– Senedd Cymru am 2:25 pm ar 30 Ebrill 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes heddiw: bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am drafodaethau BREXIT. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a oes modd inni gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd am wasanaethau adsefydlu ar gyfer y rhai sy'n gaeth i gyffuriau yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i wenwyn cyffuriau yng Nghymru wedi cynyddu 40 y cant ers 2003. Fodd bynnag, nid yw'r unig ganolfan adsefydlu preswyl a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru, Rehab Brynawel, yn cael yr atgyfeiriadau y mae eu hangen gan y Cyngor i fod yn gost-effeithiol ac mae'n gweithredu ar 60 y cant o'i gapasiti yn unig. Llynedd, galwodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o ddarpariaeth adsefydlu ar gyfer cyffuriau ar gael. Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog yn amlinellu'r rhesymau pam nad yw'r cyfleuster hanfodol hwn yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol, pan fo'r ffigurau'n dangos bod angen dybryd am y gwasanaethau? Diolch.
Diolch ichi am godi'r mater pwysig hwn. Wrth gwrs, mae canolfan breswyl a dadwenwyno cleifion mewnol yn chwarae rhan bwysig iawn wrth helpu defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau adferiad hirdymor. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod gwasanaethau o'r fath ar gael ac y byddant yn parhau i fod yn elfen bwysig o strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru o ran ei blaenoriaethau parhaus. Eleni, rydym wedi ymrwymo mwy na £50 miliwn i sicrhau bod pobl yn cael yr help a'r gefnogaeth iawn sydd eu hangen arnynt i ymdrin ag effaith camddefnyddio sylweddau ac y bydd £1 miliwn o hynny'n cefnogi dadwenwyno ac adsefydlu preswyl yn benodol. Mae tua hanner y cyllid, £25 miliwn felly—yn mynd yn uniongyrchol i'n byrddau cynllunio ardal, sy'n gyfrifol am asesu, comisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, ac maent yn comisiynu'r gwasanaethau hynny yn unol â chanllawiau clinigol a chyda mewnbwn gan ddefnyddwyr y gwasanaeth eu hunain.
Gan gyfeirio'n benodol at fudiadau megis Brynawel, cyfrifoldeb Prif Weithredwyr y sefydliadau hynny yn sicr yw hysbysebu'r gwaith da a wnânt a gwneud y cysylltiadau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn fusnesau hyfyw. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Brynawel mewn nifer o ffyrdd dros y blynyddoedd ac, wrth gwrs, mae Busnes Cymru yn awyddus iawn i ymgysylltu â nhw i weld pa gymorth, gwybodaeth a chyngor pellach y gallwn eu cynnig ar gyfer y dyfodol.
Trefnydd, byddwch yn cofio, ar 14 Chwefror y llynedd, fod y Cynulliad hwn wedi cefnogi'n unfrydol y cynnig a gyflwynais i, ac a gefnogwyd gan fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr, ynghylch y mater o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Roedd y cynnig yn galw am sefydlu tasglu i edrych ar y materion sy'n wynebu trigolion ledled Cymru sy'n byw ar y ffyrdd hyn sydd heb eu mabwysiadu. Mae'r ffyrdd hyn yn aml wedi cael eu dad-fabwysiadu ers degawdau, maent mewn cyflwr gwael ac yn arwain at lawer iawn o lythyrau, negeseuon e-bost a galwadau ffôn rhwng trigolion a chynghorau sir ar draws Cymru, yn aml yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd heb ddim diwedd i'w weld. Nawr, yn dilyn y bleidlais honno ym mis Chwefror 2018, sefydlwyd y tasglu ac mae wedi bod yn ymgynghori ag ystod o gyrff, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cwmnïau cyfleustodau, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Un Llais Cymru, a phawb arall, yn ôl yr hyn a welaf i. Byddwch yn cofio bod y cynnig hefyd yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Nawr, wrth ateb cwestiwn ysgrifenedig ar 26 Mawrth, dywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth fod y tasglu'n llunio'i argymhellion terfynol a'i fod yn disgwyl cael ei adroddiad yn ddiweddarach y mis hwnnw, sef diwedd y mis diwethaf. Erbyn hyn mae'n ddiwedd mis Ebrill. A gaf i ofyn i'r Llywodraeth am yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y cynnydd ar y mater hwn a phryd y mae'n disgwyl gwneud datganiad yn y Siambr hon ar argymhelliad y tasglu?
Diolch ichi am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, mae mater ffyrdd heb eu mabwysiadu yn destun pryder i lawer iawn ohonom yn y Siambr hon. Mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw'n ategu'r gwaith sy'n digwydd ar ein hagenda diwygio lesddaliad yn fwy eang er mwyn sicrhau rheolaeth dda o ystadau ar draws Cymru. Yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr economi a thrafnidiaeth i ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y mater, ac i roi syniad ichi o'r amserlen ar gyfer pryd y bydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth am waith y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw .
Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu pa gefnogaeth sydd wedi cael ei rhoi i staff a gollodd eu swyddi ar ôl i gwmni Dawnus ddod i ben, a fydd yn effeithio ar eich etholwyr chi gymaint ag y mae'n effeithio ar fy etholaeth i, a pha gymorth pellach fydd yn cael ei ddarparu. Daeth i ben mewn modd trychinebus, oherwydd digwyddodd dros nos bron.
