– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 30 Ebrill 2019.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Addysg am gefnogi dysgwyr dan anfantais ac agored i niwed, a galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ni ddylai gallu person ifanc i elwa ar addysg byth fod yn ddibynnol ar ei gefndir na'i amgylchiadau personol. Mae cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd. Sicrhawyd grant datblygu disgyblion yn rhan o gytundeb cyllideb rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru ar y pryd, ac mae wedi arwain at dros £475 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol, sydd wedi rhoi cefnogaeth uniongyrchol i dros hanner miliwn o bobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i gyrraedd eu potensial.
Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i ehangu, o ran y grwpiau o ddysgwyr y mae'n eu cefnogi erbyn hyn a maint y buddsoddiad. Mae'r cyllid yn canolbwyntio ar y meysydd lle y caiff yr effaith fwyaf, ac rydym yn gwybod mai yn y blynyddoedd cynnar y mae hynny, felly rydym wedi cynyddu'r elfen hon o'r cyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac mae'n cefnogi grwpiau y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys ein pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, a dyna pam yr ydym wedi cryfhau trefniadau'r grant ar gyfer plant sy'n derbyn gofal o'r mis hwn ymlaen.
Mae ysgolion yn parhau i ddweud wrthym pa mor amhrisiadwy yw cyllid y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod na all cyllid wedi'i dargedu fod yr unig ateb. A bod yn blwmp ac yn blaen, Dirprwy Lywydd, nid yw ein system bresennol bob amser wedi gwobrwyo'r ymddygiadau iawn, ac nid yw'r ffordd yr ydym yn mesur y bwlch mewn cyrhaeddiad mor syml ag y mae rhai yn ei honni. Mae nifer y disgyblion sy'n cofrestru ar gyfer arholiadau gwyddoniaeth yn enghraifft dda iawn. Mewn blynyddoedd blaenorol, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion PYDd yng Nghymru a gofrestrwyd ar gam ar gyfer gwyddoniaeth BTEC, yn hytrach na TGAU. Yn ogystal â chyfyngu ar ddyheadau, roedd hyn yn golygu bod eu perfformiad wedi'i guddio yn ein ffigurau o ran y bwlch cyrhaeddiad cenedlaethol. Rydym wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, sydd wedi arwain at gynnydd o 30 y cant, ers 2016, yn nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim sydd wedi cyflawni o leiaf un cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth.
Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi manylion ein trefniadau gwerthuso a gwella drafft. Roedd pwyslais blaenorol ar y ffin C/D yn cefnogi llawer, ond yn eithrio eraill. Yn hytrach, bydd ysgolion erbyn hyn yn cael eu gwerthuso yn ôl y gwahaniaeth y maen nhw yn ei wneud i gynnydd pob plentyn unigol. Bydd hyn yn golygu newid yn niwylliant y system gyfan a bydd yn hanfodol ar gyfer gwella cyrhaeddiad pawb.
Trwy adnoddau wedi'u targedu, mesurau atebolrwydd mwy deallus, a gosod disgwyliadau uchel i bawb, byddwn yn parhau i gefnogi pob dysgwr i gyrraedd y safonau uchaf. Fodd bynnag, rwy'n credu y gall y rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon gytuno, ar adegau o gyni, mai teuluoedd a disgyblion o'n cefndiroedd mwyaf difreintiedig sy'n ei chael hi'n anoddaf yn aml.
Gwn fod cost y diwrnod ysgol yn fater pwysig. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym ni wedi cymryd nifer o gamau arwyddocaol i gefnogi teuluoedd a'u plant. Y llynedd, gofynnais i'r mudiad Plant yng Nghymru lunio cyfres o ganllawiau i ysgolion yn trafod agweddau allweddol ar hyn. Bydd y canllawiau'n canolbwyntio ar gyfleoedd i newid diwylliant mewn ysgolion ynghylch anfantais a darparu strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â heriau penodol sy'n gysylltiedig â chost y diwrnod ysgol. Bydd y gyfres gyntaf o ganllawiau ar gael o fis Medi ymlaen a bydd rhagor yn cael eu datblygu ar ôl hynny.
Cyflwynwyd Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, sy'n cynorthwyo teuluoedd â chostau gwisgoedd ysgol, cit chwaraeon a chyfarpar, yn benodol i helpu'r teuluoedd sydd fwyaf ei angen. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom ni ddyblu'r cyllid sydd ar gael i £5 miliwn. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymestyn y cymhwysedd i ddechrau pob cyfnod allweddol. Bydd cyllid ar gael i blant sy'n derbyn gofal ym mhob blwyddyn ysgol, gan fanteisio i'r eithaf ar y cymorth y gallwn ei roi i rai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Rydym hefyd wedi cynyddu'r swm sydd ar gael i ddysgwyr cymwys ym mlwyddyn 7 o £125 i £200, gan gydnabod y costau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd. Yn fwy cyffredinol, rwy'n dymuno sicrhau ein bod yn gwneud pob dim posibl i wneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft newydd yr wyf yn gobeithio y byddant yn dod i rym ym mis Medi eleni.
