eu dyfodol o'u hamgylch. Rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig iawn o'r hyn yr ydym ni eisiau canolbwyntio arno yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i Lee Waters am y gwaith y mae'n ei wneud ar ran y Llywodraeth yn y maes hwn, ac edrychaf ymlaen at y ddadl honno yn mynd tu hwnt i gylchoedd academaidd a gwleidyddol a chynnwys y bobl hynny y mae eu swyddi a'u bywoliaeth yn dibynnu arni.
Ie, diolch am egluro hynna, Prif Weinidog. Nawr, soniasoch am ofal cymdeithasol a bwyd, a soniwyd am dai, ynni ac adeiladu hefyd yn y gorffennol gan eich Dirprwy Weinidog pan ein bod ni wedi trafod y pwnc hwn yn y fan yma yn y Siambr, er ei bod hi'n ddyddiau cynnar i'r drafodaeth hon hyd yn hyn. Nawr, mae llawer o'r swyddi hyn eisoes yng Nghymru, fel y nodwyd gennych, ac mae cyflogau llawer o'r swyddi hyn yn talu'n gymharol wael, yn anffodus. Felly, efallai na fydd cefnogi twf y math hwn o swydd yn ffordd dda i Gymru geisio symud i fath o economi fwy medrus â gwell cyflogau, sef yr hyn y mae eich Gweinidog yr economi wedi ei ddweud yn y gorffennol yr ydych chi eisiau ei wneud. A oes perygl felly, Prif Weinidog, os byddwch chi'n canolbwyntio gormod ar yr economi sylfaenol, efallai mai'r cwbl y byddwch chi'n ei wneud yw creu mwy o swyddi cyflog isel gyda hyfforddiant gwael ac amodau gwaith gwael?
Rwy'n anghytuno gyda'r aelod nad yw'r math o swyddi yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn rhai medrus iawn. Rwy'n credu mai dyma un o'r pethau sy'n tarfu ar bolisi mewnfudo Llywodraeth y DU—yr ymgais hon i rannu pobl yn bobl fedrus iawn a phobl anfedrus. Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn fedrus iawn yn wir, ac yn aml maen nhw wedi eu hyfforddi'n dda iawn, a bydd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod ni'n buddsoddi yn nyfodol y gweithlu hwnnw—i'w gofrestru, i ddarparu'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt—yn cael yr effaith o godi'r lefelau sgiliau yn y proffesiwn hwnnw. Ac wrth i ni wneud hynny, rydym ni hefyd yn benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl sy'n gwneud y swyddi hynny yn cael tâl priodol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Felly, nid wyf i'n cytuno â'r gosodiad sylfaenol hwnnw—ein bod ni'n cael ein dal, trwy ganolbwyntio ar y sectorau hynod bwysig hyn, yn y fagl y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Mewn gwirionedd, rydym ni'n benderfynol o wneud yn union i'r gwrthwyneb.
Wel, os edrychwn ni ar rai o'r mathau o swyddi y soniwyd amdanynt o'r blaen—y cyfleustodau—mae llawer o'r rhain yn swyddi mewn canolfannau galwadau, ac nid yw'r sector hwn yn arbennig o adnabyddus am dâl nac amodau da. Mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi fel gweithwyr asiantaeth. Ceir problem yn aml o waith shifft, diffyg hyfforddiant a meddylfryd llwyddo neu adael i reolwyr o ran datblygu gweithwyr. Soniwyd am fancio manwerthu o'r blaen. Mae gan y maes hwnnw enw gwell ond, wrth gwrs, rydym ni mewn oes pan fo mwy a mwy o ganghennau banc yn cau. Manwerthu bwyd—mae llawer o'r swyddi hyn o dan fygythiad gan awtomeiddio. Mae'r rhain yn ffactorau economaidd mawr sy'n dinistrio'r swyddi hyn, neu'n eu gwneud yn sectorau nad ydyn nhw'n ddymunol iawn i weithio ynddynt, a bydd yn gryn ymdrech i Lywodraeth Cymru allu rhwyfo yn erbyn y llanw hwn a gwneud y mathau hyn o swyddi yn faes twf, ac yn faes lle bydd swyddi nad ydyn nhw'n ddim ond yn swydd, ond yn swyddi sydd ag amodau a datblygiad gyrfaol da. O ystyried hynny i gyd, Prif Weinidog, a yw datblygu'r economi sylfaenol wir yn strategaeth hirdymor ddoeth iawn?
Wel, Llywydd, rwy'n deall bod y rheolau yn caniatáu i'r Aelod ofyn cwestiwn i mi ar gyfer pob aelod yn ei grŵp. [Chwerthin.] Ond roeddwn i wedi gobeithio erbyn y trydydd cwestiwn y gallem ni fod wedi cael ychydig mwy o gynnydd nag yr ydym ni wedi llwyddo i'w gael hyd yn hyn y prynhawn yma, oherwydd cyn belled ag y gallaf ddweud, gofynnwyd yr un cwestiwn i mi dair gwaith, a rhoddaf yr un ateb iddo: mae'r economi sylfaenol yn rhan bwysig iawn o'r economi. Ein huchelgais yw buddsoddi ynddi, i wella sgiliau, i wella cynhyrchiant, i wella lefelau cyflog ac i gydnabod yr arwyddocâd sydd gan y swyddi hynny ym mywydau'r unigolion yr ydym ni'n ddigon ffodus i'w perswadio i'w gwneud, ond hefyd yn y cymunedau sy'n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth gyfunol.