Yn ail, rwyf yn gofyn am naill ai ddatganiad gan y Llywodraeth, neu ddadl, os oes modd, ar losgi. Dylai hyn gynnwys sut y caiff y gyfarwyddeb llosgi gwastraff ei gweithredu, a ellid gweithredu clustogfeydd o eiddo, fel y rhai sy'n bodoli ar gyfer cloddio glo brig, a'r rheswm pam nad yw'r Llywodraeth yn cyflwyno moratoriwm ar losgyddion, rhywbeth yr wyf fi a llawer o rai eraill yn y Siambr hon wedi gofyn amdano.
Diolch eto am godi'r materion hyn. Ac fel y bydd Mike Hedges yn gwybod, roedd Dawnus yn cyflogi 705 o bobl ledled Cymru a'r DU yn uniongyrchol, ac roedd 430 o'r gweithwyr hynny wedi'u lleoli yma yng Nghymru. Fel y bydd yn gwybod, sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu i gefnogi'r unigolion hynny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol pan aeth y busnes i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae rhaglen ReAct Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cael eu defnyddio, ac maent wrthi'n cefnogi'r unigolion hynny yr effeithiwyd arnyn nhw'n uniongyrchol.
Mae'r gweinyddwr wedi penodi asiantaeth recriwtio arbenigol i reoli'r broses ddiswyddo, a chafodd yr holl gyn-weithwyr eu hysbysu, eu talu neu disgwylir iddynt gael eu taliadau diswyddo yn fuan. Mae nifer o fusnesau adeiladu rhanbarthol ledled Cymru wedi cyflogi nifer o'r cyn-weithwyr hynny yr effeithiwyd arnyn nhw'n uniongyrchol, ac mae busnes newydd, yn seiliedig ar un o is-fusnesau grŵp Dawnus, wedi cael ei sefydlu, gyda'r staff hynny'n trosglwyddo i'r endid newydd. Mae hynny'n diogelu tua 37 o swyddi uniongyrchol. Mae swyddogion yn ymwybodol bod deialog barhaus gyda darpar brynwyr ar gyfer caffael is-fusnes arall yng ngrŵp Dawnus, a gallai hynny ddiogelu mwy o swyddi o fewn y grŵp.
Gallaf ddweud hefyd wrth Mike Hedges fod 35 o brentisiaid wedi cael eu nodi o fewn y busnes, a bod swyddogion wedi ymgysylltu â bwrdd hyfforddi'r diwydiant adeiladu i sicrhau bod ganddynt gymorth parhaus, fel y gallant gwblhau eu hyfforddiant gyda sefydliadau eraill. Ac, wrth gwrs, bydd y tasglu yn parhau i weithio gyda'r sefydliadau cefnogi i helpu'r unigolion hynny yr effeithir arnyn nhw, a gall elusen Clwb y Goleudy ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl i'r gweithwyr adeiladu hynny yr effeithiwyd arnyn nhw.
O ran eich cais am ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar losgi gwastraff, byddaf yn siarad eto â'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb ac yn gofyn beth yn ei barn hi fyddai'r ffordd orau o ddarparu diweddariad.
A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar amseroedd aros i gleifion yng Ngogledd Cymru, os gwelwch yn dda? Bydd y Trefnydd yn ymwybodol bod £1 miliwn wedi ei gymryd yn ôl oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni—mae hyn ar ben y £3 miliwn a gymerwyd yn ôl y llynedd—oherwydd ei fethiant i fodloni disgwyliadau gan Lywodraeth Cymru o ran cyflawni gwelliannau i berfformiad amseroedd aros. Ac wrth gwrs, dros doriad y Pasg, daeth yn amlwg fod ffrae rhwng Llywodraeth Cymru ac Ysbyty Iarlles Caer o ran y taliadau sy'n ddyledus o ganlyniad i gleifion o Gymru sy'n cael eu trin yno. O gofio nad yw capasiti'r ysbytai yn y Gogledd yn barod i dderbyn atgyfeiriadau ychwanegol o ganlyniad i golli gweithgaredd Ysbyty Iarlles Caer, mae hyn yn mynd i ychwanegu at y pwysau yn y Gogledd. Bydd yn ymestyn yr amseroedd aros, ac yn anffodus, credaf y bydd yn peri i lawer o bobl fyw mewn cryn boen ar restri aros yn y dyfodol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi darparu cynllun, dros 18 mis yn ôl, i fynd i'r afael ag amseroedd aros orthopedig yn benodol, ac maent yn dal i aros i'r cynllun hwnnw gael ei gymeradwyo. Heb y cynllun hwnnw, ni allant feithrin y capasiti yn y system i'w galluogi i gyrraedd y targedau amser aros. Felly, credaf fod angen inni gael datganiad ar hyn ar frys, ac mae angen inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gydag Ysbyty Iarlles Caer ac a oes modd cyfeirio cleifion atynt yn awr i gael eu triniaeth.