Fel y mae pob un ohonom yn gwybod, i rai o'n pobl ifanc a'n plant, gall gwyliau haf yr ysgol fod yn gyfnod anodd. Weithiau gall plant sy'n cael brecwast a chinio ysgol am ddim fynd heb y prydau hyn a mynd yn llwglyd yn ystod gwyliau'r ysgol. Dyna pam yr ydym yn ariannu y rhaglen gyfoethogi yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae hon yn cyflawni deilliannau addysgol, cymdeithasol ac iechyd, yn ogystal â manteision maeth, ac rydym wedi cynyddu'r buddsoddiad hwn eto er mwyn i fwy fyth o blant gael budd o'r cynllun yr haf hwn.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi £2.3 miliwn arall yn ddiweddar i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim i ddysgwyr ym mhob ysgol. Rwy'n falch heddiw o gyhoeddi cyllid ychwanegol o £845,000 hefyd i gynnig yr un gwasanaeth am ddim i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach. Yn ogystal â chefnogi ein menywod ifanc sydd dan anfantais, bydd effaith y cyllid yn ehangach, gan ganolbwyntio ar urddas, cydraddoldeb a lles.
Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig hefyd fy mod i'n cyfeirio at y cymorth yr ydym yn ei gynnig i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig sy'n dymuno astudio yn y brifysgol. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos mai costau byw, nid ffioedd, yw'r rhwystr mwyaf i bobl rhag astudio mewn prifysgol. Mae'r Llywodraeth hon wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, gan arwain at y pecyn cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.
Mae gan israddedigion llawn amser sydd ag incwm aelwyd o hyd at £18,370 yr hawl i gael y grant uchaf posibl, gwerth £8,100 y flwyddyn. Mae data dros dro gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer 2018-19 yn dangos bod oddeutu traean o israddedigion llawn amser wedi cael y lefel uchaf hon o grant. Mae ein diwygiadau yn unigryw yn Ewrop, gan gynnig cydraddoldeb cefnogaeth i fyfyrwyr rhan-amser. Yn ogystal â chynnydd o 35 y cant yn nifer y myfyrwyr rhan-amser sy'n cael cymorth, mae'r ffigurau diweddaraf hefyd yn dangos bod hanner y rhai a gefnogwyd hefyd wedi cymhwyso ar gyfer uchafswm y grant.
Rwyf hefyd wedi siarad o'r blaen ynghylch y ffaith mai symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yw ein her nesaf o ran ehangu cyfranogiad. Byddwn yn mynd i'r afael â'r her hon trwy gyflwyno cymorth costau byw cyfwerth i fyfyrwyr gradd Feistr. Rwyf i'n falch iawn bod y ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 58 y cant yn nifer yr ôl-raddedigion a gefnogir, ac mae hwn yn faes lle byddwn yn parhau i wneud cynnydd gwirioneddol.
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi rhoi trosolwg byr heddiw o rai o'r camau a gymerwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes gen i unrhyw amheuaeth fod llawer mwy i'w wneud eto, ac rwy'n awyddus bob amser i glywed barn yr Aelodau, ond, fel Llywodraeth, rydym yn dal i fod yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pawb, ni waeth pwy ydyn nhw na ble maen nhw, yn cael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am y crynodeb yna o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Rydym yn cytuno â chi na ddylai eich gallu i gymryd rhan mewn addysg fod yn ddibynnol ar eich cefndir, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y byddai'n eithaf defnyddiol clywed gan Lywodraeth Cymru rywbryd yn fuan am y gwaith y mae'n ei wneud i wyrdroi effeithiau andwyol profiadau yn ystod plentyndod. Roedd yn sicr yn rhywbeth yr oedd y diweddar Carl Sargeant yn awyddus iawn i'w wneud, ac rwy'n credu y byddai unrhyw wybodaeth sydd gennym am hynny yn cyd-fynd yn dda iawn â'r datganiad yr ydych wedi ei wneud heddiw.
O ran y manylion, roeddwn i'n falch o weld cyfeiriad at y fframwaith gwerthuso a gwella drafft a'r gydnabyddiaeth, neu o leiaf yr awgrym, nad yw ein plant mwyaf disglair yn academaidd wedi cael y sylw y dylent fod wedi ei gael, o bosibl, o ran eu cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicr wedi codi pryderon ynghylch yr esgeulustod caniataol hwn ers peth amser, felly efallai y gallwch ddweud wrthym pryd yr ydych yn rhagweld y bydd y fframwaith drafft yn cael ei gwblhau a'i gyhoeddi ac a fydd pwyslais penodol ar blant mwy galluog a thalentog wedi'i nodi yn y fframwaith terfynol hwnnw—pa un a fydd yn cael ei ddewis fel rhywbeth i ganolbwyntio arno.
Diolch hefyd am ganiatáu i swyddogion ein briffio am y cwricwlwm newydd heddiw. Un o'r pethau y sylwais arno o hynny yw nad yw'r camau cynnydd—ac rwy'n cyfaddef, mai newydd weld y rhain ydym ni—yn rhagnodol, yn yr ystyr bod yn rhaid i athrawon neu ysgolion gyflawni deilliannau penodol ar adegau penodol. Ac nid yw'n glir i mi, felly, faint o gymhelliant y bydd ei angen ar ysgolion i sicrhau cynnydd, nac yn wir sut y cânt eu cymell i sicrhau cynnydd bob plentyn. Ac rwy'n credu y bydd y fframwaith gwerthuso a gwella yn cynnwys rhywbeth i'n helpu i ddeall hynny, o ran craffu.
Rwy'n falch o nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr arian ar gyfer gwisgoedd ysgol a chynhyrchion mislif, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi, fel finnau, yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y dreth tampon ar ôl inni adael yr UE.