Diolch am godi hyn. Ac, wrth gwrs, bydd y Gweinidog Iechyd yn ateb cwestiynau yn y Siambr yfory, a gwelaf eich bod wedi cyflwyno'r union gwestiwn hwn iddo, sef cwestiwn 4. Felly, gwn y bydd yn falch o ateb hynny yfory. Ond gallaf ddweud, o ran Ysbyty Iarlles Caer, fod y Gweinidog wedi bod yn glir iawn bod y camau a gymerwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn annerbyniol ac nad ydynt yn cyd-fynd â'r datganiad a'r gwerthoedd a'r egwyddorion yr ydym wedi cytuno arnynt rhwng y GIG yng Nghymru a GIG Lloegr, ac y byddwn bob amser yn gweithredu er budd y cleifion. Siaradais â'r Gweinidog am y mater hwn yn gynharach heddiw, a dywedodd y byddai'n disgwyl bod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad, yn sicr, gobeithio, erbyn diwedd yr wythnos hon.
Trefnydd, hoffwn godi rhai materion a ddaeth i'm sylw yn ystod ymweliad diweddar â champws y Rhondda yng Ngholeg y Cymoedd. Fe'm hysbyswyd gan uwch reolwyr yn y coleg, a ColegauCymru, am y cyfyngiadau ariannol difrifol, nid yn unig ar golegau, ond ar fyfyrwyr hefyd. Nid yw taliadau lwfans cynhaliaeth addysg, a allai olygu hyd at £30 yr wythnos i rai myfyrwyr, wedi cynyddu gyda chostau byw ers 2004. Wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant, dylai taliadau sefyll yn awr ar £45.25 yr wythnos—50 y cant yn uwch na'r hyn y mae rhai myfyrwyr yn ei gael nawr. Cefais fy hysbysu mai prinder arian yn aml yw'r rheswm pam mae myfyrwyr o gefndiroedd tlotach yn rhoi'r gorau i'w cyrsiau. Felly, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch mynd i'r afael â'r cyfyngiadau ariannol ar fyfyrwyr coleg er mwyn sicrhau bod addysg yn hygyrch i bawb, waeth beth fo incwm y teulu?
Mae ColegauCymru a'r prifathro yng Ngholeg y Cymoedd hefyd yn pryderu am yr ardoll prentisiaethau, sydd yn eu barn nhw yn dreth ar gyflogwyr Cymru. Ac mae llawer yn teimlo bod cyflogwyr Cymru yn cael eu cosbi. Gan nad yw Cymru yn gweithredu'r cynllun talebau digidol, ceir teimlad ymhlith cyflogwyr nad ydynt yn cael eu cyfraniadau ardoll yn ôl. Yn Lloegr, mae'r cynllun hwn yn gweithio'n wahanol a gall cyflogwyr gael eu cyfraniadau'n ôl. Felly, yn sgil hynny, mae rhai cwmnïau yng Nghymru bellach yn hyfforddi eu prentisiaid yn Lloegr. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad faint o gwmnïau o Gymru sy'n hyfforddi eu prentisiaid yn Lloegr? Ac ymhellach, hoffwn wybod a all y Llywodraeth hon weithio gyda'r sector i oresgyn y problemau sy'n gysylltiedig â'r ardoll prentisiaethau er mwyn atal cyflogwyr Cymru rhag colli allan, ac i fynd i'r afael â'r problemau biwrocrataidd y mae cwmnïau yng Nghymru yn eu hwynebu. Byddwn yn croesawu datganiad neu ddadl ar y mater hwn yn fawr.
Diolch. O ran eich pryder cyntaf, credaf mai'r cyfle gorau ichi godi hynny gyda'r Gweinidog Addysg fyddai yn ystod y ddadl y prynhawn yma ar gefnogaeth i ddysgwyr difreintiedig ac agored i niwed. Ac, o ran yr ardoll prentisiaethau, roedd gennych nifer o gwestiynau manwl a byddaf yn sicrhau eich bod yn cael ymateb.
Trefnydd, byddwn yn ddiolchgar am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch diogelu bywyd gwyllt. Ond yn gyntaf, yr wythnos diwethaf, cafwyd digwyddiad arall lle'r oedd slyri wedi gollwng o fferm yng ngorllewin Cymru ger Cilgerran, gydag amcangyfrif o 120,000 o alwyni wedi diferu i afon Dyfan, un o lednentydd y Teifi. Gwyddom fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i hyn, ond dyn a ŵyr pa ddifrod a wnaed, a bydd yn parhau i gael ei wneud wrth i'r llygredd weithio'i ffordd drwy'r gadwyn fwyd. Daeth cerdd ragorol i'm llaw yr wythnos hon gan un o'm hetholwyr ynglŷn â'r Gammarus Pulex. Fyddwn i ddim yn dweud bod yr ynganiad yn gywir, ond pryf yw hwn sy'n byw mewn dŵr glân. Dywed y gerdd, 'Dwi'n rhywogaeth bwysig ac yn ddangosydd ar gyfer iechyd amgylcheddol creaduriaid y dŵr'. A dwi'n meddwl bod hwnnw'n bwynt pwysig, achos mae'r gorlif diweddaraf yma yn dod ar ôl digwyddiad difrifol yn yr un system ddŵr ychydig cyn y Nadolig, ac amcangyfrifwyd fod y digwyddiad hwnnw ger Tregaron wedi lladd 1,000 o bysgod. Yn aml iawn, rydym yn mesur y difrod yn nifer y pysgod sydd wedi'u lladd, ond nid pysgod yn unig a laddwyd; lladdwyd popeth arall yn yr amgylchedd hwnnw hefyd. Ac os byddwn yn dal ati fel yr ydym ar hyn o bryd, ac yn gollwng mwy o slyri i'n hafonydd, ni fydd bywyd o gwbl ar ôl yn yr afonydd hynny, a bydd yn cymryd degawdau i'r bywyd hwnnw ddychwelyd. Felly, credaf fod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â hyn, a chredaf fod angen inni ddwyn i gyfrif y bobl a ddylai fod yn edrych ar hyn, ac edrych hefyd ar y gyfundrefn arolygu sydd ar waith, gobeithio, i archwilio cyfleusterau slyri ar draws y tir. Hefyd mae angen edrych ymhellach i weld a yw rhai o'r slyrïau hyn yn y lle priodol, fel na allant drwytholchi wrth ollwng i mewn i'n hamgylchedd ac yn ei ddinistrio'n llwyr.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael yw ar wrychoedd a rhwydi coed. Rydym wedi gweld yr ymgyrchoedd diweddar a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygwyr yn defnyddio rhwydi i atal adar rhag nythu ac felly'n llesteirio ceisiadau cynllunio a gwaith adeiladu, a gwn fod Mick Antoniw wedi codi hyn yn gynharach eleni. Ond, fel cais o golofn a ysgrifennais mewn papur newydd yr wythnos hon, mae tystiolaeth anecdotaidd wedi dod i'm llaw lle mae hyn yn digwydd ar dir fferm. Gwn fod deiseb gerbron y Cynulliad sy'n galw arnom i wneud rhywbeth o ddifrif ynghylch lleihau'r defnydd o rwydi sy'n atal adar rhag nythu a'i gwneud yn drosedd. Credaf, o gofio bod diddordeb amlwg gan y cyhoedd yn y pwnc hwn, y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai'r Llywodraeth yn gwneud datganiad ar hyn yn awr, gan ei bod yn hurt dweud eich bod yn rhoi rhwyd ar berth a fydd yn atal adar rhag nythu, gan y bydd yr adar yn mynd i mewn yno ac os oes gennych unrhyw rwydo llac, nid yn unig y bydd hyn yn caniatáu i'r adar fynd drwodd, ond bydd yn bendant yn eu hatal rhag dod allan o'r rhwyd.
Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am godi dau fater eithriadol o bwysig y prynhawn yma. Roedd y mater cyntaf yn ymwneud â digwyddiadau llygredd amaethyddol ac mae'r digwyddiad a ddisgrifiodd Joyce yn destun ymchwiliad parhaus. Ond, fel y nodwyd yn ein strategaeth ddŵr, amaethyddiaeth yw un o brif achosion llygru dŵr, a dyna pam mae'r Gweinidog mor awyddus i weithio gydag undebau ffermio i ddatblygu atebion cynaliadwy, boed hynny drwy dargedu ein cymorth ariannol yn well neu drwy hyfforddiant gwell drwy Cyswllt Ffermio.
Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ar lygredd amaethyddol fis Rhagfyr diwethaf, ac yn hwnnw amlinellwyd y gofyniad i gyflwyno rheoliadau, a byddant yn dod i rym yn 2020. A dyna'r peth iawn i'w wneud, nid yn unig i'r amgylchedd, ond hefyd i sicrhau bod Cymru yn cynnal ei henw da rhyngwladol o ran ffermio. Mae nifer y digwyddiadau wedi cynyddu dros y flwyddyn a aeth heibio, felly mae hynny'n amlwg yn destun pryder mawr, a bydd y Gweinidog yn cydweithio'n agos â'r sector i ddatblygu'r diwygio rheoleiddiol a throsglwyddo gwybodaeth, sydd yn angenrheidiol, yn fy marn i, i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.
Gwn eich bod wedi mynegi eich pryderon ynghylch rhwydo mewn gohebiaeth at y Gweinidog a'i bod wedi paratoi ymateb ichi ynghylch hynny. Rydym wedi cael rhai adroddiadau am rwydo. Nid ydym yn ymwybodol eto pa mor gyffredin ydyw, ond yn amlwg mae unrhyw ddigwyddiad yn peri pryder gwirioneddol inni. Cyfeiriodd Joyce Watson at y ddeiseb, sydd newydd agor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae yna un hefyd yn y Senedd gyda 330,000 o lofnodion arni. Felly, credaf fod hyn yn bryder gwirioneddol i aelodau'r cyhoedd. Efallai fod adegau pan fyddai rhwydo coed yn gyfreithlon, ond dim ond pan fydd gwir angen hynny i ddiogelu adar a'u hatal rhag nythu yn ystod datblygiadau fel nad ydynt yn dod i niwed y byddai hynny'n digwydd, a byddai'r math hwnnw o amgylchiad yn eithriadol o brin yn wir. Felly, ar y cyfan, rwy'n credu bod ein polisi yn sicr yn symud i ffwrdd o liniaru niwed a difrod i integreiddio bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau tuag at y camau cynharaf un o reolaeth ddatblygu briodol.