Serch hynny, tybed a wnewch chi ymhelaethu rhywfaint ynghylch cyllido prydau bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol, oherwydd wrth reddf, wrth gwrs, rydym yn deall pam y byddai angen y cyfle hwnnw ar blant mewn angen gwirioneddol. Rydym yn gweld sut y mae'n gweithio yn ystod tymor yr ysgol, gan roi digon o faeth i blant i'w galluogi i ddysgu. Felly, ni fyddwch yn ein gweld ni yn herio bodolaeth y ddarpariaeth hon, ond os byddwch chi'n dechrau o'r safbwynt mai cyfrifoldeb y rhieni, yn amlwg, yw bwydo eu plant a bod y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn dipyn o erfyn di-awch—rwy'n credu ein bod ni wedi sôn am hyn o'r blaen yn y Siambr hon—sut byddwch chi'n monitro ac yn gwerthuso pwy sy'n defnyddio'r ddarpariaeth hon mewn gwirionedd? A fydd rhai teuluoedd sy'n gallu bod yn gyfrifol am eu plant yn defnyddio hyn yn ddiangen? Ond, yn bwysicach, a fydd rhai plant na fyddant yn elwa ar hyn? Oherwydd, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn ystod tymor yr ysgol, nid oes swyddog presenoldeb ysgol a allai fod yn ymweld â theuluoedd. Os yw hyn yn fwy na chyfle i blant gael eu bwydo, ac efallai'n gyfle i rieni ddod o hyd i waith hefyd—efallai y bydd ganddyn nhw amser i wneud hynny os yw eu plant mewn clybiau gwyliau a phethau eraill o'r fath—sut y mae hynny'n cael ei fonitro fel bod y ddarpariaeth yn cael ei defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol?
Yn drydydd, rwy'n meddwl fy mod i wedi gofyn i chi o'r blaen ynglŷn ag a oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch pa un a oedd darpariaeth hael y grant yn cuddio penderfyniadau a wnaed gan awdurdodau lleol i ddarparu symiau llai o gyllid craidd i ysgolion. Ac, yn ystod y trafodaethau ynghylch hyn yn y pwyllgor yn lled ddiweddar, mynegwyd pryderon gennych ynghylch y cyfraddau dirprwyo ar grantiau a ddarperir yn ganolog, ynghylch faint o arian a pha mor gyflym yr oedd yr arian hwnnw'n cyrraedd yr ysgolion. Felly, a oes gennych chi unrhyw syniad hyd yn hyn o ba mor gyflym y mae'r arian ar gyfer gwisgoedd ysgol, cynhyrchion mislif a'r rhaglen gyfoethogi yn ystod y gwyliau yn cyrraedd y rhai a ddylai fod yn ei wario? Unwaith eto, a oes rhywrai nad ydyn nhw'n cael hyn y dylen nhw fod yn ei gael?
Ac yna, yn olaf, eich sylwadau ynghylch myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig sy'n dymuno astudio yn y brifysgol. Nawr, bydd gofalwyr ifanc sy'n cael yr addysg dan oruchwyliaeth fwyaf yn colli eu lwfans gofalwr, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn achub ar y cyfle hwn i gynnig rhywfaint o gefnogaeth i bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig i lenwi'r bwlch cyllido hwnnw ar gyfer y bobl ifanc hynny y byddai colli'r lwfans gofalwr yn effeithio arnynt.
Rwy'n falch iawn o glywed y newyddion ynglŷn ag astudiaethau rhan-amser a'r rhai sy'n dewis astudio am gymhwyster gradd Feistr, a'r cymorth costau byw maen nhw'n ei gael. Ond a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw eich cynlluniau ar gyfer astudiaeth hydredol o'r myfyrwyr MA hynny? Oherwydd dau ganlyniad anfwriadol ymgyrch y Blaid Lafur i gael 50 y cant o bobl ifanc i fynd i'r Brifysgol oedd dibrisio'n anfwriadol bethau nad oeddent yn raddau prifysgol, cymwysterau gwahanol. Mae'n ymddangos i mi fod mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl â chymwysterau gradd Feistr erbyn hyn i'w helpu i'w gosod ar wahân i ymgeiswyr â gradd. Nawr, ni ddylid atal neb sy'n dymuno astudio cymhwyster gradd Feistr defnyddiol rhag gwneud hynny oherwydd rhesymau ariannol, rydym yn cytuno'n llwyr yn hynny o beth, ond sut ydych chi'n annog myfyrwyr i ailfeddwl pa un ai gradd Feistr yw'r cam nesaf gorau ar eu cyfer, neu a allai cymhwyster arall neu lwybr hyfforddi gwahanol fod yn fwy gwerthfawr neu a fyddai'n fwy addas ar eu cyfer? Y rheswm rwy'n gofyn hyn yw, mewn sylwadau cynharach ynghylch y BTEC, fe wnaethoch chi gadarnhau i bob pwrpas nad oedd unrhyw fodd y byddai'n gyfwerth â chymhwyster TGAU ond y byddai wedi bod â pharch cydradd pe byddai wedi profi rhagoriaeth alwedigaethol yn drwyadl—ac rwy'n defnyddio 'galwedigaethol' yn ei ystyr ehangaf yn y fan yma. Os ydych yn cefnogi'r myfyrwyr MA yn y modd hwn, pa gynlluniau sydd gennych i gynnig cymorth tebyg i bobl sy'n dilyn cyrsiau cyfwerth ag MA sy'n alwedigaethol neu'n anacademaidd, os caf ei roi felly, os yw'r cymwysterau hynny'n fwy addas ar eu cyfer? Rwy'n credu ein bod i gyd o ddifrif ynghylch gweld parch cydradd i wahanol fathau o fyfyrwyr a'r mathau o ffyrdd y maen nhw'n dysgu. Er fy mod i wrth gwrs yn cymeradwyo'r hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'r MA, nid wyf eisiau i hynny arwain at eithrio cymwysterau cyfwerth eraill ar gyfer gwahanol fathau o astudio, fel nad yw hyn yn dod yn rheswm arall eto dros anfon pobl ar lwybr nad yw efallai y llwybr gorau iddyn nhw. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y sylwadau a'r cwestiynau y mae hi wedi eu codi y prynhawn yma? Mae gan y Llywodraeth ddull gweithredu trawslywodraethol a dull gweithredu ar draws portffolios ar gyfer materion sy'n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym ni'n ymwybodol iawn o ganlyniadau profiadau o'r fath ar allu plentyn i ddysgu. Rwyf i a'm cydweithiwr, Julie Morgan, yn cefnogi nifer o fentrau, megis yr Hyb Profiadau Andwyol yn ystod Plentyndod, a gynlluniwyd i ddatblygu arferion gorau ac ymgysylltu ag addysgwyr er mwyn iddyn nhw eu hunain ddeall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud mewn ysgolion meithrin ac ystafelloedd dosbarth i oresgyn yr heriau sy'n wynebu plant sydd wedi dioddef profiad o'r fath.