Yn gyntaf, a gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Joyce Watson a'r Gweinidog ynghylch rhwydo coed? Deuthum yn ymwybodol o hyn am y tro cyntaf dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'n ymddangos i fod yn ffordd sinigaidd o drechu'r rheolau. Nid dyna oedd bwriad y rheolau yn wreiddiol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arno, ac rwy'n hapus i gefnogi'r ymgyrch honno, Trefnydd.
Ar nodyn ysgafnach, mwy dymunol, rwy'n siŵr y byddwch eisiau ymuno â mi i longyfarch Clwb Rygbi'r Fenni, a gurodd Oakdale— Wel, efallai na fydd yr Aelod am ymuno—i fod yn bencampwyr bowlio cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru yn ddiweddar. Tybed a allem gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon lleol fel pencampwriaeth y fowlen genedlaethol. Credaf ei fod yn gwneud llawer iawn i dyfu chwaraeon o'r gwaelod, ac mae angen inni wneud popeth a allwn i gefnogi hynny.
Yn ail, neu yn drydydd dylwn ddweud, dros y Pasg gwelsom y tân trasig yn Notre Dame yn Ffrainc. Rwy'n siŵr ein bod i gyd am anfon ein dymuniadau gorau at bobl Ffrainc wrth iddynt wynebu'r her enfawr o ailadeiladu'r Gadeirlan eiconig honno. Fel mae'n digwydd, yr wythnos honno roedd gennym grŵp o 200 neu fwy o drigolion Beaupréau yn Ffrainc yn aros yn y Fenni, gefeilldref Beaupréau, a gwnaeth hynny i fi feddwl am bwysigrwydd cymdeithasau gefeillio a rôl werthfawr cymdeithasau gefeillio, yn enwedig ar yr adeg hon o ansicrwydd ynghylch BREXIT. Tybed a gawn ni ddatganiad neu ddiweddariad gan y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol am y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i gymdeithasau gefeillio ac ymgyrchoedd ledled Cymru. Credaf eu bod nhw wedi bod yn digwydd am gyfnod hir iawn mewn gwahanol drefi a phentrefi ledled Cymru yn wir, ond yn aml dydyn nhw ddim yn cael y parch y maen nhw'n ei haeddu, a chredaf fod llawer o bobl yn gweithio y tu ôl i'r llenni i wneud yr ymgyrchoedd hynny'n llwyddiant. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael clywed gan Lywodraeth Cymru pa gymorth sydd wedi cael ei roi.
Diolch ichi am godi'r ddau fater hynny'r prynhawn yma, ac, wrth gwrs, roedd y Gweinidog yma i glywed eich cais am ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fudiadau a chlybiau chwaraeon lleol. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog, mewn ymateb i un o'r cwestiynau'r prynhawn yma, yn sôn am bwysigrwydd cyfleoedd chwaraeon lleol i iechyd y cyhoedd ac wrth gwrs, i les y cyhoedd.
Eto, o ran eich pryder am bwysigrwydd mudiadau gefeillio, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'ch cais am ddatganiad ar y mater penodol hwnnw.
Rwyf wedi gofyn ar sawl achlysur a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd am y fframwaith anhwylderau bwyta. Gwyddom fod hyn yn ei gyfnod ymgynghori, ac mae cleifion a gofalwyr wedi bod yn allweddol o ran cyflwyno eu syniadau, er fy mod yn gwybod bod peth ymateb negyddol gan ymgynghorwyr yn y maes, yn anffodus. Yr wythnos hon, rwyf wedi cael achosion newydd o bobl ag anhwylderau bwyta mor ifanc â naw mlwydd oed, ac mae hynny'n destun pryder mawr. Felly, byddwn yn hoffi gweld penllanw'r cynnig hwn fel y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn yn awr ac ail-ganolbwyntio ein hegni ar fframwaith newydd, os byddai hynny'n bosib o gwbl.
Fy ail gais yw a oes modd cael datganiad—wel, roedd yma'n gynharach—gan Dafydd Elis-Thomas ar y trafodaethau cyfredol sy'n digwydd ym Mhort Talbot ynghylch symud arddangosfa gelf Banksy. Gwyddom mai'r unig ffordd y gall y Cyngor yn lleol fforddio i addasu'r adeilad ar ei gyfer yw os gallant gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu canolfan yno fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer oriel gelf genedlaethol i Gymru. Ac felly, yn yr ysbryd o geisio gwneud i hyn weithio, a cheisio denu mwy o bobl i Gymru, a fyddai modd i'r Dirprwy Weinidog, Dafydd Elis-Thomas, ddarparu datganiad i ni? Maent wedi ysgrifennu ato i ofyn a fyddai'n fodlon ariannu hyn—a fyddai modd iddo eu hateb, yn un peth, ac a allai roi gwybod inni a yw'n bwriadu cefnogi hyn, o gofio'r brwdfrydedd yn lleol ac yn rhyngwladol dros y gwaith Banksy a fydd hefyd yn denu darnau eraill o gelf yn rhyngwladol, os gall camau 2 a 3 fynd yn eu blaenau. Bydd cam 1, yr ydym yn credu —a chroesi bysedd—yn mynd yn ei flaen, ond mae angen cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr ychydig gamau nesaf, felly byddai datganiad ganddo ef yn dderbyniol iawn.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. O ran y fframwaith anhwylderau bwyta, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau ei fod bellach wedi cael yr adroddiad ac mae'n aros am rywfaint o gyngor pellach ar hynny gan swyddogion. Ond yn sicr bydd yn gwneud datganiad cyn gynted ag y gall wneud hynny, ar ôl ystyried yr adroddiad hwnnw.
O ran mater Banksy, rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb i'r cais a gafodd ac yn ymateb i'r ohebiaeth honno, ond, wrth gwrs, mae gennym y datganiad ar Gymru Greadigol y prynhawn yma, a allai fod yn gyfle arall i godi hyn.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad y prynhawn yma. Daw'r cyntaf gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch tanau gwair. Bedwar mis yn unig i mewn i'r flwyddyn, ac rydym eisoes wedi gweld 102 o danau gwair yng Nghwm Cynon, a hoffwn dalu teyrnged i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am y ffordd y maent wedi ymdrin â'r rheini. Ond yn frawychus, allan o'r 102 o danau gwair hynny, dechreuwyd 98 ohonynt yn fwriadol. Byddwn yn croesawu'r cyfle am ddatganiad gan y Gweinidog i amlinellu'r hyn y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid ei wneud i fynd i'r afael â'r duedd hon.
Ar fater gwahanol, hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad ar gynllun setliad yr UE. Cysylltwyd â mi gan etholwr y mae ei bartner Almaenig wedi byw a chyfrannu i'r wlad hon ers 30 mlynedd. I wneud cais am statws, mae'n rhaid iddo gyflwyno'i ddogfennau adnabod, a'r unig leoliad yng Nghymru lle gellir cyflwyno dogfennau yw Hengoed, yng Nghaerffili. Nawr mae honno'n daith o ddwy awr o Aberdâr ar fws neu ar drên, er ei bod mewn etholaeth gyfagos i mi. Felly dyn a ŵyr faint o amser y byddai'n ei gymryd i breswylwyr o rannau eraill o'r wlad deithio yno. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, am yr hyn y gall ei wneud i gefnogi pobl yn ystod y broses anodd hon?
Diolch i chi, Vikki Howells, am godi'r materion hyn. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a gweithredoedd ein partneriaid o ran atal tanau gwair. Deallaf fod nifer y tanau'r mis hwn wedi bod yn gymharol fach ac, yn gyffredinol, eu bod yn debygol o fod ymhell o fod yn uwch na'r lefel a gawsom ym mis Ebrill 2015. Ond pan fyddwch yn rhoi'r ffigurau imi a welsoch ar gyfer tanau gwair yn eich etholaeth, yna, yn sicr, credaf fod gennym fater difrifol i fynd i'r afael ag ef o hyd, ac rwyf wedi'i weld yn sicr yn fy etholaeth i ym Mhenrhyn Gŵyr yn ystod yr wythnosau diwethaf. Byddaf yn sicrhau bod y cyngor hwnnw ar gael ichi.
Ac ar fater dinasyddion yr UE, rydym yn siomedig, a dweud y lleiaf, am y diffyg lleoliadau sganio dogfennau a ddarparwyd yng Nghymru. Rydym yn cydnabod yr anawsterau enfawr y bydd hyn yn eu hachosi i ddinasyddion yr UE sydd heb gael mynediad i ffonau Android , a byddai angen iddynt anfon y dogfennau hynny fel arall. Rwy'n deall bod y Swyddfa Gartref yn bwriadu darparu mwy o leoliadau sganio, a byddem yn sicr yn hoffi gweld mwy ohonynt yng Nghymru. Gwn fod y Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref ynghylch y mater hwn, ac os hoffech rannu rhai enghreifftiau mwy penodol o'ch etholwyr eich hun a'r drafferth y mae hynny wedi'i hachosi, byddem yn sicr yn gallu defnyddio'r rheini fel astudiaeth achos.
Wrth gwrs, rydym yn rhoi cymorth ychwanegol i ddinasyddion yr UE drwy Gyngor ar Bopeth, er mwyn darparu gwybodaeth am y cynllun setliad, ac rydym hefyd wedi creu contract â chwmni cyfreithiol o Gymru i ddarparu gwasanaeth cyngor ar fewnfudo i ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth hwnnw'n cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am statws Sefydlog yr UE a gwasanaeth cynghori unigol a fydd yn cwmpasu gwasanaeth cyfreithiol sy'n sensitif i amgylchiadau ymgeiswyr unigol, gan gynnwys unrhyw aelodau o'r teulu a allai fod ganddynt, i alluogi dealltwriaeth, cwblhau a chyflwyno ceisiadau cynllun statws sefydledig. Byddwn yn gwneud datganiad ysgrifenedig am y gwasanaethau hyn maes o law.