Ddoe ddiwethaf, roeddwn i gyda Suzy yn Ysgol Gynradd Clase yn ei rhanbarth hi, yn dilyn gwahoddiad ganddi, i weld sut maen nhw'n defnyddio'r grant datblygu disgyblion i ddarparu amgylchedd sy'n meithrin ac yn rhoi cymorth penodol i'r plant hynny y mae ei angen arnyn nhw. Mae'n ddiddorol iawn gweld datblygiad y gwasanaeth hwnnw. Ar y cychwyn, roedd ar gael i'r plant ieuengaf un, ond mae'r athrawon wedi ymateb i anghenion eu poblogaeth gyfan ac erbyn hyn caiff plant ym mlynyddoedd 4, 5 a 6 ddod i mewn ar amser egwyl ac amser cinio, eistedd gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig a siarad am unrhyw beth a allai fod yn eu poeni gartref neu y tu allan i'r ysgol sydd wedi effeithio ar eu hastudiaethau. Byddwn yn parhau i fonitro'r gallu i ymateb yn gadarnhaol i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, o gofio, fel y dywedais, yr hyn a wyddom am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar allu plentyn i ddysgu.
Holodd Suzy Davies ynghylch materion yn ymwneud ag atebolrwydd. Rydym yn symud at system atebolrwydd sy'n fwy seiliedig ar ddeallusrwydd, sydd wirioneddol yn ysgogi egwyddorion tryloywder. Mae hyn yn arbennig o bwysig i mi o ran cyflawniad plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant a allai fod â phrofiad o dderbyn gofal. Yr hyn a fu gennym yn y gorffennol yw system, mewn gwirionedd, sydd wedi cuddio gwir lefelau perfformiad y plant hynny ac nid yw hyn wedi ei gwneud yn hawdd i ni nodi, ac i ysgolion nodi, sut maen nhw'n perfformio o'u cymharu ag ysgolion tebyg. Mae'n peri rhwystredigaeth i mi, er enghraifft, bod ysgolion yn yr un ardal awdurdod lleol, yn yr un ddinas, â'r un lefel neu gyfran o blant sy'n cael prydau ysgol am ddim a bod rhai o'r ysgolion hynny'n gwneud yn eithriadol o dda ar gyfer y plant hynny a bod eraill ar ei hôl hi. Mae angen data llawer mwy deallus arnom ni i allu llunio'r cymariaethau hynny er mwyn inni allu meincnodi, ond hefyd i gydnabod, mewn gwirionedd, bod pob un plentyn yn y garfan yn bwysig. A dim ond oherwydd bod rhywun wedi llwyddo i gael gradd C, os oedd gan y person hwnnw y potensial i gael gradd A, nid yw hynny'n ddigon da. Weithiau, i rai o'n plant, yn enwedig plant o gefndir mwy difreintiedig, rydym wedi gosod terfyn ar eu huchelgeisiau. Yn gynharach, fe wnaethom ni sôn am ddeddf gofal gwrthdro a'r canlyniadau i bobl o gefndir economaidd-gymdeithasol tlotach a'u gallu i ddefnyddio gwasanaethau. Os ydym am fod yn onest, weithiau rydym ni wedi rhoi'r terfyn ar yr uchelgais sydd gennym ar gyfer ein plant o'n cefndiroedd tlotach, ac mae'n rhaid i ni ddatgelu hynny a herio ein hunain a'r system o ddifrif i wneud yn well dros y plant hynny.
O ran atebolrwydd, mae cam cyntaf atebolrwydd ar ysgwyddau'r gweithwyr proffesiynol eu hunain. Ni all y system addysg yng Nghymru ddim ond bod cystal â'r bobl sy'n sefyll o flaen ein plant ac yn gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc o ddydd i ddydd. Eu hatebolrwydd proffesiynol nhw a'u parodrwydd i weithio yn unol â'r safonau addysgu yr ydym wedi'u datblygu yw cam cyntaf ein cyfundrefn atebolrwydd. Wrth gwrs, ar ôl hynny, mae'r mater o lywodraethu a llywodraethwyr ysgol, ein gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol, ac, wrth gwrs, Estyn, a byddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi cyhoeddi manylion am sut yr ydym yn disgwyl, mewn gwirionedd, i Estyn fod mewn ysgolion yn amlach o ganlyniad i'n taith diwygio addysgol.