Hoffwn gael datganiad ar y sefyllfa y mae rhieni sy'n ofalwyr rhan amser yn eu cael eu hunain ynddi. Cefais etholwr yn fy swyddfa yn gynharach heddiw sy'n cael ei orfodi i dalu treth ystafell wely, ac yn mynd i ddyled o ganlyniad i hynny. Mae'n gofalu am ei ferch ar y penwythnosau ac mae angen yr ystafell ychwanegol arno. Os edrychwch ar bob cyngor ledled Cymru, nid yw'r ystafelloedd hynny sydd eu hangen ar gyfer gofalu am blant pan fydd rhieni'n gweithio mewn partneriaeth yn cyfrif o ran y dreth ystafell wely. Felly, beth ellir ei wneud? Hoffwn gael datganiad ar yr hyn y gallech ei wneud, os gwelwch yn dda.
Diolch am godi hyn ac, wrth gwrs, fe fydd yr Aelod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru, dros gyfnod hir, wedi cyflwyno sylwadau helaeth i Lywodraeth y DU am ei threth ystafell wely a'r ffaith ei bod yn annheg â rhieni a theuluoedd sy'n eu cael eu hunain mewn amrywiaeth o amgylchiadau, megis yr un a ddisgrifiwch chi. Ond hefyd mae'n annheg ar rieni a phobl sy'n anabl sydd angen ystafell i ofalwyr aros ynddi o bryd i'w gilydd er enghraifft, neu sydd angen ystafell ychwanegol ar gyfer rhywfaint o'r cyfarpar, ac ati, sydd ei angen arnynt. Felly, rydym wedi bod yn glir ers blynyddoedd bod y dreth ystafell wely'n dreth annheg ar bobl anabl, a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU ar hyn.
Trefnydd, fe fyddwch yn ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi yng nghynhadledd eich plaid ddechrau mis Ebrill y bydd adran 21 ar droi pobl allan o'u cartrefi yn cael ei dileu. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad tebyg y bydd y rhain yn dod i ben, a'u bod yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn un o brif achosion digartrefedd ymhlith teuluoedd. Gwnaeth Llywodraeth y DU ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd am yr hyn sydd bellach wedi'i gynllunio drwy ymgynghori. Credaf fod angen datganiad llafar arnom i graffu ar y ffordd y caiff y diwygiad hwn ei fwrw ymlaen. Mae'n bwysig iawn edrych ar y ffordd y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal hefyd. Er fy mod yn credu bod hwn yn ddiwygiad dymunol, mae'n rhaid ei weithredu'n ofalus oherwydd bod llawer o ddiddordebau ar ddwy ochr y cwestiwn, ac mae sut y gall landlordiaid brynu eu heiddo i'w werthu neu ei drwsio'n sylweddol mewn rhai amgylchiadau yn rhywbeth y mae angen ymchwilio iddo'n ofalus. Credaf fod llawer ohonom wedi sylweddoli nad yw adran 21 bellach yn addas i'r diben, o gofio bod 20 y cant o bobl bellach yn cael llety preifat ar rent. Mae hwn yn fater pwysig iawn a chredaf y dylem gael datganiad llafar cyn gynted ag y bo modd.
Diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig o ran sut y byddwn yn ymdrin â mater adran 21 yn y dyfodol, ac mae David Melding yn iawn ei fod yn fater sensitif y mae'n rhaid ei drin yn ofalus iawn, oherwydd mae teimladau cryf ar ddwy ochr y ddadl. Gwn fod y Prif Weinidog eisoes wedi cael cyfarfod cynnar â chynrychiolwyr Cymdeithas Landlordiaid Preswyl er mwyn deall eu pryderon, ac, wrth gwrs, byddant yn ymgyngoreion pwysig wrth inni symud ymlaen. Yn amlwg, bydd hyn yn gofyn am newid deddfwriaethol, yn fy nhyb i, felly bydd y cyfan yn destun craffu llawn gan y Cynulliad. Bydd y Gweinidog yn cyflwyno'r datganiad priodol pan fydd modd iddi wneud hynny.
Yn ystod y mis diwethaf, mae pobl yn y Gogledd wedi cael eu rhwystro rhag mynd i Ysbyty Iarlles Caer fel cleifion allanol a gafodd eu hatgyfeirio, ac mae hynny'n cynnwys, gyda llaw, atgyfeiriadau achosion brys lle ceir amheuaeth o ganser. Fe ddywedoch chi'n gynharach ei bod yn debygol y byddai'r Gweinidog yn gwneud datganiad ysgrifenedig, credaf, yn eithaf buan. Roeddwn yn mynd i ofyn a gawn ni ddatganiad llafar er mwyn inni fel Aelodau allu gofyn rhai cwestiynau, oherwydd caf ar ddeall y byddai goblygiadau ehangach nid yn unig i gleifion yn y Gogledd, ond i'r gwasanaeth iechyd ledled Cymru. Deallaf fod y GIG yn Lloegr yn gofyn am gynnydd o 8 y cant mewn taliadau, ac mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ei gwneud yn gwbl glir, os yw hynny'n wir, y byddai'n rhaid i unrhyw gytundeb gael ei efelychu ar draws yr holl ddarparwyr yn Lloegr. Ar hyn o bryd mae cleifion o Gymru yn cael gwasanaethau mewn 50 o wahanol ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr. Gallwn ni i gyd wneud y symiau, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn pryderu am y mathau hynny o oblygiadau.