O ran SHEP, y rhaglen haf, mae'n rhaid imi ddweud, Suzy, eich bod yn llygad eich lle, cyfrifoldeb rhieni yn bennaf yw bwydo eu plant, ond ni wn i ble yr ydych wedi bod os nad ydych chi wedi cwrdd â theuluoedd yn eich rhanbarth chi nad oes ganddyn nhw, er gwaethaf eu hymdrechion gorau a gweithio nifer o swyddi weithiau, yr arian sydd ei angen arnyn nhw i dalu eu biliau i gyd. Rwyf i'n cwrdd â mamau sy'n anwybyddu eu hangen eu hunain, yn mynd heb fwyd eu hunain, er mwyn iddyn nhw allu sicrhau bod eu plant yn bwyta. Teuluoedd—. Dim ond yn ystod gwyliau'r Pasg yr ydym wedi gweld ystadegau Ymddiriedolaeth Trussell: mae mwy o bobl yn fy etholaeth i yn dibynnu ar fanciau bwyd nag erioed o'r blaen ac nid yw hynny oherwydd eu bod yn ddiofal mewn unrhyw ffordd; y rheswm yw mai nhw yw dioddefwyr diniwed system fudd-daliadau nad yw'n gweithio a'u hanallu i ddod o hyd i waith cyflogedig sy'n caniatáu iddyn nhw dalu eu rhent, eu biliau, a'r holl bethau eraill maen nhw'n dymuno eu gwneud ar gyfer eu plant. Ac, o dan yr amgylchiadau hynny, gallwn naill ai eistedd yn ôl a gwneud dim, neu fe allwn ni, fel Llywodraeth, gymryd camau i gynorthwyo'r teuluoedd hyn. Nawr, yn 2016, pan ddatblygwyd y rhaglen SHEP gyntaf, cymerodd pum awdurdod lleol ran. Yn 2017, roedd hynny wedi cynyddu i 12 awdurdod lleol. Yn ystod yr haf eleni, bydd 21 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen SHEP gan ein bod wedi gallu cynyddu'r arian yr ydym wedi gallu gweithio gydag ef ar y cyd â CLlLC i gyflawni'r rhaglen honno.
O ran gwerthuso, wrth gwrs, mae hynny'n bwysig iawn. Deilliodd y rhaglen o waith a wnaed yn ardal Caerdydd. Gwerthuswyd y rhaglen honno, a dyna'r hyn sydd wedi rhoi'r hyder i ni wybod ein bod yn gallu cyflwyno'r rhaglen hon mewn mwy o ardaloedd. Ond rhan o'r gwaith yw rhaglen werthuso, a byddwn yn parhau i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o newyn yn ystod y gwyliau. Gwn, unwaith eto, fod Julie Morgan a minnau'n edrych i weld a allwn ymestyn y rhaglen hon y tu hwnt i ysgolion ac yn edrych ar leoliadau eraill lle y gallwn fynd i'r afael â'r ffaith, yn ystod y tymor ysgol, y bydd llawer o deuluoedd, llawer o blant, yn cael eu brecwast a'u cinio, ac yn ystod y cyfnod gwyliau o chwe wythnos mae straen ariannol sylweddol ar deuluoedd i allu talu costau ychwanegol y bwydydd hynny. Diawch, rydych chi'n gwybod hynny, mae gennych chi fechgyn gartref. Rwyf i newydd fod trwy wyliau'r Pasg ac mae fy nhair merch i wedi bwyta'r cyfan sydd yn y tŷ. Mae'n ymddangos fy mod i wedi treulio holl wyliau'r Pasg yn yr archfarchnad yn prynu mwy o fwyd oherwydd bob tro yr wyf yn mynd adref maen nhw wedi bwyta—. Rydych chi'n gwybod—mae pob un ohonom ni sydd â phlant yn gwybod—am gost ychwanegol bwydo plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae'n sylweddol ac ni allwn osgoi hynny, ac rwy'n falch ein bod yn gallu cyflwyno SHEP mewn 21 o awdurdodau lleol eleni, diolch i'n gwaith partneriaeth â chydweithwyr mewn llywodraeth leol.
Grant Datblygu Disgyblion: clywsoch chi gan Mrs Hope ddoe yn Ysgol Gynradd Clase am bwysigrwydd y rhaglen grant a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i ysgolion. Caiff yr arian hwnnw ei drosglwyddo'n uniongyrchol i ysgolion ac nid oes unrhyw awgrym o gwbl bod unrhyw un arall yn dal gafael ar arian y grant. O ran y ffrydiau arian amrywiol eraill y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, caiff pob un o'r cynlluniau hynny ei ariannu mewn ffordd ychydig yn wahanol ond nid wyf i, ar hyn o bryd, yn bryderus ac nid oes gen i unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad yw'r arian ar gyfer SHEP na'r arian ar gyfer tlodi mislif yn cyrraedd y lle y mae ei angen.
Diolch am ryddhau'r datganiad hwn heddiw ac am y rhybudd ymlaen llaw. O'r hyn yr wyf yn ei weld o'r datganiad hwn, mae'r prif bwynt newydd yn rhywbeth nad yw'n uchel iawn yn y datganiad, sef cymorth i dalu am gynhyrchion mislif rhad ac am ddim mewn colegau addysg bellach, sef rhywbeth yr ydym wedi'i drafod eisoes, ond rwy'n sicr na chyhoeddwyd hynny pan y'i cyhoeddwyd gennych ar gyfer ysgolion, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad newydd hwn yn llwyr. Os oes unrhyw beth newydd yno ar wahân i hyn, rwy'n ymddiheuro os wyf i wedi ei fethu, ond rwy'n credu mai dyna a welais i fel y pwyslais newydd yn y fan yma.
Ac mae'n bwysig o ran sicrhau nad yw statws ariannol yn rhwystr i gynhyrchion sylfaenol ac angenrheidiol, ac nad yw hyn yn rhywbeth sy'n ddewisol i fenywod. Byddwn i'n gobeithio y caiff ei gefnogi'n gyffredinol, er fy mod i'n gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, nad yw rhai dynion yn ei gefnogi, a hoffwn i gael esboniad gan y dynion hynny ynglŷn â pha mor anodd yw'r adeg o'r mis o ran fforddiadwyedd pan nad oes ganddyn nhw unrhyw brofiad o hynny o gwbl. Felly, rwy'n diystyru rhywfaint ar hynny. Gall cost cynhyrchion o'r fath fod yn uchel iawn, ac nid ydyn nhw'n rhywbeth nad oes ei angen yn barhaus ar fenywod. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r ymgyrchwyr a ddechreuodd y ddadl hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn benodol y cynghorydd dros Plaid Cymru, Elyn Stephens o'r Rhondda, yr oedd ei hymgyrch yng nghyngor Rhondda Cynon Taf yn bwysig iawn o ran cyfrannu at y drafodaeth ehangach hon a dyna pam, yn fy marn i, yr ydym ni yma heddiw.
O ran gweddill y datganiad, mae yn darllen rhywfaint fel darllediad etholiad ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad. Efallai fod modd cyfiawnhau hynny—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn credu hynny. Un agwedd o ran cefnogi myfyrwyr coleg yw mynediad. Mae'r pellter yn aml yn bell ac nid oes unrhyw gyfrifoldeb statudol i ddarparu cludiant y tu hwnt i'r ail flwyddyn academaidd ar ôl 16. Nid oes unrhyw ystyriaeth i oedolion sy'n dysgu ychwaith, ac wrth i golegau chweched dosbarth fod dan fygythiad cynyddol a chynghorau'n uno ysgolion, bydd y gost o ddarparu cludiant yn cynyddu. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael â'r Gweinidog yr economi i ddweud wrthym pa drefniadau yr ydych chi wedi bod yn eu rhoi ar waith o ran y Papur Gwyn fel y gallwn dargedu mwy o egni i gynorthwyo myfyrwyr i gael mynediad at gludiant.
Gan ddilyn ymlaen o gwestiynau gan fy nghyd-Aelod Leanne Wood yn gynharach ynghylch y lwfans cynhaliaeth addysg, mae'r rhain hefyd yn faterion a godwyd gyda mi trwy ColegauCymru, o ran y ffaith nad yw wedi cynyddu ers 2004. Roedd deg punt ar hugain yr wythnos yn mynd ymhellach o lawer bryd hynny nag y mae'n ei wneud heddiw, a chodwyd y pryder hwn gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr hefyd, a ddylid ehangu ar hynny fel y gallwn sicrhau y gallan nhw ddefnyddio'r lwfans hwnnw i'r eithaf. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych chi yn y fan yma heddiw.
Ac o ran amddifadedd a dysgwyr sy'n agored i niwed, nid wyf i o'r farn bod digon o bwyslais ar addysg i oedolion. Rwyf i wedi clywed gan nifer sylweddol o ddarparwyr gwahanol ynghylch ailhyfforddi yn ddiweddarach mewn bywyd bod yna ddirywiad mewn llwybrau rhan-amser, sy'n golygu bod y dewisiadau i'r rhai hynny y mae angen iddyn nhw weithio wedi bod yn gyfyngedig. Mae'n gorfodi rhai pobl i benderfynu a fyddan nhw'n ailhyfforddi neu'n mynd i gyflogaeth. Ac os nad yw'r cyflogwyr yn eu cefnogi drwy'r broses honno, yna bydd yn rhaid iddyn nhw benderfynu peidio â manteisio ar yr hyfforddiant sgiliau ychwanegol hwnnw. Felly, tybed a wnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am hynny.