Ond, wrth gwrs, yn y cyfamser, mae'r anghytuno hwn yn achosi llawer iawn o ofid i gleifion, sy'n teimlo fel petaent yn cael eu defnyddio yn rhan o'r broses fargeinio yn yr anghydfod hwn. Mae llawer yn gofyn sut y gallai pethau fod wedi dod i hyn, oherwydd roeddem ni'n gwybod bod problemau mor gynnar â'r llynedd. Ond hefyd, wrth gwrs, pan oedd problem debyg gan Ysbyty Gobowen rai blynyddoedd yn ôl, yna roedd cytundeb i fynd i'r broses gymrodeddu. Hoffwn glywed gan y Gweinidog a yw'n teimlo y byddem, o bosib yn cyrraedd y math hwnnw o sefyllfa yn y dyfodol agos. Mae angen inni glywed yn iawn gan y Gweinidog am faint y mae'n disgwyl i'r sefyllfa hon barhau, os mynnwch chi, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i ddatrys y sefyllfa, oherwydd, yn y cyfamser, onid ydych chi'n cytuno â mi, o leiaf y dylai Ysbyty Iarlles Caer gymryd cleifion o Gymru a pheidio â chosbi'r cleifion hynny am fethiannau pobl eraill?
Diolch. Byddech chi wedi fy nghlywed i yn fy ateb i Darren Millar yn gynharach yn dweud y bydd cyfleoedd i holi'r Gweinidog iechyd am hyn yfory, oherwydd mae cwestiynau wedi'u cyflwyno sy'n berthnasol i'r mater penodol hwn. Ein dealltwriaeth ni yw mai penderfyniad unochrog yw hwn sydd wedi'i wneud gan Iarlles Caer ac nad yw darparwyr eraill yn Lloegr yn cynllunio camau tebyg. Rwy'n deall bod cyfarfod yn cael ei gynnal yr wythnos hon a bydd y Gweinidog, ar ôl yr amser hwnnw, yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, credaf fod llawer ohonom wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddoe wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, ond mae llawer ohonom hefyd yn dymuno gwybod beth fydd sylwedd camau gweithredu Llywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny. Rhaid imi ddweud, mae'r datganiad ysgrifenedig yr ydym wedi'i gael y bore yma gan y Gweinidog yn ymateb cwbl annigonol i'r datganiad a wnaed ddoe. Os yw hyn yn argyfwng—[Torri ar draws.] Croeso i'r Prif Weinidog ymateb i hyn, os yw'n dymuno. Os yw hyn yn argyfwng—[Torri ar draws.] Os yw hyn yn argyfwng, byddwn i—. Rwy'n hapus i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwn os yw mor awyddus i wneud hynny. Os yw hwn yn argyfwng—
Parhewch i holi'r Trefnydd.
Os mai argyfwng yw hwn, hoffwn ofyn am ddatganiad gan bob un o'r Gweinidogion sydd ger ein bron heddiw ynghylch beth fydd eu gweithredoedd, beth y mae eu hadran yn mynd i'w wneud i ymateb i hyn, a beth y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i sicrhau bod yr argyfwng y maent wedi'i ddatgan yn mynd i gael ymateb, yr hwn y mae'n ei haeddu ac sydd ei angen. Byddwn hefyd yn gwahodd y Gweinidogion i wneud datganiadau i ni yn gyntaf, i'r fan hon. Dylai datganiad o'r math hwn fod wedi cael ei wneud yn y Siambr hon yma er mwyn caniatáu i waith craffu gael ei wneud ar Weinidogion a chamau gweithredu Gweinidogion. Cyhoeddwyd cynllun ar gyfer Cymru carbon isel, dair wythnos yn ôl, ar ddiwedd mis Mawrth, mi gredaf, ac eto ni chafodd datganiad ei gyflwyno gerbron y Siambr hon ar gynnwys y ddogfen honno ac nid oes cyfle wedi'i roi i'r Aelodau graffu ar Weinidogion ynghylch hynny. Darllenwn o'r datganiad busnes heddiw mai'r bwriad yw peidio â gwneud datganiad ar hynny ychwaith. Felly, rwy'n gobeithio, Trefnydd, y byddwch yn gallu rhoi sicrwydd i mi ac i'r Aelodau eraill ar bob ochr i'r Siambr y cawn gyfres o ddatganiadau gan Weinidogion sydd yn bodloni'r datganiadau a wnaed hyd yma, y datganiadau a wnaed, ac sy'n dangos i ni fod Llywodraeth Cymru yn cymryd hyn o ddifrif ac nad datganiad i'r wasg yn unig yw hyn.
Wel, bydd yr Aelod wedi clywed y Prif Weinidog yn siarad yn angerddol y prynhawn yma am ein datganiad o argyfwng hinsawdd, a bydd wedi clywed yr ymrwymiad sydd gennym ni i fynd i'r afael â'r mater hwn ym mhob rhan o'r Llywodraeth. A byddai hefyd wedi fy nghlywed i, mewn datganiad busnes cyn y Pasg, yn gwneud y pwynt bod y cynllun cyflawni carbon isel wedi'i gyhoeddi a'n bod yn rhoi cyfle i'r Aelodau ystyried y cynllun hwnnw, ac rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad y caiff ei gyflwyno fel y bydd cyfle i'r Aelodau ei drafod ar lawr y Cynulliad.
Diolch i'r Trefnydd.