Hoffwn i gloi trwy ddweud y byddwn i'n cytuno â Suzy Davies ynglŷn â'r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr ifanc. Os ydym ni am siarad am bobl sydd dan anfantais, mae angen i ni siarad am ofalwyr ifanc. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog blaenorol yn hyn o beth y gwnes i gyfarfod ag ef yn dilyn dadl a arweiniais, a gwn fod gwaith wedi'i wneud, ond rwy'n dal i feddwl bod angen gwneud llawer mwy i nodi gofalwyr ifanc yn yr ystafell ddosbarth yn un peth, ond hefyd i'w cefnogi drwy'r broses honno fel nad ydyn nhw'n teimlo erbyn iddyn nhw ddod i ddiwedd eu gyrfa ysgol eu bod dan anfantais o ran y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am groesawu'r adnoddau ychwanegol i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael gennym am ddim yn ein colegau addysg bellach? Mae'r Aelod wedyn yn mynd ymlaen i wneud y pwynt ynglŷn â natur anstatudol teithio ôl-16, ac mae'r Aelod yn llygad ei lle yn hynny o beth, wrth gwrs. Rwy'n cofio'n glir iawn bod yn aelod o'r pwyllgor ar y pryd yn ymdrin â'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, y gwrthwynebiad cryf gan y Gweinidog bryd hynny Ieuan Wyn Jones i natur statudol teithio ôl-16—ac fe'i gwrthododd yn llwyr, rwy'n credu, ar y pryd—ac rwy'n credu ein bod ar y pwyllgor gyda'n gilydd, a byddwch chithau'n cofio. Wrth gwrs, yr hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud yw ceisio cynyddu faint o bobl ifanc sy'n gallu manteisio ar docynnau rhatach ar fysiau, nid yn unig y rhai sy'n astudio, ond pobl ifanc y mae angen cludiant cyhoeddus arnyn nhw efallai i gyrraedd eu gwaith neu i gyrraedd eu prentisiaethau.
O ran y mater astudio rhan-amser, nid wyf i'n siŵr pa un a yw'r Aelod wedi methu'r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd o 35 y cant yn nifer y myfyrwyr yr ydym yn eu cefnogi ar lefel gradd yn rhan-amser, ond, wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud. Mae'n ymwneud â'r cwestiynau a gododd Suzy Davies ynglŷn â gwahanol ddulliau o astudio. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon hefyd yn ariannu prentisiaethau gradd, a all fod y llwybr priodol i fyfyriwr allu astudio ar lefel uwch wrth weithio, ac rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad yn fuan ynglŷn â chyfrifon dysgu unigol a fydd yn caniatáu i bobl sydd mewn cyflogaeth ar hyn o bryd, sy'n dymuno astudio'n rhan-amser i wella eu rhagolygon gwaith, neu efallai i symud i yrfa wahanol, ond bod angen cymwysterau newydd arnyn nhw i wneud hynny, a'r bwriad fydd treialu cynllun newydd ac arloesol o gyfrifon dysgu unigol, yn rhan o fy nghytundeb â'r Prif Weinidog i sicrhau bod Cymru'n datblygu'n genedl ail gyfle a bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i ddysgu gydol oes.
Yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged bersonol i Kirsty Williams am ei dyfalbarhad wrth ymgyrchu dros y grant datblygu disgyblion, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr oedd yn ei wneud yn y Cynulliad diwethaf yn ogystal ag yn y Cynulliad hwn. Rwy'n credu ei fod yn offeryn ar gyfer sicrhau ein bod yn ceisio cynyddu'r cyfleoedd i fyfyrwyr o gefndiroedd tlotach i'r un lefel â'u cyfoedion. Felly, yn hytrach na gwneud pwynt gwleidyddol rhad, rwy'n credu y dylem ni gydnabod y llwyddiannau.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai yn y blynyddoedd cynnar y bydd yr effaith fwyaf, ac roeddwn i'n meddwl tybed faint o sylw yr ydych chi'n ei roi i ddeilliannau'r plant hynny sy'n elwa ar y rhaglen Dechrau'n Deg o ran eu parodrwydd i ddechrau yn yr ysgol feithrin—nifer y geiriau maen nhw'n eu siarad a'u sgiliau echddygol ac ati. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, os yw hynny'n gweithio'n dda, bod dadl dros sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i bob plentyn nad yw'n cael y buddion hynny gan rieni sy'n gallu prynu unrhyw beth maen nhw'n ei ddymuno.
Roeddwn i'n arbennig o hapus ddoe i ddysgu am y clwb garddio yn Ysgol Gynradd Springwood yn fy etholaeth i, sydd yn Llanedeyrn, ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 1 a 2. Oherwydd, i'r rhai hynny nad oes ganddyn nhw ardd neu fynediad at ardd eu hunain, mae mantais enfawr i blant o'r ddarpariaeth ar ôl ysgol, sef y rhaglen gyfoethogi y mae'n wirioneddol bwysig i bob ysgol ei chynnig. Gan na fydd y lefelu hwnnw yn bodoli os nad oes gennym ni glybiau cerddoriaeth, neu glybiau garddio neu gyfleoedd chwaraeon i'r rhai ifanc iawn sy'n methu â mynd â'u hunain i'r pethau hynny.
Mae'r hawl i nofio am ddim y mae Llywodraeth Cymru yn talu amdano, mae'n ymddangos i mi, yn un o'r cyfrinachau gorau, mae arnaf ofn, y mae ein canolfannau hamdden yn eu cadw, yn sicr yng Nghaerdydd. Mae'n hynod anodd cael gwybod pryd y mae'r pethau hyn yn digwydd, ac nid yw'r bobl y mae angen y cyfle nofio am ddim arnyn nhw mewn gwirionedd yn cael yr wybodaeth briodol am hynny, felly rwy'n credu bod rhwystr gwirioneddol yn hynny o beth. Rwy'n sylweddoli efallai nad yw hyn yn eich portffolio chi, ond mae'n rhywbeth y mae angen i un o'r pwyllgorau gynnal rhyw fath o werthusiad arno.
Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr yr ymgynghoriad yr ydych chi wedi ei gynnal ar wisgoedd ysgol, oherwydd nid ydym eisiau i wisgoedd ysgol fod yn eitemau drud; mae angen iddyn nhw beidio â threulio'n hawdd, rhoi gwerth am arian, ac wedyn mae angen i ni annog ysgolion i lunio rhaglen gyfnewid er mwyn gallu eu trosglwyddo, gan fod rhai plant yn tyfu trwy'u dillad mor gyflym fel eu bod yn rhy fychan er eu bod bron yn newydd. Felly, yn rhan o'n pethau argyfwng hinsawdd, mae hwn yn fater pwysig iawn—i sicrhau bod eitemau nad ydyn nhw wedi eu gwisgo rhyw lawer yn cael eu hailddefnyddio yn y man cywir.
O ran cynhyrchion mislif, faint o ganllawiau sy'n cael eu rhoi i sefydliadau i feddwl am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio? Oherwydd, nid yw'r mooncup yn addas ar gyfer plant pan fyddan nhw'n dechrau cael mislif, ond mewn colegau addysg bellach, byddai'n hynod bwysig eu bod yn gwybod eu bod ganddyn nhw am 15 mlynedd. Felly, mae hynny'n ymddangos i mi yn llawer pwysicach na rhywbeth sy'n gweithio dros dro.
Rwy'n gobeithio y bydd y fframwaith gwerthuso a gwella diwygiedig, sy'n gosod pwys ar y gwerth a ychwanegir gan ysgolion ar gyfer pob disgybl, yn rhoi terfyn ar yr ysgolion hynny—ac maen nhw yn bodoli, yn fy etholaeth i—lle caiff disgyblion eu heithrio oherwydd bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw neu oherwydd na fydd eu cyrhaeddiad yn agos i'r brig, neu na fyddan nhw'n gyflawnwyr uchel. Mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n gwbl hanfodol bod pob ysgol yn gwerthfawrogi pob un plentyn ac yn sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd gorau yn unol â'u gallu.
Yn olaf, rwy'n credu bod y cynnydd o 35 y cant o ran myfyrwyr rhan-amser, y mae eu hanner yn gymwys ar gyfer yr uchafswm, yn gyflawniad aruthrol a hoffwn eich llongyfarch ar hynny.
Diolch, Jenny, am eich sylwadau. O ran nofio am ddim, nid yw hynny'n fater i mi; mater i'r Gweinidog ydyw. Mae yn ei sedd ac mae wedi clywed eich geiriau, ac rwy'n siŵr y bydd eisiau rhoi adborth i chi ynghylch beth arall y gallwn ni ei wneud i hysbysebu bod y cyfle gwych hwnnw ar gael. Nid oes llawer o fannau lle gallwch chi fynd gyda'ch plant a gwneud rhywbeth am ddim sy'n arbennig o fuddiol i'w hiechyd a'u lles, a bydd wedi clywed y sylwadau hynny.
O ran cynhyrchion mislif, un o amodau'r grant, mewn gwirionedd, yw bod canran o'r cynhyrchion hynny'n gynhyrchion cynaliadwy. Felly, bydd cynhyrchion fel Mooncups ar gael, ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, i'n colegau addysg bellach ac efallai i ferched hŷn, mae rhoi'r ddarpariaeth honno ar waith yn arbennig o bwysig, felly gallaf eich sicrhau bod hynny wedi'i gynnwys yn amodau'r grant.
O ran gwisg ysgol, rydych yn iawn. Rwyf wedi clywed rhai pobl yn y Siambr hon, ac, yn wir, rwyf wedi clywed pobl y tu allan i'r Siambr hon yn gwneud hwyl am ben y mater o fforddio gwisg ysgol, ac wedi ceisio diystyru hwn fel mater dibwys. Wel, gallaf eich sicrhau chi ei bod yn broblem. Mae'n broblem i'r bobl ifanc hynny ac mae'n broblem i'w teuluoedd. Rydym wedi cael ymateb ysgubol i'r ymgynghoriad—tua 900 o ymatebion i'n hymgynghoriad ar wneud canllawiau ar fforddiadwyedd yn statudol. Rydym yn y broses o adolygu pob un o'r ymatebion hynny i'r ymgynghoriad, a gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i gael y canllawiau hynny ar sail statudol erbyn mis Medi.
Rydych yn iawn—mae angen inni wneud y cysylltiadau rhwng addysg orfodol ond hefyd y cymorth sydd ar gael i deuluoedd o'r adeg y caiff eu plant eu geni, ac rydym yn parhau i weithio ar draws portffolios, fel y dywedais, i weld lle y gallwn manteisio ar lwyddiant Dechrau'n Deg yn wirioneddol a sicrhau bod hynny wedyn yn cael ei fwydo i addysg orfodol fwy ffurfiol.
O ran myfyrwyr rhan-amser, rydym wedi gweld dros nifer o flynyddoedd, am resymau amlwg iawn, ddirywiad enfawr yn nifer y bobl hynny sy'n gallu astudio ar gyfer gradd yn rhan-amser. Mae'r niferoedd hynny'n parhau i blymio dros y ffin yn Lloegr. Mae'r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd o 35 y cant yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio'n rhan amser ar gyfer gradd a'n bod yn gallu rhoi cymorth ariannol iddyn nhw i wneud hynny yn dangos y bu angen heb ei ddiwallu yng Nghymru. Rydym yn diwallu'r angen hwnnw, ac mae gn y bobl hynny y cyfle i ddatblygu eu potensial yn llawn. Fel chi, rwy'n hynod o falch ein bod yn gwneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.